Search Legislation

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Atebolrwydd Gweithredwyr a Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd i Deithwyr) (Cymru) (Diwygio) 2021

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Offerynnau Statudol Cymru

2021 Rhif 171 (Cy. 39)

Iechyd Y Cyhoedd, Cymru

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Atebolrwydd Gweithredwyr a Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd i Deithwyr) (Cymru) (Diwygio) 2021

Gwnaed

am 2.55 p.m. ar 19 Chwefror 2021

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

am 5.30 p.m. ar 19 Chwefror 2021

Yn dod i rym

am 4.00 a.m. ar 20 Chwefror 2021

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 45B, 45F(2) a 45P(2) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984(1).

Enwi, dod i rym a dehongli

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Atebolrwydd Gweithredwyr a Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd i Deithwyr) (Cymru) (Diwygio) 2021.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym am 4.00 a.m. ar 20 Chwefror 2021.

(3Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “y Rheoliadau Atebolrwydd Gweithredwyr” (“the Operator Liability Regulations”) yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol, Profion cyn Ymadael ac Atebolrwydd Gweithredwyr) (Cymru) (Diwygio) 2021(2);

“ystyr “y Rheoliadau Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd” (“the Public Health Information Regulations”) yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd ar gyfer Personau sy’n Teithio i Gymru etc.) 2020(3).

Diwygio’r Rheoliadau Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd

2.—(1Mae’r Rheoliadau Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 3 (darparu gwybodaeth cyn archebu ac wrth gofrestru)—

(a)ym mharagraff (2)(a)(v), hepgorer “ac”;

(b)ym mharagraff (2)(a)(vi), yn lle “;” rhodder “, a”;

(c)ar ôl is-baragraff (2)(a)(vi) mewnosoder—

(vii)www.gov.uk/travel-quarantine-and-testing (y cyfeirir ati yn Rhan 1 o’r Atodlen);;

(d)ym mharagraff (2)(b)(v), hepgorer “ac”;

(e)ym mharagraff (2)(b)(vi), yn lle “;” rhodder “, a”;

(f)ar ôl paragraff (2)(b)(vi) mewnosoder—

(vii)www.gov.uk/travel-quarantine-and-testing (y cyfeirir ati yn Rhan 1 o’r Atodlen);;

(g)ym mharagraff (2)(c)(ii)(bb), hepgorer “ac”;

(h)yn lle paragraff (2)(c)(ii)(cc) rhodder—

(cc)y gofyniad i drefnu profion cyn cyrraedd Cymru yn unol â rheoliad 6B o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol, a

(dd)y gofyniad i ynysu;.

(3Yn rheoliad 3A (darparu gwybodaeth cyn i daith ymadael)—

(a)ym mharagraff (4)(a)(iv), hepgorer “ac”;

(b)ym mharagraff (4)(a)(v), yn lle “;” rhodder “, a”;

(c)ar ôl paragraff (4)(a)(v), mewnosoder—

(vi)yn hysbysu P am y gofyniad i drefnu profion cyn cyrraedd Cymru yn unol â rheoliad 6B o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol;;

(d)ym mharagraff (4)(b)(v), hepgorer “ac”;

(e)ym mharagraff (4)(b)(vi), yn lle “;” rhodder “, a”;

(f)ar ôl paragraff (4)(b)(vi) mewnosoder—

(vii)www.gov.uk/travel-quarantine-and-testing (y cyfeirir ati yn Rhan 1 o’r Atodlen);

(4Yn Rhan 1 o’r Atodlen (yr wybodaeth sydd i’w darparu at ddibenion rheoliadau 3(2)(a)(i), (3)(2)(b)(i), 3(2)(c)(i), 3A(4)(b)(i) a 3A(4)(c))—

(a)yn lle “3) All arrivals must self-isolate for 10 days unless exempt. Check the list of exempt countries immediately before travel and the list of work-related exemptions if travelling for work.” rhodder—

“3)

All arrivals must quarantine for 10 days unless exempt. If you have travelled through a red list country in the last 10 days, you must have a valid Managed Quarantine Facility booked prior to departure. For information please visit: www.gov.uk/travel-quarantine-and-testing. Check the list of exempt countries immediately before travel and the list of work-related exemptions if travelling for work.

4)

Everyone is required to take a coronavirus test on days 2 and 8 of their quarantine. You must have this booked prior to departure. For information please visit: https://gov.wales/coronavirus-covid-19-testing-people-travelling-wales.;

(b)yn lle “4) It” rhodder “5) It”;

(c)yn lle “5) If you self-isolate” rhodder “5) If you quarantine”.

(5Yn Rhan 2 o’r Atodlen (y datganiad sydd i’w ddarparu at ddibenion rheoliad 4)—

(a)ym mharagraff (a) (fersiwn Gymraeg), yn lle’r geiriau o “Cyn cael mynediad i’r Deyrnas Unedig” hyd “Ewch i gov.uk i gael rhagor o wybodaeth.” rhodder—

Cyn dod i’r DU, rhaid ichi lenwi ffurflen lleoli teithwyr ar lein, ni waeth o ble yr ydych yn cyrraedd. Rhaid ichi hefyd fynd i gwarantin am y 10 niwrnod cyntaf ar ôl ichi gyrraedd, oni bai eich bod mewn categori esempt. Mae hyn er mwyn eich gwarchod chi ac eraill. Mae hyn yn cynnwys archebu cwarantin mewn gwesty os ydych wedi teithio drwy wlad sydd ar y rhestr goch yn ystod y 10 niwrnod diwethaf, neu archebu profion cwarantin yn y cartref os ydych wedi teithio mewn unrhyw wlad arall.

Ewch i gov.uk/coronavirus i gael rhagor o wybodaeth.;

(b)ym mharagraff (b) (fersiwn Saesneg), yn lle’r geiriau o “Before entering the UK” hyd “Visit gov.uk for more information.” rhodder—

Before entering the UK, you must complete a passenger locator form online, regardless of where you are arriving from. You must also quarantine for the first 10 days after you arrive, unless you are in an exempt category. This is to protect yourself and others. This includes booking hotel quarantine if you have travelled through a red list country in the last 10 days, or booking home quarantine tests if you have travelled in any other country.

Visit gov.uk/coronavirus for more information.

Diwygio’r Rheoliadau Atebolrwydd Gweithredwyr

3.—(1Mae Rhan 3 o’r Rheoliadau Atebolrwydd Gweithredwyr (atebolrwydd gweithredwyr mewn cysylltiad â chyrraedd) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 4 (dehongli),

(a)yn y diffiniad o “person awdurdodedig”, yn lle “yw” rhodder “, ac eithrio yn rheoliad 5B, yw”;

(b)yn y lle priodol, mewnosoder “ystyr “hysbysu am drefniadau profion ar ôl cyrraedd” (“notification of post arrival testing arrangements”) yw hysbysu am y trefniadau a wnaed yn unol â rheoliad 6B o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol i deithiwr gymryd profion ar gyfer canfod y coronafeirws”;

(c)yn y diffiniad o “gweithredwr”, yn lle “yw” rhodder “, ac eithrio yn rheoliad 5B, yw”;

(d)yn lle’r diffiniad o “teithiwr perthnasol”, rhodder—

ystyr “teithiwr perthnasol” (“relevant passenger”) yw—

(a)

teithiwr sy’n methu, heb esgus rhesymol—

(i)

â dangos hysbysiad dilys o ganlyniad negyddol i brawf cymhwysol pan ofynnir iddo wneud hynny gan swyddog mewnfudo yn unol â rheoliad 6A(2) o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol, neu

(ii)

â darparu cyfeirnod prawf neu dystiolaeth arall bod profion ar gyfer canfod y coronafeirws wedi eu trefnu mewn cysylltiad â’r teithiwr i swyddog mewnfudo yn unol â rheoliad 6B(8) o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol, neu

(b)

teithiwr sy’n cyrraedd porthladd yng Nghymru yn groes i reoliad 12E(1) o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol;.

(3Ar ôl rheoliad 5 (gofyniad i sicrhau bod teithwyr yn meddu ar hysbysiad o ganlyniad prawf negyddol), mewnosoder—

Gofyniad i sicrhau bod teithwyr yn meddu ar hysbysiad o drefniadau profi ar ôl cyrraedd

5A.(1) Rhaid i weithredwr sicrhau bod teithiwr sy’n cyrraedd Cymru ar wasanaeth teithwyr rhyngwladol yn meddu ar hysbysiad o drefniadau profi ar ôl cyrraedd.

(2) Nid yw paragraff (1) yn gymwys mewn perthynas â theithiwr—

(a)y mae’r gweithredwr, neu berson sy’n gweithredu ar ran y gweithredwr, yn credu’n rhesymol nad yw’n ofynnol iddo gydymffurfio â’r gofyniad yn rheoliad 6B o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol (gofyniad i drefnu profion cyn cyrraedd Cymru) neu bod ganddo esgus rhesymol dros fethu â chydymffurfio â’r gofyniad hwnnw; neu

(b)sy’n blentyn, yn teithio heb unigolyn cyfrifol.

Gofyniad i sicrhau nad yw teithwyr penodol yn cyrraedd porthladdoedd yng Nghymru

5B.(1) Rhaid i weithredwr gymryd pob cam rhesymol i sicrhau nad yw teithiwr Atodlen 3A yn cyrraedd porthladd yng Nghymru ar wasanaeth trafnidiaeth perthnasol.

(2) Nid yw paragraff (1) yn gymwys—

(a)pan fo’n angenrheidiol i beilot sydd â rheolaeth o awyren lanio’r awyren sy’n darparu’r gwasanaeth trafnidiaeth yng Nghymru er mwyn sicrhau—

(i)diogelwch yr awyren, neu

(ii)diogelwch unrhyw berson sydd ar yr awyren;

(b)pan fo awyren yn ambiwlans awyr ac yn glanio yng Nghymru at ddibenion cludo person i gael triniaeth feddygol;

(c)pan fo’r peilot sydd â rheolaeth o awyren yn cael cyfarwyddyd gan berson awdurdodedig i lanio’r awyren yng Nghymru.

(3) Yn y rheoliad hwn—

ystyr “gwasanaeth trafnidiaeth” (“transport service”) yw—

(a)

gwasanaeth teithwyr rhyngwladol,

(b)

gwasanaeth (ac eithrio gwasanaeth teithwyr rhyngwladol)—

(i)

sy’n cludo teithwyr sy’n teithio i Gymru o’r tu allan i’r ardal deithio gyffredin (boed am daliad neu gydnabyddiaeth brisiadwy neu fel arall), a

(ii)

a ddarperir gan awyren (ac eithrio awyren breifat), neu

(c)

hediad —

(i)

sy’n cludo teithwyr sy’n teithio i Gymru o’r tu allan i’r ardal deithio gyffredin (boed am daliad neu gydnabyddiaeth brisiadwy neu fel arall), a

(ii)

a ddarperir gan awyren breifat;

ystyr “gwasanaeth trafnidiaeth perthnasol” (“relevant transport service”), mewn perthynas â gweithredwr, yw gwasanaeth trafnidiaeth a ddarperir gan y gweithredwr hwnnw neu ar ei ran;

mae i “gweithredwr”, mewn perthynas â gwasanaeth trafnidiaeth a ddarperir gan awyren, yr ystyr a roddir i “operator” yn erthygl 4 o Orchymyn Llywio Awyr 2016;

mae i “peilot sydd â rheolaeth” ac “awyren breifat” yr ystyron a roddir i “pilot in command” a “private aircraft” yng Ngorchymyn Llywio Awyr 2016 (gweler Atodlen 1 i’r Gorchymyn hwnnw);

ystyr “person awdurdodedig” (“authorised person”) yw—

(a)

cwnstabl,

(b)

yr Awdurdod Hedfan Sifil,

(c)

yr Ysgrifennydd Gwladol, neu

(d)

person a awdurdodwyd gan yr Awdurdod Hedfan Sifil neu’r Ysgrifennydd Gwladol o dan Orchymyn Llywio Awyr 2016(4);

ystyr “teithiwr Atodlen 3A” (“Schedule 3A passenger”) yw person sydd wedi bod mewn gwlad neu diriogaeth a restrir yn Atodlen 3A i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol ac nad yw’n berson y mae rheoliad 12E(2) a (3) o’r rheoliadau hynny yn gymwys iddo.

(4Yn rheoliad 6 (troseddau),—

(a)yn lle paragraff (1), rhodder—

(1) Mae gweithredwr sy’n methu â chydymffurfio â gofyniad yn—

(a)rheoliad 5(1),

(b)rheoliad 5A(1), neu

(c)rheoliad5B(1),

yn cyflawni trosedd.;

(b)ym mharagraff (3), yn lle “(1)” rhodder “(1)(a)”;

(c)ar ôl paragraff (3), mewnosoder—

(4) Mewn perthynas â throsedd ym mharagraff (1)(b), mae’n amddiffyniad i weithredwr ddangos na ellid yn rhesymol fod wedi disgwyl i’r gweithredwr, neu berson sy’n gweithredu ar ran y gweithredwr, wybod bod hysbysiad o drefniadau profi ar ôl cyrraedd a ddarparwyd mewn cysylltiad â theithiwr perthnasol yn ffug neu’n anghywir mewn unrhyw fodd.

(5) Mewn perthynas â throsedd ym mharagraff (1)(c), mae’n amddiffyniad i weithredwr ddangos na ellid yn rhesymol fod wedi disgwyl i’r gweithredwr, neu berson sy’n gweithredu ar ran y gweithredwr, wybod bod teithiwr perthnasol yn deithiwr Atodlen 3A.

(5Yn rheoliad 9 (pŵer i ddefnyddio ac i ddatgelu gwybodaeth), ym mharagraff (2)(a), yn lle “6A” rhodder “6A, 6B neu 12E(1)”.

(6Yn rheoliad 10 (adolygu), yn lle “reoliad 5” rhodder “reoliadau 5, 5A a 5B”.

Vaughan Gething

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

Am 2.55 p.m. ar 19 Chwefror 2021

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd ar gyfer Personau sy’n Teithio i Gymru etc.) 2020 (O.S. 2020/595 (Cy. 136)) (“y Rheoliadau Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd”) yn gosod gofynion ar weithredwyr gwasanaethau teithwyr rhyngwladol sy’n dod o’r tu allan i’r ardal deithio gyffredin i faes awyr, maes hofrenyddion neu borthladd môr yng Nghymru (“gweithredwyr”) i ddarparu gwybodaeth iechyd y cyhoedd benodol i deithwyr.

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio’r Rheoliadau Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd er mwyn diweddaru’r wybodaeth y mae’n ofynnol i weithredwyr ei darparu i deithwyr sy’n cyrraedd Cymru. Mae’r wybodaeth wedi ei diweddaru y mae’n ofynnol i weithredwyr ei darparu yn cynnwys gwybodaeth am y gofyniad o dan reoliad 6B o Reoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/574 (Cy. 132)) (“y Rheoliadau Teithio Rhyngwladol”), i drefnu profion ar ôl cyrraedd (rheoliad 2).

Mae’r Rheoliadau hyn hefyd yn diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol, Profion cyn Ymadael ac Atebolrwydd Gweithredwyr) (Cymru) (Diwygio) 2021 (O.S. 2021/48 (Cy. 11)) (“y Rheoliadau Atebolrwydd Gweithredwyr”) o ganlyniad i ddiwygiadau a wnaed i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol ar 15 Chwefror 2021.

Mae rheoliad 3 yn diwygio’r Rheoliadau Atebolrwydd Gweithredwyr er mwyn—

(a)ei gwneud yn ofynnol i weithredwyr sicrhau bod teithwyr sy’n cyrraedd Cymru o’r tu allan i’r ardal deithio gyffredin ar wasanaethau teithwyr rhyngwladol wedi gwneud trefniadau ar gyfer profion ar ôl cyrraedd yn unol â rheoliad 6B o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol;

(b)ei gwneud yn ofynnol i bersonau sy’n gweithredu gwasanaethau trafnidiaeth (sy’n cynnwys hediadau ar awyrennau preifat) ar gyfer teithwyr sy’n teithio i Gymru o’r tu allan i’r ardal deithio gyffredin gymryd camau rhesymol i sicrhau nad yw teithwyr sydd wedi bod mewn gwlad neu diriogaeth a restrir yn Atodlen 3A i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol (y cyfeirir atynt yn gyffredin fel y gwledydd ar y rhestr goch) yn cyrraedd porthladd yng Nghymru oni bai eu bod yn bersonau y mae rheoliad 12E(2) a (3) o’r Rheoliadau hynny yn gymwys iddynt (h.y. personau esempt);

(c)creu troseddau am dorri’r gofynion hynny; a

(d)gwneud diwygiadau canlyniadol.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ni luniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

(1)

1984 p. 22. Mewnosodwyd Rhan 2A gan adran 129 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2008 (p. 14). Mae’r swyddogaeth o wneud rheoliadau o dan Ran 2A wedi ei rhoi i “the appropriate Minister”. O dan adran 45T(6) o Ddeddf 1984 y Gweinidog priodol, o ran Cymru, yw Gweinidogion Cymru.

(4)

O.S. 2016/765; y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources