Search Legislation

Gorchymyn Sir y Fflint (Trefniadau Etholiadol) (Rhif 2) 2021

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Enwi, cychwyn a dirymu

1.—(1Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Sir y Fflint (Trefniadau Etholiadol) (Rhif 2) 2021.

(2At unrhyw ddiben a nodir yn rheoliad 4(1) o’r Rheoliadau, daw’r Gorchymyn hwn i rym drennydd y diwrnod y’i gwneir.

(3At bob diben arall, daw’r Gorchymyn hwn i rym ar y diwrnod arferol ar gyfer ethol cynghorwyr yn 2022(1).

(4Mae Gorchymyn Sir y Fflint (Trefniadau Etholiadol) 2021(2) wedi ei ddirymu.

Dehongli

2.  Yn y Gorchymyn hwn—

ystyr “y Rheoliadau” (“the Regulations”) yw Rheoliadau Newidiadau i Ardaloedd Llywodraeth Leol 1976(3);

ystyr “ward etholiadol” (“electoral ward”) yw unrhyw ardal yr etholir aelodau drosti i Gyngor Sir y Fflint;

mae unrhyw gyfeiriad at fap yn gyfeiriad at un o’r 10 map a farciwyd “Map ar gyfer Gorchymyn Sir y Fflint (Trefniadau Etholiadol) (Rhif 2) 2021” a adneuwyd yn unol â rheoliad 5 o’r Rheoliadau, a labelwyd “1” i “10”, ac mae cyfeiriad at fap â rhif yn gyfeiriad at y map sy’n dwyn y rhif hwnnw;

pan ddangosir bod ffin ar fap yn rhedeg ar hyd ffordd, rheilffordd, troetffordd, cwrs dŵr neu nodwedd ddaearyddol debyg, mae i’w thrin fel un sy’n rhedeg ar hyd llinell ganol y nodwedd;

mae i eiriau ac ymadroddion a ddefnyddir yn y Gorchymyn hwn yr un ystyr ag sydd iddynt yn Rhan 3 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013, ac eithrio i’r graddau yr ymddengys bwriad i’r gwrthwyneb.

Trefniadau etholiadol ar gyfer Sir y Fflint

3.—(1Mae wardiau etholiadol Sir y Fflint, fel y maent yn bodoli yn union cyn y diwrnod arferol ar gyfer ethol cynghorwyr yn 2022, wedi eu diddymu.

(2Mae Sir y Fflint wedi ei rhannu’n 45 o wardiau etholiadol, a phob un ohonynt yn dwyn yr enw Saesneg a restrir yng ngholofn 1 a’r enw Cymraeg a restrir yng ngholofn 2 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.

(3Mae pob ward etholiadol yn cynnwys yr ardaloedd a bennir mewn perthynas â’r ward etholiadol honno yng ngholofn 3 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.

(4Nifer yr aelodau o’r cyngor sydd i’w hethol dros bob ward etholiadol yw’r nifer a bennir yng ngholofn 4 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.

(5Mae’r darpariaethau yn y Gorchymyn hwn yn cymryd blaenoriaeth dros unrhyw ddarpariaeth wrthdrawiadol mewn unrhyw offeryn statudol blaenorol a wnaed o dan adran 58(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972(4).

Tref Bwcle: newidiadau i wardiau cymunedol

4.  Yn nhref Bwcle—

(a)mae’r rhan o ward Pentrobin a ddangosir â llinellau ar Fap 1 wedi ei throsglwyddo i ward Dwyrain Bistre;

(b)mae’r rhan o ward Mynydd a ddangosir â llinellau ar Fap 2 wedi ei throsglwyddo i ward Pentrobin.

Tref Bwcle: newidiadau canlyniadol i drefniadau etholiadol

5.  Yn nhref Bwcle—

(a)nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Mynydd yw 3;

(b)nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Pentrobin yw 7.

Tref y Fflint: newidiadau i wardiau cymunedol

6.  Yn nhref y Fflint—

(a)mae’r rhan o ward Oakenholt a ddangosir â llinellau ar Fap 3 wedi ei throsglwyddo i ward y Castell;

(b)mae’r rhan o ward Oakenholt a ddangosir â llinellau ar Fap 4 wedi ei throsglwyddo i ward Trelawny.

Tref y Fflint: newidiadau canlyniadol i drefniadau etholiadol

7.  Yn nhref y Fflint—

(a)nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Oakenholt yw 3;

(b)nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Trelawny yw 4.

Tref Cei Connah: newidiadau i wardiau cymunedol

8.  Yn nhref Cei Connah—

(a)mae’r rhan o ward De Cei Connah a ddangosir â llinellau ar Fap 5 wedi ei throsglwyddo i ward Canol Cei Connah;

(b)mae’r rhan o ward Golftyn a ddangosir â chroeslinellau ar Fap 5 wedi ei throsglwyddo i ward Canol Cei Connah.

Tref Cei Connah: newidiadau canlyniadol i drefniadau etholiadol

9.  Yn nhref Cei Connah—

(a)nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Canol Cei Connah yw 5;

(b)nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward De Cei Connah yw 6.

Cymuned yr Wyddgrug: newidiadau i wardiau cymunedol

10.  Yng nghymuned yr Wyddgrug—

(a)mae’r rhan o ward Gorllewin yr Wyddgrug a ddangosir â llinellau ar Fap 6 wedi ei throsglwyddo i ward Dwyrain yr Wyddgrug;

(b)mae’r rhan o ward Broncoed a ddangosir â llinellau ar Fap 7 wedi ei throsglwyddo i ward y De;

(c)mae’r rhan o ward De’r Wyddgrug a ddangosir â llinellau ar Fap 8 wedi ei throsglwyddo i ward Gorllewin yr Wyddgrug.

Cymuned Penarlâg: newidiadau i wardiau cymunedol a diddymu ward gymunedol Penarlâg

11.  Mae ward gymunedol Penarlâg, fel y mae’n bodoli yn union cyn y diwrnod arferol ar gyfer ethol cynghorwyr yn 2022, wedi ei diddymu ac—

(a)mae’r rhan o’r ward honno a ddangosir â llinellau ar Fap 9 wedi ei throsglwyddo i ward Mancot;

(b)mae’r rhan o’r ward honno a ddangosir â llinellau ar Fap 10 wedi ei throsglwyddo i ward Aston.

Cymuned Penarlâg: newidiadau canlyniadol i drefniadau etholiadol

12.  Yng nghymuned Penarlâg—

(a)nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Aston yw 7;

(b)nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Mancot yw 7.

Rebecca Evans

Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru

2 Tachwedd 2021

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources