- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau.
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Cofnodir newidiadau ac effeithiau gan ein tîm golygyddol mewn rhestrau sydd i'w gweld yn yr adran 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth'. Os nad yw'r effeithiau hynny wedi'u cymhwyso eto i destun y ddeddfwriaeth gan y tîm golygyddol maent hefyd wedi'u rhestru ochr yn ochr â'r ddeddfwriaeth yn y darpariaethau yr effeithir arnynt. Defnyddiwch y ddolen 'mwy' i agor y newidiadau a'r effeithiau sy'n berthnasol i'r ddarpariaeth rydych yn edrych arni.
Whole provisions yet to be inserted into this Instrument (including any effects on those provisions):
3.—(1) At ddibenion y Rheoliadau hyn, mae “cyfnod yr argyfwng”—
(a)yn dechrau pan ddaw’r Rheoliadau hyn i rym, a
(b)yn gorffen mewn perthynas â gofyniad neu gyfyngiad a osodir gan y Rheoliadau hyn ar y diwrnod ac ar yr adeg a bennir mewn cyfarwyddyd a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru sy’n terfynu’r gofyniad neu’r cyfyngiad (gweler paragraffau (3) a (4)).
(2) Rhaid i Weinidogion Cymru adolygu’r angen am gyfyngiadau a gofynion a osodir gan y Rheoliadau hyn bob 21 o ddiwrnodau, gyda’r adolygiad cyntaf yn cael ei gynnal erbyn [F116] Ebrill 2020.
(3) Cyn gynted ag y bo Gweinidogion Cymru yn ystyried nad oes angen gofyniad neu gyfyngiad a osodir gan y Rheoliadau hyn mwyach i atal, i ddiogelu rhag, i reoli neu i ddarparu ymateb iechyd y cyhoedd i fynychder neu ledaeniad haint yng Nghymru â’r coronafeirws, rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi cyfarwyddyd sy’n terfynu’r gofyniad neu’r cyfyngiad.
[F2(4) Caiff Gweinidogion Cymru, os ydynt yn ystyried ei bod yn briodol gwneud hynny gan roi sylw i’r angen i atal, diogelu rhag, rheoli neu ddarparu ymateb iechyd y cyhoedd i fynychder neu ledaeniad haint yng Nghymru â’r coronafeirws, gyhoeddi cyfarwyddyd sy’n terfynu gofyniad neu gyfyngiad mewn perthynas ag —
(a)busnes neu wasanaeth penodedig neu ddisgrifiad penodedig o fusnes neu wasanaeth;
(b)disgrifiad penodedig o bersonau;
(c)rhan benodedig o Gymru.
(4A) Nid yw terfynu cyfyngiad neu ofyniad drwy gyfarwyddyd yn effeithio—
(a)ar unrhyw gosbedigaeth yr eir iddi mewn cysylltiad ag unrhyw drosedd a gyflawnir o dan y Rheoliadau hyn cyn i’r cyfyngiad neu’r gofyniad gael ei derfynu,
(b)ar unrhyw hysbysiad cosb benodedig a ddyroddir o dan reoliad 13 mewn perthynas ag ymddygiad sy’n digwydd cyn i’r cyfyngiad neu’r gofyniad gael ei derfynu, neu
(c)ar unrhyw ymchwiliad, achos cyfreithiol neu rwymedi mewn cysylltiad—
(i)ag unrhyw drosedd neu ymddygiad o’r fath, neu
(ii)ag unrhyw drosedd honedig o dan y Rheoliadau hyn yr honnir ei bod wedi ei chyflawni cyn i’r cyfyngiad neu’r gofyniad gael ei derfynu,
a chaniateir cychwyn, parhau neu orfodi unrhyw ymchwiliad, achos cyfreithiol neu rwymedi o’r fath, a chaniateir gosod unrhyw gosbedigaeth neu gosb o’r fath, fel pe na bai’r terfyniad wedi digwydd.]
(5) Yn y rheoliad hwn, ystyr “penodedig” yw wedi ei bennu mewn cyfarwyddyd.
Diwygiadau Testunol
F1Gair yn rhl. 3(2) wedi ei amnewid (C.) (7.4.2020 am 12.01 a.m.) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) (Diwygio) 2020 (O.S. 2020/399), rhlau. 1(1), 7(3)
F2Rhl. 3(4)(4A) wedi ei amnewid ar gyfer rhl. 3(4) (C.) (25.4.2020 am 12.01 a.m.) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2020 (O.S. 2020/452), rhlau. 1(1), 2
Gwybodaeth Cychwyn
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: