- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Rheoliadau 3(2) a 6(3)
(1) Personau Rhagnodedig | (2) Enw fersiwn Saesneg yr holiadur | (3) Enw fersiwn Gymraeg yr holiadur |
---|---|---|
Y deiliad aelwyd neu’r cyd-ddeiliaid aelwyd, neu yn absenoldeb unrhyw berson o’r fath sy’n alluog i lenwi ffurflen, unrhyw berson sydd wedi ei awdurdodi i weithredu ar ran y deiliad aelwyd neu’r cyd-ddeiliaid aelwyd, ar bob aelwyd yng Nghymru. | Yr holiadur sy’n dwyn yr enw “Household Questionnaire (online)” yn Rhan 1 o Atodlen 2. | Yr holiadur sy’n dwyn yr enw “Holiadur (ar-lein) y Cartref” yn Rhan 1 o Atodlen 2. |
Yr holiadur sy’n dwyn yr enw “Household Questionnaire (paper)” yn Rhan 4 o Atodlen 2. | Yr holiadur sy’n dwyn yr enw “Holiadur (papur) y Cartref” yn Rhan 4 o Atodlen 2. | |
Pan fo erthygl 5(11) o Orchymyn y Cyfrifiad yn gymwys, y person sy’n gyfrifol o dan yr erthygl honno am lenwi ffurflen yng Nghymru. | Yr holiadur sy’n dwyn yr enw “Household Continuation Questionnaire (paper)” yn Rhan 5 o Atodlen 2. | Yr holiadur sy’n dwyn yr enw “Holiadur (papur) y Cartref (Parhad)” yn Rhan 5 o Atodlen 2. |
Pob preswylydd arferol a bennir yng ngholofn (2) yng Ngrŵp B i F yn Atodlen 1 i Orchymyn y Cyfrifiad neu unrhyw berson sy’n gweithredu ar ran y person hwnnw, yng Nghymru. | Yr holiadur sy’n dwyn yr enw “Individual Questionnaire (online)” yn Rhan 2 o Atodlen 2. | Yr holiadur sy’n dwyn yr enw “Holiadur (ar-lein) i Unigolion” yn Rhan 2 o Atodlen 2. |
Pob person a bennir yng ngholofn (2) o Grŵp G yn Atodlen 1 i Orchymyn y Cyfrifiad neu unrhyw berson sy’n gweithredu ar ei ran, yng Nghymru. Unrhyw etholwr yng Nghymru sy’n llenwi ffurflen unigolyn yn unol â Gorchymyn y Cyfrifiad. | Yr holiadur sy’n dwyn yr enw “Individual Questionnaire (paper)” yn Rhan 6 o Atodlen 2. | Yr holiadur sy’n dwyn yr enw “Holiadur (papur) i Unigolion” yn Rhan 6 o Atodlen 2. |
Y person a chanddo ofal am y tro dros unrhyw fangre neu lestr a grybwyllir yng Ngrŵp B i F yn Atodlen 1 i Orchymyn y Cyfrifiad, yng Nghymru. | Yr holiadur sy’n dwyn yr enw “Communal Establishment Questionnaire (online)” yn Rhan 3 o Atodlen 2. | Yr holiadur sy’n dwyn yr enw “Holiadur (ar-lein) i Sefydliadau Cymunedol” yn Rhan 3 o Atodlen 2. |
Yr holiadur sy’n dwyn yr enw “Communal Establishment Questionnaire (paper)” yn Rhan 7 o Atodlen 2. | Yr holiadur sy’n dwyn yr enw “Holiadur (papur) i Sefydliadau Cymunedol” yn Rhan 7 o Atodlen 2. |
Rheoliad 5(1)(a) a (b) ac Atodlen 1
(1) Cwestiwn | (2) Opsiynau Ymateb |
---|---|
Gwybodaeth am y cartref | |
Ydych chi’n byw yn (cyfeiriad y cyfrifiad) fel arfer? | Dewisir un o’r canlynol:
Os dewisir yr opsiwn ymateb “Ydw, rwy’n byw yma fel arfer”, ni ofynnir y cwestiynau isod yng ngholofn (1) sydd â (†). Os dewisir yr opsiwn ymateb “Nac ydw, nid wyf yn byw yma fel arfer”, ni ofynnir y cwestiynau cyn y rhai sydd â (†). |
Beth yw eich enw? | Rhoddir yr ymateb ar y ffurf ganlynol:
|
Oes unrhyw un o’r bobl ganlynol hefyd yn byw yn (cyfeiriad y cyfrifiad) ddydd Sul 21 Mawrth 2021? | Dewisir pob un sy’n berthnasol:
|
Pwy arall sy’n byw yn (cyfeiriad y cyfrifiad)? | Rhoddir yr ymateb ar y ffurf ganlynol:
|
Oes unrhyw un arall yn byw yn (cyfeiriad y cyfrifiad)? | Dewisir un o’r canlynol:
|
(†) Oes unrhyw un o’r bobl ganlynol yn byw yn (cyfeiriad y cyfrifiad) ddydd Sul 21 Mawrth 2021? | Dewisir pob un sy’n berthnasol:
|
(†) Pwy sy’n byw yn (cyfeiriad y cyfrifiad)? | Rhoddir yr ymateb ar y ffurf ganlynol:
|
(†) Oes unrhyw un arall yn byw yn (cyfeiriad y cyfrifiad)? | Dewisir un o’r canlynol:
|
Ar wahân i bawb a gafodd eu cynnwys eisoes, pwy arall sy’n aros dros nos ddydd Sul 21 Mawrth 2021 yn (cyfeiriad y cyfrifiad)? | Dewisir pob un sy’n berthnasol:
|
Beth yw enw’r ymwelydd (ail ymwelydd, trydydd ymwelydd ac ati) sy’n aros dros nos ddydd Sul 21 Mawrth 2021 yn (cyfeiriad y cyfrifiad)? | Rhoddir yr ymateb ar y ffurf ganlynol:
|
Gwybodaeth am berthynas aelodau o’r cartref â’i gilydd | |
Disgrifir y berthynas rhwng yr ymatebydd a phob preswylydd arall yn y cartref: (Enw’r preswylydd arall hwnnw) yw eich (gwahoddiad i ddewis un o’r opsiynau ymateb gyferbyn, a ddangosir wedyn i gwblhau’r datganiad hwn). | Dewisir un o’r canlynol:
|
Disgrifir y berthynas rhwng pob preswylydd arall yn y cartref (os yw’r ymatebydd yn breswylydd), neu’r berthynas rhwng y preswylwyr yn y cartref (lle nad yw’r ymatebydd yn breswylydd): Gan feddwl am (enw preswylydd dau ac ati), mae (enw preswylydd tri ac ati) yn (gwahoddiad i ddewis un o’r opsiynau ymateb gyferbyn, a ddangosir wedyn i gwblhau’r datganiad hwn) i (enw preswylydd dau ac ati). | Dewisir un o’r opsiynau ymateb a ddangosir mewn perthynas â’r cwestiwn union uchod yng ngholofn (1). |
Gwybodaeth am lety’r cartref | |
Pa fath o gartref yw (cyfeiriad y cyfrifiad)? | Dewisir un o’r canlynol:
|
Os mai “Tŷ neu fyngalo cyfan” yw’r ymateb yna: Pa un o’r canlynol yw eich tŷ neu eich byngalo? | Dewisir un o’r canlynol:
|
Os mai “Fflat neu maisonette” yw’r ymateb yna: Ble mae eich fflat neu maisonette? | Dewisir un o’r canlynol:
|
Ydy pob ystafell yn y cartref, gan gynnwys y gegin, yr ystafell ymolchi a’r toiled, y tu ôl i ddrws sydd ddim ond yn cael ei ddefnyddio gan aelodau o’r cartref hwn? | Dewisir un o’r canlynol:
|
Sawl ystafell wely sydd at ddefnydd aelodau o’r cartref hwn yn unig? | Nodir nifer yr ystafelloedd gwely |
Pa fath o wres canolog sydd yn (cyfeiriad y cyfrifiad)? | Dewisir pob un sy’n berthnasol:
|
Os oes un neu fwy o breswylwyr arferol yng nghyfeiriad y cyfrifiad, yna: Oes aelod neu aelodau o’ch cartref yn berchen ar (cyfeiriad y cyfrifiad) neu’n ei rentu? | Dewisir un o’r canlynol:
|
Os mai “Yn berchen arno’n rhannol ac yn ei rentu’n rhannol (cynllun rhan-berchenogaeth)”, neu “Yn ei rentu (gyda chymorth budd-dal tai neu hebddo)” neu “Yn byw yma heb dalu rhent” yw’r ymateb yna: Pwy yw eich landlord? | Dewisir un o’r canlynol:
|
Os oes un neu fwy o breswylwyr arferol yng nghyfeiriad y cyfrifiad, yna: Sawl car neu fan sy’n eiddo i aelodau o’r cartref hwn, neu sydd ar gael i’w defnyddio ganddynt? | Dewisir un o’r canlynol:
|
Gwybodaeth am breswylwyr unigol | |
Ai chi yw (enw’r preswylydd)? | Dewisir un o’r canlynol:
|
Beth yw eich dyddiad geni? | Rhoddir yr ymateb ar y ffurf ganlynol: Diwrnod-Mis-Blwyddyn |
Rydych chi’n (oedran wedi’i gyfrifo’n awtomatig) oed (neu ‘mis oed’ neu ‘diwrnod oed’ yn dibynnu ar oedran y preswylydd). Ydy hyn yn gywir? | Dewisir un o’r canlynol:
|
Beth yw eich rhyw? | Dewisir un o’r canlynol:
|
Yn gyfreithiol, beth yw eich statws priodasol neu statws eich partneriaeth sifil gofrestredig ar 21 Mawrth 2021? | Dewisir un o’r canlynol:
|
Os mai “Priod” neu “Wedi gwahanu, ond yn gyfreithiol yn dal i fod yn briod” yw’r ymateb yna: Pwy yw eich priod cyfreithiol? | Dewisir un o’r canlynol:
|
Os mai “Wedi ysgaru” neu “Person gweddw” yw’r ymateb yna: Pwy oedd eich priod cyfreithiol? | Dewisir un o’r canlynol:
|
Os mai “Mewn partneriaeth sifil gofrestredig” neu “Wedi gwahanu, ond yn gyfreithiol yn dal i fod mewn partneriaeth sifil” yw’r ymateb yna: Pwy yw eich partner sifil cofrestredig? | Dewisir un o’r canlynol:
|
Os mai “Wedi bod mewn partneriaeth sifil sydd bellach wedi’i diddymu’n gyfreithiol” neu “Wedi colli partner sifil cofrestredig drwy farwolaeth” yw’r ymateb yna: Pwy oedd eich partner sifil cofrestredig? | Dewisir un o’r canlynol:
|
Ydych chi’n aros mewn cyfeiriad arall am fwy na 30 diwrnod y flwyddyn? | Dewisir un o’r canlynol:
|
Os mai “Ydw, mewn cyfeiriad yn y Deyrnas Unedig” neu “Ydw, mewn cyfeiriad y tu allan i’r Deyrnas Unedig” yw’r ymateb yna:
| Dewisir pob un sy’n berthnasol:
|
Os yw’r unigolyn yn 18 oed neu’n iau:
| Ar gyfer y naill gwestiwn neu’r llall, dewisir un o’r canlynol:
|
Os mai “Ydw” yw’r ymateb yna: Yn ystod y tymor, ble ydych chi’n byw fel arfer? | Dewisir un o’r canlynol:
|
Os mai “Cyfeiriad arall” yw’r ymateb (ac os nodwyd “Nac ydw” mewn ymateb i’r cwestiwn cynharach: “Ydych chi’n aros mewn cyfeiriad arall am fwy na 30 diwrnod y flwyddyn?”) yna:
| Dewisir un o’r canlynol:
|
Ym mha wlad y cawsoch chi eich geni? | Dewisir un o’r canlynol:
|
Os mai “Gweriniaeth Iwerddon” neu “Rhywle arall” yw’r ymateb yna: Pryd ddaethoch chi i fyw yn y Deyrnas Unedig ddiwethaf? | Rhoddir yr ymateb ar y ffurf ganlynol: Mis-Blwyddyn |
Os mai “Mawrth-2020” yw’r ymateb yna: Wnaethoch chi ddod i’r Deyrnas Unedig ar 21 Mawrth 2020 neu ar ôl hynny? | Dewisir un o’r canlynol:
|
Os mai “Do” yw’r ymateb, neu os mai’r ymateb i’r cwestiwn cynharach yw “Ebrill-2020” neu unrhyw ddyddiad diweddarach, yn hytrach na “Mawrth-2020”, yna: Gan gynnwys yr amser rydych chi wedi’i dreulio yma’n barod, am faint ydych chi’n bwriadu aros yn y Deyrnas Unedig? | Dewisir un o’r canlynol:
|
Flwyddyn yn ôl, beth oedd eich cyfeiriad arferol? | Dewisir un o’r canlynol:
|
Sut fyddech chi’n disgrifio eich hunaniaeth genedlaethol? | Dewisir pob un sy’n berthnasol:
|
Beth yw eich grŵp ethnig? | Dewisir un o’r canlynol:
|
Os mai “Gwyn” yw’r ymateb yna: Pa un sy’n disgrifio orau eich grŵp ethnig neu eich cefndir Gwyn? | Dewisir un o’r canlynol:
|
Os mai “Grwpiau Cymysg neu Amlethnig” yw’r ymateb yna: Pa un sy’n disgrifio orau eich grŵp ethnig neu gefndir Cymysg neu Amlethnig? | Dewisir un o’r canlynol:
|
Os mai “Asiaidd, Asiaidd Cymreig neu Asiaidd Prydeinig” yw’r ymateb yna: Pa un sy’n disgrifio orau eich grŵp ethnig neu eich cefndir Asiaidd, Asiaidd Cymreig neu Asiaidd Prydeinig? | Dewisir un o’r canlynol:
|
Os mai “Du, Du Cymreig, Du Prydeinig, Caribïaidd neu Affricanaidd” yw’r ymateb yna: Pa un sy’n disgrifio orau eich grŵp ethnig neu eich cefndir Du, Du Cymreig, Du Prydeinig, Caribïaidd neu Affricanaidd? | Dewisir un o’r canlynol:
|
Os mai “Grŵp ethnig arall” yw’r ymateb yna: Pa un sy’n disgrifio orau eich grŵp ethnig neu eich cefndir arall? | Dewisir un o’r canlynol:
|
Beth yw eich crefydd? Mae’r cwestiwn hwn yn wirfoddol | Dewisir un o’r canlynol:
|
Ydych chi’n gallu deall, siarad, darllen neu ysgrifennu Cymraeg? | Dewisir pob un sy’n berthnasol:
|
Beth yw eich prif iaith? | Dewisir un o’r canlynol:
|
Os mai “Arall, gan gynnwys Iaith Arwyddion Prydain” yw’r ymateb yna: Pa mor dda ydych chi’n gallu siarad Saesneg? | Dewisir un o’r canlynol:
|
Pa basbortau sydd gennych chi? | Dewisir pob un sy’n berthnasol:
|
Sut mae eich iechyd yn gyffredinol? | Dewisir un o’r canlynol:
|
Oes gennych chi gyflwr neu salwch corfforol neu feddyliol sydd wedi para neu sy’n debygol o bara 12 mis neu fwy? | Dewisir un o’r canlynol:
|
Os mai “Oes” yw’r ymateb yna: Ydy unrhyw gyflwr neu salwch sydd gennych chi’n lleihau eich gallu i wneud gweithgareddau pob dydd? | Dewisir un o’r canlynol:
|
Ydych chi’n gofalu am unrhyw un, neu’n cynnig unrhyw help neu gefnogaeth i unrhyw un, oherwydd cyflwr neu salwch corfforol neu feddyliol hir dymor, neu broblemau sy’n gysylltiedig â henaint? | Dewisir un o’r canlynol:
|
Mae’r holl gwestiynau isod yng ngholofn (1) ar gyfer ymatebwyr 16 oed a throsodd yn unig, heblaw am y cwestiynau sydd â (‡). Os yw’n berthnasol, gellir gofyn y cwestiynau hyn i unrhyw ymatebydd | |
Pa un o’r canlynol sy’n disgrifio orau eich cyfeiriadedd rhywiol? Mae’r cwestiwn hwn yn wirfoddol | Dewisir un o’r canlynol:
|
A yw’r rhywedd rydych chi’n uniaethu ag ef yr un peth â’ch rhyw a gofrestrwyd pan gawsoch chi eich geni? Mae’r cwestiwn hwn yn wirfoddol | Dewisir un o’r canlynol:
|
Gwybodaeth am gymwysterau | |
Ydych chi wedi cwblhau prentisiaeth? | Dewisir un o’r canlynol:
|
Oes gennych chi gymhwyster ar lefel gradd neu uwch? | Dewisir un o’r canlynol:
|
Oes gennych chi NVQ neu gymhwyster cyfatebol? | Dewisir pob un sy’n berthnasol:
|
Oes gennych chi Lefel AS (Safon UG), Lefel A (Safon Uwch) neu gymhwyster cyfatebol? | Dewisir pob un sy’n berthnasol:
|
Oes gennych chi gymhwyster TGAU neu gymhwyster cyfatebol? | Dewisir pob un sy’n berthnasol:
|
Os mai “Nac ydw”, “Nac oes” neu “Dim un o’r rhain” yw’r ymateb i’r holl gwestiynau uchod am gymwysterau, yna: Oes gennych chi unrhyw gymwysterau eraill? | Dewisir pob un sy’n berthnasol:
|
Gwybodaeth am swyddi blaenorol a phresennol | |
Ydych chi wedi gwasanaethu yn Lluoedd Arfog y Deyrnas Unedig yn y gorffennol (er enghraifft, y fyddin)? | Dewisir pob un sy’n berthnasol:
|
Yn ystod y 7 diwrnod diwethaf, oeddech chi’n gwneud unrhyw un o’r canlynol? | Dewisir pob un sy’n berthnasol:
Os dewisir yr opsiwn ymateb “Dim un o’r rhain”, gofynnir y cwestiynau sydd â (⸸) yng ngholofn (1) (fel y bo’n briodol) ac ni ofynnir y cwestiynau sy’n gysylltiedig. Os dewisir unrhyw opsiwn neu opsiynau ymateb eraill, gofynnir y cwestiynau cysylltiedig ac ni ofynnir y cwestiynau sydd â (⸸). |
Yn eich prif swydd, beth yw eich statws cyflogaeth? | Dewisir un o’r canlynol:
|
Beth yw enw’r sefydliad neu’r busnes rydych chi’n gweithio iddo? | Dewisir un o’r canlynol:
|
Beth yw teitl llawn eich swydd? | Nodir teitl llawn y swydd |
Beth ydych chi’n ei wneud yn eich prif swydd? | Disgrifir y swydd |
Beth yw prif weithgarwch eich sefydliad, busnes neu’ch gwaith ar eich liwt eich hun? | Nodir y prif weithgarwch |
Ydych chi’n goruchwylio neu’n cadw golwg ar waith gweithwyr eraill o ddydd i ddydd? | Dewisir un o’r canlynol:
|
Yn eich prif swydd, sawl awr yr wythnos ydych chi’n gweithio fel arfer? | Dewisir un o’r canlynol:
|
Sut ydych chi’n teithio i’r gwaith fel arfer? | Dewisir un o’r canlynol:
|
Ble ydych chi’n gweithio’n bennaf? | Dewisir un o’r canlynol:
|
Os mai “Mewn gweithle” neu “Adrodd i ddepo” yw’r ymateb yna: Ydych chi’n gweithio yn y Deyrnas Unedig yn bennaf? | Dewisir un o’r canlynol:
|
(⸸) Pa un o’r canlynol sy’n disgrifio’r hyn roeddech chi’n ei wneud yn ystod y 7 diwrnod diwethaf? | Dewisir pob un sy’n berthnasol:
|
(⸸) Yn ystod y 4 wythnos diwethaf, oeddech chi wrthi’n chwilio am unrhyw fath o waith am dâl? | Dewisir un o’r canlynol:
|
(⸸) Os mai “Oeddwn” yw’r ymateb yna: Ydych chi ar gael i ddechrau gweithio yn y pythefnos nesaf? | Dewisir un o’r canlynol:
|
(⸸) Os mai “Nac oeddwn” yw’r ymateb, ddim wrthi’n chwilio am waith am dâl, neu “Nac ydw”, ddim ar gael i ddechrau gweithio yn y pythefnos nesaf, yna: Yn ystod y 7 diwrnod diwethaf, oeddech chi’n aros i ddechrau swydd roeddech chi eisoes wedi’i derbyn? | Dewisir un o’r canlynol:
|
(⸸) Ydych chi erioed wedi gwneud unrhyw waith am dâl? | Dewisir un o’r canlynol:
|
(⸸) Yn eich prif swydd, beth oedd eich statws cyflogaeth? | Dewisir un o’r canlynol:
|
(⸸) Beth oedd enw’r sefydliad neu’r busnes roeddech chi’n gweithio iddo? | Dewisir un o’r canlynol:
|
(⸸) Beth oedd teitl llawn eich swydd? | Nodir teitl y swydd |
(⸸) Beth oeddech chi’n ei wneud yn eich prif swydd? | Disgrifir y swydd |
(⸸) Beth oedd prif weithgarwch eich sefydliad, busnes neu’ch gwaith ar eich liwt eich hun? | Nodir y prif weithgarwch |
(⸸) Oeddech chi’n goruchwylio neu’n cadw golwg ar waith gweithwyr eraill o ddydd i ddydd? | Dewisir un o’r canlynol:
|
Gwybodaeth am ymwelwyr | |
(‡) Beth yw dyddiad geni (enw’r ymwelydd)? | Rhoddir yr ymateb ar y ffurf ganlynol: Diwrnod-Mis-Blwyddyn |
(‡) Beth yw rhyw (enw’r ymwelydd)? | Dewisir un o’r canlynol:
|
(‡) Beth yw cyfeiriad arferol (enw’r ymwelydd)? | Dewisir un o’r canlynol:

Os dewisir yr opsiwn ymateb “Dim un o’r rhain”, gofynnir y cwestiynau sydd â (⸸) yng ngholofn (1) (fel y bo’n briodol) ac ni ofynnir y cwestiynau sy’n gysylltiedig. Os dewisir unrhyw opsiwn neu opsiynau ymateb eraill, gofynnir y cwestiwn cysylltiedig ac ni ofynnir y cwestiynau sydd â (⸸). |
Yn eich prif swydd, beth yw eich statws cyflogaeth? | Dewisir un o’r canlynol:
|
Beth yw enw’r sefydliad neu’r busnes rydych chi’n gweithio iddo? | Dewisir un o’r canlynol:
|
Beth yw teitl llawn eich swydd? | Nodir teitl llawn y swydd |
Beth ydych chi’n ei wneud yn eich prif swydd? | Disgrifir y swydd |
Beth yw prif weithgarwch eich sefydliad, busnes neu’ch gwaith ar eich liwt eich hun? | Nodir y prif weithgarwch |
Ydych chi’n goruchwylio neu’n cadw golwg ar waith gweithwyr eraill o ddydd i ddydd? | Dewisir un o’r canlynol:
|
Yn eich prif swydd, sawl awr yr wythnos ydych chi’n gweithio fel arfer? | Dewisir un o’r canlynol:
|
Sut ydych chi’n teithio i’r gwaith fel arfer? | Dewisir un o’r canlynol:
|
Ble ydych chi’n gweithio’n bennaf? | Dewisir un o’r canlynol:
|
Os mai “Mewn gweithle” neu “Adrodd i ddepo” yw’r ymateb yna: Ydych chi’n gweithio yn y Deyrnas Unedig yn bennaf? | Dewisir un o’r canlynol:
|
(⸸) Pa un o’r canlynol sy’n disgrifio’r hyn roeddech chi’n ei wneud yn ystod y 7 diwrnod diwethaf? | Dewisir pob un sy’n berthnasol:
|
(⸸) Yn ystod y 4 wythnos diwethaf, oeddech chi wrthi’n chwilio am unrhyw fath o waith am dâl? | Dewisir un o’r canlynol:
|
(⸸) Os mai “Oeddwn” yw’r ymateb yna: Ydych chi ar gael i ddechrau gweithio yn y pythefnos nesaf? | Dewisir un o’r canlynol:
|
(⸸) Os mai “Nac oeddwn” yw’r ymateb, ddim wrthi’n chwilio am waith am dâl, neu “Nac ydw”, ddim ar gael i ddechrau gweithio yn y pythefnos nesaf, yna: Yn ystod y 7 diwrnod diwethaf, oeddech chi’n aros i ddechrau swydd roeddech chi eisoes wedi’i derbyn? | Dewisir un o’r canlynol:
|
(⸸) Ydych chi erioed wedi gwneud unrhyw waith am dâl? | Dewisir un o’r canlynol:
|
(⸸) Yn eich prif swydd, beth oedd eich statws cyflogaeth? | Dewisir un o’r canlynol:
|
(⸸) Beth oedd enw’r sefydliad neu’r busnes roeddech chi’n gweithio iddo? | Dewisir un o’r canlynol:
|
(⸸) Beth oedd teitl llawn eich swydd? | Nodir teitl y swydd |
(⸸) Beth oeddech chi’n ei wneud yn eich prif swydd? | Disgrifir y swydd |
(⸸) Beth oedd prif weithgarwch eich sefydliad, busnes neu’ch gwaith ar eich liwt eich hun? | Nodir y prif weithgarwch |
(⸸) Oeddech chi’n goruchwylio neu’n cadw golwg ar waith gweithwyr eraill o ddydd i ddydd? | Dewisir un o’r canlynol:
|
Gwybodaeth am ymwelwyr | |
(‡) Beth yw dyddiad geni (enw’r ymwelydd)? | Rhoddir yr ymateb ar y ffurf ganlynol: Diwrnod-Mis-Blwyddyn |
(‡) Beth yw rhyw (enw’r ymwelydd)? | Dewisir un o’r canlynol:
|
(‡) Beth yw cyfeiriad arferol (enw’r ymwelydd)? | Dewisir un o’r canlynol:
|
(1) Cwestiwn | (2) Opsiynau Ymateb |
---|---|
Pa fath o gartref yw (cyfeiriad y cyfrifiad)? | Dewisir un o’r canlynol:
|
Ydych chi’n ateb y cwestiynau hyn drosoch chi eich hun neu ar ran rhywun arall? | Dewisir un o’r canlynol:
|
Os mai “Drosof fi fy hun” yw’r ymateb yna: Beth yw eich enw? | Rhoddir yr ymateb ar y ffurf ganlynol:
|
Os mai “Ar ran rhywun arall” yw’r ymateb yna: Beth yw enw’r unigolyn? | Rhoddir yr ymateb ar y ffurf ganlynol:
|
(⁑) Pa un o’r rhain sy’n eich disgrifio orau yn y sefydliad hwn? | Dewisir un o’r canlynol:
|
Mae’r cwestiynau dilynol yn yr holiadur hwn yn union debyg i’r cwestiynau yn Holiadur y Cartref (ar-lein) a nodir yn y tabl yn Rhan 1 o’r Atodlen, o a chan gynnwys y cwestiwn “Beth yw eich dyddiad geni?” hyd at ond heb gynnwys y cwestiynau sydd â (‡). | Mae’r opsiynau ymateb dilynol yn yr holiadur hwn yn union debyg i’r opsiynau ymateb yn Holiadur y Cartref (ar-lein) a nodir yn y tabl yn Rhan 1 o’r Atodlen, o a chan gynnwys yr opsiwn ymateb i’r cwestiwn “Beth yw eich dyddiad geni?” hyd at ond heb gynnwys yr opsiynau ymateb i’r cwestiynau sydd â (‡). Nid yw’r cyfarwyddyd cyfeirio sy’n dilyn yr ail opsiwn ymateb i’r cwestiwn “Yn ystod y tymor, ble ydych chi’n byw fel arfer?”, na’r cyfarwyddyd cyfeirio sy’n dilyn y cwestiwn “Ydy’r cyfeiriad hwn yn y Deyrnas Unedig?” (y mae’r ddau ohonynt yn cyfeirio ymatebwyr i’r cwestiynau sydd â (‡)) yn y tabl yn Rhan 1 o’r Atodlen hon yn gymwys yn y tabl hwn. Yn hytrach, ym mhob achos, y cyfarwyddyd cyfeirio yw: “Os caiff ei ddewis/Ar ôl y cwestiwn hwn (fel y bo’n briodol), ni ofynnir unrhyw gwestiynau pellach.” |
(1) Cwestiwn | (2) Opsiynau Ymateb |
---|---|
Pa fath o sefydliad yw hwn? | Dewisir un o’r canlynol:
|
Os mai “Meddygol neu ofal” yw’r ymateb yna: Pa fath o sefydliad meddygol neu ofal yw (cyfeiriad y cyfrifiad)? | Dewisir un o’r canlynol:
|
Os mai “Addysg” yw’r ymateb yna: Pa fath o sefydliad addysg yw (cyfeiriad y cyfrifiad)? | Dewisir un o’r canlynol:
|
Os mai “Sefydliad cadw” yw’r ymateb yna: Pa fath o sefydliad cadw yw (cyfeiriad y cyfrifiad)? | Dewisir un o’r canlynol:
|
Os mai “Llety dros dro neu wrth deithio” yw’r ymateb yna: Pa fath o sefydliad llety dros dro neu wrth deithio yw (cyfeiriad y cyfrifiad)? | Dewisir un o’r canlynol:
|
Pwy sy’n gyfrifol am reoli’r sefydliad hwn? | Dewisir un o’r canlynol:
|
Oes unrhyw un o’r canlynol yn byw yn y sefydliad hwn ar hyn o bryd? | Dewisir pob un sy’n berthnasol:
|
Faint o bobl sy’n byw yn y sefydliad hwn ar hyn o bryd? | Dewisir un o’r canlynol:
|
Oes unrhyw un o’r ymwelwyr canlynol yn aros dros nos yn y sefydliad hwn ar 21 Mawrth 2021? | Dewisir pob un sy’n berthnasol:
|
Faint o ymwelwyr sy’n aros dros nos yn y sefydliad hwn ar 21 Mawrth 2021? | Dewisir un o’r canlynol:
|
1. Bydd holiaduron ar-lein a gwefan yr Awdurdod sy’n lletya holiaduron ar-lein yn cynnwys gwybodaeth sy’n ymwneud â’r cyfrifiad ac o ran llenwi a chyflwyno holiaduron ar-lein, gan gynnwys gwybodaeth am y canlynol—
(a)dechrau holiadur ar-lein,
(b)y personau y mae rhaid iddynt lenwi ffurflen y cyfrifiad,
(c)aelodau o’r aelwyd yn ateb y rhannau o holiadur sy’n berthnasol iddynt hwy,
(d)pryd y dylid llenwi ffurflen y cyfrifiad,
(e)sut y bydd yr Awdurdod yn defnyddio ac yn diogelu gwybodaeth sy’n ymwneud â pherson rhagnodedig,
(f)ble a sut y gellir dod o hyd i gymorth er mwyn llenwi holiadur ar-lein, ac
(g)natur fandadol y cyfrifiad yn ei gyfanrwydd, ond natur wirfoddol cwestiynau penodol o fewn y cyfrifiad.
2. Bydd holiaduron ar-lein a gwefan yr Awdurdod sy’n lletya holiaduron ar-lein yn cynnwys swyddogaethau a nodweddion er mwyn galluogi—
(a)person rhagnodedig i gael mynediad i’r holiadur ar-lein perthnasol drwy fewnbynnu cod mynediad unigryw ar-lein,
(b)i god mynediad unigryw gysylltu’n awtomatig â chyfeiriad aelwyd neu sefydliad cymunedol,
(c)i gyfeiriad person rhagnodedig gael ei arddangos yn awtomatig pan fo’n berthnasol mewn rhannau gwahanol o holiadur ar-lein,
(d)pan fo holiadur ar-lein yn cael ei lenwi gan berson ar ran person arall yn unol â’r Rholiadau hyn, i unrhyw eiriau, llythrennau neu atalnodi gael eu haddasu’n awtomatig i sicrhau bod y cyfarwyddiadau neu’r cwestiynau yn gwneud synnwyr yn ramadegol, gan gynnwys rhoi enw’r person y mae’r holiadur ar-lein yn cael ei lenwi ar ei ran yn lle’r geiriau ‘chi’ ac ‘eich’ yn awtomatig mewn unrhyw gwestiwn,
(e)i ymatebion ynghylch y berthynas rhwng un person a’r personau eraill mewn aelwyd o bump neu ragor o bersonau gael eu defnyddio er mwyn casglu perthynas y personau eraill hynny â’i gilydd, gan gynnwys, at y diben hwn, y swyddogaeth i ofyn cwestiwn yn y canol, sef “A yw unrhyw un neu ragor o’r bobl hyn yn perthyn i chi?” neu amrywiadau trydydd person ar y cwestiwn hwnnw,
(f)i destun gael ei arddangos sy’n cynnwys cyfarwyddiadau neu wybodaeth sy’n ymwneud â llenwi cwestiynau penodol, neu’n ymwneud yn gyffredinol â llenwi’r holiadur ar-lein,
(g)i wybodaeth gael ei arddangos o ran pam y mae cwestiwn penodol yn bwysig,
(h)i gwestiynau gael eu hateb mewn trefn wahanol,
(i)i ystod o opsiynau ymateb rhagbenodedig gael eu cynnig mewn perthynas â chwestiwn,
(j)i ymatebion sy’n cael eu teipio gael cymorth drwy destun rhagfynegol (pan fo’n briodol),
(k)i lwybr gael ei bennu drwy’r holiadur ar-lein drwy ddefnyddio cwestiynau i bennu’r llwybr hwnnw,
(l)i arwydd gael ei roi nad yw cwestiwn sy’n pennu’r llwybr wedi cael ei ateb,
(m)y gofyniad bod cwestiwn sy’n pennu’r llwybr yn cael ei ateb cyn y caniateir i gwestiynau pellach gael eu hateb,
(n)atal atebion sy’n anghyson â’i gilydd rhag cael eu dewis mewn ymateb i gwestiwn,
(o)i awgrym gael ei arddangos pan fo’n briodol i annog adolygu’r ymateb,
(p)i ymateb gael ei ddiwygio cyn iddo gael ei gyflwyno, a
(q)i holiadur ar-lein sydd wedi ei lenwi’n rhannol gael ei arbed a’i barhau yn nes ymlaen.
Rheoliad 20(1)
Byddaf fi, [A.B. etc], sef person a benodwyd at ddiben cynnal Cyfrifiad 2021 (“y cyfrifiad”), yn cyflawni’r dyletswyddau a neilltuir imi o dan Ddeddf y Cyfrifiad 1920 a Rheoliadau’r Cyfrifiad (Cymru) 2020 (“dyletswyddau yn y cyfrifiad”) yn llawn ac yn onest.
Byddaf yn cyflawni fy nyletswyddau yn y cyfrifiad gan gydymffurfio â darpariaethau adran 39 o Ddeddf Ystadegau a’r Gwasanaeth Cofrestru 2007, y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR), Deddf Diogelu Data 2018 a phob rhwymedigaeth gyfreithiol berthnasol arall. Yr wyf yn deall y gall methu â chydymffurfio â’r rhwymedigaethau hynny arwain at euogfarn droseddol a dirwy neu garchariad.
Ac eithrio wrth gyflawni fy nyletswyddau yn y cyfrifiad, ni fyddaf yn datgelu nac yn mynegi, ar unrhyw bryd, unrhyw fater y caf wybod amdano ynglŷn ag unrhyw berson, teulu neu aelwyd.
Dim ond i gyflawni fy nyletswyddau yn y cyfrifiad y byddaf yn defnyddio unrhyw ddeunyddiau mynediad a roddir imi, gan gynnwys unrhyw bàs diogelwch, cyfryngau electronig, deunydd adnabod personol neu gyfrineiriau. Ni fyddaf yn rhoi benthyg, yn trosglwyddo nac yn datgelu fel arall ddeunyddiau o’r fath i unrhyw berson arall, oni bai fy mod yn cael fy nghyfarwyddo’n benodol i wneud hynny gan y Bwrdd Ystadegau.
Byddaf yn rhoi gwybod am unrhyw bryderon sydd gennyf ynghylch cyfrinachedd gwybodaeth bersonol mewn cysylltiad â’m dyletswyddau yn y cyfrifiad, neu o ran unrhyw faterion eraill sy’n ymwneud â’r cyfrifiad pa un a ydynt yn deillio o’m gweithredoedd i neu weithredoedd pobl eraill, yn uniongyrchol i’r Bwrdd Ystadegau.
Rheoliad 20(3) a (4)
Yr wyf fi, [A.B. etc], sef person a benodwyd at ddiben cynnal Cyfrifiad 2021 (“y cyfrifiad”), yn ymrwymo y byddaf yn cyflawni’r dyletswyddau a neilltuir imi o dan Ddeddf y Cyfrifiad 1920 a Rheoliadau’r Cyfrifiad (Cymru) 2020 (“dyletswyddau yn y cyfrifiad”) yn llawn ac yn onest.
Byddaf yn cyflawni fy nyletswyddau yn y cyfrifiad gan gydymffurfio â darpariaethau adran 39 o Ddeddf Ystadegau a’r Gwasanaeth Cofrestru 2007, y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR), Deddf Diogelu Data 2018 a phob rhwymedigaeth gyfreithiol berthnasol arall. Yr wyf yn deall y gall methu â chydymffurfio â’r rhwymedigaethau hynny arwain at euogfarn droseddol a dirwy neu garchariad.
Ac eithrio wrth gyflawni fy nyletswyddau yn y cyfrifiad, ni fyddaf yn datgelu nac yn mynegi, ar unrhyw bryd, unrhyw fater y caf wybod amdano ynglŷn ag unrhyw berson, teulu neu aelwyd.
Dim ond i gyflawni fy nyletswyddau yn y cyfrifiad y byddaf yn defnyddio unrhyw ddeunyddiau mynediad a roddir imi, gan gynnwys unrhyw bàs diogelwch, cyfryngau electronig, deunydd adnabod personol neu gyfrineiriau. Ni fyddaf yn rhoi benthyg, yn trosglwyddo nac yn datgelu fel arall ddeunyddiau o’r fath i unrhyw berson arall, oni bai fy mod yn cael fy nghyfarwyddo’n benodol i wneud hynny gan y Bwrdd Ystadegau.
Byddaf yn rhoi gwybod am unrhyw bryderon sydd gennyf ynghylch cyfrinachedd gwybodaeth bersonol mewn cysylltiad â’m dyletswyddau yn y cyfrifiad, neu o ran unrhyw faterion eraill sy’n ymwneud â’r cyfrifiad pa un a ydynt yn deillio o’m gweithredoedd i neu weithredoedd pobl eraill, yn uniongyrchol i’r Bwrdd Ystadegau.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: