- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
Tai, Cymru
Gwnaed
21 Gorffennaf 2020
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
23 Gorffennaf 2020
Yn dod i rym
24 Gorffennaf 2020
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pŵer a roddir gan baragraff 13(1) o Atodlen 29 i Ddeddf y Coronafeirws 2020(1).
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf y Coronafeirws 2020 (Tenantiaethau Sicr a Thenantiaethau Byrddaliadol Sicr, Estyn Cyfnodau Hysbysu) (Diwygio) (Cymru) 2020.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 24 Gorffennaf 2020.
2.—(1) Mae Atodlen 29 i Ddeddf y Coronafeirws 2020 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2) Ym mharagraff 6, yn is-baragraffau (c) a (d), ar ôl ““three months”” mewnosoder “in relation to a dwelling-house in England and “six months” in relation to a dwelling-house in Wales”.
(3) Ym mharagraff 7—
(a)yn is-baragraff (a), ar ôl ““three months’”” mewnosoder “in relation to a dwelling-house in England and “six months’” in relation to a dwelling-house in Wales”;
(b)yn is-baragraff (b), ar ôl ““three months”” mewnosoder “in relation to a dwelling-house in England and “six months” in relation to a dwelling-house in Wales”.
(4) Ym mharagraff 11—
(a)yn is-baragraff (a), yn lle ““3 months”” rhodder ““6 months””;
(b)yn is-baragraff (b)—
(i)ym mharagraff (i), yn lle ““3 months”” rhodder ““6 months””, a
(ii)ym mharagraff (ii), yn lle ““three months”” rhodder ““six months””.
Julie James
Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
21 Gorffennaf 2020
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Atodlen 29 i Ddeddf y Coronafeirws 2020 (“y Ddeddf”) mewn cysylltiad â thenantiaethau sicr a thenantiaethau byrddaliadol sicr yng Nghymru. Maent yn diwygio paragraff 6(c) a (d) a pharagraff 7(a) a (b) o Atodlen 29 i’r Ddeddf er mwyn estyn y cyfnod hysbysu y mae rhaid i landlord ei roi i denant o dan adran 8(4A) neu (4B) ac adran 21(1) neu (4) o Ddeddf Tai 1988 (“Deddf 1988”).
Yn rhinwedd paragraffau 6 a 7 o Atodlen 29 i’r Ddeddf, mae’r cyfnodau hysbysu estynedig yn gymwys yn ystod y cyfnod perthnasol. Mae “relevant period” wedi ei ddiffinio ym mharagraff 1 o Atodlen 29 i’r Ddeddf a chaniateir i Weinidogion Cymru ei ddiwygio o ran Cymru.
Mae rheoliad 2 yn diwygio’r cyfnodau a nodir ym mharagraff 6(c) a (d) a pharagraff 7(a) a (b) o Atodlen 29 i’r Ddeddf fel bod y cyfnod hysbysu y mae’n ofynnol ei roi o dan adran 8(4A) neu (4B) ac adran 21(1) neu (4) o Ddeddf 1988 wedi ei estyn o dri mis i chwe mis. Mae’r cyfnod hysbysu estynedig yn gymwys i hysbysiadau a roddir o dan adran 8(4A) neu (4B) ac adran 21(1) neu (4) o Ddeddf 1988 ar y dyddiad y mae’r Rheoliadau hyn yn dod i rym neu wedi hynny.
Mae’r Rheoliadau hyn hefyd yn diwygio’r cyfnodau hysbysu a nodir ym mharagraff 11(a) a (b) o Atodlen 29 i’r Ddeddf. Effaith hyn yw ei gwneud yn ofynnol i’r cyfeiriadau perthnasol yn Ffurflen 3 yn yr Atodlen i Reoliadau Tenantiaethau Sicr a Meddianaethau Amaethyddol (Ffurflenni) 1997, a ddefnyddir wrth gyflwyno hysbysiad o dan adran 8 o Ddeddf 1988, gael eu darllen fel pe baent yn gyfeiriadau at 6 mis.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.
2020 p. 7. Cyflwynir Atodlen 29 gan adran 81 o’r Ddeddf. Yn rhinwedd paragraff 1(3)(b) o Atodlen 29, Gweinidogion Cymru yw’r “relevant national authority” o ran Cymru.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: