Search Legislation

Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr (Trefniadau Etholiadol) 2021

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Enwi a chychwyn

1.—(1Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr (Trefniadau Etholiadol) 2021.

(2At unrhyw ddiben a nodir yn rheoliad 4(1) o’r Rheoliadau, daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Hydref 2021.

(3At bob diben arall, daw’r Gorchymyn hwn i rym ar y diwrnod arferol ar gyfer ethol cynghorwyr yn 2022(1).

Dehongli

2.  Yn y Gorchymyn hwn—

ystyr “y Rheoliadau” (“the Regulations”) yw Rheoliadau Newidiadau i Ardaloedd Llywodraeth Leol 1976(2);

ystyr “ward etholiadol” (“electoral ward”) yw unrhyw ardal yr etholir aelodau drosti i Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr;

mae unrhyw gyfeiriad at fap yn golygu un o’r 7 map a farciwyd “Map ar gyfer Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr (Trefniadau Etholiadol) 2021” a adneuwyd yn unol â rheoliad 5 o’r Rheoliadau ac a labelwyd “1” i “7”, ac mae cyfeiriad at fap â rhif yn gyfeiriad at y map sy’n dwyn y rhif hwnnw;

os dangosir ar fap bod ffin yn rhedeg ar hyd ffordd, rheilffordd, troetffordd, cwrs dŵr neu nodwedd ddaearyddol debyg, mae i’w thrin fel un sy’n rhedeg ar hyd llinell ganol y nodwedd;

mae i eiriau ac ymadroddion a ddefnyddir yn y Gorchymyn hwn yr un ystyr ag a roddir iddynt yn Rhan 3 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013, ac eithrio i’r graddau yr ymddengys bwriad i’r gwrthwyneb.

Trefniadau etholiadol ar gyfer Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

3.—(1Mae wardiau etholiadol Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, fel y maent yn bodoli yn union cyn y diwrnod arferol ar gyfer ethol cynghorwyr yn 2022, wedi eu diddymu.

(2Mae Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi ei rannu’n 28 o wardiau etholiadol a phob un ohonynt yn dwyn yr enw Saesneg a restrir yng ngholofn 1 a’r enw Cymraeg a restrir yng ngholofn 2 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.

(3Mae pob ward etholiadol yn cynnwys yr ardaloedd a bennir mewn perthynas â’r ward etholiadol honno yng ngholofn 3 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.

(4Nifer aelodau’r cyngor sydd i’w hethol dros bob ward etholiadol yw’r nifer a bennir yng ngholofn 4 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.

(5Mae’r darpariaethau yn y Gorchymyn hwn yn cymryd blaenoriaeth dros unrhyw ddarpariaeth wrthdrawiadol mewn unrhyw offeryn statudol blaenorol a wnaed o dan adran 58(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972(3).

Cymuned Bracla: creu wardiau cymunedol

4.  Mae cymuned Bracla i’w rhannu’n wardiau fel a ganlyn—

(a)ward Gorllewin Bracla a ddangosir â llinellau ar Fap 1;

(b)ward Canol Gorllewin Bracla a ddangosir â llinellau ar Fap 2;

(c)ward Canol Dwyrain Bracla a ddangosir â llinellau ar Fap 3;

(d)ward Dwyrain Bracla a ddangosir â llinellau ar Fap 4.

Cymuned Bracla: newidiadau canlyniadol i drefniadau etholiadol

5.  Yng nghymuned Bracla—

(a)nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Gorllewin Bracla yw 3;

(b)nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Canol Gorllewin Bracla yw 3;

(c)nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Canol Dwyrain Bracla yw 3;

(d)nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Dwyrain Bracla yw 3.

Cymuned Porthcawl: newidiadau i ffiniau wardiau cymunedol

6.  Yng nghymuned Porthcawl—

(a)mae’r rhan o ward Notais a ddangosir â llinellau ar Fap 5 wedi ei throsglwyddo i ward Rest Bay;

(b)mae’r rhan o ward Rest Bay a ddangosir â llinellau ar Fap 6 wedi ei throsglwyddo i ward Canol Gorllewin Porthcawl;

(c)mae’r rhan o ward Drenewydd a ddangosir â chroeslinellau ar Fap 7 wedi ei throsglwyddo i ward Canol Dwyrain Porthcawl;

(d)mae’r rhan o ward Canol Gorllewin Porthcawl a ddangosir â llinellau ar Fap 7 wedi ei throsglwyddo i ward Canol Dwyrain Porthcawl.

Cymuned Porthcawl: newidiadau canlyniadol i drefniadau etholiadol

7.  Yng nghymuned Porthcawl—

(a)nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Notais yw 3;

(b)nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Drenewydd yw 3;

(c)nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Canol Gorllewin Porthcawl yw 3;

(d)nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Canol Dwyrain Porthcawl yw 6.

Rebecca Evans

Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru

22 Medi 2021

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources