Gorchymyn Sir Fynwy (Cymunedau) 2021

Enwi a chychwyn

1.—(1Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Sir Fynwy (Cymunedau) 2021.

(2At unrhyw ddiben a nodir yn rheoliad 4(1) o’r Rheoliadau, daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 8 Tachwedd 2021.

(3At bob diben arall, daw’r Gorchymyn hwn i rym am 23:59 o’r gloch ar y diwrnod cyn y diwrnod arferol ar gyfer ethol cynghorwyr yn 2022(1).

(1)

Mae Gorchymyn Awdurdodau Lleol (Newid Blynyddoedd Etholiadau Cyffredin) (Cymru) 2019 (O.S. 2019/1269 (Cy. 220)) yn diwygio adran 26(1) o Ddeddf 1972 i ddarparu y bydd etholiadau cyffredin cynghorwyr awdurdodau lleol yn cael eu cynnal yn y flwyddyn 2022 yn hytrach na 2021.