- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Rheolau Etholiadau Lleol (Cymunedau) (Cymru) 2021. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau.
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Cofnodir newidiadau ac effeithiau gan ein tîm golygyddol mewn rhestrau sydd i'w gweld yn yr adran 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth'. Os nad yw'r effeithiau hynny wedi'u cymhwyso eto i destun y ddeddfwriaeth gan y tîm golygyddol maent hefyd wedi'u rhestru ochr yn ochr â'r ddeddfwriaeth yn y darpariaethau yr effeithir arnynt. Defnyddiwch y ddolen 'mwy' i agor y newidiadau a'r effeithiau sy'n berthnasol i'r ddarpariaeth rydych yn edrych arni.
Whole provisions yet to be inserted into this Instrument (including any effects on those provisions):
Offerynnau Statudol Cymru
Llywodraeth Leol, Cymru
Cynrychiolaeth Y Bobl, Cymru
Gwnaed
15 Rhagfyr 2021
Yn dod i rym
17 Rhagfyr 2021
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 89(6) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972(1) ac adrannau 36A(1), (3) i (6) a (9) a 187(1) o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983(2), yn gwneud y Rheolau a ganlyn.
Yn unol ag adran 36A(7) o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983, mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â’r personau hynny yr oeddent o’r farn eu bod yn briodol.
Yn unol ag adran 36A(10) o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983, gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Senedd Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad.
1. Enw’r Rheolau hyn yw Rheolau Etholiadau Lleol (Cymunedau) (Cymru) 2021 a deuant i rym ar 17 Rhagfyr 2021.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rule 1 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1
2. Nid yw dod â’r Rheolau hyn i rym yn effeithio ar gynnal etholiad cynghorwyr i gyngor cymuned pe bai’r bleidlais yn cael ei chynnal, pe ceid gornest yn yr etholiad, cyn 5 Mai 2022.
Gwybodaeth Cychwyn
I2Rule 2 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1
3.—(1) Yn y Rheolau hyn—
ystyr “Deddf 1983” (“the 1983 Act”) yw Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983;
ystyr “diwrnod eithriedig” (“excluded day”) yw diwrnod sydd—
yn ddydd Sadwrn;
yn ddydd Sul;
yn Noswyl Nadolig;
yn Ddydd Nadolig;
yn ddydd Gwener y Groglith;
yn ddiwrnod sy’n ŵyl banc yng Nghymru a Lloegr o dan Ddeddf Bancio a Thrafodion Ariannol 1971(3);
mae i “gwybodaeth am gyfeiriad cartref” (“home address information”) o ran person a enwebir—
yn Atodlen 1, yr ystyr a roddir gan reol 13(3) o’r Atodlen honno, a
yn Atodlen 2, yr ystyr a roddir gan reol 13(3) o’r Atodlen honno;
ystyr “Rheoliadau Cyfuno Pleidleisiau” (“the Combination of Polls Regulations”) yw Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cyfuno Pleidleisiau) (Cymru a Lloegr) 2004(4).
(2) At ddibenion y Rheolau hyn, mae etholiad yn “etholiad perthnasol” os yw’n un o’r etholiadau a ganlyn a bod y bleidlais yn yr etholiad yn cael ei chynnal ynghyd â’r bleidlais mewn etholiad cynghorwyr i gyngor cymuned—
(a)etholiad seneddol;
(b)etholiad cynghorwyr i gyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol;
(c)etholiad maer, hynny yw, etholiad a gynhelir o dan Reoliadau Awdurdodau Lleol (Etholiadau Maerol) (Cymru a Lloegr) 2007(5);
(d)etholiad comisiynydd heddlu a throseddu, hynny yw, etholiad comisiynydd heddlu a throseddu yn unol â Phennod 6 o Ran 1 o Ddeddf Diwygio’r Heddlu a Chyfrifoldeb Cymdeithasol 2011(6).
(3) Yn y Rheolau hyn, oni nodir yn wahanol, mae i’r geiriau a’r ymadroddion Cymraeg a ganlyn sy’n cyfateb i eiriau ac ymadroddion Saesneg a ddefnyddir yn Neddf 1983 yr un ystyr â’r geiriau a’r ymadroddion hynny yn y Ddeddf honno (gweler adrannau 202(1) a 203(1)(7) o’r Ddeddf honno)—
“anabledd” (“disability”);
“ardal etholiadol” (“electoral area”);
“cofnod cofnodion dienw” (“record of anonymous entries”);
“cofnod dienw” (“anonymous entry”);
“deiseb etholiad” (“election petition”);
“etholwr” (“elector”);
“llys etholiad” (“election court”);
“pleidleisiwr” (“voter”);
“rhestr dirprwyon” (“list of proxies”);
“rhestr pleidleiswyr post” (“postal voters list”);
“rhestr pleidleiswyr post drwy ddirprwy” (“proxy postal voters list”);
“swyddog priodol” (“proper officer”).
Gwybodaeth Cychwyn
I3Rule 3 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1
4.—(1) Mae Atodlen 1 yn nodi’r rheolau sy’n gymwys wrth gynnal etholiad cynghorwyr i gyngor cymuned pan na chynhelir y bleidlais yn yr etholiad ynghyd â’r bleidlais mewn etholiad arall.
(2) Mae cyfeiriadau yn y rheolau yn Atodlen 1 at y swyddog canlyniadau yn gyfeiriadau at y swyddog canlyniadau yn yr etholiad cynghorwyr i gyngor cymuned.
(3) Mae Atodlen 2 yn nodi’r rheolau sy’n gymwys wrth gynnal etholiad cynghorwyr i gyngor cymuned pan gynhelir y bleidlais yn yr etholiad ynghyd â’r bleidlais mewn un neu ragor o etholiadau perthnasol.
(4) Mae cyfeiriadau yn y rheolau yn Atodlen 2 at y swyddog canlyniadau cydlynol yn gyfeiriadau at y swyddog canlyniadau sydd, o dan reoliad 4 o’r Rheoliadau Cyfuno Pleidleisiau, yn gyfrifol am gyflawni swyddogaethau a bennir yn rheoliad 5 o’r Rheoliadau hynny.
(5) Mae cyfeiriadau yn y rheolau yn Atodlen 2 at y swyddog canlyniadau yn gyfeiriadau at y swyddog canlyniadau yn yr etholiad cynghorwyr i gyngor cymuned (p’un a yw’r person hwnnw hefyd yn swyddog canlyniadau cydlynol ai peidio), oni bai bod rheol benodol yn darparu fel arall.
(6) Pan fo rheol yn Atodlen 1 neu 2 yn ei gwneud yn ofynnol i’r swyddog canlyniadau gyhoeddi dogfen, rhaid i’r ddogfen gael ei chyhoeddi—
(a)ar-lein, a
(b)mewn unrhyw ffordd arall y mae’r swyddog canlyniadau o’r farn ei bod yn briodol er mwyn dod â chynnwys y ddogfen i sylw’r cyhoedd.
(7) Pan fo rheol yn Atodlen 1 neu 2 yn ei gwneud yn ofynnol i hysbysiad gael ei roi, neu’n awdurdodi rhoi hysbysiad, caniateir i’r hysbysiad—
(a)cael ei anfon drwy’r post,
(b)cael ei anfon yn electronig, neu
(c)cael ei ddanfon yn bersonol.
Gwybodaeth Cychwyn
I4Rule 4 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1
5.—(1) Mae’r rheol hon yn gymwys pan roddir hysbysiad cyhoeddus o sedd sydd wedi digwydd dod yn wag i gynghorydd cymuned yn unol ag adran 87(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.
(2) Caniateir gwneud cais am etholiad i lenwi’r swydd wag cyn diwedd y cyfnod o 14 diwrnod sy’n dechrau drannoeth ar ôl i hysbysiad cyhoeddus o’r swydd wag gael ei roi.
(3) Rhaid i unrhyw gais o’r fath gael ei wneud gan ddeg o etholwyr i swyddog priodol cyngor y sir neu’r fwrdeistref sirol y lleolir y gymuned ynddo.
(4) Caniateir i’r cais gael ei wneud—
(a)drwy i’r deg etholwr ddarparu i’r swyddog priodol un ddogfen sy’n cynnwys y cais a honno wedi ei llofnodi gan bob un ohonynt, neu
(b)drwy i bob un o’r deg etholwr ddarparu dogfen i’r swyddog priodol sy’n cynnwys y cais a honno wedi ei llofnodi gan yr etholwr hwnnw.
(5) Pan wneir cais, rhaid cynnal etholiad i lenwi’r swydd sydd wedi digwydd dod yn wag oni bai bod y swydd wag wedi digwydd yn ystod chwe mis olaf y cynghorydd (ynglŷn â hynny gweler paragraff (12)).
(6) Pan fo etholiad yn ofynnol, rhaid ei gynnal ar ddiwrnod a benodir gan y swyddog canlyniadau, sy’n gorfod bod cyn diwedd y cyfnod o 60 niwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod y rhoddir hysbysiad cyhoeddus o’r swydd wag.
(7) Pan nad yw etholiad yn ofynnol—
(a)os digwyddodd y swydd wag yn ystod chwe mis olaf y cynghorydd, caiff y cyngor cymuned gyfethol person i lenwi’r swydd wag;
(b)fel arall, rhaid i’r cyngor cymuned gyfethol person i lenwi’r swydd wag.
(8) Pan fo’r cyngor cymuned yn penderfynu cyfethol person neu pan fo’n ofynnol iddo gyfethol person, rhaid gwneud hyn cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl diwedd y cyfnod o 14 diwrnod sy’n dechrau drannoeth ar ôl i hysbysiad cyhoeddus o’r swydd wag gael ei roi.
(9) Pan na fydd swydd wag yn cael ei llenwi drwy etholiad neu drwy gyfethol person, rhaid ei llenwi yn yr etholiad cyffredin nesaf o gynghorwyr ar gyfer y gymuned.
(10) Ym mharagraff (3), ystyr “etholwr” yw person sydd, ar y diwrnod y gwneir y cais, wedi ei gofrestru yn y gofrestr etholwyr llywodraeth leol ar gyfer yr ardal etholiadol y mae’r swydd wag wedi digwydd ynddi, ac eithrio person nad yw o oedran pleidleisio ar y diwrnod hwnnw neu sydd â chofnod dienw.
(11) Wrth gyfrifo’r cyfnod o 14 diwrnod a grybwyllir ym mharagraffau (2) ac (8), a’r cyfnod o 60 niwrnod a grybwyllir ym mharagraff (6), mae unrhyw ddiwrnod sy’n ddiwrnod eithriedig i’w ddiystyru.
(12) Mae cyfeiriadau yn y rheol hon at chwe mis olaf cynghorydd yn gyfeiriadau at y cyfnod o chwe mis sy’n dod i ben gyda diwrnod disgwyliedig yr etholiad cyffredin nesaf o gynghorwyr ar gyfer y gymuned.
Gwybodaeth Cychwyn
I5Rule 5 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1
6.—(1) Mae darpariaethau Deddf 1983 y cyfeirir atynt yn adran 187(1) o’r Ddeddf honno (darpariaethau sy’n gymwys mewn etholiadau lleol penodol) yn gymwys i etholiad cynghorwyr cymuned gyda’r addasiad bod unrhyw gyfeiriad at swyddog priodol yr awdurdod i’w ddarllen fel cyfeiriad at y swyddog canlyniadau.
(2) Mae adran 136(2)(b) o Ddeddf 1983(8) (swm gwarant costau ar ddeiseb etholiad) yn gymwys i etholiad cynghorwyr cymuned gyda’r addasiad bod y cyfeiriad at “£2,500” i’w ddarllen fel cyfeiriad at “£1,500”.
Gwybodaeth Cychwyn
I6Rule 6 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1
7. Rhaid i ddatganiad ynglŷn â threuliau etholiad mewn etholiad cynghorwyr cymuned fod yn y ffurf yn Atodlen 3 i’r Rheolau hyn neu ffurf i’r un perwyl.
Gwybodaeth Cychwyn
I7Rule 7 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1
Rebecca Evans
Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
15 Rhagfyr 2021
Rheol 4(1)
RHAN 1 Darpariaethau ynglŷn ag Amser
1.Amserlen
2.Cyfrif amser
RHAN 2 Hysbysiad Etholiad, Enwebu a Dull Ethol
Hysbysiad Etholiad
3.Hysbysiad etholiad
Enwebu
4.Dyletswydd y swyddog canlyniadau i gyflenwi ffurflenni enwebu etc.
5.Enwebu ymgeiswyr
6.Papurau enwebu: disgrifiadau
7.Ychwanegu “Wales”, “Welsh”, “Cymru” neu “Cymreig”
8.Papurau enwebu: datganiadau aelodaeth plaid
9.Ffurflenni cyfeiriad cartref
10.Penderfyniadau ynglŷn â dilysrwydd papurau enwebu
11.Enwebu mewn mwy nag un ardal etholiadol
12.Ymgeiswyr yn tynnu’n ôl
13.Cyhoeddi datganiad o’r personau a enwebwyd
14.Defnyddio enwau a ddefnyddir yn gyffredin yn y datganiad o’r personau a enwebwyd
15.Enwau sydd yr un fath neu’n debyg
16.Cywiro mân wallau mewn papur enwebu neu ffurflen cyfeiriad cartref
17.Archwilio papurau enwebu
18.Archwilio ffurflenni cyfeiriad cartref
19.Gohirio trafodion enwebu os ceir terfysg
Dull Ethol
20.Penderfynu a oes gornest yn yr etholiad a datgan y canlyniad os nad oes gornest
RHAN 3 Y Bleidlais mewn Etholiadau lle Ceir Gornest
Darpariaethau Cyffredinol
21.Y bleidlais i’w chynnal drwy bleidlais gudd
22.Y papurau pleidleisio
23.Rhestr rhifau cyfatebol
24.Y marc swyddogol
25.Gwahardd datgelu pleidlais
26.Defnyddio ysgolion ac ystafelloedd cyhoeddus
Camau i’w cymryd cyn y bleidlais
27.Hysbysiad y bleidlais
28.Papurau pleidleisio post
29.Darparu gorsafoedd pleidleisio
30.Penodi swyddogion llywyddu a chlercod
31.Dyroddi cardiau pleidleisio swyddogol
32.Cyfarpar gorsafoedd pleidleisio
33.Penodi asiantau pleidleisio ac asiantau cyfrif
34.Asiantau pleidleisio ac asiantau cyfrif: darpariaeth atodol
35.Hysbysu’r gofyniad cyfrinachedd
36.Dychwelyd papurau pleidleisio post
Y Bleidlais
37.Derbyn i’r orsaf bleidleisio
38.Cadw trefn yn yr orsaf
39.Selio blychau pleidleisio
40.Cwestiynau y caniateir eu gofyn i bleidleiswyr
41.Herio pleidleisiwr
42.Gweithdrefn pleidleisio
43.Pleidleiswyr sydd ag anabledd neu sy’n methu darllen: marcio pleidleisiau gan y swyddog llywyddu
44.Pleidleiswyr sydd ag anabledd neu sy’n methu darllen: cymorth cymdeithion
45.Pleidleisio gyda chymorth cydymaith: darpariaeth atodol
46.Papurau pleidleisio a dendrwyd: yr amgylchiadau lle maent ar gael
47.Dyletswyddau swyddogion llywyddu mewn perthynas â phapurau pleidleisio a dendrwyd
48.Papurau pleidleisio a ddifethwyd
49.Cywiro gwallau ar ddiwrnod y bleidlais
50.Gohirio’r bleidlais os ceir terfysg
51.Y weithdrefn wrth gau’r bleidlais
RHAN 4 Cyfrif y Pleidleisiau a Datgan y Canlyniad mewn Etholiadau lle ceir Gornest
52.Trefniadau cyfrif y pleidleisiau
53.Presenoldeb wrth i’r pleidleisiau gael eu cyfrif
54.Y cyfrif: camau
55.Y cyfrif: cyffredinol
56.Y cyfrif: papurau pleidleisio a wrthodwyd
57.Ailgyfrif
58.Pleidleisiau cyfartal
59.Penderfynu ar bapurau pleidleisio
60.Datgan y canlyniad
RHAN 5 Gwaredu Dogfennau
61.Selio papurau pleidleisio mewn etholiadau lle ceir gornest
62.Danfon dogfennau i’r swyddog cofrestru mewn etholiadau lle ceir gornest
63.Dangos etc. dogfennau
64.Gorchmynion i ddangos etc. dogfennau: darpariaeth atodol
65.Cadw a dinistrio dogfennau a anfonwyd at y swyddog cofrestru
66.Dinistrio ffurflenni cyfeiriad cartref gan y swyddog canlyniadau
RHAN 6 Marwolaeth Ymgeisydd
67.Diddymu pleidlais neu roi’r gorau iddi ar ôl i ymgeisydd farw
ATODIADAU Nodyn: Caniateir i’r ffurflenni a geir yn yr Atodiadau hyn gael eu haddasu i’r graddau y bo’r amgylchiadau’n gofyn.
1.—(1) Rhaid i drafodion yr etholiad gael eu cynnal yn unol â’r amserlen a ganlyn.
Trafodion | Amser |
---|---|
Cyhoeddi hysbysiad etholiad | Dim hwyrach na’r pumed diwrnod ar hugain cyn diwrnod yr etholiad |
Danfon papurau enwebu | Dim hwyrach na 4 p.m. ar y pedwerydd diwrnod ar bymtheg cyn diwrnod yr etholiad |
Danfon hysbysiadau tynnu ymgeisyddiaeth yn ôl | Dim hwyrach na 4 p.m. ar y pedwerydd diwrnod ar bymtheg cyn diwrnod yr etholiad |
Cyhoeddi datganiad ynghylch y personau a enwebwyd | Dim hwyrach na 4 p.m. ar y deunawfed diwrnod cyn diwrnod yr etholiad |
Hysbysiad o etholiad heb ornest Hysbysiad o bleidlais mewn etholiad lle ceir gornest | Dim hwyrach na’r chweched diwrnod cyn diwrnod yr etholiad |
Pleidleisio | Rhwng 7 a.m. a 10 p.m. ar ddiwrnod yr etholiad |
(2) Mae paragraff (3) yn gymwys pan fo—
(a)papur enwebu yn cael ei anfon yn electronig neu ei gyflwyno ar-lein yn unol â threfniadau a nodir yn yr hysbysiad etholiad (gweler rheol 3), neu
(b)hysbysiad tynnu ymgeisyddiaeth yn ôl o dan reol 12 yn cael ei anfon yn electronig.
(3) At ddiben penderfynu a yw’r papur neu’r hysbysiad wedi ei ddanfon yn unol â’r amserlen ym mharagraff (1), mae’r papur neu’r hysbysiad i’w drin fel pe bai wedi ei ddanfon ar yr amser y mae ei ddanfon yn cael ei gofnodi ar y system gyfrifiadurol a ddefnyddir gan y swyddog canlyniadau ar gyfer derbyn y papur neu’r hysbysiad.
(4) Yn y rheol hon, ystyr “diwrnod yr etholiad” yw’r diwrnod a bennwyd yn hysbysiad yr etholiad fel y diwrnod y câi pleidlais ei chynnal pe ceid gornest.
Gwybodaeth Cychwyn
I8Atod. 1 para. 1 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1
2.—(1) Mae diwrnod eithriedig i’w ddiystyru wrth gyfrif unrhyw gyfnod a nodir yn ail golofn yr amserlen yn rheol 1.
(2) Ni chaniateir i drafodion o dan y rheolau hyn hyd at gau’r bleidlais gael eu cynnal ar ddiwrnod eithriedig.
(3) Nid yw’n ofynnol i’r swyddog canlyniadau fwrw ymlaen â chyfrif pleidleisiau ar ddiwrnod eithriedig.
Gwybodaeth Cychwyn
I9Atod. 1 para. 2 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1
3.—(1) Rhaid i’r swyddog canlyniadau gyhoeddi hysbysiad o’r etholiad.
(2) Rhaid i’r hysbysiad ddatgan—
(a)nifer y cynghorwyr sydd i’w dychwelyd ar gyfer pob ardal etholiadol,
(b)dyddiad y bleidlais os ceir gornest,
(c)y man lle gellir cael ffurflenni papurau enwebu a pha bryd a gwybodaeth am sut y gellir cael ffurflenni papur enwebu ar-lein a pha bryd,
(d)yr amser hwyraf ar gyfer danfon papurau enwebu, ac
(e)y man lle gellir danfon papurau enwebu a’r amserau pan ganiateir eu danfon i’r man hwnnw.
(3) Rhaid i’r hysbysiad ddatgan hefyd erbyn pa ddyddiad y mae’n rhaid i geisiadau am bleidleisio drwy’r post neu drwy ddirprwy, a cheisiadau a hysbysiadau eraill ynghylch pleidleisio drwy’r post neu drwy ddirprwy, gyrraedd y swyddog cofrestru er mwyn bod yn effeithiol ar gyfer yr etholiad.
(4) Rhaid i’r swyddog canlyniadau hefyd gynnwys yn yr hysbysiad ddatganiad danfon electronig.
(5) Mae datganiad danfon electronig yn ddatganiad y caniateir i bapurau enwebu gael eu danfon—
(a)drwy eu hanfon yn electronig i gyfeiriad ebost yn unol â threfniadau a nodir yn y datganiad,
(b)drwy eu cyflwyno ar-lein yn unol â threfniadau a nodir yn y datganiad, neu
(c)naill ai drwy eu hanfon yn electronig fel y crybwyllir yn is-baragraff (a) neu drwy eu cyflwyno ar-lein fel y crybwyllir yn is-baragraff (b).
Gwybodaeth Cychwyn
I10Atod. 1 para. 3 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1
4.—(1) Yn y man ac ar yr amserau ar gyfer cael ffurflenni papurau enwebu a nodir yn hysbysiad yr etholiad, rhaid i’r swyddog canlyniadau—
(a)cyflenwi cynifer o ffurflenni papurau enwebu i unrhyw berson ag y bydd y person yn gofyn amdanynt, a
(b)os gwneir cais, paratoi papur enwebu i’w lofnodi.
(2) Rhaid i’r swyddog canlyniadau wneud trefniadau hefyd i sicrhau bod modd cael ffurflenni enwebu ar-lein yn unol â’r wybodaeth a roddir yn hysbysiad yr etholiad.
(3) Er hynny, nid oes angen i enwebiad gael ei wneud ar ffurflen a gyflenwir gan y swyddog canlyniadau neu a geir ar-lein.
Gwybodaeth Cychwyn
I11Atod. 1 para. 4 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1
5.—(1) Rhaid i ymgeisydd ei enwebu ei hun gan ddefnyddio papur enwebu yn y ffurf yn Atodiad 1, neu ffurf i’r un perwyl.
(2) Caniateir i’r papur enwebu gael ei ddanfon naill ai—
(a)yn y man a bennir gan y swyddog canlyniadau yn hysbysiad yr etholiad, neu
(b)yn unol â’r trefniadau a nodir yn y datganiad danfon electronig.
(3) Rhaid i’r papur enwebu—
(a)datgan enwau llawn yr ymgeisydd, gan osod y cyfenwau’n gyntaf,
(b)os yw’r ymgeisydd yn dymuno, cynnwys disgrifiad sy’n cydymffurfio â rheol 6,
(c)cynnwys datganiad o aelodaeth plaid sy’n cydymffurfio â rheol 8, a
(d)cynnwys y datganiadau a nodir yn y ffurf yn Atodiad 1, wedi eu llofnodi gan yr ymgeisydd.
(4) Os yw ymgeisydd yn defnyddio’n gyffredin enwau blaen neu gyfenwau sy’n wahanol mewn unrhyw ffordd i’r enwau blaen neu’r cyfenwau a ddatgenir yn unol â pharagraff (3)(a) (gan gynnwys pan y gwahaniaeth yw defnyddio’r enwau blaen neu’r cyfenwau a ddefnyddir yn gyffredin mewn trefn wahanol, cynnwys rhai o’r enwau yn unig neu gynnwys enwau ychwanegol), caniateir i’r papur enwebu hefyd ddatgan yr enwau blaen neu’r cyfenwau a ddefnyddir yn gyffredin.
(5) Rhaid i’r papur enwebu gael ei lofnodi gan yr ymgeisydd ym mhresenoldeb tyst sy’n gorfod tystio i’r llofnod.
(6) I gyd-fynd â’r papur enwebu rhaid cael ffurflen (“ffurflen cyfeiriad cartref”) sy’n cydymffurfio â rheol 9.
Gwybodaeth Cychwyn
I12Atod. 1 para. 5 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1
6.—(1) Mae’r rheol hon yn nodi gofynion ynghylch y disgrifiadau y caniateir eu cynnwys mewn papur enwebu fel y crybwyllir yn rheol 5(3)(b).
(2) Caiff y disgrifiad fod naill ai—
(a)yn ddisgrifiad sy’n debygol o arwain etholwyr i gysylltu’r ymgeisydd â phlaid wleidyddol gofrestredig neu â dwy neu ragor o bleidiau gwleidyddol cofrestredig ac a ganiateir o dan baragraff (3) neu (yn ôl y digwydd) paragraff (4), neu
(b)y gair “Independent” neu’r gair “Annibynnol”, neu’r ddau air hynny.
(3) Caniateir disgrifiad sy’n debygol o arwain etholwyr i gysylltu’r ymgeisydd â phlaid wleidyddol gofrestredig—
(a)pan fo’r blaid yn blaid gymwys,
(b)pan fo’r disgrifiad naill ai—
(i)yn enw cofrestredig y blaid neu, os yw’r blaid wedi cofrestru enw Cymraeg ac enw Saesneg, y naill neu’r llall o’r enwau hynny neu’r ddau, neu
(ii)yn ddisgrifiad cofrestredig i’r blaid neu, yn achos disgrifiad a gofrestrwyd yn Gymraeg ac yn Saesneg, y naill neu’r llall o’r disgrifiadau hynny neu’r ddau, ac
(c)pan fo defnydd y disgrifiad gan yr ymgeisydd wedi ei awdurdodi gan dystysgrif a ddyroddwyd gan neu ar ran swyddog enwebu cofrestredig y blaid ac a ddaeth i law’r swyddog canlyniadau cyn yr amser olaf ar gyfer danfon papurau enwebu.
(4) Caniateir disgrifiad sy’n debygol o arwain etholwyr i gysylltu’r ymgeisydd â dwy neu ragor o bleidiau gwleidyddol cofrestredig—
(a)pan fo pob un o’r pleidiau’n bleidiau cymwys,
(b)pan fo’r disgrifiad yn cynnwys enw cofrestredig pob un o’r pleidiau a ddangosir yn y naill neu’r llall o’r fersiynau a ddisgrifir ym mharagraff (5) neu’r ddau, ac
(c)pan fo defnydd y disgrifiad gan yr ymgeisydd wedi ei awdurdodi gan dystysgrif a ddyroddwyd gan neu ar ran swyddog enwebu cofrestredig pob un o’r pleidiau ac a ddaeth i law’r swyddog canlyniadau cyn yr amser olaf ar gyfer danfon papurau enwebu.
(5) Y fersiynau y cyfeirir atynt ym mharagraff (4)(b) yw—
(a)fersiwn sy’n dangos (mewn unrhyw drefn) enwau cofrestredig y pleidiau, ynghyd ag ychwanegu unrhyw gysyllteiriau ac atalnodau priodol yn Saesneg (“y fersiwn Saesneg”);
(b)fersiwn sy’n dangos (mewn unrhyw drefn) enwau cofrestredig y pleidiau, ynghyd ag ychwanegu unrhyw gysyllteiriau ac atalnodau priodol yn Gymraeg (“y fersiwn Gymraeg”).
(6) Pan fo unrhyw un neu ragor o’r pleidiau wedi cofrestru enw Saesneg ac enw Cymraeg—
(a)caniateir i enw cofrestredig y blaid yn Saesneg (ac nid enw cofrestredig y blaid yn Gymraeg) gael ei ddefnyddio yn y fersiwn Saesneg, a
(b)caniateir i enw cofrestredig y blaid yn Gymraeg (ac nid enw cofrestredig y blaid yn Saesneg) gael ei ddefnyddio yn y fersiwn Gymraeg.
(7) Gweler hefyd reol 7 (sy’n nodi pryd a sut y caniateir ychwanegu’r gair “Wales”, “Welsh”, “Cymru” neu “Cymreig” at ddisgrifiadau a ganiateir o dan baragraff (3) neu (4)).
(8) Mae person yn euog o arfer lwgr os yw’r person hwnnw’n honni’n dwyllodrus ei fod wedi ei awdurdodi i ddyroddi tystysgrif o dan baragraff (3)(c) neu (4)(c) ar ran swyddog enwebu plaid wleidyddol gofrestredig.
(9) Yn y rheol hon—
(a)mae cyfeiriadau at enw cofrestredig plaid wleidyddol gofrestredig yn gyfeiriadau at enw’r blaid a gofrestrwyd o dan adran 28 o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000(9);
(b)mae cyfeiriadau at ddisgrifiad cofrestredig plaid wleidyddol gofrestredig yn gyfeiriadau at ddisgrifiad o’r blaid a gofrestrwyd o dan adran 28A o’r Ddeddf honno(10).
(10) At ddibenion cymhwyso’r rheol hon mewn perthynas ag etholiad—
(a)ystyr “plaid wleidyddol gofrestredig” yw plaid sydd wedi ei chofrestru o dan Ran 2 o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 ar y diwrnod sydd ddau ddiwrnod cyn y diwrnod olaf ar gyfer danfon papurau enwebu yn yr etholiad (gan ddiystyru unrhyw ddiwrnod eithriedig);
(b)mae plaid wleidyddol gofrestredig yn blaid gymwys os yw’r blaid, ar y diwrnod hwnnw, wedi ei chofrestru mewn cysylltiad â Chymru yng nghofrestr Prydain Fawr a gynhelir o dan Ran 2 o’r Ddeddf honno.
Gwybodaeth Cychwyn
I13Atod. 1 para. 6 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1
7.—(1) Mae’r rheol hon yn nodi pryd a sut y caiff ymgeisydd wneud ychwanegiadau mewn papur enwebu at ddisgrifiad y caniateir i’r ymgeisydd ei ddefnyddio o dan reol 6(3) neu (4).
(2) Mae paragraff (3) yn gymwys—
(a)pan fo enw cofrestredig yn ddisgrifiad y caniateir i’r ymgeisydd ei ddefnyddio o dan reol 6(3) neu’n ffurfio rhan o’r disgrifiad hwnnw, a
(b)pan nad yw’r enw cofrestredig yn cynnwys yr un o’r geiriau “Wales”, “Welsh”, “Cymru” a “Cymreig”.
(3) Caiff yr ymgeisydd wneud un o’r canlynol—
(a)ychwanegu’r gair “Wales” o flaen yr enw;
(b)ychwanegu’r gair “Welsh” o flaen yr enw;
(c)ychwanegu’r gair “Cymru” ar ôl yr enw;
(d)ychwanegu’r gair “Cymreig” ar ôl yr enw.
(4) Mae paragraffau (5) a (6) yn gymwys—
(a)pan fo enw cofrestredig yn ffurfio rhan o ddisgrifiad y caniateir i’r ymgeisydd ei ddefnyddio o dan reol 6(4), a
(b)pan nad yw’r enw cofrestredig yn cynnwys yr un o’r geiriau “Wales”, “Welsh”, “Cymru” a “Cymreig”.
(5) Os yw’r enw cofrestredig yn y fersiwn Saesneg o’r disgrifiad (p’un a yw hefyd yn y fersiwn Gymraeg ai peidio), caiff yr ymgeisydd ychwanegu naill ai’r gair “Wales” neu’r gair “Welsh” o flaen yr enw yn y fersiwn honno.
(6) Os yw’r enw cofrestredig yn y fersiwn Gymraeg o’r disgrifiad (p’un a yw hefyd yn y fersiwn Saesneg ai peidio), caiff yr ymgeisydd ychwanegu naill ai’r gair “Cymru” neu’r gair “Cymreig” ar ôl yr enw yn y fersiwn honno.
(7) Mae paragraff (8) yn gymwys—
(a)pan fo disgrifiad cofrestredig yn ddisgrifiad y caniateir i’r ymgeisydd ei ddefnyddio o dan reol 6(3) neu’n ffurfio rhan o’r disgrifiad hwnnw, a
(b)pan nad yw’r disgrifiad cofrestredig yn cynnwys yr un o’r geiriau “Wales”, “Welsh”, “Cymru” a “Cymreig”.
(8) Caiff yr ymgeisydd wneud un o’r canlynol—
(a)ychwanegu’r gair “Wales” ar ddechrau’r disgrifiad cofrestredig;
(b)ychwanegu’r gair “Welsh” ar ddechrau’r disgrifiad cofrestredig;
(c)ychwanegu’r gair “Cymru” ar ddiwedd y disgrifiad cofrestredig;
(d)ychwanegu’r gair “Cymreig” ar ddiwedd y disgrifiad cofrestredig.
(9) At ddibenion paragraffau (3)(a) a (b) a (5), pan fo’r gair “the” (neu unrhyw air mewn iaith arall sydd â’r un swyddogaeth â’r gair “the”) yn ymddangos ar ddechrau enw cofrestredig, rhaid ei anwybyddu.
(10) Pan fo ymgeisydd yn ychwanegu unrhyw beth at ddisgrifiad mewn papur enwebu yn unol â’r rheol hon, mae cyfeiriadau yn y darpariaethau a ganlyn yn yr Atodlen hon at y disgrifiad yn gyfeiriadau at y disgrifiad gyda’r ychwanegiad.
Gwybodaeth Cychwyn
I14Atod. 1 para. 7 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1
8.—(1) Mae’r rheol hon yn nodi’r gofynion ynglŷn â datganiadau o aelodaeth plaid y mae’n rhaid eu cynnwys mewn papurau enwebu fel y crybwyllir yn rheol 5(3)(c).
(2) Rhaid i’r datganiad ddatgan a yw’r ymgeisydd wedi bod yn aelod o unrhyw blaid wleidyddol gofrestredig unrhyw bryd yn ystod y cyfnod perthnasol.
(3) Os yw’r ymgeisydd wedi bod yn aelod o un neu ragor o bleidiau gwleidyddol cofrestredig unrhyw bryd yn ystod y cyfnod perthnasol, rhaid i’r datganiad hefyd gynnwys yr wybodaeth a ganlyn mewn perthynas â’r blaid neu (yn ôl y digwydd) pob un o’r pleidiau y bu’r ymgeisydd yn aelod ohoni neu ohonynt—
(a)enw cofrestredig y blaid neu, pan fo gan y blaid ddau enw cofrestredig, enwau cofrestredig y blaid, a
(b)y dyddiadau yn ystod y cyfnod perthnasol pan fu’r ymgeisydd yn aelod o’r blaid.
(4) Nid yw paragraff (3) yn gymwys—
(a)pan fo’r papur enwebu’n cynnwys disgrifiad sy’n debygol o arwain etholwyr i gysylltu’r ymgeisydd â phlaid wleidyddol gofrestredig neu â dwy neu ragor o bleidiau gwleidyddol cofrestredig ac a ganiateir o dan reol 6(3) neu (yn ôl y digwydd) rheol 6(4), a
(b)pan nad yw’r ymgeisydd wedi bod yn aelod o blaid wleidyddol gofrestredig unrhyw bryd yn ystod y cyfnod perthnasol ac eithrio’r blaid neu’r pleidiau y mae’r disgrifiad hwnnw’n ymwneud â hi neu â hwy.
(5) Mae ymgeisydd sy’n methu’n fwriadol â chynnwys yn y papur enwebu ddatganiad o aelodaeth plaid sy’n cydymffurfio â gofynion y rheol hon yn euog o arfer lwgr.
(6) Yn y rheol hon—
(a)ystyr “plaid wleidyddol gofrestredig” yw plaid sydd wedi ei chofrestru o dan Ran 2 o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 unrhyw bryd yn ystod y cyfnod perthnasol pan fo’r ymgeisydd yn aelod;
(b)mae cyfeiriadau at enw cofrestredig plaid wleidyddol gofrestredig yn gyfeiriadau at enw’r blaid a gofrestrwyd o dan adran 28 o’r Ddeddf honno;
(c)ystyr “y cyfnod perthnasol” yw’r cyfnod o 12 mis sy’n dod i ben â’r diwrnod y cyhoeddir hysbysiad yr etholiad.
Gwybodaeth Cychwyn
I15Atod. 1 para. 8 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1
9.—(1) Mae’r rheol hon yn nodi’r gofynion ynglŷn â ffurflenni cyfeiriad cartref y mae’n rhaid iddynt gyd-fynd â phapurau enwebu o dan reol 5(6).
(2) Rhaid i ffurflen cyfeiriad cartref ddatgan—
(a)enwau llawn yr ymgeisydd,
(b)cyfeiriad cartref yr ymgeisydd yn llawn,
(c)cyfeiriad neu gyfeiriadau cymwys yr ymgeisydd, a
(d)y cymhwyster y mae pob cyfeiriad cymwys yn ymwneud ag ef.
(3) Mae cyfeiriad neu gyfeiriadau cymwys yr ymgeisydd, a’r cymhwyster y mae pob cyfeiriad cymwys yn ymwneud ag ef, yn dibynnu ar ba un neu ragor o opsiynau (a) i (d) ar y papur enwebu sydd wedi eu dewis gan yr ymgeisydd, fel y’u nodir yn y tabl a ganlyn.
Yr opsiwn a ddewisir ar y papur enwebu | Cyfeiriad cymwys yr ymgeisydd | Y cymhwyster y mae cyfeiriad cymwys yr ymgeisydd yn ymwneud ag ef |
---|---|---|
Opsiwn (a) | Y cyfeiriad llawn y mae’r ymgeisydd wedi ei gofrestru fel etholwr llywodraeth leol mewn cysylltiad ag ef | Y cymhwyster a ddisgrifir yn opsiwn (a) (cofrestru fel etholwr llywodraeth leol ar gyfer ardal y cyngor cymuned) |
Opsiwn (b) | Disgrifiad a chyfeiriad y tir neu’r fangre y mae’r ymgeisydd wedi eu meddiannu fel perchennog neu denant (neu, os yw’r ymgeisydd yn dibynnu ar fwy nag un meddiant i fodloni’r cymhwyster, y disgrifiadau a’r cyfeiriadau) | Y cymhwyster a ddisgrifir yn opsiwn (b) (meddiannu tir neu fangre arall yn ardal y cyngor cymuned fel perchennog neu denant) |
Opsiwn (c) | Cyfeiriad gweithle’r ymgeisydd (neu, os yw’r ymgeisydd yn dibynnu ar fwy nag un gweithle i fodloni’r cymhwyster, y cyfeiriadau) | Y cymhwyster a ddisgrifir yn opsiwn (c) (prif neu unig weithle yn ardal y cyngor cymuned) |
Opsiwn (d) | Y cyfeiriad neu’r cyfeiriadau llawn lle mae’r ymgeisydd wedi preswylio | Y cymhwyster a ddisgrifir yn opsiwn (d) (preswylio yn y gymuned neu o fewn 3 milltir iddi) |
(4) Os yw papur enwebu’r ymgeisydd yn cynnwys enwau blaen neu gyfenwau a ddefnyddir yn gyffredin, rhaid i’r ffurflen cyfeiriad cartref hefyd ddatgan yr enwau a ddefnyddir yn gyffredin.
(5) Rhaid i’r ffurflen cyfeiriad cartref ddatgan hefyd—
(a)enwau llawn y person sy’n dyst i lofnod yr ymgeisydd ar y papur enwebu, a
(b)cyfeiriad cartref y person hwnnw yn llawn.
(6) Caiff y ffurflen cyfeiriad cartref gynnwys datganiad a wnaed ac a lofnodwyd gan yr ymgeisydd na chaniateir cyhoeddi cyfeiriad cartref yr ymgeisydd.
(7) Os yw’r ffurflen cyfeiriad cartref yn cynnwys datganiad o’r fath, mae’n rhaid iddi—
(a)pan fo cyfeiriad cartref yr ymgeisydd yn y Deyrnas Unedig, ddatgan enw’r ardal berthnasol (gweler paragraff (8));
(b)pan fo cyfeiriad cartref yr ymgeisydd y tu allan i’r Deyrnas Unedig, ddatgan y wlad y mae wedi ei leoli ynddi.
(8) Yn y rheol hon, ystyr “ardal berthnasol” yw—
(a)pan fo cyfeiriad cartref yr ymgeisydd yng Nghymru—
(i)os yw’r cyfeiriad mewn sir, y sir honno;
(ii)os yw’r cyfeiriad mewn bwrdeistref sirol, y fwrdeistref sirol honno;
(b)pan fo cyfeiriad cartref yr ymgeisydd yn Lloegr—
(i)os yw’r cyfeiriad mewn dosbarth y ceir cyngor dosbarth ar ei gyfer, y dosbarth hwnnw;
(ii)os yw’r cyfeiriad mewn sir nad oes dosbarthau â chynghorau ynddi, y sir honno;
(iii)os yw’r cyfeiriad yn un o fwrdeistrefi Llundain, y fwrdeistref honno yn Llundain;
(iv)os yw’r cyfeiriad yn Ninas Llundain (gan gynnwys y Temlau Mewnol a Chanol), Dinas Llundain;
(v)os yw’r cyfeiriad yn Ynysoedd Sili, Ynysoedd Sili;
(c)pan fo cyfeiriad cartref yr ymgeisydd yn yr Alban, yr ardal llywodraeth leol y mae’r cyfeiriad wedi ei leoli ynddi;
(d)pan fo cyfeiriad cartref yr ymgeisydd yng Ngogledd Iwerddon, y dosbarth llywodraeth leol y mae wedi ei leoli ynddo.
Gwybodaeth Cychwyn
I16Atod. 1 para. 9 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1
10.—(1) Mae’r rheol hon yn gymwys pan ddanfonir papur enwebu a’r ffurflen cyfeiriad cartref sy’n cyd-fynd ag ef yn unol â’r rheolau hyn.
(2) Mae’r ymgeisydd yn dal wedi ei enwebu oni bai a hyd nes y bydd un o’r digwyddiadau a ganlyn yn digwydd—
(a)bod y swyddog canlyniadau’n penderfynu bod y papur enwebu’n annilys;
(b)bod y swyddog canlyniadau wedi ei fodloni bod yr ymgeisydd wedi marw;
(c)bod yr ymgeisydd yn tynnu’n ôl.
(3) Mae gan y swyddog canlyniadau hawl i ddyfarnu bod papur enwebu’n annilys ar un o’r seiliau a ganlyn yn unig—
(a)nad yw manylion yr ymgeisydd yn unol â gofynion y gyfraith;
(b)nad yw ffurflen cyfeiriad cartref yr ymgeisydd yn cydymffurfio â rheol 9(2) i (6);
(c)pan fo ffurflen cyfeiriad cartref yr ymgeisydd yn cynnwys datganiad na chaniateir cyhoeddi’r cyfeiriad cartref, nad yw’r ffurflen yn cydymffurfio â rheol 9(7);
(d)nad yw’r papur enwebu wedi ei lofnodi gan yr ymgeisydd, neu nad yw llofnod yr ymgeisydd wedi ei ardystio, yn unol â gofynion rheol 5(5).
(4) Yn ddarostyngedig i baragraff (5), rhaid i’r swyddog canlyniadau, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl i bob papur enwebu a ffurflen cyfeiriad cartref gael eu danfon, eu harchwilio a phenderfynu a yw’r ymgeisydd wedi ei enwebu’n ddilys.
(5) Os oes disgrifiad mewn papur enwebu wedi ei gynnwys ym marn y swyddog canlyniadau yn groes i reol 6(3) neu (4) neu 7, rhaid i’r swyddog canlyniadau roi penderfyniad nad yw manylion yr ymgeisydd yn unol â gofynion y gyfraith —
(a)cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl i’r papur enwebu gael ei ddanfon, a
(b)beth bynnag, cyn diwedd y cyfnod o 24 awr sy’n dechrau â diwedd y cyfnod ar gyfer danfon papurau enwebu.
(6) Pan fo’r swyddog canlyniadau’n penderfynu bod papur enwebu’n annilys, rhaid i’r swyddog canlyniadau arnodi ar y papur y ffaith bod y penderfyniad wedi ei wneud a’r rhesymau drosto a llofnodi’r arnodiad.
(7) Rhaid i’r swyddog canlyniadau roi hysbysiad i bob ymgeisydd yn datgan penderfyniad y swyddog canlyniadau a yw papur enwebu’r ymgeisydd yn ddilys ynteu’n annilys.
(8) Mae penderfyniad y swyddog canlyniadau bod papur enwebu yn ddilys yn derfynol ac ni chaniateir ei amau mewn unrhyw achos.
(9) Ac eithrio fel y darperir gan baragraff (8), nid oes dim yn y rheol hon yn atal dilysrwydd enwebiad rhag cael ei amau ar ddeiseb etholiad.
Gwybodaeth Cychwyn
I17Atod. 1 para. 10 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1
11.—(1) Rhaid i ymgeisydd sydd wedi ei enwebu’n ddilys ar gyfer mwy nag un ardal etholiadol yn yr un gymuned dynnu’n ôl o ymgeisyddiaeth yn yr holl ardaloedd etholiadol hynny ond un.
(2) Mae ymgeisydd nad yw’n tynnu’n ôl yn unol â gofynion paragraff (1) i’w drin fel pe bai wedi tynnu’n ôl o ymgeisyddiaeth yn yr holl ardaloedd etholiadol lle cafodd yr ymgeisydd ei enwebu’n ddilys.
Gwybodaeth Cychwyn
I18Atod. 1 para. 11 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1
12.—(1) Caiff ymgeisydd dynnu’n ôl o ymgeisyddiaeth drwy roi hysbysiad tynnu’n ôl i’r swyddog canlyniadau.
(2) Rhaid i’r hysbysiad tynnu’n ôl gael ei lofnodi gan yr ymgeisydd ym mhresenoldeb tyst sy’n gorfod tystio i lofnod yr ymgeisydd.
Gwybodaeth Cychwyn
I19Atod. 1 para. 12 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1
13.—(1) Rhaid i’r swyddog canlyniadau baratoi a chyhoeddi datganiad (“datganiad o’r personau a enwebwyd”) yn dangos—
(a)y personau a enwebwyd ac sy’n dal wedi eu henwebu, a
(b)unrhyw bersonau eraill a enwebwyd ond nad ydynt yn dal wedi eu henwebu mwyach, gyda’r rheswm nad ydynt yn dal wedi eu henwebu mwyach.
(2) Rhaid i’r datganiad ddangos—
(a)enwau a disgrifiadau (os oes rhai) y personau a enwebwyd, fel y’u rhoddwyd yn eu papurau enwebu,
(b)yr wybodaeth am eu cyfeiriad cartref (gweler paragraff (3)), ac
(c)yr wybodaeth a gynhwyswyd yn eu datganiadau o aelodaeth plaid, fel y’i rhoddwyd yn eu papurau enwebu.
(3) Yn y rheolau hyn, mae cyfeiriadau at yr wybodaeth am gyfeiriad cartref person a enwebwyd yn gyfeiriadau at yr wybodaeth a ganlyn fel y’i rhoddwyd yn y ffurflen cyfeiriad cartref sy’n cyd-fynd â’r papur enwebu—
(a)pan fo’r ffurflen cyfeiriad cartref yn cynnwys datganiad na chaniateir cyhoeddi’r cyfeiriad cartref, yr wybodaeth a roddwyd yn unol â rheol 9(7);
(b)pan nad yw’r ffurflen cyfeiriad cartref yn cynnwys datganiad o’r fath, cyfeiriad y person a enwebwyd.
(4) Rhaid i’r datganiad ddangos y personau sy’n dal wedi eu henwebu yn nhrefn yr wyddor yn ôl eu cyfenwau, ac os oes gan ddau neu ragor ohonynt yr un cyfenwau, rhaid i’r datganiad ddangos y personau hynny yn nhrefn yr wyddor yn ôl eu henwau eraill.
(5) Mae rheol 14 (defnyddio enwau a ddefnyddir yn gyffredin) a rheol 15 (enwau sydd yr un fath neu’n debyg) yn gwneud darpariaeth bellach ynghylch cynnwys y datganiad o’r personau a enwebwyd.
Gwybodaeth Cychwyn
I20Atod. 1 para. 13 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1
14.—(1) Mae’r rheol hon yn gymwys pan fo papur enwebu person yn rhoi enwau blaen neu gyfenwau a ddefnyddir yn gyffredin yn unol â rheol 5(4).
(2) Rhaid i’r datganiad o’r personau a enwebwyd ddangos enwau blaen neu gyfenwau’r person a ddefnyddir yn gyffredin (yn hytrach na’r enwau blaen neu’r cyfenwau a ddatganwyd yn y papur enwebu yn unol â rheol 5(3)(a)) oni bai bod y swyddog canlyniadau’n penderfynu—
(a)y gallai defnyddio enwau blaen neu gyfenwau’r person a ddefnyddir yn gyffredin fod yn debygol o gamarwain neu ddrysu etholwyr, neu
(b)bod yr enwau blaen neu’r cyfenwau a ddefnyddir yn gyffredin yn anweddus neu’n dramgwyddus.
(3) Pan fo paragraff (2)(a) neu (b) yn gymwys—
(a)rhaid i’r datganiad o’r personau a enwebwyd ddangos enwau blaen neu gyfenwau eraill y person fel y’u datganwyd yn y papur enwebu yn unol â rheol 5(3)(a) (yn hytrach na’r enwau blaen neu’r cyfenwau a ddefnyddir yn gyffredin), a
(b)rhaid i’r swyddog canlyniadau roi hysbysiad i’r ymgeisydd yn datgan y rhesymau dros wrthod caniatáu defnyddio’r enwau blaen neu’r cyfenwau a ddefnyddir yn gyffredin.
Gwybodaeth Cychwyn
I21Atod. 1 para. 14 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1
15.—(1) Mae’r rheol hon yn gymwys pan fo’r swyddog canlyniadau, wrth baratoi datganiad o’r personau a enwebwyd, yn penderfynu—
(a)bod dau neu ragor o’r enwau a fyddai’n cael eu dangos ar y datganiad yr un fath neu mor debyg nes eu bod yn debygol o beri dryswch,
(b)bod pob un o’r personau dan sylw wedi gwneud datganiad eu bod yn ei gwneud yn ofynnol i’w cyfeiriad cartref beidio â chael ei gyhoeddi (gweler rheol 9(6)), ac
(c)bod yr wybodaeth a roddwyd yn unol â rheol 9(7) yr un fath ar gyfer pob un ohonynt.
(2) Caiff y swyddog canlyniadau drefnu i unrhyw un neu ragor o’u manylion gael eu dangos ar y datganiad o’r personau a enwebwyd gydag unrhyw ddiwygiadau neu ychwanegiadau sy’n briodol ym marn y swyddog canlyniadau er mwyn lleihau’r tebygolrwydd o ddryswch.
(3) Wrth benderfynu a ddylid gwneud diwygiadau neu ychwanegiadau o dan y rheol hon, rhaid i’r swyddog canlyniadau roi sylw i unrhyw ganllawiau a roddwyd gan y Comisiwn Etholiadol at ddibenion y rheol hon.
(4) Pan fo’n ymarferol gwneud hynny cyn cyhoeddi’r datganiad, rhaid i’r swyddog canlyniadau ymgynghori ag unrhyw bersonau y bwriedir diwygio’u manylion neu ychwanegu at eu manylion o dan y rheol hon.
(5) Rhaid i’r swyddog canlyniadau roi hysbysiad i unrhyw berson y diwygiwyd ei fanylion neu yr ychwanegwyd at ei fanylion o dan y rheol hon, yn nodi’r diwygiadau neu’r ychwanegiadau.
(6) Ni chaniateir i unrhyw beth a wneir gan swyddog canlyniadau o dan y rheol hon gael ei amau mewn unrhyw achos heblaw achos ar ddeiseb etholiad.
Gwybodaeth Cychwyn
I22Atod. 1 para. 15 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1
16.—(1) Caiff swyddog canlyniadau, unrhyw bryd cyn cyhoeddi’r datganiad o’r personau a enwebwyd, gywiro mân wallau mewn papur enwebu neu ffurflen cyfeiriad cartref.
(2) Mae’r gwallau y caniateir eu cywiro yn cynnwys—
(a)gwallau o ran rhif etholiadol person;
(b)gwallau sillafu amlwg;
(c)gwallau o ran yr wybodaeth a roddwyd yn unol â rheol 9(7) (gwybodaeth y mae’n rhaid ei chynnwys pan fo’r ymgeisydd wedi datgan na chaniateir cyhoeddi’r cyfeiriad cartref).
(3) Ni chaniateir i unrhyw beth a wneir gan swyddog canlyniadau yn unol â’r rheol hon gael ei amau mewn unrhyw achos heblaw achos ar ddeiseb etholiad.
(4) Wrth benderfynu a ddylid cywiro mân wallau o dan y rheol hon, rhaid i swyddog canlyniadau roi sylw i unrhyw ganllawiau a roddwyd gan y Comisiwn Etholiadol at ddibenion y rheol hon.
Gwybodaeth Cychwyn
I23Atod. 1 para. 16 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1
17.—(1) Yn ystod yr amser ar gyfer archwilio, caiff unrhyw berson archwilio papurau enwebu sydd wedi eu danfon.
(2) Ym mharagraff (1), ystyr “yr amser ar gyfer archwilio” yw oriau swyddfa arferol ar unrhyw ddiwrnod ar ôl y diwrnod olaf ar gyfer danfon papurau enwebu a chyn diwrnod y bleidlais, ac eithrio diwrnod eithriedig.
(3) Caiff person sy’n archwilio papurau enwebu gymryd copi o’r papurau, neu godi dyfyniadau ohonynt.
Gwybodaeth Cychwyn
I24Atod. 1 para. 17 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1
18.—(1) Yn ystod yr amser ar gyfer archwilio, caniateir i ffurflen cyfeiriad cartref ymgeisydd sy’n dal wedi ei enwebu gael ei harchwilio gan unrhyw un neu ragor o’r canlynol sy’n dymuno ei harchwilio—
(a)ymgeisydd arall sy’n dal wedi ei enwebu yn yr un ardal etholiadol;
(b)asiant etholiadol (os penodwyd un) ymgeisydd arall sy’n dal wedi ei enwebu yn yr ardal honno;
(c)yn achos ymgeisydd arall sy’n dal wedi ei enwebu yn yr ardal honno ac sydd heb benodi asiant etholiadol, person arall a ddewisir gan yr ymgeisydd hwnnw.
(2) Ym mharagraff (1), ystyr “yr amser ar gyfer archwilio” yw oriau swyddfa arferol ar unrhyw ddiwrnod ar ôl y diwrnod olaf ar gyfer danfon papurau enwebu a chyn diwrnod y bleidlais, ac eithrio diwrnod eithriedig.
(3) Ni chaiff ymgeisydd neu berson arall sy’n cynnal archwiliad o dan y rheol hon gymryd copi o ffurflen cyfeiriad cartref na chodi dyfyniadau ohoni.
(4) Ni chaiff y swyddog canlyniadau ganiatáu i ffurflen cyfeiriad cartref gael ei harchwilio heblaw yn unol â’r rheol hon neu at ryw ddiben arall a awdurdodir gan y gyfraith.
Gwybodaeth Cychwyn
I25Atod. 1 para. 18 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1
19.—(1) Mae’r rheol hon yn gymwys os torrir ar draws trafodion ar gyfer enwebu, neu mewn cysylltiad ag enwebu, neu os rhwystrir y trafodion hynny, ar unrhyw ddiwrnod gan derfysg neu drais agored.
(2) Rhaid rhoi’r gorau i’r trafodion am y diwrnod hwnnw.
(3) Os y diwrnod olaf ar gyfer danfon papurau enwebu yw’r diwrnod y rhoddir y gorau i’r trafodion, rhaid ailddechrau’r trafodion drannoeth.
(4) Pan fo paragraff (3) yn ei gwneud yn ofynnol bod y trafodion yn ailddecrhau drannoeth, mae’r dyddiadau cau a bennir yn ail golofn yr amserlen yn rheol 1 ar gyfer danfon papurau enwebu, danfon hysbysiadau tynnu ymgeisyddiaeth yn ôl a chyhoeddi’r datganiad o’r personau a enwebwyd i gyd yn cael eu hymestyn un diwrnod.
(5) Pan roddir y gorau i drafodion o dan y rheol hon—
(a)ni chaniateir i ddim byd gael ei wneud ar ôl ailddechrau’r trafodion os oedd yr amser ar gyfer ei wneud wedi mynd heibio pan roddwyd y gorau i’r trafodion, a
(b)nid yw dim byd a wnaed cyn rhoi’r gorau i’r trafodion yn annilys oherwydd rhoi’r gorau iddynt.
Gwybodaeth Cychwyn
I26Atod. 1 para. 19 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1
20.—(1) Rhaid i’r swyddog canlyniadau benderfynu a yw nifer y personau sy’n dal wedi eu henwebu’n ddilys ar gyfer yr ardal etholiadol ar ôl i unrhyw un neu ragor dynnu’n ôl o dan reol 12 yn fwy na nifer y cynghorwyr sydd i’w hethol.
(2) Os nad yw nifer y personau sy’n dal wedi eu henwebu’n ddilys yn fwy na nifer y cynghorwyr sydd i’w hethol, rhaid i’r swyddog canlyniadau ddatgan bod y person neu’r personau sy’n dal wedi ei enwebu neu eu henwebu’n ddilys wedi ei ethol neu wedi eu hethol.
(3) Rhaid hefyd i’r swyddog canlyniadau—
(a)rhoi hysbysiad yn datgan enwau a chyfeiriadau’r rhai y datganwyd eu bod wedi eu hethol—
(i)i swyddog priodol y cyngor cymuned, a
(ii)i swyddog priodol y cyngor sir neu’r cyngor bwrdeistref sirol y lleolir y gymuned ynddo, a
(b)cyhoeddi eu henwau.
(4) Os yw nifer y personau sy’n dal wedi eu henwebu’n ddilys yn fwy na nifer y cynghorwyr sydd i’w hethol, rhaid cynnal pleidlais yn unol â Rhan 3.
Gwybodaeth Cychwyn
I27Atod. 1 para. 20 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1
21.—(1) Rhaid i’r pleidleisiau yn y bleidlais gael eu rhoi drwy bleidlais gudd.
(2) Rhaid canfod y canlyniad yn unol â Rhan 4 (cyfrif y pleidleisiau).
Gwybodaeth Cychwyn
I28Atod. 1 para. 21 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1
22.—(1) Rhaid i bleidlais gudd pob pleidleisiwr fod yn bapur pleidleisio.
(2) Yr unig bersonau sydd â hawl i gael eu henwau wedi eu gosod ar y papur pleidleisio yw’r rhai sy’n dal wedi eu henwebu’n ddilys ar gyfer yr ardal etholiadol ar ôl i unrhyw un neu ragor dynnu’n ôl o dan reol 12.
(3) Rhaid i bapur pleidleisio—
(a)bod yn y ffurf yn Atodiad 2, a
(b)bod wedi ei argraffu yn unol â’r cyfarwyddydau yn yr Atodiad hwnnw.
(4) Rhaid i’r papur pleidleisio—
(a)cynnwys enwau a disgrifiadau (os oes rhai) yr ymgeiswyr a’r wybodaeth am eu cyfeiriad cartref, fel y’u dangoswyd yn y datganiad o’r personau a enwebwyd,
(b)gallu cael ei blygu, ac
(c)bod â rhif a marc adnabod unigryw arall wedi eu hargraffu ar y cefn.
(5) Ar gais ymgeisydd sydd wedi ei awdurdodi o dan reol 6(3)(c) i ddefnyddio disgrifiad sy’n debygol o arwain etholwyr i gysylltu’r ymgeisydd â phlaid wleidyddol gofrestredig, rhaid i’r papur pleidleisio gynnwys, gyferbyn â manylion yr ymgeisydd, un arwyddlun cofrestredig i’r blaid.
(6) Ar gais ymgeisydd sydd wedi ei awdurdodi o dan reol 6(4)(c) i ddefnyddio disgrifiad sy’n debygol o arwain etholwyr i gysylltu’r ymgeisydd â dwy neu ragor o bleidiau gwleidyddol cofrestredig, rhaid i’r papur pleidleisio gynnwys, gyferbyn â manylion yr ymgeisydd, un arwyddlun cofrestredig i un o’r pleidiau.
(7) Rhaid i gais yr ymgeisydd o dan baragraff (5) neu (6)—
(a)cael ei wneud mewn ysgrifen i’r swyddog canlyniadau, a
(b)dod i law’r swyddog canlyniadau cyn yr amser olaf ar gyfer danfon papurau enwebu fel y’i nodir yn yr amserlen yn rheol 1.
(8) Rhaid i drefn yr enwau yn y papur pleidleisio fod yr un fath ag yn y datganiad o’r personau a enwebwyd.
Gwybodaeth Cychwyn
I29Atod. 1 para. 22 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1
23.—(1) Rhaid i’r swyddog canlyniadau baratoi rhestr (“y rhestr rhifau cyfatebol”) yn unol â’r rheol hon.
(2) Rhaid i’r rhestr rhifau cyfatebol fod mewn dwy ran.
(3) Rhaid i Ran 1 gynnwys rhifau a marciau adnabod unigryw yr holl bapurau pleidleisio sydd i’w dyroddi yn unol â rheol 28(1) (papurau pleidleisio post).
(4) Rhaid i Ran 2 gynnwys rhifau (ond nid marciau adnabod unigryw) yr holl bapurau pleidleisio sydd i’w darparu yn unol â rheol 32(1) (darparu blychau pleidleisio a phapurau pleidleisio mewn gorsafoedd pleidleisio).
(5) Rhaid i’r rhestr rhifau cyfatebol fod yn y ffurf a nodir yn Atodiad 3 neu ffurf i’r un perwyl.
Gwybodaeth Cychwyn
I30Atod. 1 para. 23 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1
24.—(1) Rhaid i bob papur pleidleisio gynnwys marc diogelwch priodol (“y marc swyddogol”).
(2) Rhaid cadw’r marc swyddogol yn gyfrinachol.
(3) Rhaid i gyfnod o ddim llai na phum mlynedd fynd heibio rhwng defnyddio’r un marc swyddogol mewn etholiadau ar gyfer yr un gymuned.
(4) Caiff y swyddog canlyniadau ddefnyddio marc swyddogol gwahanol at ddibenion gwahanol yn yr un etholiad.
Gwybodaeth Cychwyn
I31Atod. 1 para. 24 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1
25. Ni chaniateir ei gwneud yn ofynnol i berson sydd wedi pleidleisio yn yr etholiad ddatgan dros bwy y pleidleisiodd mewn unrhyw achos cyfreithiol i amau’r etholiad.
Gwybodaeth Cychwyn
I32Atod. 1 para. 25 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1
26.—(1) Caiff y swyddog canlyniadau ddefnyddio unrhyw un neu ragor o’r ystafelloedd a ganlyn yn rhad ac am ddim er mwyn cynnal y bleidlais neu gyfrif y pleidleisiau—
(a)ystafell mewn ysgol a gynhelir neu a gynorthwyir gan gyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol;
(b)ystafell mewn ysgol y mae grantiau’n cael eu rhoi mewn cysylltiad â hi o arian a ddarperir gan Senedd Cymru i’r person neu’r corff sy’n gyfrifol am reoli’r ysgol;
(c)unrhyw ystafell arall os yw cost cynnal a chadw’r ystafell yn daladwy yn gyfan gwbl neu’n bennaf o arian cyhoeddus.
(2) Pan ddefnyddir ystafell a ddisgrifir ym mharagraff (1) er mwyn cynnal y bleidlais neu gyfrif y pleidleisiau, mae’n rhaid i’r swyddog canlyniadau—
(a)cywiro unrhyw ddifrod i’r ystafell sy’n deillio o’i defnyddio at y diben hwnnw, a
(b)talu unrhyw gost a ysgwyddir gan y person neu’r corff sydd â rheolaeth dros yr ystafell oherwydd ei defnyddio at y diben hwnnw.
Gwybodaeth Cychwyn
I33Atod. 1 para. 26 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1
27.—(1) Rhaid i’r swyddog canlyniadau gyhoeddi hysbysiad o’r bleidlais yn datgan—
(a)y diwrnod a’r oriau a bennwyd ar gyfer y bleidlais,
(b)nifer y cynghorwyr sydd i’w hethol dros yr ardal etholiadol, ac
(c)enwau a disgrifiadau (os oes rhai) pob ymgeisydd sy’n dal wedi ei enwebu’n ddilys a’r wybodaeth am eu cyfeiriad cartref.
(2) Rhaid i fanylion yr ymgeiswyr, a threfn enwau’r ymgeiswyr, fod yr un fath ag yn y datganiad o’r personau a enwebwyd.
(3) Rhaid i’r swyddog canlyniadau, cyn cyhoeddi hysbysiad o’r bleidlais, neu yr un pryd, hefyd gyhoeddi hysbysiad—
(a)o safle pob gorsaf bleidleisio, a
(b)o’r disgrifiad o bleidleiswyr sydd â hawl i bleidleisio yno.
(4) Rhaid i’r swyddog canlyniadau, cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl cyhoeddi hysbysiad o dan baragraff (3), roi copi ohono i bob un o’r ymgeiswyr neu i’w hasiantau etholiadol (os penodwyd rhai).
Gwybodaeth Cychwyn
I34Atod. 1 para. 27 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1
28.—(1) Rhaid i’r swyddog canlyniadau, yn unol â rheoliadau o dan Ddeddf 1983(11), ddyroddi i’r rhai sydd â hawl i bleidleisio drwy’r post—
(a)papur pleidleisio,
(b)datganiad pleidleisio post yn y ffurf a nodir yn Atodiad 4 neu ffurf i’r un perwyl, ac
(c)unrhyw amlenni ar gyfer dychwelyd y papur pleidleisio a’r datganiad pleidleisio post a ragnodir gan reoliadau o dan Ddeddf 1983.
(2) Rhaid i’r swyddog canlyniadau hefyd ddyroddi i’r rhai sydd â hawl i bleidleisio drwy’r post unrhyw wybodaeth y mae’r swyddog canlyniadau o’r farn ei bod yn briodol ynghylch sut i gael—
(a)cyfieithiadau i ieithoedd heblaw Cymraeg a Saesneg o unrhyw gyfarwyddydau neu ganllawiau i bleidleiswyr a anfonir gyda’r papur pleidleisio,
(b)cyfieithiad i Braille o’r cyfarwyddydau neu’r canllawiau hynny,
(c)delweddau graffig o’r cyfarwyddydau neu’r canllawiau hynny, a
(d)y cyfarwyddydau neu’r canllawiau ar unrhyw ffurf arall (gan gynnwys unrhyw ffurf glywadwy).
(3) Rhaid i’r datganiad pleidleisio post gynnwys darpariaeth—
(a)i’r ffurflen gael ei llofnodi gan yr etholwr neu, pan fo’r etholwr yn pleidleisio drwy ddirprwy, gan y dirprwy, oni bai bod y swyddog cofrestru wedi hepgor y gofyniad ynglŷn â llofnod, a
(b)ar gyfer datgan dyddiad geni’r etholwr neu, pan fo’r etholwr yn pleidleisio drwy ddirprwy, dyddiad geni’r dirprwy.
(4) Yn achos papur pleidleisio a ddyroddir i berson mewn cyfeiriad yn y Deyrnas Unedig, rhaid i’r swyddog canlyniadau sicrhau bod y pleidleisiwr yn gallu dychwelyd y papur pleidleisio a’r datganiad pleidleisio post yn rhad ac am ddim.
Gwybodaeth Cychwyn
I35Atod. 1 para. 28 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1
29.—(1) Rhaid i’r swyddog canlyniadau—
(a)darparu nifer digonol o orsafoedd pleidleisio, a
(b)dyrannu’r etholwyr i’r gorsafoedd pleidleisio.
(2) Caniateir darparu un neu ragor o orsafoedd pleidleisio yn yr un ystafell.
(3) Rhaid i’r swyddog canlyniadau ddarparu i bob gorsaf bleidleisio unrhyw nifer o fythau a all fod yn angenrheidiol lle gall pleidleiswyr farcio’u pleidleisiau wedi eu sgrinio heb gael eu gweld.
Gwybodaeth Cychwyn
I36Atod. 1 para. 29 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1
30.—(1) Rhaid i’r swyddog canlyniadau benodi a thalu—
(a)swyddog llywyddu i fod yn bresennol ym mhob gorsaf bleidleisio, a
(b)unrhyw nifer o glercod sy’n angenrheidiol at ddibenion y bleidlais neu’r cyfrif neu fel arall at ddibenion yr etholiad.
(2) Rhaid i’r swyddog canlyniadau beidio â phenodi’n fwriadol fel swyddog llywyddu neu glerc berson a gyflogwyd gan neu ar ran ymgeisydd mewn cysylltiad â’r etholiad.
(3) Caiff y swyddog canlyniadau lywyddu mewn gorsaf bleidleisio.
(4) Pan fo’r swyddog canlyniadau yn llywyddu mewn gorsaf bleidleisio, mae’r rheolau hyn yn gymwys i’r swyddog canlyniadau sy’n llywyddu felly gyda’r addasiadau angenrheidiol o ran pethau a wneir gan y swyddog canlyniadau mewn perthynas â’r swyddog llywyddu neu gan y swyddog llywyddu mewn perthynas â’r swyddog canlyniadau.
(5) Caiff swyddog llywyddu awdurdodi’r clercod i wneud unrhyw beth (gan gynnwys gofyn cwestiynau) y mae’r rheolau hyn yn ei gwneud yn ofynnol i’r swyddog llywyddu ei wneud neu’n awdurdodi’r swyddog llywyddu i’w wneud mewn gorsaf bleidleisio, ac eithrio gorchymyn i unrhyw berson gael ei wahardd neu ei symud o’r orsaf bleidleisio.
Gwybodaeth Cychwyn
I37Atod. 1 para. 30 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1
31.—(1) Caiff y cyngor cymuned, heb fod yn hwyrach na 4 p.m. ar y pedwerydd diwrnod ar bymtheg cyn diwrnod yr etholiad, ofyn i’r swyddog canlyniadau ddyroddi cardiau pleidleisio ar gyfer yr etholiad.
(2) Cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl cael y cais, rhaid i’r swyddog canlyniadau anfon neu ddanfon—
(a)cerdyn pleidleisio swyddogol i etholwyr nad ydynt yn pleidleisio drwy’r post,
(b)cerdyn swyddogol pleidleisio drwy’r post i etholwyr sy’n pleidleisio drwy’r post ac nid drwy ddirprwy,
(c)cerdyn swyddogol pleidleisio drwy ddirprwy i berson sy’n pleidleisio fel dirprwy ar ran etholwr ac nid drwy’r post, a
(d)cerdyn swyddogol pleidleisio drwy’r post drwy ddirprwy i berson sy’n pleidleisio fel dirprwy ar ran etholwr drwy’r post.
(3) Yn achos etholwr sydd â chofnod dienw, rhaid i’r swyddog canlyniadau ddyroddi’r cerdyn pleidleisio priodol p’un a yw’r cyngor wedi gofyn am i gardiau pleidleisio gael eu dyroddi o dan baragraff (1) ai peidio.
(4) Rhaid i gerdyn pleidleisio swyddogol neu gerdyn swyddogol pleidleisio drwy’r post gael ei anfon neu ei ddanfon i gyfeiriad cymwys yr etholwr.
(5) Rhaid i gerdyn swyddogol pleidleisio drwy ddirprwy neu gerdyn swyddogol pleidleisio drwy’r post drwy ddirprwy gael ei anfon neu ei ddanfon i gyfeiriad y dirprwy, fel y’i dangosir yn y rhestr dirprwyon.
(6) Rhaid i bob cerdyn pleidleisio fod yn y ffurf briodol yn Atodiad 5 neu ffurf i’r un perwyl a rhaid iddo nodi—
(a)enw’r cyngor y mae cynghorwyr i’w hethol iddo,
(b)yr ardal etholiadol y mae cynghorwyr i’w hethol drosti,
(c)nifer y cynghorwyr sydd i’w hethol dros yr ardal etholiadol honno,
(d)enw, cyfeiriad cymwys a rhif cofrestr yr etholwr,
(e)dyddiad ac oriau’r bleidlais a safle gorsaf bleidleisio’r etholwr, ac
(f)unrhyw wybodaeth arall y mae’r swyddog canlyniadau o’r farn ei bod yn briodol.
(7) Caniateir i wybodaeth wahanol gael ei darparu o dan baragraff (6)(f) i wahanol etholwyr neu ddisgrifiadau o etholwr.
(8) Yn achos etholwr sydd â chofnod dienw, rhaid i’r cerdyn pleidleisio—
(a)cynnwys unrhyw wybodaeth a bennir yn y ffurf briodol yn Atodiad 5 yn hytrach na’r wybodaeth a nodir ym mharagraff (6)(d), a
(b)cael ei anfon neu ei ddanfon mewn amlen neu fath arall o orchudd fel nad yw’n datgelu bod gan yr etholwr gofnod dienw.
(9) Yn y rheol hon—
(a)ystyr “etholwr” yw person sydd wedi ei gofrestru yn y gofrestr etholwyr llywodraeth leol ar gyfer yr ardal etholiadol o dan sylw ar y diwrnod olaf ar gyfer cyhoeddi hysbysiad o’r etholiad, ac eithrio ei fod yn cynnwys person a ddangosir y pryd hwnnw yn y gofrestr (neu, yn achos person sydd â chofnod dienw yn y gofrestr, yn y cofnod o gofnodion dienw) fel person sydd o dan yr oedran pleidleisio dim ond os yw’n ymddangos o’r gofrestr (neu o’r cofnod o gofnodion dienw) y bydd y person o oedran pleidleisio ar y diwrnod a bennwyd ar gyfer y bleidlais;
(b)mae i “cyfeiriad cymwys” yr un ystyr ag sydd i “qualifying address” yn Neddf 1983 (gweler adran 202(1) o’r Ddeddf honno(12)).
Gwybodaeth Cychwyn
I38Atod. 1 para. 31 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1
32.—(1) Rhaid i’r swyddog canlyniadau ddarparu i bob swyddog llywyddu unrhyw nifer o flychau pleidleisio a phapurau pleidleisio y mae’r swyddog canlyniadau o’r farn eu bod yn angenrheidiol.
(2) Rhaid i bob blwch pleidleisio fod wedi ei adeiladu fel y gellir rhoi papurau pleidleisio ynddo, ond na ellir eu tynnu’n ôl ohono, heb i’r blwch gael ei ddatgloi neu, pan nad oes clo ar y blwch, heb i’r sêl gael ei thorri.
(3) Rhaid i’r swyddog canlyniadau ddarparu i bob gorsaf bleidleisio—
(a)deunyddiau i alluogi’r pleidleiswyr i farcio’r papurau pleidleisio,
(b)copïau o’r gofrestr etholwyr berthnasol,
(c)copïau o unrhyw hysbysiadau a ddyroddwyd o dan adran 13B(3B) neu (3D) o Ddeddf 1983(13)i’r graddau y maent yn ymwneud â’r gofrestr etholwyr berthnasol,
(d)copïau o’r rhannau o unrhyw restrau o bersonau sydd â hawl i bleidleisio drwy’r post neu drwy ddirprwy sy’n cyfateb i’r gofrestr etholwyr berthnasol, ac
(e)rhestr (“rhestr rhifau cyfatebol yr orsaf bleidleisio”) sy’n cynnwys y rhan honno o Ran 2 o’r rhestr rhifau cyfatebol a baratowyd o dan reol 23 sy’n cynnwys y rhifau, ond nid y marciau adnabod unigryw eraill, sy’n cyfateb i’r rhai ar y papurau pleidleisio a ddarperir i’r swyddog llywyddu o dan baragraff (1).
(4) Ym mharagraff (3), ystyr “y gofrestr etholwyr berthnasol” yw’r gofrestr etholwyr ar gyfer yr ardal etholiadol neu unrhyw ran ohoni sy’n cynnwys y cofnodion sy’n ymwneud â’r etholwyr a ddyrannwyd i’r orsaf bleidleisio.
(5) Rhaid i’r swyddog canlyniadau beri i gopi sampl wedi ei ehangu o’r papur pleidleisio gael ei arddangos ym mhob gorsaf bleidleisio.
(6) Rhaid i’r swyddog canlyniadau hefyd ddarparu i bob gorsaf bleidleisio—
(a)copi sampl wedi ei ehangu o’r papur pleidleisio i’w ddal yn y llaw er mwyn cynorthwyo pleidleiswyr sy’n rhannol ddall, a
(b)dyfais i alluogi pleidleiswyr sy’n ddall neu’n rhannol ddall i bleidleisio heb fod angen cymorth y swyddog llywyddu neu gydymaith (gweler rheolau 43 i 45 o ran y cymorth y caniateir i’r swyddog llywyddu neu gydymaith ei roi).
(7) Rhaid i’r copi sampl o’r papur pleidleisio y mae’n ofynnol ei arddangos a’i ddarparu o dan baragraffau (5) a (6)(a) gael ei farcio’n glir fel sbesimen a’i ddarparu i arwain y pleidleiswyr yn unig.
(8) Rhaid i’r ddyfais y cyfeirir ati ym mharagraff (6)(b)—
(a)caniatáu i bapur pleidleisio gael ei fewnosod yn y ddyfais a’i thynnu ohoni, neu ei gysylltu â’r ddyfais a’i datgysylltu oddi wrthi yn hawdd a heb ddifrodi’r papur,
(b)dal y papur pleidleisio yn gadarn yn ei le wrth gael ei defnyddio, ac
(c)darparu modd addas i’r pleidleisiwr—
(i)adnabod y bylchau ar y papur pleidleisio y gellir marcio pleidleisiau arnynt,
(ii)adnabod yr ymgeisydd y mae pob bwlch yn cyfeirio ato, a
(iii)marcio’i bleidlais yn y bwlch a ddewisir.
(9) Rhaid i’r swyddog canlyniadau hefyd beri i hysbysiad yn y ffurf yn Atodiad 6, yn rhoi cyfarwyddydau i arwain y pleidleiswyr wrth bleidleisio, gael ei arddangos—
(a)y tu mewn i bob gorsaf bleidleisio (ond y tu allan i’r bythau pleidleisio), a
(b)y tu allan i bob gorsaf bleidleisio.
(10) Caniateir hefyd i’r swyddog canlyniadau ddarparu copïau o’r hysbysiad mewn Braille neu mewn unrhyw ieithoedd heblaw Cymraeg a Saesneg y mae’r swyddog canlyniadau o’r farn eu bod yn briodol.
(11) Rhaid dangos hysbysiad sy’n cynnwys yr wybodaeth a ganlyn y tu mewn i bob bwth pleidleisio ym mhob gorsaf bleidleisio—
(a)pan fo un cynghorydd yn unig i gael ei ethol, cyfarwyddyd i’r pleidleisiwr i bleidleisio unwaith yn unig drwy roi croes [X] yn y blwch gyferbyn â’i ddewis;
(b)pan fo mwy nag un cynghorydd i gael eu hethol, cyfarwyddyd i’r pleidleisiwr i bleidleisio dros ddim mwy na’r nifer sydd i’w ethol drwy roi croes [X] yn y blwch gyferbyn â phob un o’i ddewisiadau;
(c)rhybudd i’r pleidleisiwr i beidio â rhoi unrhyw farc arall ar y papur pleidleisio neu mae’n bosibl na fydd ei bleidlais yn cyfrif.
Gwybodaeth Cychwyn
I39Atod. 1 para. 32 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1
33.—(1) Cyn i’r bleidlais ddechrau, caiff ymgeisydd benodi—
(a)asiantau pleidleisio i fod yn bresennol mewn gorsafoedd pleidleisio er mwyn canfod cambersonadu, a
(b)asiantau cyfrif i fod yn bresennol wrth i’r pleidleisiau gael eu cyfrif.
(2) Caniateir i’r un person gael ei benodi’n asiant pleidleisio neu’n asiant cyfrif gan fwy nag un ymgeisydd.
(3) Uchafswm yr asiantau pleidleisio a gaiff fod yn bresennol mewn gorsaf bleidleisio yw pedwar neu unrhyw nifer uwch a ganiateir gan y swyddog canlyniadau drwy hysbysiad.
(4) Os yw nifer yr asiantau pleidleisio a benodir i fod yn bresennol mewn gorsaf bleidleisio benodol yn fwy na phedwar (neu unrhyw nifer uwch a ganiateir gan y swyddog canlyniadau drwy hysbysiad)—
(a)rhaid i’r swyddog canlyniadau benderfynu pa asiantau y caniateir iddynt fod yn bresennol drwy fwrw coelbren, a
(b)dim ond yr asiantau y mae’r coelbren yn mynd o’u plaid sydd i’w trin fel pe baent wedi eu penodi.
(5) Caiff y swyddog canlyniadau osod terfyn ar nifer yr asiantau cyfrif y caniateir i bob ymgeisydd eu penodi ond rhaid i’r terfyn—
(a)bod yr un fath ar gyfer pob un o’r ymgeiswyr, a
(b)oni bai bod amgylchiadau arbennig, beidio â bod yn llai na’r nifer a geir drwy rannu nifer y clercod a gyflogir yn y cyfrif â nifer yr ymgeiswyr (gan anwybyddu unrhyw weddill).
(6) At ddibenion y cyfrifiadau sy’n ofynnol gan baragraff (5), mae asiant cyfrif a benodwyd ar gyfer mwy nag un ymgeisydd yn asiant ar wahân ar gyfer pob un o’r ymgeiswyr y’i penodwyd ganddynt.
(7) Rhaid i’r ymgeisydd roi hysbysiad i’r swyddog canlyniadau pan benodir asiantau pleidleisio neu asiantau cyfrif.
(8) Rhaid i’r hysbysiad—
(a)rhoi enwau a chyfeiriadau’r personau a benodwyd, a
(b)cael ei roi dim hwyrach na’r pumed diwrnod cyn diwrnod y bleidlais, gan ddiystyru unrhyw ddiwrnod eithriedig.
(9) Os bydd asiant pleidleisio neu asiant cyfrif yn marw neu’n dod yn analluog i weithredu—
(a)caiff yr ymgeisydd benodi asiant arall yn ei le, a
(b)rhaid i’r ymgeisydd roi hysbysiad i’r swyddog canlyniadau ar unwaith yn datgan enw a chyfeiriad yr asiant arall.
Gwybodaeth Cychwyn
I40Atod. 1 para. 33 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1
34.—(1) Caiff ymgeisydd neu asiant etholiadol yr ymgeisydd (os penodwyd un)—
(a)gwneud unrhyw beth y mae asiant pleidleisio neu asiant cyfrif yr ymgeisydd wedi ei awdurdodi i’w wneud (neu y byddai wedi ei awdurdodi i’w wneud, pe bai wedi ei benodi);
(b)cynorthwyo asiant pleidleisio neu asiant cyfrif yr ymgeisydd i wneud unrhyw beth y mae’r asiant pleidleisio neu’r asiant cyfrif wedi ei awdurdodi i’w wneud.
(2) Caniateir i unrhyw beth y mae’n ofynnol ei wneud neu yr awdurdodir ei wneud o dan y rheolau hyn ym mhresenoldeb yr asiantau pleidleisio neu’r asiantau cyfrif gael ei wneud yn hytrach ym mhresenoldeb asiant etholiadol yr ymgeisydd (os penodwyd un).
(3) Pan fo’r rheolau hyn yn ei gwneud yn ofynnol i rywbeth gael ei wneud neu’n awdurdodi rhywbeth i gael ei wneud ym mhresenoldeb yr asiantau pleidleisio neu’r asiantau cyfrif, nid yw diffyg presenoldeb yr asiant neu’r asiantau ar yr adeg a’r lle a benodwyd yn peri bod y peth a wneir yn annilys.
(4) Pan nad oes gan ymgeisydd asiant cyfrif, caiff y swyddog canlyniadau roi unrhyw hysbysiad y mae’n ofynnol ei roi i’r asiant cyfrif o dan y rheolau hyn i’r ymgeisydd.
Gwybodaeth Cychwyn
I41Atod. 1 para. 34 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1
35.—(1) Rhaid i’r swyddog canlyniadau wneud trefniadau i sicrhau bod pawb sy’n bresennol mewn gorsaf bleidleisio, heblaw am berson a ddisgrifir ym mharagraff (2)(a) i (d), wedi cael hysbysiad yn nodi darpariaethau adran 66(1), (3) a (6) o Ddeddf 1983(14).
(2) Y personau nad yw’r ddyletswydd o dan baragraff (1) yn gymwys iddynt yw—
(a)person sy’n bresennol yn yr orsaf bleidleisio at ddiben pleidleisio;
(b)person o dan 16 oed sy’n mynd yng nghwmni pleidleisiwr i’r orsaf bleidleisio;
(c)person sy’n bresennol yn yr orsaf bleidleisio fel cydymaith pleidleisiwr ag anableddau;
(d)person sy’n bresennol yn yr orsaf bleidleisio fel cwnstabl ar ddyletswydd.
(3) Yn y rheol hon, mae cyfeiriad at gwnstabl yn cynnwys cyfeiriad at berson a ddynodwyd yn swyddog cymorth cymunedol neu’n wirfoddolwr cymorth cymunedol o dan adran 38 o Ddeddf Diwygio’r Heddlu 2002(15) (pwerau’r heddlu i staff sy’n sifiliaid a gwirfoddolwyr).
Gwybodaeth Cychwyn
I42Atod. 1 para. 35 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1
36.—(1) Pan fo pleidlais bost wedi ei dychwelyd mewn cysylltiad â pherson sydd wedi ei gofnodi ar y rhestr pleidleiswyr post, rhaid i’r swyddog canlyniadau farcio’r rhestr yn y modd a ragnodir gan reoliadau o dan Ddeddf 1983.
(2) Pan fo pleidlais bost drwy ddirprwy wedi ei dychwelyd mewn cysylltiad â dirprwy sydd wedi ei gofnodi ar y rhestr pleidleiswyr post drwy ddirprwy, rhaid i’r swyddog canlyniadau farcio’r rhestr yn y modd a ragnodir gan reoliadau o dan y Ddeddf honno.
(3) Nid yw rheol 54(8) yn gymwys at ddibenion penderfynu a yw pleidlais bost neu bleidlais bost drwy ddirprwy wedi ei dychwelyd at ddibenion y rheol hon.
Gwybodaeth Cychwyn
I43Atod. 1 para. 36 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1
37.—(1) Rhaid i’r swyddog llywyddu wahardd pawb o’r orsaf bleidleisio ac eithrio—
(a)pleidleiswyr a ddyrannwyd i’r orsaf bleidleisio,
(b)personau o dan 16 oed sy’n mynd yng nghwmni pleidleiswyr i’r orsaf bleidleisio,
(c)yr ymgeiswyr a’u hasiantau etholiadol (os penodwyd rhai),
(d)yr asiantau pleidleisio a benodwyd i fod yn bresennol yn yr orsaf bleidleisio,
(e)y clercod a benodwyd i fod yn bresennol yn yr orsaf bleidleisio,
(f)y swyddog canlyniadau neu aelodau staff y swyddog canlyniadau,
(g)personau sydd â hawl i fod yn bresennol yn rhinwedd unrhyw un neu ragor o adrannau 6A i 6D o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000(16) (cynrychiolwyr y Comisiwn Etholiadol a sylwedyddion achrededig),
(h)y cwnstabliaid ar ddyletswydd, ac
(i)cymdeithion pleidleiswyr ag anableddau.
(2) Rhaid i’r swyddog llywyddu reoleiddio cyfanswm nifer y pleidleiswyr a’r personau o dan 16 oed sydd yn eu cwmni a dderbynnir i’r orsaf bleidleisio yr un pryd.
(3) Dim ond un asiant pleidleisio y caniateir ei dderbyn yr un pryd i orsaf bleidleisio ar ran yr un ymgeisydd.
(4) Caiff cwnstabl sy’n pleidleisio’n bersonol wneud hynny naill ai—
(a)yn yr orsaf bleidleisio a ddyrannwyd o dan y rheolau hyn, neu
(b)mewn gorsaf bleidleisio arall, os yw’r cwnstabl yn dangos ac yn ildio tystysgrif yn y ffurf yn Atodiad 7 neu ffurf i’r un perwyl, a lofnodwyd gan swyddog heddlu sydd â gradd arolygydd neu’n uwch.
(5) Caiff person a gyflogir gan y swyddog canlyniadau, os yw’n pleidleisio’n bersonol, wneud hynny naill ai—
(a)yn yr orsaf bleidleisio a ddyrannwyd o dan y rheolau hyn, neu
(b)mewn gorsaf bleidleisio arall, os yw’r person yn dangos ac yn ildio tystysgrif yn y ffurf yn Atodiad 7 neu ffurf i’r un perwyl, a lofnodwyd gan y swyddog canlyniadau.
(6) Rhaid i dystysgrif sy’n cael ei hildio o dan baragraff (4) neu (5) gael ei chanslo ar unwaith.
(7) Yn y rheol hon, mae cyfeiriad at gwnstabl yn cynnwys cyfeiriad at berson a ddynodwyd yn swyddog cymorth cymunedol neu’n wirfoddolwr cymorth cymunedol o dan adran 38 o Ddeddf Diwygio’r Heddlu 2002 (pwerau’r heddlu i staff sy’n sifiliaid a gwirfoddolwyr).
Gwybodaeth Cychwyn
I44Atod. 1 para. 37 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1
38.—(1) Rhaid i’r swyddog llywyddu gadw trefn yn yr orsaf bleidleisio.
(2) Os bydd person yn camymddwyn mewn gorsaf bleidleisio, neu’n methu ag ufuddhau i unrhyw orchmynion a roddir yn gyfreithlon gan y swyddog llywyddu, caiff y swyddog llywyddu orchymyn i’r person gael ei symud o’r orsaf bleidleisio.
(3) Pan fo’r swyddog llywyddu yn gorchymyn bod person yn cael ei symud, caniateir i’r person gael ei symud ar unwaith—
(a)gan gwnstabl yn yr orsaf bleidleisio neu yn ei hymyl, neu
(b)gan unrhyw berson arall a awdurdodir mewn ysgrifen gan y swyddog canlyniadau i symud pobl o’r orsaf bleidleisio.
(4) Pan fo person wedi ei symud, ni chaiff fynd yn ôl, heb ganiatâd y swyddog llywyddu, i’r orsaf bleidleisio ar ddiwrnod y bleidlais.
(5) Pan gyhuddir person sydd wedi ei symud o gyflawni trosedd yn yr orsaf bleidleisio, caniateir ymdrin â’r person fel person y mae cwnstabl wedi mynd ag ef i’r ddalfa am drosedd heb warant.
(6) Ni chaniateir i’r pwerau a roddir gan y rheol hon gael eu harfer er mwyn atal pleidleisiwr sydd fel arall â hawl i bleidleisio mewn gorsaf bleidleisio rhag cael cyfle i bleidleisio yn yr orsaf honno.
Gwybodaeth Cychwyn
I45Atod. 1 para. 38 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1
39.—(1) Rhaid i’r swyddog llywyddu gymryd y camau a ganlyn yn union cyn i’r bleidlais ddechrau.
(2) Rhaid i’r swyddog llywyddu ddangos y blwch pleidleisio gwag i’r bobl hynny (os oes rhai) sy’n bresennol yn yr orsaf bleidleisio, fel y gallant weld ei fod yn wag.
(3) Yna rhaid i’r swyddog llywyddu—
(a)cloi’r blwch, os oes iddo glo, a
(b)gosod sêl y swyddog canlyniadau arno, mewn modd sy’n ei atal rhag cael ei agor heb dorri’r sêl.
(4) Yna rhaid i’r swyddog llywyddu osod y blwch, o fewn golwg y swyddog llywyddu, i dderbyn papurau pleidleisio.
(5) Rhaid i’r swyddog llywyddu gadw’r blwch dan glo a than sêl neu (os nad oes iddo glo) ei gadw dan sêl.
Gwybodaeth Cychwyn
I46Atod. 1 para. 39 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1
40.—(1) Adeg cais am bapur pleidleisio (ond nid wedyn), caiff y swyddog llywyddu ofyn i unrhyw berson a ddisgrifir yng ngholofn gyntaf Tabl 1 (a nodir ym mharagraff (3)) neu yng ngholofn gyntaf Tabl 2 (a nodir ym mharagraff (4)), un neu ragor o’r cwestiynau a nodir yn y cofnod cyfatebol yn yr ail golofn.
(2) Os bydd yr ymgeisydd neu asiant etholiadol neu asiant pleidleisio’r ymgeisydd yn ei gwneud yn ofynnol i’r swyddog llywyddu wneud hynny, rhaid i’r swyddog llywyddu ofyn i unrhyw berson a ddisgrifir yng ngholofn gyntaf Tabl 1 un neu ragor o’r cwestiynau a nodir yn y cofnod cyfatebol yn yr ail golofn.
(3) Mae Tabl 1 yn nodi cwestiynau y caiff swyddog llywyddu eu gofyn o dan baragraff (1) ac y caiff ymgeisydd (neu asiant etholiadol neu asiant pleidleisio’r ymgeisydd) ei gwneud yn ofynnol iddynt gael eu gofyn o dan baragraff (2).
Disgrifiad | Cwestiynau |
---|---|
1. Person sy’n gwneud cais fel etholwr | 1(a) Ai chi yw’r person sydd wedi ei gofrestru yn y gofrestr etholwyr llywodraeth leol ar gyfer yr etholiad hwn fel a ganlyn? Nodiadau ar 1(a) Yna rhaid i’r swyddog llywyddu ddarllen y cofnod cyfan o’r copïau o’r cofnodion cofrestru. 1(b) Ydych chi eisoes wedi pleidleisio, yn y ward hon neu ward arall, yn yr etholiad ar gyfer cynghorwyr i’r gymuned hon, heblaw fel dirprwy ar ran rhyw berson arall? Nodiadau ar 1(b) Caniateir hepgor y geiriau “, yn y ward hon neu ward arall,” os oes etholiad yn digwydd mewn un ward yn unig neu os nad oes wardiau. |
2. Person sy’n gwneud cais fel dirprwy ar ran etholwr heblaw etholwr sydd â chofnod dienw | 2(a) Ai chi yw’r person y mae ei enw’n ymddangos fel AB yn y rhestr dirprwyon ar gyfer yr etholiad hwn fel person sydd â hawl i bleidleisio fel dirprwy ar ran CD? 2(b) Ydych chi eisoes wedi pleidleisio, yn y ward hon neu ward arall, yn yr etholiad ar gyfer cynghorwyr i’r gymuned hon, fel dirprwy ar ran CD? 2(c) Ai chi yw priod, partner sifil, rhiant, taid, nain, brawd, chwaer, plentyn, ŵyr neu wyres CD? Nodiadau ar 2(a) i (c) Pan fo cwestiwn yn cyfeirio at AB, mae’r swyddog llywyddu’n darllen yr enw fel y mae’n ymddangos yn y rhestr dirprwyon. Pan fo cwestiwn yn cyfeirio at CD, mae’r swyddog llywyddu’n darllen enw’r etholwr. Nodyn ar 2(b) Caniateir hepgor y geiriau “, yn y ward hon neu ward arall,” os oes etholiad yn digwydd mewn un ward yn unig neu os nad oes wardiau. |
3. Person sy’n gwneud cais fel dirprwy ar ran etholwr sydd â chofnod dienw | 3(a) Ai chi yw’r person sydd â hawl i bleidleisio fel dirprwy ar ran yr etholwr sydd â’r rhif [x] yn y gofrestr etholwyr? 3(b) Ydych chi eisoes wedi pleidleisio fel dirprwy ar ran yr etholwr sydd â’r rhif [x] yn y gofrestr etholwyr? 3(c) Ai chi yw priod, partner sifil, rhiant, taid, nain, brawd, chwaer, plentyn, ŵyr neu wyres y person sydd â’r rhif [x] yn y gofrestr etholwyr? Nodyn ar 3(a) i (c) Pan fo’r cwestiynau yn y cofnod hwn yn cyfeirio at [x], rhaid i’r swyddog llywyddu ddarllen rhif yr etholwr o’r copïau o’r cofnodion cofrestru. |
4. Person sy’n gwneud cais fel dirprwy y gofynnwyd y cwestiwn sydd wedi ei rifo 2(c) neu 3(c) yng ngholofn 2 iddo ac nad yw wedi ateb “Ie” | 4. Ydych chi eisoes wedi pleidleisio, yn y ward hon neu ward arall, yn yr etholiad ar gyfer cynghorwyr i’r gymuned hon, ar ran dau berson nad ydych yn briod, partner sifil, rhiant, taid, nain, brawd, chwaer, plentyn, ŵyr neu wyres iddynt? Nodyn ar 4 Caniateir hepgor y geiriau “, yn y ward hon neu ward arall,” os oes etholiad yn digwydd mewn un ward yn unig neu os nad oes wardiau. |
(4) Mae Tabl 2 yn nodi’r cwestiynau y caiff swyddog llywyddu eu gofyn o dan baragraff (1) (ond na chaniateir ei gwneud yn ofynnol i’r swyddog llywyddu eu gofyn o dan baragraff (2)).
Disgrifiad | Cwestiynau |
---|---|
1. Person sy’n gwneud cais fel etholwr y ceir cofnod mewn perthynas ag ef yn y rhestr pleidleiswyr post | 1(a) Wnaethoch chi gais am bleidleisio drwy’r post? 1(b) Pam nad ydych chi wedi pleidleisio drwy’r post? |
2. Person sy’n gwneud cais fel dirprwy ac sydd wedi ei enwi yn y rhestr pleidleiswyr post drwy ddirprwy | 2(a) Wnaethoch chi gais am bleidleisio drwy’r post fel dirprwy? 2(b) Pam nad ydych chi wedi pleidleisio drwy’r post fel dirprwy? |
(5) Ni chaniateir rhoi papur pleidleisio i unrhyw berson y mae’n ofynnol iddo ateb un neu ragor o’r cwestiynau yn Nhabl 1 neu 2 oni bai bod y person wedi ateb y cwestiwn neu’r cwestiynau’n foddhaol.
(6) Ac eithrio fel yr awdurdodir gan y rheol hon, ni chaniateir ymholi ynglŷn â hawl unrhyw berson i bleidleisio.
(7) Yn y rheol hon, ystyr “y copïau o’r cofnodion cofrestru” yw’r copïau a ddarperir gan y swyddog canlyniadau ar gyfer yr orsaf bleidleisio o dan reol 32(3)(b) ac (c) (copïau o’r gofrestr etholwyr berthnasol a chopïau o unrhyw hysbysiadau a ddyroddwyd o dan adran 13B(3B) neu (3D) o Ddeddf 1983 sy’n ymwneud â’r gofrestr etholwyr berthnasol).
Gwybodaeth Cychwyn
I47Atod. 1 para. 40 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1
41. Ni chaniateir atal person rhag pleidleisio dim ond am fod y naill neu’r llall neu’r ddau o’r canlynol yn gymwys—
(a)bod ymgeisydd, asiant etholiadol ymgeisydd (os penodwyd un) neu asiant pleidleisio ymgeisydd yn datgan bod ganddynt achos rhesymol dros gredu bod y person wedi cyflawni trosedd cambersonadu;
(b)bod y person wedi ei arestio ar y sail yr amheuir ei fod wedi cyflawni neu ar fin cyflawni trosedd cambersonadu.
Gwybodaeth Cychwyn
I48Atod. 1 para. 41 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1
42.—(1) Rhaid rhoi papur pleidleisio i bleidleisiwr sy’n gwneud cais am un.
(2) Yn union cyn i’r papur pleidleisio gael ei roi—
(a)rhaid i rif yr etholwr, fel y’i nodir yn y copïau o’r cofnodion cofrestru, gael ei alw,
(b)oni bai bod gan yr etholwr gofnod dienw, rhaid i enw’r etholwr, fel y’i nodir yn y copïau o’r cofnodion cofrestru, gael ei alw hefyd,
(c)rhaid i rif yr etholwr gael ei farcio ar restr rhifau cyfatebol yr orsaf bleidleisio wrth ochr rhif y papur pleidleisio sydd i’w ddyroddi,
(d)rhaid gosod marc yn y copïau o’r cofnodion cofrestru gyferbyn â rhif yr etholwr i nodi bod papur pleidleisio wedi ei dderbyn, ond heb ddangos y papur pleidleisio penodol a dderbyniwyd, ac
(e)yn achos person sy’n gwneud cais am bapur pleidleisio fel dirprwy, rhaid gosod marc hefyd gyferbyn ag enw’r person yn y rhestr dirprwyon.
(3) Yn achos etholwr sydd â chofnod dienw—
(a)dim ond os dangosir cerdyn pleidleisio swyddogol yr etholwr neu, pan fo’r etholwr yn pleidleisio drwy ddirprwy, cerdyn pleidleisio swyddogol y dirprwy, i’r swyddog llywyddu y caniateir rhoi’r papur pleidleisio, a
(b)dim ond rhif yr etholwr y caniateir ei alw.
(4) Ar ôl cael y papur pleidleisio, rhaid i’r pleidleisiwr fynd ar unwaith i un o’r bythau yn yr orsaf bleidleisio.
(5) Heb oedi’n ddiangen, rhaid wedyn i’r pleidleisiwr—
(a)marcio’r papur pleidleisio’n gyfrinachol,
(b)plygu’r papur pleidleisio er mwyn cuddio’r bleidlais,
(c)dangos cefn y papur pleidleisio i’r swyddog llywyddu, er mwyn datgelu’r rhif a’r marc adnabod unigryw arall, a
(d)rhoi’r papur pleidleisio yn y blwch pleidleisio ym mhresenoldeb y swyddog llywyddu.
(6) Cyn gynted ag y bydd y pleidleisiwr wedi rhoi’r papur pleidleisio yn y blwch pleidleisio, rhaid i’r pleidleisiwr adael yr orsaf bleidleisio.
(7) Os bydd pleidleisiwr yn yr orsaf bleidleisio, neu mewn ciw y tu allan i’r orsaf bleidleisio, wrth i’r bleidlais gau ac nad yw wedi gallu bwrw ei bleidlais eto, rhaid i’r swyddog llywyddu ganiatáu i’r pleidleisiwr fwrw ei bleidlais cyn gynted ag y bo’n ymarferol.
(8) Yn y rheol hon, mae i “y copïau o’r cofnodion cofrestru” yr un ystyr ag yn rheol 40 (gweler paragraff (7) o’r rheol honno).
Gwybodaeth Cychwyn
I49Atod. 1 para. 42 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1
43.—(1) Caiff pleidleisiwr wneud cais i’r swyddog llywyddu am i’w bleidlais gael ei marcio os yw’r pleidleisiwr—
(a)yn methu, oherwydd dallineb neu anabledd arall, â phleidleisio yn y modd a gyfarwyddir gan y rheolau hyn, neu
(b)yn datgan ar lafar nad yw’n gallu darllen.
(2) Pan wneir cais, rhaid i’r swyddog llywyddu, ym mhresenoldeb unrhyw asiantau pleidleisio sydd yn yr orsaf bleidleisio pan wneir y cais—
(a)peri i bleidlais y pleidleisiwr gael ei marcio ar bapur pleidleisio yn y modd a gyfarwyddir gan y pleidleisiwr, a
(b)peri i’r papur pleidleisio gael ei osod yn y blwch pleidleisio.
(3) Pan fo pleidlais pleidleisiwr wedi ei marcio yn unol â pharagraff (2), rhaid i’r swyddog llywyddu nodi’r manylion a ganlyn ar restr a gedwir gan y swyddog llywyddu at ddibenion y rheol hon (“y rhestr pleidleisiau a farciwyd gan y swyddog llywyddu”)—
(a)enw a rhif y pleidleisiwr, fel y’u dangosir yn y copïau o’r cofnodion cofrestru, a
(b)y rheswm y cafodd y bleidlais ei marcio.
(4) Yn achos person sy’n pleidleisio fel dirprwy ar ran etholwr, y rhif sydd i’w gofnodi ynghyd ag enw’r pleidleisiwr yn y rhestr pleidleisiau a farciwyd gan y swyddog llywyddu yw rhif yr etholwr.
(5) Yn y rheol hon, mae i “y copïau o’r cofnodion cofrestru” yr un ystyr ag yn rheol 40 (gweler paragraff (7) o’r rheol honno).
Gwybodaeth Cychwyn
I50Atod. 1 para. 43 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1
44.—(1) Caiff pleidleisiwr wneud cais i’r swyddog llywyddu, ar sail dallineb neu anabledd arall neu anallu i ddarllen, am ganiatâd i bleidleisio gyda chymorth cydymaith.
(2) Pan wneir cais, rhaid i’r swyddog llywyddu ei gwneud yn ofynnol i’r pleidleisiwr ddatgan, ar lafar neu mewn ysgrifen, a yw dallineb neu anabledd arall, neu anallu i ddarllen, yn effeithio ar y pleidleisiwr fel na all bleidleisio heb gymorth cydymaith.
(3) Yn y darpariaethau a ganlyn yn y rheol hon, cyfeirir at bleidleisiwr sy’n datgan bod dallineb neu anabledd arall, neu anallu i ddarllen yn effeithio arno fel na all bleidleisio heb gymorth cydymaith fel pleidleisiwr ag anableddau.
(4) Pan wneir cais am bleidleisio gyda chymorth cydymaith, rhaid i’r cydymaith wneud datganiad ysgrifenedig gerbron y swyddog llywyddu bod y cydymaith—
(a)wedi cyrraedd 16 oed, a
(b)heb gynorthwyo mwy nag un pleidleisiwr ag anableddau o’r blaen i bleidleisio yn yr etholiad.
(5) Rhaid i ddatganiad y cydymaith—
(a)bod yn y ffurf yn Atodiad 8, a
(b)cael ei roi i’r swyddog llywyddu sy’n gorfod tystio iddo a’i gadw.
(6) Rhaid i’r swyddog llywyddu ganiatáu cais y pleidleisiwr am gymorth cydymaith os yw’r swyddog llywyddu—
(a)wedi ei fodloni bod dallineb neu anabledd arall, neu anallu i ddarllen, yn effeithio ar y pleidleisiwr fel na all bleidleisio heb gymorth cydymaith, a
(b)wedi ei fodloni hefyd gan ddatganiad ysgrifenedig y cydymaith fod y cydymaith wedi cyrraedd 16 oed ac nad yw’r cydymaith wedi cynorthwyo mwy nag un pleidleisiwr ag anableddau o’r blaen i bleidleisio yn yr etholiad.
(7) Pan ganiateir y cais—
(a)caniateir i unrhyw beth y mae’n ofynnol ei wneud o dan y rheolau hyn i’r pleidleisiwr mewn cysylltiad â rhoi’r bleidlais gael ei wneud yn hytrach i’r cydymaith, a
(b)caiff y pleidleisiwr wneud unrhyw beth y mae angen ei wneud mewn cysylltiad â rhoi’r bleidlais gyda chymorth y cydymaith.
Gwybodaeth Cychwyn
I51Atod. 1 para. 44 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1
45.—(1) Pan roddir pleidlais gyda chymorth cydymaith yn unol â rheol 45, rhaid i’r swyddog llywyddu wedyn nodi’r manylion a ganlyn mewn rhestr a gedwir gan y swyddog llywyddu (“y rhestr pleidleiswyr ag anableddau a gynorthwywyd gan gydymaith”)—
(a)enw a rhif y pleidleisiwr, fel y’u dangosir yn y copïau o’r cofnodion cofrestru, a
(b)enw a chyfeiriad y cydymaith.
(2) Yn achos person sy’n pleidleisio fel dirprwy ar ran etholwr, y rhif sydd i’w nodi ynghyd ag enw’r pleidleisiwr yn y rhestr pleidleiswyr ag anableddau a gynorthwywyd gan gydymaith yw rhif yr etholwr.
(3) Pan fo gan y pleidleisiwr gofnod dienw, dim ond rhif y pleidleisiwr yn y copïau o’r cofnodion cofrestru y caniateir ei nodi yn y rhestr pleidleiswyr ag anableddau a gynorthwywyd gan gydymaith.
(4) Ni chaniateir codi ffi na thaliad arall mewn cysylltiad â datganiad a wneir gan gydymaith o dan reol 44(4).
(5) Yn y rheol hon, mae i “y copïau o’r cofnodion cofrestru” yr un ystyr ag yn rheol 40 (gweler paragraff (7) o’r rheol honno).
Gwybodaeth Cychwyn
I52Atod. 1 para. 45 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1
46.—(1) Mae’r rheol hon yn nodi amgylchiadau pan fo gan berson sy’n gwneud cais am bleidlais (“y ceisydd”) hawl i bleidleisio ar ôl ateb yn foddhaol y cwestiynau y mae’r gyfraith yn caniatáu eu gofyn yn y bleidlais ond pan fo’r weithdrefn ar gyfer rhoi’r bleidlais yn cael ei haddasu yn y ddwy ffordd a ganlyn—
(a)bod rhaid i’r person ddefnyddio papur pleidleisio sydd o liw gwahanol i bapurau pleidleisio eraill, a
(b)bod rhaid i’r person roi’r papur pleidleisio i’r swyddog llywyddu (yn hytrach na’i roi yn y blwch pleidleisio).
(2) Y set gyntaf o amgylchiadau yw—
(a)pan fo’r ceisydd yn honni ei fod yn etholwr penodol a enwir yn y copïau o’r cofnodion cofrestru ac nad yw wedi ei enwi yn y rhestr pleidleiswyr post neu’r rhestr dirprwyon, a
(b)pan fo person arall eisoes wedi pleidleisio’n bersonol naill ai fel yr etholwr hwnnw neu fel dirprwy’r etholwr hwnnw.
(3) Yr ail set o amgylchiadau yw—
(a)pan fo’r ceisydd yn honni ei fod yn berson penodol a enwir yn y rhestr dirprwyon fel dirprwy ar ran etholwr ac nad oes ganddo hawl i bleidleisio drwy’r post fel dirprwy, a
(b)pan fo person arall eisoes wedi pleidleisio’n bersonol naill ai fel yr etholwr hwnnw neu fel dirprwy’r etholwr hwnnw.
(4) Y drydedd set o amgylchiadau yw—
(a)pan fo’r ceisydd yn honni ei fod yn etholwr penodol a enwir yn y copïau o’r cofnodion cofrestru,
(b)pan fo’r ceisydd hefyd wedi ei enwi yn y rhestr pleidleiswyr post, ac
(c)pan fo’r ceisydd yn honni nad yw wedi gwneud cais am bleidleisio drwy’r post yn yr etholiad.
(5) Y bedwaredd set o amgylchiadau yw—
(a)pan fo’r ceisydd yn honni ei fod yn berson penodol a enwir yn ddirprwy yn y rhestr dirprwyon,
(b)pan fo’r person hwnnw hefyd wedi ei enwi ar y rhestr pleidleiswyr post drwy ddirprwy, ac
(c)pan fo’r ceisydd yn honni nad yw wedi gwneud cais am bleidleisio drwy’r post fel dirprwy yn yr etholiad.
(6) Y bumed set o amgylchiadau yw—
(a)pan fo’r ceisydd, ar ôl yr amser olaf y caiff person wneud cais am bapur pleidleisio post newydd ond cyn i’r bleidlais gau, yn honni ei fod yn etholwr penodol a enwir yn y copïau o’r cofnodion cofrestru sydd hefyd wedi ei enwi yn y rhestr pleidleiswyr post, a
(b)pan fo’r ceisydd yn honni ei fod wedi colli papur pleidleisio post y person hwnnw neu heb ei gael.
(7) Y chweched set o amgylchiadau yw—
(a)pan fo’r ceisydd, ar ôl yr amser olaf y caiff person wneud cais am bapur pleidleisio post newydd ond cyn i’r bleidlais gau, yn honni ei fod yn berson penodol a enwir yn ddirprwy yn y rhestr dirprwyon sydd hefyd wedi ei enwi yn y rhestr pleidleiswyr post drwy ddirprwy, a
(b)pan fo’r ceisydd yn honni ei fod wedi colli papur pleidleisio post y person hwnnw neu heb ei gael.
(8) Cyfeirir at bapur pleidleisio a roddir i swyddog llywyddu yn unol â’r rheol hon yn y rheolau hyn fel “papur pleidleisio a dendrwyd”.
(9) Pan fo gan etholwr gofnod dienw, mae’r cyfeiriadau yn y rheol hon at berson a enwir yn y copïau o’r cofnodion cofrestru neu mewn rhestr i’w darllen fel cyfeiriadau at berson sydd â rhif yn y copïau neu yn y rhestr.
(10) Yn y rheol hon, mae i “y copïau o’r cofnodion cofrestru” yr un ystyr ag yn rheol 40 (gweler paragraff (7) o’r rheol honno).
Gwybodaeth Cychwyn
I53Atod. 1 para. 46 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1
47.—(1) Mae’r rheol hon yn nodi dyletswyddau’r swyddog llywyddu mewn perthynas â phapurau pleidleisio a dendrwyd.
(2) Rhaid i’r swyddog llywyddu arnodi’r wybodaeth a ganlyn ar y papur pleidleisio—
(a)enw’r pleidleisiwr, a
(b)rhif y pleidleisiwr yn y copïau o’r cofnodion cofrestru neu, os yw’r pleidleisiwr yn pleidleisio fel dirprwy ar ran etholwr, rhif yr etholwr.
(3) Rhaid i’r swyddog llywyddu roi’r papur pleidleisio mewn pecyn ar wahân.
(4) Rhaid cofnodi’r wybodaeth a ganlyn ar restr (y “rhestr pleidleisiau a dendrwyd”)—
(a)enw’r pleidleisiwr, a
(b)rhif y pleidleisiwr yn y copïau o’r cofnodion cofrestru neu, os yw’r pleidleisiwr yn pleidleisio fel dirprwy ar ran etholwr, rhif yr etholwr.
(5) Pan fo gan etholwr gofnod dienw, rhaid i’r swyddog llywyddu beidio â chynnwys enw’r pleidleisiwr ar y papur pleidleisio nac yn y rhestr pleidleisiau a dendrwyd.
(6) Yn y rheol hon, mae i “y copïau o’r cofnodion cofrestru” yr un ystyr ag yn rheol 40 (gweler paragraff (7) o’r rheol honno).
Gwybodaeth Cychwyn
I54Atod. 1 para. 47 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1
48.—(1) Mae’r rheol hon yn gymwys pan fo pleidleisiwr wedi ymdrin yn anfwriadol â’i bapur pleidleisio yn y fath fodd fel na ellir ei ddefnyddio’n gyfleus fel papur pleidleisio.
(2) Caiff y pleidleisiwr sicrhau papur pleidleisio arall—
(a)drwy roi’r papur pleidleisio yr ymdriniwyd ag ef yn anfwriadol (y “papur pleidleisio a ddifethwyd”) i’r swyddog llywyddu, a
(b)drwy brofi er boddhad y swyddog llywyddu yr ymdriniwyd ag ef yn anfwriadol.
(3) Pan roddir papur pleidleisio arall i’r pleidleisiwr, rhaid i’r papur pleidleisio a ddifethwyd gael ei ganslo ar unwaith.
Gwybodaeth Cychwyn
I55Atod. 1 para. 48 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1
49. Rhaid i’r swyddog llywyddu gadw rhestr o bersonau y rhoddir papurau pleidleisio iddynt o ganlyniad i addasiad yn y gofrestr a wneir yn rhinwedd adran 13B(3B) neu (3D) o Ddeddf 1983 sy’n dod yn effeithiol ar ddiwrnod y bleidlais.
Gwybodaeth Cychwyn
I56Atod. 1 para. 49 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1
50.—(1) Mae’r rheol hon yn gymwys pan dorrir ar draws y trafodion mewn unrhyw orsaf bleidleisio neu pan gânt eu rhwystro gan derfysg neu drais agored.
(2) Rhaid i’r swyddog llywyddu—
(a)gohirio’r trafodion tan drannoeth, a
(b)hysbysu’r swyddog canlyniadau ar unwaith.
(3) Pan gaiff y bleidlais ei gohirio mewn gorsaf bleidleisio—
(a)rhaid i’r oriau pleidleisio ar y diwrnod y caiff ei gohirio iddo fod yr un fath ag ar gyfer y diwrnod gwreiddiol, a
(b)mae cyfeiriadau yn y rheolau hyn at gau’r bleidlais i’w darllen fel cyfeiriadau at ddiwedd yr oriau pleidleisio ar y diwrnod y caiff ei gohirio iddo.
Gwybodaeth Cychwyn
I57Atod. 1 para. 50 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1
51.—(1) Mae’r rheol hon yn nodi’r camau y mae’n rhaid i’r swyddog llywyddu eu cymryd cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl i bob pleidleisiwr fwrw ei bleidlais.
(2) Ym mhresenoldeb unrhyw asiantau pleidleisio sydd yn yr orsaf bleidleisio, rhaid i’r swyddog llywyddu selio pob blwch pleidleisio (gyda’r allwedd ynghlwm os oes un) a oedd yn cael ei ddefnyddio yn yr orsaf bleidleisio er mwyn atal gosod papurau pleidleisio ychwanegol ynddo, gan ddefnyddio sêl y swyddog llywyddu a seliau unrhyw asiantau pleidleisio sy’n dymuno gosod eu sêl.
(3) Ym mhresenoldeb unrhyw asiantau pleidleisio sydd yn yr orsaf bleidleisio, rhaid i’r swyddog llywyddu osod pob un o’r canlynol mewn pecynnau ar wahân, wedi eu selio gan ddefnyddio sêl y swyddog llywyddu a seliau unrhyw asiantau pleidleisio sy’n dymuno gosod eu sêl—
(a)y papurau pleidleisio sydd heb eu defnyddio a’r papurau pleidleisio a ddifethwyd (gyda’i gilydd);
(b)y papurau pleidleisio a dendrwyd;
(c)y copïau a farciwyd o’r cofnodion cofrestru a’r rhestr dirprwyon (gyda’i gilydd);
(d)rhestr rhifau cyfatebol yr orsaf bleidleisio, fel y’i marciwyd (gweler rheol 42(2)(c)) (y cyfeirir ati yn y darpariaethau a ganlyn yn y rheolau hyn fel “y rhestr rhifau cyfatebol a gwblhawyd”);
(e)unrhyw dystysgrifau a ildiwyd o dan reol 37(4) neu (5) (ildio tystysgrifau a ddyroddwyd i gwnstabliaid neu staff swyddogion canlyniadau);
(f)y rhestrau a’r datganiadau a ganlyn (gyda’i gilydd)—
(i)y rhestr pleidleisiau a farciwyd gan y swyddog llywyddu, ynghyd â datganiad o nifer y pleidleiswyr y mae eu pleidleisiau wedi eu marcio o dan y penawdau “anabledd” a “methu darllen” (gweler rheol 43);
(ii)y datganiadau a wnaed gan gymdeithion pleidleiswyr ag anableddau (gweler rheol 44);
(iii)y rhestr pleidleiswyr ag anableddau a gynorthwywyd gan gydymaith (gweler rheol 45);
(iv)y rhestr pleidleisiau a dendrwyd (gweler rheol 47);
(v)y rhestr a gadwyd o dan reol 49 (cywiro gwallau ar ddiwrnod y bleidlais).
(4) Rhaid i’r swyddog llywyddu ddanfon y blychau pleidleisio a’r pecynnau a seliwyd i’r swyddog canlyniadau neu beri iddynt gael eu danfon yn unol â threfniadau a gymeradwywyd gan y swyddog canlyniadau.
(5) I gyd-fynd â’r pecynnau rhaid cael datganiad (“cyfriflen papurau pleidleisio”) a baratowyd gan y swyddog llywyddu ac sy’n dangos—
(a)nifer y papurau pleidleisio a roddwyd i’r swyddog llywyddu, a
(b)sut y cyfrifwyd y papurau pleidleisio o dan y penawdau a ganlyn—
(i)nifer y papurau pleidleisio a ddyroddwyd ac na chyfrifwyd hwy fel arall;
(ii)nifer y papurau pleidleisio sydd heb eu defnyddio;
(iii)nifer y papurau pleidleisio a ddifethwyd;
(iv)nifer y papurau pleidleisio a dendrwyd.
(6) Yn y rheol hon, ystyr “y copïau a farciwyd o’r cofnodion cofrestru” yw’r copïau o’r cofnodion cofrestru (fel y’u diffinnir gan reol 40(7)), fel y’u marciwyd yn unol â’r rheolau hyn.
Gwybodaeth Cychwyn
I58Atod. 1 para. 51 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1
52.—(1) Rhaid i’r swyddog canlyniadau wneud trefniadau i’r pleidleisiau gael eu cyfrif ym mhresenoldeb yr asiantau cyfrif cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl i’r bleidlais gau.
(2) Rhaid i’r swyddog canlyniadau roi hysbysiad i’r asiantau cyfrif yn datgan yr amser a’r lle y bydd y swyddog canlyniadau yn dechrau cyfrif y pleidleisiau.
Gwybodaeth Cychwyn
I59Atod. 1 para. 52 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1
53.—(1) Mae gan y personau a ganlyn hawl i fod yn bresennol wrth i’r pleidleisiau gael eu cyfrif—
(a)y swyddog canlyniadau ac aelodau staff y swyddog canlyniadau;
(b)pob ymgeisydd a gwestai i bob ymgeisydd;
(c)yr asiantau etholiadol (os penodwyd rhai);
(d)yr asiantau cyfrif;
(e)unrhyw berson sydd â hawl i fod yn bresennol yn rhinwedd adrannau 6A i 6D o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (cynrychiolwyr y Comisiwn Etholiadol a sylwedyddion achrededig);
(f)y cwnstabliaid ar ddyletswydd.
(2) Caiff y swyddog canlyniadau ganiatáu i unrhyw berson arall fod yn bresennol wrth i’r pleidleisiau gael eu cyfrif.
(3) Ni chaniateir rhoi caniatâd o dan baragraff (2) oni bai bod y swyddog canlyniadau—
(a)wedi ei fodloni na fydd presenoldeb y person yn rhwystro’r pleidleisiau rhag cael eu cyfrif yn effeithlon, a
(b)naill ai wedi ymgynghori â’r personau priodol ynghylch a ddylid rhoi caniatâd neu wedi penderfynu nad yw’n ymarferol ymgynghori â hwy.
(4) At ddibenion paragraff (3)(b) “y personau priodol” yw’r asiantau etholiadol (os penodwyd rhai) ac, yn achos ymgeiswyr sydd heb benodi asiantau etholiadol, yr ymgeiswyr.
(5) Rhaid i’r swyddog canlyniadau roi pob cyfleuster rhesymol i’r asiantau cyfrif ar gyfer goruchwylio’r trafodion, a’r holl wybodaeth amdanynt, y gall y swyddog canlyniadau eu rhoi yn gyson â chynnal y trafodion yn drefnus a chyflawni dyletswyddau’r swyddog canlyniadau.
(6) Yn benodol, pan fo’r pleidleisiau’n cael eu cyfrif drwy ddidoli’r papurau pleidleisio yn ôl yr ymgeisydd y rhoddir y bleidlais iddo ac wedyn cyfrif nifer y papurau pleidleisio ar gyfer pob ymgeisydd, mae gan yr asiantau cyfrif hawl i’w bodloni eu hunain fod y papurau pleidleisio wedi eu didoli’n gywir.
(7) Rhaid i’r swyddog canlyniadau wneud trefniadau i sicrhau bod pawb sy’n bresennol wrth i’r pleidleisiau gael eu cyfrif (ac eithrio’r cwnstabliaid ar ddyletswydd) wedi cael hysbysiad yn nodi darpariaethau adran 66(2) a (6) o Ddeddf 1983 (hysbysiad o ofyniad cyfrinachedd).
(8) Yn y rheol hon, mae cyfeiriad at gwnstabl yn cynnwys cyfeiriad at berson a ddynodwyd yn swyddog cymorth cymunedol neu’n wirfoddolwr cymorth cymunedol o dan adran 38 o Ddeddf Diwygio’r Heddlu 2002 (pwerau’r heddlu i staff sy’n sifiliaid a gwirfoddolwyr).
Gwybodaeth Cychwyn
I60Atod. 1 para. 53 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1
54.—(1) Rhaid i’r swyddog canlyniadau gymryd y camau a ganlyn.
(2) Rhaid i’r swyddog canlyniadau, ym mhresenoldeb yr asiantau cyfrif, agor pob blwch pleidleisio, tynnu’r papurau pleidleisio, eu cyfrif a chofnodi nifer y papurau pleidleisio.
(3) Ni chaniateir i’r swyddog canlyniadau gyfrif unrhyw bapur pleidleisio a dendrwyd.
(4) Rhaid i’r swyddog canlyniadau, ym mhresenoldeb yr asiantau etholiadol (os penodwyd rhai), ddilysu pob cyfriflen papurau pleidleisio drwy ei chymharu â nifer y papurau pleidleisio a gofnodwyd, y papurau pleidleisio heb eu defnyddio a’r papurau pleidleisiau a ddifethwyd sydd ym meddiant y swyddog canlyniadau a’r rhestr pleidleisiau a dendrwyd (gan agor ac ailselio’r pecynnau sy’n cynnwys y papurau pleidleisio heb eu defnyddio, y papurau pleidleisio a ddifethwyd a’r rhestr pleidleisiau a dendrwyd).
(5) Rhaid i’r swyddog canlyniadau baratoi datganiad ynglŷn â chanlyniad y dilysiad a rhoi copi o’r datganiad i unrhyw asiant etholiadol sy’n gofyn amdano.
(6) Pan nad yw ymgeisydd wedi penodi asiant etholiadol—
(a)rhaid i ddilysiad y gyfriflen papurau pleidleisio gael ei wneud yn hytrach ym mhresenoldeb asiantau cyfrif yr ymgeisydd, a
(b)rhaid rhoi copi o’r datganiad i unrhyw un neu ragor o asiantau’r ymgeisydd sy’n gofyn amdano.
(7) Rhaid hefyd i’r swyddog canlyniadau—
(a)cyfrif y papurau pleidleisio post sydd wedi eu dychwelyd yn briodol (gweler paragraff (8)), a
(b)cofnodi’r nifer a gyfrifwyd.
(8) Mae papur pleidleisio post i’w drin fel pe bai wedi ei ddychwelyd yn briodol os yw’r papur pleidleisio a’r datganiad pleidleisio post sy’n cyd-fynd ag ef sydd wedi ei gwblhau’n briodol—
(a)wedi eu cyflwyno mewn gorsaf bleidleisio yn yr ardal etholiadol cyn i’r bleidlais gau,
(b)wedi eu rhoi â llaw i’r swyddog canlyniadau cyn i’r bleidlais gau, neu
(c)wedi dod i law’r swyddog canlyniadau drwy’r post cyn i’r bleidlais gau.
(9) Mae datganiad pleidleisio post wedi ei gwblhau’n briodol—
(a)os yw wedi ei lofnodi gan yr etholwr neu (yn ôl y digwydd) y dirprwy, oni bai bod y swyddog cofrestru wedi hepgor y gofyniad ynglŷn â llofnod,
(b)os yw’n datgan dyddiad geni’r etholwr neu (yn ôl y digwydd) dyddiad geni’r dirprwy, ac
(c)mewn achos lle mae camau i ddilysu dyddiad geni a llofnod etholwr neu ddirprwy wedi eu rhagnodi gan reoliadau o dan Ddeddf 1983, os yw’r swyddog canlyniadau wedi cymryd y camau hynny ac wedi dilysu’r dyddiad geni ac (ac eithrio mewn achos lle mae’r gofyniad ynglŷn â llofnod wedi ei hepgor) y llofnod.
(10) Pan fo person, wrth i’r bleidlais gau, yn yr orsaf bleidleisio, neu mewn ciw y tu allan i’r orsaf bleidleisio, er mwyn cyflwyno papur pleidleisio post a datganiad pleidleisio post—
(a)rhaid caniatáu i’r person gyflwyno’r papur pleidleisio a’r datganiad yn yr orsaf bleidleisio, a
(b)pan fônt wedi eu cyflwyno, maent i’w trin fel pe baent wedi eu cyflwyno cyn diwedd y bleidlais at ddibenion y rheol hon.
(11) Ni chaiff y swyddog canlyniadau gyfrif y pleidleisiau a roddwyd ar unrhyw bapur pleidleisio—
(a)yn achos papurau pleidleisio post, nes eu bod wedi eu cymysgu â’r papurau pleidleisio o un blwch pleidleisio o leiaf, a
(b)yn achos papurau pleidleisio o flwch pleidleisio, nes eu bod wedi eu cymysgu â’r papurau pleidleisio o un blwch pleidleisio arall o leiaf.
(12) Wrth gyfrif a chofnodi nifer y papurau pleidleisio a chyfrif y pleidleisiau, rhaid i’r swyddog canlyniadau—
(a)cadw’r papurau pleidleisio â’u hwynebau i fyny, a
(b)cymryd unrhyw ragofalon eraill sy’n briodol i atal unrhyw berson rhag gweld y rhifau neu’r marciau adnabod unigryw eraill a argraffwyd ar gefn y papurau.
Gwybodaeth Cychwyn
I61Atod. 1 para. 54 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1
55.—(1) Rhaid canfod canlyniad y bleidlais drwy gyfrif y pleidleisiau a roddwyd i bob ymgeisydd.
(2) Rhaid datgan bod yr ymgeisydd neu’r ymgeiswyr y rhoddwyd mwy o bleidleisiau iddo ef neu iddynt hwy nag i’r ymgeiswyr eraill wedi ei ethol neu wedi eu hethol, hyd at nifer y cynghorwyr sydd i’w hethol.
(3) Yn ddarostyngedig i baragraff (4), rhaid i’r swyddog canlyniadau, i’r graddau y bo’n ymarferol, fwrw ymlaen yn ddi-dor â’r gwaith cyfrif pleidleisiau, gan ganiatáu amser ar gyfer lluniaeth yn unig.
(4) Caiff y swyddog canlyniadau eithrio unrhyw oriau rhwng 7 p.m. a 9 a.m. fore trannoeth.
(5) Yn ystod unrhyw amser sydd wedi ei eithrio, rhaid i’r swyddog canlyniadau—
(a)gosod y papurau pleidleisio a’r dogfennau eraill sy’n ymwneud â’r etholiad o dan sêl y swyddog canlyniadau a seliau unrhyw asiantau cyfrif sy’n dymuno gosod eu sêl, a
(b)cymryd rhagofalon priodol fel arall ar gyfer diogelwch y papurau pleidleisio a’r dogfennau eraill.
Gwybodaeth Cychwyn
I62Atod. 1 para. 55 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1
56.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (4), mae’r papurau pleidleisio a ganlyn yn ddi-rym ac ni chaniateir eu cyfrif—
(a)papur pleidleisio nad oes arno farc swyddogol;
(b)papur pleidleisio y rhoddwyd pleidleisiau arno dros fwy o ymgeiswyr nag y mae gan y pleidleisiwr hawl i bleidleisio drostynt;
(c)papur pleidleisio y mae unrhyw beth wedi ei ysgrifennu neu wedi ei farcio arno y gellir adnabod y pleidleisiwr drwyddo ac eithrio’r rhif printiedig a’r marc adnabod unigryw arall ar y cefn;
(d)papur pleidleisio sydd heb ei farcio neu’n ddi-rym oherwydd ansicrwydd.
(2) Pan fo gan y pleidleisiwr hawl i bleidleisio dros fwy nag un ymgeisydd, nid yw papur pleidleisio i’w drin fel pe bai’n ddi-rym oherwydd ansicrwydd o ran unrhyw bleidlais nad oes ansicrwydd yn codi yn ei chylch a rhaid cyfrif y bleidlais honno.
(3) Mae paragraff (4) yn gymwys i bapur pleidleisio y marciwyd pleidlais arno—
(a)mewn man heblaw’r man priodol,
(b)heblaw drwy gyfrwng croes, neu
(c)drwy fwy nag un marc.
(4) Nid yw’r papur pleidleisio i’w drin fel pe bai’n ddi-rym (naill ai’n gyfan gwbl neu o ran y bleidlais honno), oherwydd y modd y mae’r bleidlais wedi ei marcio yn unig—
(a)os yw’n glir o’r papur pleidleisio fod y pleidleisiwr yn bwriadu pleidleisio dros un neu’r llall o’r ymgeiswyr,
(b)os nad yw’r modd y mae’r papur pleidleisio wedi ei farcio ynddo’i hun yn adnabod y pleidleisiwr, ac
(c)os yw’r swyddog canlyniadau wedi ei fodloni na ellir adnabod y pleidleisiwr o’r papur pleidleisio.
(5) Rhaid i’r swyddog canlyniadau—
(a)arnodi’r gair “gwrthodwyd” ar unrhyw bapur pleidleisio nad yw, yn unol â’r rheol hon, i’w gyfrif;
(b)arnodi’r geiriau “gwrthodwyd yn rhannol” ar unrhyw bapur pleidleisio y cyfrifir pleidlais arno yn unol â pharagraff (2) a nodi pa bleidlais neu bleidleisiau a gyfrifwyd.
(6) Os bydd asiant cyfrif yn gwrthwynebu penderfyniad y swyddog canlyniadau, rhaid i’r swyddog canlyniadau ychwanegu’r geiriau “gwrthwynebwyd y gwrthodiad” at yr arnodiad.
(7) Rhaid i’r swyddog canlyniadau baratoi datganiad yn dangos nifer y papurau pleidleisio a wrthodwyd a’r nifer a wrthodwyd yn rhannol.
(8) Rhaid i’r datganiad nodi’r nifer a wrthodwyd neu a wrthodwyd yn rhannol o dan bob un o’r penawdau yn is-baragraffau (a) i (d) o baragraff (1).
Gwybodaeth Cychwyn
I63Atod. 1 para. 56 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1
57.—(1) Caiff ymgeisydd neu asiant etholiadol yr ymgeisydd (os penodwyd un), os yw’n bresennol pan fydd y cyfrif wedi ei gwblhau, ofyn i’r swyddog canlyniadau ailgyfrif y pleidleisiau.
(2) Rhaid i’r swyddog canlyniadau gydymffurfio â’r cais oni bai bod y swyddog canlyniadau o’r farn bod y cais yn afresymol.
(3) Ni chaniateir cymryd unrhyw gam pan fo’r cyfrif wedi ei gwblhau nes bod yr ymgeiswyr a’r asiantau etholiadol sy’n bresennol wedi cael cyfle rhesymol i ofyn i’r pleidleisiau gael eu hailgyfrif.
(4) Pan fydd ailgyfrif yn digwydd, mae’r rheol hon hefyd yn gymwys mewn perthynas â’r ailgyfrif (fel y gall yr ymgeisydd neu asiant etholiadol yr ymgeisydd (os penodwyd un), er enghraifft, os yw’n bresennol pan fydd yr ailgyfrif wedi ei gwblhau, ofyn i’r swyddog canlyniadau ailgyfrif y pleidleisiau).
Gwybodaeth Cychwyn
I64Atod. 1 para. 57 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1
58.—(1) Mae’r rheol hon yn gymwys pan fo’r pleidleisiau’n gyfartal rhwng unrhyw ymgeiswyr ar ôl cyfrif y pleidleisiau (gan gynnwys unrhyw ailgyfrif), a phan fyddai ychwanegu pleidlais yn rhoi’r hawl i unrhyw un o’r ymgeiswyr hynny gael ei ethol.
(2) Rhaid i’r swyddog canlyniadau benderfynu ar unwaith rhwng yr ymgeiswyr drwy fwrw coelbren a bwrw ymlaen fel pe bai’r ymgeisydd y mae’r coelbren yn mynd o’i blaid wedi cael pleidlais ychwanegol.
Gwybodaeth Cychwyn
I65Atod. 1 para. 58 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1
59. Mae penderfyniad y swyddog canlyniadau ar unrhyw gwestiwn sy’n codi mewn cysylltiad â phapur pleidleisio yn derfynol, ond caniateir ei adolygu ar ddeiseb etholiad.
Gwybodaeth Cychwyn
I66Atod. 1 para. 59 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1
60.—(1) Pan fydd y cyfrif wedi ei gwblhau, rhaid i’r swyddog canlyniadau ddatgan bod yr ymgeisydd neu’r ymgeiswyr y rhoddwyd mwy o bleidleisiau iddo ef neu iddynt hwy nag i ymgeiswyr eraill wedi ei ethol neu wedi eu hethol, hyd at nifer y cynghorwyr sydd i’w hethol.
(2) Rhaid i’r swyddog canlyniadau roi hysbysiad yn datgan enwau a chyfeiriadau’r ymgeiswyr a etholwyd—
(a)i swyddog priodol y cyngor cymuned, a
(b)i swyddog priodol cyngor y sir neu’r fwrdeistref sirol y lleolir y gymuned ynddo.
(3) Rhaid i’r swyddog canlyniadau gyhoeddi hysbysiad hefyd—
(a)o enwau’r ymgeiswyr a etholwyd,
(b)o gyfanswm nifer y pleidleisiau a roddwyd i bob ymgeisydd (p’un a etholwyd hwy ai peidio), ac
(c)o nifer y papurau pleidleisiau a wrthodwyd o dan bob pennawd a ddangosir yn y datganiad o’r papurau pleidleisio a wrthodwyd (gweler rheol 56).
Gwybodaeth Cychwyn
I67Atod. 1 para. 60 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1
61.—(1) Mae’r rheol hon yn gymwys ar ôl cwblhau cyfrif y pleidleisiau mewn etholiad lle ceir gornest.
(2) Rhaid i’r swyddog canlyniadau selio mewn pecynnau ar wahân—
(a)y papurau pleidleisio a gyfrifwyd, a
(b)y papurau pleidleisio a wrthodwyd (gan gynnwys y papurau pleidleisio a wrthodwyd yn rhannol).
(3) Ni chaiff y swyddog canlyniadau agor unrhyw becynnau a seliwyd o dan reol 51(3) sy’n cynnwys—
(a)papurau pleidleisio a dendrwyd,
(b)rhestrau rhifau cyfatebol a gwblhawyd,
(c)tystysgrifau a ildiwyd gan gwnstabliaid neu staff swyddogion canlyniadau o dan reol 37(4) neu (5), neu
(d)copïau a farciwyd o’r cofnodion cofrestru a’r rhestrau dirprwyon.
Gwybodaeth Cychwyn
I68Atod. 1 para. 61 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1
62.—(1) Mae’r rheol hon yn gymwys pan fo’r swyddog canlyniadau wedi selio’r papurau pleidleisio a gyfrifwyd ac a wrthodwyd o dan reol 61(2).
(2) Rhaid i’r swyddog canlyniadau anfon y dogfennau a ganlyn at swyddog cofrestru’r cyngor sir neu’r cyngor bwrdeistref sirol y cynhelir yr etholiad yn ei ardal—
(a)y pecynnau o bapurau pleidleisio sydd ym meddiant y swyddog canlyniadau;
(b)y cyfriflenni papurau pleidleisio a baratowyd o dan reol 51(5);
(c)y datganiadau o’r papurau pleidleisio a wrthodwyd a baratowyd o dan reol 56(7);
(d)y datganiadau ynglŷn â chanlyniad dilysiad y cyfriflenni papurau pleidleisio a baratowyd o dan reol 54(5);
(e)y rhestrau a’r datganiadau a ganlyn—
(i)y rhestrau pleidleisiau a farciwyd gan y swyddog llywyddu, ynghyd â datganiad o nifer y pleidleiswyr y mae eu pleidleisiau wedi eu marcio o dan y penawdau “anabledd” a “methu darllen” (gweler rheol 43);
(ii)y datganiadau a wnaed gan gymdeithion pleidleiswyr ag anableddau (gweler rheol 44);
(iii)y rhestrau pleidleiswyr ag anableddau a gynorthwywyd gan gymdeithion (gweler rheol 45);
(iv)y rhestrau pleidleisiau a dendrwyd (gweler rheol 47);
(v)y rhestrau a gadwyd o dan reol 49 (cywiro gwallau ar ddiwrnod y bleidlais);
(f)y pecynnau sy’n cynnwys y rhestrau rhifau cyfatebol a gwblhawyd;
(g)y pecynnau sy’n cynnwys tystysgrifau a ildiwyd gan gwnstabliaid neu staff swyddogion canlyniadau o dan reol 37(4) neu (5);
(h)y pecynnau sy’n cynnwys copïau o gofnodion cofrestru a rhestrau dirprwyon;
(i)y pecynnau sy’n cynnwys y rhestr pleidleiswyr post a’r rhestr pleidleiswyr post drwy ddirprwy.
Gwybodaeth Cychwyn
I69Atod. 1 para. 62 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1
63.—(1) Mae’r rheol hon yn gymwys mewn perthynas â’r dogfennau a ganlyn pan fyddant ym meddiant y swyddog cofrestru (ar ôl cael eu hanfon o dan reol 62)—
(a)papurau pleidleisio a wrthodwyd ac a gyfrifwyd;
(b)pecynnau a seliwyd sy’n cynnwys rhestrau rhifau cyfatebol a gwblhawyd;
(c)pecynnau a seliwyd sy’n cynnwys tystysgrifau a ildiwyd gan gwnstabliaid neu staff swyddogion canlyniadau o dan reol 37(4) neu (5).
(2) Caiff llys sirol wneud unrhyw un neu ragor o’r gorchmynion a ganlyn, os yw wedi ei fodloni gan dystiolaeth ar lw fod angen y gorchymyn er mwyn naill ai cychwyn neu gynnal erlyniad am drosedd mewn perthynas â phapurau pleidleisio neu at ddibenion deiseb etholiad—
(a)gorchymyn i archwilio neu ddangos unrhyw un neu ragor o’r papurau pleidleisio a wrthodwyd (gan gynnwys unrhyw bapurau pleidleisio a wrthodwyd yn rhannol);
(b)gorchymyn i archwilio unrhyw un neu ragor o’r papurau pleidleisio a gyfrifwyd;
(c)gorchymyn i agor unrhyw un neu ragor o’r pecynnau a seliwyd sy’n cynnwys—
(i)rhestrau rhifau cyfatebol a gwblhawyd, neu
(ii)tystysgrifau a ildiwyd gan gwnstabliaid neu staff swyddogion canlyniadau o dan reol 37(4) neu (5);
(d)pan wneir gorchymyn i agor unrhyw un neu ragor o’r pecynnau a seliwyd o dan is-baragraff (c), gorchymyn i archwilio neu ddangos y cyfan neu ran o’r cynnwys.
(3) Caiff llys etholiad wneud—
(a)gorchymyn i archwilio unrhyw un neu ragor o’r papurau pleidleisio a gyfrifwyd;
(b)gorchymyn i agor unrhyw un neu ragor o’r pecynnau a seliwyd sy’n cynnwys—
(i)rhestrau rhifau cyfatebol a gwblhawyd, neu
(ii)tystysgrifau a ildiwyd gan gwnstabliaid neu staff swyddogion canlyniadau o dan reol 37(4) neu (5);
(c)pan wneir gorchymyn i agor unrhyw un neu ragor o’r pecynnau a seliwyd o dan is-baragraff (b), gorchymyn i archwilio neu ddangos y cyfan neu ran o’r cynnwys.
(4) Caniateir i orchymyn o dan y rheol hon gael ei wneud yn ddarostyngedig i unrhyw un neu ragor o’r amodau a ganlyn y mae’r llys yn credu eu bod yn briodol—
(a)amodau ynglŷn â phersonau;
(b)amodau ynglŷn ag amser;
(c)amodau ynglŷn â’r lle archwilio a’r dull archwilio;
(d)amodau ynglŷn â dangos neu agor.
(5) Rhaid i lys, wrth wneud gorchymyn o dan y rheol hon i archwilio papurau pleidleisio a gyfrifwyd neu i agor pecyn a seliwyd, osod unrhyw amodau o dan baragraff (4) y mae’r llys o’r farn eu bod yn briodol i sicrhau na ddatgelir y modd y mae etholwr wedi rhoi ei bleidlais oni bai a hyd nes y profwyd—
(a)bod yr etholwr wedi rhoi ei bleidlais, a
(b)bod y bleidlais wedi ei datgan yn annilys gan lys cymwys.
(6) Rhaid i unrhyw berson sy’n rhoi ei effaith i orchymyn o dan y rheol hon i archwilio papurau pleidleisio a gyfrifwyd neu i agor pecyn a seliwyd gymryd gofal i sicrhau na ddatgelir y modd y mae etholwr wedi rhoi ei bleidlais oni bai a hyd nes y profwyd—
(a)bod yr etholwr wedi rhoi ei bleidlais, a
(b)bod y bleidlais wedi ei datgan yn annilys gan lys cymwys.
(7) At yr Uchel Lys y cyfeirir apêl sy’n deillio o orchymyn llys sirol o dan y rheol hon.
(8) Caniateir i bwerau llys sirol o dan y rheol hon gael eu harfer gan unrhyw un neu ragor o farnwyr y llys heblaw mewn llys agored.
(9) Ac eithrio fel y darperir gan y rheol hon, ni chaiff neb—
(a)archwilio unrhyw un neu ragor o’r papurau pleidleisio a wrthodwyd neu a gyfrifwyd;
(b)agor unrhyw un neu ragor o’r pecynnau a seliwyd sy’n cynnwys—
(i)rhestrau rhifau cyfatebol a gwblhawyd, neu
(ii)tystysgrifau a ildiwyd gan gwnstabliaid neu staff swyddogion canlyniadau o dan reol 37(4) neu (5).
Gwybodaeth Cychwyn
I70Atod. 1 para. 63 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1
64.—(1) Mae paragraffau (2) a (3) yn gymwys pan wneir gorchymyn o dan reol 63 i swyddog cofrestru ddangos dogfen sydd ym meddiant y swyddog cofrestru ac sy’n ymwneud ag etholiad a bennwyd yn y gorchymyn.
(2) Mae dangos y ddogfen gan y swyddog cofrestru neu asiant y swyddog cofrestru yn y modd a gyfarwyddwyd gan y gorchymyn yn dystiolaeth bendant bod y ddogfen yn ymwneud â’r etholiad a bennwyd.
(3) Os bydd pecyn o bapurau pleidleisio sydd ag arnodiad ar y pecyn yn cael ei ddangos gan y swyddog cofrestru neu asiant y swyddog cofrestru i gydymffurfio â’r gorchymyn, mae’r arnodiad yn dystiolaeth prima facie mai’r papurau pleidleisio yw’r hyn y mae’r arnodiad yn dweud eu bod.
(4) Mae paragraff (5) yn gymwys pan fo swyddog cofrestru neu asiant swyddog cofrestru, er mwyn cydymffurfio â gorchymyn o dan reol 63, wedi dangos—
(a)papur pleidleisio sy’n honni ei fod wedi ei ddefnyddio mewn etholiad, a
(b)rhestr rhifau cyfatebol a gwblhawyd a oedd yn cael ei defnyddio yn yr etholiad, gyda rhif wedi ei farcio mewn ysgrifen wrth ochr rhif y papur pleidleisio hwnnw ar y rhestr.
(5) Mae dangos y papur pleidleisio a’r rhestr yn dystiolaeth prima facie mai’r etholwr y rhoddwyd ei bleidlais gan y papur pleidleisio hwnnw oedd y person yr oedd ei gofnod adeg yr etholiad yn y gofrestr etholwyr, neu ar hysbysiad a ddyroddwyd o dan adran 13B(3B) neu (3D) o Ddeddf 1983, yn cynnwys yr un rhif â’r rhif a ysgrifennwyd ar y papur pleidleisio.
Gwybodaeth Cychwyn
I71Atod. 1 para. 64 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1
65.—(1) Rhaid i’r swyddog cofrestru gadw’r holl ddogfennau a anfonwyd o dan reol 62 am gyfnod o flwyddyn sy’n dechrau â’r diwrnod y daethant i law’r swyddog cofrestru.
(2) Ar ddiwedd y cyfnod hwnnw o flwyddyn, rhaid i’r swyddog cofrestru beri i’r dogfennau gael eu dinistrio oni chyfarwyddir fel arall gan orchymyn llys sirol, Llys y Goron, llys ynadon neu lys etholiad.
Gwybodaeth Cychwyn
I72Atod. 1 para. 65 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1
66.—(1) Rhaid i’r swyddog canlyniadau ddinistrio ffurflen cyfeiriad cartref pob ymgeisydd—
(a)drannoeth y 35ain diwrnod ar ôl i’r swyddog canlyniadau ddychwelyd enwau’r cynghorwyr a etholwyd, oni bai bod deiseb etholiad sy’n amau etholiad neu ddychweliad yr ymgeiswyr yn cael ei chyflwyno cyn y diwrnod hwnnw;
(b)os cyflwynir deiseb etholiad sy’n amau etholiad neu ddychweliad cynghorwyr cyn y diwrnod hwnnw, cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl i’r achos ynglŷn â’r ddeiseb ddod i ben (gan gynnwys achos yr apêl, pan geir apêl).
(2) Er mwyn penderfynu ar y diwrnod y mae’n rhaid dinistrio ffurflenni cyfeiriad cartref ymgeiswyr, rhaid diystyru unrhyw ddiwrnod sy’n ddiwrnod eithriedig.
Gwybodaeth Cychwyn
I73Atod. 1 para. 66 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1
67.—(1) Mae’r rheol hon yn gymwys pan fo’r swyddog canlyniadau, mewn etholiad lle ceir gornest, wedi ei fodloni cyn i ganlyniad yr etholiad gael ei ddatgan fod un o’r personau a enwyd neu sydd i’w enwi yn ymgeisydd yn y papurau pleidleisio wedi marw.
(2) Rhaid i’r swyddog canlyniadau ddiddymu hysbysiad y bleidlais neu, os yw’r pleidleisio wedi dechrau, rhaid i’r swyddog canlyniadau gyfarwyddo rhoi’r gorau i’r bleidlais ac ni chaniateir dyroddi rhagor o bapurau pleidleisio.
(3) Pan roddir y gorau i’r bleidlais, rhaid i’r swyddog llywyddu mewn unrhyw orsaf bleidleisio sy’n cael ei defnyddio yn yr etholiad gymryd y camau (i’r graddau nad ydynt eisoes wedi eu cymryd) y byddai’n ofynnol i’r swyddog llywyddu eu cymryd o dan reol 51 ar ddiwedd y bleidlais, ac eithrio nad oes angen i’r swyddog llywyddu baratoi cyfriflen papurau pleidleisio.
(4) Rhaid i’r swyddog canlyniadau ymdrin â phapurau pleidleisio a dogfennau eraill sydd ym meddiant y swyddog canlyniadau pan roddir y gorau i’r bleidlais, neu a ddanfonir i’r swyddog canlyniadau wedyn er mwyn cydymffurfio â pharagraff (3), yn yr un modd ag y byddai’n ofynnol i’r swyddog canlyniadau ymdrin â phapurau pleidleisio a dogfennau eraill o dan reolau 61 a 62 ar ôl cwblhau cyfrif y pleidleisiau, ac eithrio—
(a)bod rhaid i’r swyddog canlyniadau selio’r holl bapurau pleidleisio (p’un a yw’r pleidleisiau arnynt wedi eu cyfrif ai peidio), ac
(b)nad oes angen selio papurau pleidleisio a gyfrifwyd ac a wrthodwyd mewn pecynnau ar wahân.
(5) Mae darpariaethau rheolau 63 i 65 yn gymwys i bapurau pleidleisio a dogfennau eraill sy’n ymwneud â phleidlais y rhoddwyd y gorau iddi oherwydd marwolaeth ymgeisydd, ac eithrio—
(a)bod papurau pleidleisio na chafodd y pleidleisiau arnynt eu cyfrif na’u gwrthod i’w trin fel papurau pleidleisio a gyfrifwyd, a
(b)y caniateir i orchymyn gael ei wneud o dan reol 63(2) neu (3) er mwyn cychwyn neu gynnal erlyniad am drosedd mewn perthynas â phapurau pleidleisio yn unig.
(6) O ran yr hyn sy’n digwydd ar ôl i hysbysiad o bleidlais gael ei ddiddymu neu ar ôl rhoi’r gorau i bleidlais, gweler adran 39 o Ddeddf 1983(17).
Gwybodaeth Cychwyn
I74Atod. 1 para. 67 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1
Gwybodaeth Cychwyn
I75Atod. 1 Rhn. ATODIADAU mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1
Rheol 4(3)
RHAN 1 Darpariaethau ynglŷn ag Amser
1.Amserlen
2.Cyfrif amser
RHAN 2 Hysbysiad Etholiad, Enwebu a Dull Ethol
Hysbysiad Etholiad
3.Hysbysiad etholiad
Enwebu
4.Dyletswydd y swyddog canlyniadau i gyflenwi ffurflenni enwebu etc.
5.Enwebu ymgeiswyr
6.Papurau enwebu: disgrifiadau
7.Ychwanegu “Wales”, “Welsh”, “Cymru” neu “Cymreig”
8.Papurau enwebu: datganiadau aelodaeth plaid
9.Ffurflenni cyfeiriad cartref
10.Penderfyniadau ynglŷn â dilysrwydd papurau enwebu
11.Enwebu mewn mwy nag un ardal etholiadol
12.Ymgeiswyr yn tynnu’n ôl
13.Cyhoeddi datganiad o’r personau a enwebwyd
14.Defnyddio enwau a ddefnyddir yn gyffredin yn y datganiad o’r personau a enwebwyd
15.Enwau sydd yr un fath neu’n debyg
16.Cywiro mân wallau mewn papur enwebu neu ffurflen cyfeiriad cartref
17.Archwilio papurau enwebu
18.Archwilio ffurflenni cyfeiriad cartref
19.Gohirio trafodion enwebu os ceir terfysg
Dull Ethol
20.Penderfynu a oes gornest yn yr etholiad a datgan y canlyniad os nad oes gornest
RHAN 3 Y Bleidlais mewn Etholiadau lle Ceir Gornest
Darpariaethau Cyffredinol
21.Y bleidlais i’w chynnal drwy bleidlais gudd
22.Y papurau pleidleisio
23.Rhestr rhifau cyfatebol
24.Y marc swyddogol
25.Gwahardd datgelu pleidlais
26.Defnyddio ysgolion ac ystafelloedd cyhoeddus
Camau i’w cymryd cyn y bleidlais
27.Hysbysiad y bleidlais
28.Papurau pleidleisio post
29.Darparu gorsafoedd pleidleisio
30.Penodi swyddogion llywyddu a chlercod
31.Dyroddi cardiau pleidleisio swyddogol
32.Cyfarpar gorsafoedd pleidleisio
33.Penodi asiantau pleidleisio ac asiantau cyfrif
34.Asiantau pleidleisio ac asiantau cyfrif: darpariaeth atodol
35.Hysbysu’r gofyniad cyfrinachedd
36.Dychwelyd papurau pleidleisio post
Y Bleidlais
37.Derbyn i’r orsaf bleidleisio
38.Cadw trefn yn yr orsaf
39.Selio blychau pleidleisio
40.Cwestiynau y caniateir eu gofyn i bleidleiswyr
41.Herio pleidleisiwr
42.Gweithdrefn pleidleisio
43.Pleidleiswyr sydd ag anabledd neu sy’n methu darllen: marcio pleidleisiau gan y swyddog llywyddu
44.Pleidleiswyr sydd ag anabledd neu sy’n methu darllen: cymorth cymdeithion
45.Pleidleisio gyda chymorth cydymaith: darpariaeth atodol
46.Papurau pleidleisio a dendrwyd: yr amgylchiadau lle maent ar gael
47.Dyletswyddau swyddogion llywyddu mewn perthynas â phapurau pleidleisio a dendrwyd
48.Papurau pleidleisio a ddifethwyd
49.Cywiro gwallau ar ddiwrnod y bleidlais
50.Gohirio’r bleidlais os ceir terfysg
51.Y weithdrefn wrth gau’r bleidlais
RHAN 4 Cyfrif y Pleidleisiau a Datgan y Canlyniad mewn Etholiadau lle Ceir Gornest
52.Trosolwg o’r rheolau a dehongli
53.Presenoldeb mewn trafodion o dan y Rhan hon
54.Dyletswyddau rhagarweiniol a chyffredinol pan y swyddog canlyniadau cydlynol yw’r swyddog canlyniadau
55.Gwahanu papurau pleidleisio etc. pan y swyddog canlyniadau cydlynol yw’r swyddog canlyniadau
56.Dyletswyddau rhagarweiniol a chyffredinol pan nad y swyddog canlyniadau cydlynol yw’r swyddog canlyniadau
57.Agor cynwysyddion etc. pan nad y swyddog canlyniadau cydlynol yw’r swyddog canlyniadau
58.Darpariaeth bellach ynghylch papurau pleidleisio post
59.Y cyfrif: cyffredinol
60.Y cyfrif: papurau pleidleisio a wrthodwyd
61.Ailgyfrif
62.Pleidleisiau cyfartal
63.Penderfynu ar bapurau pleidleisio
64.Datgan y canlyniad
RHAN 5 Gwaredu Dogfennau
65.Selio papurau pleidleisio mewn etholiadau lle ceir gornest
66.Danfon dogfennau i’r swyddog cofrestru mewn etholiadau lle ceir gornest
67.Dangos etc. dogfennau
68.Gorchmynion i ddangos etc. dogfennau: darpariaeth atodol
69.Cadw a dinistrio dogfennau a anfonwyd at y swyddog cofrestru
70.Dinistrio ffurflenni cyfeiriad cartref gan y swyddog canlyniadau
RHAN 6 Marwolaeth Ymgeisydd
71.Diddymu pleidlais neu roi’r gorau iddi ar ôl i ymgeisydd farw
ATODIADAU Nodyn: Caniateir i’r ffurflenni a geir yn yr Atodiadau hyn gael eu haddasu i’r graddau y bo’r amgylchiadau’n gofyn.
1.—(1) Rhaid i drafodion yr etholiad gael eu cynnal yn unol â’r amserlen a ganlyn.
Trafodion | Amser |
---|---|
Cyhoeddi hysbysiad etholiad | Dim hwyrach na’r pumed diwrnod ar hugain cyn diwrnod yr etholiad |
Danfon papurau enwebu | Dim hwyrach na 4 p.m. ar y pedwerydd diwrnod ar bymtheg cyn diwrnod yr etholiad |
Danfon hysbysiadau tynnu ymgeisyddiaeth yn ôl | Dim hwyrach na 4 p.m. ar y pedwerydd diwrnod ar bymtheg cyn diwrnod yr etholiad |
Cyhoeddi datganiad ynghylch y personau a enwebwyd | Dim hwyrach na 4 p.m. ar y deunawfed diwrnod cyn diwrnod yr etholiad |
Hysbysiad o etholiad heb ornest Hysbysiad o bleidlais mewn etholiad lle ceir gornest | Dim hwyrach na’r chweched diwrnod cyn diwrnod yr etholiad |
Pleidleisio | Rhwng 7 a.m. a 10 p.m. ar ddiwrnod yr etholiad |
(2) Mae paragraff (3) yn gymwys pan fo—
(a)papur enwebu yn cael ei anfon yn electronig neu ei gyflwyno ar-lein yn unol â threfniadau a nodir yn yr hysbysiad etholiad (gweler rheol 3), neu
(b)hysbysiad tynnu ymgeisyddiaeth yn ôl o dan reol 12 yn cael ei anfon yn electronig.
(3) At ddiben penderfynu a yw’r papur neu’r hysbysiad wedi ei ddanfon yn unol â’r amserlen ym mharagraff (1), mae’r papur neu’r hysbysiad i’w drin fel pe bai wedi ei ddanfon ar yr amser y mae ei ddanfon yn cael ei gofnodi ar y system gyfrifiadurol a ddefnyddir gan y swyddog canlyniadau ar gyfer derbyn y papur neu’r hysbysiad.
(4) Yn y rheol hon, ystyr “diwrnod yr etholiad” yw’r diwrnod a bennwyd yn hysbysiad yr etholiad fel y diwrnod y câi pleidlais ei chynnal pe ceid gornest.
Gwybodaeth Cychwyn
I76Atod. 2 para. 1 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1
2.—(1) Mae diwrnod eithriedig i’w ddiystyru wrth gyfrif unrhyw gyfnod a nodir yn ail golofn yr amserlen yn rheol 1.
(2) Ni chaniateir i drafodion o dan y rheolau hyn hyd at gau’r bleidlais gael eu cynnal ar ddiwrnod eithriedig.
(3) Nid yw’n ofynnol i’r swyddog canlyniadau fwrw ymlaen â chyfrif pleidleisiau ar ddiwrnod eithriedig.
Gwybodaeth Cychwyn
I77Atod. 2 para. 2 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1
3.—(1) Rhaid i’r swyddog canlyniadau gyhoeddi hysbysiad o’r etholiad.
(2) Rhaid i’r hysbysiad ddatgan—
(a)nifer y cynghorwyr sydd i’w dychwelyd ar gyfer pob ardal etholiadol,
(b)dyddiad y bleidlais os ceir gornest,
(c)y man lle gellir cael ffurflenni papurau enwebu a pha bryd a gwybodaeth am sut y gellir cael ffurflenni papur enwebu ar-lein a pha bryd,
(d)yr amser hwyraf ar gyfer danfon papurau enwebu, ac
(e)y man lle gellir danfon papurau enwebu a’r amserau pan ganiateir eu danfon i’r man hwnnw.
(3) Rhaid i’r hysbysiad ddatgan hefyd erbyn pa ddyddiad y mae’n rhaid i geisiadau am bleidleisio drwy’r post neu drwy ddirprwy, a cheisiadau a hysbysiadau eraill ynghylch pleidleisio drwy’r post neu drwy ddirprwy, gyrraedd y swyddog cofrestru er mwyn bod yn effeithiol ar gyfer yr etholiad.
(4) Rhaid i’r swyddog canlyniadau hefyd gynnwys yn yr hysbysiad ddatganiad danfon electronig.
(5) Mae datganiad danfon electronig yn ddatganiad y caniateir i bapurau enwebu gael eu danfon—
(a)drwy eu hanfon yn electronig i gyfeiriad ebost yn unol â threfniadau a nodir yn y datganiad,
(b)drwy eu cyflwyno ar-lein yn unol â threfniadau a nodir yn y datganiad, neu
(c)naill ai drwy eu hanfon yn electronig fel y crybwyllir yn is-baragraff (a) neu drwy eu cyflwyno ar-lein fel y crybwyllir yn is-baragraff (b).
Gwybodaeth Cychwyn
I78Atod. 2 para. 3 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1
4.—(1) Yn y man ac ar yr amserau ar gyfer cael ffurflenni papurau enwebu a nodir yn hysbysiad yr etholiad, rhaid i’r swyddog canlyniadau—
(a)cyflenwi cynifer o ffurflenni papurau enwebu i unrhyw berson ag y bydd y person yn gofyn amdanynt, a
(b)os gwneir cais, paratoi papur enwebu i’w lofnodi.
(2) Rhaid i’r swyddog canlyniadau wneud trefniadau hefyd i sicrhau bod modd cael ffurflenni enwebu ar-lein yn unol â’r wybodaeth a roddir yn hysbysiad yr etholiad.
(3) Er hynny, nid oes angen i enwebiad gael ei wneud ar ffurflen a gyflenwir gan y swyddog canlyniadau neu a geir ar-lein.
Gwybodaeth Cychwyn
I79Atod. 2 para. 4 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1
5.—(1) Rhaid i ymgeisydd ei enwebu ei hun gan ddefnyddio papur enwebu yn y ffurf yn Atodiad 1 neu ffurf i’r un perwyl.
(2) Caniateir i’r papur enwebu gael ei ddanfon naill ai—
(a)yn y man a bennir gan y swyddog canlyniadau yn hysbysiad yr etholiad, neu
(b)yn unol â’r trefniadau a nodir yn y datganiad danfon electronig.
(3) Rhaid i’r papur enwebu—
(a)datgan enwau llawn yr ymgeisydd, gan osod y cyfenwau’n gyntaf,
(b)os yw’r ymgeisydd yn dymuno, cynnwys disgrifiad sy’n cydymffurfio â rheol 6,
(c)cynnwys datganiad o aelodaeth plaid sy’n cydymffurfio â rheol 8, a
(d)cynnwys y datganiadau a nodir yn y ffurf yn Atodiad 1, wedi eu llofnodi gan yr ymgeisydd.
(4) Os yw ymgeisydd yn defnyddio’n gyffredin enwau blaen neu gyfenwau sy’n wahanol mewn unrhyw ffordd i’r enwau blaen neu’r cyfenwau a ddatgenir yn unol â pharagraff (3)(a) (gan gynnwys pan y gwahaniaeth yw defnyddio’r enwau blaen neu’r cyfenwau a ddefnyddir yn gyffredin mewn trefn wahanol, cynnwys rhai o’r enwau yn unig neu gynnwys enwau ychwanegol), caniateir i’r papur enwebu hefyd ddatgan yr enwau blaen neu’r cyfenwau a ddefnyddir yn gyffredin.
(5) Rhaid i’r papur enwebu gael ei lofnodi gan yr ymgeisydd ym mhresenoldeb tyst sy’n gorfod tystio i’r llofnod.
(6) I gyd-fynd â’r papur enwebu rhaid cael ffurflen (“ffurflen cyfeiriad cartref”) sy’n cydymffurfio â rheol 9.
Gwybodaeth Cychwyn
I80Atod. 2 para. 5 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1
6.—(1) Mae’r rheol hon yn nodi gofynion ynghylch y disgrifiadau y caniateir eu cynnwys mewn papur enwebu fel y crybwyllir yn rheol 5(3)(b).
(2) Caiff y disgrifiad fod naill ai—
(a)yn ddisgrifiad sy’n debygol o arwain etholwyr i gysylltu’r ymgeisydd â phlaid wleidyddol gofrestredig neu â dwy neu ragor o bleidiau gwleidyddol cofrestredig ac a ganiateir o dan baragraff (3) neu (yn ôl y digwydd) paragraff (4), neu
(b)y gair “Independent” neu’r gair “Annibynnol”, neu’r ddau air hynny.
(3) Caniateir disgrifiad sy’n debygol o arwain etholwyr i gysylltu’r ymgeisydd â phlaid wleidyddol gofrestredig—
(a)pan fo’r blaid yn blaid gymwys,
(b)pan fo’r disgrifiad naill ai—
(i)yn enw cofrestredig y blaid neu, os yw’r blaid wedi cofrestru enw Cymraeg ac enw Saesneg, y naill neu’r llall o’r enwau hynny neu’r ddau, neu
(ii)yn ddisgrifiad cofrestredig i’r blaid neu, yn achos disgrifiad a gofrestrwyd yn Gymraeg ac yn Saesneg, y naill neu’r llall o’r disgrifiadau hynny neu’r ddau, ac
(c)pan fo defnydd y disgrifiad gan yr ymgeisydd wedi ei awdurdodi gan dystysgrif a ddyroddwyd gan neu ar ran swyddog enwebu cofrestredig y blaid ac a ddaeth i law’r swyddog canlyniadau cyn yr amser olaf ar gyfer danfon papurau enwebu.
(4) Caniateir disgrifiad sy’n debygol o arwain etholwyr i gysylltu’r ymgeisydd â dwy neu ragor o bleidiau gwleidyddol cofrestredig—
(a)pan fo pob un o’r pleidiau’n bleidiau cymwys,
(b)pan fo’r disgrifiad yn cynnwys enw cofrestredig pob un o’r pleidiau a ddangosir yn y naill neu’r llall o’r fersiynau a ddisgrifir ym mharagraff (5) neu’r ddau, ac
(c)pan fo defnydd y disgrifiad gan yr ymgeisydd wedi ei awdurdodi gan dystysgrif a ddyroddwyd gan neu ar ran swyddog enwebu cofrestredig pob un o’r pleidiau ac a ddaeth i law’r swyddog canlyniadau cyn yr amser olaf ar gyfer danfon papurau enwebu.
(5) Y fersiynau y cyfeirir atynt ym mharagraff (4)(b) yw—
(a)fersiwn sy’n dangos (mewn unrhyw drefn) enwau cofrestredig y pleidiau, ynghyd ag ychwanegu unrhyw gysyllteiriau ac atalnodau priodol yn Saesneg (“y fersiwn Saesneg”);
(b)fersiwn sy’n dangos (mewn unrhyw drefn) enwau cofrestredig y pleidiau, ynghyd ag ychwanegu unrhyw gysyllteiriau ac atalnodau priodol yn Gymraeg (“y fersiwn Gymraeg”).
(6) Pan fo unrhyw un neu ragor o’r pleidiau wedi cofrestru enw Saesneg ac enw Cymraeg—
(a)caniateir i enw cofrestredig y blaid yn Saesneg (ac nid enw cofrestredig y blaid yn Gymraeg) gael ei ddefnyddio yn y fersiwn Saesneg, a
(b)caniateir i enw cofrestredig y blaid yn Gymraeg (ac nid enw cofrestredig y blaid yn Saesneg) gael ei ddefnyddio yn y fersiwn Gymraeg.
(7) Gweler hefyd reol 7 (sy’n nodi pryd a sut y caniateir ychwanegu’r gair “Wales”, “Welsh”, “Cymru” neu “Cymreig” at ddisgrifiadau a ganiateir o dan baragraff (3) neu (4)).
(8) Mae person yn euog o arfer lwgr os yw’r person hwnnw’n honni’n dwyllodrus ei fod wedi ei awdurdodi i ddyroddi tystysgrif o dan baragraff (3)(c) neu (4)(c) ar ran swyddog enwebu plaid wleidyddol gofrestredig.
(9) Yn y rheol hon—
(a)mae cyfeiriadau at enw cofrestredig plaid wleidyddol gofrestredig yn gyfeiriadau at enw’r blaid a gofrestrwyd o dan adran 28 o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000;
(b)mae cyfeiriadau at ddisgrifiad cofrestredig plaid wleidyddol gofrestredig yn gyfeiriadau at ddisgrifiad o’r blaid a gofrestrwyd o dan adran 28A o’r Ddeddf honno.
(10) At ddibenion cymhwyso’r rheol hon mewn perthynas ag etholiad—
(a)ystyr “plaid wleidyddol gofrestredig” yw plaid sydd wedi ei chofrestru o dan Ran 2 o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 ar y diwrnod sydd ddau ddiwrnod cyn y diwrnod olaf ar gyfer danfon papurau enwebu yn yr etholiad (gan ddiystyru unrhyw ddiwrnod eithriedig);
(b)mae plaid wleidyddol gofrestredig yn blaid gymwys os yw’r blaid, ar y diwrnod hwnnw, wedi ei chofrestru mewn cysylltiad â Chymru yng nghofrestr Prydain Fawr a gynhelir o dan Ran 2 o’r Ddeddf honno.
Gwybodaeth Cychwyn
I81Atod. 2 para. 6 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1
7.—(1) Mae’r rheol hon yn nodi pryd a sut y caiff ymgeisydd wneud ychwanegiadau mewn papur enwebu at ddisgrifiad y caniateir i’r ymgeisydd ei ddefnyddio o dan reol 6(3) neu (4).
(2) Mae paragraff (3) yn gymwys—
(a)pan fo enw cofrestredig yn ddisgrifiad y caniateir i’r ymgeisydd ei ddefnyddio o dan reol 6(3) neu’n ffurfio rhan o’r disgrifiad hwnnw, a
(b)pan nad yw’r enw cofrestredig yn cynnwys yr un o’r geiriau “Wales”, “Welsh”, “Cymru” a “Cymreig”.
(3) Caiff yr ymgeisydd wneud un o’r canlynol—
(a)ychwanegu’r gair “Wales” o flaen yr enw;
(b)ychwanegu’r gair “Welsh” o flaen yr enw;
(c)ychwanegu’r gair “Cymru” ar ôl yr enw;
(d)ychwanegu’r gair “Cymreig” ar ôl yr enw.
(4) Mae paragraffau (5) a (6) yn gymwys—
(a)pan fo enw cofrestredig yn ffurfio rhan o ddisgrifiad y caniateir i’r ymgeisydd ei ddefnyddio o dan reol 6(4), a
(b)pan nad yw’r enw cofrestredig yn cynnwys yr un o’r geiriau “Wales”, “Welsh”, “Cymru” a “Cymreig”.
(5) Os yw’r enw cofrestredig yn y fersiwn Saesneg o’r disgrifiad (p’un a yw hefyd yn y fersiwn Gymraeg ai peidio), caiff yr ymgeisydd ychwanegu naill ai’r gair “Wales” neu’r gair “Welsh” o flaen yr enw yn y fersiwn honno.
(6) Os yw’r enw cofrestredig yn y fersiwn Gymraeg o’r disgrifiad (p’un a yw hefyd yn y fersiwn Saesneg ai peidio), caiff yr ymgeisydd ychwanegu naill ai’r gair “Cymru” neu’r gair “Cymreig” ar ôl yr enw yn y fersiwn honno.
(7) Mae paragraff (8) yn gymwys—
(a)pan fo disgrifiad cofrestredig yn ddisgrifiad y caniateir i’r ymgeisydd ei ddefnyddio o dan reol 6(3) neu’n ffurfio rhan o’r disgrifiad hwnnw, a
(b)pan nad yw’r disgrifiad cofrestredig yn cynnwys yr un o’r geiriau “Wales”, “Welsh”, “Cymru” a “Cymreig”.
(8) Caiff yr ymgeisydd wneud un o’r canlynol—
(a)ychwanegu’r gair “Wales” ar ddechrau’r disgrifiad cofrestredig;
(b)ychwanegu’r gair “Welsh” ar ddechrau’r disgrifiad cofrestredig;
(c)ychwanegu’r gair “Cymru” ar ddiwedd y disgrifiad cofrestredig;
(d)ychwanegu’r gair “Cymreig” ar ddiwedd y disgrifiad cofrestredig.
(9) At ddibenion paragraffau (3)(a) a (b) a (5), pan fo’r gair “the” (neu unrhyw air mewn iaith arall sydd â’r un swyddogaeth â’r gair “the”) yn ymddangos ar ddechrau enw cofrestredig, rhaid ei anwybyddu.
(10) Pan fo ymgeisydd yn ychwanegu unrhyw beth at ddisgrifiad mewn papur enwebu yn unol â’r rheol hon, mae cyfeiriadau yn y darpariaethau a ganlyn yn yr Atodlen hon at y disgrifiad yn gyfeiriadau at y disgrifiad gyda’r ychwanegiad.
Gwybodaeth Cychwyn
I82Atod. 2 para. 7 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1
8.—(1) Mae’r rheol hon yn nodi’r gofynion ynglŷn â datganiadau aelodaeth plaid y mae’n rhaid eu cynnwys mewn papurau enwebu fel y crybwyllir yn rheol 5(3)(c).
(2) Rhaid i’r datganiad ddatgan a yw’r ymgeisydd wedi bod yn aelod o unrhyw blaid wleidyddol gofrestredig unrhyw bryd yn ystod y cyfnod perthnasol.
(3) Os yw’r ymgeisydd wedi bod yn aelod o un neu ragor o bleidiau gwleidyddol cofrestredig unrhyw bryd yn ystod y cyfnod perthnasol, rhaid i’r datganiad hefyd gynnwys yr wybodaeth a ganlyn mewn perthynas â’r blaid neu (yn ôl y digwydd) pob un o’r pleidiau y bu’r ymgeisydd yn aelod ohonynt—
(a)enw cofrestredig y blaid neu, pan fo gan y blaid ddau enw cofrestredig, enwau cofrestredig y blaid, a
(b)y dyddiadau yn ystod y cyfnod perthnasol pan fu’r ymgeisydd yn aelod o’r blaid.
(4) Nid yw paragraff (3) yn gymwys—
(a)pan fo’r papur enwebu’n cynnwys disgrifiad sy’n debygol o arwain etholwyr i gysylltu’r ymgeisydd â phlaid wleidyddol gofrestredig neu â dwy neu ragor o bleidiau gwleidyddol cofrestredig ac a ganiateir o dan reol 6(3) neu (yn ôl y digwydd) rheol 6(4), a
(b)pan nad yw’r ymgeisydd wedi bod yn aelod o blaid wleidyddol gofrestredig unrhyw bryd yn ystod y cyfnod perthnasol ac eithrio’r blaid neu’r pleidiau y mae’r disgrifiad hwnnw’n ymwneud â hi neu â hwy.
(5) Mae ymgeisydd sy’n methu’n fwriadol â chynnwys yn y papur enwebu ddatganiad o aelodaeth plaid sy’n cydymffurfio â gofynion y rheol hon yn euog o arfer lwgr.
(6) Yn y rheol hon—
(a)ystyr “plaid wleidyddol gofrestredig” yw plaid sydd wedi ei chofrestru o dan Ran 2 o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 unrhyw bryd yn ystod y cyfnod perthnasol pan fo’r ymgeisydd yn aelod;
(b)mae cyfeiriadau at enw cofrestredig plaid wleidyddol gofrestredig yn gyfeiriadau at enw’r blaid a gofrestrwyd o dan adran 28 o’r Ddeddf honno;
(c)ystyr “y cyfnod perthnasol” yw’r cyfnod o 12 mis sy’n dod i ben â’r diwrnod y cyhoeddir hysbysiad yr etholiad.
Gwybodaeth Cychwyn
I83Atod. 2 para. 8 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1
9.—(1) Mae’r rheol hon yn nodi’r gofynion ynglŷn â ffurflenni cyfeiriad cartref y mae’n rhaid iddynt gyd-fynd â phapurau enwebu o dan reol 5(6).
(2) Rhaid i ffurflen cyfeiriad cartref ddatgan—
(a)enwau llawn yr ymgeisydd,
(b)cyfeiriad cartref yr ymgeisydd yn llawn,
(c)cyfeiriad neu gyfeiriadau cymwys yr ymgeisydd, a
(d)y cymhwyster y mae pob cyfeiriad cymwys yn ymwneud ag ef.
(3) Mae cyfeiriad neu gyfeiriadau cymwys yr ymgeisydd, a’r cymhwyster y mae pob cyfeiriad cymwys yn ymwneud ag ef, yn dibynnu ar ba un neu ragor o opsiynau (a) i (d) ar y papur enwebu sydd wedi eu dewis gan yr ymgeisydd, fel y’u nodir yn y tabl a ganlyn.
Yr opsiwn a ddewisir ar y papur enwebu | Cyfeiriad cymwys yr ymgeisydd | Y cymhwyster y mae cyfeiriad cymwys yr ymgeisydd yn ymwneud ag ef |
---|---|---|
Opsiwn (a) | Y cyfeiriad llawn y mae’r ymgeisydd wedi ei gofrestru fel etholwr llywodraeth leol mewn cysylltiad ag ef | Y cymhwyster a ddisgrifir yn opsiwn (a) (cofrestru fel etholwr llywodraeth leol ar gyfer ardal y cyngor cymuned) |
Opsiwn (b) | Disgrifiad a chyfeiriad y tir neu’r fangre y mae’r ymgeisydd wedi eu meddiannu fel perchennog neu denant (neu, os yw’r ymgeisydd yn dibynnu ar fwy nag un meddiant i fodloni’r cymhwyster, y disgrifiadau a’r cyfeiriadau) | Y cymhwyster a ddisgrifir yn opsiwn (b) (meddiannu tir neu fangre arall yn ardal y cyngor cymuned fel perchennog neu denant) |
Opsiwn (c) | Cyfeiriad gweithle’r ymgeisydd (neu, os yw’r ymgeisydd yn dibynnu ar fwy nag un gweithle i fodloni’r cymhwyster, y cyfeiriadau) | Y cymhwyster a ddisgrifir yn opsiwn (c) (prif neu unig weithle yn ardal y cyngor cymuned) |
Opsiwn (d) | Y cyfeiriad neu’r cyfeiriadau llawn lle mae’r ymgeisydd wedi preswylio | Y cymhwyster a ddisgrifir yn opsiwn (d) (preswylio yn y gymuned neu o fewn 3 milltir iddi) |
(4) Os yw papur enwebu’r ymgeisydd yn cynnwys enwau blaen neu gyfenwau a ddefnyddir yn gyffredin, rhaid i’r ffurflen cyfeiriad cartref hefyd ddatgan yr enwau a ddefnyddir yn gyffredin.
(5) Rhaid i’r ffurflen cyfeiriad cartref ddatgan hefyd—
(a)enwau llawn y person sy’n dyst i lofnod yr ymgeisydd ar y papur enwebu, a
(b)cyfeiriad cartref y person hwnnw yn llawn.
(6) Caiff y ffurflen cyfeiriad cartref gynnwys datganiad a wnaed ac a lofnodwyd gan yr ymgeisydd na chaniateir cyhoeddi cyfeiriad cartref yr ymgeisydd.
(7) Os yw’r ffurflen cyfeiriad cartref yn cynnwys datganiad o’r fath, mae’n rhaid iddi—
(a)pan fo cyfeiriad cartref yr ymgeisydd yn y Deyrnas Unedig, ddatgan enw’r ardal berthnasol (gweler paragraff (8));
(b)pan fo cyfeiriad cartref yr ymgeisydd y tu allan i’r Deyrnas Unedig, ddatgan y wlad y mae wedi ei leoli ynddi.
(8) Yn y rheol hon, ystyr “ardal berthnasol” yw—
(a)pan fo cyfeiriad cartref yr ymgeisydd yng Nghymru—
(i)os yw’r cyfeiriad mewn sir, y sir honno;
(ii)os yw’r cyfeiriad mewn bwrdeistref sirol, y fwrdeistref sirol honno;
(b)pan fo cyfeiriad cartref yr ymgeisydd yn Lloegr—
(i)os yw’r cyfeiriad mewn dosbarth y ceir cyngor dosbarth ar ei gyfer, y dosbarth hwnnw;
(ii)os yw’r cyfeiriad mewn sir nad oes dosbarthau â chynghorau ynddi, y sir honno;
(iii)os yw’r cyfeiriad yn un o fwrdeistrefi Llundain, y fwrdeistref honno yn Llundain;
(iv)os yw’r cyfeiriad yn Ninas Llundain (gan gynnwys y Temlau Mewnol a Chanol), Dinas Llundain;
(v)os yw’r cyfeiriad yn Ynysoedd Sili, Ynysoedd Sili;
(c)pan fo cyfeiriad cartref yr ymgeisydd yn yr Alban, yr ardal llywodraeth leol y mae’r cyfeiriad wedi ei leoli ynddi;
(d)pan fo cyfeiriad cartref yr ymgeisydd yng Ngogledd Iwerddon, y dosbarth llywodraeth leol y mae wedi ei leoli ynddo.
Gwybodaeth Cychwyn
I84Atod. 2 para. 9 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1
10.—(1) Mae’r rheol hon yn gymwys pan ddanfonir papur enwebu a’r ffurflen cyfeiriad cartref sy’n cyd-fynd ag ef yn unol â’r rheolau hyn.
(2) Mae’r ymgeisydd yn dal wedi ei enwebu oni bai a hyd nes y bydd un o’r digwyddiadau a ganlyn yn digwydd—
(a)bod y swyddog canlyniadau’n penderfynu bod y papur enwebu’n annilys;
(b)bod y swyddog canlyniadau wedi ei fodloni bod yr ymgeisydd wedi marw;
(c)bod yr ymgeisydd yn tynnu’n ôl.
(3) Mae gan y swyddog canlyniadau hawl i ddyfarnu bod papur enwebu’n annilys ar un o’r seiliau a ganlyn yn unig—
(a)nad yw manylion yr ymgeisydd yn unol â gofynion y gyfraith;
(b)nad yw ffurflen cyfeiriad cartref yr ymgeisydd yn cydymffurfio â rheol 9(2) i (6);
(c)pan fo ffurflen cyfeiriad cartref yr ymgeisydd yn cynnwys datganiad na chaniateir cyhoeddi’r cyfeiriad cartref, nad yw’r ffurflen yn cydymffurfio â rheol 9(7);
(d)nad yw’r papur enwebu wedi ei lofnodi gan yr ymgeisydd, neu nad yw llofnod yr ymgeisydd wedi ei ardystio, yn unol â gofynion rheol 5(5).
(4) Yn ddarostyngedig i baragraff (5), rhaid i’r swyddog canlyniadau, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl i bob papur enwebu a ffurflen cyfeiriad cartref gael eu danfon, eu harchwilio a phenderfynu a yw’r ymgeisydd wedi ei enwebu’n ddilys.
(5) Os oes disgrifiad mewn papur enwebu wedi ei gynnwys ym marn y swyddog canlyniadau yn groes i reol 6(3) neu (4) neu 7, rhaid i’r swyddog canlyniadau roi penderfyniad nad yw manylion yr ymgeisydd yn unol â gofynion y gyfraith—
(a)cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl i’r papur enwebu gael ei ddanfon, a
(b)beth bynnag, cyn diwedd y cyfnod o 24 awr sy’n dechrau â diwedd y cyfnod ar gyfer danfon papurau enwebu.
(6) Pan fo’r swyddog canlyniadau’n penderfynu bod papur enwebu’n annilys, rhaid i’r swyddog canlyniadau arnodi ar y papur y ffaith bod y penderfyniad wedi ei wneud a’r rhesymau drosto a llofnodi’r arnodiad.
(7) Rhaid i’r swyddog canlyniadau roi hysbysiad i bob ymgeisydd yn datgan penderfyniad y swyddog canlyniadau a yw papur enwebu’r ymgeisydd yn ddilys ynteu’n annilys.
(8) Mae penderfyniad y swyddog canlyniadau bod papur enwebu yn ddilys yn derfynol ac ni chaniateir ei amau mewn unrhyw achos.
(9) Ac eithrio fel y darperir gan baragraff (8), nid oes dim yn y rheol hon yn atal dilysrwydd enwebiad rhag cael ei amau ar ddeiseb etholiad.
Gwybodaeth Cychwyn
I85Atod. 2 para. 10 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1
11.—(1) Rhaid i ymgeisydd sydd wedi ei enwebu’n ddilys ar gyfer mwy nag un ardal etholiadol yn yr un gymuned dynnu’n ôl o ymgeisyddiaeth yn yr holl ardaloedd etholiadol hynny ond un.
(2) Mae ymgeisydd nad yw’n tynnu’n ôl yn unol â gofynion paragraff (1) i’w drin fel pe bai wedi tynnu’n ôl o ymgeisyddiaeth yn yr holl ardaloedd etholiadol lle cafodd yr ymgeisydd ei enwebu’n ddilys.
Gwybodaeth Cychwyn
I86Atod. 2 para. 11 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1
12.—(1) Caiff ymgeisydd dynnu’n ôl o ymgeisyddiaeth drwy roi hysbysiad tynnu’n ôl i’r swyddog canlyniadau.
(2) Rhaid i’r hysbysiad tynnu’n ôl gael ei lofnodi gan yr ymgeisydd ym mhresenoldeb tyst sy’n gorfod tystio i lofnod yr ymgeisydd.
Gwybodaeth Cychwyn
I87Atod. 2 para. 12 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1
13.—(1) Rhaid i’r swyddog canlyniadau baratoi a chyhoeddi datganiad (“datganiad o’r personau a enwebwyd”) yn dangos—
(a)y personau a enwebwyd ac sy’n dal wedi eu henwebu, a
(b)unrhyw bersonau eraill a enwebwyd ond nad ydynt yn dal wedi eu henwebu mwyach, gyda’r rheswm nad ydynt yn dal wedi eu henwebu mwyach.
(2) Rhaid i’r datganiad ddangos—
(a)enwau a disgrifiadau (os oes rhai) y personau a enwebwyd, fel y’u rhoddwyd yn eu papurau enwebu,
(b)yr wybodaeth am eu cyfeiriad cartref (gweler paragraff (3)), ac
(c)yr wybodaeth a gynhwyswyd yn eu datganiadau o aelodaeth plaid, fel y’i rhoddwyd yn eu papurau enwebu.
(3) Yn y rheolau hyn, mae cyfeiriadau at yr wybodaeth am gyfeiriad cartref person a enwebwyd yn gyfeiriadau at yr wybodaeth a ganlyn fel y’i rhoddwyd yn y ffurflen cyfeiriad cartref sy’n cyd-fynd â’r papur enwebu—
(a)pan fo’r ffurflen cyfeiriad cartref yn cynnwys datganiad na chaniateir cyhoeddi’r cyfeiriad cartref, yr wybodaeth a roddwyd yn unol â rheol 9(7);
(b)pan nad yw’r ffurflen cyfeiriad cartref yn cynnwys datganiad o’r fath, cyfeiriad y person a enwebwyd.
(4) Rhaid i’r datganiad ddangos y personau sy’n dal wedi eu henwebu yn nhrefn yr wyddor yn ôl eu cyfenwau, ac os oes gan ddau neu ragor ohonynt yr un cyfenwau, rhaid i’r datganiad ddangos y personau hynny yn nhrefn yr wyddor yn ôl eu henwau eraill.
(5) Mae rheol 14 (defnyddio enwau a ddefnyddir yn gyffredin) a rheol 15 (enwau sydd yr un fath neu’n debyg) yn gwneud darpariaeth bellach ynghylch cynnwys y datganiad o’r personau a enwebwyd.
Gwybodaeth Cychwyn
I88Atod. 2 para. 13 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1
14.—(1) Mae’r rheol hon yn gymwys pan fo papur enwebu person yn rhoi enwau blaen neu gyfenwau a ddefnyddir yn gyffredin yn unol â rheol 5(4).
(2) Rhaid i’r datganiad o’r personau a enwebwyd ddangos enwau blaen neu gyfenwau’r person a ddefnyddir yn gyffredin (yn hytrach na’r enwau blaen neu’r cyfenwau a ddatganwyd yn y papur enwebu yn unol â rheol 5(3)(a)) oni bai bod y swyddog canlyniadau’n penderfynu—
(a)y gallai defnyddio enwau blaen neu gyfenwau’r person a ddefnyddir yn gyffredin fod yn debygol o gamarwain neu ddrysu etholwyr, neu
(b)bod yr enwau blaen neu’r cyfenwau a ddefnyddir yn gyffredin yn anweddus neu’n dramgwyddus.
(3) Pan fo paragraff (2)(a) neu (b) yn gymwys—
(a)rhaid i’r datganiad o’r personau a enwebwyd ddangos enwau blaen neu gyfenwau eraill y person fel y’u datganwyd yn y papur enwebu yn unol â rheol 5(3)(a) (yn hytrach na’r enwau blaen neu’r cyfenwau a ddefnyddir yn gyffredin), a
(b)rhaid i’r swyddog canlyniadau roi hysbysiad i’r ymgeisydd yn datgan y rhesymau dros wrthod caniatáu defnyddio’r enwau blaen neu’r cyfenwau a ddefnyddir yn gyffredin.
Gwybodaeth Cychwyn
I89Atod. 2 para. 14 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1
15.—(1) Mae’r rheol hon yn gymwys pan fo’r swyddog canlyniadau, wrth baratoi datganiad o’r personau a enwebwyd, yn penderfynu—
(a)bod dau neu ragor o’r enwau a fyddai’n cael eu dangos ar y datganiad yr un fath neu mor debyg nes eu bod yn debygol o beri dryswch,
(b)bod pob un o’r personau dan sylw wedi gwneud datganiad eu bod yn ei gwneud yn ofynnol i’w cyfeiriad cartref beidio â chael ei gyhoeddi (gweler rheol 9(6)), ac
(c)bod yr wybodaeth a roddwyd yn unol â rheol 9(7) yr un fath ar gyfer pob un ohonynt.
(2) Caiff y swyddog canlyniadau drefnu i unrhyw un neu ragor o’u manylion gael eu dangos ar y datganiad o’r personau a enwebwyd gydag unrhyw ddiwygiadau neu ychwanegiadau sy’n briodol ym marn y swyddog canlyniadau er mwyn lleihau’r tebygolrwydd o ddryswch.
(3) Wrth benderfynu a ddylid gwneud diwygiadau neu ychwanegiadau o dan y rheol hon, rhaid i’r swyddog canlyniadau roi sylw i unrhyw ganllawiau a roddwyd gan y Comisiwn Etholiadol at ddibenion y rheol hon.
(4) Pan fo’n ymarferol gwneud hynny cyn cyhoeddi’r datganiad, rhaid i’r swyddog canlyniadau ymgynghori ag unrhyw bersonau y bwriedir diwygio’u manylion neu ychwanegu at eu manylion o dan y rheol hon.
(5) Rhaid i’r swyddog canlyniadau roi hysbysiad i unrhyw berson y diwygiwyd ei fanylion neu yr ychwanegwyd at ei fanylion o dan y rheol hon, yn nodi’r diwygiadau neu’r ychwanegiadau.
(6) Ni chaniateir i unrhyw beth a wneir gan swyddog canlyniadau o dan y rheol hon gael ei amau mewn unrhyw achos heblaw achos ar ddeiseb etholiad.
Gwybodaeth Cychwyn
I90Atod. 2 para. 15 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1
16.—(1) Caiff swyddog canlyniadau, unrhyw bryd cyn cyhoeddi’r datganiad o’r personau a enwebwyd, gywiro mân wallau mewn papur enwebu neu ffurflen cyfeiriad cartref.
(2) Mae’r gwallau y caniateir eu cywiro yn cynnwys—
(a)gwallau o ran rhif etholiadol person;
(b)gwallau sillafu amlwg;
(c)gwallau o ran yr wybodaeth a roddwyd yn unol â rheol 9(7) (gwybodaeth y mae’n rhaid ei chynnwys pan fo’r ymgeisydd wedi datgan na chaniateir cyhoeddi’r cyfeiriad cartref).
(3) Ni chaniateir i unrhyw beth a wneir gan swyddog canlyniadau yn unol â’r rheol hon gael ei amau mewn unrhyw achos heblaw achos ar ddeiseb etholiad.
(4) Wrth benderfynu a ddylid cywiro mân wallau o dan y rheol hon, rhaid i swyddog canlyniadau roi sylw i unrhyw ganllawiau a roddwyd gan y Comisiwn Etholiadol at ddibenion y rheol hon.
Gwybodaeth Cychwyn
I91Atod. 2 para. 16 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1
17.—(1) Yn ystod yr amser ar gyfer archwilio, caiff unrhyw berson archwilio papurau enwebu sydd wedi eu danfon.
(2) Ym mharagraff (1), ystyr “yr amser ar gyfer archwilio” yw oriau swyddfa arferol ar unrhyw ddiwrnod ar ôl y diwrnod olaf ar gyfer danfon papurau enwebu a chyn diwrnod y bleidlais, ac eithrio diwrnod eithriedig.
(3) Caiff person sy’n archwilio papurau enwebu gymryd copi o’r papurau, neu godi dyfyniadau ohonynt.
Gwybodaeth Cychwyn
I92Atod. 2 para. 17 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1
18.—(1) Yn ystod yr amser ar gyfer archwilio, caniateir i ffurflen cyfeiriad cartref ymgeisydd sy’n dal wedi ei enwebu gael ei harchwilio gan unrhyw un neu ragor o’r canlynol sy’n dymuno ei harchwilio—
(a)ymgeisydd arall sy’n dal wedi ei enwebu yn yr un ardal etholiadol;
(b)asiant etholiadol (os penodwyd un) ymgeisydd arall sy’n dal wedi ei enwebu yn yr ardal honno;
(c)yn achos ymgeisydd arall sy’n dal wedi ei enwebu yn yr ardal honno ac sydd heb benodi asiant etholiadol, person arall a ddewisir gan yr ymgeisydd hwnnw.
(2) Ym mharagraff (1), ystyr “yr amser ar gyfer archwilio” yw oriau swyddfa arferol ar unrhyw ddiwrnod ar ôl y diwrnod olaf ar gyfer danfon papurau enwebu a chyn diwrnod y bleidlais, ac eithrio diwrnod eithriedig
(3) Ni chaiff ymgeisydd neu berson arall sy’n cynnal archwiliad o dan y rheol hon gymryd copi o ffurflen cyfeiriad cartref na chodi dyfyniadau ohoni.
(4) Ni chaiff y swyddog canlyniadau ganiatáu i ffurflen cyfeiriad cartref gael ei harchwilio heblaw yn unol â’r rheol hon neu at ryw ddiben arall a awdurdodir gan y gyfraith.
Gwybodaeth Cychwyn
I93Atod. 2 para. 18 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1
19.—(1) Mae’r rheol hon yn gymwys os torrir ar draws trafodion ar gyfer enwebu, neu mewn cysylltiad ag enwebu, neu os rhwystrir y trafodion hynny, ar unrhyw ddiwrnod gan derfysg neu drais agored.
(2) Rhaid rhoi’r gorau i’r trafodion am y diwrnod hwnnw.
(3) Os y diwrnod olaf ar gyfer danfon papurau enwebu yw’r diwrnod y rhoddir y gorau i’r trafodion, rhaid ailddechrau’r trafodion drannoeth.
(4) Pan fo paragraff (3) yn ei gwneud yn ofynnol bod y trafodion yn ailddecrhau drannoeth, mae’r dyddiadau cau a bennir yn ail golofn yr amserlen yn rheol 1 ar gyfer danfon papurau enwebu, danfon hysbysiadau tynnu ymgeisyddiaeth yn ôl a chyhoeddi’r datganiad o’r personau a enwebwyd i gyd yn cael eu hymestyn un diwrnod.
(5) Pan roddir y gorau i drafodion o dan y rheol hon—
(a)ni chaniateir i ddim byd gael ei wneud ar ôl ailddechrau’r trafodion os oedd yr amser ar gyfer ei wneud wedi mynd heibio pan roddwyd y gorau i’r trafodion, a
(b)nid yw dim byd a wnaed cyn rhoi’r gorau i’r trafodion yn annilys oherwydd rhoi’r gorau iddynt.
Gwybodaeth Cychwyn
I94Atod. 2 para. 19 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1
20.—(1) Rhaid i’r swyddog canlyniadau benderfynu a yw nifer y personau sy’n dal wedi eu henwebu’n ddilys ar gyfer yr ardal etholiadol ar ôl i unrhyw un neu ragor dynnu’n ôl o dan reol 12 yn fwy na nifer y cynghorwyr sydd i’w hethol.
(2) Os nad yw nifer y personau sy’n dal wedi eu henwebu’n ddilys yn fwy na nifer y cynghorwyr sydd i’w hethol, rhaid i’r swyddog canlyniadau ddatgan bod y person neu’r personau sy’n dal wedi ei enwebu neu wedi eu henwebu’n ddilys wedi ei ethol neu wedi eu hethol.
(3) Rhaid hefyd i’r swyddog canlyniadau—
(a)rhoi hysbysiad yn datgan enwau a chyfeiriadau’r rhai y datganwyd eu bod wedi eu hethol—
(i)i swyddog priodol y cyngor cymuned, a
(ii)i swyddog priodol y cyngor sir neu’r cyngor bwrdeistref sirol y lleolir y gymuned ynddo, a
(b)cyhoeddi eu henwau.
(4) Os yw nifer y personau sy’n dal wedi eu henwebu’n ddilys yn fwy na nifer y cynghorwyr sydd i’w hethol, rhaid cynnal pleidlais yn unol â Rhan 3.
Gwybodaeth Cychwyn
I95Atod. 2 para. 20 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1
21.—(1) Rhaid i’r pleidleisiau yn y bleidlais gael eu rhoi drwy bleidlais gudd.
(2) Rhaid canfod y canlyniad yn unol â Rhan 4 (cyfrif y pleidleisiau).
Gwybodaeth Cychwyn
I96Atod. 2 para. 21 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1
22.—(1) Rhaid i bleidlais gudd pob pleidleisiwr fod yn bapur pleidleisio.
(2) Yr unig bersonau sydd â hawl i gael eu henwau wedi eu gosod ar y papur pleidleisio yw’r rhai sy’n dal wedi eu henwebu’n ddilys ar gyfer yr ardal etholiadol ar ôl i unrhyw un neu ragor dynnu’n ôl o dan reol 12.
(3) Rhaid i bapur pleidleisio—
(a)bod yn y ffurf yn Atodiad 2, a
(b)bod wedi ei argraffu yn unol â’r cyfarwyddydau yn yr Atodiad hwnnw.
(4) Rhaid i’r papur pleidleisio—
(a)cynnwys enwau a disgrifiadau (os oes rhai) yr ymgeiswyr a’r wybodaeth am eu cyfeiriad cartref, fel y’i dangoswyd yn y datganiad o’r personau a enwebwyd,
(b)gallu cael ei blygu,
(c)bod â rhif a marc adnabod unigryw arall wedi eu hargraffu ar y cefn, a
(d)bod o liw gwahanol i liw unrhyw bapurau pleidleisio a defnyddir mewn etholiad perthnasol.
(5) Ar gais ymgeisydd sydd wedi ei awdurdodi o dan reol 6(3)(c) i ddefnyddio disgrifiad sy’n debygol o arwain etholwyr i gysylltu’r ymgeisydd â phlaid wleidyddol gofrestredig, rhaid i’r papur pleidleisio gynnwys, gyferbyn â manylion yr ymgeisydd, un arwyddlun cofrestredig i’r blaid.
(6) Ar gais ymgeisydd sydd wedi ei awdurdodi o dan reol 6(4)(c) i ddefnyddio disgrifiad sy’n debygol o arwain etholwyr i gysylltu’r ymgeisydd â dwy neu ragor o bleidiau gwleidyddol cofrestredig, rhaid i’r papur pleidleisio gynnwys, gyferbyn â manylion yr ymgeisydd, un arwyddlun cofrestredig i un o’r pleidiau.
(7) Rhaid i gais yr ymgeisydd o dan baragraff (5) neu (6)—
(a)cael ei wneud mewn ysgrifen i’r swyddog canlyniadau, a
(b)dod i law’r swyddog canlyniadau cyn yr amser olaf ar gyfer danfon papurau enwebu fel y’i nodir yn yr amserlen yn rheol 1.
(8) Rhaid i drefn yr enwau yn y papur pleidleisio fod yr un fath ag yn y datganiad o’r personau a enwebwyd.
Gwybodaeth Cychwyn
I97Atod. 2 para. 22 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1
23.—(1) Rhaid i’r swyddog canlyniadau baratoi rhestr (“y rhestr rhifau cyfatebol”) yn unol â’r rheol hon.
(2) Rhaid i’r rhestr rhifau cyfatebol fod mewn dwy ran.
(3) Rhaid i Ran 1 gynnwys rhifau a marciau adnabod unigryw yr holl bapurau pleidleisio sydd i’w dyroddi yn unol â rheol 28(1) (papurau pleidleisio post).
(4) Rhaid i Ran 2 gynnwys rhifau (ond nid marciau adnabod unigryw) yr holl bapurau pleidleisio sydd i’w darparu yn unol â rheol 32(1) (darparu blychau pleidleisio a phapurau pleidleisio mewn gorsafoedd pleidleisio).
(5) Rhaid i’r rhestr rhifau cyfatebol fod yn y ffurf a nodir yn Atodiad 3 neu ffurf i’r un perwyl.
(6) Pan nad y swyddog canlyniadau cydlynol yw’r swyddog canlyniadau, gweler hefyd reoliadau 4 a 5 o’r Rheoliadau Cyfuno Pleidleisiau (sy’n darparu ar gyfer amgylchiadau lle mae swyddogaethau’r swyddog canlyniadau o dan y rheol hon i gael eu cyflawni gan y swyddog canlyniadau cydlynol).
Gwybodaeth Cychwyn
I98Atod. 2 para. 23 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1
24.—(1) Rhaid i bob papur pleidleisio gynnwys marc diogelwch priodol (“y marc swyddogol”).
(2) Rhaid cadw’r marc swyddogol yn gyfrinachol.
(3) Rhaid i gyfnod o ddim llai na phum mlynedd fynd heibio rhwng defnyddio’r un marc swyddogol mewn etholiadau ar gyfer yr un gymuned.
(4) Caiff y swyddog canlyniadau ddefnyddio marc swyddogol gwahanol at ddibenion gwahanol yn yr un etholiad.
Gwybodaeth Cychwyn
I99Atod. 2 para. 24 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1
25. Ni chaniateir ei gwneud yn ofynnol i berson sydd wedi pleidleisio yn yr etholiad ddatgan dros bwy y pleidleisiodd mewn unrhyw achos cyfreithiol i amau’r etholiad.
Gwybodaeth Cychwyn
I100Atod. 2 para. 25 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1
26.—(1) Caiff y swyddog canlyniadau ddefnyddio unrhyw un neu ragor o’r ystafelloedd a ganlyn yn rhad ac am ddim er mwyn cynnal y bleidlais neu gyfrif y pleidleisiau—
(a)ystafell mewn ysgol a gynhelir neu a gynorthwyir gan gyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol;
(b)ystafell mewn ysgol y mae grantiau’n cael eu rhoi mewn cysylltiad â hi o arian a ddarperir gan Senedd Cymru i’r person neu’r corff sy’n gyfrifol am reoli’r ysgol;
(c)unrhyw ystafell arall os yw cost cynnal a chadw’r ystafell yn daladwy yn gyfan gwbl neu’n bennaf o arian cyhoeddus.
(2) Pan ddefnyddir ystafell a ddisgrifir ym mharagraff (1) er mwyn cynnal y bleidlais neu gyfrif y pleidleisiau, mae’n rhaid i’r swyddog canlyniadau—
(a)cywiro unrhyw ddifrod i’r ystafell sy’n deillio o’i defnyddio at y diben hwnnw, a
(b)talu unrhyw gost a ysgwyddir gan y person neu’r corff sydd â rheolaeth dros yr ystafell oherwydd ei defnyddio at y diben hwnnw.
Gwybodaeth Cychwyn
I101Atod. 2 para. 26 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1
27.—(1) Rhaid i’r swyddog canlyniadau gyhoeddi hysbysiad o’r bleidlais yn datgan—
(a)y diwrnod a’r oriau a bennwyd ar gyfer y bleidlais,
(b)nifer y cynghorwyr sydd i’w hethol dros yr ardal etholiadol, ac
(c)enwau a disgrifiadau (os oes rhai) pob ymgeisydd sy’n dal wedi ei enwebu’n ddilys a’r wybodaeth am eu cyfeiriad cartref.
(2) Rhaid i fanylion yr ymgeiswyr, a threfn enwau’r ymgeiswyr, fod yr un fath ag yn y datganiad o’r personau a enwebwyd.
(3) Rhaid i’r swyddog canlyniadau, cyn cyhoeddi hysbysiad o’r bleidlais, neu yr un pryd, hefyd gyhoeddi hysbysiad—
(a)o safle pob gorsaf bleidleisio, a
(b)o’r disgrifiad o bleidleiswyr sydd â hawl i bleidleisio yno.
(4) Rhaid i’r hysbysiad a gyhoeddir o dan baragraff (3)—
(a)datgan bod y bleidlais yn etholiad y gymuned i’w chynnal ynghyd â phleidlais mewn un neu ragor o etholiadau perthnasol,
(b)pennu’r etholaeth neu, fel y bo’n briodol, yr ardal arall y mae pob etholiad perthnasol yn ymwneud â hi, ac
(c)pan gynhelir unrhyw un neu ragor o’r pleidleisiau ar y cyd mewn rhan yn unig o’r gymuned, pennu’r rhan honno.
(5) Rhaid i’r swyddog canlyniadau, cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl cyhoeddi hysbysiad o dan baragraff (3), roi copi ohono i bob un o’r ymgeiswyr neu i’w hasiantau etholiadol (os penodwyd rhai).
(6) Pan nad y swyddog canlyniadau cydlynol yw’r swyddog canlyniadau, gweler hefyd reoliadau 4 a 5 o’r Rheoliadau Cyfuno Pleidleisiau (sy’n darparu ar gyfer amgylchiadau lle mae swyddogaethau’r swyddog canlyniadau o dan baragraffau (3) i (5) i gael eu cyflawni gan y swyddog canlyniadau cydlynol).
Gwybodaeth Cychwyn
I102Atod. 2 para. 27 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1
28.—(1) Rhaid i’r swyddog canlyniadau, yn unol â rheoliadau o dan Ddeddf 1983, ddyroddi i’r rhai sydd â hawl i bleidleisio drwy’r post—
(a)papur pleidleisio,
(b)datganiad pleidleisio post yn y ffurf a nodir yn Atodiad 4 neu ffurf i’r un perwyl, ac
(c)unrhyw amlenni ar gyfer dychwelyd y papur pleidleisio a’r datganiad pleidleisio post a ragnodir gan reoliadau o dan Ddeddf 1983.
(2) Rhaid i’r swyddog canlyniadau hefyd ddyroddi i’r rhai sydd â hawl i bleidleisio drwy’r post unrhyw wybodaeth y mae’r swyddog canlyniadau o’r farn ei bod yn briodol ynghylch sut i gael—
(a)cyfieithiadau i ieithoedd heblaw Cymraeg a Saesneg o unrhyw gyfarwyddydau neu ganllawiau i bleidleiswyr a anfonir gyda’r papur pleidleisio,
(b)cyfieithiad i Braille o’r cyfarwyddydau neu’r canllawiau hynny,
(c)delweddau graffig o’r cyfarwyddydau neu’r canllawiau hynny, a
(d)y cyfarwyddydau neu’r canllawiau ar unrhyw ffurf arall (gan gynnwys unrhyw ffurf glywadwy).
(3) Rhaid i’r datganiad pleidleisio post gynnwys darpariaeth—
(a)i’r ffurflen gael ei llofnodi gan yr etholwr neu, pan fo’r etholwr yn pleidleisio drwy ddirprwy, gan y dirprwy, oni bai bod y swyddog cofrestru wedi hepgor y gofyniad ynglŷn â llofnod, a
(b)ar gyfer datgan dyddiad geni’r etholwr neu, pan fo’r etholwr yn pleidleisio drwy ddirprwy, dyddiad geni’r dirprwy.
(4) Yn achos papur pleidleisio a ddyroddir i berson mewn cyfeiriad yn y Deyrnas Unedig, rhaid i’r swyddog canlyniadau sicrhau bod y pleidleisiwr yn gallu dychwelyd y papur pleidleisio a’r datganiad pleidleisio post yn rhad ac am ddim.
(5) Pan nad y swyddog canlyniadau cydlynol yw’r swyddog canlyniadau, gweler hefyd reoliadau 4 a 5 o’r Rheoliadau Cyfuno Pleidleisiau (sy’n darparu ar gyfer amgylchiadau lle mae swyddogaethau’r swyddog canlyniadau o dan y rheol hon i gael eu cyflawni gan y swyddog canlyniadau cydlynol).
Gwybodaeth Cychwyn
I103Atod. 2 para. 28 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1
29.—(1) Rhaid i’r swyddog canlyniadau—
(a)darparu nifer digonol o orsafoedd pleidleisio, a
(b)dyrannu’r etholwyr i’r gorsafoedd pleidleisio.
(2) Caniateir darparu un neu ragor o orsafoedd pleidleisio yn yr un ystafell.
(3) Rhaid i’r swyddog canlyniadau ddarparu i bob gorsaf bleidleisio unrhyw nifer o fythau a all fod yn angenrheidiol lle gall pleidleiswyr farcio’u pleidleisiau wedi eu sgrinio heb gael eu gweld.
(4) Pan nad y swyddog canlyniadau cydlynol yw’r swyddog canlyniadau, gweler hefyd reoliadau 4 a 5 o’r Rheoliadau Cyfuno Pleidleisiau (sy’n darparu ar gyfer amgylchiadau lle mae swyddogaethau’r swyddog canlyniadau o dan y rheol hon i gael eu cyflawni gan y swyddog canlyniadau cydlynol).
Gwybodaeth Cychwyn
I104Atod. 2 para. 29 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1
30.—(1) Rhaid i’r swyddog canlyniadau benodi a thalu—
(a)swyddog llywyddu i fod yn bresennol ym mhob gorsaf bleidleisio, a
(b)unrhyw nifer o glercod sy’n angenrheidiol at ddibenion y bleidlais neu’r cyfrif neu fel arall at ddibenion yr etholiad.
(2) Ni chaiff y swyddog canlyniadau benodi’n fwriadol yn swyddog llywyddu neu glerc berson a gyflogwyd gan neu ar ran ymgeisydd mewn cysylltiad â’r etholiad.
(3) Caiff y swyddog canlyniadau lywyddu mewn gorsaf bleidleisio.
(4) Pan fo’r swyddog canlyniadau yn llywyddu mewn gorsaf bleidleisio, mae’r rheolau hyn yn gymwys i’r swyddog canlyniadau sy’n llywyddu felly gyda’r addasiadau angenrheidiol o ran pethau a wneir gan y swyddog canlyniadau mewn perthynas â’r swyddog llywyddu neu gan y swyddog llywyddu mewn perthynas â’r swyddog canlyniadau.
(5) Caiff swyddog llywyddu awdurdodi’r clercod i wneud unrhyw beth (gan gynnwys gofyn cwestiynau) y mae’r rheolau hyn yn ei gwneud yn ofynnol i’r swyddog llywyddu ei wneud neu’n awdurdodi’r swyddog llywyddu i’w wneud mewn gorsaf bleidleisio, ac eithrio gorchymyn i unrhyw berson gael ei wahardd neu ei symud o’r orsaf bleidleisio.
(6) Pan nad y swyddog canlyniadau cydlynol yw’r swyddog canlyniadau, gweler hefyd reoliadau 4 a 5 o’r Rheoliadau Cyfuno Pleidleisiau (sy’n darparu ar gyfer amgylchiadau lle mae swyddogaethau’r swyddog canlyniadau o dan y rheol hon mewn perthynas â phenodi swyddogion llywyddu a chlercod i gael eu cyflawni gan y swyddog canlyniadau cydlynol).
Gwybodaeth Cychwyn
I105Atod. 2 para. 30 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1
31.—(1) Cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl cyhoeddi hysbysiad o’r etholiad, rhaid i’r swyddog canlyniadau anfon neu ddanfon—
(a)cerdyn pleidleisio swyddogol i etholwyr nad ydynt yn pleidleisio drwy’r post,
(b)cerdyn swyddogol pleidleisio drwy’r post i etholwyr sy’n pleidleisio drwy’r post ac nid drwy ddirprwy,
(c)cerdyn swyddogol pleidleisio drwy ddirprwy i berson sy’n pleidleisio fel dirprwy ar ran etholwr ac nid drwy’r post, a
(d)cerdyn swyddogol pleidleisio drwy’r post drwy ddirprwy i berson sy’n pleidleisio fel dirprwy ar ran etholwr drwy’r post.
(2) Rhaid i gerdyn pleidleisio swyddogol neu gerdyn swyddogol pleidleisio drwy’r post gael ei anfon neu ei ddanfon i gyfeiriad cymwys yr etholwr.
(3) Rhaid i gerdyn swyddogol pleidleisio drwy ddirprwy neu gerdyn swyddogol pleidleisio drwy’r post drwy ddirprwy gael ei anfon neu ei ddanfon i gyfeiriad y dirprwy, fel y’i dangosir yn y rhestr dirprwyon.
(4) Rhaid i bob cerdyn pleidleisio fod yn y ffurf briodol yn Atodiad 5 neu ffurf i’r un perwyl a rhaid iddo nodi—
(a)enw’r cyngor y mae cynghorwyr i’w hethol iddo,
(b)yr ardal etholiadol y mae cynghorwyr i’w hethol drosti,
(c)nifer y cynghorwyr sydd i’w hethol dros yr ardal etholiadol honno,
(d)enw, cyfeiriad cymwys a rhif cofrestr yr etholwr,
(e)dyddiad ac oriau’r bleidlais a safle gorsaf bleidleisio’r etholwr, ac
(f)unrhyw wybodaeth arall y mae’r swyddog canlyniadau o’r farn ei bod yn briodol.
(5) Caniateir i wybodaeth wahanol gael ei darparu o dan baragraff (4)(f) i wahanol etholwyr neu ddisgrifiadau o etholwr.
(6) Yn achos etholwr sydd â chofnod dienw, rhaid i’r cerdyn pleidleisio—
(a)cynnwys unrhyw wybodaeth a bennir yn y ffurf briodol yn Atodiad 5 yn hytrach na’r wybodaeth a nodir ym mharagraff (4)(d), a
(b)cael ei anfon neu ei ddanfon mewn amlen neu fath arall o orchudd fel nad yw’n datgelu bod gan yr etholwr gofnod dienw.
(7) Os yw’r swyddog canlyniadau a’r swyddog canlyniadau ar gyfer etholiad perthnasol o’r farn ei bod yn briodol, caniateir i gerdyn pleidleisio a ddyroddir o dan y rheol hon gael ei gyfuno â cherdyn pleidleisio o’r un math a ddyroddir ym mhob etholiad perthnasol.
(8) Yn y rheol hon—
(a)ystyr “etholwr” yw person sydd wedi ei gofrestru yn y gofrestr etholwyr llywodraeth leol ar gyfer yr ardal etholiadol o dan sylw ar y diwrnod olaf ar gyfer cyhoeddi hysbysiad o’r etholiad, ac eithrio ei fod yn cynnwys person a ddangosir y pryd hwnnw yn y gofrestr (neu, yn achos person sydd â chofnod dienw yn y gofrestr, yn y cofnod o gofnodion dienw) fel person sydd o dan yr oedran pleidleisio dim ond os yw’n ymddangos o’r gofrestr (neu o’r cofnod o gofnodion dienw) y bydd y person o oedran pleidleisio ar y diwrnod a bennwyd ar gyfer y bleidlais;
(b)mae i “cyfeiriad cymwys” yr un ystyr ag sydd i “qualifying address” yn Neddf 1983 (gweler adran 202(1) o’r Ddeddf honno).
Gwybodaeth Cychwyn
I106Atod. 2 para. 31 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1
32.—(1) Rhaid i’r swyddog canlyniadau ddarparu i bob swyddog llywyddu unrhyw nifer o flychau pleidleisio a phapurau pleidleisio y mae’r swyddog canlyniadau o’r farn eu bod yn angenrheidiol.
(2) Rhaid i bob blwch pleidleisio fod wedi ei adeiladu fel y gellir rhoi papurau pleidleisio ynddo, ond na ellir eu tynnu’n ôl ohono, heb i’r blwch gael ei ddatgloi neu, pan nad oes clo ar y blwch, heb i’r sêl gael ei thorri.
(3) Os yw’r swyddog canlyniadau o’r farn ei bod yn briodol, caniateir defnyddio’r un blwch pleidleisio ar gyfer y bleidlais yn etholiad y gymuned a’r bleidlais ym mhob etholiad perthnasol.
(4) Os bwriedir defnyddio blychau ar wahân, rhaid i bob blwch gael ei farcio’n glir—
(a)â’r etholiad y mae’n ymwneud ag ef, fel y’i dangosir ar bapurau pleidleisio’r etholiad hwnnw, a
(b)â gwybodaeth sy’n pennu lliw’r papurau pleidleisio y caniateir eu gosod yn y blwch.
(5) Rhaid i’r swyddog canlyniadau ddarparu i bob gorsaf bleidleisio—
(a)deunyddiau i alluogi’r pleidleiswyr i farcio’r papurau pleidleisio,
(b)copïau o’r gofrestr etholwyr berthnasol,
(c)copïau o unrhyw hysbysiadau a ddyroddwyd o dan adran 13B(3B) neu (3D) o Ddeddf 1983 i’r graddau y maent yn ymwneud â’r gofrestr etholwyr berthnasol,
(d)copïau o’r rhannau o unrhyw restrau o bersonau sydd â hawl i bleidleisio drwy’r post neu drwy ddirprwy sy’n cyfateb i’r gofrestr etholwyr berthnasol, ac
(e)rhestr (“rhestr rhifau cyfatebol yr orsaf bleidleisio”) sy’n cynnwys y rhan honno o Ran 2 o’r rhestr rhifau cyfatebol a baratowyd o dan reol 23 sy’n cynnwys y rhifau, ond nid y marciau adnabod unigryw eraill, sy’n cyfateb i’r rhai ar y papurau pleidleisio a ddarperir i’r swyddog llywyddu o dan baragraff (1).
(6) Ym mharagraff (5), ystyr “y gofrestr etholwyr berthnasol” yw’r gofrestr etholwyr ar gyfer yr ardal etholiadol neu unrhyw ran ohoni sy’n cynnwys y cofnodion sy’n ymwneud â’r etholwyr a ddyrannwyd i’r orsaf bleidleisio.
(7) Rhaid i’r swyddog canlyniadau beri i gopi sampl wedi ei ehangu o’r papur pleidleisio gael ei arddangos ym mhob gorsaf bleidleisio.
(8) Rhaid i’r swyddog canlyniadau hefyd ddarparu i bob gorsaf bleidleisio—
(a)copi sampl wedi ei ehangu o’r papur pleidleisio i’w ddal yn y llaw er mwyn cynorthwyo pleidleiswyr sy’n rhannol ddall, a
(b)dyfais i alluogi pleidleiswyr sy’n ddall neu’n rhannol ddall i bleidleisio heb fod angen cymorth y swyddog llywyddu neu gydymaith (gweler rheolau 43 i 45 o ran y cymorth y caiff y swyddog llywyddu neu gydymaith ei roi).
(9) Rhaid i’r copi sampl o’r papur pleidleisio y mae’n ofynnol ei arddangos a’i ddarparu o dan baragraffau (7) ac (8)(a) gael ei farcio’n glir fel sbesimen a’i ddarparu i arwain y pleidleiswyr yn unig.
(10) Rhaid i’r ddyfais y cyfeirir ati ym mharagraff (8)(b)—
(a)caniatáu i bapur pleidleisio gael ei fewnosod yn y ddyfais a’i thynnu ohoni, neu ei gysylltu â’r ddyfais a’i datgysylltu oddi wrthi yn hawdd a heb ddifrodi’r papur,
(b)dal y papur pleidleisio yn gadarn yn ei le wrth gael ei defnyddio, ac
(c)darparu modd addas i’r pleidleisiwr—
(i)adnabod y bylchau ar y papur pleidleisio y gellir marcio pleidleisiau arnynt,
(ii)adnabod yr ymgeisydd y mae pob bwlch yn cyfeirio ato, a
(iii)marcio’i bleidlais yn y bwlch a ddewisir.
(11) Rhaid i’r swyddog canlyniadau hefyd beri i hysbysiad yn y ffurf yn Atodiad 6, yn rhoi cyfarwyddydau i arwain y pleidleiswyr wrth bleidleisio, gael ei arddangos—
(a)y tu mewn i bob gorsaf bleidleisio (ond y tu allan i’r bythau pleidleisio), a
(b)y tu allan i bob gorsaf bleidleisio.
(12) Caniateir hefyd i’r swyddog canlyniadau ddarparu copïau o’r hysbysiad mewn Braille neu mewn unrhyw ieithoedd heblaw Cymraeg a Saesneg y mae’r swyddog canlyniadau o’r farn eu bod yn briodol.
(13) Rhaid arddangos hysbysiad sy’n cynnwys yr wybodaeth a ganlyn y tu mewn i bob bwth pleidleisio ym mhob gorsaf bleidleisio—
(a)pan fo un cynghorydd yn unig i gael ei ethol, cyfarwyddyd i’r pleidleisiwr i bleidleisio unwaith yn unig drwy roi croes [X] yn y blwch gyferbyn â’i ddewis;
(b)pan fo mwy nag un cynghorydd i gael eu hethol, cyfarwyddyd i’r pleidleisiwr i bleidleisio dros ddim mwy na’r nifer sydd i’w ethol drwy roi croes [X] yn y blwch gyferbyn â phob un o’i ddewisiadau;
(c)rhybudd i’r pleidleisiwr i beidio â rhoi unrhyw farc arall ar y papur pleidleisio neu mae’n bosibl na fydd ei bleidlais yn cyfrif.
(14) Pan nad y swyddog canlyniadau cydlynol yw’r swyddog canlyniadau, gweler hefyd reoliadau 4 a 5 o’r Rheoliadau Cyfuno Pleidleisiau (sy’n darparu ar gyfer amgylchiadau lle mae swyddogaethau’r swyddog canlyniadau o dan y rheol hon i gael eu cyflawni gan y swyddog canlyniadau cydlynol).
Gwybodaeth Cychwyn
I107Atod. 2 para. 32 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1
33.—(1) Cyn i’r bleidlais ddechrau, caiff ymgeisydd benodi—
(a)asiantau pleidleisio i fod yn bresennol mewn gorsafoedd pleidleisio er mwyn canfod cambersonadu, a
(b)asiantau cyfrif i fod yn bresennol wrth i’r pleidleisiau gael eu cyfrif.
(2) Caniateir i’r un person gael ei benodi’n asiant pleidleisio neu’n asiant cyfrif gan fwy nag un ymgeisydd.
(3) Uchafswm yr asiantau pleidleisio a gaiff fod yn bresennol mewn gorsaf bleidleisio yw pedwar neu unrhyw nifer uwch a ganiateir gan y swyddog canlyniadau drwy hysbysiad.
(4) Os yw nifer yr asiantau pleidleisio a benodir i fod yn bresennol mewn gorsaf bleidleisio benodol yn fwy na phedwar (neu unrhyw nifer uwch a ganiateir gan y swyddog canlyniadau drwy hysbysiad)—
(a)rhaid i’r swyddog canlyniadau benderfynu pa asiantau y caniateir iddynt fod yn bresennol drwy fwrw coelbren, a
(b)dim ond yr asiantau y mae’r coelbren yn mynd o’u plaid sydd i’w trin fel pe baent wedi eu penodi.
(5) Caiff y swyddog canlyniadau osod terfyn ar nifer yr asiantau cyfrif y caniateir i bob ymgeisydd eu penodi ond rhaid i’r terfyn—
(a)bod yr un fath ar gyfer pob un o’r ymgeiswyr, a
(b)oni bai bod amgylchiadau arbennig, beidio â bod yn llai na’r nifer a geir drwy rannu nifer y clercod a gyflogir yn y cyfrif â nifer yr ymgeiswyr (gan anwybyddu unrhyw weddill).
(6) At ddibenion y cyfrifiadau sy’n ofynnol gan baragraff (5), mae asiant cyfrif a benodwyd ar gyfer mwy nag un ymgeisydd yn asiant ar wahân ar gyfer pob un o’r ymgeiswyr y’i penodwyd ganddynt.
(7) Rhaid i’r ymgeisydd roi hysbysiad i’r swyddog canlyniadau cydlynol pan benodir asiantau pleidleisio neu asiantau cyfrif.
(8) Rhaid i’r hysbysiad—
(a)rhoi enwau a chyfeiriadau’r personau a benodwyd, a
(b)cael ei roi dim hwyrach na’r pumed diwrnod cyn diwrnod y bleidlais, gan ddiystyru unrhyw ddiwrnod eithriedig.
(9) Os bydd asiant pleidleisio neu asiant cyfrif yn marw neu’n dod yn analluog i weithredu—
(a)caiff yr ymgeisydd benodi asiant arall yn ei le, a
(b)rhaid i’r ymgeisydd roi hysbysiad i’r swyddog canlyniadau cydlynol ar unwaith yn datgan enw a chyfeiriad yr asiant arall.
Gwybodaeth Cychwyn
I108Atod. 2 para. 33 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1
34.—(1) Caiff ymgeisydd neu asiant etholiadol yr ymgeisydd (os penodwyd un)—
(a)gwneud unrhyw beth y mae asiant pleidleisio neu asiant cyfrif yr ymgeisydd wedi ei awdurdodi i’w wneud (neu y byddai wedi ei awdurdodi i’w wneud, pe bai wedi ei benodi);
(b)cynorthwyo asiant pleidleisio neu asiant cyfrif yr ymgeisydd i wneud unrhyw beth y mae’r asiant pleidleisio neu’r asiant cyfrif wedi ei awdurdodi i’w wneud.
(2) Caniateir i unrhyw beth y mae’n ofynnol ei wneud neu yr awdurdodir ei wneud o dan y rheolau hyn ym mhresenoldeb yr asiantau pleidleisio neu’r asiantau cyfrif gael ei wneud yn hytrach ym mhresenoldeb asiant etholiadol yr ymgeisydd (os penodwyd un).
(3) Pan fo’r rheolau hyn yn ei gwneud yn ofynnol i rywbeth gael ei wneud neu’n awdurdodi rhywbeth i gael ei wneud ym mhresenoldeb yr asiantau pleidleisio neu’r asiantau cyfrif, nid yw diffyg presenoldeb yr asiant neu’r asiantau ar yr adeg a’r lle a benodwyd yn peri bod y peth a wneir yn annilys.
(4) Pan nad oes gan ymgeisydd asiant cyfrif, caiff y swyddog canlyniadau roi unrhyw hysbysiad y mae’n ofynnol ei roi i’r asiant cyfrif o dan y rheolau hyn i’r ymgeisydd.
Gwybodaeth Cychwyn
I109Atod. 2 para. 34 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1
35.—(1) Rhaid i’r swyddog canlyniadau wneud trefniadau i sicrhau bod pawb sy’n bresennol mewn gorsaf bleidleisio, heblaw am berson a ddisgrifir ym mharagraff (2)(a) i (d), wedi cael hysbysiad yn nodi darpariaethau adran 66(1), (3) a (6) o Ddeddf 1983.
(2) Y personau nad yw’r ddyletswydd o dan baragraff (1) yn gymwys iddynt yw—
(a)person sy’n bresennol yn yr orsaf bleidleisio at ddiben pleidleisio;
(b)person o dan 16 oed sy’n mynd yng nghwmni pleidleisiwr i’r orsaf bleidleisio;
(c)person sy’n bresennol yn yr orsaf bleidleisio fel cydymaith pleidleisiwr ag anableddau;
(d)person sy’n bresennol yn yr orsaf bleidleisio fel cwnstabl ar ddyletswydd.
(3) Yn y rheol hon, mae cyfeiriad at gwnstabl yn cynnwys cyfeiriad at berson a ddynodwyd yn swyddog cymorth cymunedol neu’n wirfoddolwr cymorth cymunedol o dan adran 38 o Ddeddf Diwygio’r Heddlu 2002 (pwerau’r heddlu i staff sy’n sifiliaid a gwirfoddolwyr).
(4) Pan nad y swyddog canlyniadau cydlynol yw’r swyddog canlyniadau, gweler hefyd reoliadau 4 a 5 o’r Rheoliadau Cyfuno Pleidleisiau (sy’n darparu ar gyfer amgylchiadau lle mae swyddogaethau’r swyddog canlyniadau o dan y rheol hon i gael eu cyflawni gan y swyddog canlyniadau cydlynol).
Gwybodaeth Cychwyn
I110Atod. 2 para. 35 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1
36.—(1) Pan fo pleidlais bost wedi ei dychwelyd mewn cysylltiad â pherson sydd wedi ei gofnodi ar y rhestr pleidleiswyr post, rhaid i’r swyddog canlyniadau farcio’r rhestr yn y modd a ragnodir gan reoliadau o dan Ddeddf 1983.
(2) Pan fo pleidlais bost drwy ddirprwy wedi ei dychwelyd mewn cysylltiad â dirprwy sydd wedi ei gofnodi ar y rhestr pleidleiswyr post drwy ddirprwy, rhaid i’r swyddog canlyniadau farcio’r rhestr yn y modd a ragnodir gan reoliadau o dan y Ddeddf honno.
(3) Nid yw rheol 58 yn gymwys at ddibenion penderfynu a yw pleidlais bost neu bleidlais bost drwy ddirprwy wedi ei dychwelyd at ddibenion y rheol hon.
(4) Pan nad y swyddog canlyniadau cydlynol yw’r swyddog canlyniadau, gweler hefyd reoliadau 4 a 5 o’r Rheoliadau Cyfuno Pleidleisiau (sy’n darparu ar gyfer amgylchiadau lle mae swyddogaethau’r swyddog canlyniadau o dan y rheol hon i gael eu cyflawni gan y swyddog canlyniadau cydlynol).
Gwybodaeth Cychwyn
I111Atod. 2 para. 36 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1
37.—(1) Rhaid i’r swyddog llywyddu wahardd pawb o’r orsaf bleidleisio ac eithrio—
(a)pleidleiswyr a ddyrannwyd i’r orsaf bleidleisio,
(b)personau o dan 16 oed sy’n mynd yng nghwmni pleidleiswyr i’r orsaf bleidleisio,
(c)yr ymgeiswyr a’u hasiantau etholiadol (os penodwyd un),
(d)yr asiantau pleidleisio a benodwyd i fod yn bresennol yn yr orsaf bleidleisio,
(e)y clercod a benodwyd i fod yn bresennol yn yr orsaf bleidleisio,
(f)y swyddog canlyniadau neu aelodau staff y swyddog canlyniadau,
(g)personau sydd â hawl i fod yn bresennol yn rhinwedd unrhyw un neu ragor o adrannau 6A i 6D o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (cynrychiolwyr y Comisiwn Etholiadol a sylwedyddion achrededig),
(h)y cwnstabliaid ar ddyletswydd,
(i)cymdeithion pleidleiswyr ag anableddau, a
(j)personau sydd â hawl i fod yn bresennol yn yr orsaf bleidleisio at ddibenion etholiad perthnasol.
(2) Rhaid i’r swyddog llywyddu reoleiddio cyfanswm nifer y pleidleiswyr a’r personau o dan 16 oed sydd yn eu cwmni a dderbynnir i’r orsaf bleidleisio yr un pryd.
(3) Dim ond un asiant pleidleisio y caniateir ei dderbyn yr un pryd i orsaf bleidleisio ar ran yr un ymgeisydd.
(4) Caiff cwnstabl sy’n pleidleisio’n bersonol wneud hynny naill ai—
(a)yn yr orsaf bleidleisio a ddyrannwyd o dan y rheolau hyn, neu
(b)mewn gorsaf bleidleisio arall, os yw’r cwnstabl yn dangos ac yn ildio tystysgrif yn y ffurf yn Atodiad 7 neu ffurf i’r un perwyl, a lofnodwyd gan swyddog heddlu sydd â gradd arolygydd neu’n uwch.
(5) Caiff person a gyflogir gan y swyddog canlyniadau, os yw’n pleidleisio’n bersonol, wneud hynny naill ai—
(a)yn yr orsaf bleidleisio a ddyrannwyd o dan y rheolau hyn, neu
(b)mewn gorsaf bleidleisio arall, os yw’r person yn dangos ac yn ildio tystysgrif yn y ffurf yn Atodiad 7 neu ffurf i’r un perwyl, a lofnodwyd gan y swyddog canlyniadau.
(6) Caniateir i un dystysgrif gael ei defnyddio ar gyfer etholiad y gymuned a phob etholiad perthnasol.
(7) Rhaid i dystysgrif sy’n cael ei hildio o dan baragraff (4) neu (5) gael ei chanslo ar unwaith.
(8) Yn y rheol hon, mae cyfeiriad at gwnstabl yn cynnwys cyfeiriad at berson a ddynodwyd yn swyddog cymorth cymunedol neu’n wirfoddolwr cymorth cymunedol o dan adran 38 o Ddeddf Diwygio’r Heddlu 2002 (pwerau’r heddlu i staff sy’n sifiliaid a gwirfoddolwyr).
(9) Pan nad y swyddog canlyniadau cydlynol yw’r swyddog canlyniadau, gweler hefyd reoliadau 4 a 5 o’r Rheoliadau Cyfuno Pleidleisiau (sy’n darparu ar gyfer amgylchiadau lle mae swyddogaeth llofnodi tystysgrif at ddibenion paragraff (5) o’r rheol hon i gael ei chyflawni gan y swyddog canlyniadau cydlynol).
Gwybodaeth Cychwyn
I112Atod. 2 para. 37 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1
38.—(1) Rhaid i’r swyddog llywyddu gadw trefn yn yr orsaf bleidleisio.
(2) Os bydd person yn camymddwyn mewn gorsaf bleidleisio, neu’n methu ag ufuddhau i unrhyw orchmynion a roddir yn gyfreithlon gan y swyddog llywyddu, caiff y swyddog llywyddu orchymyn i’r person gael ei symud o’r orsaf bleidleisio.
(3) Pan fo’r swyddog llywyddu yn gorchymyn bod person yn cael ei symud, caniateir i’r person gael ei symud ar unwaith—
(a)gan gwnstabl yn yr orsaf bleidleisio neu yn ei hymyl, neu
(b)gan unrhyw berson arall a awdurdodir mewn ysgrifen gan y swyddog canlyniadau i symud pobl o’r orsaf bleidleisio.
(4) Pan fo person wedi ei symud, ni chaiff fynd yn ôl, heb ganiatâd y swyddog llywyddu, i’r orsaf bleidleisio ar ddiwrnod y bleidlais.
(5) Pan gyhuddir person sydd wedi ei symud o gyflawni trosedd yn yr orsaf bleidleisio, caniateir ymdrin â’r person fel person y mae cwnstabl wedi mynd ag ef i’r ddalfa am drosedd heb warant.
(6) Ni chaniateir i’r pwerau a roddir gan y rheol hon gael eu harfer er mwyn atal pleidleisiwr sydd fel arall â hawl i bleidleisio mewn gorsaf bleidleisio rhag cael cyfle i bleidleisio yn yr orsaf honno.
(7) Pan nad y swyddog canlyniadau cydlynol yw’r swyddog canlyniadau, gweler hefyd reoliadau 4 a 5 o’r Rheoliadau Cyfuno Pleidleisiau (sy’n darparu ar gyfer amgylchiadau lle mae swyddogaeth y swyddog canlyniadau o dan baragraff (3)(b) o’r rheol hon i gael ei chyflawni gan y swyddog canlyniadau cydlynol).
Gwybodaeth Cychwyn
I113Atod. 2 para. 38 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1
39.—(1) Rhaid i’r swyddog llywyddu gymryd y camau a ganlyn yn union cyn i’r bleidlais ddechrau.
(2) Rhaid i’r swyddog llywyddu ddangos y blwch pleidleisio gwag i’r bobl hynny (os oes rhai) sy’n bresennol yn yr orsaf bleidleisio, fel y gallant weld ei fod yn wag.
(3) Yna rhaid i’r swyddog llywyddu—
(a)cloi’r blwch, os oes iddo glo, a
(b)gosod sêl y swyddog canlyniadau arno, mewn modd sy’n ei atal rhag cael ei agor heb dorri’r sêl.
(4) Yna rhaid i’r swyddog llywyddu osod y blwch, o fewn golwg y swyddog llywyddu, i dderbyn papurau pleidleisio.
(5) Rhaid i’r swyddog llywyddu gadw’r blwch dan glo a than sêl neu (os nad oes iddo glo) ei gadw dan sêl.
Gwybodaeth Cychwyn
I114Atod. 2 para. 39 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1
40.—(1) Adeg cais am bapur pleidleisio (ond nid wedyn), caiff y swyddog llywyddu ofyn i unrhyw berson a ddisgrifir yng ngholofn gyntaf Tabl 1 (a nodir ym mharagraff (3)) neu yng ngholofn gyntaf Tabl 2 (a nodir ym mharagraff (4)), un neu ragor o’r cwestiynau a nodir yn y cyfnod cyfatebol yn yr ail golofn.
(2) Os bydd yr ymgeisydd neu asiant etholiadol neu asiant pleidleisio’r ymgeisydd yn ei gwneud yn ofynnol i’r swyddog llywyddu wneud hynny, rhaid i’r swyddog llywyddu ofyn i unrhyw berson a ddisgrifir yng ngholofn gyntaf Tabl 1 un neu ragor o’r cwestiynau a nodir yn y cofnod cyfatebol yn yr ail golofn.
(3) Mae Tabl 1 yn nodi cwestiynau y caiff swyddog llywyddu eu gofyn o dan baragraff (1) ac y caiff ymgeisydd (neu asiant etholiadol neu asiant pleidleisio’r ymgeisydd) ei gwneud yn ofynnol iddynt gael eu gofyn o dan baragraff (2).
Disgrifiad | Cwestiynau |
---|---|
1. Person sy’n gwneud cais fel etholwr | 1(a) Ai chi yw’r person sydd wedi ei gofrestru yn y gofrestr etholwyr llywodraeth leol ar gyfer yr etholiad hwn fel a ganlyn? Nodiadau ar 1(a) Yna rhaid i’r swyddog llywyddu ddarllen y cofnod cyfan o’r copïau o’r cofnodion cofrestru. 1(b) Ydych chi eisoes wedi pleidleisio, yn y ward hon neu ward arall, yn yr etholiad ar gyfer cynghorwyr i’r gymuned hon, heblaw fel dirprwy ar ran rhyw berson arall? Nodiadau ar 1(b) Caniateir hepgor y geiriau “, yn y ward hon neu ward arall,” os oes etholiad yn digwydd mewn un ward yn unig neu os nad oes wardiau. |
2. Person sy’n gwneud cais fel dirprwy ar ran etholwr heblaw etholwr sydd â chofnod dienw | 2(a) Ai chi yw’r person y mae ei enw’n ymddangos fel AB yn y rhestr dirprwyon ar gyfer yr etholiad hwn fel person sydd â hawl i bleidleisio fel dirprwy ar ran CD? 2(b) Ydych chi eisoes wedi pleidleisio, yn y ward hon neu ward arall, yn yr etholiad ar gyfer cynghorwyr i’r gymuned hon, fel dirprwy ar ran CD? 2(c) Ai chi yw priod, partner sifil, rhiant, taid, nain, brawd, chwaer, plentyn, ŵyr neu wyres CD? Nodiadau ar 2(a) i (c) Pan fo cwestiwn yn cyfeirio at AB, mae’r swyddog llywyddu’n darllen yr enw fel y mae’n ymddangos yn y rhestr dirprwyon. Pan fo cwestiwn yn cyfeirio at CD, mae’r swyddog llywyddu’n darllen enw’r etholwr. Nodyn ar 2(b) Caniateir hepgor y geiriau “, yn y ward hon neu ward arall,” os oes etholiad yn digwydd mewn un ward yn unig neu os nad oes wardiau. |
3. Person sy’n gwneud cais fel dirprwy ar ran etholwr sydd â chofnod dienw | 3(a) Ai chi yw’r person sydd â hawl i bleidleisio fel dirprwy ar ran yr etholwr sydd â’r rhif [x] yn y gofrestr etholwyr? 3(b) Ydych chi eisoes wedi pleidleisio fel dirprwy ar ran yr etholwr sydd â’r rhif [x] yn y gofrestr etholwyr? 3(c) Ai chi yw priod, partner sifil, rhiant, taid, nain, brawd, chwaer, plentyn, ŵyr neu wyres y person sydd â’r rhif [x] yn y gofrestr etholwyr? Nodyn ar 3(a) i (c) Pan fo’r cwestiynau yn y cofnod hwn yn cyfeirio at [x], rhaid i’r swyddog llywyddu ddarllen rhif yr etholwr o’r copïau o’r cofnodion cofrestru. |
4. Person sy’n gwneud cais fel dirprwy y gofynnwyd y cwestiwn sydd wedi ei rifo 2(c) neu 3(c) yng ngholofn 2 iddo ac nad yw wedi ateb “Ie” | 4. Ydych chi eisoes wedi pleidleisio, yn y ward hon neu ward arall, yn yr etholiad ar gyfer cynghorwyr i’r gymuned hon, ar ran dau berson nad ydych yn briod, partner sifil, rhiant, taid, nain, brawd, chwaer, plentyn, ŵyr neu wyres iddynt? Nodyn ar 4 Caniateir hepgor y geiriau “, yn y ward hon neu ward arall,” os oes etholiad yn digwydd mewn un ward yn unig neu os nad oes wardiau. |
(4) Mae Tabl 2 yn nodi’r cwestiynau y caiff swyddog llywyddu eu gofyn o dan baragraff (1) (ond na chaniateir ei gwneud yn ofynnol i’r swyddog llywyddu eu gofyn o dan baragraff (2)).
Disgrifiad | Cwestiynau |
---|---|
1. Person sy’n gwneud cais fel etholwr y ceir cofnod mewn perthynas ag ef yn y rhestr pleidleiswyr post | 1(a) Wnaethoch chi gais am bleidleisio drwy’r post? 1(b) Pam nad ydych chi wedi pleidleisio drwy’r post? |
2. Person sy’n gwneud cais fel dirprwy ac sydd wedi ei enwi yn y rhestr pleidleiswyr post drwy ddirprwy | 2(a) Wnaethoch chi gais am bleidleisio drwy’r post fel dirprwy? 2(b) Pam nad ydych chi wedi pleidleisio drwy’r post fel dirprwy? |
(5) Ni chaniateir rhoi papur pleidleisio i unrhyw berson y mae’n ofynnol iddo ateb un neu ragor o’r cwestiynau yn Nhabl 1 neu 2 oni bai bod y person wedi ateb y cwestiwn neu’r cwestiynau’n foddhaol.
(6) Ac eithrio fel yr awdurdodir gan y rheol hon, ni chaniateir ymholi ynglŷn â hawl unrhyw berson i bleidleisio.
(7) Yn y rheol hon, ystyr “y copïau o’r cofnodion cofrestru” yw’r copïau a ddarperir gan y swyddog canlyniadau ar gyfer yr orsaf bleidleisio o dan reol 32(5)(b) ac (c) (copïau o’r gofrestr etholwyr berthnasol a chopïau o unrhyw hysbysiadau a ddyroddwyd o dan adran 13B(3B) neu (3D) o Ddeddf 1983 sy’n ymwneud â’r gofrestr etholwyr berthnasol).
Gwybodaeth Cychwyn
I115Atod. 2 para. 40 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1
41. Ni chaniateir atal person rhag pleidleisio dim ond am fod y naill neu’r llall neu’r ddau o’r canlynol yn gymwys—
(a)bod ymgeisydd, asiant etholiadol ymgeisydd (os penodwyd un) neu asiant pleidleisio ymgeisydd wedi datgan bod ganddynt achos rhesymol dros gredu bod y person wedi cyflawni trosedd cambersonadu;
(b)bod y person wedi ei arestio ar y sail yr amheuir ei fod wedi cyflawni neu ar fin cyflawni trosedd cambersonadu.
Gwybodaeth Cychwyn
I116Atod. 2 para. 41 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1
42.—(1) Rhaid rhoi papur pleidleisio i bleidleisiwr sy’n gwneud cais am un.
(2) Yn union cyn i’r papur pleidleisio gael ei roi—
(a)rhaid i rif yr etholwr, fel y’i nodir yn y copïau o’r cofnodion cofrestru, gael ei alw,
(b)oni bai bod gan yr etholwr gofnod dienw, rhaid i enw’r etholwr, fel y’i nodir yn y copïau o’r cofnodion cofrestru, gael ei alw hefyd,
(c)rhaid i rif yr etholwr gael ei farcio ar restr rhifau cyfatebol yr orsaf bleidleisio wrth ochr rhif y papur pleidleisio sydd i’w ddyroddi,
(d)rhaid gosod marc yn y copïau o’r cofnodion cofrestru gyferbyn â rhif yr etholwr i nodi bod papur pleidleisio wedi ei dderbyn, ond heb ddangos y papur pleidleisio penodol a dderbyniwyd, ac
(e)yn achos person sy’n gwneud cais am bapur pleidleisio fel dirprwy, rhaid gosod marc hefyd gyferbyn ag enw’r person yn y rhestr dirprwyon.
(3) Yn achos etholwr sydd â chofnod dienw—
(a)dim ond os dangosir cerdyn pleidleisio swyddogol yr etholwr neu, pan fo’r etholwr yn pleidleisio drwy ddirprwy, cerdyn pleidleisio swyddogol y dirprwy, i’r swyddog llywyddu y caniateir rhoi’r papur pleidleisio, a
(b)dim ond rhif yr etholwr y caniateir ei alw.
(4) Ar ôl cael y papur pleidleisio, rhaid i’r pleidleisiwr fynd ar unwaith i un o’r bythau yn yr orsaf bleidleisio.
(5) Heb oedi’n ddiangen, rhaid wedyn i’r pleidleisiwr—
(a)marcio’r papur pleidleisio’n gyfrinachol,
(b)plygu’r papur pleidleisio er mwyn cuddio’r bleidlais,
(c)dangos cefn y papur pleidleisio i’r swyddog llywyddu, er mwyn datgelu’r rhif a’r marc adnabod unigryw arall, a
(d)rhoi’r papur pleidleisio yn y blwch pleidleisio ym mhresenoldeb y swyddog llywyddu.
(6) Cyn gynted ag y bydd y pleidleisiwr wedi rhoi’r papur pleidleisio yn y blwch pleidleisio, rhaid i’r pleidleisiwr adael yr orsaf bleidleisio.
(7) Os bydd pleidleisiwr yn yr orsaf bleidleisio, neu mewn ciw y tu allan i’r orsaf bleidleisio, wrth i’r bleidlais gau ac nad yw wedi gallu bwrw ei bleidlais eto, rhaid i’r swyddog llywyddu ganiatáu i’r pleidleisiwr fwrw ei bleidlais cyn gynted ag y bo’n ymarferol.
(8) Caniateir i’r copïau o’r cofnodion cofrestru a ddefnyddir ar gyfer etholiad y gymuned gael eu defnyddio hefyd ar gyfer pob etholiad perthnasol.
(9) Pan ddyroddir papurau pleidleisio i bleidleisiwr mewn cysylltiad ag etholiad y gymuned ac mewn cysylltiad â phob etholiad perthnasol, caniateir gosod un marc yn y copïau o’r cofnodion cofrestru a, lle bo’n briodol, yn y rhestr dirprwyon i ddynodi bod y papurau pleidleisio wedi eu dyroddi.
(10) Mewn unrhyw achos arall, rhaid marcio’r copïau o’r cofnodion cofrestru a, lle bo’n briodol, y rhestr dirprwyon mewn modd sy’n dynodi pob etholiad y mae papur pleidleisio wedi ei ddyroddi mewn cysylltiad ag ef.
(11) Yn y rheol hon, mae i “y copïau o’r cofnodion cofrestru” yr un ystyr ag yn rheol 40 (gweler paragraff (7) o’r rheol honno).
Gwybodaeth Cychwyn
I117Atod. 2 para. 42 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1
43.—(1) Caiff pleidleisiwr wneud cais i’r swyddog llywyddu am i’w bleidlais gael ei marcio os yw’r pleidleisiwr—
(a)yn methu, oherwydd dallineb neu anabledd arall, â phleidleisio yn y modd a gyfarwyddir gan y rheolau hyn, neu
(b)yn datgan ar lafar nad yw’n gallu darllen.
(2) Pan wneir cais, rhaid i’r swyddog llywyddu, ym mhresenoldeb unrhyw asiantau pleidleisio sydd yn yr orsaf bleidleisio pan wneir y cais—
(a)peri i bleidlais y pleidleisiwr gael ei marcio ar bapur pleidleisio yn y modd a gyfarwyddir gan y pleidleisiwr, a
(b)peri i’r papur pleidleisio gael ei osod yn y blwch pleidleisio.
(3) Pan fo pleidlais pleidleisiwr wedi ei marcio yn unol â pharagraff (2), rhaid i’r swyddog llywyddu nodi’r manylion a ganlyn ar restr a gedwir gan y swyddog llywyddu at ddibenion y rheol hon (“y rhestr pleidleisiau a farciwyd gan y swyddog llywyddu”)—
(a)enw a rhif y pleidleisiwr, fel y’u dangosir yn y copïau o’r cofnodion cofrestru, a
(b)y rheswm y cafodd y bleidlais ei marcio.
(4) Yn achos person sy’n pleidleisio fel dirprwy ar ran etholwr, y rhif sydd i’w gofnodi ynghyd ag enw’r pleidleisiwr yn y rhestr pleidleisiau a farciwyd gan y swyddog llywyddu yw rhif yr etholwr.
(5) Caniateir defnyddio’r un rhestr o bleidleisiau a farciwyd gan y swyddog llywyddu ar gyfer etholiad y gymuned a phob etholiad perthnasol.
(6) Pan ddefnyddir yr un rhestr, mae cofnod yn y rhestr i’w gymryd fel pe bai’n golygu bod pleidlais y pleidleisiwr wedi ei marcio mewn cysylltiad ag etholiad y gymuned ac mewn cysylltiad â phob etholiad perthnasol, oni bai bod y rhestr yn dynodi un neu ragor o etholiadau lle cafodd pleidlais y pleidleisiwr ei marcio.
(7) Yn y rheol hon, mae i “y copïau o’r cofnodion cofrestru” yr un ystyr ag yn rheol 40 (gweler paragraff (7) o’r rheol honno).
Gwybodaeth Cychwyn
I118Atod. 2 para. 43 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1
44.—(1) Caiff pleidleisiwr wneud cais i’r swyddog llywyddu, ar sail dallineb neu anabledd arall neu anallu i ddarllen, am ganiatâd i bleidleisio gyda chymorth cydymaith.
(2) Pan wneir cais, rhaid i’r swyddog llywyddu ei gwneud yn ofynnol i’r pleidleisiwr ddatgan, ar lafar neu mewn ysgrifen, a yw dallineb neu anabledd arall, neu anallu i ddarllen, yn effeithio ar y pleidleisiwr fel na all bleidleisio heb gymorth cydymaith.
(3) Yn y darpariaethau a ganlyn yn y rheol hon, cyfeirir at bleidleisiwr sy’n datgan bod dallineb neu anabledd arall, neu anallu i ddarllen yn effeithio arno fel na all bleidleisio heb gymorth cydymaith fel pleidleisiwr ag anableddau.
(4) Pan wneir cais am bleidleisio gyda chymorth cydymaith, rhaid i’r cydymaith wneud datganiad ysgrifenedig gerbron y swyddog llywyddu bod y cydymaith—
(a)wedi cyrraedd 16 oed, a
(b)heb gynorthwyo mwy nag un pleidleisiwr ag anableddau o’r blaen i bleidleisio yn yr etholiad.
(5) Rhaid i ddatganiad y cydymaith—
(a)bod ar ffurf y datganiad sy’n ymwneud ag etholiad y gymuned yn Atodiad 8, a
(b)cael ei roi i’r swyddog llywyddu sy’n gorfod tystio iddo a’i gadw.
(6) Caniateir i ddatganiad y cydymaith yn etholiad y gymuned ac ym mhob etholiad perthnasol gael ei wneud yn yr un ddogfen.
(7) Rhaid i’r swyddog llywyddu ganiatáu cais y pleidleisiwr am gymorth cydymaith os yw’r swyddog llywyddu—
(a)wedi ei fodloni bod dallineb neu anabledd arall, neu anallu i ddarllen, yn effeithio ar y pleidleisiwr fel na all bleidleisio heb gymorth cydymaith, a
(b)wedi ei fodloni hefyd gan ddatganiad ysgrifenedig y cydymaith fod y cydymaith wedi cyrraedd 16 oed ac nad yw’r cydymaith wedi cynorthwyo mwy nag un pleidleisiwr ag anableddau o’r blaen i bleidleisio yn yr etholiad.
(8) Pan ganiateir y cais—
(a)caniateir i unrhyw beth y mae’n ofynnol ei wneud o dan y rheolau hyn i’r pleidleisiwr mewn cysylltiad â rhoi’r bleidlais gael ei wneud yn hytrach i’r cydymaith, a
(b)caiff y pleidleisiwr wneud unrhyw beth y mae angen ei wneud mewn cysylltiad â rhoi’r bleidlais gyda chymorth y cydymaith.
Gwybodaeth Cychwyn
I119Atod. 2 para. 44 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1
45.—(1) Pan roddir pleidlais gyda chymorth cydymaith yn unol â rheol 44, rhaid i’r swyddog llywyddu wedyn nodi’r manylion a ganlyn mewn rhestr a gedwir gan y swyddog llywyddu (“y rhestr pleidleiswyr ag anableddau a gynorthwywyd gan gydymaith”)—
(a)enw a rhif y pleidleisiwr, fel y’u dangosir yn y copïau o’r cofnodion cofrestru, a
(b)enw a chyfeiriad y cydymaith.
(2) Yn achos person sy’n pleidleisio fel dirprwy ar ran etholwr, y rhif sydd i’w nodi ynghyd ag enw’r pleidleisiwr yn y rhestr pleidleiswyr ag anableddau a gynorthwywyd gan gydymaith yw rhif yr etholwr.
(3) Pan fo gan y pleidleisiwr gofnod dienw, dim ond rhif y pleidleisiwr yn y copïau o’r cofnodion cofrestru y caniateir ei nodi yn y rhestr pleidleiswyr ag anableddau a gynorthwywyd gan gydymaith.
(4) Ni chaniateir codi ffi na thaliad arall mewn cysylltiad â datganiad a wneir gan gydymaith o dan reol 44(4).
(5) Caniateir defnyddio’r un rhestr o bleidleiswyr ag anableddau a gynorthwywyd gan gydymaith ar gyfer etholiad y gymuned a phob etholiad perthnasol.
(6) Pan ddefnyddir yr un rhestr, mae cofnod yn y rhestr i’w gymryd fel pe bai’n golygu bod pleidlais y pleidleisiwr wedi ei rhoi gyda chymorth mewn cysylltiad ag etholiad y gymuned ac mewn cysylltiad â phob etholiad perthnasol, oni bai bod y rhestr yn dynodi un neu ragor o etholiadau lle cafodd pleidlais y pleidleisiwr ei rhoi gyda chymorth.
(7) Yn y rheol hon, mae i “y copïau o’r cofnodion cofrestru” yr un ystyr ag yn rheol 40 (gweler paragraff (7) o’r rheol honno).
Gwybodaeth Cychwyn
I120Atod. 2 para. 45 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1
46.—(1) Mae’r rheol hon yn nodi amgylchiadau pan fo gan berson sy’n gwneud cais am bleidlais (“y ceisydd”) hawl i bleidleisio ar ôl ateb yn foddhaol y cwestiynau y mae’r gyfraith yn caniatáu eu gofyn yn y bleidlais ond pan fo’r weithdrefn ar gyfer rhoi’r bleidlais yn cael ei haddasu yn y ddwy ffordd a ganlyn—
(a)bod rhaid i’r person ddefnyddio papur pleidleisio sydd o liw gwahanol i bapurau pleidleisio eraill, a
(b)bod rhaid i’r person roi’r papur pleidleisio i’r swyddog llywyddu (yn hytrach na’i roi yn y blwch pleidleisio).
(2) Y set gyntaf o amgylchiadau yw—
(a)pan fo’r ceisydd yn honni ei fod yn etholwr penodol a enwir yn y copïau o’r cofnodion cofrestru ac nad yw wedi ei enwi yn y rhestr pleidleiswyr post neu’r rhestr dirprwyon, a
(b)pan fo person arall eisoes wedi pleidleisio’n bersonol naill ai fel yr etholwr hwnnw neu fel dirprwy’r etholwr hwnnw.
(3) Yr ail set o amgylchiadau yw—
(a)pan fo’r ceisydd yn honni ei fod yn berson penodol a enwir yn y rhestr dirprwyon fel dirprwy ar ran etholwr ac nad oes ganddo hawl i bleidleisio drwy’r post fel dirprwy, a
(b)pan fo person arall eisoes wedi pleidleisio’n bersonol naill ai fel yr etholwr hwnnw neu fel dirprwy’r etholwr hwnnw.
(4) Y drydedd set o amgylchiadau yw—
(a)pan fo’r ceisydd yn honni ei fod yn etholwr penodol a enwir yn y copïau o’r cofnodion cofrestru,
(b)pan fo’r ceisydd hefyd wedi ei enwi yn y rhestr pleidleiswyr post, ac
(c)pan fo’r ceisydd yn honni nad yw wedi gwneud cais am bleidleisio drwy’r post yn yr etholiad.
(5) Y bedwaredd set o amgylchiadau yw—
(a)pan fo’r ceisydd yn honni ei fod yn berson penodol a enwir yn ddirprwy yn y rhestr dirprwyon,
(b)pan fo’r person hwnnw hefyd wedi ei enwi ar y rhestr pleidleiswyr post drwy ddirprwy, ac
(c)pan fo’r ceisydd yn honni nad yw wedi gwneud cais am bleidleisio drwy’r post fel dirprwy yn yr etholiad.
(6) Y bumed set o amgylchiadau yw—
(a)pan fo’r ceisydd, ar ôl yr amser olaf y caiff person wneud cais am bapur pleidleisio post newydd ond cyn i’r bleidlais gau, yn honni ei fod yn etholwr penodol a enwir yn y copïau o’r cofnodion cofrestru sydd hefyd wedi ei enwi yn y rhestr pleidleiswyr post, a
(b)pan fo’r ceisydd yn honni ei fod wedi colli papur pleidleisio post y person hwnnw neu heb ei gael.
(7) Y chweched set o amgylchiadau yw—
(a)pan fo’r ceisydd, ar ôl yr amser olaf y caiff person wneud cais am bapur pleidleisio post newydd ond cyn i’r bleidlais gau, yn honni ei fod yn berson penodol a enwir yn ddirprwy yn y rhestr dirprwyon sydd hefyd wedi ei enwi yn y rhestr pleidleiswyr post drwy ddirprwy, a
(b)pan fo’r ceisydd yn honni ei fod wedi colli papur pleidleisio post y person hwnnw neu heb ei gael.
(8) Cyfeirir at bapur pleidleisio a roddir i swyddog llywyddu yn unol â’r rheol hon yn y rheolau hyn fel “papur pleidleisio a dendrwyd”.
(9) Pan fo gan etholwr gofnod dienw, mae’r cyfeiriadau yn y rheol hon at berson a enwir yn y copïau o’r cofnodion cofrestru neu mewn rhestr i’w darllen fel cyfeiriadau at berson sydd â rhif yn y copïau neu yn y rhestr.
(10) Yn y rheol hon, mae i “y copïau o’r cofnodion cofrestru” yr un ystyr ag yn rheol 40 (gweler paragraff (7) o’r rheol honno).
Gwybodaeth Cychwyn
I121Atod. 2 para. 46 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1
47.—(1) Mae’r rheol hon yn nodi dyletswyddau’r swyddog llywyddu mewn perthynas â phapurau pleidleisio a dendrwyd.
(2) Rhaid i’r swyddog llywyddu arnodi’r wybodaeth a ganlyn ar y papur pleidleisio—
(a)enw’r pleidleisiwr, a
(b)rhif y pleidleisiwr yn y copïau o’r cofnodion cofrestru neu, os yw’r pleidleisiwr yn pleidleisio fel dirprwy ar ran etholwr, rhif yr etholwr.
(3) Rhaid i’r swyddog llywyddu roi’r papur pleidleisio mewn pecyn ar wahân.
(4) Rhaid cofnodi’r wybodaeth a ganlyn ar restr (y “rhestr pleidleisiau a dendrwyd”)—
(a)enw’r pleidleisiwr, a
(b)rhif y pleidleisiwr yn y copïau o’r cofnodion cofrestru neu, os yw’r pleidleisiwr yn pleidleisio fel dirprwy ar ran etholwr, rhif yr etholwr.
(5) Pan fo gan etholwr gofnod dienw, rhaid i’r swyddog llywyddu beidio â chynnwys enw’r pleidleisiwr ar y papur pleidleisio nac yn y rhestr pleidleisiau a dendrwyd.
(6) Caniateir defnyddio’r un rhestr pleidleisiau a dendrwyd ar gyfer etholiad y gymuned a phob etholiad perthnasol.
(7) Pan ddefnyddir yr un rhestr, mae cofnod yn y rhestr i’w gymryd fel pe bai papur pleidleisio a dendrwyd wedi ei roi i’r swyddog llywyddu mewn cysylltiad ag etholiad y gymuned ac mewn cysylltiad â phob etholiad perthnasol, oni bai bod y rhestr yn dynodi un neu ragor o etholiadau lle cafodd papur pleidleisio a dendrwyd ei roi.
(8) Yn y rheol hon, mae i “y copïau o’r cofnodion cofrestru” yr un ystyr ag yn rheol 40 (gweler paragraff (7) o’r rheol honno).
Gwybodaeth Cychwyn
I122Atod. 2 para. 47 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1
48.—(1) Mae’r rheol hon yn gymwys pan fo pleidleisiwr wedi ymdrin yn anfwriadol â’i bapur pleidleisio yn y fath fodd fel na ellir ei ddefnyddio’n gyfleus fel papur pleidleisio.
(2) Caiff y pleidleisiwr sicrhau papur pleidleisio arall—
(a)drwy roi’r papur pleidleisio yr ymdriniwyd ag ef yn anfwriadol (y “papur pleidleisio a ddifethwyd”) i’r swyddog llywyddu, a
(b)drwy brofi er boddhad y swyddog llywyddu yr ymdriniwyd ag ef yn anfwriadol.
(3) Pan roddir papur pleidleisio arall i’r pleidleisiwr, rhaid i’r papur pleidleisio a ddifethwyd gael ei ganslo ar unwaith.
Gwybodaeth Cychwyn
I123Atod. 2 para. 48 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1
49.—(1) Rhaid i’r swyddog llywyddu gadw rhestr o bersonau y rhoddir papurau pleidleisio iddynt o ganlyniad i addasiad yn y gofrestr a wneir yn rhinwedd adran 13B(3B) neu (3D) o Ddeddf 1983 sy’n dod yn effeithiol ar ddiwrnod y bleidlais.
(2) Caniateir defnyddio’r un rhestr ar gyfer etholiad y gymuned a phob etholiad perthnasol.
(3) Pan ddefnyddir yr un rhestr, mae cofnod yn y rhestr i’w gymryd fel pe bai papurau pleidleisio wedi eu rhoi o ganlyniad i addasiad yn y gofrestr mewn cysylltiad ag etholiad y gymuned ac mewn cysylltiad â phob etholiad perthnasol, oni bai bod y rhestr yn dynodi un neu ragor o etholiadau lle cafodd papurau pleidleisio eu rhoi felly.
Gwybodaeth Cychwyn
I124Atod. 2 para. 49 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1
50.—(1) Mae’r rheol hon yn gymwys pan dorrir ar draws y trafodion mewn unrhyw orsaf bleidleisio neu pan gânt eu rhwystro gan derfysg neu drais agored.
(2) Rhaid i’r swyddog llywyddu—
(a)gohirio’r trafodion tan drannoeth, a
(b)hysbysu’r swyddog canlyniadau cydlynol ar unwaith.
(3) Pan gaiff y bleidlais ei gohirio mewn gorsaf bleidleisio—
(a)rhaid i’r oriau pleidleisio ar y diwrnod y caiff ei gohirio iddo fod yr un fath ag ar gyfer y diwrnod gwreiddiol, a
(b)mae cyfeiriadau yn y rheolau hyn at ddiwedd y bleidlais i’w darllen fel cyfeiriadau at ddiwedd yr oriau pleidleisio ar y diwrnod y caiff ei gohirio iddo.
Gwybodaeth Cychwyn
I125Atod. 2 para. 50 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1
51.—(1) Mae’r rheol hon yn nodi’r camau y mae’n rhaid i’r swyddog llywyddu eu cymryd cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl i bob pleidleisiwr fwrw ei bleidlais.
(2) Ym mhresenoldeb unrhyw asiantau pleidleisio a benodwyd at ddibenion etholiad y gymuned neu etholiad perthnasol sydd yn yr orsaf bleidleisio, rhaid i’r swyddog llywyddu selio pob blwch pleidleisio (gyda’r allwedd ynghlwm os oes un) a oedd yn cael ei ddefnyddio yn yr orsaf bleidleisio er mwyn atal gosod papurau pleidleisio ychwanegol ynddo, gan ddefnyddio sêl y swyddog llywyddu a seliau unrhyw asiantau pleidleisio sy’n dymuno gosod eu sêl.
(3) Ym mhresenoldeb unrhyw asiantau pleidleisio a benodwyd at ddibenion etholiad y gymuned neu etholiad perthnasol sydd yn yr orsaf bleidleisio, rhaid i’r swyddog llywyddu osod pob un o’r canlynol mewn pecynnau ar wahân, wedi eu selio gan ddefnyddio sêl y swyddog llywyddu a seliau unrhyw asiantau pleidleisio sy’n dymuno gosod eu sêl—
(a)y papurau pleidleisio sydd heb eu defnyddio a’r papurau pleidleisio a ddifethwyd (gyda’i gilydd);
(b)y papurau pleidleisio a dendrwyd;
(c)y copïau a farciwyd o’r cofnodion cofrestru a’r rhestr dirprwyon (gyda’i gilydd);
(d)rhestr rhifau cyfatebol yr orsaf bleidleisio, fel y’i marciwyd (gweler rheol 42(2)(c)) (y cyfeirir ati yn y darpariaethau a ganlyn o’r rheolau hyn fel “y rhestr rhifau cyfatebol a gwblhawyd”);
(e)unrhyw dystysgrifau a ildiwyd o dan reol 37(4) neu (5) (ildio tystysgrifau a ddyroddwyd i gwnstabliaid neu staff swyddogion canlyniadau);
(f)y rhestrau a’r datganiadau a ganlyn (gyda’i gilydd)—
(i)y rhestr pleidleisiau a farciwyd gan y swyddog llywyddu, ynghyd â datganiad o nifer y pleidleiswyr y mae eu pleidleisiau wedi eu marcio o dan y penawdau “anabledd” a “methu darllen” (gweler rheol 43);
(ii)y datganiadau a wnaed gan gymdeithion pleidleiswyr ag anableddau (gweler rheol 44);
(iii)y rhestr pleidleiswyr ag anableddau a gynorthwywyd gan gydymaith (gweler rheol 45);
(iv)y rhestr pleidleisiau a dendrwyd (gweler rheol 47);
(v)y rhestr a gadwyd o dan reol 49 (cywiro gwallau ar ddiwrnod y bleidlais).
(4) Rhaid i’r swyddog llywyddu ddanfon y blychau pleidleisio a’r pecynnau a seliwyd i’r swyddog canlyniadau cydlynol neu beri iddynt gael eu danfon yn unol â threfniadau a gymeradwywyd gan y swyddog canlyniadau hwnnw.
(5) I gyd-fynd â’r pecynnau rhaid cael datganiad (“cyfriflen papurau pleidleisio”) a baratowyd gan y swyddog llywyddu ac sy’n dangos—
(a)nifer y papurau pleidleisio a roddwyd i’r swyddog llywyddu, a
(b)sut y cyfrifwyd y papurau pleidleisio o dan y penawdau a ganlyn—
(i)nifer y papurau pleidleisio a ddyroddwyd ac na chyfrifwyd hwy fel arall;
(ii)nifer y papurau pleidleisio sydd heb eu defnyddio;
(iii)nifer y papurau pleidleisio a ddifethwyd;
(iv)nifer y papurau pleidleisio a dendrwyd.
(6) Ni chaniateir cyfuno cynnwys y pecynnau sy’n cynnwys y papurau pleidleisio sydd heb eu defnyddio a’r papurau pleidleisio a ddifethwyd a’r papurau pleidleisio a dendrwyd â chynnwys y pecynnau a wneir o dan y rheol gyfatebol sy’n gymwys mewn unrhyw etholiad perthnasol.
(7) Ni chaniateir cyfuno’r gyfriflen papurau pleidleisio â’r gyfriflen papurau pleidleisio a baratoir o dan y rheol gyfatebol sy’n gymwys mewn unrhyw etholiad perthnasol.
(8) Yn y rheol hon, ystyr “y copïau a farciwyd o’r cofnodion cofrestru” yw’r copïau o’r cofnodion cofrestru (fel y’u diffinnir gan reol 40(7)), fel y’u marciwyd yn unol â’r rheolau hyn.
Gwybodaeth Cychwyn
I126Atod. 2 para. 51 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1
52.—(1) Mae’r rheol hon yn rhoi trosolwg o sut y cymhwysir y Rhan hon.
(2) Pan y swyddog canlyniadau cydlynol yw’r swyddog canlyniadau, mae’r rheolau a ganlyn yn gymwys—
(a)rheol 53 (presenoldeb mewn trafodion);
(b)rheol 54 (dyletswyddau rhagarweiniol a chyffredinol);
(c)rheol 55 (gwahanu papurau pleidleisio etc.);
(d)rheolau 58 i 64 (darpariaethau ynglŷn â chyfrif etc.).
(3) Pan nad y swyddog canlyniadau cydlynol yw’r swyddog canlyniadau, mae’r rheolau a ganlyn yn gymwys—
(a)rheol 53(1) a (3) i (9) (presenoldeb mewn trafodion);
(b)rheol 56 (dyletswyddau rhagarweiniol a chyffredinol);
(c)rheol 57 (agor cynwysyddion etc.);
(d)rheolau 58 i 64 (darpariaethau ynglŷn â chyfrif etc.).
(4) Yn y Rhan hon—
(a)mae cyfeiriadau at asiantau cyfrif y gymuned yn gyfeiriadau at yr asiantau cyfrif a benodwyd at ddibenion etholiad y gymuned;
(b)mae cyfeiriadau at asiantau cyfrif eraill yn gyfeiriadau at yr asiantau cyfrif a benodwyd at ddibenion unrhyw etholiad perthnasol;
(c)mae cyfeiriadau at asiantau etholiadol y gymuned yn gyfeiriadau at yr asiantau etholiadol (os oes rhai) a benodwyd at ddibenion etholiad y gymuned;
(d)mae cyfeiriadau at asiantau etholiadol eraill yn gyfeiriadau at yr asiantau etholiadol a benodwyd at ddibenion unrhyw etholiad perthnasol.
Gwybodaeth Cychwyn
I127Atod. 2 para. 52 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1
53.—(1) Mae gan y personau a ganlyn hawl i fod yn bresennol mewn trafodion o dan reolau 55(2) i (10), 57 a 59 i 64—
(a)y swyddog canlyniadau ac aelodau staff y swyddog canlyniadau;
(b)pob ymgeisydd a gwestai i bob ymgeisydd;
(c)asiantau etholiadol y gymuned (os penodwyd rhai);
(d)asiantau cyfrif y gymuned;
(e)unrhyw berson sydd â hawl i fod yn bresennol yn rhinwedd adrannau 6A i 6D o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (cynrychiolwyr y Comisiwn Etholiadol a sylwedyddion achrededig);
(f)y cwnstabliaid ar ddyletswydd.
(2) Yn ychwanegol, mae gan unrhyw berson sydd â hawl i fod yn bresennol wrth i’r pleidleisiau gael eu cyfrif mewn etholiad perthnasol hawl i fod yn bresennol mewn trafodion o dan reol 55(2) i (10).
(3) Caiff y swyddog canlyniadau ganiatáu i unrhyw berson arall fod yn bresennol mewn trafodion o dan unrhyw un neu ragor o reolau 55(2) i (10), 57 neu 59 i 64.
(4) Ni chaniateir rhoi caniatâd o dan baragraff (2) oni bai bod y swyddog canlyniadau—
(a)wedi ei fodloni na fydd presenoldeb y person yn rhwystro swyddogaethau’r swyddog canlyniadau rhag cael eu cyflawni’n effeithlon, a
(b)naill ai wedi ymgynghori â’r personau priodol ynghylch a ddylid rhoi caniatâd neu wedi penderfynu nad yw’n ymarferol ymgynghori â hwy.
(5) At ddibenion paragraff (4)(b), “y personau priodol” yw—
(a)yn achos trafodion o dan reol 55(2) i (10), yr asiantau etholiadol cymunedol (neu, yn achos ymgeiswyr sydd heb benodi asiantau etholiadol, yr ymgeiswyr) a’r asiantau etholiadol eraill;
(b)yn achos unrhyw drafodion eraill, yr asiantau etholiadol cymunedol neu, yn achos ymgeiswyr sydd heb benodi asiantau etholiadol, yr ymgeiswyr.
(6) Rhaid i’r swyddog canlyniadau roi pob cyfleuster rhesymol i unrhyw asiantau cyfrif sydd â hawl i fod yn bresennol ar gyfer goruchwylio’r trafodion, a’r holl wybodaeth amdanynt, y gall y swyddog canlyniadau eu rhoi yn gyson â chynnal y trafodion yn drefnus a chyflawni dyletswyddau’r swyddog canlyniadau.
(7) Yn benodol, pan fo’r pleidleisiau’n cael eu cyfrif drwy ddidoli’r papurau pleidleisio yn ôl yr ymgeisydd y rhoddir y bleidlais iddo ac wedyn cyfrif nifer y papurau pleidleisio ar gyfer pob ymgeisydd, mae gan asiantau cyfrif y gymuned hawl i’w bodloni eu hunain fod y papurau pleidleisio wedi eu didoli’n gywir.
(8) Rhaid i’r swyddog canlyniadau wneud trefniadau i sicrhau bod pawb sy’n bresennol wrth i’r pleidleisiau gael eu cyfrif (ac eithrio’r cwnstabliaid ar ddyletswydd) wedi cael hysbysiad yn nodi darpariaethau adran 66(2) a (6) o Ddeddf 1983 (hysbysiad o ofyniad cyfrinachedd).
(9) Yn y rheol hon, mae cyfeiriad at gwnstabl yn cynnwys cyfeiriad at berson a ddynodwyd yn swyddog cymorth cymunedol neu’n wirfoddolwr cymorth cymunedol o dan adran 38 o Ddeddf Diwygio’r Heddlu 2002 (pwerau’r heddlu i staff sy’n sifiliaid a gwirfoddolwyr).
Gwybodaeth Cychwyn
I128Atod. 2 para. 53 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1
54.—(1) Mae’r rheol hon yn gymwys pan y swyddog canlyniadau cydlynol yw’r swyddog canlyniadau.
(2) Rhaid i’r swyddog canlyniadau wneud trefniadau ar gyfer cyflawni’r swyddogaethau o dan reol 55 cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl i’r bleidlais gau.
(3) Rhaid i’r swyddog canlyniadau roi hysbysiad i asiantau cyfrif y gymuned a’r asiantau cyfrif eraill yn datgan yr amser a’r lle y bydd y swyddog canlyniadau yn dechrau cyflawni’r swyddogaethau o dan reol 55.
(4) Wrth gyfrif a chofnodi nifer y papurau pleidleisio a chyfrif y pleidleisiau, rhaid i’r swyddog canlyniadau—
(a)cadw’r papurau pleidleisio gyda’u hwynebau i fyny, a
(b)cymryd y rhagofalon eraill hynny sy’n briodol at ddiben atal unrhyw berson rhag gweld y rhifau neu farciau adnabod unigryw eraill a argraffwyd ar gefn y papurau.
Gwybodaeth Cychwyn
I129Atod. 2 para. 54 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1
55.—(1) Mae’r rheol hon yn gymwys pan y swyddog canlyniadau cydlynol yw’r swyddog canlyniadau.
(2) Rhaid i’r swyddog canlyniadau, ym mhresenoldeb asiantau cyfrif y gymuned a’r asiantau cyfrif eraill, agor pob blwch pleidleisio, tynnu’r papurau pleidleisio, eu cyfrif a chofnodi ar wahân nifer y papurau pleidleisio a ddefnyddiwyd ym mhob etholiad.
(3) Ni chaiff y swyddog canlyniadau gyfrif unrhyw bapur pleidleisio a dendrwyd.
(4) Pan ddefnyddiwyd blychau pleidleisio ar wahân yn y bleidlais, nid yw unrhyw bleidlais dros ymgeisydd yn etholiad y gymuned i’w thrin fel pleidlais annilys am ei bod wedi ei gosod yn y blwch pleidleisio y bwriadwyd ei ddefnyddio mewn etholiad perthnasol.
(5) Rhaid i’r swyddog canlyniadau, ym mhresenoldeb asiantau etholiadol y gymuned (os penodwyd rhai) a’r asiantau etholiadol eraill, ddilysu pob cyfriflen papurau pleidleisio drwy ei chymharu â nifer y papurau pleidleisio a gofnodwyd, y papurau pleidleisio heb eu defnyddio a’r papurau pleidleisiau a ddifethwyd sydd ym meddiant y swyddog canlyniadau a’r rhestr pleidleisiau a dendrwyd (gan agor ac ailselio’r pecynnau sy’n cynnwys y papurau pleidleisio heb eu defnyddio a’r papurau pleidleisio a ddifethwyd, a’r rhestr pleidleisiau a dendrwyd).
(6) Rhaid i’r swyddog canlyniadau baratoi datganiad ynglŷn â chanlyniad y dilysiad a rhoi copi o’r datganiad i unrhyw asiant etholiadol y gymuned (os penodwyd rhai), ac i unrhyw asiant etholiadol arall, sy’n gofyn amdano.
(7) Pan nad yw ymgeisydd yn etholiad y gymuned wedi penodi asiant etholiadol—
(a)rhaid i ddilysiad y gyfriflen papurau pleidleisio gael ei wneud yn hytrach ym mhresenoldeb asiantau cyfrif yr ymgeisydd, a
(b)os gwneir cais, rhaid rhoi copi o’r datganiad i’r ymgeisydd.
(8) Rhaid hefyd i’r swyddog canlyniadau—
(a)cyfrif y papurau pleidleisio post sydd wedi eu dychwelyd yn briodol (ynglŷn â hynny gweler rheol 58), a
(b)cofnodi ar wahân y nifer a gyfrifwyd yn y bleidlais yn etholiad y gymuned ac ym mhob etholiad perthnasol.
(9) Yna rhaid i’r swyddog canlyniadau—
(a)gwahanu’r papurau pleidleisio sy’n ymwneud ag etholiad y gymuned o’r papurau pleidleisio sy’n ymwneud â phob etholiad perthnasol,
(b)trefnu’r papurau pleidleisio ar gyfer pob etholiad perthnasol yn becynnau, ac
(c)selio’r pecynnau mewn cynwysyddion ar wahân gan arnodi ar bob un ddisgrifiad o’r ardal y mae’r papurau pleidleisio yn ymwneud â hi.
(10) Yna rhaid i’r swyddog canlyniadau ddanfon neu beri danfon i swyddog canlyniadau pob etholiad perthnasol—
(a)cynwysyddion y papurau pleidleisio sy’n ymwneud â’r etholiad, ynghyd â rhestr o’r cynwysyddion a’u cynnwys,
(b)y cyfriflenni papurau pleidleisio sy’n ymwneud â’r etholiad, ynghyd â chopi o’r datganiadau ynglŷn â chanlyniad y dilysiad, ac
(c)y pecynnau o bapurau pleidleisio heb eu defnyddio a’r papurau pleidleisio a ddifethwyd a’r papurau pleidleisio a dendrwyd.
(11) Yna rhaid i’r swyddog canlyniadau gymysgu’r holl bapurau pleidleisio a ddefnyddiwyd yn etholiad y gymuned gyda’i gilydd.
Gwybodaeth Cychwyn
I130Atod. 2 para. 55 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1
56.—(1) Mae’r rheol hon yn gymwys pan nad y swyddog canlyniadau cydlynol yw’r swyddog canlyniadau.
(2) Rhaid i’r swyddog canlyniadau wneud trefniadau ar gyfer cyfrif y pleidleisiau ym mhresenoldeb asiantau cyfrif y gymuned cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl i’r papurau pleidleisio gael eu danfon gan y swyddog canlyniadau, sef y swyddog canlyniadau cydlynol.
(3) Rhaid i’r swyddog canlyniadau roi hysbysiad i asiantau cyfrif y gymuned yn nodi’r amser y dechreuir cyfrif pleidleisiau (a bwrw bod y papurau pleidleisio wedi eu danfon) a’r man lle bydd y cyfrif yn digwydd.
(4) Wrth gyfrif a chofnodi nifer y papurau pleidleisio a chyfrif y pleidleisiau, rhaid i’r swyddog canlyniadau—
(a)cadw’r papurau pleidleisio â’u hwynebau i fyny, a
(b)cymryd unrhyw ragofalon eraill sy’n briodol i atal unrhyw berson rhag gweld y rhifau neu’r marciau adnabod unigryw eraill a argraffwyd ar gefn y papurau.
Gwybodaeth Cychwyn
I131Atod. 2 para. 56 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1
57.—(1) Mae’r rheol hon yn gymwys pan nad y swyddog canlyniadau cydlynol yw’r swyddog canlyniadau.
(2) Ar ôl cael y cynwysyddion papurau pleidleisio oddi wrth y swyddog canlyniadau, sef y swyddog canlyniadau cydlynol, ac ar ôl yr amser a bennwyd yn yr hysbysiad a roddwyd o dan reol 56(3), rhaid i’r swyddog canlyniadau agor pob cynhwysydd ym mhresenoldeb asiantau cyfrif y gymuned.
(3) Pan nad yw’r trafodion ynglŷn â dyroddi a derbyn papurau pleidleisio post yn cael eu cynnal ynghyd â’r trafodion hynny mewn etholiad perthnasol o dan reoliad 65 o Reoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001(18) neu o dan y rheoliad hwnnw fel y’i cymhwysir gan reoliadau o dan adran 44 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000(19), rhaid i’r swyddog canlyniadau gyfrif y papurau pleidleisio post sydd wedi eu dychwelyd yn briodol a chofnodi’r nifer a gyfrifwyd.
(4) Yna rhaid i’r swyddog canlyniadau gymysgu’r holl bapurau pleidleisio post a’r holl bapurau pleidleisio o’r cynwysyddion gyda’i gilydd.
Gwybodaeth Cychwyn
I132Atod. 2 para. 57 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1
58.—(1) Mae’r rheol hon yn gymwys ar gyfer penderfynu a yw papur pleidleisio post i’w drin fel pe bai wedi ei ddychwelyd yn briodol fel y crybwyllir yn rheolau 55(8)(a) a 57(3).
(2) Mae papur pleidleisio post i’w drin fel pe bai wedi ei ddychwelyd yn briodol os yw’r papur pleidleisio a’r datganiad pleidleisio post sy’n cyd-fynd ag ef sydd wedi ei gwblhau’n briodol—
(a)wedi eu cyflwyno mewn gorsaf bleidleisio yn yr ardal briodol cyn i’r bleidlais gau,
(b)wedi eu rhoi â llaw i’r swyddog canlyniadau cyn i’r bleidlais gau, neu
(c)wedi dod i law’r swyddog canlyniadau drwy’r post cyn i’r bleidlais gau.
(3) Mae datganiad pleidleisio post wedi ei gwblhau’n briodol—
(a)os yw wedi ei lofnodi gan yr etholwr neu (yn ôl y digwydd) y dirprwy, oni bai bod y swyddog cofrestru wedi hepgor y gofyniad ynglŷn â llofnod,
(b)os yw’n datgan dyddiad geni’r etholwr neu (yn ôl y digwydd) dyddiad geni’r dirprwy, ac
(c)mewn achos lle mae camau i ddilysu dyddiad geni a llofnod etholwr neu ddirprwy wedi eu rhagnodi gan reoliadau o dan Ddeddf 1983, os yw’r swyddog canlyniadau wedi cymryd y camau hynny ac wedi dilysu’r dyddiad geni ac (ac eithrio mewn achos lle mae’r gofyniad ynglŷn â llofnod wedi ei hepgor) y llofnod.
(4) Pan fo person, wrth i’r bleidlais gau, yn yr orsaf bleidleisio, neu mewn ciw y tu allan i’r orsaf bleidleisio, er mwyn cyflwyno papur pleidleisio post a datganiad pleidleisio post—
(a)rhaid caniatáu i’r person gyflwyno’r papur pleidleisio a’r datganiad yn yr orsaf bleidleisio, a
(b)pan fônt wedi eu cyflwyno, maent i’w trin fel pe baent wedi eu cyflwyno cyn i’r bleidlais gau at ddibenion y rheol hon.
(5) “Yr ardal briodol” y cyfeirir ati ym mharagraff (2)(a) yw’r ardal a ddynodir drwy—
(a)canfod y pleidleisiau y rhoddwyd papur pleidleisio i’r pleidleisiwr post mewn cysylltiad â hwy,
(b)adnabod yr etholaeth neu’r ardal arall y mae pob un o’r pleidleisiau hynny’n cael eu cynnal mewn cysylltiad â hi, ac
(c)wedyn adnabod yr ardal sy’n gyffredin i’r holl ardaloedd hynny.
Gwybodaeth Cychwyn
I133Atod. 2 para. 58 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1
59.—(1) Mae’r rheol hon yn gymwys pan fo’r swyddog canlyniadau wedi cymysgu’r papurau pleidleisio o dan reol 55(11) neu 57(4).
(2) Rhaid canfod canlyniad y bleidlais drwy gyfrif y pleidleisiau a roddwyd i bob ymgeisydd.
(3) Rhaid datgan bod yr ymgeisydd neu’r ymgeiswyr y rhoddwyd mwy o bleidleisiau iddo ef neu iddynt hwy nag i’r ymgeiswyr eraill, hyd at nifer y cynghorwyr sydd i’w hethol, wedi ei ethol neu wedi eu hethol.
(4) Yn ddarostyngedig i baragraff (5), rhaid i’r swyddog canlyniadau, i’r graddau y bo’n ymarferol, fwrw ymlaen yn ddi-dor â’r gwaith cyfrif pleidleisiau, gan ganiatáu amser ar gyfer lluniaeth yn unig.
(5) Caiff y swyddog canlyniadau eithrio unrhyw oriau rhwng 7 p.m. a 9 a.m. fore trannoeth.
(6) Yn ystod unrhyw amser sydd wedi ei eithrio, rhaid i’r swyddog canlyniadau—
(a)gosod y papurau pleidleisio a’r dogfennau eraill sy’n ymwneud â’r etholiad o dan sêl y swyddog canlyniadau a seliau unrhyw asiantau cyfrif cymuned sy’n dymuno gosod eu sêl, a
(b)cymryd rhagofalon priodol fel arall ar gyfer diogelwch y papurau pleidleisio a’r dogfennau eraill.
Gwybodaeth Cychwyn
I134Atod. 2 para. 59 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1
60.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (4), mae’r papurau pleidleisio a ganlyn yn ddi-rym ac ni chaniateir eu cyfrif—
(a)papur pleidleisio nad oes arno farc swyddogol;
(b)papur pleidleisio y rhoddwyd pleidleisiau arno dros fwy o ymgeiswyr nag y mae gan y pleidleisiwr hawl i bleidleisio drostynt;
(c)papur pleidleisio y mae unrhyw beth wedi ei ysgrifennu neu wedi ei farcio arno y gellir adnabod y pleidleisiwr drwyddo ac eithrio’r rhif printiedig a’r marc adnabod unigryw arall ar y cefn;
(d)papur pleidleisio sydd heb ei farcio neu’n ddi-rym oherwydd ansicrwydd.
(2) Pan fo gan y pleidleisiwr hawl i bleidleisio dros fwy nag un ymgeisydd, nid yw papur pleidleisio i’w drin fel pe bai’n ddi-rym oherwydd ansicrwydd o ran unrhyw bleidlais nad oes ansicrwydd yn codi yn ei chylch a rhaid cyfrif y bleidlais honno.
(3) Mae paragraff (4) yn gymwys i bapur pleidleisio y marciwyd pleidlais arno—
(a)mewn man heblaw’r man priodol,
(b)heblaw drwy gyfrwng croes, neu
(c)drwy fwy nag un marc.
(4) Nid yw’r papur pleidleisio i’w drin fel pe bai’n ddi-rym (naill ai’n gyfan gwbl neu o ran y bleidlais honno), oherwydd y modd y mae’r bleidlais wedi ei marcio yn unig—
(a)os yw’n glir o’r papur pleidleisio fod y pleidleisiwr yn bwriadu pleidleisio dros un neu’r llall o’r ymgeiswyr,
(b)os nad yw’r modd y mae’r papur pleidleisio wedi ei farcio ynddo’i hun yn adnabod y pleidleisiwr, ac
(c)os yw’r swyddog canlyniadau wedi ei fodloni na ellir adnabod y pleidleisiwr o’r papur pleidleisio.
(5) Rhaid i’r swyddog canlyniadau—
(a)arnodi’r gair “gwrthodwyd” ar unrhyw bapur pleidleisio nad yw, yn unol â’r rheol hon, i’w gyfrif;
(b)arnodi’r geiriau “gwrthodwyd yn rhannol” ar unrhyw bapur pleidleisio y cyfrifir pleidlais arno yn unol â pharagraff (2) a nodi pa bleidlais neu bleidleisiau a gyfrifwyd.
(6) Os bydd asiant cyfrif cymuned yn gwrthwynebu penderfyniad y swyddog canlyniadau, rhaid i’r swyddog canlyniadau ychwanegu’r geiriau “gwrthwynebwyd y gwrthodiad” at yr arnodiad.
(7) Rhaid i’r swyddog canlyniadau baratoi datganiad yn dangos nifer y papurau pleidleisio a wrthodwyd a’r nifer a wrthodwyd yn rhannol.
(8) Rhaid i’r datganiad nodi’r nifer a wrthodwyd neu a wrthodwyd yn rhannol o dan bob un o’r penawdau yn is-baragraffau (a) i (d) o baragraff (1).
Gwybodaeth Cychwyn
I135Atod. 2 para. 60 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1
61.—(1) Caiff ymgeisydd neu asiant etholiadol yr ymgeisydd (os penodwyd un), os yw’n bresennol pan fydd y cyfrif wedi ei gwblhau, ofyn i’r swyddog canlyniadau ailgyfrif y pleidleisiau.
(2) Rhaid i’r swyddog canlyniadau gydymffurfio â’r cais oni bai bod y swyddog canlyniadau o’r farn bod y cais yn afresymol.
(3) Ni chaniateir cymryd unrhyw gam pan fo’r cyfrif wedi ei gwblhau nes bod yr ymgeiswyr a’r asiantau etholiadol sy’n bresennol wedi cael cyfle rhesymol i ofyn i’r pleidleisiau gael eu hailgyfrif.
(4) Pan fydd ailgyfrif yn digwydd, mae’r rheol hon hefyd yn gymwys mewn perthynas â’r ailgyfrif (fel y gall yr ymgeisydd neu asiant etholiadol yr ymgeisydd (os penodwyd un), er enghraifft, os yw’n bresennol pan fydd yr ailgyfrif wedi ei gwblhau, ofyn i’r swyddog canlyniadau ailgyfrif y pleidleisiau).
Gwybodaeth Cychwyn
I136Atod. 2 para. 61 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1
62.—(1) Mae’r rheol hon yn gymwys pan fo’r pleidleisiau’n gyfartal rhwng unrhyw ymgeiswyr ar ôl cyfrif y pleidleisiau (gan gynnwys unrhyw ailgyfrif), a phan fyddai ychwanegu pleidlais yn rhoi’r hawl i unrhyw un o’r ymgeiswyr hynny gael ei ethol.
(2) Rhaid i’r swyddog canlyniadau benderfynu ar unwaith rhwng yr ymgeiswyr drwy fwrw coelbren a bwrw ymlaen fel pe bai’r ymgeisydd y mae’r coelbren yn mynd o’i blaid wedi cael pleidlais ychwanegol.
Gwybodaeth Cychwyn
I137Atod. 2 para. 62 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1
63. Mae penderfyniad y swyddog canlyniadau ar unrhyw gwestiwn sy’n codi mewn cysylltiad â phapur pleidleisio yn derfynol, ond caniateir ei adolygu ar ddeiseb etholiad.
Gwybodaeth Cychwyn
I138Atod. 2 para. 63 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1
64.—(1) Pan fydd y cyfrif wedi ei gwblhau, rhaid i’r swyddog canlyniadau ddatgan bod yr ymgeisydd neu’r ymgeiswyr y rhoddwyd mwy o bleidleisiau iddo ef neu iddynt hwy nag i ymgeiswyr eraill wedi ei ethol neu wedi eu hethol, hyd at nifer y cynghorwyr sydd i’w hethol.
(2) Rhaid i’r swyddog canlyniadau roi hysbysiad yn datgan enwau a chyfeiriadau’r ymgeiswyr a etholwyd—
(a)i swyddog priodol y cyngor cymuned, a
(b)i swyddog priodol y cyngor sir neu’r cyngor bwrdeistref sirol y lleolir y gymuned ynddo.
(3) Rhaid i’r swyddog canlyniadau gyhoeddi hysbysiad hefyd—
(a)o enwau’r ymgeiswyr a etholwyd,
(b)o gyfanswm nifer y pleidleisiau a roddwyd i bob ymgeisydd (p’un a etholwyd hwy ai peidio), ac
(c)o nifer y papurau pleidleisiau a wrthodwyd o dan bob pennawd a ddangosir yn y datganiad o’r papurau pleidleisio a wrthodwyd (gweler rheol 60(7)).
Gwybodaeth Cychwyn
I139Atod. 2 para. 64 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1
65.—(1) Mae’r rheol hon yn gymwys ar ôl cwblhau cyfrif y pleidleisiau mewn etholiad lle ceir gornest.
(2) Rhaid i’r swyddog canlyniadau selio mewn pecynnau ar wahân—
(a)y papurau pleidleisio a gyfrifwyd, a
(b)y papurau pleidleisio a wrthodwyd (gan gynnwys y papurau pleidleisio a wrthodwyd yn rhannol).
(3) Rhaid i’r swyddog canlyniadau beidio ag agor unrhyw becyn a seliwyd o dan reol 51(3) sy’n cynnwys papurau pleidleisio a dendrwyd.
(4) Pan y swyddog canlyniadau cydlynol yw’r swyddog canlyniadau, rhaid i’r swyddog canlyniadau beidio ag agor unrhyw becynnau a seliwyd o dan reol 51(3) sy’n cynnwys—
(a)rhestrau rhifau cyfatebol a gwblhawyd,
(b)copïau a farciwyd o’r cofnodion cofrestru a’r rhestrau dirprwyon;
(c)tystysgrifau a ildiwyd gan gwnstabliaid neu staff swyddogion canlyniadau o dan reol 37(4) neu (5).
Gwybodaeth Cychwyn
I140Atod. 2 para. 65 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1
66.—(1) Mae’r rheol hon yn gymwys pan fo’r swyddog canlyniadau wedi selio’r papurau pleidleisio a gyfrifwyd a’r papurau pleidleisio a wrthodwyd o dan reol 65(2).
(2) Rhaid i’r swyddog canlyniadau anfon y dogfennau a ganlyn at swyddog cofrestru’r cyngor sir neu’r cyngor bwrdeistref sirol y cynhelir yr etholiad yn ei ardal—
(a)y pecynnau o bapurau pleidleisio sydd ym meddiant y swyddog canlyniadau;
(b)y cyfriflenni papurau pleidleisio a baratowyd o dan reol 51(5);
(c)y datganiadau o’r papurau pleidleisio a wrthodwyd a baratowyd o dan reol 60(7);
(d)y datganiadau o ganlyniad dilysiad y cyfriflenni papurau pleidleisio a baratowyd o dan reol 55(6);
(e)y pecynnau sy’n cynnwys y rhestr pleidleiswyr post a’r rhestr pleidleiswyr post drwy ddirprwy.
(3) Pan fo’r swyddog canlyniadau yn swyddog canlyniadau cydlynol hefyd, rhaid i’r swyddog canlyniadau hefyd anfon y dogfennau a ganlyn at swyddog cofrestru’r cyngor sir neu’r cyngor bwrdeistref sirol y cynhelir yr etholiad yn ei ardal—
(a)y rhestrau a’r datganiadau a ganlyn—
(i)y rhestrau pleidleisiau a farciwyd gan y swyddog llywyddu, ynghyd â datganiad o nifer y pleidleiswyr y mae eu pleidleisiau wedi eu marcio o dan y penawdau “anabledd” a “methu darllen” (gweler rheol 43);
(ii)y datganiadau a wnaed gan gymdeithion pleidleiswyr ag anableddau (gweler rheol 44);
(iii)y rhestrau pleidleiswyr ag anableddau a gynorthwywyd gan gymdeithion (gweler rheol 45);
(iv)y rhestrau pleidleisiau a dendrwyd (gweler rheol 47);
(v)y rhestrau a gadwyd o dan reol 49 (cywiro gwallau ar ddiwrnod y bleidlais);
(b)y pecynnau sy’n cynnwys y rhestrau rhifau cyfatebol a gwblhawyd;
(c)y pecynnau sy’n cynnwys copïau a farciwyd o gofnodion cofrestru a rhestrau dirprwyon;
(d)y pecynnau sy’n cynnwys tystysgrifau a ildiwyd gan gwnstabliaid neu staff swyddogion canlyniadau o dan reol 37(4) neu (5).
Gwybodaeth Cychwyn
I141Atod. 2 para. 66 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1
67.—(1) Mae’r rheol hon yn gymwys mewn perthynas â’r dogfennau a ganlyn pan fyddant ym meddiant y swyddog cofrestru (ar ôl cael eu hanfon o dan reol 66)—
(a)papurau pleidleisio a wrthodwyd ac a gyfrifwyd;
(b)pecynnau a seliwyd sy’n cynnwys rhestrau rhifau cyfatebol a gwblhawyd;
(c)pecynnau a seliwyd sy’n cynnwys tystysgrifau a ildiwyd gan gwnstabliaid neu staff swyddogion canlyniadau o dan reol 37(4) neu (5).
(2) Caiff llys sirol wneud unrhyw un neu ragor o’r gorchmynion a ganlyn, os yw wedi ei fodloni gan dystiolaeth ar lw fod angen y gorchymyn er mwyn naill ai cychwyn neu gynnal erlyniad am drosedd mewn perthynas â phapurau pleidleisio neu at ddibenion deiseb etholiad—
(a)gorchymyn i archwilio neu ddangos unrhyw un neu ragor o’r papurau pleidleisio a wrthodwyd (gan gynnwys unrhyw bapurau pleidleisio a wrthodwyd yn rhannol);
(b)gorchymyn i archwilio unrhyw un neu ragor o’r papurau pleidleisio a gyfrifwyd;
(c)gorchymyn i agor unrhyw un neu ragor o’r pecynnau a seliwyd sy’n cynnwys—
(i)rhestrau rhifau cyfatebol a gwblhawyd, neu
(ii)tystysgrifau a ildiwyd gan gwnstabliaid neu staff swyddogion canlyniadau o dan reol 37(4) neu (5);
(d)pan wneir gorchymyn i agor unrhyw un neu ragor o’r pecynnau a seliwyd o dan is-baragraff (c), gorchymyn i archwilio neu ddangos y cyfan neu ran o’r cynnwys.
(3) Caiff llys etholiad wneud—
(a)gorchymyn i archwilio unrhyw un neu ragor o’r papurau pleidleisio a gyfrifwyd;
(b)gorchymyn i agor unrhyw un neu ragor o’r pecynnau a seliwyd sy’n cynnwys—
(i)rhestrau rhifau cyfatebol a gwblhawyd, neu
(ii)tystysgrifau a ildiwyd gan gwnstabliaid neu staff swyddogion canlyniadau o dan reol 37(4) neu (5);
(c)pan wneir gorchymyn i agor unrhyw un neu ragor o’r pecynnau a seliwyd o dan is-baragraff (b), gorchymyn i archwilio neu ddangos y cyfan neu ran o’r cynnwys.
(4) Caniateir i orchymyn o dan y rheol hon gael ei wneud yn ddarostyngedig i unrhyw un neu ragor o’r amodau a ganlyn y mae’r llys yn credu eu bod yn briodol—
(a)amodau ynglŷn â phersonau;
(b)amodau ynglŷn ag amser;
(c)amodau ynglŷn â’r lle archwilio a’r dull archwilio;
(d)amodau ynglŷn â dangos neu agor.
(5) Rhaid i lys, wrth wneud gorchymyn o dan y rheol hon i archwilio papurau pleidleisio a gyfrifwyd neu i agor pecyn a seliwyd, osod unrhyw amodau o dan baragraff (4) y mae’r llys o’r farn eu bod yn briodol i sicrhau na ddatgelir y modd y mae etholwr wedi rhoi ei bleidlais oni bai a hyd nes y profwyd—
(a)bod yr etholwr wedi rhoi ei bleidlais, a
(b)bod y bleidlais wedi ei datgan yn annilys gan lys cymwys.
(6) Rhaid i unrhyw berson sy’n rhoi ei effaith i orchymyn o dan y rheol hon i archwilio papurau pleidleisio a gyfrifwyd neu i agor pecyn a seliwyd gymryd gofal i sicrhau na ddatgelir y modd y mae etholwr wedi rhoi ei bleidlais oni bai a hyd nes y profwyd—
(a)bod yr etholwr wedi rhoi ei bleidlais, a
(b)bod y bleidlais wedi ei datgan yn annilys gan lys cymwys.
(7) At yr Uchel Lys y cyfeirir apêl sy’n deillio o orchymyn llys sirol o dan y rheol hon.
(8) Caniateir i bwerau llys sirol o dan y rheol hon gael eu harfer gan unrhyw un neu ragor o farnwyr y llys heblaw mewn llys agored.
(9) Ac eithrio fel y darperir gan y rheol hon, ni chaiff neb—
(a)archwilio unrhyw un neu ragor o’r papurau pleidleisio a wrthodwyd neu a gyfrifwyd;
(b)agor unrhyw un neu ragor o’r pecynnau a seliwyd sy’n cynnwys—
(i)rhestrau rhifau cyfatebol a gwblhawyd, neu
(ii)tystysgrifau a ildiwyd gan gwnstabliaid neu staff swyddogion canlyniadau o dan reol 37(4) neu (5).
Gwybodaeth Cychwyn
I142Atod. 2 para. 67 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1
68.—(1) Mae paragraffau (2) a (3) yn gymwys pan wneir gorchymyn o dan reol 67 i swyddog cofrestru ddangos dogfen sydd ym meddiant y swyddog cofrestru ac sy’n ymwneud ag etholiad a bennwyd yn y gorchymyn.
(2) Mae dangos y ddogfen gan y swyddog cofrestru neu asiant y swyddog cofrestru yn y modd a gyfarwyddwyd gan y gorchymyn yn dystiolaeth bendant bod y ddogfen yn ymwneud â’r etholiad a bennwyd.
(3) Os bydd pecyn o bapurau pleidleisio sydd ag arnodiad ar y pecyn yn cael ei ddangos gan y swyddog cofrestru neu asiant y swyddog cofrestru i gydymffurfio â’r gorchymyn, mae’r arnodiad yn dystiolaeth prima facie mai’r papurau pleidleisio yw’r hyn y mae’r arnodiad yn dweud eu bod.
(4) Mae paragraff (5) yn gymwys pan fo swyddog cofrestru neu asiant swyddog cofrestru, er mwyn cydymffurfio â gorchymyn o dan reol 67, wedi dangos—
(a)papur pleidleisio sy’n honni ei fod wedi ei ddefnyddio mewn etholiad, a
(b)rhestr rhifau cyfatebol a gwblhawyd a oedd yn cael ei defnyddio yn yr etholiad, gyda rhif wedi ei farcio mewn ysgrifen wrth ochr rhif y papur pleidleisio hwnnw ar y rhestr.
(5) Mae dangos y papur pleidleisio a’r rhestr yn dystiolaeth prima facie mai’r etholwr y rhoddwyd ei bleidlais gan y papur pleidleisio hwnnw oedd y person yr oedd ei gofnod adeg yr etholiad yn y gofrestr etholwyr, neu ar hysbysiad a ddyroddwyd o dan adran 13B(3B) neu (3D) o Ddeddf 1983, yn cynnwys yr un rhif â’r rhif a ysgrifennwyd ar y papur pleidleisio.
Gwybodaeth Cychwyn
I143Atod. 2 para. 68 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1
69.—(1) Rhaid i’r swyddog cofrestru gadw’r holl ddogfennau a anfonwyd o dan reol 66 am gyfnod o flwyddyn sy’n dechrau â’r diwrnod y daethant i law’r swyddog cofrestru.
(2) Ar ddiwedd y cyfnod hwnnw o flwyddyn, rhaid i’r swyddog cofrestru beri i’r dogfennau gael eu dinistrio oni chyfarwyddir fel arall gan orchymyn llys sirol, Llys y Goron, llys ynadon neu lys etholiad.
Gwybodaeth Cychwyn
I144Atod. 2 para. 69 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1
70.—(1) Rhaid i’r swyddog canlyniadau ddinistrio ffurflen cyfeiriad cartref pob ymgeisydd—
(a)drannoeth y 35ain diwrnod ar ôl i’r swyddog canlyniadau ddychwelyd enwau’r cynghorwyr a etholwyd, oni bai bod deiseb etholiad sy’n amau etholiad neu ddychweliad ymgeiswyr yn cael ei chyflwyno cyn y diwrnod hwnnw;
(b)os cyflwynir deiseb etholiad sy’n amau etholiad neu ddychweliad cynghorwyr cyn y diwrnod hwnnw, cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl i’r achos ynglŷn â’r ddeiseb ddod i ben (gan gynnwys achos yr apêl, pan geir apêl).
(2) Er mwyn penderfynu ar y diwrnod y mae’n rhaid dinistrio ffurflenni cyfeiriad cartref ymgeiswyr, rhaid diystyru unrhyw ddiwrnod sy’n ddiwrnod eithriedig.
Gwybodaeth Cychwyn
I145Atod. 2 para. 70 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1
71.—(1) Mae’r rheol hon yn gymwys pan fo’r swyddog canlyniadau, mewn etholiad lle ceir gornest, wedi ei fodloni cyn i ganlyniad yr etholiad gael ei ddatgan fod un o’r personau a enwyd neu sydd i’w enwi yn ymgeisydd yn y papurau pleidleisio wedi marw.
(2) Rhaid i’r swyddog canlyniadau ddiddymu hysbysiad y bleidlais neu, os yw’r pleidleisio wedi dechrau, rhaid i’r swyddog canlyniadau gyfarwyddo rhoi’r gorau i’r bleidlais ac ni chaniateir dyroddi rhagor o bapurau pleidleisio.
(3) Nid yw diddymu’r bleidlais neu gyfarwyddyd i roi’r gorau iddi yn effeithio ar y bleidlais mewn unrhyw etholiad perthnasol.
(4) Pan fo’r bleidlais wedi ei chau ym mhob etholiad perthnasol, rhaid i’r swyddog llywyddu mewn unrhyw orsaf bleidleisio sy’n cael ei defnyddio yn yr etholiad gymryd y camau (i’r graddau nad ydynt eisoes wedi eu cymryd) y byddai’n ofynnol i’r swyddog llywyddu eu cymryd o dan reol 51 pe na buasid wedi rhoi’r gorau i’r bleidlais yn etholiad y gymuned, ac eithrio nad oes angen i’r swyddog llywyddu baratoi cyfriflen papurau pleidleisio.
(5) Pan y swyddog canlyniadau cydlynol yw’r swyddog canlyniadau, rhaid i’r swyddog canlyniadau gymryd y camau (i’r graddau nad ydynt eisoes wedi eu cymryd) y byddai’n ofynnol i’r swyddog canlyniadau eu cymryd o dan Ran 4, ac eithrio—
(a)na chaniateir i’r swyddog canlyniadau fwrw ymlaen â chyfrif unrhyw bapurau pleidleisio na phleidleisiau sy’n ymwneud â’r bleidlais y rhoddwyd y gorau iddi, a
(b)nad oes angen dilysu unrhyw gyfriflen papurau pleidleisio sy’n ymwneud â’r bleidlais honno.
(6) Pan nad y swyddog canlyniadau cydlynol yw’r swyddog canlyniadau, rhaid i’r swyddog canlyniadau—
(a)derbyn unrhyw bapurau pleidleisio neu ddogfennau eraill sy’n ymwneud â’r bleidlais y rhoddwyd y gorau iddi y caniateir eu danfon gan neu ar ran y swyddog canlyniadau cydlynol, ond
(b)peidio â bwrw ymlaen fel arall ag unrhyw gam o dan Ran 4 sy’n ymwneud â’r bleidlais y rhoddwyd y gorau iddi.
(7) Rhaid i’r swyddog canlyniadau gymryd yr un camau ag y byddai’n ofynnol i’r swyddog canlyniadau eu cymryd o dan reolau 65 a 66 ar ôl cwblhau cyfrif y pleidleisiau (pe na buasid wedi rhoi’r gorau i’r bleidlais), ac eithrio—
(a)bod rhaid i’r swyddog canlyniadau selio’r holl bapurau pleidleisio (p’un a yw’r pleidleisiau arnynt wedi eu cyfrif ai peidio), a
(b)nad oes angen selio papurau pleidleisio a gyfrifwyd ac a wrthodwyd mewn pecynnau ar wahân.
(8) Mae darpariaethau rheolau 67 i 69 yn gymwys i bapurau pleidleisio a dogfennau eraill sy’n ymwneud â phleidlais y rhoddwyd y gorau iddi oherwydd marwolaeth ymgeisydd, ac eithrio—
(a)bod papurau pleidleisio na chafodd y pleidleisiau arnynt eu cyfrif na’u gwrthod i’w trin fel papurau pleidleisio a gyfrifwyd, a
(b)y caniateir i orchymyn gael ei wneud o dan reol 67(2) neu (3) er mwyn cychwyn neu gynnal erlyniad am drosedd mewn perthynas â phapurau pleidleisio yn unig.
(9) O ran yr hyn sy’n digwydd ar ôl i hysbysiad o bleidlais gael ei ddiddymu neu ar ôl rhoi’r gorau i bleidlais, gweler adran 39 o Ddeddf 1983.
Gwybodaeth Cychwyn
I146Atod. 2 para. 71 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1
Gwybodaeth Cychwyn
I147Atod. 2 Rhn. ATODIADAU mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1
Rheol 7
Gwybodaeth Cychwyn
I148Atod. 3 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheolau)
Mae’r Rheolau hyn, Rheolau Etholiadau Lleol (Cymunedau) (Cymru) 2021, yn nodi’r rheolau (y cyfeirir atynt yn y nodiadau fel “y Rheolau Cynnal Etholiad”) ar gyfer cynnal etholiadau cynghorwyr i gynghorau cymuned a thref (“cynghorau cymuned”) yng Nghymru.
Mae’r Rheolau hyn yn disodli, mewn perthynas â Chymru, Reolau Etholiadau Lleol (Cymunedau a Phlwyfi) (Cymru a Lloegr) 2006 (“Rheolau 2006”) a oedd yn gymwys i etholiadau cynghorau cymuned a chynghorau plwyf yng Nghymru a Lloegr.
Bydd y Rheolau hyn yn gymwys i etholiadau i gynghorau cymuned yng Nghymru a gynhelir ar 5 Mai 2022 ac ar ôl hynny.
Y Rheolau hyn yw’r rhai cyntaf i gael eu gwneud gan Weinidogion Cymru ar gyfer cynnal etholiadau cynghorau cymuned yng Nghymru. Gan hynny, dyma’r rheolau cyntaf o’u math i fod yn gymwys i Gymru yn unig a nhw yw’r cyntaf i gael eu gwneud yn ddwyieithog, yn Gymraeg ac yn Saesneg, ar gyfer etholiadau cynghorau cymuned.
Wrth wneud y Rheolau hyn, mae Gweinidogion Cymru wedi diweddaru’r iaith drwyddi draw ac wedi ad-drefnu rheolau penodol i wella eglurder a hygyrchedd.
Rheolau 1 i 7
Mae rheolau 1 a 2 yn nodi enw a dyddiad cychwyn y Rheolau ac yn gwneud darpariaeth drosiannol fel y bydd unrhyw etholiadau i gynghorau cymuned yng Nghymru a gynhelir ar ôl i’r Rheolau hyn ddod i rym, ond cyn 5 Mai 2022, yn cael eu cynnal yn unol â Rheolau 2006.
Mae rheol 3 yn darparu diffiniadau o dermau penodol a ddefnyddir yn y Rheolau hyn, gan gynnwys “diwrnod eithriedig” ac “etholiad perthnasol”.
Mae rheol 4 yn cyflwyno Atodlen 1 (sy’n nodi’r rheolau ar gyfer cynnal etholiad cyngor cymuned pan nad yw’r bleidlais yn cael ei chynnal gyda phleidlais mewn etholiad arall) ac Atodlen 2 (sy’n nodi’r rheolau ar gyfer cynnal etholiad cyngor cymuned pan fo’r bleidlais yn cael ei chyfuno â’r bleidlais mewn un neu ragor o etholiadau perthnasol).
Mae rheol 4 hefyd yn darparu, pan fo rheol yn yr Atodlenni hynny yn ei gwneud yn ofynnol i’r swyddog canlyniadau gyhoeddi dogfen, yna (oni bai bod y rheol yn darparu fel arall) y dylid cyhoeddi’r ddogfen ar-lein ac mewn unrhyw ffyrdd eraill y mae’r swyddog canlyniadau o’r farn eu bod yn briodol er mwyn tynnu sylw’r cyhoedd at gynnwys y ddogfen.
Mae rheol 5 yn nodi’r rheolau ar gyfer llenwi swydd sydd wedi digwydd dod yn wag i gynghorydd cymuned.
Mae rheol 6 yn nodi addasiadau penodol i Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 (“Deddf 1983”) sy’n gymwys wrth ethol cynghorwyr cymuned.
Mae rheol 7 yn cyflwyno Atodlen 3 sy’n darparu ffurf ar gyfer y datganiad ynghylch treuliau etholiad mewn etholiad i gynghorwyr o’r fath.
Y Rheolau Cynnal Etholiad (Atodlenni 1 a 2)
Oni nodir yn wahanol, mae’r nodiadau esboniadol yn gyffredin i’r darpariaethau yn Atodlenni 1 a 2.
Rhannau 1 a 2
Mae Rhan 1 yn nodi’r dyddiadau cau ar gyfer cwblhau neu gyflawni gweithredoedd allweddol penodedig mewn etholiad. Mae diwrnodau eithriedig, fel y’u diffinnir yn rheol 3(1) o’r Rheolau hyn, i’w hanwybyddu wrth gyfrifo’r cyfnodau a nodir yn yr amserlen.
Mae Rhan 2 yn nodi’r trefniadau y mae’n rhaid i’r swyddog canlyniadau eu gwneud i roi hysbysiad o’r etholiad ac ynglŷn â sicrhau ffurflenni enwebu a’u cyflwyno. Yn benodol, mae’n nodi’r gofynion ynglŷn â hysbysiad yr etholiad, cynnwys ffurflenni enwebu a phenderfynu a yw nifer yr unigolion a enwebwyd mewn modd dilys yn ddigonol i fwrw ymlaen a chynnal pleidlais.
Rhaid i hysbysiad yr etholiad gynnwys manylion penodol am yr etholiad fel y’u nodir yn rheol 3. Er enghraifft, mae rheol 3(4) a (5) yn ei gwneud yn ofynnol i swyddogion canlyniadau gynnwys datganiad danfon electronig yn yr hysbysiad gan ddarparu y caniateir i bapurau enwebu gael eu danfon drwy eu hanfon yn electronig i gyfeiriad ebost, drwy eu cyflwyno ar-lein neu drwy’r naill neu’r llall o’r dulliau hyn (yn unol â’r trefniadau a nodir yn y datganiad).
Mae rheol 5 yn darparu ar gyfer hunan-enwebu; rhaid i ymgeiswyr enwebu eu hunain drwy gwblhau a llofnodi’r papur enwebu ym mhresenoldeb tyst. Nid oes angen i’r ymgeisydd ddefnyddio papur enwebu a gyflenwyd gan y swyddog canlyniadau neu a sicrhawyd ar-lein, ond mae’n rhaid iddo ddarparu’r holl wybodaeth fel y’i nodir yn y papur enwebu hwnnw.
Mae rheol 5(3)(a) yn ei gwneud yn ofynnol bod enwau llawn yr ymgeisydd yn cael eu datgan yn y papur enwebu. Caiff yr ymgeisydd hefyd roi ei enwau a ddefnyddir yn gyffredin (gan gynnwys pan fo’r enwau hynny yn gwahaniaethu o’i enwau llawn oherwydd eu bod mewn trefn wahanol yn unig, yn cynnwys rhai o’r enwau hynny yn unig neu’n cynnwys enwau ychwanegol).
Mae rheol 5(3)(b) yn caniatáu i ymgeisydd gynnwys disgrifiad yn ei bapur enwebu, a fydd, yn ddarostyngedig i gyfyngiadau penodol, yn cael ei gynnwys yn y papur pleidleisio gyferbyn â’i enw. Mae’r rheolau a ganlyn yn gymwys i ddisgrifiadau:
Rheol 6 – sy’n nodi’r gofynion cyffredinol ynghylch defnyddio disgrifiad;
Rheol 7 – sy’n caniatáu i ymgeisydd ychwanegu’r geiriau “Wales”, “Welsh”, “Cymru” neu “Cymreig” at enw plaid gofrestredig neu ddisgrifiad cofrestredig, pan nad yw’r enw neu’r disgrifiad dan sylw eisoes yn cynnwys disgrifydd tiriogaethol. Caniateir i ymgeisydd ddefnyddio’r gair “Wales” neu “Welsh” o flaen yr enw cofrestredig neu’r disgrifiad cofrestredig a ganiateir neu caiff ddefnyddio’r gair “Cymru” neu “Cymreig” ar ôl yr enw cofrestredig neu’r disgrifiad cofrestredig a ganiateir. Rhaid i ymgeisydd beidio â defnyddio’r disgrifyddion tiriogaethol a ganiateir o dan reol 7 os yw un o’r geiriau eisoes yn rhan o’r enw cofrestredig neu’r disgrifiad cofrestredig neu os yw’r ymgeisydd yn defnyddio’r gair “Independent” neu “Annibynnol” neu’r ddau air hynny fel ei ddisgrifiad.
Mae rheol 5(3)(c) yn ei gwneud yn ofynnol i ymgeisydd gynnwys, yn ei bapur enwebu, ddatganiad o aelodaeth plaid.
Mae rheol 8 yn nodi’r gofynion ynglŷn â’r datganiad o aelodaeth plaid. Rhaid i’r ymgeisydd ddatgan ar ei bapur enwebu a yw’n aelod, neu a yw wedi bod yn aelod, o unrhyw blaid wleidyddol gofrestredig yn ystod y 12 mis diwethaf (“y cyfnod perthnasol”), ond nad yw’n blaid y maent yn ceisio sefyll ar ei rhan yn yr etholiad dan sylw. Y “cyfnod perthnasol” yw’r cyfnod o 12 mis sy’n dod i ben gyda’r diwrnod y cyhoeddwyd hysbysiad yr etholiad. Os bydd ymgeisydd yn methu’n fwriadol â darparu’r wybodaeth hon bydd yn euog o arfer lwgr.
Mae rheol 5(3)(d) yn ei gwneud yn ofynnol i ymgeisydd gynnwys y datganiadau perthnasol a nodir ar y ffurf yn Atodiad 1, wedi eu llofnodi gan yr ymgeisydd.
Mae rheol 5(6) yn ei gwneud yn ofynnol i ymgeisydd gynnwys gyda’i bapur enwebu ffurflen cyfeiriad cartref ar wahân fel y’i nodir yn rheol 9. Nodir y gofynion o ran darparu cyfeiriad sy’n sefydlu cymhwyster yr ymgeisydd i sefyll i’w ethol yn yr ardal dan sylw yn y tabl yn rheol 9(3).
Mae rheol 9(6) yn caniatáu i ymgeisydd ddatgan nad yw am i’w gyfeiriad cartref gael ei gyhoeddi. Os bydd ymgeisydd yn gwneud datganiad o’r fath, rhaid i’r ffurflen cyfeiriad cartref ddatgan: os yw cyfeiriad cartref yr ymgeisydd yn y Deyrnas Unedig, yr “ardal berthnasol”, a ddiffinnir yn rheol 9(8); neu os yw’r cyfeiriad cartref y tu allan i’r Deyrnas Unedig, y wlad y mae wedi ei lleoli ynddi.
Mae’r swyddog canlyniadau yn gyfrifol am sicrhau, pan fo ymgeisydd wedi nodi nad yw’r cyfeiriad cartref i’w gyhoeddi, fod dymuniadau’r ymgeisydd yn cael eu rhoi ar waith.
Mae rheol 13 yn ei gwneud yn ofynnol i’r swyddog canlyniadau gyhoeddi’r datganiad o’r personau a enwebwyd. Wrth wneud hynny, rhaid i’r swyddog canlyniadau gynnwys:
enwau a disgrifiadau’r personau sy’n dal wedi eu henwebu;
yr wybodaeth am gyfeiriad cartref pob ymgeisydd (yn y modd y gofynnir amdano gan yr ymgeisydd – gweler rheol 9); a’r
wybodaeth a gynhwysir yn y datganiadau o aelodaeth plaid wleidyddol, fel y bo’n briodol (gweler rheol 8).
Rhaid i’r datganiad gynnwys hefyd unrhyw bersonau eraill sydd wedi eu henwebu ond nad ydynt yn dal wedi eu henwebu, ynghyd â’r rheswm dros hynny.
Mae rheol 19 yn caniatáu rhoi’r gorau i’r trafodion enwebu os torrir ar eu traws ar unrhyw ddiwrnod gan derfysg neu drais agored. Os y diwrnod olaf ar gyfer danfon papurau enwebu yw’r diwrnod y rhoddir y gorau i’r trafodion, rhaid i’r trafodion barhau drannoeth.
Rhan 3
Mae Rhan 3 o’r ddwy Atodlen yn nodi’r rheolau sy’n llywodraethu’r modd y cynhelir y bleidlais pan geir gornest mewn etholiad. Mae’r rheolau yn Rhan 3 yn ymdrin â ffurf a chynnwys papurau pleidleisio a dogfennau eraill i’w defnyddio yn y bleidlais (rheolau 22 i 24) ac maent yn galluogi swyddogion canlyniadau i ddefnyddio ystafelloedd ysgol ac ystafelloedd cyhoeddus eraill ar gyfer pleidleisio (rheol 26). Maent yn nodi’r camau y mae’n rhaid i’r swyddog canlyniadau eu cymryd cyn y bleidlais (rheolau 27 i 36), sy’n cynnwys rhoi hysbysiad o’r bleidlais, dyroddi papurau pleidleisio post a chardiau pleidleisio, darparu gorsafoedd pleidleisio ac offer a phenodi swyddogion llywyddu a chlercod. Maent hefyd yn nodi’r weithdrefn yn yr orsaf bleidleisio ar ddiwrnod y bleidlais (rheolau 37 i 51), gan gynnwys y cwestiynau y caniateir eu gofyn i bleidleiswyr a’r cymorth y caniateir ei roi i bleidleiswyr sydd ag anabledd neu nad ydynt yn gallu darllen.
Mae cynnwys y rheolau yn Rhan 3 o Atodlen 1 a’r rheolau yn Rhan 3 o Atodlen 2 yn weddol debyg. Ceir rhai mân wahaniaethau am fod y rheolau yn Rhan 3 o Atodlen 2 yn rheoleiddio’r modd y cynhelir y bleidlais pan gaiff ei chyfuno â’r bleidlais mewn etholiad perthnasol (fel y’i diffinnir yn rheol 3 o’r Rheolau hyn). Er enghraifft, yn Atodlen 2, mae rheol 22(4)(d) yn ei gwneud yn ofynnol i’r papur pleidleisio yn etholiad y gymuned fod mewn lliw gwahanol i’r papur pleidleisio a ddefnyddir mewn etholiad perthnasol. Nid oes gofyniad tebyg yn Atodlen 1 gan nad oes mo’i angen.
Mae rheolau penodol yn Rhan 3 o’r ddwy Atodlen yn cyfeirio at ddeddfwriaeth arall. Lle byddai rhywfaint o esboniad ar y ddeddfwriaeth arall honno o gymorth, fe’i rhoddir isod.
Mae rheol 28(1) o’r ddwy Atodlen (sy’n ymwneud â dyroddi papurau pleidleisio post etc.) a rheol 36(1) a (2) o’r ddwy Atodlen (sy’n ymwneud â marcio rhestrau o bleidleiswyr post) yn cyfeirio at reoliadau o dan Ddeddf 1983. Adeg gwneud y Rheolau hyn, Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001 (O.S. 2001/341) sy’n gwneud darpariaeth ar gyfer dyroddi papurau pleidleisio post, datganiadau pleidleisio post ac amlenni ar gyfer eu dychwelyd a marcio rhestrau o bleidleiswyr post.
Mae rheol 32(3) o Atodlen 1 a rheol 32(5) o Atodlen 2 yn darparu i’r swyddog canlyniadau ddarparu i bob gorsaf bleidleisio gopïau (ymhlith pethau eraill) o hysbysiadau perthnasol a ddyroddir o dan adran 13B(3B) neu (3D) o Ddeddf 1983. Mae’r rhain yn hysbysiadau sy’n ategu’r copïau o’r rhannau perthnasol o’r gofrestr sydd hefyd yn cael eu cyflenwi i’r orsaf bleidleisio. rhMae hysbysiadau o dan adran 13B(3B) yn ymdrin â sefyllfaoedd lle cafwyd apêl yn erbyn penderfyniad swyddog cofrestru (er enghraifft, penderfyniad yn gwrthod cofrestru) a bod yr apêl yn llwyddiannus. Mae hysbysiadau o dan adran 13B(3D) yn ymdrin â sefyllfaoedd lle cafwyd sylwadau ynghylch gwall clerigol yn y gofrestr (er enghraifft, o ran enw neu gyfeiriad person) a bod y swyddog cofrestru yn cytuno bod yna wall.
Mae rheol 35(1) o’r ddwy Atodlen yn ei gwneud yn ofynnol i’r swyddog canlyniadau roi i bawb sy’n bresennol yn yr orsaf bleidleisio, heblaw pleidleiswyr a’u cwmni, personau o dan 16 oed a chwnstabliaid ar ddyletswydd, hysbysiad sy’n nodi darpariaethau adran 66(1), (3) a (6) o Ddeddf 1983. Mae adran 66(1) yn ei gwneud yn ofynnol i swyddogion canlyniadau, clercod, ymgeiswyr, asiantau etholiadol, asiantau pleidleisio, cynrychiolwyr y Comisiwn Etholiadol a sylwedyddion achrededig sy’n bresennol mewn gorsaf bleidleisio gadw cyfrinachedd y bleidlais ac mae’n eu gwahardd rhag cyfleu gwybodaeth benodol i neb, er enghraifft, enwau pleidleiswyr neu’r marc swyddogol. Mae adran 66(3) yn gwahardd unrhyw un rhag ymddygiad penodol, er enghraifft, ymyrryd â phleidleisiwr wrth iddo bleidleisio. O dan adran 66(6), mae’n drosedd peidio â chydymffurfio â’r gofynion a’r gwaharddiadau a nodir yn yr adran.
Mae rheol 37 o’r ddwy Atodlen yn cynnwys ymhlith y rhai sydd â hawl i fod yn bresennol mewn gorsaf bleidleisio “personau sydd â hawl i fod yn bresennol yn rhinwedd unrhyw un neu ragor o adrannau 6A i 6D o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000” (gweler rheol 37(1)(g)). Y personau sydd â hawl i fod yn bresennol yn rhinwedd yr adrannau hyn yw cynrychiolwyr o’r Comisiwn Etholiadol a sylwedyddion achrededig (sydd naill ai’n unigolion y mae eu ceisiadau i arsylwi wedi eu caniatáu gan y Comisiwn Etholiadol neu gynrychiolwyr sefydliadau y mae’r Comisiwn Etholiadol wedi caniatáu eu ceisiadau i arsylwi).
Pan fo’r bleidlais mewn etholiad cymuned yn cael ei chyfuno â’r bleidlais mewn etholiad perthnasol, mae’r sefyllfa gyfreithiol yn cael ei llywodraethu’n rhannol gan y Rheolau hyn ac yn rhannol gan Reoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cyfuno Pleidleisiau) (Cymru a Lloegr) 2004 (O.S. 2004/294) (“Rheoliadau Cyfuno Pleidleisiau”). Mae rôl y swyddog canlyniadau yn etholiad y gymuned yn amrywio yn ôl a yw’r swyddog canlyniadau hwnnw hefyd yn “swyddog canlyniadau cydlynol”. Diffinnir hyn yn rheol 4(4) o’r Rheolau hyn fel y person sydd, o dan reoliad 4 o’r Rheoliadau Cyfuno Pleidleisiau, yn arfer swyddogaethau a bennir yn rheoliad 5 o’r Rheoliadau hynny.
Mae effaith hyn yn dibynnu ar y cyfuniad. Er enghraifft, pan gyfunir y bleidlais mewn etholiad cyffredinol prif ardal (sef cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol) â’r bleidlais mewn etholiad cymuned, y swyddog canlyniadau yn etholiad y brif ardal yw’r swyddog canlyniadau cydlynol ac sy’n arfer y swyddogaethau a bennir yn rheoliad 5 yn etholiad y gymuned (yn ogystal â swyddogaethau arferol y swyddog canlyniadau yn etholiad y brif ardal).
Un o ganlyniadau hyn yw, er mwyn deall y cyfrifoldebau dros arfer swyddogaethau o dan reolau penodol yn Rhan 3 o Atodlen 2, bod angen darllen y rheolau hynny a’r Rheoliadau Cyfuno Pleidleisiau ill dau. I helpu’r darllenydd, mae’r rheolau dan sylw yn cynnwys rhai arwyddbyst i’r Rheoliadau Cyfuno Pleidleisiau. Er enghraifft, mae rheol 29 o Atodlen 2 yn nodi swyddogaeth y swyddog canlyniadau o sicrhau nifer digonol o orsafoedd pleidleisio yn etholiad y gymuned. Os swyddog canlyniadau etholiad y gymuned yw’r swyddog canlyniadau cydlynol, mae’r swyddog canlyniadau yn yr etholiad hwnnw yn arfer y swyddogaeth hon yn y ffordd arferol (ac mae hefyd yn arfer y swyddogaeth gymaradwy yn yr etholiad arall yn unol â’r Rheoliadau Cyfuno Pleidleisiau).
Er hynny, fel yr esboniwyd, mae yna achosion pan na fydd y swyddog canlyniadau yn swyddog canlyniadau cydlynol, er enghraifft, pan fo’r etholiad arall yn etholiad cyffredinol prif ardal. Yn yr enghraifft honno, swyddog canlyniadau etholiad y brif ardal fydd y swyddog canlyniadau cydlynol ac o dan y Rheoliadau Cyfuno Pleidleisiau bydd yn arfer y swyddogaeth o sicrhau nifer digonol o orsafoedd pleidleisio yn etholiad y gymuned (yn ogystal ag yn etholiad y brif ardal). Gan hynny, mae rheol 29(4) yn cynnwys arwyddbost at y Rheoliadau hynny gyda’r nod o helpu’r darllenydd.
Y swyddogaethau eraill yn Rhan 3 o Atodlen 2 sydd weithiau’n arferadwy o dan y Rheoliadau Cyfuno Pleidleisiau gan y swyddog canlyniadau mewn etholiad perthnasol yn hytrach na swyddog canlyniadau’r gymuned yw’r canlynol (ac mae’r rheolau perthnasol felly yn cynnwys arwyddbyst i helpu’r darllenydd):
paratoi’r rhestr rhifau cyfatebol o dan reol 23 neu, os nad yw’r trafodion ar ddyroddi a derbyn papurau pleidleisio post yn etholiad y gymuned a’r etholiad perthnasol yn cael eu cymryd gyda’i gilydd, paratoi Rhan 2 o’r rhestr;
cyhoeddi hysbysiad o leoliad gorsafoedd pleidleisio etc. o dan reol 27(3) i (5);
dyroddi papurau pleidleisio post o dan reol 28 pan fo trafodion dyroddi a derbyn papurau pleidleisio post yn etholiad y gymuned a’r etholiad perthnasol yn cael eu cymryd gyda’i gilydd;
darparu gorsafoedd pleidleisio o dan reol 29;
penodi swyddogion llywyddu a chlercod o dan reol 30;
darparu cyfarpar mewn gorsafoedd pleidleisio o dan reol 32;
hysbysu, o dan reol 35, gofynion adran 66(1), (3) a (6) o Ddeddf 1983;
marcio’r rhestrau o bleidleiswyr post a phleidleiswyr drwy’r post drwy ddirprwy o dan reol 36, pan fo trafodion dyroddi a derbyn papurau pleidleisio post yn etholiad y gymuned a’r etholiad perthnasol yn cael eu cymryd gyda’i gilydd;
llofnodi tystysgrifau o dan reol 37(5) sy’n ymwneud â dyletswyddau staff y swyddog canlyniadau;
awdurdodi unigolion o dan reol 38(3)(b) a gaiff symud y rhai sy’n camymddwyn o orsafoedd pleidleisio.
Rhan 4
Mae Rhan 4 o’r ddwy Atodlen (rheolau 52 i 60 yn Atodlen 1 a rheolau 52 i 64 yn Atodlen 2) yn nodi’r rheolau sy’n llywodraethu’r broses o gyfrif pleidleisiau a datgan y canlyniad mewn etholiadau lle ceir gornest, gan gynnwys rheolau ynghylch pwy gaiff fod yn bresennol, y trefniadau ymarferol yn y cyfrif, y camau rhagarweiniol y mae’n rhaid eu cymryd, y dull cyfrif, gwrthod papurau pleidleisio, ailgyfrifiadau a’r camau y mae’n rhaid eu cymryd pan ddatgenir y canlyniad.
Mae cynnwys y rheolau yn Rhan 4 o Atodlen 1 a’r rheolau yn Rhan 4 o Atodlen 2 yn weddol debyg. Mae pleidleisiau yn etholiad y gymuned yn cael eu cyfrif yn yr un ffordd p’un a yw’r bleidlais yn yr etholiad wedi ei chyfuno â’r bleidlais mewn etholiad perthnasol ai peidio. Er hynny, ceir rhai gwahaniaethau yng nghynnwys y rheolau. Y rheswm am hyn yw bod angen i’r rheolau yn Rhan 4 o Atodlen 2, sy’n gymwys pan fo’r bleidlais yn etholiad y gymuned wedi ei chyfuno â’r bleidlais mewn etholiad perthnasol, wahaniaethu rhwng y sefyllfa lle mae swyddog canlyniadau etholiad y gymuned yn swyddog canlyniadau cydlynol a’r sefyllfa lle swyddog canlyniadau arall yw’r swyddog canlyniadau cydlynol. Yn benodol, pan fo swyddog canlyniadau etholiad y gymuned yn swyddog canlyniadau cydlynol, mae’r swyddog canlyniadau yn gwahanu’r papurau pleidleisio a ddefnyddiwyd yn y bleidlais a gyfunwyd fesul etholiad (rheol 55).
Pan nad swyddog canlyniadau etholiad y gymuned yw’r swyddog canlyniadau cydlynol, mae’r swyddog canlyniadau yn cael papurau pleidleisio etholiad y gymuned oddi wrth y swyddog canlyniadau cydlynol ar ôl iddynt gael eu gwahanu oddi wrth y papurau pleidleisio eraill (rheol 57). Er mwyn helpu gyda dealltwriaeth, mae rheol 52 yn rhoi trosolwg, sy’n nodi pa reolau sy’n gymwys pan fo swyddog canlyniadau’r gymuned yn swyddog cydlynol a pha reolau sy’n gymwys pan nad swyddog canlyniadau’r gymuned yw’r swyddog cydlynol.
Mae rheolau penodol yn Rhan 4 yn cyfeirio at ddeddfwriaeth arall. Lle byddai esboniad ar y ddeddfwriaeth arall honno o gymorth, fe’i rhoddir isod.
Mae rheol 53 o’r ddwy Atodlen yn cynnwys ymhlith y rhai sydd â hawl i fod yn bresennol mewn gorsaf bleidleisio “personau sydd â hawl i fod yn bresennol yn rhinwedd unrhyw un neu ragor o adrannau 6A i 6D o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000” (gweler rheol 53(1)(e)). Fel yr esboniwyd uchod, y personau sydd â hawl i fod yn bresennol yn rhinwedd yr adrannau hyn yw cynrychiolwyr y Comisiwn Etholiadol a sylwedyddion achrededig.
Mae rheol 53(7) o Atodlen 1 a rheol 53(8) o Atodlen 2 yn ei gwneud yn ofynnol i’r swyddog canlyniadau wneud trefniadau i bawb sy’n bresennol wrth i’r pleidleisiau gael eu cyfrif heblaw cwnstabliaid ar ddyletswydd gael hysbysiad sy’n nodi darpariaethau adran 66(2) a (6) o Ddeddf 1983. Mae adran 66(2) yn ei gwneud yn ofynnol i bawb sy’n bresennol wrth i’r pleidleisiau gael eu cyfrif gadw cyfrinachedd y bleidlais ac mae’n eu gwahardd rhag canfod neu geisio canfod y rhif neu’r marc adnabod unigryw arall ar gefn y papur pleidleisio neu gyfathrebu â neb am yr ymgeisydd y rhoddwyd pleidlais benodol iddo. O dan adran 66(6), mae’n drosedd peidio â chydymffurfio â’r gofynion a’r gwaharddiadau a nodir yn yr adran.
Mae rheol 54(9)(c) o Atodlen 1 a rheol 58(3)(c) o Atodlen 2 yn cyfeirio at achosion pan fo camau i wirio dyddiad geni a llofnod etholwr neu ddirprwy sy’n pleidleisio drwy’r post wedi eu rhagnodi gan reoliadau o dan Ddeddf 1983. Adeg gwneud y Rheolau hyn, Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001 sy’n gwneud darpariaeth ar gyfer dilysu.
Rhan 5
Mae Rhan 5 o’r ddwy Atodlen (rheolau 61 i 66 o Atodlen 1 a rheolau 65 i 70 o Atodlen 2) yn nodi’r rheolau sy’n llywodraethu’r hyn sy’n digwydd i bapurau pleidleisio a dogfennau eraill a ddefnyddir mewn etholiadau, gan gynnwys rheolau ynghylch danfon dogfennau i swyddogion cofrestru, pwerau llysoedd i wneud gorchmynion sy’n ymwneud â’r dogfennau a phryd y mae’n rhaid eu dinistrio.
Mae cynnwys y rheolau yn Rhan 5 o Atodlen 1 a’r rheolau yn Rhan 5 o Atodlen 2 yn weddol debyg. Ceir mân wahaniaethau am fod angen i’r rheolau yn Atodlen 2 (sy’n gymwys pan fo’r bleidlais yn etholiad y gymuned wedi ei chyfuno â’r bleidlais mewn etholiad perthnasol) wahaniaethu rhwng y sefyllfa lle mae swyddog canlyniadau etholiad y gymuned yn swyddog canlyniadau cydlynol a’r sefyllfa lle swyddog canlyniadau arall yw’r swyddog canlyniadau cydlynol. Yn benodol, pan fo’r swyddog canlyniadau yn swyddog canlyniadau cydlynol, mae’r swyddog canlyniadau yn gyfrifol am ddanfon ystod ehangach o ddogfennau i’r swyddog cofrestru (rheol 66 o Atodlen 2).
Rhan 6
Mae Rhan 6 yn nodi’r rheolau sy’n llywodraethu’r hyn sy’n digwydd pan fydd ymgeisydd yn marw. Mae’r rheolau’n sicrhau bod trafodion yr etholiad yn dod i ben a hefyd yn ymdrin â materion gweinyddol canlyniadol (er enghraifft, i sicrhau bod dogfennau a ddefnyddir yn yr etholiad yn cael eu hanfon at y swyddog cofrestru). Fel y nodir gan y ddarpariaeth arwyddbostio yn rheol 67(6) o Atodlen 1 a rheol 71(9) o Atodlen 2, mae adran 39 o Ddeddf 1983 yn ymdrin yn fwy cyffredinol â’r hyn sy’n digwydd pan fo ymgeisydd yn marw a phan fo’r bleidlais, o ganlyniad, yn cael ei diddymu neu pan roddir y gorau iddi. Mae’n ei gwneud yn ofynnol i’r swyddog canlyniadau orchymyn cynnal etholiad newydd ond mae hefyd yn darparu nad yw enwebiadau newydd yn ofynnol yn achos ymgeiswyr sy’n dal wedi eu henwebu’n ddilys yn yr etholiad hwnnw.
Asesiad Effaith Rheoleiddiol
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheolau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheolau hyn. Gellir cael copi oddi wrth yr Is-Adran Democratiaeth Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ ac ar wefan Llywodraeth Cymru ar www.llyw.cymru.
1972 p. 70. Diwygiwyd adran 89(6) gan baragraff 1(6) o Atodlen 2 i Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (dsc 1).
1983 p. 2. Mewnosodwyd adran 36A gan adran 13(3) o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021. Diwygiwyd adran 187(1) gan baragraff 64 o Atodlen 4 i Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1985 (p. 50), paragraff 124 o Atodlen 1 i Ddeddf Gweinyddu Etholiadol 2006 (p. 22) a chan baragraff 2(16) o Atodlen 2 i Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021.
O.S. 2004/294 fel y’i diwygiwyd gan baragraff 17 o Atodlen 2 i Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 a chan O.S. 2006/3278, O.S. 2012/1917, O.S. 2014/920 ac O.S. 2015/654.
O.S. 2007/1024; yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 2010/1172, O.S. 2011/926, O.S. 2012/1917, O.S. 2014/1370 ac O.S. 2018/1310.
2011 p. 13. Diwygiwyd Pennod 6 o Ran 1 gan Ddeddf Troseddu a’r Llysoedd 2013 (p. 22) (Atodlen 8, paragraff 184), gan Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013 (dccc 4) (Atodlen 1, paragraff 5), gan Ddeddf Plismona a Throsedd 2017 (p. 3) (adran 122(1), Atodlen 2, paragraff 117 ac Atodlen 9, paragraff 73) a chan Ddeddf Cymru 2017 (p. 4) (adran 8). Fe’i diwygiwyd hefyd gan O.S. 2014/268, O.S. 2015/1376, O.S. 2015/1526, O.S. 2016/997, O.S. 2017/470 ac O.S. 2018/1310.
Diwygiwyd adran 202(1) gan Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1985 (Atodlen 2, paragraff 3), gan Ddeddf Awdurdod Llundain Fwyaf 1999 (p. 29) (Atodlen 3, paragraff 38), gan Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 2000 (p. 2) (Atodlen 6, paragraff 9), gan Ddeddf Gweinyddu Etholiadol 2006 (Atodlen 1, paragraffau 13, 76 ac 128) a chan Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (Atodlen 2, paragraff 2(17)). Diwygiwyd adran 203(1) gan Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1985 (Atodlen 4, paragraff 71) a chan Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (Atodlen 2, paragraff 2(18)). Mae diwygiadau eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol i’r Rheolau hyn.
Diwygiwyd adran 136(2)(b) gan baragraff 48 o Atodlen 4 i Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1985 a chan baragraff 19(4) o Atodlen 18 i Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (p. 41).
2000 p. 41. Diwygiwyd adran 28 gan adran 48 o Ddeddf Gweinyddu Etholiadol 2006.
Mewnosodwyd adran 28A gan adran 49(1) o Ddeddf Gweinyddu Etholiadol 2006.
Gweler Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001 (O.S. 2001/341); yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 2002/871, O.S. 2006/752, O.S. 2006/2910 ac O.S. 2013/3198.
Diwygiwyd adran 202(1) er mwyn mewnosod diffiniad o “qualifying address” gan baragraff 22 o Atodlen 1 i Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 2000.
Rhoddwyd adrannau 13 i 13B o Ddeddf 1983 yn lle adran 13 o’r Ddeddf honno gan baragraff 6 o Atodlen 1 i Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 2000. Mewnosodwyd adran 13B(3B) a (3D) gan adran 11(4) o Ddeddf Gweinyddu Etholiadol 2006.
Diwygiwyd adran 66 o Ddeddf 1983 gan baragraffau 82 ac 86 o Atodlen 1 i Ddeddf Gweinyddu Etholiadol 2006 a pharagraff 3 o Atodlen 3 i Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1985; mae diwygiadau eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol i’r Rheolau hyn.
2002 p. 30. Diwygiwyd adran 38 gan adran 38 o Ddeddf Plismona a Throseddu 2017.
Mewnosodwyd adrannau 6A i 6D gan adran 29 o Ddeddf Gweinyddu Etholiadol 2006.
Diwygiwyd adran 39 gan adran 19 o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1985, paragraff 68 o Atodlen 16 i Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994 (p. 19) a pharagraff 2(7) o Atodlen 2 i Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021.
O.S. 2001/341. Diwygiwyd rheoliad 65 gan baragraff 16(4) o Atodlen 2 i Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021.
2000 p. 22. Diwygiwyd adran 44 gan baragraff 18(2) o Atodlen 21 i Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000. I’r graddau y maent yn arferadwy o fewn cymwysedd datganoledig, trosglwyddwyd swyddogaethau Gweinidog y Goron o dan adran 44 i Weinidogion Cymru gan erthygl 45 o Orchymyn Gweinidogion Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 2018 (O.S. 2018/644), ac Atodlen 1 iddo.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:
The data on this page is available in the alternative data formats listed: