Search Legislation

Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Anifeiliaid, Bwyd Anifeiliaid a Bwyd, Ffioedd Iechyd Planhigion etc.) (Cymru) 2020

Statws

This is the original version (as it was originally made).

RHAN 3Cymorth a chydweithrediad o dan Deitl IV ac adennill treuliau

Dyletswyddau awdurdodau dynodedig

8.  Rhaid i awdurdod dynodedig hysbysu Gweinidogion Cymru os yw’n ystyried nad yw’n gallu cymryd camau sy’n ofynnol mewn unrhyw achos unigol o dan Deitl IV (cymorth gweinyddol a chydweithrediad) a rhaid iddo ddarparu unrhyw wybodaeth y gwneir cais rhesymol amdani i Weinidogion Cymru.

Hwyluso cymorth a chydweithrediad

9.—(1At ddibenion cynorthwyo awdurdod cymwys o Aelod-wladwriaeth arall fel a ddarperir yn Erthygl 104, neu alluogi Gweinidogion Cymru neu awdurdod dynodedig i wneud hynny, caiff arolygydd sy’n arfer pwerau o dan ddeddfwriaeth berthnasol i fynd i fangre neu i arolygu cofnodion—

(a)mynd â swyddogion awdurdodedig awdurdod cymwys gwlad arall gydag ef,

(b)dangos cofnodion i’r swyddogion awdurdodedig hynny sy’n mynd gydag ef, ac

(c)gwneud copïau o’r cofnodion ar eu cyfer, neu ei gwneud yn ofynnol i gopïau o’r cofnodion gael eu gwneud ar eu cyfer.

(2At ddibenion hwyluso ymweliad gan dîm arolygu fel a ddarperir yn Erthygl 108, caiff arolygydd fynd â chynrychiolwyr o Gomisiwn yr UE gydag ef wrth arfer pwerau o dan ddeddfwriaeth berthnasol i fynd i fangre ac arolygu cofnodion.

(3Caniateir ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson ddarparu i swyddog gorfodi unrhyw gymorth, unrhyw wybodaeth neu unrhyw gyfleusterau sy’n rhesymol ofynnol gan y swyddog at ddiben gweithredu neu orfodi’r Rheoliadau hyn neu Reoliadau Rheolaethau Swyddogol yr UE.

Adennill treuliau

10.—(1Caniateir codi unrhyw dreuliau y mae Gweinidogion Cymru neu awdurdod dynodedig yn mynd iddynt wrth gyflawni gweithgareddau gorfodi o dan y Rheoliadau hyn, neu fesurau o dan Erthygl 66, 67, 69 neu 138 ar y gweithredwr busnes perthnasol a rhaid talu’r treuliau hynny pan gyflwynir archiad ysgrifenedig amdanynt.

(2Caniateir adennill unrhyw swm sy’n ddyledus o dan y Rheoliadau hyn ac nad yw wedi ei dalu—

(a)fel dyled sifil;

(b)o dan orchymyn llys, yn unol ag unrhyw delerau y mae’r llys yn eu gorchymyn.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources