Search Legislation

Rheoliadau Taliadau Colli Cartref (Symiau Rhagnodedig) (Cymru) 2020

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2020 Rhif 340 (Cy. 77)

Caffael Tir, Cymru

Digolledu, Cymru

Rheoliadau Taliadau Colli Cartref (Symiau Rhagnodedig) (Cymru) 2020

Gwnaed

23 Mawrth 2020

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

25 Mawrth 2020

Yn dod i rym

27 Ebrill 2020

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 30(5) o Ddeddf Digollediad Tir 1973(1) ac sy’n arferadwy bellach ganddynt hwy o ran Cymru(2).

Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Taliadau Colli Cartref (Symiau Rhagnodedig) (Cymru) 2020 a deuant i rym ar 27 Ebrill 2020.

(2Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

(3Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Digollediad Tir 1973;

mae i “taliad colli cartref” yr ystyr a roddir i “home loss payment” gan adran 29(1) o’r Ddeddf.

Diwygio symiau rhagnodedig y taliad colli cartref

2.  Pan fo dyddiad y dadleoli ar 27 Ebrill 2020 neu ar ôl hynny—

(a)£62,000 yw uchafswm rhagnodedig y taliad colli cartref at ddibenion adran 30(1) o’r Ddeddf,

(b)£6,200 yw isafswm rhagnodedig y taliad colli cartref at ddibenion adran 30(1) o’r Ddeddf, ac

(c)£6,200 yw swm rhagnodedig y taliad colli cartref at ddibenion adran 30(2) o’r Ddeddf.

Dirymu ac arbed

3.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae Rheoliadau Taliadau Colli Cartref (Symiau Rhagnodedig) (Cymru) 2018(3) wedi eu dirymu.

(2Bydd y Rheoliadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) yn parhau i gael effaith mewn perthynas â dadleoli sy’n digwydd cyn 27 Ebrill 2020.

Julie James

Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru

23 Mawrth 2020

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn, sy’n gymwys o ran Cymru, yn pennu uchafsymiau ac isafsymiau’r taliadau colli cartref sy’n daladwy o dan Ddeddf Digollediad Tir 1973 (“y Ddeddf”) i’r rhai sy’n meddiannu annedd sydd â buddiant perchennog. Mae’r Rheoliadau hyn yn cynyddu hefyd swm y taliad colli cartref sy’n daladwy o dan y Ddeddf mewn unrhyw achos arall.

Mae hawl gan berson a ddadleolir o annedd drwy brynu gorfodol neu o dan amgylchiadau eraill a bennir yn adran 29 o’r Ddeddf i gael taliad colli cartref.

Mewn achosion pan fo gan berson sy’n meddiannu annedd ar ddyddiad y dadleoli fuddiant perchennog, mae adran 30(1) o’r Ddeddf yn darparu bod swm y taliad colli cartref yn cael ei gyfrifo fel canran o werth y buddiant hwnnw ar y farchnad, a hynny’n ddarostyngedig i uchafswm ac isafswm.

Mae adran 30(2) o’r Ddeddf yn pennu swm y taliad colli cartref sy’n ddyledus mewn unrhyw achos arall.

Mae rheoliad 2(a) o’r Rheoliadau hyn yn cynyddu’r uchafswm sy’n daladwy o dan adran 30(1) o’r Ddeddf o £59,000 i £62,000 ac mae rheoliad 2(b) yn cynyddu’r isafswm o £5,900 i £6,200.

Mae rheoliad 2(c) yn cynyddu’r taliad colli cartref sy’n ddyledus o dan adran 30(2) o’r Ddeddf o £5,900 i £6,200.

Mae’r symiau diwygiedig yn gymwys pan fo’r dadleoli’n digwydd ar 27 Ebrill 2020 neu ar ôl hynny.

Mae rheoliad 3 yn dirymu, gydag arbedion, Reoliadau Taliadau Colli Cartref (Symiau Rhagnodedig) (Cymru) 2018.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

(1)

1973 p. 26; amnewidiwyd adran 30 gan adran 68(3) o Ddeddf Cynllunio a Digolledu 1991 (p. 34) gydag effaith o 25 Medi 1991 (gweler O.S. 1991/2067, erthygl 3).

(2)

Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 30, i’r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), ac Atodlen 1 iddo. Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 30 i Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources