Search Legislation

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 17) 2021

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Offerynnau Statudol Cymru

2021 Rhif 1119 (Cy. 271)

Iechyd Y Cyhoedd, Cymru

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 17) 2021

Gwnaed

6 Hydref 2021

Yn dod i rym

am 7.00 a.m. ar 11 Hydref 2021

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 45C(1) a (3)(c), 45F(2) a 45P(2) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984(1).

Yn unol ag adran 45Q(4)(2) o’r Ddeddf honno, gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Senedd Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad.

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud mewn ymateb i’r bygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd a berir gan fynychder a lledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru.

Mae Gweinidogion Cymru yn ystyried bod y cyfyngiadau a’r gofynion a osodir gan y Rheoliadau hyn yn gymesur â’r hyn y maent yn ceisio ei gyflawni, sef ymateb iechyd y cyhoedd i’r bygythiad hwnnw.

Enwi a dod i rym

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 17) 2021.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym am 7.00 a.m. ar 11 Hydref 2021.

Diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020

2.—(1Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020(3) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Ar ôl rheoliad 16 mewnosoder—

Mesurau penodol sy’n gymwys i fangreoedd lle y darperir cerddoriaeth ar gyfer dawnsio neu lle y cynhelir digwyddiadau penodedig

16A.(1) Pan fo rheoliad 16(1) yn gymwys i berson sy’n gyfrifol am fangre a ddisgrifir ym mharagraff (2), rhaid i’r mesurau rhesymol sydd i’w cymryd gan y person cyfrifol o dan Gam 3 o’r rheoliad hwnnw gynnwys mesurau i sicrhau na chaniateir i berson sy’n 18 oed neu drosodd fod yn bresennol yn y fangre onid yw’r person yn meddu ar dystiolaeth—

(a)sy’n cydymffurfio â’r gofynion ym mharagraff (6), fod y person wedi cwblhau cwrs o ddosau o frechlyn awdurdodedig,

(b)bod y person wedi cymryd rhan mewn, neu yn cymryd rhan mewn, treial clinigol, o fewn yr ystyr a roddir i “clinical trial” yn rheoliad 2(1) o Reoliadau Meddyginiaethau i’w Defnyddio gan Bobl (Treialon Clinigol) 2004(4), o frechlyn ar gyfer brechu yn erbyn y coronafeirws a gynhaliwyd neu a gynhelir yn y Deyrnas Unedig yn unol â gofynion y Rheoliadau hynny,

(c)o ganlyniad negatif o brawf cymhwysol a gymerir gan y person ddim mwy na 48 awr cyn i’r person fynd i’r fangre, neu

(d)o ganlyniad positif o brawf adwaith cadwynol polymerasau a gymerir gan y person ddim mwy na 180 o ddiwrnodau a ddim llai na 10 niwrnod cyn i’r person fynd i’r fangre.

(2) Y mangreoedd y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) yw—

(a)mangreoedd sy’n bodloni’r holl amodau a ganlyn—

(i)mae’r fangre wedi ei hawdurdodi ar gyfer gwerthu neu gyflenwi alcohol,

(ii)mae’r fangre yn darparu cerddoriaeth fyw neu wedi ei recordio i aelodau’r cyhoedd neu aelodau’r lleoliad ddawnsio, gan gynnwys clybiau nos, disgos a neuaddau dawnsio, a

(iii)mae’r fangre ar agor ar unrhyw adeg rhwng hanner nos a 5.00 a.m. (fodd bynnag pan fo’r amod hwn wedi ei fodloni, mae’r gofyniad ym mharagraff (1) yn gymwys i’r fangre ar unrhyw adeg y mae ar agor, yn ddarostyngedig i baragraff (3)(a) neu (e));

(b)mangreoedd lle y mae digwyddiad yn digwydd a bod mwy na 10,000 o bobl yn bresennol ar unrhyw adeg;

(c)mangreoedd lle y mae digwyddiad yn digwydd i unrhyw raddau o dan do—

(i)pan fo mwy na 500 o bobl yn bresennol ar unrhyw adeg, a

(ii)pan na fo’r holl bersonau sy’n bresennol yn y digwyddiad yn eistedd fel arfer yn ystod y digwyddiad;

(d)mangreoedd lle y mae digwyddiad yn digwydd yn yr awyr agored—

(i)pan fo mwy na 4,000 o bobl yn bresennol ar unrhyw adeg, a

(ii)pan na fo’r holl bersonau sy’n bresennol yn y digwyddiad yn eistedd fel arfer yn ystod y digwyddiad.

(3) Ond nid yw paragraff (1) yn gymwys i fangre—

(a)o fath a ddisgrifir ym mharagraff (2)(a) ar unrhyw adeg pan na ddarperir cerddoriaeth i aelodau’r cyhoedd neu aelodau’r lleoliad ddawnsio;

(b)lle y cynhelir digwyddiad yn yr awyr agored—

(i)pan na fo’n ofynnol i berson gael tocyn neu dalu ffi er mwyn cael mynediad i’r digwyddiad, a

(ii)pan fo dau neu ragor o bwyntiau mynediad i bersonau sy’n mynd i’r digwyddiad;

(c)lle y cynhelir protest, neu bicedu a gynhelir yn unol â Deddf yr Undebau Llafur a Chysylltiadau Llafur (Cydgrynhoi) 1992(5);

(d)lle y cynhelir digwyddiad chwaraeon cyfranogiad torfol yn yr awyr agored, megis marathon, ras feicio neu driathlon;

(e)a ddefnyddir i ddathlu—

(i)gweinyddiad priodas, ffurfiad partneriaeth sifil neu seremoni briodas arall, neu

(ii)bywyd person ymadawedig,

ar unrhyw adeg pan y’i defnyddir at unrhyw un neu ragor o’r dibenion hynny.

(4) Ym mharagraff (1), nid yw’r cyfeiriad at berson sy’n 18 oed neu drosodd yn cynnwys person sy’n gweithio yn y fangre neu sy’n darparu gwasanaethau gwirfoddol ynddi.

(5) At ddibenion paragraff (2)(b) i (d), nid yw person sy’n gweithio yn y digwyddiad, neu sy’n darparu gwasanaethau gwirfoddol ynddo, i’w drin fel pe bai’n bresennol yn y digwyddiad.

(6) At ddibenion paragraff (1)(a), rhaid i’r dystiolaeth bod person wedi cwblhau cwrs o ddosau o frechlyn awdurdodedig—

(a)dangos—

(i)i’r cwrs o ddosau gael ei weinyddu i’r person yn y Deyrnas Unedig, o dan raglen frechu’r Deyrnas Unedig dramor, neu mewn gwlad berthnasol, a

(ii)bod y diwrnod y mae’r person yn mynd i’r fangre yn fwy na 14 o ddiwrnodau ar ôl y diwrnod y cwblhaodd y person y cwrs hwnnw o ddosau;

(b)mewn perthynas â chwrs o ddosau o frechlynnau a weinyddir yn y Deyrnas Unedig, gael ei darparu i’r person gan neu ar ran Llywodraeth y Deyrnas Unedig, Gweinidogion yr Alban, Gweinidogion Cymru neu un o adrannau Gogledd Iwerddon (gan gynnwys drwy lythyr, neges destun, e-bost, gwefan Pàs COVID y GIG(6) neu ap ffôn clyfar y GIG a ddatblygir ac a weithredir gan yr Ysgrifennydd Gwladol);

(c)mewn perthynas â chwrs o ddosau o frechlynnau a weinyddir gan wlad berthnasol, gan dystysgrif COVID ddigidol yr UE neu gerdyn brechu’r Canolfannau Rheoli ac Atal Clefydau.

(7) At ddibenion paragraff (1)(d), pan fo person wedi ynysu am gyfnod o lai na 10 niwrnod a gyfrifir yn unol â rheoliad 6(5) neu 7(5), mae’r cyfeiriad at “10 niwrnod” i’w drin fel cyfeiriad at nifer y diwrnodau yr oedd yn ofynnol i’r person ynysu ar eu cyfer.

(8) At ddibenion paragraff (6)(a), pan fo person wedi cael dos o frechlyn awdurdodedig yn y Deyrnas Unedig a dos o frechlyn o dan raglen frechu’r Deyrnas Unedig dramor, bernir bod y person wedi cael cwrs o ddosau o frechlyn o dan raglen frechu’r Deyrnas Unedig dramor.

(9) At ddibenion y rheoliad hwn—

(a)mae prawf yn brawf cymhwysol os yw’n gallu canfod presenoldeb y coronafeirws ac—

(i)yn brawf adwaith cadwynol polymerasau a ddarperir neu a weinyddir o dan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006(7), Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006(8), Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Yr Alban) 1978(9), neu Orchymyn Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Personol (Gogledd Iwerddon) 1972(10), neu

(ii)yn brawf llif unffordd y gellir cyflwyno ei ganlyniadau drwy system adrodd cyhoeddus y GIG(11).

(b)mae person wedi cwblhau cwrs o ddosau os yw’r person wedi cael y cwrs cyflawn o ddosau a bennir—

(i)yn y crynodeb o nodweddion y cynnyrch a gymeradwywyd fel rhan o’r awdurdodiad marchnata ar gyfer y brechlyn awdurdodedig, neu

(ii)yn y cyfarwyddiadau defnyddio a gymeradwywyd fel rhan o’r awdurdodiad gan yr awdurdod trwyddedu ar sail dros dro o dan reoliad 174 o Reoliadau Meddyginiaethau Dynol 2012(12) ar gyfer y brechlyn awdurdodedig.

(10) Yn y rheoliad hwn—

(a)ystyr “brechlyn awdurdodedig” yw cynnyrch meddyginiaethol ar gyfer brechu yn erbyn y coronafeirws a awdurdodwyd—

(i)mewn perthynas â dosau a geir yn y Deyrnas Unedig—

(aa)i’w gyflenwi yn y Deyrnas Unedig yn unol ag awdurdodiad marchnata, neu

(bb)gan yr awdurdod trwyddedu ar sail dros dro o dan reoliad 174 o Reoliadau Meddyginiaethau Dynol 2012;

(ii)mewn perthynas â dosau a geir mewn gwlad berthnasol, i’w gyflenwi yn y wlad honno yn dilyn gwerthusiad gan y rheoleiddiwr perthnasol ar gyfer y wlad;

(b)mae i “yr awdurdod trwyddedu” yr ystyr a roddir i “the licensing authority” yn rheoliad 6(2) o Reoliadau Meddyginiaethau Dynol 2012;

(c)ystyr “awdurdodiad marchnata”—

(i)mewn perthynas â brechlyn a awdurdodwyd i’w gyflenwi yn y Deyrnas Unedig neu mewn Aelod-wladwriaeth, yw’r ystyr a roddir i “marketing authorisation” yn rheoliad 8(1) o Reoliadau Meddyginiaethau Dynol 2012;

(ii)mewn perthynas â brechlyn a awdurdodwyd i’w gyflenwi mewn gwlad berthnasol ac eithrio Aelod-wladwriaeth, yw awdurdodiad marchnata a roddwyd gan y rheoleiddiwr perthnasol ar gyfer y wlad;

(d)ystyr “gwlad berthnasol” yw gwlad a restrir yng ngholofn gyntaf y tabl ym mharagraff (11);

(e)ystyr “rheoleiddiwr perthnasol”, mewn perthynas â gwlad berthnasol, yw’r rheoleiddiwr a nodir yn y rhes gyfatebol o ail golofn y tabl ym mharagraff (11), ac mae cyfeiriad at reoleiddiwr yn y tabl hwnnw yn gyfeiriad at yr awdurdod rheoleiddiol sy’n dwyn yr enw hwnnw a ddynodwyd yn Awdurdod Rheoleiddiol Llym gan Sefydliad Iechyd y Byd yn unol â gweithrediad Cyfleuster COVAX(13);

(f)ystyr “rhaglen frechu’r Deyrnas Unedig dramor” yw gweinyddu’r brechlyn yn erbyn y coronafeirws i—

(i)gweision y Goron (o fewn yr ystyr a roddir i “Crown servant” yn adran 12(1)(a) i (e) o Ddeddf Cyfrinachau Swyddogol 1989(14), contractwyr y llywodraeth (o fewn yr ystyr a roddir i “government contractor” yn adran 12(2) o Ddeddf Cyfrinachau Swyddogol 1989) neu bersonél arall sydd wedi eu lleoli neu eu seilio dramor a’u dibynyddion o dan y cynllun o’r enw rhaglen frechu COVID-19 staff y Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu,

(ii)preswylwyr y tiriogaethau tramor Prydeinig, Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw, fel rhan o raglen y cytunwyd arni yn y diriogaeth dramor gyda llywodraeth y Deyrnas Unedig, neu

(iii)personél milwrol neu sifilaidd, contractwyr y llywodraeth a’u dibynyddion mewn lleoliadau milwrol tramor, gan gynnwys y tiriogaethau tramor Prydeinig, Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw, o dan y cynllun brechu a ddarperir neu a gymeradwyir gan Wasanaethau Meddygol Amddiffyn y DU.

(11) Mae’r tabl y cyfeirir ato yn y diffiniadau o “gwlad berthnasol” a “rheoleiddiwr perthnasol” yn dilyn—

Gwlad berthnasolRheoleiddiwr perthnasol
Aelod-wladwriaethYr Asiantaeth Feddyginiaethau Ewropeaidd
AndorraYr Asiantaeth Feddyginiaethau Ewropeaidd
Gwlad yr IâYr Asiantaeth Feddyginiaethau Ewropeaidd
Gwladwriaeth Dinas y FaticanYr Asiantaeth Feddyginiaethau Ewropeaidd
LiechtensteinYr Asiantaeth Feddyginiaethau Ewropeaidd
MonacoYr Asiantaeth Feddyginiaethau Ewropeaidd
NorwyYr Asiantaeth Feddyginiaethau Ewropeaidd
San MarinoYr Asiantaeth Feddyginiaethau Ewropeaidd
Y SwistirSwissmedic
Unol Daleithiau AmericaGweinyddiaeth Bwyd a Chyffuriau yr Unol Daleithiau

(3Yn rheoliad 18(1), ar ôl “16(1)” mewnosoder “neu 16A(1)”.

(4Yn rheoliad 25(3)(a)(i), ar ôl “16(1)” mewnosoder “neu 16A(1)”.

(5Yn rheoliad 26, ar ôl “16(1)” mewnosoder “ac 16A(1)”.

(6Ar ôl rheoliad 30 mewnosoder—

Pwerau sy’n ymwneud â’r drosedd o feddu ar dystiolaeth anwir neu gamarweiniol sy’n ymwneud â brechu neu ganlyniadau prawf am y coronafeirws

30A.  Pan fo gan swyddog gorfodaeth sail resymol dros amau bod person yn cyflawni trosedd o dan reoliad 40A, caiff y swyddog ei gwneud yn ofynnol i’r person ddangos unrhyw dystiolaeth o fath a ddisgrifir yn rheoliad 16A(1) y mae’r swyddog yn amau ei bod yn meddiant y person.

(7Ar ôl rheoliad 40 mewnosoder—

Trosedd o feddu ar dystiolaeth anwir neu gamarweiniol sy’n ymwneud â brechu neu ganlyniadau prawf coronafeirws

40A.  Mae’n drosedd i berson (“P”) feddu ar dystiolaeth o fath a ddisgrifir yn rheoliad 16A(1) y mae P yn gwybod ei bod yn anwir neu’n gamarweiniol.

(8Yn Atodlen 8—

(a)ym mharagraff 1—

(i)yn is-baragraff (1)(a), ar ôl “16” mewnosoder “neu 16A”;

(ii)yn is-baragraff (2)(b), ar ôl “16” mewnosoder “neu 16A”;

(b)ym mharagraff 2—

(i)yn is-baragraff (3)(a), ar ôl “16” mewnosoder “neu 16A”;

(ii)yn is-baragraff (4)(b)(ii), ar ôl “16” mewnosoder “neu 16A”;

(iii)yn is-baragraff (4)(c), ar ôl “16” mewnosoder “neu 16A”;

(c)ym mharagraff 3(3)(c), ar ôl “16” mewnosoder “neu 16A”;

(d)ym mharagraff 4(1)(b), ar ôl “16” mewnosoder “neu 16A”.

Mark Drakeford

Y Prif Weinidog, un o Weinidogion Cymru

6 Hydref 2021

NODYN ESBONIADOL

(Nid ywʼr nodyn hwn yn rhan oʼr Rheoliadau)

Mae Rhan 2A o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 yn galluogi Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, i wneud darpariaeth at ddiben atal, diogelu rhag, rheoli neu ddarparu ymateb iechyd y cyhoedd i fynychder neu ledaeniad haint neu halogiad yng Nghymru.

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud mewn ymateb i’r bygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd a berir gan fynychder a lledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru.

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/1609 (Cy. 335)) (“y prif Reoliadau”). Mae’r diwygiadau—

  • yn mewnosod rheoliad newydd 16A yn y prif Reoliadau—

    • sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r person sy’n gyfrifol am fangreoedd penodol gymryd mesurau rhesymol i sicrhau nad yw oedolion yn y fangre onid ydynt yn meddu ar yr hyn y cyfeirir ato’n gyffredin fel “pàs COVID” (hynny yw – tystiolaeth o naill ai brechiad, cymryd rhan mewn treial perthnasol ar gyfer brechlyn, prawf negatif am y coronafeirws, neu brawf positif o fewn y 6 mis diwethaf a ddilynwyd gan y cyfnod priodol o ynysu);

    • sy’n pennu mai’r mangreoedd y mae’r gofyniad hwn yn gymwys iddynt yw—

      • clybiau nos a mannau eraill lle y darperir cerddoriaeth ar gyfer dawnsio os ydynt yn gweini alcohol ac ar agor ar unrhyw adeg rhwng hanner nos a 5 a.m. (ac mae’r gofyniad i gael pàs COVID yn gymwys i’r fath fangre ar unrhyw adeg, gan gynnwys adegau y tu allan i’r oriau hyn, os ydynt ar agor ac yn darparu cerddoriaeth i bobl ddawnsio);

      • mangreoedd lle y cynhelir digwyddiad â thros 10,000 o bobl yn bresennol os ydynt i gyd yn eistedd, neu dros 500 o dan do a 4,000 yn yr awyr agored os nad ydynt i gyd yn eistedd;

    • sy’n pennu eithriadau i’r gofyniad ar gyfer—

      • mangreoedd sy’n cynnal gwleddoedd priodasau neu bartneriaethau sifil, neu wylnosau;

      • digwyddiadau yn yr awyr agored sy’n ddi-dâl ac nad oes angen tocyn ar eu cyfer, ac sydd â sawl pwynt mynediad;

      • protestio a phicedu;

      • digwyddiadau chwaraeon cyfranogiad torfol yn yr awyr agored megis rasys rhedeg a beicio;

    • sy’n ei gwneud yn glir, ar gyfer lleoliadau nad ydynt bob amser yn darparu cerddoriaeth ar gyfer dawnsio, nad yw’r gofyniad yn gymwys ond ar yr adegau hynny pan ddarperir cerddoriaeth ar gyfer dawnsio;

    • sy’n esemptio’r rheini sy’n gweithio yn y fangre neu sy’n darparu gwasanaeth gwirfoddol ynddi rhag gorfod cael tystiolaeth o frechu neu brofi er mwyn bod yn y fangre;

    • sy’n cynnwys rhai darpariaethau dehongli sy’n ymwneud â brechlynnau a phrofi;

  • yn mewnosod rheoliad newydd 30A sy’n caniatáu i swyddogion gorfodaeth (yn y cyd-destun hwn, swyddogion yr heddlu a swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu ac unrhyw berson arall sydd wedi ei ddynodi at ddibenion y rheoliad hwn) ei gwneud yn ofynnol i berson y mae swyddog yn amau y gall fod yn meddu ar dystiolaeth anwir neu gamarweiniol o statws brechu neu brofi person ddangos tystiolaeth;

  • yn creu trosedd yn rheoliad newydd 40A o feddu ar dystiolaeth anwir neu gamarweiniol o statws brechu neu brofi;

  • yn gwneud diwygiadau canlyniadol i Atodlen 8 i’r prif Reoliadau (sy’n darparu ar gyfer gorfodi’r gyfundrefn “mesurau rhesymol” yn Rhan 4 o’r Rheoliadau hynny) er mwyn caniatáu i swyddogion gorfodaeth awdurdodau lleol ddefnyddio’r pwerau yn yr Atodlen mewn perthynas â mesurau rhesymol a gymerir o dan reoliad newydd 16A.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ni luniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

(1)

1984 p. 22. Mewnosodwyd adrannau 45C, 45F a 45P gan adran 129 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2008 (p. 14). Mae’r swyddogaethau o dan yr adrannau hyn wedi eu rhoi i “the appropriate Minister” (“y Gweinidog priodol”). O dan adran 45T(6) o Ddeddf 1984, y Gweinidog priodol, o ran Cymru, yw Gweinidogion Cymru.

(2)

Mewnosodwyd adran 45Q gan adran 129 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2008.

(13)

Mae rhestr o awdurdodau rheoleiddiol cenedlaethol a ddynodwyd yn Awdurdodau Rheoleiddiol Llym wedi ei chyhoeddi gan Sefydliad Iechyd y Byd ac ar gael ar lein ar https://extranet.who.int/pqweb/sites/default/files/documents/Product-Eligibility_COVAX-Facility_Dec2020_0.pdf

(14)

1989 p. 6.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources