Search Legislation

Rheoliadau Fformiwla Fabanod a Fformiwla Ddilynol (Cymru) 2020

Newidiadau dros amser i: Testun rhagarweiniol

 Help about opening options

Alternative versions:

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Rheoliadau Fformiwla Fabanod a Fformiwla Ddilynol (Cymru) 2020, Introductory Text. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.

Offerynnau Statudol Cymru

2020 Rhif 89 (Cy. 13)

Bwyd, Cymru

Rheoliadau Fformiwla Fabanod a Fformiwla Ddilynol (Cymru) 2020

Made

30th January 2020

Laid before the National Assembly for Wales

31st January 2020

Coming into force in accordance with regulation 1

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 6(4), 16(1)(a) ac (e) a (2)(b), 17(1) a (2), 26(1) a (3) ac 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990(1) ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy(2) ac adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(3) a pharagraff 1A o Atodlen 2 iddi.

Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 mewn perthynas â mesurau sy’n ymwneud â bwyd (gan gynnwys diod), gan gynnwys cynhyrchu sylfaenol o ran bwyd(4).

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth at ddiben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 ac mae’n ymddangos i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus i gyfeiriadau penodol at ddarpariaethau Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 2016/127 dyddiedig 25 Medi 2015 sy’n ychwanegu at Reoliad (EU) Rhif 609/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch y gofynion penodol o ran cyfansoddiad a gwybodaeth ar gyfer fformiwla fabanod a fformiwla ddilynol ac ynghylch gofynion o ran gwybodaeth sy’n ymwneud â bwydo babanod a phlant ifanc(5) gael eu dehongli fel cyfeiriadau at y darpariaethau hynny fel y’u diwygir o bryd i’w gilydd.

Mae Gweinidogion Cymru wedi rhoi sylw i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn unol ag adran 48(4A) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990(6).

Ymgynghorwyd yn agored ac yn dryloyw â’r cyhoedd fel sy’n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd(7), wrth lunio a gwerthuso’r Rheoliadau hyn.

(1)

1990 p. 16. Diwygiwyd adran 6(4) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 (“Deddf 1990”) gan baragraff 6 o Atodlen 9 i Ddeddf Dadreoleiddio a Chontractio Allan 1994 (p. 40), paragraff 10(1) a (3)(a) o Atodlen 5, ac Atodlen 6, i Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (p. 28) (“Deddf 1999”) ac O.S. 2002/794. Diwygiwyd adran 16(1) o Ddeddf 1990 gan baragraffau 7 ac 8 o Atodlen 5 i Ddeddf 1999. Diwygiwyd adran 17 o Ddeddf 1990 gan baragraffau 7, 8 a 12 o Atodlen 5 i Ddeddf 1999 ac O.S. 2011/1043. Diwygiwyd adran 26(3) gan Atodlen 6 i Ddeddf 1999. Diwygiwyd adran 48(1) gan baragraffau 7 ac 8 o Atodlen 5 i Ddeddf 1999.

(2)

Mae’r swyddogaethau hynny a oedd gynt yn arferadwy gan “the Ministers” (sef, o ran Cymru a Lloegr ac yn gweithredu ar y cyd, y Gweinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd a’r Ysgrifenyddion Gwladol a oedd yn eu trefn yn ymwneud ag iechyd yn Lloegr a bwyd ac iechyd yng Nghymru) bellach yn arferadwy o ran Lloegr gan yr Ysgrifennydd Gwladol yn unol â pharagraff 8 o Atodlen 5 i Ddeddf 1999. Trosglwyddwyd y swyddogaethau hynny, i’r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan O.S. 1999/672 fel y’i darllenir gydag adran 40(3) o Ddeddf 1999, a’u trosglwyddo wedi hynny i Weinidogion Cymru gan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).

(3)

1972 p. 68 (“Deddf 1972”). Diwygiwyd adran 2(2) o Ddeddf 1972 gan adran 27(1)(a) o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006 (p. 51) a chan adran 3(3) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Diwygio) 2008 (p. 7) a Rhan 1 o’r Atodlen iddi. Mewnosodwyd paragraff 1A o Atodlen 2 gan adran 28 o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006. Fe’i diwygiwyd gan adran 3(3) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Diwygio) 2008 a Rhan 1 o’r Atodlen iddi, a chan O.S. 2007/1388.

(4)

O.S. 2005/1971, y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(5)

OJ Rhif L 25, 2.2.2016, t. 1, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 2019/828 (OJ Rhif L 137, 23.5.2019, t. 12).

(6)

Mewnosodwyd adran 48(4A) gan adran 40(1) o Ddeddf 1999 a pharagraff 21 o Atodlen 5 iddi.

(7)

OJ Rhif L 31, 1.2.2002, t. 1, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad (EU) 2019/1243 Senedd Ewrop a’r Cyngor (OJ Rhif L 198, 25.7.2019, t. 241).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

See additional information alongside the content

Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

Timeline of Changes

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources