- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
11.—(1) Cyfrifoldeb yr awdurdod cymwys neu awdurdod dynodedig yw gorfodi’r Rheoliadau hyn a Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol yr UE.
(2) Mewn perthynas ag achosion o ddisgrifiad penodol neu mewn unrhyw achos penodol, caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo bod y Rheoliadau hyn i’w gorfodi gan Weinidogion Cymru yn hytrach nag awdurdod lleol.
12.—(1) Caiff swyddog gorfodi—
(a)gwneud unrhyw ymholiadau, arsylwi unrhyw weithgaredd neu broses, a chymryd ffotograffau;
(b)arolygu unrhyw eitem, cynhwysydd, cyfarpar, offer neu gofnodion o unrhyw ddosbarth yr ymddengys i’r swyddog gorfodi eu bod yn berthnasol at ddibenion yr ymchwiliad, a chaiff wneud copïau o unrhyw gofnodion neu ei gwneud yn ofynnol i gopïau gael eu gwneud a mynd ag unrhyw gofnodion ymaith fel y bo’n rhesymol ofynnol;
(c)marcio unrhyw eitem at ddibenion adnabod;
(d)gwneud dangos unrhyw label, unrhyw ddogfen neu unrhyw gofnod (ar ba bynnag ffurf y caiff ei chadw neu ei gadw) yn ofynnol;
(e)arolygu a gwneud copi o unrhyw label, unrhyw ddogfen neu unrhyw gofnod, neu wneud copi o ran ohoni neu ohono;
(f)cael mynediad i unrhyw gyfrifiadur, ac arolygu a gwirio’r data ar unrhyw gyfrifiadur, a’i weithrediad;
(g)os oes gan y swyddog gorfodi reswm i gredu bod person yn torri’r Rheoliadau hyn neu Reoliadau Rheolaethau Swyddogol yr UE, ac y gallai’r data fod yn berthnasol i’r toriad, ymafael mewn unrhyw offer cyfrifiadurol a’i gadw at ddiben copïo’r data neu, os nad yw wedi bod yn bosibl cynnal arolygiad digonol yn y fangre, at ddiben ei arolygu ymhellach;
(h)os oes gan y swyddog gorfodi reswm i gredu bod person yn torri’r Rheoliadau hyn neu Reoliadau Rheolaethau Swyddogol yr UE, ac y gallai cofnodion penodol fod yn berthnasol i’r toriad, ymafael yn y cofnodion a’u cadw.
(2) Rhaid i swyddog gorfodi—
(a)dangos tystiolaeth o awdurdodiad pan ofynnir iddo wneud hynny;
(b)cyn gynted ag y bo’n rhesymol bosibl—
(i)darparu i’r person yr ymddengys ei fod yn gyfrifol am unrhyw gofnodion yr eir â hwy ymaith o unrhyw fangre dderbyneb ysgrifenedig sy’n nodi’r cofnodion hynny, a
(ii)ar ôl penderfynu nad oes eu hangen mwyach, dychwelyd unrhyw beth yr eir ag ef ymaith, ar wahân i gofnodion neu bethau eraill sydd i’w defnyddio fel tystiolaeth mewn achos llys.
13.—(1) Caiff swyddog gorfodi fynd i unrhyw fangre (ac eithrio unrhyw fangre a ddefnyddir yn llwyr neu’n bennaf fel annedd breifat) yn ystod oriau gwaith arferol heb roi hysbysiad ymlaen llaw, os yw’r swyddog yn credu bod hynny’n angenrheidiol at ddiben rheolaethau swyddogol neu weithgareddau swyddogol eraill o dan y Rheoliadau hyn neu Reoliadau Rheolaethau Swyddogol yr UE.
(2) Mewn amgylchiadau pan fo swyddog gorfodi yn cynnal gwiriadau dilysu arferol, rhaid darparu hysbysiad cyn arfer pŵer i fynd i fangre yn ystod oriau gwaith arferol.
(3) Nid yw’r gofyniad i roi hysbysiad ym mharagraff (2) yn gymwys—
(a)pan fo ymdrechion rhesymol i gytuno ar apwyntiad wedi methu,
(b)pan fo’r swyddog gorfodi yn credu’n rhesymol y byddai rhoi hysbysiad yn mynd yn groes i fwriad mynd i’r fangre, gan gynnwys unrhyw sefyllfa nad yw hysbysiad yn ofynnol ynddi o dan Erthygl 9(4), neu
(c)pan fo gan y swyddog gorfodi amheuaeth resymol bod unrhyw ddarpariaeth yn y Rheoliadau hyn neu yn Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol yr UE wedi ei thorri.
(4) Rhaid i swyddog gorfodi ddangos dogfen awdurdodi sydd wedi ei dilysu’n briodol, os gofynnir iddo wneud hynny.
(5) Caiff ynad heddwch lofnodi gwarant i ganiatáu i swyddog gorfodi fynd i unrhyw fangre, gan gynnwys tŷ annedd, a hynny gan ddefnyddio grym rhesymol os oes angen, os yw’r ynad wedi ei fodloni ar sail gwybodaeth ysgrifenedig a roddir ar lw—
(a)bod sail resymol dros fynd i’r fangre honno at ddibenion gorfodi’r Rheoliadau hyn neu Reoliadau Rheolaethau Swyddogol yr UE, a
(b)y bodlonir neu ragor o’r amodau ym mharagraff (6).
(6) Yr amodau yw—
(a)bod mynediad i’r fangre wedi ei wrthod, neu’n debygol o gael ei wrthod, a bod hysbysiad o’r bwriad i wneud cais am warant wedi ei roi i’r meddiannydd;
(b)y byddai gofyn am gael mynediad i’r fangre, neu roi hysbysiad o’r fath, yn mynd yn groes i’r amcan o fynd i’r fangre;
(c)bod angen mynd i’r fangre ar fyrder;
(d)bod y fangre heb ei meddiannu neu’r meddiannydd yn absennol dros dro.
(7) Mae gwarant yn ddilys am 30 o ddiwrnodau o ddyddiad ei llofnodi.
(8) Rhaid i swyddog gorfodi sy’n mynd i unrhyw fangre nad yw wedi ei meddiannu, neu y mae’r meddiannydd yn absennol ohoni dros dro, ei gadael wedi ei diogelu yr un mor effeithiol rhag mynediad heb awdurdod ag yr ydoedd cyn iddo fynd iddi.
(9) Caiff swyddog gorfodi—
(a)mynd ag unrhyw bersonau eraill, hyd at uchafswm o dri, y mae’r swyddog gorfodi yn ystyried eu bod yn angenrheidiol, gydag ef;
(b)dod ag unrhyw gyfarpar i’r fangre y mae’r swyddog gorfodi yn ystyried ei fod yn angenrheidiol.
14.—(1) Mae person yn euog o drosedd os yw’r person hwnnw, heb esgus rhesymol, yn rhwystro neu’n peri neu’n caniatáu rhwystro—
(a)archwilydd,
(b)arolygydd,
(c)unrhyw berson sy’n mynd gydag archwilydd perthnasol neu arolygydd perthnasol, neu
(d)swyddog gorfodi.
(2) At ddibenion paragraff (1), mae rhwystro yn cynnwys methiant gan unrhyw berson—
(a)i ddangos cofnodion neu ddarparu cyfleusterau rhesymol ar gyfer copïo cofnodion, neu
(b)i ddarparu gwybodaeth berthnasol pan ofynnir iddo wneud hynny.
(3) Mae person yn euog o drosedd os yw’r person hwnnw, heb esgus rhesymol, yn darparu gwybodaeth sy’n anwir neu’n gamarweiniol o ran unrhyw fanylyn perthnasol.
(4) Mae person sy’n euog o drosedd o dan y rheoliad hwn yn agored, o’i euogfarnu’n ddiannod, i ddirwy o unrhyw swm.
15.—(1) Os bydd corff corfforedig yn cyflawni trosedd o dan reoliad 14, ac os dangosir bod y drosedd wedi ei chyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad swyddog, neu ei bod i’w phriodoli i esgeulustod ar ran y swyddog hwnnw, mae’r swyddog hwnnw yn ogystal â’r corff corfforedig yn euog o’r drosedd ac yn agored i’w erlyn a’i gosbi yn unol â hynny.
(2) Os yw materion busnes corff corfforedig yn cael eu rheoli gan ei aelodau, mae paragraff (1) yn gymwys mewn perthynas â gweithredoedd a diffyg gweithredoedd aelod mewn cysylltiad â’i swyddogaethau rheoli, fel pe bai’r person hwnnw yn un o gyfarwyddwyr y corff.
(3) Ystyr “swyddog”, mewn perthynas â chorff corfforedig, yw cyfarwyddwr, aelod o’r pwyllgor rheoli, prif weithredwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog cyffelyb arall y corff, neu berson sy’n honni ei fod yn gweithredu fel unrhyw un o’r rhain.
16. Caiff erlyniad am drosedd o dan y Rhan hon gychwyn yn ddim hwyrach na’r cynharaf o’r adeg y daw’r canlynol i ben—
(a)tair blynedd o adeg cyflawni’r drosedd, neu
(b)blwyddyn o adeg ei darganfod gan yr awdurdod erlyn.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: