- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
Addysg, Cymru
Gwnaed
19 Mehefin 2020
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
23 Mehefin 2020
Yn dod i rym
16 Gorffennaf 2020
Mae Gweinidogion Cymru drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 32A a 210 o Ddeddf Addysg 2002(1) yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
1. Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Hysbysu am Ddyddiadau Tymhorau Ysgol) (Cymru) (Diwygio) (Coronafeirws) 2020 a deuant i rym ar 16 Gorffennaf 2020.
2. Mae rheoliad 4 o Reoliadau Addysg (Hysbysu am Ddyddiadau Tymhorau Ysgol) (Cymru) 2014(2) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn—
(a)daw’r ddarpariaeth bresennol yn baragraff (1);
(b)ar ddechrau paragraff (1) mewnosoder “Yn ddarostyngedig i baragraff (2),”;
(c)ar ôl paragraff (1) mewnosoder—
“(2) Ar gyfer y flwyddyn ysgol 2022-2023, rhaid i awdurdod lleol hysbysu Gweinidogion Cymru am yr holl ddyddiadau tymhorau y penderfynwyd arnynt ar gyfer yr ysgolion a gynhelir yn ei ardal ar gyfer y flwyddyn ysgol honno heb fod yn hwyrach na 31 Rhagfyr 2020.”
Kirsty Williams
Y Gweinidog Addysg, un o Weinidogion Cymru
19 Mehefin 2020
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae adran 32A o Ddeddf Addysg 2002 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol benderfynu ar ddyddiadau tymhorau ar gyfer pob ysgol gymunedol, ysgol wirfoddol a reolir, ysgol arbennig gymunedol neu ysgol feithrin a gynhelir yn ei ardal. Wrth wneud hynny, rhaid i awdurdodau lleol gydweithredu a chydgysylltu â’i gilydd ac â chyrff llywodraethu perthnasol yn eu hardal i sicrhau bod dyddiadau tymhorau ysgol ar gyfer ysgolion a gynhelir yr un fath (neu mor debyg ag y gallant fod).
Mae Rheoliadau Addysg (Hysbysu am Ddyddiadau Tymhorau Ysgol) (Cymru) 2014 (O.S. 2014/1249 (Cy. 130)) (“Rheoliadau 2014”) yn darparu bod rhaid i awdurdodau lleol hysbysu Gweinidogion Cymru am y dyddiadau ysgol y penderfynwyd arnynt o leiaf ddwy flynedd ymlaen llaw (h.y. erbyn y diwrnod gwaith olaf ym mis Awst ddwy flynedd cyn y flwyddyn ysgol o dan sylw).
Mae’r Rheoliadau hyn, sydd wedi eu gwneud o dan adran 32A a 210 o Ddeddf Addysg 2002, yn diwygio Rheoliadau 2014 fel bod rhaid i’r hysbysiad ar gyfer y flwyddyn ysgol 2022-23 gael ei anfon at Weinidogion Cymru erbyn 31 Rhagfyr 2020. Mae ysgolion ac awdurdodau lleol yn debygol o fod o dan fwy o bwysau dros yr haf oherwydd lledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru. Mae’r gofyniad i hysbysu Gweinidogion Cymru am ddyddiadau tymor erbyn 31 Awst 2020 yn debygol o osod baich gweinyddol anghymesur ar awdurdodau lleol. Bydd estyn y dyddiad cau ar gyfer yr hysbysiad i 31 Rhagfyr 2020 yn lleihau’r baich gan sicrhau y gall gofynion statudol eraill sy’n ymwneud â chydgysylltu dyddiadau tymhorau ysgol gael eu bodloni.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.
2002 p. 32. Mewnosodwyd adran 32A gan adran 42 o Ddeddf Addysg (Cymru) 2014 (dccc 5). Diwygiwyd adran 210(7) gan adran 21(3)(c)(i) a (ii) o Fesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 (mccc 2). Trosglwyddwyd swyddogaeth Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 210 i Weinidogion Cymru gan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: