- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
2.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i hereditament y byddai’r gwerth ardrethol a ddangosir ar restr 2017 ar gyfer yr hereditament hwnnw, oni bai am y Rheoliadau hyn, yn cael ei effeithio o ganlyniad i—
(a)naill ai priod ymateb Llywodraeth Cymru neu ymateb Llywodraeth y DU i’r coronafeirws, neu ymateb y ddwy Lywodraeth iddo;
(b)unrhyw ofyniad, cyngor neu ganllawiau gan—
(i)awdurdod cyhoeddus yn y Deyrnas Unedig;
(ii)Llywodraeth Cymru, Llywodraeth yr Alban, Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon neu Lywodraeth y DU;
(iii)llywodraeth gwlad neu diriogaeth y tu allan i’r Deyrnas Unedig;
er mwyn ymateb i’r bygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd o ganlyniad i fynychder a lledaeniad y coronafeirws;
(c)mesurau a gymerir gan unrhyw berson i sicrhau cydymffurfedd â deddfwriaeth iechyd a diogelwch.
(2) At ddibenion canfod gwerth ardrethol hereditament y mae’r rheoliad hwn yn gymwys iddo ar gyfer unrhyw ddiwrnod ar 1 Tachwedd 2021 neu ar ôl hynny, wrth gymhwyso darpariaethau is-baragraffau (1) i (7) o baragraff 2 o Atodlen 6 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 rhaid rhagdybio’r canlynol—
(a)ar y diwrnod hwnnw nad oedd yr ymateb, y gofyniad, y cyngor neu’r canllawiau y cyfeirir atynt yn rheoliad 2(1)(a) a (b) wedi digwydd, a
(b)y mesurau sy’n angenrheidiol i sicrhau cydymffurfedd â deddfwriaeth iechyd a diogelwch yw’r mesurau a oedd yn angenrheidiol ar 1 Ebrill 2015 i gydymffurfio â’r ddeddfwriaeth honno.
(3) Yn y rheoliad hwn—
ystyr “awdurdod cyhoeddus” (“public authority”) yw person â swyddogaethau o natur gyhoeddus;
ystyr “y coronafeirws” (“coronavirus”) yw coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2);
mae i “deddfwriaeth iechyd a diogelwch” (“health and safety legislation”) yr un ystyr â’r diffiniad o “the relevant statutory provisions” yn adran 53 o Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith etc. 1974(1);
mae i “hereditament” yr ystyr a roddir i “hereditament” yn adran 64 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988;
ystyr “rhestr 2017” (“2017 list”) yw rhestr ardrethu annomestig leol neu ganolog a luniwyd ar 1 Ebrill 2017;
ystyr “ymateb Llywodraeth Cymru” (“Welsh Government response”) yw—
Deddf y Coronafeirws 2020 neu unrhyw beth a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan neu yn rhinwedd y Ddeddf honno;
unrhyw—
rheoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan adran 45C(1) i (4), 45F(2) neu 45P o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984;
deddfiadau eraill a wnaed, neu unrhyw beth a wnaed o dan neu yn rhinwedd deddfiad a wnaed, gan Weinidogion Cymru;
canllawiau neu gyngor a ddyroddwyd gan Weinidogion Cymru;
er mwyn ymateb i’r bygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd o ganlyniad i fynychder a lledaeniad y coronafeirws;
ystyr “ymateb Llywodraeth y DU” (“UK Government response”) yw—
Deddf y Coronafeirws 2020(2) neu unrhyw beth a wnaed gan Lywodraeth y DU o dan neu yn rhinwedd y Ddeddf honno;
unrhyw—
rheoliadau a wnaed gan yr Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 45C(1), (3)(c), (4)(d), 45F(2) neu 45P o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984(3);
deddfiadau eraill a wnaed, neu unrhyw beth a wnaed o dan neu yn rhinwedd deddfiad a wnaed, gan Lywodraeth y DU;
canllawiau neu gyngor a ddyroddwyd gan Lywodraeth y DU;
er mwyn ymateb i’r bygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd o ganlyniad i fynychder a lledaeniad y coronafeirws.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: