Search Legislation

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 9) 2020

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Rheoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru, a osodwyd gerbron Senedd Cymru o dan adran 45R o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 (p. 22), i’w cymeradwyo drwy benderfyniad gan Senedd Cymru o fewn wyth niwrnod ar hugain gan ddechrau â’r diwrnod y gwneir yr offeryn, yn ddarostyngedig i’w estyn dros gyfnodau o ddiddymu neu doriad am fwy na phedwar diwrnod.

Offerynnau Statudol Cymru

2020 Rhif 985 (Cy. 222)

Iechyd Y Cyhoedd, Cymru

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 9) 2020

Gwnaed

am 4.35 p.m. ar 11 Medi 2020

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

am 7.30 p.m. ar 11 Medi 2020

Yn dod i rym

14 Medi 2020

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 45C(1) a (3)(c), 45F(2) a 45P o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984(1).

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud mewn ymateb i’r bygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd a berir gan fynychder a lledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru.

Mae Gweinidogion Cymru yn ystyried bod y diwygiadau a wneir gan y Rheoliadau hyn yn gymesur â’r hyn y maent yn ceisio ei gyflawni, sef ymateb iechyd y cyhoedd i’r bygythiad hwnnw.

Yn unol ag adran 45R o’r Ddeddf honno, oherwydd brys, mae Gweinidogion Cymru o’r farn ei bod yn angenrheidiol gwneud yr offeryn hwn heb fod drafft wedi ei osod gerbron Senedd Cymru ac wedi ei gymeradwyo ganddi drwy benderfyniad.

Enwi a dod i rym

1.  Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 9) 2020 a deuant i rym ar 14 Medi 2020.

Diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020

2.—(1Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020(2) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 2A, yn lle paragraff (3) rhodder—

(3) Pan fo aelwydydd yn cytuno i gael eu trin fel aelwyd estynedig—

(a)mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn (ac eithrio yn y rheoliad hwn a rheoliad 14(1)(b)(i)) at “aelwyd” i’w ddarllen fel pe bai’n cynnwys yr aelwydydd sydd wedi cytuno felly, a

(b)mae rheoliad 14 yn gymwys i gynulliad sy’n cynnwys personau o fwy nag un aelwyd mewn aelwyd estynedig fel pe bai’r canlynol wedi ei roi yn lle paragraff (1)—

(1) Ni chaiff cynulliad mewn mangre o dan do, heb esgus rhesymol, gynnwys—

(a)mwy na 6 aelod o aelwyd estynedig, heb gynnwys unrhyw blant o dan 11 oed;

(b)person nad yw’n aelod o’r aelwyd estynedig ar wahân i—

(i)gofalwr aelod o’r aelwyd estynedig, neu

(ii)person y mae aelod o’r aelwyd estynedig yn darparu gofal iddo..

(3Hepgorer rheoliad 11.

(4Ar ôl rheoliad 12A mewnosoder—

Gofyniad i wisgo gorchudd wyneb mewn mannau cyhoeddus penodol o dan do

12B.(1) Rhaid i berson (“P”) wisgo gorchudd wyneb mewn mangreoedd perthnasol o dan do.

(2) Ond nid yw hyn yn ofynnol—

(a)pan fo esemptiad yn gymwys o dan baragraff (3);

(b)pan fo gan P esgus rhesymol dros beidio â gwisgo gorchudd wyneb, ac o ran hynny gweler paragraff (4).

(3) Mae esemptiad i’r gofyniad i wisgo gorchudd wyneb yn gymwys—

(a)pan fo P yn blentyn o dan 11 oed;

(b)pan fo P mewn mangre lle y gwerthir bwyd neu ddiod, neu lle y darperir bwyd neu ddiod fel arall, i’w fwyta neu i’w hyfed yn y fangre honno.

(4) Mae’r amgylchiadau pan fo gan P esgus rhesymol dros beidio â gwisgo gorchudd wyneb yn cynnwys—

(a)pan na fo P yn gallu rhoi gorchudd am ei wyneb, neu wisgo neu dynnu gorchudd wyneb, oherwydd salwch neu nam corfforol neu feddyliol, neu anabledd (o fewn yr ystyr a roddir i “disability” yn adran 6 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010(3));

(b)pan fo P yn ymgymryd â gweithgaredd ac y gellir ystyried yn rhesymol bod gwisgo gorchudd wyneb yn ystod y gweithgaredd hwnnw yn peri risg i iechyd P;

(c)pan fo P yn gorfod tynnu’r gorchudd wyneb i gyfathrebu â pherson arall sy’n cael anhawster i gyfathrebu (mewn perthynas â lleferydd, iaith neu fel arall);

(d)pan fo P yn gorfod tynnu’r gorchudd wyneb er mwyn osgoi niwed neu anaf, neu’r risg o niwed neu anaf, i P ei hunan neu i eraill;

(e)pan fo P yn y fangre i osgoi anaf, neu i ddianc rhag risg o niwed, ac nad oes gan P orchudd wyneb;

(f)pan fo P yn gorfod tynnu’r gorchudd wyneb i—

(i)cymryd meddyginiaeth;

(ii)bwyta neu yfed, pan fo’n rhesymol angenrheidiol;

(g)pan ofynnir i P dynnu’r gorchudd wyneb gan swyddog gorfodaeth.

(5) At ddibenion paragraff (3)(b), pan fo bwyd neu ddiod yn cael ei werthu neu ei gwerthu neu’n cael ei ddarparu neu ei darparu fel arall i’w fwyta neu i’w hyfed mewn rhan o fangre, nid yw’r esemptiad ond yn gymwys pan fo P yn y rhan honno.

(6) At ddibenion y rheoliad hwn, ystyr “mangreoedd perthnasol o dan do” yw ardaloedd cyhoeddus o dan do mewn—

(a)mangreoedd agored;

(b)gorsafoedd bysiau;

(c)gorsafoedd trenau;

(d)meysydd awyr;

(e)porthladdoedd môr.

(5Yn rheoliad 17—

(a)ym mharagraff (1)(c)—

(i)ar ôl paragraff (i) mewnosoder “neu”;

(ii)hepgorer paragraffau (iii) a (iv);

(b)ym mharagraff (1)(d)—

(i)ar ôl paragraff (i) mewnosoder “neu”;

(ii)hepgorer paragraffau (iii) a (iv);

(c)ym mharagraff (2), hepgorer “, 11(4)”;

(d)hepgorer paragraff (3).

(6Yn rheoliad 18—

(a)hepgorer paragraff (3);

(b)ym mharagraff (3C), yn y geiriau o flaen is-baragraff (a), yn lle “paragraff 6(1) o Atodlen 4A” rhodder “rheoliad 12B(1)”;

(c)ym mharagraff (6A), yn lle “baragraff 6(1) o Atodlen 4A” rhodder “neu reoliad 12B(1)”.

(7Yn rheoliad 20, ym mharagraff (1)—

(a)yn is-baragraff (a), hepgorer “, 11(4) neu 12A(1),”;

(b)yn is-baragraff (b)—

(i)ar ôl “rheoliad” mewnosoder “12A(1), 12B(1),”;

(ii)yn lle “, 4(1) neu 6(1)” rhodder “neu 4(1)”.

(8Yn rheoliad 21—

(a)ym mharagraff (10), ar ôl “hyn” mewnosoder “neu Reoliadau a grybwyllir ym mharagraff (11)”;

(b)ym mharagraff (11), ar ôl “2020” mewnosoder “a Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Swyddogaethau Awdurdodau Lleol) (Cymru) 2020(4)”;

(c)hepgorer paragraff (15).

(9Yn Atodlen 4A—

(a)ym mharagraff 4(2)(e) ar ôl “elusennol” mewnosoder “pan na fo’n rhesymol ymarferol ymgymryd â’r gwaith neu ddarparu’r gwasanaeth o fan y tu allan i’r ardal”;

(b)hepgorer paragraff 6.

Arbedion ar gyfer troseddau a chosbau mewn perthynas â gweithredoedd blaenorol

3.  Mae rheoliadau 20 ac 21 o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020 yn parhau i gael effaith mewn perthynas ag unrhyw drosedd a gyflawnir, neu y credir yn rhesymol ei bod wedi ei chyflawni, cyn i’r diwygiadau a wneir gan y Rheoliadau hyn ddod i rym fel pe na bai’r diwygiadau hynny wedi eu gwneud.

Mark Drakeford

Y Prif Weinidog, un o Weinidogion Cymru

Am 4.35 p.m. ar 11 Medi 2020

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae Rhan 2A o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 yn galluogi Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, i wneud darpariaeth at ddiben atal, diogelu rhag, rheoli neu ddarparu ymateb iechyd y cyhoedd i fynychder neu ledaeniad haint neu halogiad yng Nghymru.

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud mewn ymateb i’r bygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd a berir gan fynychder a lledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru.

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020 (y “prif Reoliadau”). Mae’r diwygiadau—

(a)yn cyfyngu ar gynulliadau o dan do o aelodau o aelwyd estynedig i 6 pherson heb gynnwys unrhyw blant o dan 11 oed (nid yw hyn yn effeithio ar y rheol gyffredinol na chaiff unrhyw berson ymgynnull o dan do gydag unrhyw un o’r tu allan i’w aelwyd);

(b)yn ei gwneud yn ofynnol i orchuddion wyneb gael eu gwisgo yn ardaloedd cyhoeddus o dan do “mangreoedd agored” (sef mangreoedd sy’n agored i’r cyhoedd ac y mae’n ofynnol iddynt gymryd pob mesur rhesymol i leihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws, a’i ledaenu, o dan reoliad 12 o’r prif Reoliadau) a chanolfannau trafnidiaeth, oni bai bod esemptiad yn gymwys neu fod gan y person esgus rhesymol dros beidio â gwisgo’r gorchudd wyneb;

(c)yn egluro nad yw, o dan baragraff 4 o Atodlen 4A i’r prif Rheoliadau, yn esgus rhesymol i fynd i ardal diogelu iechyd leol i weithio, nac i ddarparu gwasanaethau gwirfoddol na gwasanaethau elusennol, os yw’n rhesymol ymarferol i wneud y gwaith neu i ddarparu’r gwasanaeth y tu allan i’r ardal;

(d)yn gwneud mân ddiwygiadau gan gynnwys diwygiadau sy’n ganlyniadol ar y newidiadau a grybwyllir uchod ac ar wneud Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Swyddogaethau Awdurdodau Lleol) (Cymru) 2020.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ni luniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

(1)

1984 p. 22. Mewnosodwyd adrannau 45C, 45F a 45P gan adran 129 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2008 (p. 14). Mae’r swyddogaethau o dan yr adrannau hyn wedi eu rhoi i “the appropriate Minister” (“y Gweinidog priodol”). O dan adran 45T(6) o Ddeddf 1984, y Gweinidog priodol, o ran Cymru, yw Gweinidogion Cymru.

(2)

O.S. 2020/725 (Cy. 162), fel y’i diwygiwyd gan Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) 2020 (O.S. 2020/752 (Cy. 169)), Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2020 (O.S. 2020/803 (Cy. 176)), Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 3) 2020 (O.S. 2020/820 (Cy. 180)), Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 4) 2020 (O.S. 2020/843 (Cy. 186)), Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 5) 2020 (O.S. 2020/867 (Cy. 189)), Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 6) 2020 (O.S. 2020/884 (Cy. 195)), Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 7) 2020 (O.S. 2020/912 (Cy. 204)) a Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 8) (Caerffili) 2020 (O.S. 2020/961 (Cy. 215)).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources