Search Legislation

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2020

Newidiadau dros amser i: Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2020

 Help about opening options

Alternative versions:

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2020. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Cofnodir newidiadau ac effeithiau gan ein tîm golygyddol mewn rhestrau sydd i'w gweld yn yr adran 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth'. Os nad yw'r effeithiau hynny wedi'u cymhwyso eto i destun y ddeddfwriaeth gan y tîm golygyddol maent hefyd wedi'u rhestru ochr yn ochr â'r ddeddfwriaeth yn y darpariaethau yr effeithir arnynt. Defnyddiwch y ddolen 'mwy' i agor y newidiadau a'r effeithiau sy'n berthnasol i'r ddarpariaeth rydych yn edrych arni.

View outstanding changes

Changes and effects yet to be applied to :

Offerynnau Statudol Cymru

2020 Rhif 452 (Cy. 102)

Iechyd Y Cyhoedd, Cymru

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2020

Cymeradwywyd gan Senedd Cymru

Gwnaed

am 11:45 a.m. ar 24 Ebrill 2020

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

am 2:45 p.m. ar 24 Ebrill 2020

Yn dod i rym

12.01 a.m. ar 25 Ebrill 2020

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 45C(1) a (3)(c), 45F(2) a 45P o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984(1).

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud mewn ymateb i’r bygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd a berir gan fynychder a lledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru.

Mae Gweinidogion Cymru yn ystyried bod y cyfyngiadau a’r gofynion a osodir gan y Rheoliadau hyn yn gymesur â’r hyn y maent yn ceisio ei gyflawni, sef ymateb iechyd y cyhoedd i’r bygythiad hwnnw.

Yn unol ag adran 45R o’r Ddeddf honno, oherwydd brys, mae Gweinidogion Cymru o’r farn ei bod yn angenrheidiol gwneud yr offeryn hwn heb fod drafft wedi ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac wedi ei gymeradwyo ganddo drwy benderfyniad.

Enwi, dod i rym a chymhwysoLL+C

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2020 a deuant i rym am 12.01 a.m. ar 25 Ebrill 2020.

(2Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “y Prif Reoliadau” yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020(2).

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 1 mewn grym ar 25.4.2020 am 12.01 a.m., gweler rhl. 1(1)

Cyfarwyddydau terfynuLL+C

2.  Yn rheoliad 3 o’r prif Reoliadau, yn lle paragraff (4) rhodder—

(4) Caiff Gweinidogion Cymru, os ydynt yn ystyried ei bod yn briodol gwneud hynny gan roi sylw i’r angen i atal, diogelu rhag, rheoli neu ddarparu ymateb iechyd y cyhoedd i fynychder neu ledaeniad haint yng Nghymru â’r coronafeirws, gyhoeddi cyfarwyddyd sy’n terfynu gofyniad neu gyfyngiad mewn perthynas ag —

(a)busnes neu wasanaeth penodedig neu ddisgrifiad penodedig o fusnes neu wasanaeth;

(b)disgrifiad penodedig o bersonau;

(c)rhan benodedig o Gymru.

(4A) Nid yw terfynu cyfyngiad neu ofyniad drwy gyfarwyddyd yn effeithio—

(a)ar unrhyw gosbedigaeth yr eir iddi mewn cysylltiad ag unrhyw drosedd a gyflawnir o dan y Rheoliadau hyn cyn i’r cyfyngiad neu’r gofyniad gael ei derfynu,

(b)ar unrhyw hysbysiad cosb benodedig a ddyroddir o dan reoliad 13 mewn perthynas ag ymddygiad sy’n digwydd cyn i’r cyfyngiad neu’r gofyniad gael ei derfynu, neu

(c)ar unrhyw ymchwiliad, achos cyfreithiol neu rwymedi mewn cysylltiad—

(i)ag unrhyw drosedd neu ymddygiad o’r fath, neu

(ii)ag unrhyw drosedd honedig o dan y Rheoliadau hyn yr honnir ei bod wedi ei chyflawni cyn i’r cyfyngiad neu’r gofyniad gael ei derfynu,

a chaniateir cychwyn, parhau neu orfodi unrhyw ymchwiliad, achos cyfreithiol neu rwymedi o’r fath, a chaniateir gosod unrhyw gosbedigaeth neu gosb o’r fath, fel pe na bai’r terfyniad wedi digwydd.

Gwybodaeth Cychwyn

I2Rhl. 2 mewn grym ar 25.4.2020 am 12.01 a.m., gweler rhl. 1(1)

Gofyniad i gynnal pellter corfforol mewn perthynas â mangreoedd penodolLL+C

3.—(1Mae rheoliadau 4, 5, 6 a 6A o’r prif Reoliadau wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Ar ôl rheoliad 4(5) mewnosoder—

(5A) Mae paragraff (5B) yn gymwys—

(a)i fangre a ddefnyddir i gynnal busnes neu ddarparu gwasanaeth a grybwyllir yn is-baragraff (1)(a), (b) neu (c) o baragraff 2 o Atodlen 1, neu

(b)pan fo mangre a ddefnyddir i gynnal busnes neu ddarparu gwasanaeth a restrir yn Rhan 2 neu 3 o Atodlen 1 wedi ei defnyddio at ddiben a grybwyllir ym mharagraff (5).

(5B) Pan fo’r paragraff hwn yn gymwys, rhaid i’r person sy’n gyfrifol am gynnal y busnes neu ddarparu’r gwasanaeth, yn ystod cyfnod yr argyfwng, gymryd pob mesur rhesymol i sicrhau—

(a)y cynhelir pellter o 2 fetr rhwng unrhyw bersonau yn y fangre (ac eithrio rhwng dau aelod o’r un aelwyd, neu rhwng gofalwr a’r person sy’n cael cymorth gan y gofalwr),

(b)nad yw personau ond yn cael mynediad i’r fangre mewn niferoedd digon bach fel bod modd cynnal y pellter hwnnw, ac

(c)y cynhelir pellter o 2 fetr rhwng personau sy’n aros i fynd i’r fangre (ac eithrio rhwng dau aelod o’r un aelwyd, neu rhwng gofalwr a’r person sy’n cael cymorth gan y gofalwr).

(3Ar ôl rheoliad 5(3A) mewnosoder—

(3B) Mae paragraff (3C) yn gymwys pan fo mangre a ddefnyddir ar gyfer busnes a restrir yn Rhan 3 o Atodlen 1 wedi ei defnyddio—

(a)i ddarparu llety yn unol â pharagraff (3), neu

(b)i gynnal y busnes yn unol â pharagraff (3A).

(3C) Pan fo’r paragraff hwn yn gymwys, rhaid i’r person sy’n gyfrifol am gynnal y busnes, yn ystod cyfnod yr argyfwng, gymryd pob mesur rhesymol i sicrhau—

(a)y cynhelir pellter o 2 fetr rhwng unrhyw bersonau yn y fangre (ac eithrio rhwng dau aelod o’r un aelwyd, neu rhwng gofalwr a’r person sy’n cael cymorth gan y gofalwr),

(b)nad yw personau ond yn cael mynediad i’r fangre mewn niferoedd digon bach fel bod modd cynnal y pellter hwnnw, ac

(c)y cynhelir pellter o 2 fetr rhwng personau sy’n aros i fynd i’r fangre (ac eithrio rhwng dau aelod o’r un aelwyd, neu rhwng gofalwr a’r person sy’n cael cymorth gan y gofalwr).

(4Yn rheoliad 6, ar ôl paragraff (2) mewnosoder—

(2A) Pan na fo mangre wedi ei chau oherwydd ei bod yn fangre sydd ei hangen er mwyn cynnal busnes fel y’i caniateir gan baragraff (2)(a), rhaid i’r person sy’n gyfrifol am gynnal y busnes, yn ystod cyfnod yr argyfwng, gymryd pob mesur rhesymol i sicrhau—

(a)y cynhelir pellter o 2 fetr rhwng unrhyw bersonau yn y fangre (ac eithrio rhwng dau aelod o’r un aelwyd, neu rhwng gofalwr a’r person sy’n cael cymorth gan y gofalwr),

(b)nad yw personau ond yn cael mynediad i’r fangre mewn niferoedd digon bach fel bod modd cynnal y pellter hwnnw, ac

(c)y cynhelir pellter o 2 fetr rhwng personau sy’n aros i fynd i’r fangre (ac eithrio rhwng dau aelod o’r un aelwyd, neu rhwng gofalwr a’r person sy’n cael cymorth gan y gofalwr).

(5Yn rheoliad 6A, yn lle paragraff (2) rhodder—

(2) Nid yw paragraff (1) yn gymwys i fangre—

(a)a ddefnyddir i gynnal busnes, neu ddarparu gwasanaeth, a restrir yn Atodlen 1, neu

(b)y mae rheoliad 6(2A) yn gymwys iddi.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Rhl. 3 mewn grym ar 25.4.2020 am 12.01 a.m., gweler rhl. 1(1)

Cyfyngiad ar bersonau yn gadael y man lle y maent yn byw neu fod y tu allan iddoLL+C

4.—(1Mae rheoliad 8 o’r prif Reoliadau wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2Ym mharagraff (1), ar ôl “byw” mewnosoder “neu aros i ffwrdd o’r man hwnnw”.

(3Ym mharagraff (2)—

(a)yn lle is-baragraff (a) rhodder—

(a)i gael cyflenwadau oddi wrth unrhyw fusnes neu wasanaeth a restrir yn Rhan 4 o Atodlen 1 gan gynnwys—

(i)bwyd a chyflenwadau meddygol ar gyfer y rheini yn yr un aelwyd (gan gynnwys anifeiliaid yn yr aelwyd) neu ar gyfer personau hyglwyf;

(ii)cyflenwadau ar gyfer cynnal, cynnal a chadw a gweithrediad yr aelwyd, neu aelwyd person hyglwyf;

(aa)i gael arian oddi wrth unrhyw fusnes neu wasanaeth a restrir ym mharagraffau 38 neu 39 o Atodlen 1 neu i adneuo arian gydag unrhyw fusnes neu wasanaeth o’r fath;

(b)yn lle is-baragraff (b) rhodder—

(b)i wneud ymarfer corff, ddim mwy nag unwaith y dydd (neu’n amlach os oes angen hyn oherwydd cyflwr iechyd neu anabledd penodol), naill ai—

(i)ar ei ben ei hun,

(ii)gydag aelodau eraill o aelwyd y person, neu

(iii)gyda gofalwr y person;

(c)ar ôl is-baragraff (g) mewnosoder—

(ga)i ymweld â mynwent, claddfa neu ardd goffa i dalu teyrnged i berson ymadawedig;

(d)yn is-baragraff (i)—

(i)ym mharagraff (i), yn lle “blentyn y person” rhodder “blentyn y mae’r person yn rhiant mewn perthynas ag ef, neu y mae ganddo gyfrifoldeb rhiant drosto, neu ofal drosto”;

(ii)ym mharagraff (iii), yn y testun Saesneg, yn lle “Department of Work” rhodder “Department for Work”;

(e)yn is-baragraff (l), yn lle “fo’n angenrheidiol” rhodder “na fo modd gohirio’r symud”.

Gwybodaeth Cychwyn

I4Rhl. 4 mewn grym ar 25.4.2020 am 12.01 a.m., gweler rhl. 1(1)

GorfodiLL+C

5.—(1Mae rheoliad 10 o’r prif Reoliadau wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2Ym mharagraff (1)—

(a)hepgorer “os yw’r person perthnasol yn credu’n rhesymol”;

(b)yn is-baragraff (a)—

(i)ar y dechrau mewnosoder “os oes gan y person perthnasol sail resymol dros amau”;

(ii)ar ôl “4,” mewnosoder “5(3C),”;

(c)yn is-baragraff (b), ar y dechrau mewnosoder “os yw’r person perthnasol yn ystyried”.

(3Ym mharagraff (2), yn lle “person perthnasol yn ystyried” rhodder “gan berson perthnasol sail resymol dros amau”.

(4Yn lle paragraff (3) rhodder—

(3) Caiff person perthnasol—

(a)wrth arfer y pŵer ym mharagraff (2)(a) neu (b), gyfarwyddo P i ddilyn unrhyw gyfarwyddiadau y mae’r person perthnasol yn ystyried eu bod yn angenrheidiol;

(b)defnyddio grym rhesymol wrth arfer y pŵer ym mharagraff (2)(b).

(5Ym mharagraff (5), yn lle “ddiben paragraff (4)” rhodder “ddibenion y rheoliad hwn”.

(6Ym mharagraff (7), yn lle “person perthnasol yn ystyried” rhodder “gan berson perthnasol sail resymol dros amau”.

(7Yn lle paragraff (8) rhodder—

(8) Caiff person perthnasol sy’n arfer y pŵer ym mharagraff (7)—

(a)i gyfarwyddo cynulliad i wasgaru, neu

(b)i fynd â pherson i’r man lle y mae’n byw,

ddefnyddio grym rhesymol, os yw’n angenrheidiol, wrth arfer y pŵer.

(8A) Pan fo gan berson perthnasol sail resymol dros amau bod person (“P”) mewn cynulliad yn groes i reoliad 8(5) a’i fod yn blentyn gydag unigolyn (“U”) a chanddo gyfrifoldeb dros P—

(a)caiff y person perthnasol gyfarwyddo U i fynd â P i’r man lle y mae P yn byw, a

(b)rhaid i U, i’r graddau y mae’n rhesymol ymarferol, sicrhau bod P yn cydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddyd neu gyfarwyddiad a roddir gan y person perthnasol i P.

(8B) Ni chaiff person perthnasol arfer pŵer ym mharagraff (7) neu (8A) ond os yw’r person perthnasol yn ystyried ei bod yn angenrheidiol ac yn gymesur gwneud hynny.

(8Ym mharagraff (9)—

(a)yn lle “Caiff person perthnasol” rhodder “Os yw person perthnasol yn ystyried ei bod yn angenrheidiol ac yn gymesur at ddibenion atal, neu derfynu, torri rheoliad 9(4), caiff y person perthnasol”;

(b)ar ôl “rhesymol” mewnosoder “, os yw’n angenrheidiol,”.

(9Ym mharagraff (12), ar ôl “4,” mewnosoder “5(3C),”.

Gwybodaeth Cychwyn

I5Rhl. 5 mewn grym ar 25.4.2020 am 12.01 a.m., gweler rhl. 1(1)

Mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadolLL+C

6.—(1Mae’r prif Reoliadau wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 1(3)(e), ar ôl paragraff (iii) mewnosoder—

(iv)unrhyw blentyn;

(v)unrhyw berson sy’n oedolyn hyglwyf o fewn yr ystyr a roddir i “vulnerable adult” gan adran 60(1) o Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006(3).

(3Yn rheoliad 4(5)—

(a)yn is-baragraff (a), ar ôl “Ran 2” mewnosoder “o Atodlen 1”;

(b)yn lle is-baragraff (b) rhodder—

(b)o fangre a ddefnyddir ar gyfer y busnesau neu’r gwasanaethau a restrir yn Rhan 2 neu 3 o Atodlen 1 at unrhyw ddiben y mae Gweinidogion Cymru neu awdurdod lleol yn gofyn amdano;

(c)yn is-baragraff (c)(ii), hepgorer “archebion”.

(4Yn rheoliad 5(3A), hepgorer is-baragraff (a).

(5Yn rheoliad 6(2)(a)(ii), ar ôl “archebion” mewnosoder “neu ymholiadau”.

(6Yn rheoliad 7—

(a)yn y testun Cymraeg, yn lle “cam”, ym mhob lle y mae’n digwydd, rhodder “mesur”;

(b)yn y testun Cymraeg, yn lle “cymrir”, ym mhob lle y mae’n digwydd, rhodder “cymerir”;

(c)yn nhestun Cymraeg paragraff (4), hepgorer “wedi ei gymryd”;

(d)ar ôl paragraff (4) mewnosoder—

(4ZA) Nid yw paragraff (3) yn gymwys i’r tir o amgylch amlosgfa, gan gynnwys unrhyw gladdfa neu ardd goffa.;

(e)yn nhestun Cymraeg paragraff (5)(b), hepgorer “wedi ei gymryd”.

(7Yn rheoliad 7(A)(1)—

(a)ar ôl is-baragraff (a) mewnosoder—

(aa)rheoliad 4(5B),

(ab)rheoliad 5(3C),;

(b)yn is-baragraff (b), ar ôl “6(1)” mewnosoder “neu (2A)”;

(c)yn y testun Cymraeg, yn y geiriau ar ôl is-baragraff (d), yn lle “camau” rhodder “mesurau”.

(8Yn rheoliad 8—

(a)ym mharagraff (2)(d)—

(i)yn y testun Cymraeg, yn lle “cymorth” rhodder “cynhorthwy”;

(ii)ar ôl “cymorth brys” mewnosoder “i unrhyw berson”;

(b)ym mharagraff (2)(m), yn y testun Cymraeg, yn lle “newid” rhodder “niwed”;

(c)ym mharagraff (5)(d)(iii), ar ôl “cynhorthwy brys” mewnosoder “i unrhyw berson”.

(9Yn rheoliad 12(1)(a), ar ôl “4,” mewnosoder “5(3C),”.

(10Yn Atodlen 1—

(a)yn nhestun Cymraeg paragraff 2(2)(b), yn lle “pan y cymrir pob cam” rhodder “pan gymerir pob mesur”;

(b)ym mharagraff 22, ar ôl “ac eithrio” mewnosoder “marchnadoedd da byw a”;

(c)ym mharagraff 24, ar y diwedd mewnosoder “(ac eithrio arwerthiannau da byw)”;

(d)ym mharagraff 38, yn lle “a pheiriannau” rhodder “, clybiau cynilo, peiriannau arian parod ac ymgymeriadau sydd, o ran eu busnes, yn gweithredu swyddfeydd cyfnewid arian cyfred, yn trawsyrru arian (neu unrhyw gynrychiolaeth o arian) drwy unrhyw ddull neu sieciau arian parod sydd wedi eu gwneud yn daladwy i gwsmeriaid.”

Gwybodaeth Cychwyn

I6Rhl. 6 mewn grym ar 25.4.2020 am 12.01 a.m., gweler rhl. 1(1)

Mark Drakeford

Y Prif Weinidog, un o Weinidogion Cymru

11:45 a.m. ar 24 Ebrill 2020

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae Rhan 2A o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 yn galluogi Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, i wneud darpariaeth at ddiben atal, diogelu rhag, rheoli neu ddarparu ymateb iechyd y cyhoedd i fynychder neu ledaeniad haint neu halogiad yng Nghymru.

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud mewn ymateb i’r bygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd a berir gan fynychder a lledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru.

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020 (y “prif Reoliadau”).

Mae rheoliad 2 yn rhoi yn lle paragraff (4) o reoliad 3 o’r prif Reoliadau ddarpariaeth fwy hyblyg sy’n galluogi i ofyniad neu gyfyngiad a osodir gan y prif Reoliadau gael ei derfynu mewn perthynas â busnesau neu wasanaethau penodol (neu ddisgrifiadau o fusnesau neu wasanaethau), categorïau penodol o bersonau neu ardaloedd penodol o Gymru. Mae paragraff newydd (4A) hefyd wedi ei fewnosod yn rheoliad 3 o’r prif Reoliadau er mwyn ei gwneud yn glir nad yw terfynu gofyniad neu gyfyngiad yn effeithio ar bethau sy’n digwydd cyn i’r terfynu gymryd effaith.

Mae rheoliad 3 yn diwygio rheoliadau 4, 5, 6 a 6A o’r prif Reoliadau er mwyn ei gwneud yn ofynnol i bersonau sy’n gyfrifol am fusnesau neu wasanaethau a gynhelir mewn mangreoedd o’r mathau a restrir isod gymryd pob mesur rhesymol i sicrhau y cynhelir pellter o 2 fetr rhwng personau yn y fangre (oni bai bod y personau yn aelodau o’r un aelwyd neu’n ofalwr a’r person y gofelir amdano), sicrhau bod nifer y personau y caniateir iddynt fynd i’r fangre wedi ei gyfyngu er mwyn galluogi i’r mesurau hynny gael effaith, a sicrhau y cynhelir pellter o 2 fetr rhwng personau sy’n aros i fynd i’r fangre. Y mangreoedd yw—

(a)mangreoedd a ddefnyddir fel caffis neu ffreuturau mewn ysbyty, cartref gofal, ysgol, carchar neu sefydliad milwrol neu a ddefnyddir i ddarparu bwyd a diod i bersonau digartref;

(b)mangreoedd sydd, er ei bod yn ofynnol yn gyffredinol iddynt fod ar gau o dan reoliad 4(4) o’r prif Reoliadau, ar agor at ddibenion darlledu, neu ar gais Gweinidogion Cymru neu awdurdod lleol, neu i ddarparu gwasanaethau ar lein, dros y ffôn neu drwy’r post;

(c)llety gwyliau y caniateir iddo aros ar agor i ddarparu llety i bersonau penodol, neu at ddiben y mae Gweinidogion Cymru neu awdurdod lleol yn gofyn amdano, neu i ddarparu gwasanaethau ar lein, dros y ffôn neu drwy’r post;

(d)unrhyw ran o siop y byddai fel arall yn ofynnol iddi gau o dan reoliad 6(2) o’r prif Reoliadau ond y caniateir iddi aros ar agor i ymateb i archebion ac ymholiadau a geir ar lein, dros y ffôn neu drwy’r post (er enghraifft i ddarparu cyfleusterau i godi archebion a osodir ar lein, a elwir fel arfer yn wasanaeth “clicio a chasglu”).

Mae rheoliad 4 yn gwneud nifer o ddiwygiadau i reoliad 8 o’r prif Reoliadau sy’n ymwneud â’r gofyniad nad yw person yn gadael y man lle y mae’n byw heb esgus rhesymol, gan gynnwys—

(a)diwygio paragraff (1) i egluro bod y cyfyngiad ar adael y man lle y mae person yn byw heb esgus rhesymol hefyd yn cynnwys aros i ffwrdd o’r man hwnnw heb esgus rhesymol;

(b)egluro’r drafftio ym mharagraff (2)(a) er mwyn dileu tawtoleg cael “angen i gael angenrheidiau sylfaenol” a’i gwneud yn glir y gall personau fynd i fanciau a sefydliadau tebyg i dynnu arian a’i adneuo;

(c)yn ei gwneud yn glir fod gwneud ymarfer corff fwy nag unwaith y dydd yn esgus rhesymol os oes ei angen oherwydd cyflwr iechyd neu anabledd penodol;

(d)pennu bod ymweld â chladdfa neu ardd goffa i dalu teyrnged yn esgus rhesymol.

Mae rheoliad 5 yn gwneud diwygiadau i reoliad 10 o’r prif Reoliadau i egluro cymhwysiad y darpariaethau gorfodi.

Mae rheoliad 6 yn cynnwys mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol pellach i’r prif Reoliadau.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ni luniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

(1)

1984 p. 22. Mewnosodwyd adrannau 45C, 45F a 45P gan adran 129 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2008 (p. 14). Mae’r swyddogaethau o dan yr adrannau hyn wedi eu rhoi i “the appropriate Minister” (“y Gweinidog priodol”). O dan adran 45T(6) o Ddeddf 1984, y Gweinidog priodol, o ran Cymru, yw Gweinidogion Cymru.

(2)

O.S. 2020/353 (Cy. 80) fel y’i diwygiwyd gan Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) (Diwygio) 2020 (O.S. 2020/399 (Cy. 88)).

(3)

2006 p. 47. Diwygiwyd y diffiniad o “vulnerable adult” yn adran 60(1) gan adran 65(2)(b) o Ddeddf Diogelu Rhyddidau 2012 (p. 9).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

See additional information alongside the content

Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

Timeline of Changes

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources