Search Legislation

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Cyfyngiadau, Teithio Rhyngwladol, Hysbysu a Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd i Deithwyr) (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2021

Newidiadau dros amser i: Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Cyfyngiadau, Teithio Rhyngwladol, Hysbysu a Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd i Deithwyr) (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2021

 Help about opening options

Fersiwn wedi'i ddisodliFersiwn wedi ei ddisodli: 01/11/2021

Statws

Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 31/10/2021. Mae'r fersiwn hon o'r hwn (hon) Instrument yn cynnwys darpariaethau nad ydynt yn ddilys ar gyfer y pwynt mewn amser hwn. Help about Status

Close

Statws

 Nid yw'n ddilys ar gyfer y pwynt mewn amser hwn yn golygu yn gyffredinol nad oedd darpariaeth mewn grym ar gyfer y pwynt mewn amser rydych wedi dewis.

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Cyfyngiadau, Teithio Rhyngwladol, Hysbysu a Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd i Deithwyr) (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2021. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.

Offerynnau Statudol Cymru

2021 Rhif 1212 (Cy. 303)

Iechyd Y Cyhoedd, Cymru

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Cyfyngiadau, Teithio Rhyngwladol, Hysbysu a Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd i Deithwyr) (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2021

Gwnaed

am 4.25 p.m. ar 29 Hydref 2021

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

am 6.30 p.m. ar 29 Hydref 2021

Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 45B, 45C(1) a (3)(c), 45F(2) a 45P(2) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984(1), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Mae Gweinidogion Cymru yn ystyried bod y cyfyngiadau a’r gofynion a osodir gan y Rheoliadau hyn yn gymesur â’r hyn y maent yn ceisio ei gyflawni, sef ymateb iechyd y cyhoedd i’r bygythiad hwnnw.

Mewn perthynas â’r ddarpariaeth a wneir gan reoliad 18 o’r Rheoliadau hyn, yn unol ag adran 45Q(3) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984, mae Gweinidogion Cymru o’r farn nad yw’r offeryn yn cynnwys unrhyw ddarpariaeth a wneir yn rhinwedd adran 45C(3)(c) o’r Ddeddf sy’n gosod neu’n galluogi gosod cyfyngiad neu ofyniad arbennig, neu unrhyw gyfyngiad neu ofyniad arall sy’n cael neu a fyddai’n cael effaith sylweddol ar hawliau person.

RHAN 1LL+CCyffredinol

Enwi a dod i rymLL+C

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Cyfyngiadau, Teithio Rhyngwladol, Hysbysu a Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd i Deithwyr) (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2021.

(2Daw’r Rheoliadau hyn, ac eithrio rheoliadau 3, 12 a 18, i rym am 4.00 a.m. ar 31 Hydref 2021.

(3Daw rheoliadau 3, 12 a 18 i rym am 4.00 a.m. ar 1 Tachwedd 2021.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 1 mewn grym ar 31.10.2021 am 4.00 a.m., gweler rhl. 1(2)

RHAN 2LL+CDiwygiadau i Reoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020

Diwygiadau i Reoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020LL+C

2.  Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020(2) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

Gwybodaeth Cychwyn

I2Rhl. 2 mewn grym ar 31.10.2021 am 4.00 a.m., gweler rhl. 1(2)

Valid from 01/11/2021

Diwygiadau i reoliad 2ALL+C

3.—(1Mae rheoliad 2A (esemptiadau ar gyfer teithwyr sydd wedi eu brechu ac eraill) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2Ym mharagraff (10) yn y diffiniad o “brechlyn awdurdodedig”, yn lle paragraff (c) rhodder—

(c)mewn perthynas â dosau a geir mewn unrhyw wlad neu diriogaeth arall (gan gynnwys gwlad berthnasol a restrir ym mharagraff (12)), a fyddai’n awdurdodedig fel y darperir ar ei gyfer ym mharagraff (a)(i) neu (ii) pe bai’r dosau wedi eu cael yn y Deyrnas Unedig;.

(3Ym mharagraff (12) yn y lleoedd priodol mewnosoder—

Angola

Anguilla

Ardaloedd Safleoedd Sofran Akrotiri a Dhekelia ar Ynys Cyprus

Yr Ariannin

Armenia

Azerbaijan

Belize

Bermuda

Botswana

Cambodia

Costa Rica

De Georgia ac Ynysoedd Sandwich y De

Djibouti

Eswatini

Gibraltar

Guernsey

Guyana

Honduras

Jersey

Lesotho

Libanus

Madagascar

Mauritius

Mongolia

Montserrat

Nepal

Panama

Periw

Rwanda

Seychelles

Sierra Leone

Sri Lanka

St Helena, Ascension a Tristan da Cunha

Suriname

Tanzania

Tiriogaeth Brydeinig yr Antarctig

Tiriogaeth Brydeinig Cefnfor India

Tiriogaethau Meddianedig Palesteina

Trinidad a Tobago

Tunisia

Uganda

Uruguay

Ynys Manaw

Ynysoedd Cayman

Ynysoedd Falkland

Ynysoedd Pitcairn, Henderson, Ducie ac Oeno

Ynysoedd Prydeinig y Wyryf

Ynysoedd Turks a Caicos .

Gwybodaeth Cychwyn

I3Rhl. 3 mewn grym ar 1.11.2021 am 4.00 a.m., gweler rhl. 1(3)

Diwygiadau i reoliad 6ABLL+C

4.—(1Mae rheoliad 6AB (gofyniad i archebu a chymryd profion) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2Yn lle paragraff (2)(a) rhodder—

(a)“prawf diwrnod 2”—

(i)mewn cysylltiad â pherson nad yw rheoliad 2A yn gymwys iddo, yw prawf sy’n cydymffurfio â pharagraff 1 o Atodlen 1C sy’n cael ei gymryd o dan yr amgylchiadau a ddisgrifir ym mharagraff 1A o’r Atodlen honno;

(ii)mewn cysylltiad â theithiwr rheoliad 2A, yw—

(aa)prawf a ddisgrifir yn is-baragraff (i), neu

(bb)prawf sy’n cydymffurfio â pharagraff 1ZB o Atodlen 1C sy’n cael ei gymryd o dan yr amgylchiadau a ddisgrifir ym mharagraff 1A o’r Atodlen honno;.

Gwybodaeth Cychwyn

I4Rhl. 4 mewn grym ar 31.10.2021 am 4.00 a.m., gweler rhl. 1(2)

Diwygiadau i reoliad 6DBLL+C

5.—(1Mae rheoliad 6DB (gofyniad i ynysu o fethu â chymryd profion: teithwyr o wledydd a thiriogaethau esempt a theithwyr rheoliad 2A) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2Yn y pennawd, hepgorer “o wledydd a thiriogaethau esempt a theithwyr”.

(3Yn lle is-baragraff (1) rhodder—

(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i deithiwr rheoliad 2A (“P”) y mae rheoliad 6AB(1) yn gymwys iddo.

(4Ym mharagraff (5)(a), yn lle “ym mharagraff 1 o Atodlen 1C” rhodder “yn rheoliad 6AB(2)(a)(ii)”.

Gwybodaeth Cychwyn

I5Rhl. 5 mewn grym ar 31.10.2021 am 4.00 a.m., gweler rhl. 1(2)

Amnewid rheoliad 6ELL+C

6.  Yn lle rheoliad 6E (goblygiadau canlyniad prawf positif) rhodder—

Goblygiadau canlyniad prawf positif

6E.(1) Pan fo prawf a gymerir gan berson (“P”) yn unol â rheoliad 6AB yn bositif ac—

(a)bo P yn berson y mae rheoliad 7(1) neu 8(1) yn gymwys iddo, mae paragraffau (2) a (7) yn gymwys;

(b)bo P yn deithiwr rheoliad 2A—

(i)pan fo’r prawf yn brawf PCR diwrnod 2, mae paragraffau (3) a (7) yn gymwys;

(ii)pan fo’r prawf yn brawf LFD diwrnod 2, mae paragraffau (4), (5) a (7) yn gymwys.

(2) Diwrnod ynysu olaf P o dan reoliad 7 neu 8 yw diwrnod olaf y cyfnod o 10 niwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod y cymerodd P y prawf (ac nid yw rheoliad 12 yn gymwys at ddibenion pennu diwrnod ynysu olaf P).

(3) Mae P i’w drin fel pe bai gofynion rheoliad 7 yn gymwys a rhaid i P ynysu a pharhau i ynysu yn unol â’r rheoliad hwnnw tan ddiwrnod olaf y cyfnod o 10 niwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod y cymerodd P y prawf.

(4) Rhaid i P, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol, gymryd prawf cadarnhau a ddarperir gan Weinidogion Cymru at ddibenion y paragraff hwn.

(5) Mae P i’w drin fel pe bai gofynion rheoliad 7 yn gymwys a rhaid i P ynysu a pharhau i ynysu yn unol â’r rheoliad hwnnw tan y cynharaf o’r canlynol—

(a)diwrnod olaf y cyfnod o 10 niwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod y cymerodd P y prawf LFD diwrnod 2;

(b)yr adeg yr hysbysir P bod canlyniad y prawf cadarnhau a gymerwyd yn unol â pharagraff (4) yn negyddol.

(6) Yn y rheoliad hwn, bernir bod person yn cael hysbysiad o ganlyniad mewn perthynas â phrawf LFD diwrnod 2 pan fydd y person yn penderfynu ar y canlyniad yn unol â chyfarwyddiadau defnyddio gweithgynhyrchydd y prawf.

(7) Nid yw rheoliad 10(3) (gofyniad i ynysu yn peidio â bod yn gymwys i P pan fydd P yn gadael Cymru) o’r Rheoliadau hyn ac, yn ddarostyngedig i reoliad 6I, rheoliad 6 neu 7, fel y bo’n briodol, o’r Rheoliadau Cyfyngiadau Coronafeirws yn gymwys mewn perthynas â P.

(8) Yn y rheoliad hwn—

ystyr “prawf LFD diwrnod 2” yw prawf o fewn ystyr rheoliad 6AB(2)(a)(ii)(bb);

ystyr “prawf PCR diwrnod 2” yw prawf o fewn ystyr rheoliad 6AB(2)(a)(ii)(aa).

Gwybodaeth Cychwyn

I6Rhl. 6 mewn grym ar 31.10.2021 am 4.00 a.m., gweler rhl. 1(2)

Diwygiadau i reoliad 6HBLL+C

7.—(1Mae rheoliad 6HB (goblygiadau cael canlyniad prawf amhendant: teithwyr o wledydd a thiriogaethau esempt a theithwyr rheoliad 2A) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2Yn y pennawd, hepgorer “o wledydd a thiriogaethau esempt a theithwyr”.

(3Yn lle is-baragraff (1) rhodder—

(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i deithiwr rheoliad 2A (“P”) y mae rheoliad 6AB(1) yn gymwys iddo.

(4Ym mharagraff (5)(a), yn lle “ym mharagraff 1 o Atodlen 1C” rhodder “yn rheoliad 6AB(2)(a)(ii)”.

Gwybodaeth Cychwyn

I7Rhl. 7 mewn grym ar 31.10.2021 am 4.00 a.m., gweler rhl. 1(2)

Diwygiadau i reoliad 14LL+C

8.—(1Mae rheoliad 14 (troseddau) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2Ar ôl paragraff (1)(h) mewnosoder—

(ha)6E(4);.

(3Ym mharagraff (1D), ar ôl “6AB” mewnosoder “neu 6E(4)”.

Gwybodaeth Cychwyn

I8Rhl. 8 mewn grym ar 31.10.2021 am 4.00 a.m., gweler rhl. 1(2)

Diwygiadau i reoliad 16LL+C

9.  Yn rheoliad 16(6AB) (hysbysiadau cosb benodedig)—

(a)yn y geiriau agoriadol, ar ôl “rheoliad 14(1)(h)” mewnosoder “neu (ha)”;

(b)yn is-baragraff (b), ar ôl “6AB(7)” mewnosoder “neu 6E(4)”;

(c)yn is-baragraff (c), ar ôl “6AB(7)” mewnosoder “neu 6E(4)”.

Gwybodaeth Cychwyn

I9Rhl. 9 mewn grym ar 31.10.2021 am 4.00 a.m., gweler rhl. 1(2)

Diwygiadau i Atodlen 1LL+C

10.  Ym mharagraff 2 o Atodlen 1 (gwybodaeth am deithiwr), hepgorer is-baragraffau (e) a (k)(iv).

Gwybodaeth Cychwyn

I10Rhl. 10 mewn grym ar 31.10.2021 am 4.00 a.m., gweler rhl. 1(2)

Diwygiadau i Atodlen 1CLL+C

11.—(1Mae Atodlen 1C (profi mandadol ar ôl cyrraedd Cymru) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2Ar ôl paragraff 1ZA mewnosoder—

Profion diwrnod 2: gofynion cyffredinol ar gyfer profion dyfais llif unffordd

1ZB.(1) Mae prawf diwrnod 2 yn cydymffurfio â’r paragraff hwn pan fo’r prawf yn cydymffurfio ag is-baragraff (2) a phan fo—

(a)yn brawf a ddarperir gan ddarparwr prawf cyhoeddus; neu

(b)yn brawf a ddarperir gan ddarparwr prawf preifat pan fo’r darparwr prawf preifat yn cydymffurfio â pharagraff 1ZC.

(2) Mae prawf yn cydymffurfio â’r is-baragraff hwn—

(a)pan fo’n brawf ar gyfer canfod y coronafeirws sy’n defnyddio un neu ragor o’r canlynol—

(i)swabio’r trwyn yn y cogwrn canol neu ym mlaen y ffroenau;

(ii)swabio’r tonsiliau;

(iii)poer;

(b)pan fo modd ei adnabod yn unigryw;

(c)pan fo wedi ei ddarparu yn unol â chyfarwyddiadau defnyddio gweithgynhyrchydd y prawf, gan gynnwys, yn benodol, cyfarwyddiadau o ran y defnydd targed, y defnyddiwr targed a gosodiadau’r defnydd targed; a

(d)pan fo unrhyw ddyfais a ddefnyddir at ddibenion y prawf yn gallu cael ei defnyddio yn unol â Rhan 4 o Reoliadau Dyfeisiau Meddygol 2002(3), ac eithrio yn rhinwedd rheoliad 39(2) o’r Rheoliadau hynny yn unig.

Profion diwrnod 2: gofynion darparwr prawf preifat ar gyfer profion dyfais llif unffordd

1ZC.(1) Mae darparwr prawf preifat yn cydymffurfio â’r paragraff hwn—

(a)pan fo’n cydymffurfio â gofynion paragraff 1ZA(1)(a) i (e) ac (h);

(b)pan fo wedi gwneud datganiad i’r Ysgrifennydd Gwladol ei fod yn bodloni’r safonau gofynnol ar gyfer profion a ddarperir gan y sector preifat a gyhoeddwyd ar gov.uk/guidance/day-2-lateral-flow-tests-for-international-arrivals-minimum-standards-for-providers ar 21 Hydref 2021 a bod yr Ysgrifennydd Gwladol wedi cadarnhau yn ysgrifenedig ei fod yn ystyried bod y darparwr yn bodloni’r safonau hynny;

(c)pan fo’n parhau i fodloni’r safonau gofynnol y mae’r datganiad a grybwyllir ym mharagraff (b) yn ymwneud â hwy;

(d)pan fo wedi darparu i’r Ysgrifennydd Gwladol restr o’r holl sefydliadau y mae’n gweithio gyda hwy (boed drwy is-gontract neu fel arall) i gynnal y gwasanaeth profi, gan nodi natur y gwasanaeth y mae pob sefydliad yn ei ddarparu, ac wedi diweddaru’r rhestr honno fel y bo’n briodol;

(e)pan fo’n cael yr wybodaeth sy’n ofynnol gan reoliad 6AB(5), ac os yw’n gweinyddu’r prawf i P, ei fod yn gwneud hynny heb fod yn hwyrach na diwedd yr ail ddiwrnod ar ôl y diwrnod y cyrhaeddodd P Gymru;

(f)pan fo ganddo system ar waith i wrthod canlyniadau gan ddyfeisiau a ddefnyddiwyd yn flaenorol;

(g)pan fo, bob dydd, yn hysbysu’r Ysgrifennydd Gwladol yn ysgrifenedig—

(i)am nifer y profion y mae wedi eu gwerthu ar y diwrnod hwnnw, a

(ii)mewn perthynas â phob prawf a werthwyd ar y diwrnod hwnnw—

(aa)am y dyddiad y cyrhaeddodd y person y gwerthwyd y prawf mewn cysylltiad ag ef y Deyrnas Unedig,

(bb)a yw’n brawf adwaith cadwynol polymerasau neu’n brawf dyfais llif unffordd, ac

(cc)am y cyfeirnod prawf a roddwyd i P yn unol â rheoliad 6AB(6);

(iii)mewn perthynas â phob prawf y canslwyd ei bryniant ar y diwrnod hwnnw, yr wybodaeth a nodir yn is-baragraff (ii)(aa) i (cc);

(h)os yw’n trefnu gyda pherson arall (“X”) i X gyflawni unrhyw elfen o’r un gwasanaeth profi o’r dechrau i’r diwedd ar ei ran, pan fo’r darparwr prawf yn sicrhau bod X yn cydymffurfio â’r canlynol i’r graddau y maent yn berthnasol i gyflawni’r elfen honno—

(i)paragraff 1ZA(1)(b) i (e) ac (h) fel y’i cymhwysir gan baragraff (a) o’r is-baragraff hwn;

(ii)paragraff (c) i (g) o’r is-baragraff hwn;

(iii)paragraff 2D(2) a (4).

(2) At ddibenion is-baragraff (1)(h), ystyr “un gwasanaeth profi o’r dechrau i’r diwedd” yw gwasanaeth sy’n cwmpasu unrhyw un neu ragor o’r elfennau a ganlyn pan fônt yn rhan o’r gwasanaeth a gynigir gan y darparwr prawf—

(a)derbyn yr archeb gan y person sydd i’w brofi;

(b)darparu’r prawf;

(c)casglu a phrosesu’r prawf wedi iddo gael ei gymryd;

(d)dadansoddi’r prawf;

(e)gwirio canlyniad y prawf;

(f)darparu hysbysiad o ganlyniad y prawf.

(3Yn lle paragraff (1A) rhodder—

1A.  Yr amgylchiadau a grybwyllir yn rheoliad 6AB(2)(a) yw—

(a)bod P yn cymryd prawf diwrnod 2 heb fod yn hwyrach na diwedd yr ail ddiwrnod ar ôl y diwrnod y cyrhaeddodd P Gymru, a

(b)mewn perthynas â phrawf a ddisgrifir yn rheoliad 6AB(2)(a)(ii)(bb) nad yw wedi ei weinyddu gan ddarparwr prawf, fod P yn darparu i’r darparwr prawf yr wybodaeth a ganlyn o fewn 15 munud i amser darllen y prawf fel y’i pennir gan gyfarwyddiadau defnyddio y gweithgynhyrchydd—

(i)tystiolaeth ffotograffig sy’n dangos yn glir—

(aa)y ddyfais brofi yn y fath fodd fel y gellir ei hadnabod fel un sydd wedi ei darparu gan y darparwr prawf,

(bb)cyfeirnod y prawf a roddwyd yn unol â rheoliad 6AB(6), ac

(cc)canlyniad y prawf, a

(ii)y cyfeiriad y gall P gael prawf cadarnhau ynddo yn unol â rheoliad 6E(4).

(4Ar ôl paragraff 2C mewnosoder—

Hysbysu am ganlyniadau profion: profion dyfais llif unffordd

2D.(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys i ddarparwr prawf preifat sy’n gweinyddu neu’n darparu prawf o fewn ystyr rheoliad 6AB(2)(a)(ii)(bb) i P o dan yr amgylchiadau a ddisgrifir ym mharagraff 1A.

(2) Rhaid i’r darparwr prawf preifat, o fewn 24 awr i’r digwyddiad perthnasol—

(a)hysbysu P a, phan fo’n gymwys, unrhyw berson sy’n trefnu’r prawf ar ran P, drwy e-bost, llythyr neu neges destun, am ganlyniad prawf P, neu

(b)peri bod canlyniad prawf P ar gael i P a, phan fo’n gymwys, i unrhyw berson sy’n trefnu’r prawf ar ran P, drwy borthol diogel ar y we,

yn unol ag is-baragraff (4).

(3) Ym mharagraff (2), ystyr “digwyddiad perthnasol” yw—

(a)pan weinyddodd y darparwr prawf y prawf, yr adeg y penderfynodd y darparwr prawf ar ganlyniadau’r prawf;

(b)pan na weinyddodd y darparwr prawf y prawf, yr adeg y cafodd y darparwr prawf yr wybodaeth y mae’n ofynnol ei darparu gan baragraff 1A(b).

(4) Rhaid i’r hysbysiad am ganlyniad prawf P gynnwys enw, dyddiad geni, rhif pasbort, neu gyfeirnod dogfen deithio (fel y bo’n briodol) P, enw a manylion cyswllt y darparwr prawf a chyfeirnod prawf P, a rhaid ei gyfleu mewn modd sy’n hysbysu P a oedd y prawf yn negyddol, yn bositif, neu’n amhendant.

(5Ym mharagraff 3(d), ar ôl “ystyr “un gwasanaeth profi o’r dechrau i’r diwedd””, mewnosoder “, ac eithrio ym mharagraff 1ZC(1)(h),”.

Gwybodaeth Cychwyn

I11Rhl. 11 mewn grym ar 31.10.2021 am 4.00 a.m., gweler rhl. 1(2)

Valid from 01/11/2021

Diwygiadau i Atodlen 3ALL+C

12.  Yn Atodlen 3A (gwledydd a thiriogaethau sy’n ddarostyngedig i fesurau ychwanegol) hepgorer—

Colombia

Ecuador

Gweriniaeth Dominica

Haiti

Gweriniaeth Panamá

Periw

Venezuela .

Gwybodaeth Cychwyn

I12Rhl. 12 mewn grym ar 1.11.2021 am 4.00 a.m., gweler rhl. 1(3)

RHAN 3LL+CDiwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Hysbysu) (Cymru) 2010

Diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Hysbysu) (Cymru) 2010LL+C

13.  Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Hysbysu) (Cymru) 2010(4) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

Gwybodaeth Cychwyn

I13Rhl. 13 mewn grym ar 31.10.2021 am 4.00 a.m., gweler rhl. 1(2)

Diwygiadau i reoliad 4ALL+C

14.—(1Mae rheoliad 4A (dyletswydd ar weithredwyr labordai diagnostig i hysbysu Iechyd Cyhoeddus Cymru am brofion SARS-CoV-2 neu firws y ffliw a brosesir) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2Ym mharagraff (1), ar ôl “SARS-CoV-2” mewnosoder “, ac eithrio prawf y mae rheoliad 4AB yn gymwys mewn perthynas ag ef,”.

(3Ym mharagraff (3)(a), ar ôl “SARS-CoV-2” mewnosoder “, ac eithrio prawf y mae rheoliad 4AB yn gymwys mewn perthynas ag ef,”.

Mewnosod rheoliad 4AB

(4Ar ôl rheoliad 4A mewnosoder—

Dyletswydd i hysbysu Iechyd Cyhoeddus Cymru am ganlyniadau profion dyfais llif unffordd a gymerir gan deithwyr cymwys

4AB.(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo darparwr prawf yn gweinyddu neu’n darparu prawf ar gyfer canfod SARS-CoV-2 yn unol â rheoliad 6AB(2)(a)(ii)(bb) (profion dyfais llif unffordd) o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol.

(2) Rhaid i’r darparwr prawf hysbysu Iechyd Cyhoeddus Cymru am ganlyniad y prawf yn unol â pharagraffau (3) i (5).

(3) Rhaid darparu hysbysiad mewn ysgrifen—

(a)pan weinyddodd y darparwr prawf y prawf, o fewn 24 awr i benderfynu ar ganlyniad y prawf;

(b)pan na weinyddodd y darparwr prawf y prawf, o fewn 24 awr i gael yr wybodaeth y mae’n ofynnol ei darparu gan baragraff 1A(b) o Atodlen 1C i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol.

(4) Rhaid i hysbysiad gynnwys yr wybodaeth ganlynol, i’r graddau y mae’n hysbys i’r darparwr prawf—

(a)mewn perthynas â’r person a gymerodd y prawf (“P”)—

(i)ei enw cyntaf;

(ii)ei gyfenw;

(iii)ei ryw;

(iv)ei ddyddiad geni;

(v)ei rif GIG;

(vi)ei ethnigrwydd;

(vii)ei gyfeiriad cartref (gan gynnwys y cod post);

(viii)y cyfeiriad a ddarperir i’r darparwr prawf fel y man lle y gall P gael prawf cadarnhau;

(ix)ei rif teleffon a’i gyfeiriad e-bost, pan fo canlyniad y prawf yn bositif neu’n amhenodol;

(b)pa un a yw P wedi cael brechlyn yn erbyn SARS-CoV-2 ai peidio;

(c)rhif pasbort P neu rif dogfen deithio P (fel y bo’n briodol);

(d)rhif coets, rhif hediad, neu enw llestr y cludiant y cyrhaeddodd P Gymru arno;

(e)cyfeirnod y prawf a roddwyd i P yn unol â rheoliad 6AB(6) o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol;

(f)y wlad neu’r diriogaeth yr oedd P yn teithio ohoni pan gyrhaeddodd P Gymru, ac unrhyw wlad neu diriogaeth y tramwyodd drwyddi fel rhan o’r daith honno;

(g)y dyddiad y cymerodd P y prawf;

(h)cadarnhad bod y prawf yn cydymffurfio â’r gofynion sy’n gymwys o dan y Rheoliadau Teithio Rhyngwladol a’i fod wedi ei gymryd yn unol â hwy;

(i)cadarnhad bod y prawf yn brawf dyfais llif unffordd a gymerwyd gan deithiwr rheoliad 2A o fewn ystyr y Rheoliadau Teithio Rhyngwladol;

(j)pan na weinyddodd y darparwr prawf y prawf, y dyddiad a’r amser y cafodd y darparwr prawf yr wybodaeth y mae’n ofynnol ei darparu gan baragraff 1A(b) o Atodlen 1C i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol;

(k)yr wybodaeth ganlynol ynghylch y prawf—

(i)enw’r darparwr prawf a disgrifiad o’i weithrediadau;

(ii)rhif y sbesimen;

(iii)y math o sbesimen;

(iv)dyddiad y sbesimen;

(v)y dull profi;

(vi)y canlyniad;

(vii)y dyddiad y cynhaliwyd y prawf;

(viii)enw gweithgynhyrchydd y cyfarpar profi.

(5) Pan fo P yn blentyn, neu’n berson sydd ag anabledd sy’n analluog am y rheswm hwnnw i ddarparu’r wybodaeth a nodir ym mharagraff (4)(a) i’r darparwr prawf, rhaid i’r darparwr prawf ddarparu i Iechyd Cyhoeddus Cymru, i’r graddau y mae’n hysbys i’r darparwr prawf—

(a)yr wybodaeth a nodir ym mharagraff (4)(a)(i) i (viii) mewn perthynas â P, ar ôl ei chael oddi wrth riant, gwarcheidwad neu ofalwr priodol i P (“X”); a

(b)pan fo canlyniad y prawf yn bositif neu’n amhenodol, rhif teleffon a chyfeiriad e-bost X.

(6) Mae’n dramgwydd i ddarparwr prawf fethu â chydymffurfio â’r rheoliad hwn heb esgus rhesymol.

(7) Mae darparwr prawf sy’n cyflawni tramgwydd o dan y rheoliad hwn yn agored, o’i gollfarnu’n ddiannod, i ddirwy.

(8) Yn y rheoliad hwn, mae i “anabledd”, “gofalwr”, “gwarcheidwad”, “Iechyd Cyhoeddus Cymru”, “plentyn”, “Rheoliadau Teithio Rhyngwladol” a “rhiant” yr ystyron a roddir yn rheoliad 4A.

Gwybodaeth Cychwyn

I14Rhl. 14 mewn grym ar 31.10.2021 am 4.00 a.m., gweler rhl. 1(2)

Diwygiadau i reoliad 5LL+C

15.—(1Mae rheoliad 5 (dyletswydd i ddarparu gwybodaeth i’r swyddog priodol neu Iechyd Cyhoeddus Cymru) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2Ym mharagraff (1), ar ôl “4A,” mewnosoder “4AB,”.

(3Ym mharagraff (2A), ar ôl “4A(3),” mewnosoder “4AB(4),”.

Gwybodaeth Cychwyn

I15Rhl. 15 mewn grym ar 31.10.2021 am 4.00 a.m., gweler rhl. 1(2)

Diwygiad i reoliad 7LL+C

16.  Yn rheoliad 7(1)(a) (cyfathrebiadau electronig), ar ôl “4A(1),” mewnosoder “4AB,”.

Gwybodaeth Cychwyn

I16Rhl. 16 mewn grym ar 31.10.2021 am 4.00 a.m., gweler rhl. 1(2)

RHAN 4LL+CDiwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd ar gyfer Personau sy’n Teithio i Gymru etc.) 2020

Diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd ar gyfer Personau sy’n Teithio i Gymru etc.) 2020LL+C

17.  Yn lle rheoliad 3A(4)(a) (darparu gwybodaeth cyn i daith ymadael) o Reoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd ar gyfer Personau sy’n Teithio i Gymru etc.) 2020(5) rhodder—

(a)pan ddarperir yr wybodaeth drwy neges destun neu hysbysiad gwthio, testun sydd—

(i)yn hysbysu P am y gofyniad i ddarparu gwybodaeth,

(ii)yn hysbysu P bod cosbau yn gymwys am fethu â chydymffurfio â’r gofyniad i ddarparu gwybodaeth,

(iii)yn cynnwys dolen i https://www.gov.uk/provide-journey-contact-details-before-travel-uk,

(iv)yn hysbysu P am y gofyniad i feddu ar hysbysiad o ganlyniad prawf negyddol yn unol â rheoliad 6A o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol, a

(v)yn hysbysu P am y gofyniad i drefnu profion cyn cyrraedd Cymru yn unol â rheoliad 6AB o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol;.

Gwybodaeth Cychwyn

I17Rhl. 17 mewn grym ar 31.10.2021 am 4.00 a.m., gweler rhl. 1(2)

Valid from 01/11/2021

RHAN 5LL+CDiwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020

Diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020LL+C

18.  Yn rheoliad 16A(12) (mesurau penodol sy’n gymwys i fangreoedd lle y darperir cerddoriaeth ar gyfer dawnsio neu lle y cynhelir digwyddiadau penodedig) o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020(6), yn y lleoedd priodol mewnosoder—

Angola

Anguilla

Ardaloedd Safleoedd Sofran Akrotiri a Dhekelia ar Ynys Cyprus

Yr Ariannin

Armenia

Azerbaijan

Belize

Bermuda

Botswana

Cambodia

Costa Rica

De Georgia ac Ynysoedd Sandwich y De

Djibouti

Eswatini

Gibraltar

Guernsey

Guyana

Honduras

Jersey

Lesotho

Libanus

Madagascar

Mauritius

Mongolia

Montserrat

Nepal

Panama

Periw

Rwanda

Seychelles

Sierra Leone

Sri Lanka

St Helena, Ascension a Tristan da Cunha

Suriname

Tanzania

Tiriogaeth Brydeinig yr Antarctig

Tiriogaeth Brydeinig Cefnfor India

Tiriogaethau Meddianedig Palesteina

Trinidad a Tobago

Tunisia

Uganda

Uruguay

Ynys Manaw

Ynysoedd Cayman

Ynysoedd Falkland

Ynysoedd Pitcairn, Henderson, Ducie ac Oeno

Ynysoedd Prydeinig y Wyryf

Ynysoedd Turks a Caicos.

Gwybodaeth Cychwyn

I18Rhl. 18 mewn grym ar 1.11.2021 am 4.00 a.m., gweler rhl. 1(3)

Eluned Morgan

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

Am 4.25 p.m. ar 29 Hydref 2021

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/574 (Cy. 132)) (“y Rheoliadau Teithio Rhyngwladol”), Rheoliadau Diogelu Iechyd (Hysbysu) (Cymru) 2010 (O.S. 2010/1546 (Cy. 144)) (“y Rheoliadau Hysbysu”), Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd ar gyfer Personau sy’n Teithio i Gymru etc.) 2020 (O.S. 2020/595 (Cy. 136)) (“y Rheoliadau Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd”) a Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/1609 (Cy. 335)) (“y Rheoliadau Cyfyngiadau”).

Mae Rhan 2 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol.

Mae’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol yn gosod gofynion ar bersonau sy’n dod i Gymru ar ôl bod dramor. Maent yn cynnwys gofynion i archebu a chymryd profion am y coronafeirws yn unol â’r Rheoliadau hynny. Mae’r gofynion a osodir gan y Rheoliadau Teithio Rhyngwladol yn ddarostyngedig i eithriadau, ac mae categorïau penodol o berson wedi eu hesemptio rhag gorfod cydymffurfio. Mae’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol hefyd yn gwneud darpariaethau penodol ar gyfer “teithwyr rheoliad 2A”; gan gynnwys unigolion sydd wedi eu brechu’n llawn mewn gwledydd a thiriogaethau rhagnodedig.

Mae rheoliad 3 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio rheoliad 2A (esemptiadau ar gyfer teithwyr sydd wedi eu brechu ac eraill) o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol, gan estyn y gydnabyddiaeth o frechiadau i ragor o wledydd a thiriogaethau.

Mae rheoliad 4 yn diwygio rheoliad 6AB (gofyniad i archebu a chymryd profion) o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol er mwyn galluogi teithwyr rheoliad 2A i ddefnyddio profion dyfais llif unffordd (“LFD”) at ddibenion y Rheoliadau.

Mae rheoliad 6 yn cynnwys darpariaeth sy’n ei gwneud yn ofynnol i berson gymryd prawf adwaith cadwynol polymerasau (“PCR”) cadarnhau pan fo’n cael canlyniad prawf positif ar brawf LFD, yn ogystal â chynnwys darpariaeth ar ofynion ynysu yn dilyn canlyniadau positif.

Mae rheoliad 8 yn cyflwyno trosedd am fethu â chymryd prawf PCR cadarnhau.

Mae rheoliadau 5, 7 i 9, ac 11 yn gwneud darpariaeth bellach mewn perthynas â chyflwyno profion LFD.

Mae rheoliad 10 yn diwygio Atodlen 1 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol i ddileu’r gofyniad i deithwyr restru eu rhifau sedd ar Ffurflenni Lleoli Teithwyr.

Mae personau nad ydynt yn esempt wedi eu gwahardd rhag dod i Gymru pan fônt wedi bod mewn gwlad neu diriogaeth a restrir yn Atodlen 3A (gwledydd a thiriogaethau sy’n ddarostyngedig i fesurau ychwanegol) i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol o fewn 10 niwrnod i gyrraedd, yn unol â rheoliad 12E (mesurau ychwanegol sy’n gymwys i bersonau sy’n teithio o wlad neu diriogaeth a restrir yn Atodlen 3A) o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol. Mae rheoliad 12 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio Atodlen 3A er mwyn dileu amrywiol wledydd o’r rhestr o wledydd neu diriogaethau y mae rheoliad 12E yn gymwys iddynt.

Mae Rhan 3 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio’r Rheoliadau Hysbysu, o ganlyniad i gyflwyno profion LFD yn y Rheoliadau Teithio Rhyngwladol i sicrhau yr hysbysir Iechyd Cyhoeddus Cymru am ganlyniadau profion.

Mae’r Rheoliadau Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd yn gosod gofynion ar weithredwyr gwasanaethau teithwyr rhyngwladol sy’n dod o’r tu allan i’r ardal deithio gyffredin i faes awyr, maes hofrenyddion neu borthladd môr yng Nghymru i ddarparu gwybodaeth iechyd y cyhoedd benodedig i deithwyr. Mae Rhan 4 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio’r Rheoliadau Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd, o ganlyniad i’r diwygiadau o ran Ffurflenni Lleoli Teithwyr a wneir i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol yn rheoliad 10.

Mae Rhan 5 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio rheoliad 16A(12) o’r Rheoliadau Cyfyngiadau, gan estyn ymhellach y rhestr o wledydd a thiriogaethau yn y paragraff hwnnw fel bod tystiolaeth o frechu yn y gwledydd hynny â brechlynnau sydd wedi eu hawdurdodi yn y Deyrnas Unedig hefyd yn dderbyniol at ddibenion yr hyn a adwaenir yn gyffredin fel y pàs COVID. Mae angen y diwygiad er mwyn cynnal cysondeb â rheoliad 2A o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ni luniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

(1)

1984 p. 22. Mewnosodwyd Rhan 2A gan adran 129 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2008 (p. 14). Mae’r swyddogaeth o wneud rheoliadau o dan Ran 2A wedi ei rhoi i “the appropriate Minister”. O dan adran 45T(6) o Ddeddf 1984 y Gweinidog priodol, o ran Cymru, yw Gweinidogion Cymru.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Point in Time: This becomes available after navigating to view revised legislation as it stood at a certain point in time via Advanced Features > Show Timeline of Changes or via a point in time advanced search. A point in time version is only available in English.

Close

See additional information alongside the content

Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

Timeline of Changes

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources