Search Legislation

Rheoliadau Adeiladau Rhestredig (Cytundebau Partneriaeth Dreftadaeth) (Cymru) 2021

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Enwi a chychwyn

1.  Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Adeiladau Rhestredig (Cytundebau Partneriaeth Dreftadaeth) (Cymru) 2021 a deuant i rym ar 1 Ionawr 2022.

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

mae i “adeilad rhestredig” yr ystyr a roddir i “listed building” yn adran 1(5) o Ddeddf 1990;

ystyr “amrywiad drafft” (“draft variation”) yw amrywiad drafft ar gytundeb partneriaeth dreftadaeth;

mae “awdurdod cynllunio lleol” i’w ddehongli yn unol â “local planning authority” yn Rhan 1 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990(1);

ystyr “awdurdod cynllunio lleol perthnasol” (“relevant local planning authority”), mewn perthynas ag adeilad rhestredig, yw awdurdod cynllunio lleol y lleolir yr adeilad neu unrhyw ran ohono yn ei ardal;

ystyr “cydsyniad adeilad rhestredig” (“listed building consent”) yw cydsyniad o dan adran 8(1) o Ddeddf 1990;

mae i “cyfathrebiad electronig” yr ystyr a roddir i “electronic communication” yn adran 15(1) o Ddeddf Cyfathrebiadau Electronig 2000(2);

ystyr “cytundeb drafft” (“draft agreement”) yw cytundeb partneriaeth dreftadaeth drafft;

ystyr “cytundeb partneriaeth dreftadaeth” (“heritage partnership agreement”) yw cytundeb y mae awdurdod cynllunio lleol perthnasol neu Weinidogion Cymru wedi ei wneud o dan adran 26L o Ddeddf 1990;

ystyr “Deddf 1990” (“the 1990 Act”) yw Deddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990;

ystyr “meddiannydd hirdymor” (“long-term occupier”) yw meddiannydd o dan denantiaeth sy’n cael ei rhoi neu ei hestyn am dymor o flynyddoedd sicr nad oes llai na dwy flynedd ohono yn dal heb ddod i ben;

ystyr “perchennog” (“owner”), mewn perthynas ag adeilad rhestredig neu ran o adeilad o’r fath, yw person sydd am y tro—

(a)

yn berchennog yr ystâd mewn cysylltiad â’r ffi syml yn yr adeilad neu’r rhan, neu

(b)

â hawl i denantiaeth ar yr adeilad neu’r rhan sy’n cael ei rhoi neu ei hestyn am dymor o flynyddoedd sicr nad oes llai na 7 mlynedd ohono yn dal heb ddod i ben.

(2Pan fo—

(a)cyfathrebiad electronig yn cael ei ddefnyddio at ddiben cyflwyno neu roi hysbysiad neu ddogfen arall i unrhyw berson at ddibenion y Rheoliadau hyn, a

(b)bod y cyfathrebiad yn dod i law’r person hwnnw y tu allan i oriau busnes y person,

cymerir ei fod wedi dod i law ar y diwrnod gwaith nesaf.

Materion y mae rhaid eu cynnwys mewn cytundeb partneriaeth dreftadaeth

3.—(1Rhaid i gytundeb partneriaeth dreftadaeth gynnwys—

(a)digon o wybodaeth i adnabod yr adeilad y mae’r cytundeb yn ymwneud ag ef, gan gynnwys plan;

(b)unrhyw blaniau a lluniadau eraill sy’n angenrheidiol i ddisgrifio’r gwaith a gwmpesir gan y cytundeb;

(c)y dyddiad y mae’r cytundeb yn cael effaith ohono;

(d)hyd y cytundeb.

(2Gweler hefyd yr adrannau a ganlyn yn Neddf 1990—

(a)adran 26L(8) (materion eraill y caniateir eu cynnwys mewn cytundeb partneriaeth dreftadaeth);

(b)adran 26M(1) (yn gwneud darpariaeth atodol ar gyfer gofynion partneriaeth dreftadaeth).

Ymgynghori a chyhoeddusrwydd ynglŷn â chytundeb partneriaeth dreftadaeth drafft ac amrywiad drafft: cyffredinol

4.—(1Ni chaiff awdurdod cynllunio lleol wneud cytundeb partneriaeth dreftadaeth oni bai bod gofynion rheoliadau 5 a 6 wedi eu bodloni.

(2Ni chaiff awdurdod cynllunio lleol amrywio cytundeb presennol er mwyn—

(a)rhoi neu amrywio cydsyniad adeilad rhestredig ar gyfer gwaith a fyddai’n effeithio ar gymeriad adeilad rhestredig fel adeilad o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig, neu

(b)estyn hyd y cytundeb,

oni bai bod gofynion rheoliadau 5 a 6 wedi eu bodloni.

Ymgynghori â Gweinidogion Cymru ar gytundeb partneriaeth dreftadaeth drafft neu amrywiad drafft

5.—(1Dyma’r gofynion y cyfeirir atynt yn rheoliad 4 sy’n ymwneud ag ymgynghori.

(2Rhaid i awdurdod cynllunio lleol—

(a)anfon copi o’r cytundeb drafft neu’r amrywiad drafft (yn ôl y digwydd) at Weinidogion Cymru, a

(b)gwahodd sylwadau ganddynt o fewn cyfnod penodedig o 21 o ddiwrnodau o leiaf sy’n dechrau â’r diwrnod y daw’r cytundeb drafft neu’r amrywiad drafft i law.

(3Ond nid yw’n ofynnol i’r awdurdod cynllunio lleol gydymffurfio â pharagraff (2)—

(a)os yw Gweinidogion Cymru yn barti arfaethedig i’r cytundeb drafft neu’r amrywiad drafft, neu

(b)os yw awdurdod cynllunio lleol arall wedi cydymffurfio â pharagraff (2) mewn perthynas â hwy a’r un cytundeb drafft neu amrywiad drafft.

(4Yn ystod y cyfnod ymgynghori a bennir o dan baragraff (2)(b), caiff Gweinidogion Cymru roi hysbysiad i’r awdurdod cynllunio lleol a wahoddodd sylwadau fod arnynt angen rhagor o amser i ystyried y cytundeb drafft neu’r amrywiad drafft.

(5Os bydd Gweinidogion Cymru yn rhoi’r hysbysiad a bennir ym mharagraff (4), estynnir y cyfnod ymgynghori ym mharagraff (2)(b) am y cyfnod a bennir yn yr hysbysiad hwnnw.

Gofynion cyhoeddusrwydd: cytundeb partneriaeth dreftadaeth drafft neu amrywiad drafft

6.—(1Dyma’r gofynion y cyfeirir atynt yn rheoliad 4 sy’n ymwneud â chyhoeddusrwydd.

(2Rhaid i awdurdod cynllunio lleol—

(a)trefnu bod y cytundeb drafft neu’r amrywiad drafft ar gael i’r cyhoedd edrych arno, ynghyd â manylion ynghylch sut y caniateir cyflwyno sylwadau ac erbyn pa ddyddiad—

(i)mewn man yn yr ardal y mae’r adeilad rhestredig yr effeithir arno wedi ei leoli ynddi;

(ii)ar oriau rhesymol;

(iii)am o leiaf 21 o ddiwrnodau;

(b)cyhoeddi ar ei wefan am o leiaf 21 o ddiwrnodau—

(i)cyfeiriad neu leoliad yr adeilad rhestredig y mae’r cytundeb drafft neu’r amrywiad drafft yn ymwneud ag ef,

(ii)crynodeb o’r cytundeb drafft neu’r amrywiad drafft,

(iii)datganiad bod y cytundeb drafft neu’r amrywiad drafft ar gael i’r cyhoedd edrych arno yn y man ac ar yr adegau a nodir,

(iv)manylion am sut y caniateir cyflwyno sylwadau, a

(v)erbyn pa ddyddiad y mae rhaid i sylwadau ddod i law;

(c)arddangos hysbysiad sy’n cynnwys yr wybodaeth a bennir yn is-baragraff (b) am o leiaf 21 o ddiwrnodau ar neu gerllaw’r adeilad rhestredig y mae’r cytundeb drafft neu’r amrywiad drafft yn ymwneud ag ef;

(d)rhoi copi o’r hysbysiad i—

(i)unrhyw feddiannydd hirdymor adeilad rhestredig neu ran o adeilad rhestredig y mae’r cytundeb drafft neu’r amrywiad drafft yn ymwneud ag ef,

(ii)unrhyw berchennog ar yr adeilad rhestredig neu ran ohono y mae’r cytundeb drafft neu’r amrywiad drafft yn ymwneud ag ef na fwriedir iddo fod yn barti i’r cytundeb drafft na’r amrywiad drafft, a

(iii)unrhyw berson y mae’n ymddangos i’r awdurdod ei fod yn briodol am fod ganddo wybodaeth arbennig am yr adeilad rhestredig neu ran ohono, neu adeiladau o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol yn fwy cyffredinol, neu ddiddordeb arbennig yn y rhain, ond nid yw’r gofyniad hwn yn gymwys pan fo paragraff (6) yn gymwys.

(3Ond nid yw’n ofynnol i’r awdurdod cynllunio lleol gydymffurfio â’r canlynol—

(a)paragraff (2)(c) os oes awdurdod cynllunio lleol arall wedi cydymffurfio â’r paragraff hwnnw mewn perthynas â’r un cytundeb drafft neu’r un amrywiad drafft;

(b)paragraff (2)(d) mewn cysylltiad ag unrhyw berson sy’n barti arfaethedig i’r cytundeb drafft neu’r amrywiad drafft neu sydd wedi cael hysbysiad gan awdurdod cynllunio lleol arall mewn perthynas â’r un cytundeb drafft neu’r un amrywiad drafft.

(4Rhaid i ddyddiad a bennir yn unol â pharagraff (2) fel y dyddiad erbyn pryd y mae rhaid i sylwadau ddod i law ynghylch cytundeb drafft neu amrywiad drafft fod—

(a)mewn perthynas â threfnu bod y cytundeb drafft neu’r amrywiad drafft ar gael i’r cyhoedd edrych arno o dan baragraff (2)(a), o leiaf 21 o ddiwrnodau ar ôl y dyddiad y trefnir ei fod ar gael o dan y paragraff hwnnw;

(b)mewn perthynas â chyhoeddi crynodeb o’r cytundeb drafft neu’r amrywiad drafft ar eu gwefan o dan baragraff (2)(b), o leiaf 21 o ddiwrnodau ar ôl y dyddiad y cyhoeddir y crynodeb;

(c)mewn perthynas ag arddangos hysbysiad o dan baragraff (2)(c), o leiaf 21 o ddiwrnodau ar ôl y dyddiad yr arddangosir yr hysbysiad;

(d)mewn perthynas â rhoi copi o’r hysbysiad o dan baragraff (2)(d), o leiaf 21 o ddiwrnodau ar ôl y dyddiad y rhoddir yr hysbysiad.

(5Pan fo’r hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (2)(c) wedi ei ddileu, wedi ei guddio neu wedi ei ddifwyno cyn diwedd y cyfnod o 21 o ddiwrnodau, a hynny heb fod bai ar yr awdurdod a’i harddangosodd, trinnir yr awdurdod fel pe bai wedi cydymffurfio â’r paragraff hwnnw os yw wedi cymryd camau rhesymol i ddiogelu’r hysbysiad, ac, os oes angen, i’w amnewid.

(6Pan fo’r awdurdod cynllunio lleol yn berchennog ar adeilad neu adeiladau rhestredig y mae’r cytundeb drafft neu’r amrywiad drafft yn ymwneud â hwy, mae paragraff (7) yn gymwys.

(7Rhaid i Weinidogion Cymru roi copi o’r hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (2)(d)(iii) unrhyw berson y mae’n ymddangos iddynt ei fod yn briodol am fod ganddo wybodaeth arbennig am yr adeilad rhestredig neu ran ohono, neu adeiladau o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol yn fwy cyffredinol, neu ddiddordeb arbennig yn y rhain, oni bai bod y person hwnnw’n barti arfaethedig i’r cytundeb drafft neu i’r amrywiad drafft.

(8Nid oes dim yn y rheoliad hwn nac yn rheoliad 8 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod cynllunio lleol gyhoeddi gwybodaeth—

(a)sy’n gyfrinach fasnach,

(b)os yw ei datgelu yn debygol o niweidio buddiant masnachol unrhyw berson fel arall,

(c)y byddai ei datgelu’n gyfystyr â thor cyfrinachedd y gallai unrhyw berson ddwyn achos llys yn ei gylch, neu

(d)y gwaherddir ei datgelu gan unrhyw ddeddfiad, o dan unrhyw ddeddfiad neu gan orchymyn llys.

Ystyried a ddylid gwneud neu amrywio cytundeb

7.  Wrth ystyried a ddylid gwneud neu amrywio cytundeb partneriaeth dreftadaeth i roi cydsyniad adeilad rhestredig, rhaid i’r awdurdod cynllunio lleol perthnasol neu Weinidogion Cymru roi sylw arbennig i ddymunoldeb cadw’r adeilad neu ei leoliad neu unrhyw nodweddion o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig sydd ganddo.

Gofyniad cyhoeddusrwydd: rhestr a chopïau o gytundebau partneriaeth dreftadaeth ac amrywiadau

8.  Rhaid i’r awdurdod cynllunio lleol—

(a)cyhoeddi rhestr, drwy ddulliau electronig, o’r holl gytundebau partneriaeth dreftadaeth sydd mewn effaith y mae’n barti iddynt, a

(b)cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl i gytundeb partneriaeth dreftadaeth gael ei wneud, neu i gytundeb presennol gael ei amrywio—

(i)ychwanegu’r cytundeb neu’r amrywiad at y rhestr, a

(ii)cyflwyno copi o’r cytundeb neu’r amrywiad i Weinidogion Cymru.

Terfynu cytundeb partneriaeth dreftadaeth gan yr awdurdod cynllunio lleol

9.—(1Caiff awdurdod cynllunio lleol, drwy orchymyn, derfynu unrhyw gytundeb partneriaeth dreftadaeth y mae’n barti iddo neu unrhyw ddarpariaeth mewn cytundeb o’r fath.

(2Caiff gorchymyn a wneir o dan y rheoliad hwn gynnwys darpariaeth atodol, gysylltiedig, ddarfodol, drosiannol neu ddarpariaeth arbed.

(3Nid yw gorchymyn a wneir gan yr awdurdod cynllunio lleol o dan baragraff (1) yn cael effaith oni chaiff ei gadarnhau gan Weinidogion Cymru o dan reoliad 11(4).

(4Caiff gorchymyn i derfynu cytundeb partneriaeth dreftadaeth, mewn perthynas ag unrhyw gydsyniad adeilad rhestredig a roddwyd gan y cytundeb mewn cysylltiad ag unrhyw waith, gael ei arfer unrhyw bryd cyn i’r gwaith hwnnw gael ei gwblhau, ond nid yw’r terfyniad yn effeithio ar hynny o’r gwaith hwnnw ag a gyflawnwyd yn flaenorol.

Terfynu cytundeb partneriaeth treftadaeth gan Weinidogion Cymru

10.—(1Caiff Gweinidogion Cymru, drwy orchymyn, derfynu unrhyw gytundeb partneriaeth dreftadaeth neu unrhyw ddarpariaeth mewn cytundeb o’r fath.

(2Caiff gorchymyn a wneir o dan y rheoliad hwn gynnwys darpariaeth atodol, gysylltiedig, ddarfodol, drosiannol neu ddarpariaeth arbed.

(3Caiff gorchymyn i derfynu cytundeb partneriaeth dreftadaeth, mewn perthynas ag unrhyw gydsyniad adeilad rhestredig a roddwyd gan y cytundeb mewn cysylltiad ag unrhyw waith, gael ei arfer unrhyw bryd cyn i’r gwaith hwnnw gael ei gwblhau, ond nid yw’r terfyniad yn effeithio ar hynny o’r gwaith hwnnw ag a gyflawnwyd yn flaenorol.

Gweithdrefn ar gyfer terfynu cytundeb partneriaeth dreftadaeth

11.—(1Pan fo awdurdod cynllunio lleol wedi gwneud gorchymyn sy’n terfynu cytundeb partneriaeth dreftadaeth neu unrhyw ddarpariaeth ynddo, neu pan fo Gweinidogion Cymru yn bwriadu gwneud gorchymyn o’r fath, rhaid i’r corff sy’n gwneud neu’n bwriadu gwneud y gorchymyn gyflwyno hysbysiad—

(a)i bartïon y cytundeb,

(b)i unrhyw feddiannydd hirdymor yr adeilad y mae’r cytundeb partneriaeth dreftadaeth yn ymwneud ag ef (os nad yw’n barti i’r cytundeb), ac

(c)i unrhyw berson arall y bydd y gorchymyn yn effeithio arno yn eu barn hwy.

(2Rhaid i’r hysbysiad bennu cyfnod o ddim llai nag 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r dyddiad y cyflwynir yr hysbysiad, pryd y caiff unrhyw berson y’i cyflwynir iddo ofyn am gyfle i ymddangos gerbron person a benodir gan Weinidogion Cymru at y diben hwnnw a chael gwrandawiad ganddo.

(3Os bydd person y cyflwynir yr hysbysiad iddo yn gofyn felly o fewn y cyfnod hwnnw, rhaid i Weinidogion Cymru roi cyfle o’r fath i’r person hwnnw ac i unrhyw awdurdod cynllunio lleol sy’n barti i’r cytundeb partneriaeth dreftadaeth cyn iddynt wneud y gorchymyn neu ei gadarnhau.

(4Caiff Gweinidogion Cymru gadarnhau gorchymyn a gyflwynir iddynt gan awdurdod cynllunio lleol naill ai heb ei addasu neu gydag addasiadau.

Digollediad pan derfynir cytundeb partneriaeth dreftadaeth yn gyfan gwbl neu’n rhannol

12.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan derfynir cytundeb partneriaeth dreftadaeth neu unrhyw ddarpariaeth mewn cytundeb o’r fath drwy orchymyn o dan reoliad 9 neu 10.

(2Yn y rheoliad hwn, mae cyfeiriadau at yr awdurdod cynllunio lleol—

(a)yn achos gorchymyn a wneir o dan reoliad 9, yn gyfeiriadau at yr awdurdod cynllunio lleol a wnaeth y gorchymyn;

(b)yn achos gorchymyn a wneir o dan reoliad 10, yn gyfeiriadau at yr awdurdod cynllunio lleol y lleolir yr adeilad neu unrhyw ran o’r adeilad sy’n arwain at y gwariant, y golled neu’r difrod yn ei ardal.

(3Rhaid i’r awdurdod cynllunio lleol dalu digollediad i berson os yw’r amodau ym mharagraff (4) wedi eu bodloni.

(4Yr amodau yw—

(a)bod y person wedi mynd i wariant wrth gyflawni gwaith y mae’r terfyniad yn peri ei fod yn waith ofer, neu wedi dioddef colled neu ddifrod fel arall y gellir eu priodoli’n uniongyrchol i’r terfyniad,

(b)bod yr hawliad yn cael ei wneud mewn ysgrifen i’r awdurdod cynllunio lleol, ac

(c)bod yr hawliad yn cael ei gyflwyno o fewn cyfnod o 6 mis sy’n dechrau â’r dyddiad y mae’r terfyniad yn cael effaith.

(5Yn ddarostyngedig i baragraff (7), nid oes digollediad yn daladwy o dan y rheoliad hwn mewn cysylltiad â’r canlynol—

(a)unrhyw waith a gyflawnwyd cyn i’r cytundeb neu’r ddarpariaeth berthnasol gael effaith, neu

(b)unrhyw golled neu ddifrod arall (heb fod yn golled neu ddifrod sy’n ddibrisiant yng ngwerth buddiant mewn tir) sy’n deillio o unrhyw beth a wnaed neu nas gwnaed cyn i’r cytundeb gael effaith.

(6Caiff Gweinidogion Cymru, ar ôl ymgynghori â’r holl awdurdodau cynllunio lleol sydd yn barti i’r cytundeb, neu a fu’n barti iddo, gyfarwyddo, pan fo awdurdod cynllunio lleol yn atebol i dalu digollediad o dan y rheoliad hwn, fod ganddo hawl i gael ad-daliad o’r cyfan o’r digollediad neu unrhyw gyfran ohono a gyfarwyddir ganddynt oddi wrth un neu ragor o awdurdodau a bennir yn y cyfarwyddyd.

(7At ddibenion y rheoliad hwn, mae gwariant yr eir iddo wrth baratoi planiau at ddibenion unrhyw waith, neu ar faterion tebyg eraill sy’n paratoi ar gyfer unrhyw waith, i’w gymryd fe pe bai wedi ei gynnwys yn y gwariant yr eir iddo wrth gyflawni’r gwaith hwnnw.

Datgymhwyso ac addasu Deddf 1990

13.—(1Mae’r Atodlen yn datgymhwyso darpariaethau Deddf 1990 at ddibenion cytundebau partneriaeth dreftadaeth ac mae’n cymhwyso darpariaethau a grybwyllir yn adran 26M(5)(a) o Ddeddf 1990 gydag addasiadau at y dibenion hynny.

(2At ddibenion y Rheoliadau hyn, mae unrhyw gyfeiriad yn Neddf 1990 at ddarpariaeth o’r Ddeddf a gymhwysir ag addasiadau gan yr Atodlen yn gyfeiriad at y ddarpariaeth fel y mae’n gymwys yn rhinwedd yr Atodlen honno.

Dawn Bowden

Y Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, a’r Prif Chwip o dan awdurdod Gweinidog yr Economi, un o Weinidogion Cymru

20 Hydref 2021

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources