Offerynnau Statudol Cymru
2020 Rhif 470 (Cy. 108)
Amaethyddiaeth, Cymru
Rheoliadau Taliadau Uniongyrchol i Ffermwyr (Rhanddirymiad Tyfu Amrywiaeth o Gnydau) (Cymru) 2020
Cymeradwywyd gan Senedd Cymru
Gwnaed
28 Ebrill 2020
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
29 Ebrill 2020
Yn dod i rym
30 Ebrill 2020
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan Erthyglau 69(1) a 70(4) o Reoliad (EU) Rhif 1307/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 17 Rhagfyr 2013 sy’n sefydlu rheolau ar gyfer taliadau uniongyrchol i ffermwyr o dan gynlluniau cymorth o fewn fframwaith y polisi amaethyddol cyffredin(1), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
Mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn angenrheidiol, er mwyn datrys problemau sy’n deillio o lifogydd yng Nghymru, rhanddirymu’r darpariaethau yn y Rheoliad hwnnw ar gyfer blwyddyn hawlio 2020 mewn cysylltiad â’r gofynion o ran tyfu amrywiaeth o gnydau, a bod cyfiawnhad dros wneud hynny, ac mae rhychwant a chyfnod y rhanddirymiad hwnnw, ym marn Gweinidogion Cymru, yn hollol angenrheidiol.
Rheoliad (EU) Rhif 1307/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 17 Rhagfyr 2013 sy’n sefydlu rheolau ar gyfer taliadau uniongyrchol i ffermwyr o dan gynlluniau cymorth o fewn fframwaith y polisi amaethyddol cyffredin ac sy’n diddymu Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 637/2008 a Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 73/2009 (OJ Rhif L 347, 20.12.2013, t. 608). Mae Rheoliad (EU) Rhif 1307/2013 wedi ei ymgorffori mewn cyfraith ddomestig yn rhinwedd adran 1 o Ddeddf Taliadau Uniongyrchol i Ffermwyr (Parhad Deddfwriaethol) 2020 (p. 2) ond dim ond ar gyfer blwyddyn hawlio 2020 (gweler adran 1(2)(a) o’r Ddeddf honno ac adran 1(7) o’r Ddeddf honno am y diffiniad o “claim year”). Roedd y Ddeddf hefyd yn ymgorffori deddfwriaeth arall yr UE sy’n ymwneud â chynllun taliadau uniongyrchol y PAC ond nid yw’n berthnasol i’r Rheoliadau hyn. Mae Deddf Taliadau Uniongyrchol i Ffermwyr (Parhad Deddfwriaethol) 2020 yn darparu’r sail gyfreithiol ar gyfer parhau i dalu taliadau uniongyrchol i ffermwyr ar gyfer blwyddyn hawlio 2020 (roedd Erthygl 137 o’r Cytundeb ar Ymadawiad Teyrnas Unedig Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon â’r Undeb Ewropeaidd (19 Hydref 2019) yn darparu nad yw Rheoliad (EU) Rhif 1307/2013 yn gymwys i’r DU ar gyfer blwyddyn hawlio 2020). Mae Rheoliad (EU) Rhif 1307/2013 wedi ei ddiwygio gan reoliadau 2, 3(4) a 7 o Reoliadau Rheolau ar gyfer Taliadau Uniongyrchol i Ffermwyr (Diwygio) 2020 (O.S. 2020/91). Mae’r diwygiadau a wneir gan y Rheoliadau yn ymdrin ag unrhyw fethiant yn Rheoliad (EU) Rhif 1307/2013 i weithredu’n effeithiol a diffygion eraill sy’n codi o ymadawiad y DU â’r Undeb Ewropeaidd. Yn benodol, mae’r Rheoliadau yn diwygio Erthygl 69(1) o Reoliad (EU) Rhif 1307/2013 fel bod y pŵer i wneud rhanddirymiadau yn arferadwy gan Weinidogion Cymru (gweler Erthygl 4(1)(r) ac (s) o Reoliad (EU) Rhif 1307/2013 am y diffiniadau o “relevant authority” ac “appropriate authority”). Mae diwygiadau eraill i Reoliad (EU) Rhif 1307/2013 ond nid ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.