Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 3) 2021

Diwygio rheoliad 18

11.  Mae rheoliad 18 (hunanargyhuddo) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn—

(a)ym mharagraff (2), ar ôl “mewn” mewnosoder “unrhyw”;

(b)hepgorer “ac eithrio ar gyfer trosedd o dan y Rheoliadau hyn neu adran 5 o Ddeddf Anudon 1911 (datganiadau anwir a wneir ac eithrio ar lw)”;

(c)ar ôl paragraff (2) mewnosoder—

(2A) Nid yw paragraff (2) yn gymwys os yw’r achos ar gyfer—

(a)trosedd o dan y Rheoliadau hyn,

(b)trosedd o dan adran 5 o Ddeddf Anudon 1911(1) (datganiadau anwir a wneir ac eithrio ar lw),

(c)trosedd o dan adran 1 o Ddeddf Twyll 2006(2) (twyll), neu

(d)trosedd o dan adran 2 neu 3 o Ddeddf Twyll a Ffugio 1981(3) (trosedd o gopïo neu ddefnyddio offeryn ffug).

(1)

1911 p. 6. Diwygiwyd adran 5 gan adran 1(2) o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1948 (p. 58).