Diwygio rheoliad 17
10. Yn rheoliad 17 (defnyddio a datgelu gwybodaeth)—
(a)ym mharagraff (2), ar ol is-baragraff (a)(ii) mewnosoder—
“(iii)pan fo person yn trefnu prawf o dan reoliad 6B neu’n cymryd prawf o dan reoliad 6C—
(aa)gwybodaeth a gynhyrchir pan fo’r person yn trefnu prawf, neu’n cymryd prawf;
(bb)gwybodaeth a gafwyd gan ddarparwr prawf cyhoeddus (o fewn yr ystyr a roddir gan reoliad 6B(2)(c)) o dan reoliad 6B(6);
(cc)canlyniad prawf;
(dd)gwybodaeth a gofnodwyd gan ddarparwr prawf cyhoeddus wrth weinyddu prawf a gymerwyd yn unol â rheoliad 6C (gan gynnwys cadarnhad bod y prawf wedi ei gymryd, manylion o ran pryd ac ymhle y’i cymerwyd, unrhyw resymau dros beidio â chymryd prawf a manylion unrhyw brawf sydd i’w gymryd yn ei le);
(iv)gwybodaeth a roddwyd i swyddog mewnfudo yn unol â rheoliad 6B(8);
(v)pan fo sampl a gymerwyd mewn cysylltiad â phrawf diwrnod 2 o dan reoliad 6C wedi ei dilyniannu, y ffeil BAM wedi ei didoli sy’n ymwneud â’r sampl honno sy’n cynnwys yr holl ddarlleniadau sy’n alinio i’r genom cyfeirio SARS-CoV-2 gyda’r darlleniadau heb eu halinio a dynol wedi eu hepgor;”;
(b)ym mharagraff (3), ar ôl is-baragraff (b) mewnosoder—
“(c)darparwr prawf cyhoeddus;
(d)swyddog mewnfudo.”