Search Legislation

Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) (Diwygio) (Cymru) 2020

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.

Offerynnau Statudol Cymru

2020 Rhif 367 (Cy. 82)

Cynllunio Gwlad A Thref, Cymru

Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) (Diwygio) (Cymru) 2020

Gwnaed

27 Mawrth 2020

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

30 Mawrth 2020

Yn dod i rym

30 Mawrth 2020

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 59, 60(1), 61(1) a 333(7) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990(1) ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy(2), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) (Diwygio) (Cymru) 2020 a daw i rym ar 30 Mawrth 2020.

(2Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.

Diwygio Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) 1995

2.—(1Mae Atodlen 2 i Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) 1995(3) wedi ei diwygio fel y nodir ym mharagraff (2).

(2Ar ôl Rhan 12 (Datblygu gan Awdurdodau Lleol) mewnosoder—

Part 12AEmergency Development by Local Authorities

Class A

A. Permitted development

Development by a local authority on land owned, leased, occupied or maintained by it for the purposes of—

(a)preventing an emergency;

(b)reducing, controlling or mitigating the effects of an emergency; or

(c)taking other action in connection with an emergency.

A.1 Conditions

Development is permitted by Class A subject to the following conditions—

(a)if the developer is not also the local planning authority, the developer must, as soon as reasonably practicable notify the local planning authority of that development; and

(b)on or before the expiry of the period of twelve months beginning with the date on which the development began—

(i)any use of that land for a purpose of Class A must cease and any buildings, plant, machinery, structures and erections permitted by Class A must be removed; and

(ii)the land must be restored to its condition before the development took place, or to such other state as may be agreed in writing between the local planning authority and the developer.

A.2 Interpretation of Class A

(1) For the purposes of Class A, “emergency” means an event or situation which threatens serious damage to human welfare in a place in the United Kingdom.

(2) For the purposes of paragraph (1), an event or situation threatens damage to human welfare only if it involves, causes or may cause—

(a)loss of human life;

(b)human illness or injury;

(c)homelessness;

(d)damage to property;

(e)disruption of a supply of money, food, water, energy or fuel;

(f)disruption of a system of communication;

(g)disruption of facilities for transport; or

(h)disruption of services relating to health.

Julie James

Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru

27 Mawrth 2020

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) 1995 (“y GDCG”).

Mae erthygl 3 o’r GDCG, ac Atodlen 2 iddo, yn rhoi hawliau datblygu a ganiateir mewn cysylltiad â datblygu penodol. Pan roddir yr hawliau hynny, nid yw cais am ganiatâd cynllunio yn ofynnol.

Mae erthygl 2 o’r Gorchymyn hwn yn diwygio Atodlen 2 i’r GDCG drwy fewnosod Rhan 12A newydd (Datblygu Brys gan Awdurdodau Lleol) i ganiatáu i awdurdodau lleol yng Nghymru wneud gwaith datblygu penodol mewn argyfwng yn unol â’r Rhan honno. At y dibenion hyn, ystyr argyfwng yw digwyddiad neu sefyllfa sy’n bygwth gwneud niwed difrifol i les pobl mewn lle yn y Deyrnas Unedig.

Y datblygu a ganiateir yw datblygu at ddibenion—

(a)atal argyfwng,

(b)lleihau, rheoli neu liniaru effeithiau argyfwng, neu

(c)cymryd camau eraill mewn cysylltiad ag argyfwng.

Mae’r datblygu a ganiateir yn ddarostyngedig i amodau sydd hefyd wedi eu nodi yn y Rhan 12A newydd.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn. Mae copïau ar gael oddi wrth: Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ ac ar wefan Llywodraeth Cymru ar www.llyw.cymru

(1)

1990 p. 8. Mewnosodwyd adran 59(4) gan adran 55 o Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015 (dccc 4), a pharagraff 5 o Atodlen 7 iddi. Mae diwygiadau eraill nad ydynt yn berthnasol i’r offeryn hwn.

(2)

Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol o dan adrannau 59, 60(1), 61(1) a 333(7), i’r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac Atodlen 1 iddo: gweler y cofnod yn Atodlen 1 ar gyfer Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 fel y’i hamnewidiwyd gan erthygl 4 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 2000 (O.S. 2000/253), ac Atodlen 3 iddo. Yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32), a pharagraffau 30 a 32 o Atodlen 11 iddi, trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru.

(3)

O.S. 1995/418 y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r offeryn hwn.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources