- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
1. Enw’r Rheolau hyn yw Rheolau Etholiadau Lleol (Cymunedau) (Cymru) 2021 a deuant i rym ar 17 Rhagfyr 2021.
2. Nid yw dod â’r Rheolau hyn i rym yn effeithio ar gynnal etholiad cynghorwyr i gyngor cymuned pe bai’r bleidlais yn cael ei chynnal, pe ceid gornest yn yr etholiad, cyn 5 Mai 2022.
3.—(1) Yn y Rheolau hyn—
ystyr “Deddf 1983” (“the 1983 Act”) yw Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983;
ystyr “diwrnod eithriedig” (“excluded day”) yw diwrnod sydd—
yn ddydd Sadwrn;
yn ddydd Sul;
yn Noswyl Nadolig;
yn Ddydd Nadolig;
yn ddydd Gwener y Groglith;
yn ddiwrnod sy’n ŵyl banc yng Nghymru a Lloegr o dan Ddeddf Bancio a Thrafodion Ariannol 1971(1);
mae i “gwybodaeth am gyfeiriad cartref” (“home address information”) o ran person a enwebir—
yn Atodlen 1, yr ystyr a roddir gan reol 13(3) o’r Atodlen honno, a
yn Atodlen 2, yr ystyr a roddir gan reol 13(3) o’r Atodlen honno;
ystyr “Rheoliadau Cyfuno Pleidleisiau” (“the Combination of Polls Regulations”) yw Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cyfuno Pleidleisiau) (Cymru a Lloegr) 2004(2).
(2) At ddibenion y Rheolau hyn, mae etholiad yn “etholiad perthnasol” os yw’n un o’r etholiadau a ganlyn a bod y bleidlais yn yr etholiad yn cael ei chynnal ynghyd â’r bleidlais mewn etholiad cynghorwyr i gyngor cymuned—
(a)etholiad seneddol;
(b)etholiad cynghorwyr i gyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol;
(c)etholiad maer, hynny yw, etholiad a gynhelir o dan Reoliadau Awdurdodau Lleol (Etholiadau Maerol) (Cymru a Lloegr) 2007(3);
(d)etholiad comisiynydd heddlu a throseddu, hynny yw, etholiad comisiynydd heddlu a throseddu yn unol â Phennod 6 o Ran 1 o Ddeddf Diwygio’r Heddlu a Chyfrifoldeb Cymdeithasol 2011(4).
(3) Yn y Rheolau hyn, oni nodir yn wahanol, mae i’r geiriau a’r ymadroddion Cymraeg a ganlyn sy’n cyfateb i eiriau ac ymadroddion Saesneg a ddefnyddir yn Neddf 1983 yr un ystyr â’r geiriau a’r ymadroddion hynny yn y Ddeddf honno (gweler adrannau 202(1) a 203(1)(5) o’r Ddeddf honno)—
“anabledd” (“disability”);
“ardal etholiadol” (“electoral area”);
“cofnod cofnodion dienw” (“record of anonymous entries”);
“cofnod dienw” (“anonymous entry”);
“deiseb etholiad” (“election petition”);
“etholwr” (“elector”);
“llys etholiad” (“election court”);
“pleidleisiwr” (“voter”);
“rhestr dirprwyon” (“list of proxies”);
“rhestr pleidleiswyr post” (“postal voters list”);
“rhestr pleidleiswyr post drwy ddirprwy” (“proxy postal voters list”);
“swyddog priodol” (“proper officer”).
4.—(1) Mae Atodlen 1 yn nodi’r rheolau sy’n gymwys wrth gynnal etholiad cynghorwyr i gyngor cymuned pan na chynhelir y bleidlais yn yr etholiad ynghyd â’r bleidlais mewn etholiad arall.
(2) Mae cyfeiriadau yn y rheolau yn Atodlen 1 at y swyddog canlyniadau yn gyfeiriadau at y swyddog canlyniadau yn yr etholiad cynghorwyr i gyngor cymuned.
(3) Mae Atodlen 2 yn nodi’r rheolau sy’n gymwys wrth gynnal etholiad cynghorwyr i gyngor cymuned pan gynhelir y bleidlais yn yr etholiad ynghyd â’r bleidlais mewn un neu ragor o etholiadau perthnasol.
(4) Mae cyfeiriadau yn y rheolau yn Atodlen 2 at y swyddog canlyniadau cydlynol yn gyfeiriadau at y swyddog canlyniadau sydd, o dan reoliad 4 o’r Rheoliadau Cyfuno Pleidleisiau, yn gyfrifol am gyflawni swyddogaethau a bennir yn rheoliad 5 o’r Rheoliadau hynny.
(5) Mae cyfeiriadau yn y rheolau yn Atodlen 2 at y swyddog canlyniadau yn gyfeiriadau at y swyddog canlyniadau yn yr etholiad cynghorwyr i gyngor cymuned (p’un a yw’r person hwnnw hefyd yn swyddog canlyniadau cydlynol ai peidio), oni bai bod rheol benodol yn darparu fel arall.
(6) Pan fo rheol yn Atodlen 1 neu 2 yn ei gwneud yn ofynnol i’r swyddog canlyniadau gyhoeddi dogfen, rhaid i’r ddogfen gael ei chyhoeddi—
(a)ar-lein, a
(b)mewn unrhyw ffordd arall y mae’r swyddog canlyniadau o’r farn ei bod yn briodol er mwyn dod â chynnwys y ddogfen i sylw’r cyhoedd.
(7) Pan fo rheol yn Atodlen 1 neu 2 yn ei gwneud yn ofynnol i hysbysiad gael ei roi, neu’n awdurdodi rhoi hysbysiad, caniateir i’r hysbysiad—
(a)cael ei anfon drwy’r post,
(b)cael ei anfon yn electronig, neu
(c)cael ei ddanfon yn bersonol.
5.—(1) Mae’r rheol hon yn gymwys pan roddir hysbysiad cyhoeddus o sedd sydd wedi digwydd dod yn wag i gynghorydd cymuned yn unol ag adran 87(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.
(2) Caniateir gwneud cais am etholiad i lenwi’r swydd wag cyn diwedd y cyfnod o 14 diwrnod sy’n dechrau drannoeth ar ôl i hysbysiad cyhoeddus o’r swydd wag gael ei roi.
(3) Rhaid i unrhyw gais o’r fath gael ei wneud gan ddeg o etholwyr i swyddog priodol cyngor y sir neu’r fwrdeistref sirol y lleolir y gymuned ynddo.
(4) Caniateir i’r cais gael ei wneud—
(a)drwy i’r deg etholwr ddarparu i’r swyddog priodol un ddogfen sy’n cynnwys y cais a honno wedi ei llofnodi gan bob un ohonynt, neu
(b)drwy i bob un o’r deg etholwr ddarparu dogfen i’r swyddog priodol sy’n cynnwys y cais a honno wedi ei llofnodi gan yr etholwr hwnnw.
(5) Pan wneir cais, rhaid cynnal etholiad i lenwi’r swydd sydd wedi digwydd dod yn wag oni bai bod y swydd wag wedi digwydd yn ystod chwe mis olaf y cynghorydd (ynglŷn â hynny gweler paragraff (12)).
(6) Pan fo etholiad yn ofynnol, rhaid ei gynnal ar ddiwrnod a benodir gan y swyddog canlyniadau, sy’n gorfod bod cyn diwedd y cyfnod o 60 niwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod y rhoddir hysbysiad cyhoeddus o’r swydd wag.
(7) Pan nad yw etholiad yn ofynnol—
(a)os digwyddodd y swydd wag yn ystod chwe mis olaf y cynghorydd, caiff y cyngor cymuned gyfethol person i lenwi’r swydd wag;
(b)fel arall, rhaid i’r cyngor cymuned gyfethol person i lenwi’r swydd wag.
(8) Pan fo’r cyngor cymuned yn penderfynu cyfethol person neu pan fo’n ofynnol iddo gyfethol person, rhaid gwneud hyn cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl diwedd y cyfnod o 14 diwrnod sy’n dechrau drannoeth ar ôl i hysbysiad cyhoeddus o’r swydd wag gael ei roi.
(9) Pan na fydd swydd wag yn cael ei llenwi drwy etholiad neu drwy gyfethol person, rhaid ei llenwi yn yr etholiad cyffredin nesaf o gynghorwyr ar gyfer y gymuned.
(10) Ym mharagraff (3), ystyr “etholwr” yw person sydd, ar y diwrnod y gwneir y cais, wedi ei gofrestru yn y gofrestr etholwyr llywodraeth leol ar gyfer yr ardal etholiadol y mae’r swydd wag wedi digwydd ynddi, ac eithrio person nad yw o oedran pleidleisio ar y diwrnod hwnnw neu sydd â chofnod dienw.
(11) Wrth gyfrifo’r cyfnod o 14 diwrnod a grybwyllir ym mharagraffau (2) ac (8), a’r cyfnod o 60 niwrnod a grybwyllir ym mharagraff (6), mae unrhyw ddiwrnod sy’n ddiwrnod eithriedig i’w ddiystyru.
(12) Mae cyfeiriadau yn y rheol hon at chwe mis olaf cynghorydd yn gyfeiriadau at y cyfnod o chwe mis sy’n dod i ben gyda diwrnod disgwyliedig yr etholiad cyffredin nesaf o gynghorwyr ar gyfer y gymuned.
6.—(1) Mae darpariaethau Deddf 1983 y cyfeirir atynt yn adran 187(1) o’r Ddeddf honno (darpariaethau sy’n gymwys mewn etholiadau lleol penodol) yn gymwys i etholiad cynghorwyr cymuned gyda’r addasiad bod unrhyw gyfeiriad at swyddog priodol yr awdurdod i’w ddarllen fel cyfeiriad at y swyddog canlyniadau.
(2) Mae adran 136(2)(b) o Ddeddf 1983(6) (swm gwarant costau ar ddeiseb etholiad) yn gymwys i etholiad cynghorwyr cymuned gyda’r addasiad bod y cyfeiriad at “£2,500” i’w ddarllen fel cyfeiriad at “£1,500”.
7. Rhaid i ddatganiad ynglŷn â threuliau etholiad mewn etholiad cynghorwyr cymuned fod yn y ffurf yn Atodlen 3 i’r Rheolau hyn neu ffurf i’r un perwyl.
Rebecca Evans
Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
15 Rhagfyr 2021
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: