Search Legislation

Gorchymyn Sir Fynwy (Trefniadau Etholiadol) 2021

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2021 Rhif 1232 (Cy. 311)

Llywodraeth Leol, Cymru

Gorchymyn Sir Fynwy (Trefniadau Etholiadol) 2021

Gwnaed

3 Tachwedd 2021

Yn dod i rym yn unol ag erthygl 1(2) a (3)

Mae Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru(1), yn unol ag adran 36(5) o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013(2) (“Deddf 2013”), wedi cyflwyno i Weinidogion Cymru adroddiad dyddiedig Mehefin 2021 yn cynnwys ei argymhellion ar gyfer newid a manylion ei adolygiad o’r trefniadau etholiadol ar gyfer Sir Fynwy.

Mae Gweinidogion Cymru, ar ôl ystyried y materion y cyfeirir atynt ac a nodir yn adran 37(2)(a) ac (c) o Ddeddf 2013, wedi penderfynu rhoi effaith i’r argymhellion hynny gydag addasiadau.

Yn unol ag adran 37(3) o Ddeddf 2013, mae mwy na 6 wythnos wedi mynd heibio ers i’r argymhellion hynny gael eu cyflwyno i Weinidogion Cymru.

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer eu pwerau a roddir gan adran 37(1) o Ddeddf 2013.

Enwi, cychwyn a dehongli

1.—(1Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Sir Fynwy (Trefniadau Etholiadol) 2021.

(2At unrhyw ddiben a nodir yn rheoliad 4(1) o Reoliadau Newidiadau yn Ardaloedd Llywodraeth Leol 1976(3), daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 9 Tachwedd 2021.

(3At bob diben arall, daw’r Gorchymyn hwn i rym ar y diwrnod arferol ar gyfer ethol cynghorwyr yn 2022(4).

(4Yn y Gorchymyn hwn—

ystyr “ward etholiadol” (“electoral ward”) yw unrhyw ardal yr etholir aelodau drosti i Gyngor Sir Fynwy;

mae i eiriau ac ymadroddion a ddefnyddir yn y Gorchymyn hwn yr un ystyr ag sydd iddynt yn Rhan 3 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013, ac eithrio i’r graddau yr ymddengys bwriad i’r gwrthwyneb.

Trefniadau etholiadol ar gyfer Sir Fynwy

2.—(1Mae wardiau etholiadol Sir Fynwy, fel y maent yn bodoli yn union cyn y diwrnod arferol ar gyfer ethol cynghorwyr yn 2022, wedi eu diddymu.

(2Mae Sir Fynwy wedi ei rhannu’n 39 o wardiau etholiadol, a phob un ohonynt yn dwyn yr enw Saesneg a restrir yng ngholofn 1 a’r enw Cymraeg a restrir yng ngholofn 2 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.

(3Mae pob ward etholiadol yn cynnwys yr ardaloedd a bennir mewn perthynas â’r ward etholiadol honno yng ngholofn 3 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.

(4Nifer yr aelodau o’r cyngor sydd i’w hethol dros bob ward etholiadol yw’r nifer a bennir yng ngholofn 4 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.

(5Mae’r darpariaethau yn y Gorchymyn hwn yn cymryd blaenoriaeth dros unrhyw ddarpariaeth wrthdrawiadol mewn unrhyw offeryn statudol blaenorol a wnaed o dan adran 58(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972(5).

Rebecca Evans

Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru

3 Tachwedd 2021

Erthygl 2

YR ATODLENENWAU AC ARDALOEDD WARDIAU ETHOLIADOL A NIFER AELODAU’R CYNGOR

Tabl

Colofn (1)Colofn (2)Colofn (3)Colofn (4)
Enw Saesneg y ward etholiadolEnw Cymraeg y ward etholiadolArdal y ward etholiadolNifer aelodau’r cyngor
Bulwark and ThornwellBulwark a ThornwellWardiau Bulwark, Thornwell a Maple Avenue o gymuned Cas-gwent2
CaerwentCaer-wentCymuned Caer-went1
Caldicot CastleCastell Cil-y-coedWard Castell Caldicot o gymuned Caldicot1
Caldicot CrossCroes Cil-y-coedWard Caldicot Cross o gymuned Caldicot1
CantrefCantrefWardiau Cantref and Llanwenarth Citra o gymuned y Fenni1
Chepstow Castle and LarkfieldCastell Cas-gwent a LarkfieldWardiau Castell Cas-gwent a Larkfield o gymuned Cas-gwent2
CroesonenCroesonnenWard Croesonnen o gymuned Llandeilo Bertholau1
CrucorneyCrucornau FawrCymunedau Crucornau a Grysmwnt1
DevaudenDevaudenCymuned Devauden a wardiau Llan-gwm a Llan-soe o gymuned Llantrisant Fawr1
DewstowLlanddewiWard Llanddewi o gymuned Caldicot1
DrybridgeDrybridgeWard Drybridge o gymuned Trefynwy1
Gobion FawrGobion FawrCymunedau Gobion Fawr a Llan-arth1
Goetre FawrGoetre FawrCymuned Goetre Fawr1
GrofieldGrofieldWard Grofield o gymuned y Fenni1
LansdownLansdownWard Lansdown o gymuned y Fenni1
Llanbadoc and UskLlanbadog a BrynbugaCymunedau Llanbadog a Brynbuga2
LlanellyLlanelliCymuned Llanelli2
Llanfoist Fawr and GovilonLlan-ffwyst Fawr a GofilonCymuned Llan-ffwyst Fawr2
Llangybi FawrLlangybi FawrCymuned Llangybi a wardiau Gwernesni a Llantrisant o gymuned Llantrisant Fawr1
Llantilio CrossennyLlandeilo GresynniCymunedau Ynysgynwraidd a Chastell-gwyn1
Magor East with UndyDwyrain Magwyr gyda GwndyWardiau Dwyrain Magwyr a Gwndy o gymuned Magwyr gyda Gwndy2
Magor WestGorllewin MagwyrWard Gorllewin Magwyr o gymuned Magwyr gyda Gwndy1
MardyY MaerdyWardiau’r Maerdy, Pantygelli ac Ysgyryd o gymuned Llandeilo Bertholau1
Mitchel Troy and Trellech UnitedLlanfihangel Troddi a Thryleg UnedigCymunedau Llanfihangel Troddi a Thryleg Unedig2
Mount PleasantMount PleasantWard Mount Pleasant o gymuned Cas-gwent1
OsbastonOsbastonWard Osbaston o gymuned Trefynwy1
OvermonnowOvermonnowWard Overmonnow o gymuned Trefynwy1
ParkY ParcWard y Parc o gymuned y Fenni1
Pen Y FalPen-y-fâlWard Pen-y-fâl o gymuned y Fenni1
PortskewettPorthsgiwedCymuned Porth Sgiwed1
RaglanRhaglanCymuned Rhaglan1
RogietRogietCymuned Rogiet1
SevernHafrenWardiau Hafren a The Village o gymuned Caldicot1
ShirenewtonDrenewydd Gelli-farchCymunedau Matharn a Drenewydd Gelli-farch1
St ArvansLlanarfanCymunedau St Arvans a Dyffryn Gwy1
St KingsmarkLlangynfarchWard St Kingsmark o gymuned Cas-gwent1
TownY DrefWard y Dref o gymuned Trefynwy1
West EndWest EndWard West End o gymuned Caldicot1
WyeshamWyeshamWard Wyesham o gymuned Trefynwy1

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn yn gweithredu argymhellion Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru (“y Comisiwn”), a roddodd adroddiad ym mis Mehefin 2021 ar ei adolygiad o drefniadau etholiadol Sir Fynwy. Roedd Adroddiad y Comisiwn yn cynnig lleihau nifer y wardiau etholiadol o 40 i 39, ond cynyddu nifer y cynghorwyr o 45 i 46.

Mae’r Gorchymyn hwn yn gweithredu argymhellion y Comisiwn, gydag addasiadau.

Mae erthygl 2 o’r Gorchymyn hwn yn diddymu’r trefniadau etholiadol presennol ar gyfer Sir Fynwy ac yn cyflwyno’r Atodlen sy’n nodi’r trefniadau etholiadol newydd ar gyfer Sir Fynwy.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn.

(1)

Sefydlwyd y Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru gan adran 53 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (p. 70) (“Deddf 1972”), ac Atodlen 8 iddi. Diddymwyd adran 53 ac Atodlen 8 gan adran 73(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013 (dccc 4) (“Deddf 2013”) ac Atodlen 2 iddi. Mae Deddf 2013 yn ailenwi’r Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru yn Gomisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru (gweler adran 2).

(3)

O.S. 1976/246. Mae adran 74(3) o Ddeddf 2013 yn darparu bod y Rheoliadau hyn yn parhau i gael effaith mewn perthynas â gorchmynion a wnaed o dan Ran 3 o Ddeddf 2013, fel pe bai’r gorchmynion hynny wedi eu gwneud o dan Ran 4 o Ddeddf 1972.

(4)

Mae Gorchymyn Awdurdodau Lleol (Newid Blynyddoedd Etholiadau Cyffredin) (Cymru) 2019 (O.S. 2019/1269 (Cy. 220)) yn diwygio adran 26(1) o Ddeddf 1972 i ddarparu y bydd etholiadau cyffredin cynghorwyr awdurdodau lleol yn cael eu cynnal yn y flwyddyn 2022 yn hytrach na 2021.

(5)

1972 p. 70; diddymwyd adran 58 o Ddeddf 1972 gan adran 73(2) o Ddeddf 2013 ac Atodlen 2 iddi, yn ddarostyngedig i ddarpariaethau arbed a bennir yn adran 74 o Ddeddf 2013.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources