Search Legislation

Rheoliadau Prisio ar gyfer Ardrethu (Cymru) (Coronafeirws) 2021

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Offerynnau Statudol Cymru

2021 Rhif 1204 (Cy. 301)

Ardrethu A Phrisio, Cymru

Rheoliadau Prisio ar gyfer Ardrethu (Cymru) (Coronafeirws) 2021

Gwnaed

28 Hydref 2021

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

am 11.00 a.m. ar 1 Tachwedd 2021

Yn dod i rym

am 6.00 p.m. ar 1 Tachwedd 2021

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 143(2) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988(1), a pharagraff 2(8) o Atodlen 6 iddi, ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy(2).

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Prisio ar gyfer Ardrethu (Cymru) (Coronafeirws) 2021 a deuant i rym am 6.00 p.m. ar 1 Tachwedd 2021.

(2Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Prisio hereditamentau

2.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i hereditament y byddai’r gwerth ardrethol a ddangosir ar restr 2017 ar gyfer yr hereditament hwnnw, oni bai am y Rheoliadau hyn, yn cael ei effeithio o ganlyniad i—

(a)naill ai priod ymateb Llywodraeth Cymru neu ymateb Llywodraeth y DU i’r coronafeirws, neu ymateb y ddwy Lywodraeth iddo;

(b)unrhyw ofyniad, cyngor neu ganllawiau gan—

(i)awdurdod cyhoeddus yn y Deyrnas Unedig;

(ii)Llywodraeth Cymru, Llywodraeth yr Alban, Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon neu Lywodraeth y DU;

(iii)llywodraeth gwlad neu diriogaeth y tu allan i’r Deyrnas Unedig;

er mwyn ymateb i’r bygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd o ganlyniad i fynychder a lledaeniad y coronafeirws;

(c)mesurau a gymerir gan unrhyw berson i sicrhau cydymffurfedd â deddfwriaeth iechyd a diogelwch.

(2At ddibenion canfod gwerth ardrethol hereditament y mae’r rheoliad hwn yn gymwys iddo ar gyfer unrhyw ddiwrnod ar 1 Tachwedd 2021 neu ar ôl hynny, wrth gymhwyso darpariaethau is-baragraffau (1) i (7) o baragraff 2 o Atodlen 6 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 rhaid rhagdybio’r canlynol—

(a)ar y diwrnod hwnnw nad oedd yr ymateb, y gofyniad, y cyngor neu’r canllawiau y cyfeirir atynt yn rheoliad 2(1)(a) a (b) wedi digwydd, a

(b)y mesurau sy’n angenrheidiol i sicrhau cydymffurfedd â deddfwriaeth iechyd a diogelwch yw’r mesurau a oedd yn angenrheidiol ar 1 Ebrill 2015 i gydymffurfio â’r ddeddfwriaeth honno.

(3Yn y rheoliad hwn—

ystyr “awdurdod cyhoeddus” (“public authority”) yw person â swyddogaethau o natur gyhoeddus;

ystyr “y coronafeirws” (“coronavirus”) yw coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2);

mae i “deddfwriaeth iechyd a diogelwch” (“health and safety legislation”) yr un ystyr â’r diffiniad o “the relevant statutory provisions” yn adran 53 o Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith etc. 1974(3);

mae i “hereditament” yr ystyr a roddir i “hereditament” yn adran 64 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988;

ystyr “rhestr 2017” (“2017 list”) yw rhestr ardrethu annomestig leol neu ganolog a luniwyd ar 1 Ebrill 2017;

ystyr “ymateb Llywodraeth Cymru” (“Welsh Government response”) yw—

(a)

Deddf y Coronafeirws 2020 neu unrhyw beth a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan neu yn rhinwedd y Ddeddf honno;

(b)

unrhyw—

(i)

rheoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan adran 45C(1) i (4), 45F(2) neu 45P o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984;

(ii)

deddfiadau eraill a wnaed, neu unrhyw beth a wnaed o dan neu yn rhinwedd deddfiad a wnaed, gan Weinidogion Cymru;

(iii)

canllawiau neu gyngor a ddyroddwyd gan Weinidogion Cymru;

er mwyn ymateb i’r bygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd o ganlyniad i fynychder a lledaeniad y coronafeirws;

ystyr “ymateb Llywodraeth y DU” (“UK Government response”) yw—

(a)

Deddf y Coronafeirws 2020(4) neu unrhyw beth a wnaed gan Lywodraeth y DU o dan neu yn rhinwedd y Ddeddf honno;

(b)

unrhyw—

(i)

rheoliadau a wnaed gan yr Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 45C(1), (3)(c), (4)(d), 45F(2) neu 45P o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984(5);

(ii)

deddfiadau eraill a wnaed, neu unrhyw beth a wnaed o dan neu yn rhinwedd deddfiad a wnaed, gan Lywodraeth y DU;

(iii)

canllawiau neu gyngor a ddyroddwyd gan Lywodraeth y DU;

er mwyn ymateb i’r bygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd o ganlyniad i fynychder a lledaeniad y coronafeirws.

Rebecca Evans

Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru

28 Hydref 2021

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn pennu’r rhagdybiaethau sydd i’w gwneud wrth gymhwyso darpariaethau is-baragraffau (1) i (7) o baragraff 2 o Atodlen 6 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988.

Mae paragraff (1) o reoliad 2 yn pennu’r dosbarth o hereditamentau y mae’r rhagdybiaethau hyn i’w cymhwyso iddo, sef hereditamentau yr effeithir ar eu gwerth ardrethol yn rhinwedd newid perthnasol mewn amgylchiadau a achosir gan un neu ragor o dri pheth. Yn gyntaf, naill ai priod ymateb Llywodraeth Cymru neu ymateb Llywodraeth y DU i’r coronafeirws, neu ymateb y ddwy Lywodraeth iddo. Yn ail, unrhyw ofynion, canllawiau neu gyngor gan, awdurdod cyhoeddus yn y Deyrnas Unedig, Llywodraeth Cymru, Llywodraeth yr Alban, Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon, Llywodraeth y DU neu Lywodraeth gwlad neu diriogaeth y tu allan i’r Deyrnas Unedig. Yn drydydd, unrhyw fesurau a gymerir gan berson i sicrhau cydymffurfedd â deddfwriaeth iechyd a diogelwch.

Mae paragraff (2) o reoliad 2 yn rhagnodi’r rhagdybiaethau sydd i’w gwneud wrth ganfod gwerth ardrethol yr hereditamentau hynny, sef nad yw’r materion sydd wedi achosi newid perthnasol mewn amgylchiadau wedi digwydd. Rhagdybiaeth ychwanegol yw bod rhaid i’r gwerthoedd ardrethol ragdybio mai’r mesurau sy’n angenrheidiol i gydymffurfio â deddfwriaeth iechyd a diogelwch yw’r mesurau a oedd yn angenrheidiol i gydymffurfio ar 1 Ebrill 2015 â’r ddeddfwriaeth a oedd yn gymwys bryd hynny.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Yr Is-adran Cyllid Strategol Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

(1)

1988 p. 41. Diwygiwyd paragraff 2(8) gan adran 139 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (p. 42) a pharagraff 38(8) o Atodlen 5 iddi. Gweler adran 146(6) am y diffiniad o “prescribed”.

(2)

Trosglwyddwyd pwerau’r Ysgrifennydd Gwladol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac maent wedi eu breinio bellach yng Ngweinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources