Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 30/06/2021.
Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd ar gyfer Personau sy’n Teithio i Gymru etc.) 2020. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau.
Nid yw newidiadau ac effeithiau sydd eto i'w gwneud gan y tîm golygyddol ond yn berthnasol wrth edrych ar y fersiwn ddiweddaraf neu fersiwn ragolygol o ddeddfwriaeth. Felly, nid oes modd eu gweld wrth edrych ar ddeddfwriaeth fel y mae ar bwynt penodol mewn amser. Er mwyn gweld yr wybodaeth 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth' ar gyfer y ddarpariaeth hon ewch yn ôl i'r fersiwn ddiweddaraf gan ddefnyddio'r opsiynau yn y blwch 'Pa Fersiwn' uchod.
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd ar gyfer Personau sy’n Teithio i Gymru etc.) 2020.
(2) Daw’r Rheoliadau 2 i 9 i rym ar 17 Mehefin 2020.
(3) Daw’r rheoliad hwn a rheoliadau 10 ac 11 i rym pan wneir y Rheoliadau hyn.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 1 mewn grym ar y dyddiad gwneud am 5.38 p.m., gweler rhl. 1(3)
2. Yn y Rheoliadau hyn—
mae i “ardal deithio gyffredin” yr ystyr a roddir i “common travel area” yn adran 1(3) o Ddeddf Mewnfudo 1971(1);
ystyr “coronafeirws” (“coronavirus”) yw coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2);
[F1ystyr “gofyniad i ddarparu gwybodaeth” (“requirement to provide information”) yw’r gofyniad i ddarparu gwybodaeth yn unol â Rhan 2 o Reoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020(2);
ystyr “gofyniad i ynysu” (“requirement to isolate”) yw’r gofyniad i ynysu yn unol â Rhan 3 o Reoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020; ]
ystyr “gwasanaeth teithwyr rhyngwladol” (“international passenger service”) yw gwasanaeth masnachol y mae teithwyr yn ei ddefnyddio i deithio ar lestr neu awyren o’r tu allan i’r ardal deithio gyffredin i borthladd yng Nghymru;
ystyr “llestr” (“vessel”) yw pob ddisgrifiad o lestr a ddefnyddir i fordwyo (gan gynnwys hofrenfad o fewn ystyr “hovercraft” yn Neddf Hofrenfadau 1968(2)) sy’n 24 o fetrau neu fwy o hyd;
ystyr “person awdurdodedig” (“authorised person”) yw—
mewn perthynas â theithwyr sy’n cyrraedd ar lestr, yr Ysgrifennydd Gwladol;
mewn perthynas â theithwyr sy’n cyrraedd ar awyren, yr Awdurdod Hedfan Sifil(3);
mae “porthladd” (“port”) yn cynnwys unrhyw faes awyr, maes hofrenyddion neu borthladd môr.
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn rhl. 2 wedi eu mewnosod (4.11.2020) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd ar gyfer Personau sy’n Teithio i Gymru etc.) (Diwygio) 2020 (O.S. 2020/1118), rhlau. 1(2), 2(2)
Gwybodaeth Cychwyn
I3Rhl. 2 mewn grym ar 17.6.2020, gweler rhl. 1(2)
1971 p. 77. Mae’r adran honno yn darparu y cyfeirir ar y cyd at y Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw a Gweriniaeth Iwerddon fel “the common travel area”.
Mae’r Awdurdod Hedfan Sifil yn gorff corfforedig a sefydlwyd gan adran 1 o Ddeddf Hedfan Sifil 1971 (p. 75).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Point in Time: This becomes available after navigating to view revised legislation as it stood at a certain point in time via Advanced Features > Show Timeline of Changes or via a point in time advanced search. A point in time version is only available in English.
Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: