Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Taliadau Uniongyrchol i Ffermwyr (Rhanddirymiad Tyfu Amrywiaeth o Gnydau) (Cymru) 2020.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 30 Ebrill 2020.
(3) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(4) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “Rheoliad (EU) Rhif 1307/2013” yw Rheoliad (EU) Rhif 1307/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 17 Rhagfyr 2013 sy’n sefydlu rheolau ar gyfer taliadau uniongyrchol i ffermwyr o dan gynlluniau cymorth o fewn fframwaith y polisi amaethyddol cyffredin ac sy’n diddymu Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 637/2008 a Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 73/2009 (OJ Rhif L 347, 20.12.2013, t. 608), fel y mae’n ffurfio rhan o gyfraith ddomestig yn rhinwedd adran 1 o Ddeddf Taliadau Uniongyrchol i Ffermwyr (Parhad Deddfwriaethol) 2020(1).
(5) Mae i’r ymadroddion a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn yr un ystyr ag sydd i’r ymadroddion Saesneg cyfatebol yn Rheoliad (EU) Rhif 1307/2013.