Gorchymyn Sir Fynwy (Cymunedau) 2021

Offerynnau Statudol Cymru

2021 Rhif 1227 (Cy. 309)

Llywodraeth Leol, Cymru

Gorchymyn Sir Fynwy (Cymunedau) 2021

Gwnaed

2 Tachwedd 2021

Yn dod i rym yn unol ag erthygl 1(2) a (3)

Mae Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru(1), yn unol ag adrannau 54(1) a 58(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972(2) (“Deddf 1972”), wedi cyflwyno i Weinidogion Cymru adroddiad dyddiedig Ionawr 2019 yn cynnwys ei argymhellion ar gyfer newid a manylion adolygiad o’r trefniadau cymunedol yn Sir Fynwy a gynhaliwyd gan Gyngor Sir Fynwy.

Mae Gweinidogion Cymru wedi penderfynu rhoi effaith i argymhellion y Comisiwn heb addasiad.

Yn unol ag adran 58(2) o Ddeddf 1972, mae mwy na 6 wythnos wedi mynd heibio ers i’r argymhellion hynny gael eu cyflwyno i Weinidogion Cymru.

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 58(2), 67(4) a (5) o Ddeddf 1972(3), ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy, i’r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru(4).

(1)

Sefydlwyd y Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru gan adran 53 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (p. 70) (“Deddf 1972”), ac Atodlen 8 iddi. Diddymwyd adran 53 ac Atodlen 8 gan adran 73(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013 (dccc 4) (“Deddf 2013”) ac Atodlen 2 iddi. Mae Deddf 2013 yn ailenwi’r Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru yn Gomisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru (gweler adran 2).

(2)

1972 p. 70. Diddymwyd adrannau 54 a 58 o Ddeddf 1972 gan adran 73 o Ddeddf 2013, ac Atodlen 2 iddi, ond fe’u harbedwyd gan adran 74 o Ddeddf 2013 mewn perthynas ag adolygiad a oedd yn cael ei gynnal o dan Ddeddf 1972 pan ddaeth Deddf 2013 i rym.

(3)

Diddymwyd adran 67 o Ddeddf 1972 gan adran 73 o Ddeddf 2013, ac Atodlen 2 iddi, ond fe’i harbedwyd gan adran 74 o Ddeddf 2013 mewn perthynas ag adolygiad a oedd yn cael ei gynnal o dan Ddeddf 1972 pan ddaeth Deddf 2013 i rym.

(4)

Trosglwyddwyd pwerau’r Ysgrifennydd Gwladol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac maent bellach wedi eu breinio yng Ngweinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (2006 p. 32).