- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau.
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Cofnodir newidiadau ac effeithiau gan ein tîm golygyddol mewn rhestrau sydd i'w gweld yn yr adran 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth'. Os nad yw'r effeithiau hynny wedi'u cymhwyso eto i destun y ddeddfwriaeth gan y tîm golygyddol maent hefyd wedi'u rhestru ochr yn ochr â'r ddeddfwriaeth yn y darpariaethau yr effeithir arnynt. Defnyddiwch y ddolen 'mwy' i agor y newidiadau a'r effeithiau sy'n berthnasol i'r ddarpariaeth rydych yn edrych arni.
Whole provisions yet to be inserted into this Instrument (including any effects on those provisions):
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym am 12.01 a.m. ar 8 Mehefin 2020.
2.—(1) Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “coronafeirws” (“coronavirus”) yw coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-Cov-2);
mae i “y Deddfau Mewnfudo” yr ystyr a roddir i “the Immigration Acts” yn adran 61 o Ddeddf Ffiniau’r DU 2007(1);
[F1ystyr “dyfais” (“device”) yw dyfais feddygol ddiagnostig in vitro o fewn yr ystyr a roddir i “in vitro diagnostic medical device” yn rheoliad 2(1) Reoliadau Dyfeisiadau Meddygol 2002(3);]
[F2ystyr “gwybodaeth am deithiwr” (“passenger information”) yw’r wybodaeth a bennir yn Atodlen 1;] ;
mae “mangre” (“premises”) yn cynnwys unrhyw ardd, iard, tramwyfa, gris, garej, tŷ allan, neu unrhyw atodyn i fangre o’r fath;
[F3ystyr “penodolrwydd” (“specificity”) mewn perthynas â dyfais, yw pa mor aml y mae’r ddyfais yn cynhyrchu canlyniad negyddol yn gywir;]
ystyr “plentyn” (“child”) yw person o dan 18 oed ac mae unrhyw gyfeiriad at “oedolyn” i’w ddehongli yn unol â hynny;
[F4ystyr “prawf cymhwysol” (“qualifying test”) yw prawf sy’n brawf cymhwysol at ddibenion rheoliad 6A;]
[F5ystyr “sensitifrwydd” (“sensitivity”), mewn perthynas â dyfais, yw pa mor aml y mae’r ddyfais yn cynhyrchu canlyniad positif yn gywir;]
ystyr “swyddog mewnfudo” (“immigration officer”) yw person sydd wedi ei benodi yn swyddog mewnfudo gan yr Ysgrifennydd Gwladol o dan baragraff 1 o Atodlen 2 i Ddeddf Mewnfudo 1971(2).
(2) At ddibenion y Rheoliadau hyn, mae gan berson gyfrifoldeb am blentyn os oes gan y person—
(a)gwarchodaeth neu ofal am y plentyn, neu
(b)cyfrifoldeb rhiant am y plentyn (o fewn ystyr Deddf Plant 1989)(3).
(3) Yn y Rheoliadau hyn, mae i—
“yr ardal deithio gyffredin”(4);
“awyren”(5);
“llong”(6);
“porthladd”(7),
yr un ystyr ag a roddir i “the common travel area”, “aircraft”, “ship” a “port” yn Neddf Mewnfudo 1971.
[F6(4) At ddibenion y Rheoliadau hyn, nid yw person sy’n cyrraedd gwlad neu diriogaeth nad yw’n esempt (o fewn ystyr rheoliad 9(1)) ar long neu awyren i’w drin fel pe bai wedi bod yn y man hwnnw oni bai—
(a)bod y person yn dod oddi ar y llong neu’r awyren pan fo yn y man, neu
(b)pan na fo’r person yn dod oddi ar y llong neu’r awyren pan fo yn y man, bod unrhyw deithwyr eraill yn mynd ar y llong neu’r awyren yn y man.]
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn rhl. 2(1) wedi eu mewnosod (18.1.2021 am 4.00 a.m.) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol, Profion cyn Ymadael ac Atebolrwydd Gweithredwyr) (Cymru) (Diwygio) 2021 (O.S. 2021/48), rhlau. 1(2), 3(2)(a) (ynghyd â rhl. 11)
F2Geiriau yn rhl. 2(1) wedi eu hamnewid (15.6.2020 am 5.38 p.m.) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd ar gyfer Personau sy’n Teithio i Gymru etc.) 2020 (O.S. 2020/595), rhlau. 1(3), 10(2)(a) (ynghyd â rhl. 11)
F3Geiriau yn rhl. 2(1) wedi eu mewnosod (18.1.2021 am 4.00 a.m.) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol, Profion cyn Ymadael ac Atebolrwydd Gweithredwyr) (Cymru) (Diwygio) 2021 (O.S. 2021/48), rhlau. 1(2), 3(2)(d) (ynghyd â rhl. 11)
F4Geiriau yn rhl. 2(1) wedi eu mewnosod (18.1.2021 am 4.00 a.m.) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol, Profion cyn Ymadael ac Atebolrwydd Gweithredwyr) (Cymru) (Diwygio) 2021 (O.S. 2021/48), rhlau. 1(2), 3(2)(b) (ynghyd â rhl. 11)
F5Geiriau yn rhl. 2(1) wedi eu mewnosod (18.1.2021 am 4.00 a.m.) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol, Profion cyn Ymadael ac Atebolrwydd Gweithredwyr) (Cymru) (Diwygio) 2021 (O.S. 2021/48), rhlau. 1(2), 3(2)(c) (ynghyd â rhl. 11)
F6Rhl. 2(4) wedi ei fewnosod (10.7.2020) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd i Deithwyr) (Cymru) (Diwygio) 2020 (O.S. 2020/714), rhlau. 1(2), 4(6) (ynghyd â rhl. 7)
Gwybodaeth Cychwyn
3.—(1) Yn y Rhan hon mae cyfeiriadau at “P” yn gyfeiriadau at—
(a)person sy’n cyrraedd Cymru ar long neu awyren o fan y tu allan i’r ardal deithio gyffredin, neu
(b)person—
(i)sy’n cyrraedd Cymru ar long neu awyren o Weriniaeth Iwerddon, Ynysoedd y Sianel, neu Ynys Manaw, ac
(ii)sydd wedi bod mewn man y tu allan i’r ardal deithio gyffredin o fewn y cyfnod o [F710] o ddiwrnodau sy’n dod i ben ar y diwrnod pan fo’r person yn cyrraedd.
(2) Ond nid yw cyfeiriadau at P yn cynnwys [F8—
(a)person a ddisgrifir yn Rhan 1 o Atodlen 2,
(b)person a ddisgrifir ym mharagraff 12(1)(b) o Atodlen 2 (gweithwyr gweithredol, cynnal a chadw a diogelwch sy’n gweithio ar Dwnnel y Sianel), neu
(c)person a ddisgrifir ym mharagraff (3), y mae’r amod ym mharagraff (4) wedi ei fodloni mewn cysylltiad ag ef.]
[F9(3) Y disgrifiadau o bersonau yw—
(a)person sy’n weithiwr cludiant teithwyr ffyrdd, o fewn ystyr paragraff 6 o Atodlen 2;
(b)person a ddisgrifir ym mharagraff 7 o Atodlen 2 (meistri a morwyr);
(c)person a ddisgrifir ym mharagraff 8 o Atodlen 2 (peilotiaid ar longau masnach);
(d)person a ddisgrifir ym mharagraff 9 o Atodlen 2 (arolygwyr a syrfewyr llongau);
(e)person a ddisgrifir ym mharagraff 10 o Atodlen 2 (criw awyren);
(f)person a ddisgrifir ym mharagraff 12(1)(a) neu (c) o Atodlen 2 (gyrwyr, criw a phersonau eraill sy’n cyflawni swyddogaethau hanfodol mewn cysylltiad â Thwnnel y Sianel).
(4) Mae’r amod a grybwyllir ym mharagraff (2)(c) wedi ei fodloni mewn perthynas â pherson os nad yw’r person, ar ei daith i Gymru, ond wedi teithio—
(a)ar long neu awyren nad yw’n cludo teithwyr;
(b)mewn rhan o long neu awyren nad yw teithwyr yn cael mynd iddi.]
Diwygiadau Testunol
F7Gair yn rhl. 3(1)(b)(ii) wedi ei amnewid (10.12.2020) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Chyfyngiadau) (Diwygio) (Rhif 3) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/1477), rhlau. 1(2), 2(a)(i)
F8Geiriau yn rhl. 3(2) wedi eu hamnewid (10.7.2020) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd i Deithwyr) (Cymru) (Diwygio) 2020 (O.S. 2020/714), rhlau. 1(2), 3(2) (ynghyd â rhl. 7)
F9Rhl. 3(3)(4) wedi ei fewnosod (10.7.2020) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd i Deithwyr) (Cymru) (Diwygio) 2020 (O.S. 2020/714), rhlau. 1(2), 3(3) (ynghyd â rhl. 7)
Gwybodaeth Cychwyn
4.—(1) Rhaid i P gyflwyno’r wybodaeth ganlynol i’r Ysgrifennydd Gwladol yn electronig [F10wrth gyrraedd neu cyn cyrraedd] Cymru, gan ddefnyddio cyfleuster a ddarperir gan yr Ysgrifennydd Gwladol at y diben hwn—
(a)gwybodaeth am deithiwr ar gyfer P, a
(b)pan fo P yn cyrraedd Cymru yng nghwmni plentyn y mae gan P gyfrifoldeb amdano, gwybodaeth am deithiwr ar gyfer y plentyn,
(2) Pan fo P yn cyrraedd Cymru drwy borthladd--
(a)rhaid i P gydymffurfio â pharagraff (1) cyn gadael y porthladd, a
(b)rhaid i swyddog mewnfudo yn y porthladd ddarparu P unrhyw gynhorthwy y mae’r swyddog yn ei ystyried yn angenrheidiol i alluogi P i gydymffurfio â pharagraff (1).
(3) Nid yw’n ofynnol i P gydymffurfio â pharagraff (1) os yw’r wybodaeth am deithiwr wedi ei darparu’n electronig i’r Ysgrifennydd Gwladol gan ddefnyddio cyfleuster a ddarparwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol at y diben hwnnw, cyn i P gyrraedd Cymru.
(4) Ond pan fo paragraff (3) yn gymwys, rhaid i P ddarparu tystiolaeth i swyddog mewnfudo bod y wybodaeth am deithiwr wedi ei ddarparu, os gofynnir iddo wneud hynny gan y swyddog.
(5) Pan fo P yn blentyn y mae gwybodaeth am deithiwr mewn cysylltiad ag ef wedi ei darparu gan berson sydd â chyfrifoldeb am P, yn unol â pharagraff (1)(b), nid yw paragraff (1)(a) yn ei gwneud hi’n ofynnol i P ddarparu gwybodaeth am deithiwr ar gyfer P.
Diwygiadau Testunol
F10Geiriau yn rhl. 4(1) wedi eu hamnewid (21.11.2020 am 4.00 a.m.) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 20) 2020 (O.S. 2020/1329), rhlau. 1(2), 4
Gwybodaeth Cychwyn
5.—(1) Mae paragraff (2) yn gymwys—
(a)pan fo’n ofynnol gan reoliad 7 neu 8 i P breswylio mewn mangre (ac i beidio â gadael y fangre na bod y tu allan iddi) tan ddiwedd diwrnod olaf ynysiad P (o fewn yr ystyr a roddir gan reoliad 12), a
(b)pan fo gwybodaeth am deithiwr ar gyfer P yn newid cyn diwedd y diwrnod hwnnw.
(2) Pan fo’r paragraff hwn yn gymwys, rhaid i P ddarparu i’r Ysgrifennydd Gwladol yn electronig wybodaeth am deithiwr sydd wedi ei diweddaru cyn gynted ag y bo’n resymol ymarferol, gan ddefnyddio’r cyfleuster a ddarperir gan yr Ysgrifennydd Gwladol at y diben hwnnw.
(3) Pan fo P yn blentyn y mae gan berson arall gyfrifoldeb amdano—
(a)nid yw’n ofynnol i P ddarparu gwybodaeth am deithiwr sydd wedi ei diweddaru o dan baragraff (2), a
(b)mae’n ofynnol i’r person arall, ar ran P, ddarparu’r wybodaeth am deithiwr sydd wedi ei [F11diweddaru] .
Diwygiadau Testunol
F11Gair yn rhl. 5(3)(b) wedi ei amnewid (15.6.2020 am 5.38 p.m.) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd ar gyfer Personau sy’n Teithio i Gymru etc.) 2020 (O.S. 2020/595), rhlau. 1(3), 10(2)(b) (ynghyd â rhl. 11)
Gwybodaeth Cychwyn
6. Nid oes dim yn rheoliad 4 neu 5 sy’n ei gwneud yn ofynnol i berson ddarparu gwybodaeth am deithiwr nad yw ym meddiant y person neu o dan ei reolaeth.
Diwygiadau Testunol
F12Rhn. 2A wedi ei fewnosod (18.1.2021 am 4.00 a.m.) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol, Profion cyn Ymadael ac Atebolrwydd Gweithredwyr) (Cymru) (Diwygio) 2021 (O.S. 2021/48), rhlau. 1(2), 3(3) (ynghyd â rhl. 11)
6A.—(1) Rhaid i berson (“P”) sy’n 11 oed neu drosodd sy’n cyrraedd Cymru o’r tu allan i’r ardal deithio gyffredin feddu wrth gyrraedd—
(a)ar hysbysiad dilys o ganlyniad negyddol i brawf cymhwysol a gymerwyd gan P, a
(b)pan fo P yn oedolyn sy’n cyrraedd Cymru gyda phlentyn sy’n 11 oed neu drosodd y mae gan P gyfrifoldeb drosto, ar hysbysiad dilys o ganlyniad negyddol o brawf cymhwysol a gymerwyd gan y plentyn.
(2) O ran P—
(a)pan fo’n meddu ar hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (1), a
(b)pan ofynnir iddo wneud hynny gan swyddog mewnfudo,
rhaid i P ddangos yr hysbysiad, naill ai’n ffisegol neu’n ddigidol, os gofynnir iddo wneud hynny gan swyddog mewnfudo.
(3) Nid yw paragraffau (1) a (2) yn gymwys i P os yw P yn blentyn o dan 11 oed sy’n cyrraedd Cymru gydag oedolyn sydd â chyfrifoldeb dros P.
(4) Ym mharagraffau (1) a (2), nid yw cyfeiriadau at P yn cynnwys—
(a)person a ddisgrifir ym mharagraff 2, 3, 4, 7, 8, 9, 10, 11, 12 neu 28 o Atodlen 2,
(b)gweithiwr cludiant ffyrdd fel y’i disgrifir ym mharagraff 6 o Atodlen 2.
(c)person a ddisgrifir mewn unrhyw is-baragraff o baragraff 3(1) o Atodlen 1A.
(5) At ddibenion y rheoliad hwn—
(a)mae prawf yn brawf cymhwysol os yw’n cydymffurfio â pharagraff 1 o Atodlen 1A,
(b)mae hysbysiad o ganlyniad negyddol yn ddilys os yw’n cynnwys yr wybodaeth a bennir ym mharagraff 2 o Atodlen 1A.]
7.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i berson (“P”)—
(a)sy’n cyrraedd Cymru ar long neu awyren o [F13wlad neu diriogaeth nad yw’n esempt] , neu
(b)sydd —
(i)yn cyrraedd Cymru ar long neu awyren o [F14wlad neu diriogaeth esempt nad yw’n rhan o’r Deyrnas Unedig] , a
F15(ii)[F16sydd wedi bod mewn gwlad neu diriogaeth nad yw’n esempt] o fewn y cyfnod o [F1710] o ddiwrnodau sy’n dod i ben ar y diwrnod y mae P yn cyrraedd Cymru.
(2) Rhaid i P—
(a)teithio’n uniongyrchol i fangre benodol yng Nghymru sy’n addas i P breswylio ynddi tan ddiwedd diwrnod olaf ynysiad P, neu
(b)teithio’n uniongyrchol i ran o’r Deyrnas Unedig heblaw Cymru.
(3) Pan fo P yn teithio i fangre benodol yng Nghymru i breswylio ynddi, fel sy’n ofynnol gan baragraff (2)(a), ni chaniateir i P adael na bod y tu allan i’r fangre cyn diwedd diwrnod olaf ynysiad P—
(a)onid yw wedi ei awdurdodi i wneud hynny gan reoliad 10(4) (gadael y fangre dros dro), neu
(b)onid yw’r paragraff hwn yn peidio â bod yn gymwys mewn perthynas â P yn rhinwedd rheoliad 10(3) (gadael Cymru).
(4) At ddibenion paragraffau (2) a (3), y fangre benodol yw—
(a)y fangre a bennir yng ngwybodaeth am deithiwr P fel y fangre y mae P yn bwriadu preswylio ynddi at ddibenion y rheoliad hwn (oni F18... fo is-baragraff (d) yn gymwys i P);
(b)pan fo P yn berson a ddisgrifir—
(i)ym mharagraff 1(1)(a) i (k) o Atodlen 2 nad yw wedi bodloni’r amodau ym mharagraff 1(2) o’r Atodlen honno, neu
(ii)paragraff 1(1)(l) o’r Atodlen honno,
mangre y mae P yn bwriadu preswylio ynddi at ddibenion y rheoliad hwn;
(c)pan na fo gwybodaeth am deithiwr P yn pennu’r fangre y mae P yn bwriadu preswylio ynddi at ddibenion y rheoliad hwn, y fangre a drefnwyd gan P o dan baragraff (5);
(d)pan fo P yn ddarostyngedig i ofyniad a osodir o dan neu yn rhinwedd y Deddfau Mewnfudo i breswylio mewn mangre arbennig yng Nghymru, y fangre honno.
(5) Pan na fo gwybodaeth am deithiwr P yn pennu’r fangre y mae P yn bwriadu preswylio ynddi at ddibenion y rheoliad hwn, rhaid i P—
(a)wneud trefniadau cyn gynted a bo’n rhesymol ymarferol i breswylio mewn mangre yng Nghymru [F19sy’n addas i breswylio ynddi] tan ddiwedd diwrnod olaf ynysiad P, a
(b)hysbysu’r Ysgrifennydd Gwladol yn electronig cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol o gyfeiriad y fangre honno gan ddefnyddio cyfleuster a ddarparwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol at y diben hwnnw.
(6) Ond pan fo P wedi cyrraedd Cymru drwy borthladd, rhaid i P gydymffurfio ậ gofynion paragraff (5) cyn i P adael y porthladd.
(7) Pan fo paragraff (5) yn gymwys, rhaid i Weinidogion Cymru ddarparu’r cynorthwy, neu drefnu darpariaeth o’r cynhorthwy, y maent yn ystyried yn angenrheidiol (os o gwbl) i sicrhau y gall P wneud y trefniadau a grybwyllir ym mharagraff (5)(a).
Diwygiadau Testunol
F13Geiriau yn rhl. 7(1)(a) wedi eu hamnewid (10.7.2020) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd i Deithwyr) (Cymru) (Diwygio) 2020 (O.S. 2020/714), rhlau. 1(2), 4(2)(a) (ynghyd â rhl. 7)
F14Geiriau yn rhl. 7(1)(b)(i) wedi eu hamnewid (10.7.2020) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd i Deithwyr) (Cymru) (Diwygio) 2020 (O.S. 2020/714), rhlau. 1(2), 4(2)(b) (ynghyd â rhl. 7)
F15Rhl. 7(1)(b)(ii) comma wedi ei hepgor (15.6.2020 am 5.38 p.m.) yn rhinwedd Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd ar gyfer Personau sy’n Teithio i Gymru etc.) 2020 (O.S. 2020/595), rhlau. 1(3), 10(2)(c)(i) (ynghyd â rhl. 11)
F16Geiriau yn rhl. 7(1)(b)(ii) wedi eu hamnewid (10.7.2020) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd i Deithwyr) (Cymru) (Diwygio) 2020 (O.S. 2020/714), rhlau. 1(2), 4(2)(c) (ynghyd â rhl. 7)
F17Gair yn rhl. 7(1)(b)(ii) wedi ei amnewid (10.12.2020) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Chyfyngiadau) (Diwygio) (Rhif 3) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/1477), rhlau. 1(2), 2(a)(ii)
F18Gair yn rhl. 7(4)(a) wedi ei hepgor (15.6.2020 am 5.38 p.m.) yn rhinwedd Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd ar gyfer Personau sy’n Teithio i Gymru etc.) 2020 (O.S. 2020/595), rhlau. 1(3), 10(2)(c)(ii) (ynghyd â rhl. 11)
F19Geiriau yn rhl. 7(5)(a) wedi eu mewnosod (15.6.2020 am 5.38 p.m.) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd ar gyfer Personau sy’n Teithio i Gymru etc.) 2020 (O.S. 2020/595), rhlau. 1(3), 10(2)(c)(iii) (ynghyd â rhl. 11)
Addasiadau (ddim yn newid testun)
C1Rhl. 7(1)(b) addaswyd (11.7.2020) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) 2020 (O.S. 2020/726), rhlau. 1(2), 3
Gwybodaeth Cychwyn
8.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i berson (“P”)—
(a)sy’n cyrraedd Cymru o rywle arall yn y Deyrnas Unedig, a
(b)sydd o fewn y cyfnod o [F2010] o diwrnod sy’n dod i ben ar y diwrnod y mae P yn cyrraedd Cymru wedi [F21bod mewn gwlad neu diriogaeth nad yw’n esempt] ;
(2) Ond nid yw cyfeiriadau at P yn cynnwys—
(a)person—
(i)sy’n cyrraedd Cymru at ddiben dychwelyd i’r fangre yng Nghymru y mae’r person yn preswylio ynddi at ddibenion rheoliad [F227(3); a]
(ii)person a adawodd Cymru dros dro, am un neu ragor o’r resymau a awdurdodir yn rheoliad 10(4);
(b)person—
(i)y mae’n ofynnol iddo breswylio mewn mangre yn rhywle arall yn y Deyrnas Unedig o dan ddarpariaeth mewn Rheoliadau a wneir mewn perthynas â Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon (yn ôl y digwydd) sy’n cyfateb i’r Rheoliadau hyn,
(ii)y caniateir iddo adael y rhan arall honno o’r Deyrnas Unedig dros dro yn rhinwedd y Rheoliadau hynny, a
(iii)sy’n aros yng Nghymru am ddim hwy nag sy’n angenrheidiol.
[F23(c)person—
(i)nad yw’n ofynnol iddo ynysu mwyach o dan Reoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Lloegr) 2020 yn rhinwedd rheoliad 4(13A) o’r Rheoliadau hynny,
(ii)sydd yng Nghymru am un neu ragor o’r rhesymau a restrir yn rheoliad 10(4)(b) i (k) o’r Rheoliadau hyn, a
(iii)sy’n aros yng Nghymru am ddim hwy nag sy’n angenrheidiol.]
(3) O ran P—
(a)rhaid iddo deithio’n uniongyrchol i fangre yng Nghymru sy’n addas i P breswylio ynddi tan ddiwedd diwrnod olaf ynysiad P, a
(b)ni chaiff adael y fangre na bod y tu allan iddi cyn diwedd diwrnod olaf ynysiad P—
(i)onid yw wedi ei awdurdodi gan reoliad 10(4) [F24(gadael y fangre dros dro)] i wneud hynny, neu
(ii)onid yw’r paragraff hwn yn peidio â bod yn gymwys mewn perthynas â P yn rhinwedd rheoliad 10(3) (gadael Cymru).
(4) Rhaid i P hefyd—
(a)cyn cyrraedd Cymru, neu
(b)cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl cyrraedd Cymru,
hysbysu’r Ysgrifennydd Gwladol yn electronig am gyfeiriad y fangre y mae P yn bwriadu preswylio ynddi at ddibenion paragraff (3) gan ddefnyddio cyfleuster a ddarperir gan yr Ysgrifennydd Gwladol at y diben hwnnw.
Diwygiadau Testunol
F20Gair yn rhl. 8(1)(b) wedi ei amnewid (10.12.2020) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Chyfyngiadau) (Diwygio) (Rhif 3) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/1477), rhlau. 1(2), 2(a)(iii)
F21Geiriau yn rhl. 8(1)(b) wedi eu hamnewid (10.7.2020) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd i Deithwyr) (Cymru) (Diwygio) 2020 (O.S. 2020/714), rhlau. 1(2), 4(3) (ynghyd â rhl. 7)
F22Geiriau yn rhl. 8(2)(a)(i) wedi eu hamnewid (15.6.2020 am 5.38 p.m.) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd ar gyfer Personau sy’n Teithio i Gymru etc.) 2020 (O.S. 2020/595), rhlau. 1(3), 10(2)(d)(i) (ynghyd â rhl. 11)
F23Rhl. 8(2)(c) wedi ei fewnosod (19.12.2020 am 4.00 a.m.) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 22) 2020 (O.S. 2020/1602), rhlau. 1(2), 4(2)
F24Geiriau yn rhl. 8(3)(b)(i) wedi eu hamnewid (15.6.2020 am 5.38 p.m.) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd ar gyfer Personau sy’n Teithio i Gymru etc.) 2020 (O.S. 2020/595), rhlau. 1(3), 10(2)(d)(ii) (ynghyd â rhl. 11)
Addasiadau (ddim yn newid testun)
C2Rhl. 8(1) addaswyd (11.7.2020) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) 2020 (O.S. 2020/726), rhlau. 1(2), 3
Gwybodaeth Cychwyn
9.—[F25(1) At ddibenion y Rhan hon, ystyr “gwlad neu diriogaeth esempt” yw—
(a)gwlad neu diriogaeth o fewn yr ardal deithio gyffredin;
(b)gwlad neu diriogaeth a restrir yn Atodlen 3;
ac mae unrhyw gyfeiriad at “gwlad neu diriogaeth nad yw’n esempt” i’w ddehongli yn unol â hynny.]
[F26(2)] Nid yw rheoliad 7 ac 8 yn gymwys i berson a ddisgrifir—
(a)ym mharagraff 1(1)(a) i (k) o Atodlen 2 sy’n bodloni’r amodau ym [F27mharagraff 1(2)] o’r Atodlen honno;
(b)ym mharagraffau 2 i [F28[F2939]] o Atodlen 2.
Diwygiadau Testunol
F25Rhl. 9(1) wedi ei fewnosod (10.7.2020) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd i Deithwyr) (Cymru) (Diwygio) 2020 (O.S. 2020/714), rhlau. 1(2), 4(4)(b) (ynghyd â rhl. 7)
F26Rhl. 9(2): rhl. 9 wedi ei ailrifo fel rhl. 9(2) (10.7.2020) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd i Deithwyr) (Cymru) (Diwygio) 2020 (O.S. 2020/714), rhlau. 1(2), 4(4)(a) (ynghyd â rhl. 7)
F27Geiriau yn rhl. 9(2)(a) wedi eu hamnewid (10.7.2020) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd i Deithwyr) (Cymru) (Diwygio) 2020 (O.S. 2020/714), rhlau. 1(2), 9(2)
F28Gair yn rhl. 9(2) wedi ei amnewid (22.8.2020 am 4.00 a.m.) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 6) 2020 (O.S. 2020/886), rhlau. 1(2), 6
F29Gair yn rhl. 9(2)(b) wedi ei amnewid (28.11.2020 am 4.00 a.m.) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 21) 2020 (dirymwyd) (O.S. 2020/1362), rhlau. 1(2), 6(2)
Gwybodaeth Cychwyn
10.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo gofyniad i ynysu yn ei gwneud yn ofynnol i berson (“P”) breswylio mewn mangre (a pheidio â gadael y fangre na bod y tu allan iddi) yng Nghymru.
(2) Ystyr “gofyniad i ynysu” mewn perthynas â P yw gofyniad a osodir gan—
(a)rheoliad 7(3);
(b)rheoliad 8(3)(b).
(3) Mae gofyniad i ynysu yn peidio â bod yn gymwys mewn perthynas â P os yw P yn gadael Cymru, onid yw P y tu allan [F30i Gymru dros dro at ddiben a awdurdodir gan baragraff (4)(b) i (k).]
(4) Caniateir i P adael y fangre a bod y tu allan iddi am gyhyd ag y bo’n angenrheidiol—
(a)i deithio at ddibenion gadael Cymru yn y modd a ddisgrifir gan baragraff (3);
(b)i gael angenrheidiau sylfaenol (gan gynnwys ar gyfer personau eraill yn y fangre neu unrhyw anifeiliaid anwes yn y fangre), pan na fo’n bosibl neu’n ymarferol—
(i)i berson arall yn y fangre eu cael ar ran P, neu
(ii)eu cael drwy ddanfoniad i’r fangre gan drydydd parti;
(c)i geisio cynhorthwy meddygol, pan fo angen y cynhorthwy hwnnw ar frys neu yn unol â chyngor ymarferydd meddygol cofrestredig;
(d)i gael gwasanaeth iechyd a ddarperir gan ymarferydd meddygol cofrestredig, pan fo trefniadau wedi eu gwneud i ddarparu’r gwasanaeth cyn i P gyrraedd y Deyrnas Unedig;
(e)i gynorthwyo person sy’n derbyn gwasanaeth iechyd a ddisgrifir ym mharagraff (d), neu i fod gyda’r person hwnnw os yw P yn blentyn y mae gan y person hwnnw gyfrifoldeb amdano;
[F31(ea)pan fo P yn blentyn nad yw’n byw ar yr un aelwyd â rhieni P, neu ag un o rieni P, i barhau â threfniant sydd eisoes yn bodoli er mwyn cael mynediad at, a chyswllt rhwng, P a rhieni P, ac at ddibenion yr is-baragraff hwn, mae “rhiant” yn cynnwys person nad yw’n rhiant i P, ond sydd â chyfrifoldeb rhiant dros P, neu sy’n gofalu amdano;]
(f)i gael gafael ar wasanaethau milfeddygol—
(i)pan fo angen y gwasanaethau hynny ar fyrder ar gyfer anifail anwes yn y fangre, a
(ii)pan na fo’n bosibl i berson arall yn y fangre gael mynediad i’r gwasanaethau hynny;
(g)i wneud gweithgareddau penodedig mewn perthynas â garddwriaeth fwytadwy, ond dim ond os yw P yn preswylio yn y fangre mewn cysylltiad â’r gweithgareddau hynny;
(h)i osgoi salwch neu anaf neu i ddianc rhag risg o niwed;
(i)i fodloni rhwymedigaeth gyfreithiol, gan gynnwys mynd i’r llys neu fodloni amodau mechnïaeth, neu i gymryd rhan mewn achos cyfreithiol;
(j)i gael gafael ar wasanaethau cyhoeddus (gan gynnwys gwasanaethau cymdeithasol neu wasanaethau i ddioddefwyr)—
(i)pan fo cael gafael ar y gwasanaeth yn hanfodol i lesiant P, a
(ii)pan na ellir darparu’r gwasanaeth os yw P yn aros yn y fangre;
(ja)pan fo P yn cystadlu mewn digwyddiad chwaraeon a bennir yn Atodlen 4 neu’n darparu hyfforddiant neu gymorth arall i berson sy’n cystadlu mewn digwyddiad o’r fath, i gymryd rhan yn y digwyddiad neu i ymgymryd â hyfforddiant neu weithgareddau eraill sy’n gysylltiedig â’r digwyddiad;
(jb)pan fo P yn gwasanaethu fel swyddog mewn digwyddiad chwaraeon o’r fath, neu’n ymwneud â’i gynnal, i fynd i’r digwyddiad neu i ymgymryd â gweithgareddau sy’n gysylltiedig â gwasanaethu fel swyddog neu gynnal y digwyddiad;
F32(jc). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
F32(jd). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
F33(je). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
F33(jf). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
F33(jg). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
[F34(jh)pan fo P yn athletwr elît sydd wedi teithio i’r Deyrnas Unedig i gael un neu ragor o archwiliadau meddygol, i fynd i’r archwiliad hwnnw, ar yr amod—
(i)bod yr archwiliad meddygol at ddiben busnes sy’n penderfynu pa un ai i gynnig contract i P i gymryd rhan mewn cystadleuaeth elît ar ran y busnes hwnnw,
(ii)bod gan P gadarnhad ysgrifenedig yn ei feddiant oddi wrth y busnes hwnnw o’r trefniadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (i), a
(iii)bod y trefniadau hynny wedi eu gwneud cyn i P gyrraedd y Deyrnas Unedig;
(ji)pan fo P yn berson sy’n teithio gydag athletwr elît at ddiben is-baragraff (jh), i ddarparu cynorthwy a chymorth i’r athletwr elît hwnnw mewn cysylltiad ag archwiliad meddygol o’r fath;
(jj)pan fo P yn athletwr elît sydd wedi contractio â busnes i gymryd rhan mewn cystadleuaeth elît, i gymryd rhan mewn cystadleuaeth o’r fath neu ymgymryd â hyfforddiant neu weithgareddau eraill sy’n gysylltiedig â’r gystadleuaeth elît honno;]
(k)am resymau tosturiol, gan gynnwys i fynd i angladd—
(i)aelod o deulu P;
(ii)ffrind agos.
(5) O ran P—
(a)pan fo rhwymedigaeth gyfreithiol yn ei gwneud yn ofynnol i P newid y fangre y mae’n preswylio ynddi at ddiben gofyniad i ynysu, neu
(b)pan na fo P fel arall yn gallu aros yn y fangre y mae P yn preswylio ynddi at ddiben gofyniad i ynysu,
caiff P deithio’n uniongyrchol i fangre arall yng Nghymru sy’n addas i P breswylio ynddi tan ddiwedd diwrnod olaf ynysiad P; ac mae cyfeiriadau yn y Rhan hon at fangre, mewn perthynas â gofyniad i ynysu, i’w darllen yn unol â hynny.
(6) Pan fo paragraff (5) yn gymwys, rhaid i P hysbysu’r Ysgrifennydd Gwladol yn electronig am gyfeiriad y fangre arall cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol gan ddefnyddio cyfleuster a ddarparwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol at y diben hwnnw.
(7) Nid yw gofyniad i ynysu yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw gyfnod pan fo P—
(a)wedi ei symud ymaith i le, wedi ei gyfarwyddo i fynd i le neu wedi ei gyfarwyddo i aros mewn lle gan swyddog mewnfudo, cwnstabl neu swyddog iechyd y cyhoedd o dan Atodlen 21 i Ddeddf y Coronafeirws 2020(8);
(b)wedi ei gadw mewn lle yn rhinwedd gofyniad a osodir o dan y Deddfau Mewnfudo.
(8) At ddibenion y rheoliad hwn—
[F35mae i “athletwr elît” (“elite athlete”) yr un ystyr ag ym mharagraff 38(2)(a) o Atodlen 2]
[F35mae i “cystadleuaeth elît” (“elite competition”) yr un ystyr ag ym mharagraff 38(2)(b) o Atodlen 2]
[F36(a)] ystyr “garddwriaeth fwytadwy” (“edible horticulture”) yw tyfu—
llysiau wedi eu diogelu a dyfir mewn systemau tai gwydr,
llysiau maes a dyfir yn yr awyr agored, gan gynnwys llysiau, perlysiau, salad deiliog a thatws,
ffrwythau meddal a dyfir yn yr awyr agored neu o dan orchudd,
coed sy’n dwyn ffrwyth,
gwinwydd a choesynnau, neu
madarch;
ystyr “gwasanaeth iechyd” (“health service”) yw gwasanaeth a ddarperir ar gyfer y canlynol neu mewn cysylltiad â’r canlynol—
atal salwch, gwneud diagnosis o salwch neu ei drin, neu
hybu neu warchod iechyd y cyhoedd;
ystyr “ymarferydd meddygol cofrestredig” (“registered medical practitioner”) yw person sydd wedi ei gofrestri’n llawn o fewn yr ystyr a roddir i “fully registered” yn Neddf Meddygol 1983(9) sydd yn dal trwydded i ymarfer o dan y Ddeddf honno;
ystyr “gweithgareddau penodedig” (“specified activities”), mewn perthynas â garddwriaeth fwytadwy, yw—
cynnal a chadw cnydau,
cynaeafu cnydau,
codi twneli a’u datgymalu,
gosod dulliau dyfrhau a’u cynnal,
hwsmonaeth cnydau,
pacio a phrosesu cnydau ar fangreoedd cyflogwyr,
paratoi mannau a chyfryngau tyfu a’u datgymalu,
gwaith cynhyrchu sylfaenol cyffredinol mewn garddwriaeth fwytadwy,
gweithgareddau sy’n ymwneud â goruchwylio timau o weithwyr garddwriaeth.
F37(b). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
F37(c). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
F37(d). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
F37(e). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
Diwygiadau Testunol
F30Geiriau yn rhl. 10(3) wedi eu hamnewid (C.) (10.7.2020) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd i Deithwyr) (Cymru) (Diwygio) 2020 (O.S. 2020/714), rhlau. 1(2), 5(1)(a)(i) (ynghyd â rhl. 7)
F31Rhl. 10(4)(ea) wedi ei fewnosod (10.12.2020) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Chyfyngiadau) (Diwygio) (Rhif 3) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/1477), rhlau. 1(2), 2(b)
F32Rhl. 10(4)(jc)(jd) wedi ei hepgor (18.1.2021 am 4.00 a.m.) yn rhinwedd Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2021 (O.S. 2021/50), rhlau. 1(2), 5
F33Rhl. 10(4)(je)-(jg) wedi ei hepgor (22.8.2020 am 4.00 a.m.) yn rhinwedd Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 6) 2020 (O.S. 2020/886), rhlau. 1(2), 7(2)
F34Rhl. 10(4)(jh)-(jj) wedi eu mewnosod (26.9.2020 am 4.00 a.m.) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 12) 2020 (O.S. 2020/1042), rhlau. 1(2), 4(2)
F35Geiriau yn rhl. 10(8) wedi eu mewnosod (26.9.2020 am 4.00 a.m.) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 12) 2020 (O.S. 2020/1042), rhlau. 1(2), 4(3)
F36Geiriau yn rhl. 10(8)(a) in rhl. 10(8) wedi ei ailrifo fel rhl. 10(8)(a) (C.) (10.7.2020) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd i Deithwyr) (Cymru) (Diwygio) 2020 (O.S. 2020/714), rhlau. 1(2), 5(1)(c)(i) (ynghyd â rhl. 7)
F37Rhl. 10(8)(b)-(e) wedi ei hepgor (22.8.2020 am 4.00 a.m.) yn rhinwedd Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 6) 2020 (O.S. 2020/886), rhlau. 1(2), 7(3)
Gwybodaeth Cychwyn
11. Pan osodir gofyniad ar blentyn o dan reoliad 7, 8 neu 10, rhaid i berson sydd â chyfrifoldeb am y plentyn gymryd pob mesur rhesymol i sicrhau bod y plentyn yn cydymffurfio â’r gofyniad.
12. At ddibenion rheoliadau 7, 8 a 10, diwrnod olaf ynysiad P yw diwrnod olaf y cyfnod o [F3810 niwrnod sy’n dechrau ar y diwrnod ar ôl] y diwrnod [F39yr oedd P mewn gwlad neu diriogaeth nad yw’n esempt ddiwethaf].
Diwygiadau Testunol
F38Geiriau yn rhl. 12 wedi eu hamnewid (10.12.2020) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Chyfyngiadau) (Diwygio) (Rhif 3) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/1477), rhlau. 1(2), 2(c) (ynghyd â rhl. 3)
F39Geiriau yn rhl. 12 wedi eu hamnewid (C.) (10.7.2020) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd i Deithwyr) (Cymru) (Diwygio) 2020 (O.S. 2020/714), rhlau. 1(2), 4(5) (ynghyd â rhl. 7)
Gwybodaeth Cychwyn
F4012A. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
Diwygiadau Testunol
F40Rhl. 12A wedi ei hepgor (28.11.2020 am 4.00 a.m.) yn rhinwedd Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 21) 2020 (dirymwyd) (O.S. 2020/1362), rhlau. 1(2), 6(3) (ynghyd â rhl. 7)
F4112C. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
Diwygiadau Testunol
F41Rhl. 12C wedi ei hepgor (9.1.2021 am 4.00 a.m.) yn rhinwedd Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Chyfyngiadau) (Diwygio) (Cymru) 2021 (O.S. 2021/20), rhlau. 1(2), 4 (ynghyd â rhl. 5)
Diwygiadau Testunol
F42Rhn. 3A wedi ei hepgor (28.11.2020 am 4.00 a.m.) yn rhinwedd Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 21) 2020 (dirymwyd) (O.S. 2020/1362), rhlau. 1(2), 8(1)
F42 . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
Diwygiadau Testunol
F43Rhn. 3B wedi ei hepgor (9.1.2021 am 4.00 a.m.) yn rhinwedd Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Chyfyngiadau) (Diwygio) (Cymru) 2021 (O.S. 2021/20), rhlau. 1(2), 6
Diwygiadau Testunol
F44Rhn. 3C wedi ei fewnosod (9.1.2021 am 4.00 a.m.) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Chyfyngiadau) (Diwygio) (Cymru) 2021 (O.S. 2021/20), rhlau. 1(2), 7(2)
12E.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo gofyniad ynysu (o fewn yr ystyr a roddir gan reoliad 10(2)) yn cael ei osod ar berson (“P”) am fod P—
(a)wedi cyrraedd Cymru o wlad neu diriogaeth a restrir yn Atodlen 3A, neu
(b)wedi bod mewn gwlad neu diriogaeth a restrir yn Atodlen 3A o fewn y cyfnod o 10 niwrnod sy’n dod i ben â’r diwrnod y mae P yn cyrraedd Cymru.
(2) Mae rheoliadau 7(1) ac 8(1) i’w darllen mewn perthynas â P fel pe bai cyfeiriadau at “gwlad neu diriogaeth nad yw’n esempt” yn gyfeiriadau at “gwlad neu diriogaeth a restrir yn Atodlen 3A”.
(3) Mae’r gofyniad ynysu sydd wedi ei osod ar P yn rhinwedd rheoliad 7(1) neu 8(1) fel y’i haddesir gan baragraff (2), hefyd wedi ei osod ar bob aelod o aelwyd P.
(4) Er gwaethaf rheoliad 9(2), mae rheoliadau 7 ac 8 yn gymwys i P.
(5) Nid yw aelod o aelwyd P wedi ei esemptio rhag y gofyniad i ynysu yn rhinwedd rheoliad 9(2).
(6) Yn unol â hynny nid yw P nac unrhyw aelod o aelwyd P i’w drin fel person a ddisgrifir mewn unrhyw baragraff o Atodlen 2.
(7) At ddibenion rheoliad 10, mae aelod o aelwyd P i’w drin fel pe bai P oedd y person hwnnw.
(8) Mae rheoliad 10 yn gymwys i P (ac aelod o aelwyd P yn rhinwedd paragraff (7)) fel pe bai’r canlynol wedi ei roi yn lle paragraff (4) o’r rheoliad hwnnw—
“(4) Caiff P adael y fangre a bod y tu allan iddi—
(a)cyhyd ag y bo’n angenrheidiol—
(i)i geisio cynhorthwy meddygol, pan fo angen hynny ar frys neu yn unol â chyngor ymarferydd meddygol cofrestredig;
(ii)i osgoi salwch difrifol, anaf difrifol neu risg arall o niwed difrifol;
(iii)i gyflawni rhwymedigaeth gyfreithiol, gan gynnwys mynd i’r llys neu fodloni amodau mechnïaeth, neu i gymryd rhan mewn achos cyfreithiol;
(b)os yw’n ofynnol iddo wneud hynny gan gwnstabl;
(c)i deithio at ddiben gadael Cymru.”
[F45(9) Nid yw’r rheoliad hwn yn gymwys pan, o ran P—
(a)mae’n weithiwr cludiant ffyrdd (o fewn yr ystyr a roddir ym mharagraff 6 o Atodlen 2),
(b)bu ddiwethaf ym Mhortiwgal o fewn y cyfnod o 10 niwrnod sy’n dod i ben ar y diwrnod y mae P yn cyrraedd Cymru, ac
(c)nid yw, yn ystod y cyfnod hwnnw, wedi bod mewn unrhyw wlad neu diriogaeth arall a restrir yn Atodlen 3A.]
Diwygiadau Testunol
F45Rhl. 12E(9) wedi ei fewnosod (15.1.2021 am 4.00 a.m.) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Chyfyngiadau) (Diwygio) (Rhif 2) (Cymru) 2021 (O.S. 2021/46), rhlau. 1(2), 6
12F.—[F46(1) Ni chaiff y person sy’n rheoli awyren neu lestr neu sydd â rheolaeth dros awyren neu lestr yr oedd ei man ymadael diwethaf neu ei fan ymadael diwethaf yn wlad neu diriogaeth a restrir yn Atodlen 3A beri na chaniatáu i’r awyren neu’r llestr gyrraedd Cymru, oni bai—
(a)ei bod yn rhesymol angenrheidiol iddi neu iddo wneud hynny er mwyn sicrhau diogelwch yr awyren neu’r llestr neu iechyd a diogelwch unrhyw berson ar ei bwrdd neu ar ei fwrdd;
(b)mai dim ond at ddiben ail-lenwi’r awyren neu’r llestr â thanwydd, neu gynnal a chadw’r awyren neu’r llestr, y mae’n cyrraedd Cymru, ac na chaniateir i unrhyw deithwyr fynd ar fwrdd yr awyren neu’r llestr neu ddod oddi ar yr awyren neu’r llestr;
(c)mai ambiwlans awyr yw’r awyren a’i fod yn glanio at ddiben cludo person i gael triniaeth feddygol; neu
(d)bod cyrraedd yn ofynnol fel arall yn unol â chyfarwyddyd a ddyroddir o dan Atodlen 3A i Ddeddf Llongau Masnach 1995.]
(2) Nid yw paragraff (1) yn gymwys i—
(a)awyren a weithredir yn fasnachol neu lestr a weithredir yn fasnachol nad yw’n cludo unrhyw deithwyr;
(b)awyren neu lestr a weithredir gan Lywodraeth ei Mawrhydi yn y Deyrnas Unedig neu i’w chefnogi;
(c)awyren neu lestr a oedd mewn gwlad neu diriogaeth a restrir yn Atodlen 3A ddiweddaf 11 o ddiwrnodau neu ragor cyn cyrraedd Cymru.
(3) Yn y rheoliad hwn—
(a)ystyr “cyrraedd” yw—
(i)mewn perthynas ag awyren, glanio;
(ii)mewn perthynas â llestr, angori yn unrhyw fan;
(b)ystyr “teithiwr” yw person a gludir mewn awyren neu ar lestr ac eithrio aelod o’i chriw neu o’i griw.]
Diwygiadau Testunol
F46Rhl. 12F(1) wedi ei amnewid (22.1.2021 am 4.00 a.m.) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Chyfyngiadau) (Diwygio) (Rhif 3) (Cymru) 2021 (O.S. 2021/66), rhlau. 1(2), 5 (ynghyd â rhl. 3)
Addasiadau (ddim yn newid testun)
C3Rhl. 12F eithrio (15.1.2021 am 4.00 a.m.) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Chyfyngiadau) (Diwygio) (Rhif 2) (Cymru) 2021 (O.S. 2021/46), rhlau. 1(2), 5
13.—(1) Pan fo gan gwnstabl sail resymol dros amau bod person (“P”) yn torri rheoliad 7(3) neu 8(3)(b), caiff y cwnstabl—
(a)cyfarwyddo P i ddychwelyd i’r fangre y mae P yn preswylio ynddi,
(b)symud P ymaith i’r fangre, neu
(c)pan na fo’n ymarferol neu’n briodol cymryd y cam yn is-baragraff (a) neu (b) o dan yr amgylchiadau, symud P ymaith i fangre wedi’i threfnu gan Weinidogion Cymru sy’n addas i P breswylio ynddi at ddibenion rheoliad 7(3) neu 8(3)(b).
(2) Caiff cwnstabl sy’n arfer y pŵer ym mharagraff (1)(b) neu (c) ddefnyddio grym rhesymol, os yw hynny’n angenrheidiol, wrth arfer y pŵer.
(3) Pan fo P yn blentyn yng nghwmni person sydd â chyfrifoldeb am y plentyn—
(a)caiff y cwnstabl gyfarwyddo’r person â’r cyfrifoldeb hwnnw i fynd â’r plentyn i’r fangre y mae’r plentyn yn preswylio ynddi, a
(b)rhaid i’r person, i’r graddau y bo’n rhesymol ymarferol, sicrhau bod y plentyn yn cydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddyd neu gyfarwyddiad a roddir gan y cwnstabl i’r plentyn.
(4) Caiff cwnstabl gymryd unrhyw gamau eraill y mae’r cwnstabl yn ystyried eu bod yn angenrheidiol ac yn gymesur i hwyluso arfer pŵer a roddir i’r cwnstabl gan y rheoliad hwn.
(5) Ni chaiff cwnstabl arfer pŵer a roddir i’r cwnstabl gan y rheoliad hwn oni fo’r cwnstabl yn ystyried ei bod yn angenrheidiol ac yn gymesur gwneud hynny.
14.—(1) Mae oedolyn sy’n torri gofyniad yn rheoliad —
(a)4(1) neu (4),
[F47(aa)6A(1) neu (2),]
(b)5(2),
(c)7(2), (3) neu (5), F48...
(d)8(3) neu (4),
F53(g). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
[F54(g)12D(1),]
yn cyflawni trosedd.
[F55(1A) Ond nid yw person yn cyflawni trosedd pan fo’n torri gofyniad yn rheoliad 6A(1), os oedd yn credu’n rhesymol ar adeg y toriad fod hysbysiad o ganlyniad negyddol yn ei feddiant yn ymwneud â’r person neu â phlentyn y mae gan y person gyfrifoldeb drosto (yn ôl y digwydd), yn ddilys ac o brawf cymhwysol (at ddibenion y rheoliad hwnnw).]
(2) Mae’n drosedd i oedolyn ddarparu gwybodaeth anwir neu gamarweiniol i’r Ysgrifennydd Gwladol at ddibenion rheoliad 4, 5, 7(5), 8(4) neu 10(6)—
(a)pan fo’r person yn gwybod bod yr wybodaeth yn anwir neu’n gamarweiniol, neu
(b)pan fo’r person yn ddi-hid ynghylch pa un a yw’n anwir neu’n gamarweiniol.
(3) Mae oedolyn sy’n methu cydymffurfio â chyfarwyddyd a roddir gan gwnstabl o dan reoliad 13 yn cyflawni trosedd.
(4) Mae oedolyn sy’n rhwystro yn fwriadol unrhyw berson sy’n arfer swyddogaethau o dan y [F56Rheoliadau hyn] yn cyflawni trosedd.
(5) Mae’n amddiffyniad i gyhuddiad o gyflawni trosedd o dan baragraff (1) neu (3) i ddangos bod gan y person esgus rhesymol dros dorri’r gofyniad neu fethu â chydymffurfio â’r gofyniad o dan sylw.
[F57(5A) Mewn perthynas â throsedd o dorri rheoliad 6A(1), mae’r amgylchiadau y mae gan berson esgus rhesymol oddi tanynt yn cynnwys—
(a)pan oedd person yn anffit yn feddygol i ddarparu sampl ar gyfer prawf cymhwysol cyn teithio i Gymru ac yn meddu ar ddogfen, wedi ei llofnodi gan ymarferydd meddygol sydd â hawl i ymarfer yn y wlad neu’r diriogaeth y mae’r ymarferydd hwnnw wedi ei leoli ynddi, i’r perwyl hwnnw,
(b)pan nad oedd yn rhesymol ymarferol i berson gael prawf cymhwysol cyn teithio i Gymru oherwydd—
(i)anabledd,
(ii)yr angen i gael triniaeth feddygol frys,
(c)pan oedd person yn mynd gyda pherson a ddisgrifir yn is-baragraff (b) er mwyn darparu cymorth (boed feddygol neu fel arall) ac nad oedd yn rhesymol ymarferol i’r person a oedd yn mynd gydag ef gael prawf cymhwysol cyn teithio i Gymru,
(d)pan oedd person wedi dechrau ar ei daith i Gymru mewn gwlad neu diriogaeth lle nad oedd prawf cymhwysol ar gael i’r cyhoedd (gyda thaliad neu hebddo) neu nad oedd yn rhesymol ymarferol i berson gael prawf cymhwysol oherwydd diffyg mynediad rhesymol i brawf cymhwysol neu gyfleuster profi ac nad oedd yn rhesymol ymarferol iddo gael prawf cymhwysol yn ei fan ymadael diwethaf os oedd hwnnw’n wahanol i’r fan lle y dechreuodd ei daith,
(e)pan oedd yr amser y mae wedi ei gymryd i berson deithio o’r wlad neu’r diriogaeth lle y dechreuodd ar ei daith i wlad neu diriogaeth ei fan ymadael diwethaf cyn cyrraedd Cymru yn golygu nad oedd yn rhesymol ymarferol iddo fodloni’r gofyniad ym mharagraff 1(c) o Atodlen 1A, ac nad oedd yn rhesymol ymarferol iddo gael prawf cymhwysol yn ei fan ymadael diwethaf.]
(6) Mae person sy’n cyflawni trosedd o dan y rheoliad hwn yn agored ar euogfarn ddiannod i ddirwy.
(7) Mae adran 24 o Ddeddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 1984(10) yn gymwys mewn perthynas â throsedd o dan y rheoliad hwn fel pe bai’r rhesymau yn is-adran (5) o’r adran honno yn cynnwys—
(a)cynnal iechyd y cyhoedd;
(b)cynnal trefn gyhoeddus.
Diwygiadau Testunol
F47Rhl. 14(1)(aa) wedi ei fewnosod (18.1.2021 am 4.00 a.m.) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol, Profion cyn Ymadael ac Atebolrwydd Gweithredwyr) (Cymru) (Diwygio) 2021 (O.S. 2021/48), rhlau. 1(2), 3(4)(a) (ynghyd â rhl. 11)
F48Gair yn rhl. 14(1)(c) wedi ei hepgor (9.1.2021 am 4.00 a.m.) yn rhinwedd Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Chyfyngiadau) (Diwygio) (Cymru) 2021 (O.S. 2021/20), rhlau. 1(2), 9
F49Gair yn rhl. 14(1)(e) wedi ei hepgor (14.11.2020 am 4.00 a.m.) yn rhinwedd Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Chyfyngiadau) (Diwygio) (Rhif 2) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/1288), rhlau. 1(2), 2(4)(a)
F50Gair yn rhl. 14(1)(e) wedi ei hepgor (24.12.2020 coming into force am 9.00 a.m.) yn rhinwedd Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, De Affrica) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/1645), rhlau. 1(2), 2(3)(a)
F51Gair yn rhl. 14(1)(f) wedi ei hepgor (28.11.2020 am 4.00 a.m.) yn rhinwedd Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 21) 2020 (dirymwyd) (O.S. 2020/1362), rhlau. 1(2), 8(2)(b)
F52Gair yn rhl. 14(1)(f) wedi ei fewnosod (24.12.2020 coming into force am 9.00 a.m.) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, De Affrica) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/1645), rhlau. 1(2), 2(3)(b)
F53Rhl. 14(1)(g) wedi ei hepgor (28.11.2020 am 4.00 a.m.) yn rhinwedd Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 21) 2020 (dirymwyd) (O.S. 2020/1362), rhlau. 1(2), 8(2)(c)
F54Rhl. 14(1)(g) wedi ei fewnosod (24.12.2020 coming into force am 9.00 a.m.) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, De Affrica) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/1645), rhlau. 1(2), 2(3)(c)
F55Rhl. 14(1A) wedi ei fewnosod (18.1.2021 am 4.00 a.m.) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol, Profion cyn Ymadael ac Atebolrwydd Gweithredwyr) (Cymru) (Diwygio) 2021 (O.S. 2021/48), rhlau. 1(2), 3(4)(b) (ynghyd â rhl. 11)
F56Geiriau yn rhl. 14(4) wedi eu hamnewid (15.6.2020 am 5.38 p.m.) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd ar gyfer Personau sy’n Teithio i Gymru etc.) 2020 (O.S. 2020/595), rhlau. 1(3), 10(2)(e) (ynghyd â rhl. 11)
F57Rhl. 14(5A) wedi ei fewnosod (18.1.2021 am 4.00 a.m.) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol, Profion cyn Ymadael ac Atebolrwydd Gweithredwyr) (Cymru) (Diwygio) 2021 (O.S. 2021/48), rhlau. 1(2), 3(4)(c) (ynghyd â rhl. 11)
Gwybodaeth Cychwyn
15. Ni chaniateir dwyn achos am drosedd o dan y Rheoliadau hyn ond gan y Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus neu unrhyw berson sydd wedi ei ddynodi gan Weinidogion Cymru.
16.—(1) Caiff swyddog mewnfudo ddyroddi hysbysiad cosb benodedig i unrhyw oedolyn y mae’r swyddog yn credu’n rhesymol ei fod wedi cyflawni trosedd—
(a)o dan reoliad 14(1) neu (2)—
(i)mewn perthynas â gofyniad yn rheoliad 4(1) neu (4), 5(2), [F586A(1) neu (2)] neu 7(5), neu
(ii)mewn perthynas â thorri gofyniad yn rheoliad 11 sy’n ymwneud â’r gofyniad yn rheoliad 7(5), neu
(b)o dan reoliad 14(4) lle credir bod y person yn fwriadol wedi rhwystro person oedd yn arfer swyddogaeth mewn perthynas ag un o’r gofynion hynny.
(2) Caiff cwnstabl ddyroddi hysbysiad cosb benodedig i unrhyw oedolyn y mae’r cwnstabl yn credu’n rhesymol ei fod wedi cyflawni trosedd o dan y [F59Rheoliadau] hyn.
(3) Hysbysiad yw hysbysiad cosb benodedig sy’n cynnig i’r person y’i dyroddir iddo y cyfle i gael ei ryddhau o unrhyw atebolrwydd am euogfarn am y drosedd drwy dalu cosb benodedig i—
(a)Gweinidogion Cymru, neu
(b)person a ddynodir gan Weinidogion Cymru at ddibenion cael taliad o dan y rheoliad hwn.
(4) Pan ddyroddir hysbysiad i berson o dan y rheoliad hwn mewn cysylltiad â throsedd—
(a)ni chaniateir dwyn unrhyw achos am y drosedd cyn diwedd y cyfnod o 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau ar y dyddiad y dyroddir yr hysbysiad;
(b)ni chaniateir euogfarnu’r person o’r drosedd os yw’r person yn talu’r gosb benodedig cyn diwedd y cyfnod hwnnw.
(5) Rhaid i hysbysiad cosb benodedig—
(a)disgrifio’r amgylchiadau yr honnir eu bod yn ffurfio’r drosedd,
(b)datgan y cyfnod pan (oherwydd paragraff (4)(a)) na ddygir achos am y drosedd,
(c)pennu swm y gosb benodedig,
(d)datgan enw a chyfeiriad y person y caniateir talu’r gosb benodedig iddo, ac
(e)pennu dulliau o dalu a ganiateir.
(6) Pan ddyroddir yr hysbysiad cosb benodedig mewn cysylltiad â throsedd—
(a)o dorri gofyniad a osodir gan reoliad 7(2), neu (3), 8(3) neu 11,
[F60(aa)o dorri gofyniad a osodir gan reoliad 6A,]
(b)o dan reoliad 14(3), neu
(c)o dan reoliad 14(4) lle credir bod y person yn fwriadol wedi rhwystro person oedd yn arfer swyddogaeth mewn perthynas â rheoliad 7(2) neu (3), 8(3) neu 11,
[F61mae’r swm a bennir o dan baragraff (5)(c) i fod fel a nodir ym mharagraff (6A)].
[F62(6A) Mae’r swm a bennir yn gosb benodedig ym mharagraff (6) i fod—
(a)yn achos yr hysbysiad cosb benodedig cyntaf a geir, yn £500;
(b)yn achos yr ail hysbysiad cosb benodedig a geir, yn £1000;
(c)yn achos y trydydd hysbysiad cosb benodedig a geir, yn £2000;
(d)yn achos y pedwerydd hysbysiad cosb benodedig a geir, ac unrhyw hysbysiad cosb benodedig a geir wedi hynny, yn £4000.]
(7) Pan ddyroddir yr hysbysiad cosb benodedig mewn cysylltiad â throsedd (“trosedd gwybodaeth neu hysbysu”) —
(a)o dorri gofyniad a osodir gan reoliad 4(1) neu (4), 5(2), 7(5), 8(4) neu 10(6), neu
(b)o dan reoliad 14(4) lle credir bod y person yn fwriadol wedi rhwystro person oedd yn arfer swyddogaethau mewn perthynas ag un o’r gofynion hynny,
rhaid i’r swm a bennir o dan baragraff (5)(c) fod yn £60 (yn ddarostyngedig i baragraffau (8) a (9)).
(8) Caiff hysbysiad cosb benodedig a ddyroddir mewn cysylltiad â throsedd gwybodaeth neu hysbysu bennu, os telir £30 cyn diwedd y cyfnod o 14 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl dyddiad y dyroddir yr hysbysiad, mai dyna yw swm y gosb benodedig.
(9) Ond os yw’r person y dyroddir iddo hysbysiad cosb benodedig mewn cysylltiad â throsedd gwybodaeth neu hysbysu eisoes wedi cael hysbysiad cosb benodedig mewn cysylltiad â’r drosedd honno—
(a)nid yw paragraff (8) yn gymwys, a
(b)y swm a bennir fel y gosb benodedig fydd—
(i)yn achos yr ail hysbysiad cosb benodedig a geir, £120;
(ii)yn achos y trydydd hysbysiad cosb benodedig a geir, £240;
(iii)yn achos y pedwerydd hysbysiad cosb benodedig a geir, £480;
(iv)yn achos y pumed hysbysiad cosb benodedig a geir, £960;
(v)yn achos y chweched hysbysiad cosb benodedig a geir, ac unrhyw hysbysiad cosb benodedig a geir wedi hynny, £1920.
(10) Pa bynnag ddull arall a bennir o dan baragraff (5)(e), caniateir talu cosb benodedig drwy ragdalu a phostio llythyr sy’n cynnwys swm y gosb (mewn arian parod neu fel arall) i’r person y nodir ei enw o dan baragraff (5)(d) i’r cyfeiriad a nodir.
(11) Pan fo llythyr yn cael ei anfon fel a grybwyllir ym mharagraff (10), ystyrir bod taliad wedi ei wneud ar yr adeg y byddai’r llythyr hwnnw wedi cael ei ddanfon yn nhrefn arferol y post.
(12) Mewn unrhyw achos, mae tystysgrif—
(a)sy’n honni ei bod wedi ei llofnodi gan neu ar ran—
(i)Gweinidogion Cymru, neu
(ii)person sydd wedi ei ddynodi gan Weinidogion Cymru o dan baragraff (3)(b), a
(b)sy’n datgan bod y taliad am y gosb benodedig wedi dod i law, neu heb ddod i law, erbyn y dyddiad a bennir yn y dystysgrif,
yn dystiolaeth o’r ffeithiau a ddatgenir.
Diwygiadau Testunol
F58Geiriau yn rhl. 16(1)(a)(i) wedi eu mewnosod (18.1.2021 am 4.00 a.m.) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol, Profion cyn Ymadael ac Atebolrwydd Gweithredwyr) (Cymru) (Diwygio) 2021 (O.S. 2021/48), rhlau. 1(2), 3(5)(a) (ynghyd â rhl. 11)
F59Gair yn rhl. 16(2) wedi ei amnewid (15.6.2020 am 5.38 p.m.) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd ar gyfer Personau sy’n Teithio i Gymru etc.) 2020 (O.S. 2020/595), rhlau. 1(3), 10(2)(f) (ynghyd â rhl. 11)
F60Rhl. 16(6)(aa) wedi ei fewnosod (18.1.2021 am 4.00 a.m.) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol, Profion cyn Ymadael ac Atebolrwydd Gweithredwyr) (Cymru) (Diwygio) 2021 (O.S. 2021/48), rhlau. 1(2), 3(5)(b) (ynghyd â rhl. 11)
F61Geiriau yn rhl. 16(6) wedi eu hamnewid (12.12.2020 am 4.00 a.m.) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd i Deithwyr) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2020 (dirymwyd) (O.S. 2020/1521), rhlau. 1(2), 6(2)
F62Rhl. 16(6A) wedi ei fewnosod (12.12.2020 am 4.00 a.m.) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd i Deithwyr) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2020 (dirymwyd) (O.S. 2020/1521), rhlau. 1(2), 6(3)
Gwybodaeth Cychwyn
17.—(1) Yn y rheoliad hwn ac yn rheoliad 18, ystyr “gwybodaeth berthnasol” yw—
(a)gwybodaeth am deithiwr o Gymru;
(b)gwybodaeth am deithiwr o weddill y Deyrnas Unedig.
(2) At ddibenion y rheoliad hwn—
(a)ystyr “gwybodaeth am deithiwr o Gymru” yw—
(i)gwybodaeth am deithiwr a roddir i’r Ysgrifennydd Gwladol at ddiben rheoliad 4 neu 5;
(ii)gwybodaeth a ddarparwyd i’r Ysgrifennydd Gwladol mewn hysbysiad a wnaed o dan reoliad 7(5)(b), 8(4) neu 10(6);
(b)ystyr “gwybodaeth am deithiwr o weddill y Deyrnas Unedig” yw gwybodaeth a roddir i berson o dan ddarpariaeth mewn Rheoliadau a wnaed mewn perthynas â Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon (yn ôl y digwydd) sy’n cyfateb i ddarpariaeth a grybwyllir yn is-baragraff (a).
(3) Yn y rheoliad hwn, mae unrhyw gyfeiriad at ddeiliad gwybodaeth yn gyfeiriad at—
(a)yr Ysgrifennydd Gwladol;
(b)person y datgelwyd yr wybodaeth iddo o dan baragraff (4) neu (5).
(4) Caiff deiliad gwybodaeth am deithiwr o Gymru ddatgelu’r wybodaeth i berson arall (y “derbynnydd”) o dan amgylchiadau pan fo’n angenrheidiol i’r derbynnydd gael yr wybodaeth—
(a)at ddiben arfer swyddogaeth y derbynnydd o dan —
(i)y Rheoliadau hyn, neu
(ii)Rheoliadau a wnaed mewn perthynas â Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon (yn ôl y digwydd) sy’n cyfateb â’r Rheoliadau yma;
(b)at ddiben—
(i)atal perygl i iechyd y cyhoedd o ganlyniad i ledaeniad haint neu halogiad y coronafeirws,
(ii)monitro lledaeniad haint neu halogiad y coronafeirws, neu
(iii)rhoi effaith i unrhyw drefniant neu gytundeb rhyngwladol sy’n ymwneud â lledaeniad haint neu halogiad y coronafeirws;
(c)at ddiben sy’n gysylltiedig â’r diben a ddisgrifir yn is-baragraff (a) neu (b), neu sydd fel arall yn gysylltiedig â‘r diben hwnnw
(5) Caiff deiliad gwybodaeth am deithiwr o weddill y Deyrnas Unedig ei ddatgelu i berson arall (“y derbynnydd”) mewn amgylchiadau lle ei bod hi’n angenrheidiol i’r derbynnydd gael y wybodaeth—
(a)at ddiben arfer swyddogaeth y derbynnydd o dan y Rheoliadau yma;
(b)at ddiben—
(i)atal perygl i iechyd y cyhoedd yng Nghymru o ganlyniad i ledaeniad haint neu halogiad y coronafeirws,
(ii)monitro lledaeniad haint neu halogiad y coronafeirws yng Nghymru, neu
(iii)rhoi effaith yng Nghymru i unrhyw drefniant neu gytundeb rhyngwladol sy’n ymwneud â lledaeniad haint neu halogiad y coronafeirws;
(c)at ddiben sy’n gysylltiedig â diben a ddisgrifir yn is-baragraff (a) neu (b) neu ddiben sydd fel arall yn gysylltiedig â’r diben hwnnw.
(6) Ni all deiliad gwybodaeth berthnasol ddefnyddio’r wybodaeth ac eithrio—
(a)at ddiben arfer swyddogaeth y deiliad o dan y Rheoliadau hyn;
(b)yn achos gwybodaeth am deithiwr o Gymru, at ddiben a ddisgrifir ym mharagraff (4)(b);
(c)yn achos gwybodaeth am deithiwr o weddill y Deyrnas Unedig, at ddiben a ddisgrifir ym mharagraff (5)(b);
(d)at ddiben sy’n gysylltiedig â diben a ddisgrifir yn is-baragraff (a), (b) neu (c), neu ddiben sydd fel arall yn gysylltiedig â’r diben hwnnw.
(7) Er gwaethaf paragraffau (4), (5) a (6), nid yw’r rheoliad hwn yn cyfyngu’r amgylchiadau lle y gellir fel arall ddatgelu’r wybodaeth yn gyfreithiol, neu lle y gellir defnyddio’r wybodaeth o dan unrhyw ddeddfiad arall neu reol gyfreithiol arall.
(8) Nid yw datgeliad a awdurdodir gan y rheoliad hwn yn torri—
(a)rhwymedigaeth o safbwynt cyfrinachedd sy’n ddyledus gan y person sy’n gwneud y datgeliad, neu
(b)unrhyw gyfyngiad arall ar ddatgelu gwybodaeth (ym mha fodd bynnag y’i gorfodir).
(9) Nid oes unrhyw beth yn y rheoliad hwn yn awdurdodi datgelu data personol pan fo gwneud hynny yn torri’r ddeddfwriaeth diogelu data.
(10) Ym [F63mharagraff (9)] , mae i “ddeddfwriaeth diogelu data” [F64a “data personol”] yr ystyr a roddir i “data protection legislation” [F65 rhodder “a] ” yr ystyr a roddir i “personal data” yn adran 3 o Ddeddf Diogelu Data 2018(11).
Diwygiadau Testunol
F63Geiriau yn rhl. 17(10) wedi eu hamnewid (C.) (10.7.2020) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd i Deithwyr) (Cymru) (Diwygio) 2020 (O.S. 2020/714), rhlau. 1(2), 9(3)
F64Geiriau yn rhl. 17(10) wedi eu mewnosod (15.6.2020 am 5.38 p.m.) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd ar gyfer Personau sy’n Teithio i Gymru etc.) 2020 (O.S. 2020/595), rhlau. 1(3), 10(2)(g)(i) (ynghyd â rhl. 11)
F65Gair yn rhl. 17(10) wedi ei amnewid (15.6.2020 am 5.38 p.m.) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd ar gyfer Personau sy’n Teithio i Gymru etc.) 2020 (O.S. 2020/595), rhlau. 1(3), 10(2)(g)(ii) (ynghyd â rhl. 11)
Gwybodaeth Cychwyn
18.—(1) Caniateir i wybodaeth berthnasol gael ei defnyddio fel tystiolaeth yn erbyn y person y mae’r wybodaeth yn ymwneud ag ef mewn achos troseddol.
(2) Pan ddefnyddir yr wybodaeth mewn achos ac eithrio ar gyfer trosedd o dan y Rheoliadau hyn neu adran 5 o Ddeddf Anudon 1911(12) (datganiadau anwir a wneir ac eithrio ar lw)—
(a)ni chaniateir i unrhyw dystiolaeth sy’n ymwneud â’r wybodaeth gael ei rhoi gan yr erlyniad nac ar ei ran, a
(b)ni chaniateir i unrhyw gwestiwn sy’n ymwneud â’r wybodaeth gael ei ofyn gan yr erlyniad nac ar ei ran.
(3) Nid yw paragraff (2) yn gymwys—
(a)os rhoddir tystiolaeth sy’n ymwneud â’r wybodaeth gan y person a’i darparodd, neu ar ei ran, yn ystod yr achos, neu
(b)os gofynnir cwestiwn sy’n ymwneud â’r wybodaeth gan y person hwnnw, neu ar ei ran, yn ystod yr achos.
19. Rhaid i Weinidogion Cymru adolygu’r angen am y gofynion a osodir gan y Rheoliadau hyn, ac a yw’r gofynion hynny’n gymesur â’r hyn y mae Gweinidogion Cymru yn ceisio ei gyflawni drwyddynt—
(a)erbyn 29 Mehefin 2020,
[F66(b)erbyn 27 Gorffennaf 2020;
(c)o leiaf unwaith yn y cyfnod o 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â 28 Gorffennaf 2020;
(d)o leiaf unwaith ym mhob cyfnod dilynol o 28 o ddiwrnodau.]
Diwygiadau Testunol
F66Rhlau. 19(b)-(d) wedi eu hamnewid ar gyfer rhl. 19(b)(c) (10.7.2020) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd i Deithwyr) (Cymru) (Diwygio) 2020 (O.S. 2020/714), rhlau. 1(2), 8
Gwybodaeth Cychwyn
20.—(1) Daw’r Rheoliadau hyn i ben ar ddiwedd y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â’r diwrnod y deuant i rym.
(2) Nid yw’r ffaith bod y Rheoliadau hyn wedi dod i ben yn effeithio ar ddilysrwydd unrhyw beth a wneir yn unol â’r Rheoliadau hyn cyn iddynt ddod i ben.
Mark Drakeford
Y Prif Weinidog, un o Weinidogion Cymru
5 Mehefin 2020
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: