- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau.
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Cofnodir newidiadau ac effeithiau gan ein tîm golygyddol mewn rhestrau sydd i'w gweld yn yr adran 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth'. Os nad yw'r effeithiau hynny wedi'u cymhwyso eto i destun y ddeddfwriaeth gan y tîm golygyddol maent hefyd wedi'u rhestru ochr yn ochr â'r ddeddfwriaeth yn y darpariaethau yr effeithir arnynt. Defnyddiwch y ddolen 'mwy' i agor y newidiadau a'r effeithiau sy'n berthnasol i'r ddarpariaeth rydych yn edrych arni.
Whole provisions yet to be inserted into this Instrument (including any effects on those provisions):
12.—(1) Mae person sydd—
(a)heb esgus rhesymol, yn torri gofyniad yn rheoliad 4, [F15(3C),] 6, [F26A,] 7, 8(5) neu 9(4), neu
(b)yn torri’r gofyniad yn rheoliad 8(1),
yn cyflawni trosedd.
(2) Mae person sy’n rhwystro, heb esgus rhesymol, unrhyw berson rhag cyflawni swyddogaeth o dan y Rheoliadau hyn yn cyflawni trosedd.
(3) Mae person sydd, heb esgus rhesymol, yn torri cyfarwyddyd, neu’n methu â chydymffurfio â chyfarwyddiad neu hysbysiad gwahardd, a roddir gan berson perthnasol o dan reoliad 10 yn cyflawni trosedd.
(4) Mae trosedd o dan y Rheoliadau hyn i’w chosbi ar euogfarn ddiannod drwy ddirwy.
(5) Mae adran 24 o Ddeddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 1984(1) yn gymwys mewn perthynas â throsedd o dan y rheoliad hwn fel petai’r rhesymau yn is-adran (5) yn cynnwys—
(a)i gynnal iechyd y cyhoedd;
(b)i gynnal trefn gyhoeddus.
(6) Os profir bod trosedd o dan baragraff (1) wedi ei chyflawni gan gorff corfforedig—
(a)wedi ei chyflawni â chydsyniad neu ymoddefiad swyddog i’r corff hwnnw, neu
(b)i’w phriodoli i unrhyw esgeulustod ar ran y swyddog hwnnw,
mae’r swyddog (yn ogystal â’r corff corfforedig) yn euog o’r drosedd ac yn agored i gael ei erlyn, i gael achos yn ei erbyn a’i gosbi yn unol â hynny.
(7) Ym mharagraff (6), ystyr “swyddog”, mewn perthynas â chorff corfforedig, yw cyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog tebyg arall i’r corff corfforedig.
(8) Caniateir i achos am drosedd o dan y Rheoliadau hyn yr honnir ei bod wedi ei chyflawni gan bartneriaeth gael ei ddwyn yn enw’r bartneriaeth yn hytrach nag yn enw unrhyw un neu ragor o’r partneriaid.
(9) Caniateir i achos am drosedd o dan y Rheoliadau hyn yr honnir ei bod wedi ei chyflawni gan gorff anghorfforedig ac eithrio partneriaeth gael ei dwyn yn enw’r corff yn hytrach nag yn enw unrhyw un neu ragor o’i aelodau ac, at ddibenion unrhyw achos o’r fath, mae unrhyw reolau llys sy’n ymwneud â chyflwyno dogfennau yn cael effaith fel pe bai’r corff hwnnw yn gorff corfforedig.
(10) Mae adran 33 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1925(2) ac Atodlen 3 i Ddeddf Llysoedd Ynadon 1980(3) yn gymwys mewn achos am drosedd a ddygir yn erbyn partneriaeth neu gymdeithas anghorfforedig ac eithrio partneriaeth fel y maent yn gymwys i gorff corfforedig.
(11) Mae dirwy a osodir ar bartneriaeth ar ei heuogfarnu o drosedd o dan y Rheoliadau hyn i’w thalu o gronfeydd y bartneriaeth.
(12) Mae dirwy a osodir ar gymdeithas anghorfforedig ac eithrio partneriaeth ar ei heuogfarnu o drosedd o dan y Rheoliadau hyn i’w thalu o gronfeydd y gymdeithas.
Diwygiadau Testunol
F1Gair yn rhl. 12(1)(a) wedi ei fewnosod (C.) (25.4.2020 am 12.01 a.m.) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2020 (O.S. 2020/452), rhlau. 1(1), 6(9)
F2Gair yn rhl. 12(1)(a) wedi ei fewnosod (C.) (7.4.2020 am 12.01 a.m.) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) (Diwygio) 2020 (O.S. 2020/399), rhlau. 1(1), 7(5)
Gwybodaeth Cychwyn
1984 p. 60. Amnewidwyd adran 24 gan adran 110(1) o Ddeddf Troseddau Cyfundrefnol Difrifol a’r Heddlu 2005 (p. 15)
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: