Search Legislation

Gorchymyn Sir y Fflint (Trefniadau Etholiadol) 2021

Newidiadau dros amser i: Gorchymyn Sir y Fflint (Trefniadau Etholiadol) 2021

 Help about opening options

Fersiwn wedi'i ddisodliFersiwn wedi ei ddisodli: 02/11/2021

Alternative versions:

Statws

Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 01/10/2021.

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Gorchymyn Sir y Fflint (Trefniadau Etholiadol) 2021. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.

Offerynnau Statudol Cymru

2021 Rhif 1215 (Cy. 304)

Llywodraeth Leol, Cymru

Gorchymyn Sir y Fflint (Trefniadau Etholiadol) 2021

Gwnaed

1 Tachwedd 2021

Yn dod i rym yn unol ag erthygl 1(2) a (3)

Mae Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru(1), yn unol ag adran 36(5) o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013(2) (“Deddf 2013”), wedi cyflwyno i Weinidogion Cymru adroddiad dyddiedig Mehefin 2020 yn cynnwys ei argymhellion ar gyfer newid a manylion ei adolygiad o’r trefniadau etholiadol ar gyfer Sir y Fflint.

Mae Gweinidogion Cymru, ar ôl ystyried y materion y cyfeirir atynt ac a nodir yn adran 37(2)(a) ac (c) o Ddeddf 2013, wedi penderfynu rhoi effaith i’r argymhellion hynny gydag addasiadau.

Yn unol ag adran 37(3) o Ddeddf 2013, mae mwy na 6 wythnos wedi mynd heibio ers i’r argymhellion hynny gael eu cyflwyno i Weinidogion Cymru.

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer eu pwerau a roddir gan adran 37(1) o Ddeddf 2013.

Enwi a chychwynLL+C

1.—(1Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Sir y Fflint (Trefniadau Etholiadol) 2021.

(2At unrhyw ddiben a nodir yn rheoliad 4(1) o’r Rheoliadau, daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Hydref 2021.

(3At bob diben arall, daw’r Gorchymyn hwn i rym ar y diwrnod arferol ar gyfer ethol cynghorwyr yn 2022(3).

Gwybodaeth Cychwyn

I1Ergl. 1 mewn grym ar 1.10.2021 at ddibenion penodedig, gweler ergl. 1(2)(3)

DehongliLL+C

2.  Yn y Gorchymyn hwn—

ystyr “y Rheoliadau” (“the Regulations”) yw Rheoliadau Newidiadau i Ardaloedd Llywodraeth Leol 1976(4);

ystyr “ward etholiadol” (“electoral ward”) yw unrhyw ardal yr etholir aelodau drosti i Gyngor Sir y Fflint;

mae unrhyw gyfeiriad at fap yn gyfeiriad at un o’r 10 map a farciwyd “Map ar gyfer Gorchymyn Sir y Fflint (Trefniadau Etholiadol) 2021” a adneuwyd yn unol â rheoliad 5 o’r Rheoliadau, a labelwyd “1” i “10”, ac mae cyfeiriad at fap â rhif yn gyfeiriad at y map sy’n dwyn y rhif hwnnw;

pan ddangosir bod ffin ar fap yn rhedeg ar hyd ffordd, rheilffordd, troetffordd, cwrs dŵr neu nodwedd ddaearyddol debyg, mae i’w thrin fel un sy’n rhedeg ar hyd llinell ganol y nodwedd;

mae i eiriau ac ymadroddion a ddefnyddir yn y Gorchymyn hwn yr un ystyr ag sydd iddynt yn Rhan 3 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013, ac eithrio i’r graddau yr ymddengys bwriad i’r gwrthwyneb.

Gwybodaeth Cychwyn

I2Ergl. 2 mewn grym ar 1.10.2021 at ddibenion penodedig, gweler ergl. 1(2)(3)

Trefniadau etholiadol ar gyfer Sir y FflintLL+C

3.—(1Mae wardiau etholiadol Sir y Fflint, fel y maent yn bodoli yn union cyn y diwrnod arferol ar gyfer ethol cynghorwyr yn 2022, wedi eu diddymu.

(2Mae Sir y Fflint wedi ei rhannu’n 45 o wardiau etholiadol, a phob un ohonynt yn dwyn yr enw Saesneg a restrir yng ngholofn 1 a’r enw Cymraeg a restrir yng ngholofn 2 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.

(3Mae pob ward etholiadol yn cynnwys yr ardaloedd a bennir mewn perthynas â’r ward etholiadol honno yng ngholofn 3 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.

(4Nifer yr aelodau o’r cyngor sydd i’w hethol dros bob ward etholiadol yw’r nifer a bennir yng ngholofn 4 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.

(5Mae’r darpariaethau yn y Gorchymyn hwn yn cymryd blaenoriaeth dros unrhyw ddarpariaeth wrthdrawiadol mewn unrhyw offeryn statudol blaenorol a wnaed o dan adran 58(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972(5).

Gwybodaeth Cychwyn

I3Ergl. 3 mewn grym ar 1.10.2021 at ddibenion penodedig, gweler ergl. 1(2)(3)

Tref Bwcle: newidiadau i wardiau cymunedolLL+C

4.  Yn nhref Bwcle—

(a)mae’r rhan o ward Pentrobin a ddangosir â llinellau ar Fap 1 wedi ei throsglwyddo i ward Dwyrain Bistre;

(b)mae’r rhan o ward Mynydd a ddangosir â llinellau ar Fap 2 wedi ei throsglwyddo i ward Pentrobin.

Gwybodaeth Cychwyn

I4Ergl. 4 mewn grym ar 1.10.2021 at ddibenion penodedig, gweler ergl. 1(2)(3)

Tref Bwcle: newidiadau canlyniadol i drefniadau etholiadolLL+C

5.  Yn nhref Bwcle—

(a)nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Mynydd yw 3;

(b)nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Pentrobin yw 7.

Gwybodaeth Cychwyn

I5Ergl. 5 mewn grym ar 1.10.2021 at ddibenion penodedig, gweler ergl. 1(2)(3)

Tref y Fflint: newidiadau i wardiau cymunedolLL+C

6.  Yn nhref y Fflint—

(a)mae’r rhan o ward Oakenholt a ddangosir â llinellau ar Fap 3 wedi ei throsglwyddo i ward y Castell;

(b)mae’r rhan o ward Oakenholt a ddangosir â llinellau ar Fap 4 wedi ei throsglwyddo i ward Trelawny.

Gwybodaeth Cychwyn

I6Ergl. 6 mewn grym ar 1.10.2021 at ddibenion penodedig, gweler ergl. 1(2)(3)

Tref y Fflint: newidiadau canlyniadol i drefniadau etholiadolLL+C

7.  Yn nhref y Fflint—

(a)nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Oakenholt yw 3;

(b)nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Trelawny yw 4.

Gwybodaeth Cychwyn

I7Ergl. 7 mewn grym ar 1.10.2021 at ddibenion penodedig, gweler ergl. 1(2)(3)

Tref Cei Connah: newidiadau i wardiau cymunedolLL+C

8.  Yn nhref Cei Connah—

(a)mae’r rhan o ward De Cei Connah a ddangosir â llinellau ar Fap 5 wedi ei throsglwyddo i ward Canol Cei Connah;

(b)mae’r rhan o ward Golftyn a ddangosir â chroeslinellau ar Fap 5 wedi ei throsglwyddo i ward Canol Cei Connah.

Gwybodaeth Cychwyn

I8Ergl. 8 mewn grym ar 1.10.2021 at ddibenion penodedig, gweler ergl. 1(2)(3)

Tref Cei Connah: newidiadau canlyniadol i drefniadau etholiadolLL+C

9.  Yn nhref Cei Connah—

(a)nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Canol Cei Connah yw 5;

(b)nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward De Cei Connah yw 6.

Gwybodaeth Cychwyn

I9Ergl. 9 mewn grym ar 1.10.2021 at ddibenion penodedig, gweler ergl. 1(2)(3)

Cymuned yr Wyddgrug: newidiadau i wardiau cymunedolLL+C

10.  Yng nghymuned yr Wyddgrug—

(a)mae’r rhan o ward Gorllewin yr Wyddgrug a ddangosir â llinellau ar Fap 6 wedi ei throsglwyddo i ward Dwyrain yr Wyddgrug;

(b)mae’r rhan o ward Broncoed a ddangosir â llinellau ar Fap 7 wedi ei throsglwyddo i ward y De;

(c)mae’r rhan o ward De’r Wyddgrug a ddangosir â llinellau ar Fap 8 wedi ei throsglwyddo i ward Gorllewin yr Wyddgrug.

Gwybodaeth Cychwyn

I10Ergl. 10 mewn grym ar 1.10.2021 at ddibenion penodedig, gweler ergl. 1(2)(3)

Cymuned Penarlâg: newidiadau i wardiau cymunedol a diddymu ward gymunedol PenarlâgLL+C

11.  Mae ward gymunedol Penarlâg, fel y mae’n bodoli yn union cyn y diwrnod arferol ar gyfer ethol cynghorwyr yn 2022, wedi ei diddymu ac—

(a)mae’r rhan o’r ward honno a ddangosir â llinellau ar Fap 9 wedi ei throsglwyddo i ward Mancot;

(b)mae’r rhan o’r ward honno a ddangosir â llinellau ar Fap 10 wedi ei throsglwyddo i ward Aston.

Gwybodaeth Cychwyn

I11Ergl. 11 mewn grym ar 1.10.2021 at ddibenion penodedig, gweler ergl. 1(2)(3)

Cymuned Penarlâg: newidiadau canlyniadol i drefniadau etholiadolLL+C

12.  Yng nghymuned Penarlâg—

(a)nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Aston yw 7;

(b)nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Mancot yw 7.

Gwybodaeth Cychwyn

I12Ergl. 12 mewn grym ar 1.10.2021 at ddibenion penodedig, gweler ergl. 1(2)(3)

Rebecca Evans

Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru

1 Tachwedd 2021

Erthygl 3

YR ATODLENLL+CENWAU AC ARDALOEDD WARDIAU ETHOLIADOL A NIFER AELODAU’R CYNGOR

Gwybodaeth Cychwyn

I13Atod. mewn grym ar 1.10.2021 at ddibenion penodedig, gweler ergl. 1(2)(3)

Tabl

Colofn (1)Colofn (2)Colofn (3)Colofn (4)
Enw Saesneg y ward etholiadolEnw Cymraeg y ward etholiadolArdal y ward etholiadolNifer aelodau’r cyngor
Argoed and New BrightonArgoed a New BrightonCymuned Argoed2
BagilltBagilltTref Bagillt2
Broughton North EastGogledd-ddwyrain BrychdynWard y Gogledd-ddwyrain o gymuned Brychdyn a Bretton1
Broughton SouthDe BrychdynWard y De o gymuned Brychdyn a Bretton2
Brynford and HalkynBrynffordd a HelygainCymunedau Brynffordd a Helygain2
Buckley: Bistre EastBwcle: Dwyrain BistreWard Dwyrain Bistre o dref Bwcle2
Buckley: Bistre WestBwcle: Gorllewin BistreWard Gorllewin Bistre o dref Bwcle2
Buckley: MountainBwcle: MynyddWard Bwcle: Mynydd o dref Bwcle1
Buckley: PentrobinBwcle: PentrobinWard Pentrobin o dref Bwcle2
CaergwrleCaergwrleWard Caergwrle o gymuned yr Hôb1
CaerwysCaerwysCymuned Caerwys a chymuned Ysceifiog1
CilcainCilcainCymunedau Cilcain a Nannerch1
Connah’s Quay CentralCanol Cei ConnahWard Canol Cei Connah o dref Cei Connah2
Connah’s Quay: GolftynCei Connah: GolftynWard Golftyn o dref Cei Connah2
Connah’s Quay SouthDe Cei ConnahWard De Cei Connah o dref Cei Connah2
Connah’s Quay: WepreCei Connah: GwepraWard Gwepra o dref Cei Connah1
Flint: CastleY Fflint: Y CastellWard y Castell o dref y Fflint1
Flint: Coleshill and TrelawnyY Fflint: Cynswllt a ThrelawnyWardiau Cynswllt a Threlawny o dref y Fflint3
Flint: OakenholtY Fflint: OakenholtWard Oakenholt o dref y Fflint1
GreenfieldMaes-glasWard Maes-glas o dref Treffynnon1
Gwernaffield and GwernymynyddY Waun a GwernymynyddCymunedau’r Waun a Phant-y-mwyn, Gwernymynydd a Nercwys2
Hawarden: AstonPenarlâg: AstonWard Aston o gymuned Penarlâg2
Hawarden: EwloePenarlâg: EwloeWard Ewloe o gymuned Penarlâg2
Hawarden: MancotPenarlâg: MancotWard Mancot o gymuned Penarlâg2
Higher KinnertonKinnerton UchafCymuned Kinnerton Uchaf1
Holywell CentralCanol TreffynnonWard Canol Treffynnon o dref Treffynnon1
Holywell EastDwyrain TreffynnonWard Dwyrain Treffynnon o dref Treffynnon1
Holywell WestGorllewin TreffynnonWard Gorllewin Treffynnon o dref Treffynnon1
HopeYr HôbWard yr Hôb o gymuned yr Hôb1
LeeswoodCoed-llaiCymuned Coed-llai1
Llanasa and TrelawnydLlanasa a ThrelawnydCymunedau Llanasa, a Gwaunysgor a Threlawnyd2
LlanfynyddLlanfynyddCymuned Llanfynydd1
Mold: BroncoedYr Wyddgrug: BroncoedWard Broncoed o gymuned yr Wyddgrug1
Mold EastDwyrain yr WyddgrugWard Dwyrain yr Wyddgrug o gymuned yr Wyddgrug1
Mold SouthDe’r WyddgrugWard De’r Wyddgrug o gymuned yr Wyddgrug1
Mold WestGorllewin yr WyddgrugWard Gorllewin yr Wyddgrug o gymuned yr Wyddgrug1
MostynMostynCymuned Mostyn1
NorthopLlaneurgainCymunedau Llaneurgain a Northop Hall2
Pen-y-fforddPen-y-fforddCymuned Pen-y-ffordd2
Saltney FerrySaltney FerryTref Saltney2
Queensferry and SealandQueensferry a SealandCymunedau Queensferry a Sealand2
Shotton East and Shotton HigherDwyrain Shotton a Shotton UchafWard Dwyrain Shotton a ward Shotton Uchaf o gymuned Shotton2
Shotton WestGorllewin ShottonWard Gorllewin Shotton o gymuned Shotton1
TreuddynTreuddynCymuned Treuddyn1
WhitfordChwitfforddCymuned Chwitffordd1

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn yn gweithredu argymhellion Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru (“y Comisiwn”), a roddodd adroddiad ym mis Mehefin 2020 ar ei adolygiad o drefniadau etholiadol Sir y Fflint. Roedd Adroddiad y Comisiwn yn cynnig lleihau nifer y wardiau etholiadol o 57 i 42, a lleihau nifer y cynghorwyr o 70 i 66.

Mae’r Gorchymyn hwn yn gweithredu argymhellion y Comisiwn, gydag addasiadau.

Mae erthygl 3 o’r Gorchymyn hwn yn diddymu’r trefniadau etholiadol presennol ar gyfer Sir y Fflint ac yn cyflwyno’r Atodlen, sy’n nodi’r trefniadau etholiadol newydd ar gyfer Sir y Fflint.

Mae’r Gorchymyn hwn hefyd yn gweithredu argymhellion ynghylch newidiadau i wardiau cymunedol a threfniadau etholiadol ar gyfer rhai cymunedau yn Sir y Fflint.

Mae erthygl 4 yn gwneud newidiadau i’r ffiniau rhwng wardiau cymunedol Pentrobin, Dwyrain Bistre a Mynydd yn nhref Bwcle. Mae erthygl 5 yn nodi nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros wardiau Mynydd a Phentrobin o dref Bwcle.

Mae erthygl 6 yn gwneud newidiadau i’r ffiniau rhwng wardiau cymunedol Oakenholt, y Castell a Threlawny yn nhref y Fflint. Mae erthygl 7 yn nodi nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros wardiau Oakenholt a Threlawny o dref y Fflint.

Mae erthygl 8 yn gwneud newidiadau i’r ffiniau rhwng wardiau cymunedol De Cei Connah, Canol Cei Connah a Golftyn yn nhref Cei Connah. Mae erthygl 9 yn nodi nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros wardiau Canol Cei Connah a De Cei Connah yn nhref Cei Connah.

Mae erthygl 10 yn gwneud newidiadau i’r ffiniau rhwng wardiau cymunedol Gorllewin yr Wyddgrug, Dwyrain yr Wyddgrug, Broncoed a De’r Wyddgrug yng nghymuned yr Wyddgrug.

Mae erthygl 11 yn diddymu ward gymunedol Penarlâg yng nghymuned Penarlâg ac yn trosglwyddo rhannau o’r ward honno i wardiau Mancot ac Aston o gymuned Penarlâg. Mae erthygl 12 yn nodi nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros wardiau Aston a Mancot o gymuned Penarlâg.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn.

Mae printiau o’r mapiau a labelwyd “1” i “10” y mae’r Gorchymyn hwn yn ymwneud â hwy wedi eu hadneuo yn swyddfeydd Llywodraeth Cymru ym Mharc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ (yr Is-adran Democratiaeth Llywodraeth Leol), a chyda Chyngor Sir y Fflint. Mae’r printiau sydd wedi eu hadneuo gyda Chyngor Sir y Fflint yn agored i gael eu harchwilio gan unrhyw un y bydd darpariaethau’r Gorchymyn hwn yn effeithio arnynt.

(1)

Sefydlwyd y Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru gan adran 53 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (p. 70) (“Deddf 1972”), ac Atodlen 8 iddi. Diddymwyd adran 53 ac Atodlen 8 gan adran 73(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013 (dccc 4) (“Deddf 2013”), ac Atodlen 2 iddi. Mae Deddf 2013 yn ailenwi’r Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru yn Gomisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru (gweler adran 2).

(3)

Mae Gorchymyn Awdurdodau Lleol (Newid Blynyddoedd Etholiadau Cyffredin) (Cymru) 2019 (O.S. 2019/1269 (Cy. 220)) yn diwygio adran 26(1) o Ddeddf 1972 i ddarparu y bydd etholiadau cyffredin cynghorwyr awdurdodau lleol yn cael eu cynnal yn y flwyddyn 2022 yn hytrach na 2021.

(4)

O.S. 1976/246. Mae adran 74(3) o Ddeddf 2013 yn darparu bod y Rheoliadau hyn yn parhau i gael effaith mewn perthynas â gorchmynion a wnaed o dan Ran 3 o Ddeddf 2013, fel pe bai’r gorchmynion hynny wedi eu gwneud o dan Ran 4 o Ddeddf 1972.

(5)

1972 p. 70; diddymwyd adran 58 o Ddeddf 1972 gan adran 73(2) o Ddeddf 2013 ac Atodlen 2 iddi, yn ddarostyngedig i ddarpariaethau arbed a bennir yn adran 74 o Ddeddf 2013.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Point in Time: This becomes available after navigating to view revised legislation as it stood at a certain point in time via Advanced Features > Show Timeline of Changes or via a point in time advanced search. A point in time version is only available in English.

Close

See additional information alongside the content

Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

Timeline of Changes

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources