Search Legislation

Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol (Cymru) 2020

Statws

This is the original version (as it was originally made).

RHAN 1Rhagarweiniol

Enwi a chychwyn

1.  Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol (Cymru) 2020 a daw i rym ar 1 Ebrill 2020.

Dehongli

2.—(1Yn y Gorchymyn hwn—

  • ystyr “absenoldeb salwch” (“sickness absence”) yw absenoldeb gweithiwr amaethyddol o’r gwaith oherwydd analluedd yn sgil—

    (a)

    unrhyw salwch a ddioddefir gan y gweithiwr amaethyddol;

    (b)

    salwch neu analluedd a achosir am fod y gweithiwr amaethyddol yn feichiog neu a ddioddefir o ganlyniad i eni plentyn;

    (c)

    anaf sy’n digwydd i’r gweithiwr amaethyddol yn ei le gwaith;

    (d)

    anaf sy’n digwydd i’r gweithiwr amaethyddol wrth deithio yn ôl ac ymlaen i’w le gwaith;

    (e)

    amser a dreulir gan y gweithiwr amaethyddol yn ymadfer ar ôl llawdriniaeth a achoswyd gan salwch; neu

    (f)

    amser a dreulir gan y gweithiwr amaethyddol yn ymadfer ar ôl llawdriniaeth o ganlyniad i anaf a ddioddefwyd yn ei le gwaith neu anaf a ddioddefwyd wrth deithio yn ôl ac ymlaen i’w le gwaith,

ond nid yw’n cynnwys unrhyw anaf a ddioddefir gan y gweithiwr amaethyddol pan na fo yn ei le gwaith nac unrhyw anaf a ddioddefir pan na fo’r gweithiwr amaethyddol yn teithio yn ôl ac ymlaen i’w le gwaith;

  • mae “amaethyddiaeth” (“agriculture”) yn cynnwys—

    (a)

    ffermio gwartheg godro;

    (b)

    cynhyrchu unrhyw gynnyrch defnyddiadwy at ddibenion masnach neu fusnes neu unrhyw fenter arall (pa un a wneir hynny i wneud elw ai peidio);

    (c)

    defnyddio tir fel tir pori, gweirglodd neu ddoldir;

    (d)

    defnyddio tir ar gyfer perllannau, tir helyg gwiail neu goetir;

    (e)

    defnyddio tir ar gyfer gerddi marchnad neu blanhigfeydd;

  • ystyr “amser gweithio” (“working time”) yw unrhyw gyfnod pryd y mae gweithiwr amaethyddol yn gweithio yng ngwasanaeth ei gyflogwr ac yn cyflawni ei weithgareddau neu ei ddyletswyddau yn unol â naill ai ei gontract gwasanaeth neu ei brentisiaeth ac mae’n cynnwys—

    (a)

    unrhyw gyfnod pryd y mae gweithiwr amaethyddol yn derbyn hyfforddiant perthnasol;

    (b)

    unrhyw gyfnod a dreulir gan weithiwr amaethyddol yn teithio at ddibenion ei gyflogaeth ond nad yw’n cynnwys amser a dreulir yn teithio rhwng ei gartref a’i le gwaith;

    (c)

    unrhyw gyfnod y mae gweithiwr amaethyddol yn cael ei rwystro rhag cyflawni gweithgareddau neu ddyletswyddau yn unol â’i gontract gwasanaeth neu ei brentisiaeth oherwydd tywydd drwg; a

    (d)

    unrhyw gyfnod ychwanegol y mae’r cyflogwr a’r gweithiwr amaethyddol yn cytuno ei fod i’w drin fel amser gweithio,

  • ac mae cyfeiriadau at “gwaith” (“work”) i’w dehongli yn unol â hyn;

  • ystyr “ar alwad” (“on-call”) yw trefniant ffurfiol rhwng y gweithiwr amaethyddol a’i gyflogwr pan fo gweithiwr amaethyddol nad yw yn y gwaith yn cytuno â’i gyflogwr y bydd modd cysylltu ag ef drwy gyfrwng y cytunir arno ac y gall gyrraedd y fan lle y gall fod yn ofynnol iddo weithio o fewn amser y cytunir arno;

  • ystyr “cyflogaeth” (“employment”) yw bod yn gyflogedig o dan gontract gwasanaeth neu brentisiaeth ac mae “a gyflogir” (“employed”) a “cyflogwr” (“employer”) i’w dehongli yn unol â hynny;

  • ystyr “cynnyrch defnyddiadwy” (“consumable produce”) yw cynnyrch a dyfir i’w fwyta ac i’w yfed neu i’w ddefnyddio fel arall ar ôl iddo adael y tir lle cafodd ei dyfu;

  • ystyr “diwrnodau cymwys” (“qualifying days) yw diwrnodau pan fyddai’n ofynnol fel arfer i’r gweithiwr amaethyddol fod ar gael i weithio gan gynnwys diwrnodau pan oedd y gweithiwr amaethyddol—

    (a)

    yn cymryd gwyliau blynyddol;

    (b)

    yn cymryd absenoldeb oherwydd profedigaeth;

    (c)

    yn cymryd absenoldeb mamolaeth, tadolaeth, rhiant a rennir neu fabwysiadu statudol; neu

    (d)

    ar gyfnod o absenoldeb salwch;

  • ystyr “goramser” (“overtime”) yw—

    (a)

    mewn perthynas â gweithiwr amaethyddol a ddechreuodd ei gyflogaeth cyn 1 Hydref 2006, amser nad yw’n oramser gwarantedig y mae’r gweithiwr amaethyddol yn ei weithio—

    (i)

    yn ychwanegol at ddiwrnod gwaith 8 awr;

    (ii)

    yn ychwanegol at yr oriau gwaith y cytunwyd arnynt yn ei gontract gwasanaeth;

    (iii)

    ar ŵyl gyhoeddus;

    (iv)

    ar ddydd Sul; neu

    (v)

    mewn unrhyw gyfnod sy’n cychwyn ar ddydd Sul ac yn parhau hyd y dydd Llun canlynol hyd at yr amser y byddai’r gweithiwr hwnnw yn cychwyn ei ddiwrnod gwaith fel arfer;

    (b)

    mewn perthynas â phob gweithiwr amaethyddol arall, amser nad yw’n oramser gwarantedig y mae’r gweithiwr amaethyddol yn ei weithio—

    (i)

    yn ychwanegol at ddiwrnod gwaith 8 awr;

    (ii)

    yn ychwanegol at yr oriau gwaith y cytunwyd arnynt yn ei gontract gwasanaeth; neu

    (iii)

    ar ŵyl gyhoeddus;

  • ystyr “goramser gwarantedig” (“guaranteed overtime”) yw goramser y mae’n ofynnol i weithiwr amaethyddol ei weithio o dan naill ai ei gontract gwasanaeth neu ei brentisiaeth ac y mae cyflogwr y gweithiwr amaethyddol yn gwarantu taliad ar ei gyfer, pa un a oes gwaith i’r gweithiwr amaethyddol ei wneud ai peidio;

  • ystyr “grant geni a mabwysiadu” (“birth and adoption grant”) yw taliad y mae gan weithiwr amaethyddol hawl i’w gael oddi wrth ei gyflogwr pan enir plentyn iddo neu pan fydd yn mabwysiadu plentyn ac mae’n daladwy—

    (a)

    pan fo’r gweithiwr amaethyddol wedi rhoi copi i’w gyflogwr o Dystysgrif Geni’r plentyn neu ei Orchymyn Mabwysiadu (sy’n enwi’r gweithiwr fel rhiant y plentyn neu ei riant mabwysiadol) o fewn 3 mis ar ôl geni neu fabwysiadu’r plentyn; a

    (b)

    o dan amgylchiadau pan fo’r ddau riant neu’r ddau riant mabwysiadol yn weithwyr amaethyddol gyda’r un cyflogwr, i’r ddau weithiwr amaethyddol;

  • ystyr “gwaith allbwn” (“output work”) yw gwaith sydd, at ddibenion tâl, yn cael ei fesur yn ôl nifer y darnau a wneir neu a brosesir neu nifer y tasgau a gyflawnir gan weithiwr amaethyddol;

  • ystyr “gwaith nos” (“night work”) yw gwaith (heblaw oriau goramser) a wneir gan weithiwr amaethyddol rhwng 7 p.m. un noson a 6 a.m. fore trannoeth, ond heb gynnwys y ddwy awr gyntaf o waith y mae gweithiwr amaethyddol yn ei wneud yn y cyfnod hwnnw;

  • ystyr “gweithiwr amaethyddol” (“agricultural worker”) yw person a gyflogir ym maes amaethyddiaeth yng Nghymru, pa un a yw’r holl waith yr ymgymerir ag ef yn rhinwedd y gyflogaeth honno yn cael ei wneud yng Nghymru ai peidio;

  • mae i’r “isafswm cyflog cenedlaethol” (“the national minimum wage”) yr ystyr a roddir iddo gan adran 10;

  • ystyr “llety arall” (“other accommodation”) yw unrhyw lety byw heblaw tŷ—

    (a)

    sy’n addas i bobl fyw ynddo;

    (b)

    sy’n ddiogel ac yn ddiddos;

    (c)

    sy’n darparu gwely i’w ddefnyddio gan bob gweithiwr amaethyddol unigol yn unig; a

    (d)

    sy’n darparu dŵr yfed glân, cyfleusterau glanweithdra addas a digonol a chyfleusterau ymolchi i weithwyr amaethyddol yn unol â rheoliadau 20 i 22 o Reoliadau Gweithleoedd (Iechyd, Diogelwch a Lles) 1992(1) fel pe bai’r llety’n weithle yr oedd rheoliadau 20 i 22 o’r Rheoliadau hynny’n gymwys iddo;

  • mae i “oedran ysgol gorfodol” yr ystyr a roddir i “compulsory school age” yn adran 8 o Ddeddf Addysg 1996(2);

  • mae “oriau” (“hours”) yn cynnwys ffracsiwn o awr;

  • ystyr “oriau sylfaenol” (“basic hours”) yw 39 awr o waith yr wythnos, heb gynnwys goramser, a weithir yn unol â naill ai contract gwasanaeth neu brentisiaeth gweithiwr amaethyddol;

  • ystyr “teithio” (“travelling”) yw siwrnai drwy gyfrwng dull teithio neu siwrnai ar droed yn cynnwys—

    (a)

    aros wrth fan ymadael i gychwyn siwrnai drwy gyfrwng dull teithio;

    (b)

    aros wrth fan ymadael i siwrnai ailgychwyn naill ai drwy gyfrwng yr un dull teithio neu drwy gyfrwng un arall, ac eithrio unrhyw amser a dreulir gan y gweithiwr amaethyddol yn cymryd seibiant gorffwys; ac

    (c)

    aros ar ddiwedd siwrnai i gyflawni dyletswyddau, neu i dderbyn hyfforddiant, ac eithrio unrhyw amser a dreulir gan y gweithiwr amaethyddol yn cymryd seibiant gorffwys;

  • ystyr “tŷ” (“house”) yw tŷ annedd cyfan neu lety hunangynhwysol y mae’n ofynnol i’r gweithiwr amaethyddol fyw ynddo yn rhinwedd contract gwasanaeth y gweithiwr amaethyddol er mwyn cyflawni ei ddyletswyddau mewn modd priodol neu well ac mae’n cynnwys unrhyw ardd o fewn cwrtil y tŷ annedd neu’r llety hunangynhwysol hwnnw.

(2Yn yr erthygl hon mae’r cyfeiriad at weithwyr amaethyddol a ddechreuodd eu cyflogaeth cyn 1 Hydref 2006 yn cynnwys gweithwyr amaethyddol—

(a)y mae telerau eu contract wedi bod yn destun unrhyw amrywiad ers hynny; neu

(b)sydd wedi eu cyflogi gan gyflogwr newydd ers hynny yn unol â Rheoliadau Trosglwyddo Ymgymeriadau (Diogelu Cyflogaeth) 2006(3).

(3Mae cyfeiriadau yn y Gorchymyn hwn at gyfnod o gyflogaeth ddi-dor i’w dehongli fel cyfnod o gyflogaeth ddi-dor a gyfrifir yn unol ag adrannau 210 i 219 o Ddeddf Hawliau Cyflogaeth 1996(4).

RHAN 2Gweithwyr amaethyddol

Telerau ac amodau cyflogaeth

3.  Mae cyflogaeth gweithiwr amaethyddol yn ddarostyngedig i’r telerau a’r amodau a nodir yn y Rhan hon ac yn Rhannau 3, 4 a 5 o’r Gorchymyn hwn.

Graddau a chategorïau gweithiwr amaethyddol

4.  Rhaid i weithiwr amaethyddol gael ei gyflogi fel gweithiwr ar un o’r Graddau a bennir yn erthyglau 5 i 9 neu 10(1) neu fel prentis yn unol â’r darpariaethau yn erthygl 11.

Gradd 2

5.  Rhaid i weithiwr amaethyddol—

(a)sy’n darparu tystiolaeth ddogfennol i gyflogwr fod ganddo—

(i)un o’r dyfarniadau neu’r tystysgrifau cymhwysedd a restrir yn y tablau yn Atodlen 1;

(ii)un Cymhwyster Galwedigaethol Cenedlaethol sy’n berthnasol i’w waith; neu

(iii)cymhwyster cyfatebol; neu

(b)y mae’n ofynnol iddo—

(i)gweithio heb oruchwyliaeth;

(ii)gweithio gydag anifeiliaid;

(iii)gweithio â pheiriannau pŵer; neu

(iv)gyrru tractor amaethyddol,

gael ei gyflogi fel gweithiwr ar Radd 2.

Gradd 3

6.—(1Rhaid i weithiwr amaethyddol sydd wedi ei gyflogi mewn amaethyddiaeth am gyfnod agregedig o 2 flynedd o leiaf yn ystod y 5 mlynedd blaenorol ac—

(a)sy’n darparu tystiolaeth ddogfennol i gyflogwr fod ganddo—

(i)un o’r dyfarniadau neu’r tystysgrifau cymhwysedd a restrir yn y tablau yn Atodlen 2;

(ii)un Cymhwyster Galwedigaethol Cenedlaethol sy’n berthnasol i’w waith; neu

(iii)cymhwyster cyfatebol; neu

(b)sydd wedi ei ddynodi’n arweinydd tîm,

gael ei gyflogi fel gweithiwr ar Radd 3.

(2At ddibenion yr erthygl hon, mae “arweinydd tîm” yn gyfrifol am arwain tîm o weithwyr amaethyddol ac am fonitro sut mae’r tîm yn cydymffurfio â chyfarwyddiadau a roddir gan neu ar ran eu cyflogwr ond nid yw’n gyfrifol am faterion disgyblu.

Gradd 4

7.  Rhaid i weithiwr amaethyddol—

(a)sy’n darparu tystiolaeth ddogfennol i gyflogwr fod ganddo gyfanswm o 8 cymhwyster sydd naill ai—

(i)yn ddyfarniadau neu dystysgrifau cymhwysedd a restrir yn y tablau yn Atodlen 1;

(ii)yn Gymwysterau Galwedigaethol Cenedlaethol sy’n berthnasol i’w waith; neu

(iii)yn gymwysterau cyfatebol; neu

(b)sy’n darparu tystiolaeth ddogfennol i gyflogwr fod ganddo 1 o’r dyfarniadau neu’r tystysgrifau cymhwysedd a restrir yn y tablau yn Atodlen 3 neu gymhwyster cyfatebol; ac

(c)sydd naill ai—

(i)wedi ei gyflogi mewn amaethyddiaeth am gyfnod agregedig o 2 flynedd o leiaf yn ystod y 5 mlynedd diwethaf; neu

(ii)wedi ei gyflogi’n ddi-dor am gyfnod o 12 mis neu ragor o leiaf gan yr un cyflogwr ers ennill y cymwysterau y cyfeirir atynt ym mharagraffau (a) a (b),

gael ei gyflogi fel gweithiwr ar Radd 4.

Gradd 5

8.  Rhaid i weithiwr amaethyddol y mae’n ofynnol iddo ysgwyddo cyfrifoldeb o ddydd i ddydd—

(a)dros oruchwylio’r gwaith a gyflawnir ar ddaliad y cyflogwr;

(b)dros roi penderfyniadau rheoli ar waith; neu

(c)dros reoli staff,

gael ei gyflogi fel gweithiwr ar Radd 5.

Gradd 6

9.  Rhaid i weithiwr amaethyddol y mae’n ofynnol iddo ysgwyddo cyfrifoldeb rheoli—

(a)dros ddaliad cyfan y cyflogwr;

(b)dros ran o ddaliad y cyflogwr a redir fel gweithrediad neu fusnes ar wahân; neu

(c)dros hurio a rheoli staff,

gael ei gyflogi fel gweithiwr ar Radd 6.

Datblygu Proffesiynol Parhaus

10.—(1Rhaid i weithiwr amaethyddol na ellir ei gyflogi ar un o Raddau 2 i 6 yn unol â’r ddarpariaeth yn erthyglau 5 i 9 o’r Gorchymyn hwn ac nad yw’n brentis yn unol ag erthygl 11 gael ei gyflogi fel gweithiwr ar Radd 1.

(2Mae prentis sydd yn nhrydedd flwyddyn ac unrhyw flwyddyn olynol ei brentisiaeth i fod yn ddarostyngedig i’r cyfraddau tâl isaf ac unrhyw delerau ac amodau eraill yn y Gorchymyn hwn sy’n gymwys i weithwyr amaethyddol a gyflogir ar Radd 2.

(3Rhaid i weithiwr amaethyddol—

(a)cadw tystiolaeth ddogfennol o gymwysterau a phrofiad a enillwyd ganddo sy’n berthnasol i’w gyflogaeth; a

(b)rhoi gwybod i’w gyflogwr os yw wedi ennill cymwysterau a phrofiad sy’n ei alluogi i gael ei gyflogi ar Radd wahanol.

Prentisiaid

11.—(1Mae gweithiwr amaethyddol yn brentis sydd wedi ei gyflogi o dan brentisiaeth os yw’n cael ei gyflogi o dan naill ai contract prentisiaeth neu gytundeb prentisiaeth o fewn ystyr “apprenticeship agreement” yn adran 32 o Ddeddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009(5), neu’n cael ei drin fel pe bai wedi ei gyflogi o dan gontract prentisiaeth.

(2Rhaid i weithiwr amaethyddol gael ei drin fel pe bai wedi ei gyflogi o dan gontract prentisiaeth os yw wedi ei gymryd ymlaen yng Nghymru o dan drefniadau Llywodraeth o’r enw Prentisiaethau Sylfaen, Prentisiaethau neu Brentisiaethau Uwch.

(3Yn yr erthygl hon ystyr “trefniadau Llywodraeth” yw trefniadau a wnaed o dan adran 2 o Ddeddf Cyflogaeth a Hyfforddiant 1973(6) neu o dan adran 17B o Ddeddf Ceiswyr Gwaith 1995(7).

RHAN 3Yr isafswm cyflog amaethyddol

Cyfraddau tâl isaf

12.—(1Yn ddarostyngedig i weithrediad adran 1 o Ddeddf Isafswm Cyflog Cenedlaethol 1998(8), rhaid i weithwyr amaethyddol gael eu talu gan eu cyflogwr mewn cysylltiad â’u gwaith yn ôl cyfradd nad yw’n llai na’r isafswm cyflog amaethyddol.

(2Yr isafswm cyflog amaethyddol yw’r gyfradd isaf fesul awr a bennir yn y Tabl yn Atodlen 4 fel y gyfradd sy’n gymwys i bob gradd o weithiwr amaethyddol ac i brentisiaid.

Cyfraddau tâl isaf am oramser

13.  Rhaid i weithwyr amaethyddol gael eu talu gan eu cyflogwr mewn cysylltiad â goramser a weithir yn ôl cyfradd nad yw’n llai nag 1.5 gwaith yr isafswm cyflog amaethyddol a bennir yn erthygl 12 o’r Gorchymyn hwn ac Atodlen 4 iddo sy’n gymwys i’w radd neu i’w gategori.

Cyfraddau tâl isaf am waith allbwn

14.  Rhaid i weithwyr amaethyddol gael eu talu gan eu cyflogwr mewn cysylltiad â gwaith allbwn yn ôl cyfradd nad yw’n llai na’r isafswm cyflog amaethyddol a bennir yn erthygl 12 o’r Gorchymyn hwn ac Atodlen 4 iddo sy’n gymwys i’w radd neu i’w gategori.

Lwfans gwrthbwyso llety

15.—(1Pan fo cyflogwr, mewn unrhyw wythnos, yn darparu tŷ i weithiwr amaethyddol am y cyfan o’r wythnos honno, caiff y cyflogwr dynnu’r swm o £1.50 oddi ar gyflog y gweithiwr amaethyddol sy’n daladwy ar gyfer yr wythnos honno.

(2Yn ddarostyngedig i baragraffau (3) a (4), pan fo cyflogwr, mewn unrhyw wythnos, yn darparu llety arall i weithiwr amaethyddol, caiff y cyflogwr dynnu’r swm o £4.82 oddi ar gyflog y gweithiwr amaethyddol sy’n daladwy am bob diwrnod yn yr wythnos y darperir y llety arall i’r gweithiwr.

(3Dim ond pan fo’r gweithiwr amaethyddol wedi gweithio o leiaf 15 awr yn ystod yr wythnos honno y caniateir i’r didyniad ym mharagraff (2) gael ei wneud.

(4Rhaid i unrhyw amser yn ystod yr wythnos honno pan fo’r gweithiwr amaethyddol ar wyliau blynyddol neu absenoldeb oherwydd profedigaeth gyfrif tuag at y 15 awr hynny.

Taliadau nad ydynt yn ffurfio rhan o dâl gweithiwr amaethyddol

16.  Nid yw’r lwfansau a’r taliadau a ganlyn yn ffurfio rhan o dâl gweithiwr amaethyddol—

(a)lwfans cŵn o £8.32 y ci i’w dalu’n wythnosol pan fo’i gyflogwr yn ei gwneud yn ofynnol i weithiwr amaethyddol gadw un neu ragor o gŵn;

(b)lwfans ar alwad o swm sy’n cyfateb i ddwy waith y gyfradd goramser fesul awr a nodir yn erthygl 13 o’r Gorchymyn hwn;

(c)lwfans gwaith nos o £1.58 am bob awr o waith nos; a

(d)grant geni a mabwysiadu o £65.45 am bob plentyn.

Costau hyfforddi

17.—(1Pan fo gweithiwr amaethyddol yn mynd ar gwrs hyfforddi gyda chytundeb ei gyflogwr ymlaen llaw, rhaid i’r cyflogwr dalu—

(a)unrhyw ffioedd am y cwrs; a

(b)unrhyw gostau teithio a llety a ysgwyddir gan y gweithiwr amaethyddol wrth fynd ar y cwrs.

(2Bernir bod gweithiwr amaethyddol sydd wedi ei gyflogi’n ddi-dor ar Radd 1 gan yr un cyflogwr am ddim llai na 30 wythnos wedi cael cymeradwyaeth ei gyflogwr i ymgymryd â hyfforddiant gyda golwg ar sicrhau’r cymwysterau angenrheidiol y mae’n ofynnol i weithiwr Radd 2 feddu arnynt.

(3Y cyflogwr sydd i dalu am unrhyw hyfforddiant y mae gweithiwr amaethyddol yn ymgymryd ag ef yn unol â pharagraff (2).

RHAN 4Yr hawl i gael tâl salwch amaethyddol

Yr hawl i gael tâl salwch amaethyddol

18.  Yn ddarostyngedig i’r darpariaethau yn y Rhan hon, mae gan weithiwr amaethyddol hawl i gael tâl salwch amaethyddol gan ei gyflogwr mewn cysylltiad â’i absenoldeb salwch.

Amodau cymhwyso ar gyfer tâl salwch amaethyddol

19.  Mae gweithiwr amaethyddol yn cymhwyso ar gyfer tâl salwch amaethyddol o dan y Gorchymyn hwn ar yr amod bod y gweithiwr amaethyddol—

(a)wedi cael ei gyflogi’n ddi-dor gan ei gyflogwr am gyfnod o 52 o wythnosau o leiaf cyn yr absenoldeb salwch;

(b)wedi hysbysu ei gyflogwr am yr absenoldeb salwch mewn ffordd a gytunwyd yn flaenorol gyda’i gyflogwr neu, yn niffyg unrhyw gytundeb o’r fath, drwy unrhyw ddull rhesymol;

(c)o dan amgylchiadau pan fo’r absenoldeb salwch wedi parhau am gyfnod o 8 diwrnod yn olynol neu ragor, wedi darparu tystysgrif i’w gyflogwr gan ymarferydd meddygol cofrestredig sy’n datgelu’r diagnosis ynghylch anhwylder meddygol y gweithiwr ac sy’n datgan mai’r anhwylder sydd wedi achosi absenoldeb salwch y gweithiwr amaethyddol.

Cyfnodau absenoldeb salwch

20.  Rhaid i unrhyw 2 gyfnod o salwch sydd â chyfnod o ddim mwy na 14 o ddiwrnodau rhyngddynt gael eu trin fel un cyfnod o absenoldeb salwch.

Cyfyngiadau ar yr hawl i dâl salwch amaethyddol

21.—(1Ni fydd tâl salwch amaethyddol yn daladwy am y 3 diwrnod cyntaf o absenoldeb salwch o dan amgylchiadau pan fo hyd yr absenoldeb salwch yn llai na 14 o ddiwrnodau.

(2Yn ystod pob cyfnod hawl, uchafswm nifer yr wythnosau y mae gan weithiwr amaethyddol hawl i gael tâl salwch amaethyddol ar eu cyfer yw—

(a)13 o wythnosau yn ail flwyddyn y gyflogaeth;

(b)16 o wythnosau yn nhrydedd flwyddyn y gyflogaeth;

(c)19 o wythnosau ym mhedwaredd flwyddyn y gyflogaeth;

(d)22 o wythnosau ym mhumed flwyddyn y gyflogaeth;

(e)26 o wythnosau yn chweched flwyddyn a phob blwyddyn olynol y gyflogaeth.

(3Pan fo gweithiwr amaethyddol yn gweithio oriau sylfaenol neu unrhyw oramser gwarantedig, pan fo hynny’n berthnasol, ar nifer penodedig o ddiwrnodau bob wythnos, cyfrifir uchafswm nifer y diwrnodau o dâl salwch amaethyddol y mae gan y gweithiwr amaethyddol hawl i’w cael drwy luosi uchafswm nifer yr wythnosau sy’n berthnasol i’r gweithiwr amaethyddol â nifer y diwrnodau cymwys a weithiwyd bob wythnos.

(4Pan fo gweithiwr amaethyddol yn gweithio oriau sylfaenol neu unrhyw oramser gwarantedig, pan fo hynny’n berthnasol, ar nifer amrywiol o ddiwrnodau bob wythnos, cyfrifir uchafswm nifer y diwrnodau o dâl salwch amaethyddol y mae gan y gweithiwr amaethyddol hawl i’w cael drwy luosi uchafswm nifer yr wythnosau sy’n berthnasol i’r gweithiwr hwnnw â nifer y diwrnodau perthnasol.

(5Cyfrifir nifer y diwrnodau perthnasol drwy rannu nifer y diwrnodau cymwys a weithiwyd yn ystod y cyfnod o 12 mis yn arwain at gyfnod yr absenoldeb salwch â 52.

(6Mae uchafswm hawl gweithiwr amaethyddol i gael tâl salwch amaethyddol yn gymwys pa faint bynnag o gyfnodau o absenoldeb salwch a geir yn ystod unrhyw gyfnod hawl.

(7Yn ddarostyngedig i baragraff (8), yn yr erthygl hon, “cyfnod hawl” yw cyfnod sy’n dechrau â chychwyn absenoldeb salwch ac sy’n dod i ben 12 mis yn ddiweddarach.

(8Os yw’r gweithiwr amaethyddol yn cael cyfnod o absenoldeb salwch sy’n cychwyn unrhyw bryd yn ystod y cyfnod hawl a ddisgrifir ym mharagraff (7), ond sy’n parhau y tu hwnt i ddiwedd y cyfnod hawl hwnnw, rhaid estyn y cyfnod hawl fel y bo’n dod i ben â pha un bynnag o’r canlynol sy’n digwydd gyntaf—

(a)y dyddiad y mae absenoldeb salwch y gweithiwr amaethyddol yn dod i ben ac y mae’r gweithiwr amaethyddol yn dychwelyd i’r gwaith; neu

(b)y diwrnod y mae’r gweithiwr amaethyddol yn cyrraedd uchafswm yr hawl i gael tâl salwch amaethyddol sy’n gymwys i’r cyfnod o 12 mis y cyfeirir ato ym mharagraff (7) (pe na bai hwnnw wedi ei estyn).

Pennu swm tâl salwch amaethyddol

22.—(1Mae tâl salwch amaethyddol yn daladwy yn ôl cyfradd sy’n cyfateb i’r gyfradd tâl isaf fesul awr a ragnodir yn erthygl 12 o’r Gorchymyn hwn ac Atodlen 4 iddo fel y gyfradd sy’n gymwys i’r radd honno neu’r categori hwnnw o weithiwr amaethyddol.

(2Pennir swm y tâl salwch amaethyddol sy’n daladwy i weithiwr amaethyddol drwy gyfrifo nifer yr oriau contract dyddiol a fyddai wedi cael eu gweithio yn ystod cyfnod o absenoldeb salwch.

(3Pennir nifer yr oriau contract dyddiol—

(a)o dan amgylchiadau pan fo gweithiwr amaethyddol yn gweithio nifer penodedig o oriau bob wythnos drwy rannu cyfanswm nifer yr oriau a weithiwyd yn ystod unrhyw wythnos â nifer y diwrnodau a weithiwyd yn yr wythnos honno;

(b)o dan amgylchiadau pan fo gweithiwr amaethyddol yn gweithio nifer amrywiol o oriau bob wythnos, drwy ddefnyddio’r fformwla—

pan fo, at ddibenion yr erthygl hon—

  • QH yn gyfanswm nifer yr oriau cymwys yn y cyfnod, a

  • DWEW yn nifer y diwrnodau a weithiwyd bob wythnos gan y gweithiwr amaethyddol o’u cymryd ar gyfartaledd yn ystod cyfnod o 8 wythnos yn union cyn i’r absenoldeb salwch gychwyn.

(4Yn yr erthygl hon “oriau cymwys” yw oriau—

(a)pan fu’r gweithiwr amaethyddol yn gweithio oriau sylfaenol neu oramser gwarantedig;

(b)pan gymerodd y gweithiwr amaethyddol wyliau blynyddol neu absenoldeb oherwydd profedigaeth;

(c)pan gafodd y gweithiwr amaethyddol absenoldeb salwch a oedd yn gymwys ar gyfer tâl salwch amaethyddol o dan y Gorchymyn hwn; neu

(d)pan gafodd y gweithiwr amaethyddol absenoldeb salwch nad oedd yn gymwys ar gyfer tâl salwch amaethyddol o dan y Gorchymyn hwn; a

“diwrnodau cymwys” yw unrhyw ddiwrnodau o fewn y cyfnod y cafwyd ynddynt oriau cymwys mewn perthynas â’r gweithiwr amaethyddol.

(5At ddibenion cyfrifiadau o dan yr erthygl hon, pan fo gweithiwr amaethyddol wedi ei gyflogi gan ei gyflogwr am lai nag 8 wythnos, rhaid ystyried yr oriau cymwys a’r diwrnodau cymwys yn ystod y gwir nifer o wythnosau y mae’r gweithiwr amaethyddol wedi ei gyflogi gan ei gyflogwr.

Tâl salwch amaethyddol i gymryd tâl salwch statudol i ystyriaeth

23.  Caniateir i swm sy’n hafal i unrhyw daliad tâl salwch statudol a wneir yn unol â Rhan XI o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992(9) mewn cysylltiad â chyfnod absenoldeb salwch gweithiwr amaethyddol gael ei dynnu oddi ar dâl salwch amaethyddol y gweithiwr hwnnw.

Talu tâl salwch amaethyddol

24.  Rhaid i dâl salwch amaethyddol gael ei dalu i’r gweithiwr amaethyddol ar ei ddiwrnod cyflog arferol yn unol â naill ai ei gontract gwasanaeth neu ei brentisiaeth.

Cyflogaeth yn dod i ben yn ystod absenoldeb salwch

25.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), os terfynir naill ai contract gwasanaeth gweithiwr amaethyddol neu ei brentisiaeth yn ystod cyfnod o absenoldeb salwch neu os rhoddir hysbysiad i’r gweithiwr amaethyddol fod naill ai ei gontract gwasanaeth neu ei brentisiaeth i gael ei derfynu neu ei therfynu, mae unrhyw hawl sydd gan y gweithiwr amaethyddol i gael tâl salwch amaethyddol yn parhau ar ôl i’r contract hwnnw ddod i ben fel pe bai’r gweithiwr amaethyddol yn dal yn cael ei gyflogi gan ei gyflogwr, hyd nes i un o’r canlynol ddigwydd—

(a)bod absenoldeb salwch y gweithiwr amaethyddol yn dod i ben;

(b)bod y gweithiwr amaethyddol yn dechrau gweithio i gyflogwr arall; neu

(c)bod uchafswm yr hawl i gael tâl salwch amaethyddol yn unol ag erthygl 21 yn cael ei ddihysbyddu.

(2Nid oes gan weithiwr amaethyddol y terfynwyd ei gontract hawl i gael unrhyw dâl salwch amaethyddol ar ôl diwedd ei gyflogaeth yn unol â pharagraff (1) os rhoddwyd hysbysiad i’r gweithiwr amaethyddol fod ei gyflogwr yn bwriadu terfynu ei gontract gwasanaeth neu ei brentisiaeth cyn i’r cyfnod o absenoldeb salwch gychwyn.

Gordalu tâl salwch amaethyddol

26.—(1Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau paragraff (2), os caiff gweithiwr amaethyddol sydd â hawl i gael tâl salwch amaethyddol o dan y Rhan hon daliad am fwy o dâl salwch amaethyddol na’i hawl, gall ei gyflogwr adennill gordaliad y tâl salwch amaethyddol hwnnw drwy ei dynnu oddi ar gyflog y gweithiwr amaethyddol hwnnw.

(2Os tynnir gordaliad tâl salwch amaethyddol o dan y Gorchymyn hwn fel y’i crybwyllir ym mharagraff (1), ni chaiff y cyflogwr dynnu mwy nag 20% o gyflog gros y gweithiwr amaethyddol oni bai bod hysbysiad wedi ei roi i derfynu’r gyflogaeth neu fod y gyflogaeth eisoes wedi ei therfynu pryd y caniateir i fwy nag 20% o gyflog gros y gweithiwr amaethyddol gael ei dynnu gan y cyflogwr oddi ar daliad cyflog olaf y gweithiwr.

Iawndal a adenillir yn sgil colli enillion

27.—(1Mae’r erthygl hon yn gymwys i weithiwr amaethyddol y mae ei hawl i gael tâl salwch amaethyddol yn codi oherwydd gweithred neu anweithred person heblaw ei gyflogwr ac mae’r iawndal yn cael ei adennill gan y gweithiwr amaethyddol mewn cysylltiad â cholled enillion a ddioddefir yn ystod y cyfnod y cafodd y gweithiwr amaethyddol dâl salwch amaethyddol gan ei gyflogwr ar ei gyfer.

(2Pan fo paragraff (1) yn gymwys—

(a)rhaid i’r gweithiwr amaethyddol roi gwybod ar unwaith i’w gyflogwr am yr holl amgylchiadau perthnasol ac am unrhyw hawliad ac am unrhyw iawndal a adenillwyd o dan unrhyw gyfaddawd, setliad neu ddyfarniad;

(b)rhaid i’r holl dâl salwch amaethyddol a dalwyd gan y cyflogwr i’r gweithiwr amaethyddol hwnnw mewn cysylltiad â’r absenoldeb salwch yr adenillir iawndal am golli enillion ar ei gyfer fod yn gyfystyr â benthyciad i’r gweithiwr; ac

(c)rhaid i’r gweithiwr amaethyddol ad-dalu i’w gyflogwr swm nad yw’n fwy na’r lleiaf o’r canlynol—

(i)swm yr iawndal a adenillwyd am golli enillion yn y cyfnod y talwyd tâl salwch amaethyddol ar ei gyfer; a

(ii)y symiau a roddwyd i’r gweithiwr amaethyddol gan ei gyflogwr o dan y Rhan hon ar ffurf tâl salwch amaethyddol.

RHAN 5Yr hawl i gael amser i ffwrdd

Seibiannau gorffwys

28.—(1Mae gan weithiwr amaethyddol sy’n 18 oed neu’n hŷn ac sydd â’i amser gweithio dyddiol yn fwy na 5 awr a hanner hawl i gael seibiant gorffwys.

(2Mae’r seibiant gorffwys y darperir ar ei gyfer ym mharagraff (1) yn gyfnod di-dor o ddim llai na 30 munud ac mae gan y gweithiwr amaethyddol hawl i’w dreulio i ffwrdd o’i weithfan (os oes ganddo un) neu ei le gwaith arall.

(3Yn ddarostyngedig i baragraff (4), nid yw’r darpariaethau ynglŷn â seibiannau gorffwys a bennir ym mharagraffau (1) a (2) yn gymwys i weithiwr amaethyddol—

(a)pan nad yw cyfnod ei amser gweithio yn cael ei fesur neu ei bennu ymlaen llaw oherwydd nodweddion penodol y gweithgaredd y mae’r gweithiwr amaethyddol yn ei gyflawni;

(b)pan fo gweithgareddau’r gweithiwr amaethyddol yn golygu bod angen parhad mewn gwasanaeth neu mewn cynhyrchu;

(c)pan geir ymchwydd gweithgarwch rhagweladwy;

(d)pan effeithir ar weithgareddau’r gweithiwr amaethyddol—

(i)gan ddigwyddiad oherwydd amgylchiadau anarferol nad ydynt yn rhagweladwy, y tu hwnt i reolaeth ei gyflogwr;

(ii)gan ddigwyddiadau eithriadol, nad oedd modd osgoi eu canlyniadau er i’r cyflogwr arfer pob gofal dyladwy; neu

(iii)gan ddamwain neu’r risg bod damwain ar fin digwydd; neu

(e)pan fo’r cyflogwr a’r gweithiwr amaethyddol yn cytuno i addasu paragraffau (1) a (2) neu i’w hatal rhag bod yn gymwys yn y modd ac i’r graddau a ganiateir gan neu o dan Reoliadau Amser Gwaith 1998(10).

(4Pan fo paragraff (3) yn gymwys a bod ei gyflogwr yn ei gwneud yn ofynnol i’r gweithiwr amaethyddol weithio yn unol â hynny yn ystod cyfnod a fyddai fel arall yn seibiant gorffwys—

(a)rhaid i’r cyflogwr, oni bai bod is-baragraff (b) yn gymwys, ganiatáu i’r gweithiwr amaethyddol gymryd cyfnod cyfatebol o seibiant yn ei le; a

(b)mewn achosion eithriadol pan nad yw, am resymau gwrthrychol, yn bosibl caniatáu cyfnod gorffwys o’r fath, rhaid i gyflogwr y gweithiwr amaethyddol gynnig iddo unrhyw amddiffyniad sy’n briodol i warchod iechyd a diogelwch y gweithiwr amaethyddol.

Y flwyddyn gwyliau blynyddol

29.  Y flwyddyn gwyliau blynyddol i bob gweithiwr amaethyddol yw’r cyfnod o 12 mis sy’n dechrau ar 1 Hydref ac sy’n dod i ben ar 30 Medi.

Swm gwyliau blynyddol gweithwyr amaethyddol a chanddynt ddiwrnodau gweithio penodedig a gyflogir drwy gydol y flwyddyn gwyliau

30.—(1Mae gan weithiwr amaethyddol a gyflogir gan yr un cyflogwr drwy gydol y flwyddyn gwyliau blynyddol hawl i gael y swm gwyliau blynyddol a ragnodir yn y Tabl yn Atodlen 5.

(2Pan fo gweithiwr amaethyddol yn gweithio ei oriau sylfaenol ac unrhyw oramser gwarantedig, pan fo hynny’n berthnasol, ar nifer penodedig o ddiwrnodau cymwys bob wythnos, nifer y diwrnodau a weithiwyd bob wythnos at ddibenion y Tabl yn Atodlen 5 yw’r nifer penodedig hwnnw o ddiwrnodau.

Swm gwyliau blynyddol gweithwyr amaethyddol a chanddynt ddiwrnodau gweithio amrywiol a gyflogir drwy gydol y flwyddyn gwyliau

31.—(1Pan fo gweithiwr amaethyddol yn gweithio ei oriau sylfaenol ar nifer amrywiol o ddiwrnodau bob wythnos, cymerir mai nifer y diwrnodau a weithiwyd bob wythnos at ddibenion y Tabl yn Atodlen 5, yw cyfartaledd nifer y diwrnodau cymwys a weithiwyd bob wythnos yn ystod y cyfnod o 52 o wythnosau yn union cyn i wyliau blynyddol y gweithiwr amaethyddol gychwyn a rhaid i’r nifer cyfartalog hwnnw o ddiwrnodau cymwys gael ei dalgrynnu i’r diwrnod cyfan agosaf, pan fo hynny’n briodol.

(2Ar ddiwedd y flwyddyn gwyliau blynyddol rhaid i’r cyflogwr gyfrifo hawl wirioneddol y gweithiwr amaethyddol at ddibenion y Tabl yn Atodlen 5, ar sail nifer y diwrnodau cymwys a weithiwyd bob wythnos, wedi ei gymryd fel cyfartaledd nifer y diwrnodau cymwys a weithiwyd bob wythnos yn ystod y flwyddyn gwyliau blynyddol (h.y. dros gyfnod o 52 o wythnosau) a rhaid i nifer cyfartalog y diwrnodau cymwys gael ei dalgrynnu i’r diwrnod cyfan agosaf, pan fo hynny’n briodol.

(3Os yw’r gweithiwr amaethyddol, ar ddiwedd y flwyddyn gwyliau blynyddol, wedi cronni hawl i wyliau ond heb eu cymryd, mae gan y gweithiwr amaethyddol hawl i ddwyn ymlaen unrhyw wyliau a gronnwyd ond nas cymerwyd i’r flwyddyn gwyliau blynyddol ganlynol yn unol ag erthygl 33(3) o’r Gorchymyn hwn neu caiff y gweithiwr amaethyddol a’r cyflogwr gytuno i daliad yn lle unrhyw wyliau a gronnwyd ond nas cymerwyd yn unol ag erthygl 36 o’r Gorchymyn hwn.

(4Os yw’r gweithiwr amaethyddol, ar ddiwedd y flwyddyn gwyliau blynyddol, wedi cymryd mwy o ddiwrnodau gwyliau nag yr oedd ganddo hawl iddynt o dan y Gorchymyn hwn, ar sail nifer cyfartalog y diwrnodau cymwys a weithiwyd bob wythnos (wedi ei gyfrifo yn unol â pharagraff (2)), mae gan y cyflogwr hawl i ddidynnu unrhyw dâl am ddiwrnodau gwyliau a gymerwyd uwchlaw hawl y gweithiwr amaethyddol neu, fel arall, ddidynnu’r diwrnodau gwyliau a gymerwyd uwchlaw hawl y gweithiwr amaethyddol o’i hawl ar gyfer y flwyddyn gwyliau blynyddol ganlynol (ar yr amod nad yw didyniad o’r fath yn arwain at fod y gweithiwr amaethyddol yn cael llai na’i hawl gwyliau blynyddol statudol o dan reoliadau 13 a 13A o Reoliadau Amser Gwaith 1998).

Swm gwyliau blynyddol gweithwyr amaethyddol a gyflogir am ran o’r flwyddyn gwyliau

32.—(1Mae gan weithiwr amaethyddol a gyflogir gan yr un cyflogwr am ran o’r flwyddyn gwyliau blynyddol hawl i gronni gwyliau blynyddol yn ôl cyfradd o 1/52 o’r hawl i gael gwyliau blynyddol a bennir yn y Tabl yn Atodlen 5 am bob wythnos orffenedig o wasanaeth gyda’r un cyflogwr.

(2Pan fo swm y gwyliau blynyddol a gronnwyd mewn achos penodol yn cynnwys ffracsiwn o ddiwrnod heblaw hanner diwrnod, mae’r ffracsiwn hwnnw—

(a)i’w dalgrynnu i lawr i’r diwrnod cyfan nesaf os yw’n llai na hanner diwrnod; a

(b)i’w dalgrynnu i fyny i’r diwrnod cyfan nesaf os yw’n fwy na hanner diwrnod.

Amseru gwyliau blynyddol

33.—(1Caiff gweithiwr amaethyddol gymryd gwyliau blynyddol y mae ganddo hawl i’w cymryd o dan y Gorchymyn hwn unrhyw bryd o fewn y flwyddyn gwyliau blynyddol yn ddarostyngedig i gymeradwyaeth ei gyflogwr.

(2Nid oes gan weithiwr amaethyddol hawl i gario unrhyw hawl gwyliau blynyddol nas cymerwyd ymlaen o’r naill flwyddyn gwyliau i’r flwyddyn gwyliau nesaf heb gymeradwyaeth ei gyflogwr.

(3Pan fo cyflogwr wedi cytuno y caiff gweithiwr amaethyddol gario unrhyw hawl gwyliau blynyddol nas defnyddiwyd ymlaen, dim ond yn ystod y flwyddyn gwyliau y mae’n cael ei gario ymlaen iddi y caniateir i’r balans gael ei gymryd.

(4Yn ystod y cyfnod o 1 Hydref hyd at 31 Mawrth mewn unrhyw flwyddyn gwyliau blynyddol caiff cyflogwr ei gwneud yn ofynnol i weithiwr amaethyddol gymryd hyd at 2 wythnos o’i hawl gwyliau blynyddol o dan y Gorchymyn hwn a chaiff gyfarwyddo i’r gweithiwr gymryd un o’r 2 wythnos hynny o wyliau blynyddol ar ddiwrnodau yn yr un wythnos.

(5Yn ystod y cyfnod o 1 Ebrill hyd at 30 Medi mewn unrhyw flwyddyn gwyliau blynyddol, rhaid i gyflogwr ganiatáu i weithiwr amaethyddol gymryd 2 wythnos o hawl gwyliau blynyddol y gweithiwr o dan y Gorchymyn hwn mewn wythnosau olynol.

(6At ddibenion yr erthygl hon, mae 1 wythnos o wyliau blynyddol gweithiwr amaethyddol yn cyfateb i nifer y diwrnodau a weithiwyd bob wythnos gan y gweithiwr amaethyddol fel y’i pennir yn unol ag erthyglau 30 ac 31.

Tâl gwyliau

34.—(1Mae gan weithiwr amaethyddol hawl i gael ei dalu mewn cysylltiad â phob diwrnod o wyliau blynyddol y mae’n ei gymryd.

(2Mae swm y tâl gwyliau y mae gan weithiwr amaethyddol hawl i’w gael o dan baragraff (1) i’w bennu drwy rannu cyflog wythnosol y gweithiwr amaethyddol fel y’i pennir yn unol â pharagraff (3) neu, yn ôl y digwydd, paragraff (4), â nifer y diwrnodau cymwys a weithiwyd bob wythnos gan y gweithiwr amaethyddol hwnnw.

(3Pan nad yw oriau gwaith arferol y gweithiwr amaethyddol o dan naill ai ei gontract gwasanaeth neu ei brentisiaeth yn amrywio (yn ddarostyngedig i baragraff (4)), swm cyflog wythnosol y gweithiwr amaethyddol at ddibenion paragraff (2) yw tâl wythnosol arferol y gweithiwr amaethyddol sy’n daladwy gan y cyflogwr.

(4Pan fo oriau gwaith arferol y gweithiwr amaethyddol yn amrywio o wythnos i wythnos, neu pan fo gweithiwr amaethyddol sydd ag oriau gwaith arferol (fel ym mharagraff (3)) yn gweithio goramser yn ogystal â’r oriau hynny, cyfrifir swm tâl wythnosol arferol y gweithiwr amaethyddol at ddibenion paragraff (2) drwy adio swm tâl wythnosol arferol y gweithiwr amaethyddol ym mhob un o’r 52 o wythnosau yn union cyn cychwyn gwyliau blynyddol y gweithiwr a rhannu’r cyfanswm â 52.

(5At ddibenion yr erthygl hon ystyr “tâl wythnosol arferol” yw—

(a)tâl sylfaenol y gweithiwr amaethyddol o dan ei gontract gwasanaeth neu ei brentisiaeth; a

(b)unrhyw dâl goramser ac unrhyw lwfans a delir yn gyson i’r gweithiwr amaethyddol.

(6Pan fo gweithiwr amaethyddol wedi ei gyflogi gan ei gyflogwr am lai na 52 o wythnosau, rhaid ystyried wythnosau pan oedd tâl yn ddyledus i’r gweithiwr amaethyddol yn unig.

(7At ddibenion paragraff (2), mae nifer y diwrnodau cymwys a weithiwyd yn cael ei bennu yn unol â’r darpariaethau yn erthyglau 30 ac 31 o’r Gorchymyn hwn.

(8Rhaid i unrhyw dâl sy’n ddyledus i weithiwr amaethyddol o dan yr erthygl hon gael ei dalu heb fod yn hwyrach na diwrnod gwaith olaf y gweithiwr amaethyddol cyn i’r cyfnod o wyliau blynyddol y mae’r taliad yn ymwneud ag ef gychwyn.

Gwyliau cyhoeddus a gwyliau banc

35.—(1Mae’r erthygl hon yn gymwys pan fo gŵyl gyhoeddus neu ŵyl banc yng Nghymru yn syrthio ar ddiwrnod pan fo’n ofynnol fel arfer i weithiwr amaethyddol weithio o dan naill ai ei gontract gwasanaeth neu ei brentisiaeth.

(2Mae gan weithiwr amaethyddol y mae ei gyflogwr yn ei gwneud yn ofynnol iddo weithio ar yr ŵyl gyhoeddus neu’r ŵyl banc hawl i gael tâl nad yw’n llai na’r gyfradd goramser a bennir yn erthygl 13.

(3Mae balans y gwyliau blynyddol sydd wedi eu cronni ar gyfer y flwyddyn gwyliau honno o dan y Gorchymyn hwn gan weithiwr amaethyddol nad yw ei gyflogwr yn ei gwneud yn ofynnol iddo weithio ar yr ŵyl gyhoeddus neu’r ŵyl banc i gael ei leihau o 1 diwrnod mewn cysylltiad â’r ŵyl gyhoeddus neu’r ŵyl banc nad yw’n ofynnol i’r gweithiwr amaethyddol weithio arni.

Taliad yn lle gwyliau blynyddol

36.—(1Yn ddarostyngedig i’r amodau ym mharagraff (2), caiff gweithiwr amaethyddol a’i gyflogwr gytuno bod y gweithiwr amaethyddol i gael taliad yn lle diwrnod o hawl gwyliau blynyddol y gweithiwr amaethyddol.

(2Yr amodau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) yw—

(a)bod uchafswm nifer y diwrnodau y caiff gweithiwr amaethyddol gael taliad yn lle gwyliau blynyddol ar eu cyfer yn ystod unrhyw flwyddyn gwyliau blynyddol wedi ei ragnodi yn y Tabl yn Atodlen 6;

(b)bod cofnod ysgrifenedig i’w gadw gan y cyflogwr ynglŷn ag unrhyw gytundeb y caiff gweithiwr amaethyddol daliad yn lle diwrnod o wyliau blynyddol am o leiaf 3 blynedd gan gychwyn ar ddiwedd y flwyddyn gwyliau honno;

(c)o dan amgylchiadau pan nad yw’r gweithiwr amaethyddol yn gweithio ar ddiwrnod fel y cytunir yn unol â pharagraff (1), bod y diwrnod hwnnw i barhau’n rhan o hawl gwyliau blynyddol y gweithiwr amaethyddol;

(d)bod taliad yn lle gwyliau blynyddol i’w dalu ar gyfradd sy’n cynnwys y gyfradd goramser a bennir yn erthygl 13 yn ogystal â thâl gwyliau a gyfrifir yn unol ag erthygl 34 fel pe bai’r diwrnod y gwneir taliad yn lle gwyliau blynyddol ar ei gyfer yn ddiwrnod y mae’r gweithiwr amaethyddol yn cymryd gwyliau blynyddol.

Talu tâl gwyliau wrth derfynu cyflogaeth

37.—(1Pan derfynir cyflogaeth gweithiwr amaethyddol ac nad yw’r gweithiwr amaethyddol wedi cymryd yr holl hawl gwyliau blynyddol sydd wedi cronni iddo ar ddyddiad terfynu’r gyflogaeth, mae gan y gweithiwr amaethyddol hawl yn unol â pharagraff (2) i gael taliad yn lle’r gwyliau blynyddol a gronnwyd ond nas cymerwyd.

(2Mae swm y taliad sydd i’w dalu i’r gweithiwr amaethyddol yn lle pob diwrnod o’i wyliau blynyddol a gronnwyd ond nas cymerwyd ar ddyddiad terfynu’r gyflogaeth i’w gyfrifo yn unol ag erthygl 34 fel pe bai dyddiad terfynu’r gyflogaeth yn ddiwrnod cyntaf cyfnod o wyliau blynyddol y gweithiwr amaethyddol.

Adennill tâl gwyliau

38.—(1Os terfynir cyflogaeth gweithiwr amaethyddol cyn diwedd y flwyddyn gwyliau blynyddol a bod y gweithiwr amaethyddol wedi cymryd mwy o wyliau blynyddol nag yr oedd ganddo hawl i’w cael o dan ddarpariaethau’r Gorchymyn hwn neu fel arall, mae gan ei gyflogwr hawl i adennill swm y tâl gwyliau a dalwyd i’r gweithiwr amaethyddol mewn cysylltiad â gwyliau blynyddol a gymerwyd uwchlaw ei hawl.

(2Pan fo gan gyflogwr hawl o dan baragraff (1) i adennill tâl gwyliau oddi ar weithiwr amaethyddol, caiff y cyflogwr wneud hynny drwy ei dynnu oddi ar daliad cyflog olaf y gweithiwr amaethyddol.

Absenoldeb oherwydd profedigaeth

39.—(1Mae gan weithiwr amaethyddol hawl i gael absenoldeb oherwydd profedigaeth â thâl o dan amgylchiadau pan fo’r brofedigaeth yn ymwneud â pherson yng Nghategori A neu Gategori B.

(2At ddibenion paragraff (1), personau yng Nghategori A yw—

(a)rhiant i’r gweithiwr amaethyddol;

(b)mab neu ferch i’r gweithiwr amaethyddol;

(c)priod neu bartner sifil y gweithiwr amaethyddol; neu

(d)rhywun y mae’r gweithiwr amaethyddol yn byw gydag ef fel gŵr a gwraig heb fod yn gyfreithiol briod neu rywun y mae’r gweithiwr amaethyddol yn byw gydag ef fel pe baent mewn partneriaeth sifil.

(3At ddibenion paragraff (1), personau yng Nghategori B yw—

(a)brawd neu chwaer i’r gweithiwr amaethyddol;

(b)nain neu daid i’r gweithiwr amaethyddol; neu

(c)ŵyr neu wyres i’r gweithiwr amaethyddol.

(4At ddibenion paragraff (1) mae absenoldeb oherwydd profedigaeth yn ychwanegol at unrhyw hawliau eraill i gael absenoldeb o dan y Gorchymyn hwn.

Pennu swm absenoldeb oherwydd profedigaeth

40.—(1Swm yr absenoldeb oherwydd profedigaeth y mae gan weithiwr amaethyddol hawl i’w gael yn sgil marwolaeth person yng Nghategori A yw—

(a)4 diwrnod pan fo’r gweithiwr amaethyddol yn gweithio ei oriau sylfaenol ar 5 niwrnod neu fwy bob wythnos i’r un cyflogwr; neu

(b)pan fo’r gweithiwr amaethyddol yn gweithio ei oriau sylfaenol ar 4 diwrnod yr wythnos neu lai i’r un cyflogwr, nifer y diwrnodau a gyfrifir yn unol â pharagraff (2).

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (6), mae swm hawl gweithiwr amaethyddol i gael absenoldeb oherwydd profedigaeth yn sgil marwolaeth person yng Nghategori A i’w gyfrifo yn ôl y fformwla a ganlyn—

(3Swm yr absenoldeb oherwydd profedigaeth y mae gan weithiwr amaethyddol hawl i’w gael yn sgil marwolaeth person yng Nghategori B yw—

(a)2 ddiwrnod pan fo’r gweithiwr amaethyddol yn gweithio ei oriau sylfaenol ar 5 niwrnod neu fwy bob wythnos i’r un cyflogwr; neu

(b)pan fo’r gweithiwr amaethyddol yn gweithio ei oriau sylfaenol ar 4 diwrnod yr wythnos neu lai i’r un cyflogwr, nifer y diwrnodau a gyfrifir yn unol â pharagraff (4).

(4Yn ddarostyngedig i baragraff (6), pan fo’r erthygl hon yn gymwys mae swm hawl gweithiwr amaethyddol i gael absenoldeb oherwydd profedigaeth yn sgil marwolaeth person yng Nghategori B i’w gyfrifo yn ôl y fformwla a ganlyn—

(5At ddibenion y fformwla ym mharagraffau (2) a (4), DWEW yw nifer y diwrnodau a weithiwyd bob wythnos gan y gweithiwr amaethyddol wedi ei gyfrifo yn unol ag erthygl 30 neu 31 (fel y bo’n briodol).

(6Pan fo’r cyfrifiad ym mharagraff (2) neu (4) yn arwain at hawl i gael absenoldeb oherwydd profedigaeth o lai nag 1 diwrnod, mae’r hawl i’w thalgrynnu i fyny i un diwrnod cyfan.

(7O dan amgylchiadau pan fo mwy nag un gyflogaeth gan weithiwr amaethyddol (boed gyda’r un cyflogwr neu gyda chyflogwyr gwahanol), caniateir cymryd absenoldeb oherwydd profedigaeth â thâl mewn cysylltiad â mwy nag un gyflogaeth ond ni chaiff, mewn cysylltiad ag unrhyw un brofedigaeth, fod yn fwy nag uchafswm yr absenoldeb oherwydd profedigaeth a bennir ar gyfer un gyflogaeth yn yr erthygl hon.

Swm tâl absenoldeb oherwydd profedigaeth

41.  Mae swm y tâl mewn cysylltiad ag absenoldeb oherwydd profedigaeth i’w bennu yn unol â’r darpariaethau yn erthygl 34 fel pe bai diwrnod cyntaf absenoldeb y gweithiwr amaethyddol oherwydd profedigaeth yn ddiwrnod cyntaf gwyliau blynyddol y gweithiwr hwnnw.

Absenoldeb di-dâl

42.  Caiff gweithiwr amaethyddol gymryd cyfnod o absenoldeb di-dâl, gyda chydsyniad ei gyflogwr.

RHAN 6Dirymu a darpariaeth drosiannol

Dirymu a darpariaeth drosiannol

43.—(1Mae Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol (Cymru) 2019(11) (“Gorchymyn 2019”) wedi ei ddirymu.

(2Mae gweithiwr amaethyddol a gyflogir fel gweithiwr ar Radd neu fel prentis, ac sy’n ddarostyngedig i’r telerau a’r amodau a ragnodwyd yng Ngorchymyn 2019 neu unrhyw Orchmynion blaenorol, yn parhau i fod wedi ei gyflogi ar y Radd honno neu fel prentis ac mae, o’r dyddiad y daw’r Gorchymyn hwn i rym, yn ddarostyngedig i’r telerau a’r amodau a ragnodir yn y Gorchymyn hwn.

(3Yn yr erthygl hon ystyr “Gorchmynion blaenorol” yw Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol (Cymru) 2018(12), Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol (Cymru) 2017(13), Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol (Cymru) 2016(14), Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol (Cymru a Lloegr) 2012 a phob gorchymyn a ddirymwyd gan erthygl 70 o’r Gorchymyn hwnnw.

Lesley Griffiths

Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru

26 Mawrth 2020

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources