- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
Offerynnau Statudol Cymru
Landlord A Thenant, Cymru
Gwnaed
17 Mehefin 2020
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
19 Mehefin 2020
Yn dod i rym
30 Mehefin 2020
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pŵer a roddir iddynt gan adran 82(12) o Ddeddf y Coronafeirws 2020(1).
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Tenantiaethau Busnes (Estyn Gwarchodaeth rhag Fforffediad etc.) (Cymru) (Coronafeirws) 2020.
(2) Dawʼr Rheoliadau hyn i rym ar 30 Mehefin 2020.
2. At ddibenion adran 82 (tenantiaethau busnes yng Nghymru a Lloegr: gwarchodaeth rhag fforffediad etc.) o Ddeddf y Coronafeirws 2020, mae’r “relevant period” fel y’i diffinnir yn is-adran (12) o’r adran honno yn dod i ben, o ran Cymru, ar 30 Medi 2020.
Ken Skates
Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, un o Weinidogion Cymru
17 Mehefin 2020
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae adran 82 o Ddeddf y Coronafeirws 2020 yn sicrhau na chaniateir gorfodi ailfynediad neu fforffediad am beidio â thalu rhent mewn perthynas â’r holl fathau o denantiaid masnachol yn ystod y cyfnod perthnasol (“relevant period”). Mae adran 82(12) o’r Ddeddf yn diffinio’r “relevant period” fel cyfnod sy’n dechrau ar 26 Mawrth 2020, ac sy’n dod i ben ar 30 Mehefin 2020 neu ar unrhyw ddyddiad diweddarach a bennir mewn rheoliadau a wneir gan yr awdurdod cenedlaethol perthnasol.
Gweinidogion Cymru yw’r awdurdod cenedlaethol perthnasol o ran Cymru. Yn unol â hynny, mae’r Rheoliadau hyn yn estyn y cyfnod perthnasol hyd 30 Medi 2020. O ganlyniad i’r Rheoliadau hyn, mae’r moratoriwm a ddarperir gan adran 82 o’r Ddeddf wedi ei estyn hyd 30 Medi 2020.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ ac ar wefan Llywodraeth Cymru ar www.llyw.cymru.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: