- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Chyfyngiadau) (Diwygio) (Cymru) 2021. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau.
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Cofnodir newidiadau ac effeithiau gan ein tîm golygyddol mewn rhestrau sydd i'w gweld yn yr adran 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth'. Os nad yw'r effeithiau hynny wedi'u cymhwyso eto i destun y ddeddfwriaeth gan y tîm golygyddol maent hefyd wedi'u rhestru ochr yn ochr â'r ddeddfwriaeth yn y darpariaethau yr effeithir arnynt. Defnyddiwch y ddolen 'mwy' i agor y newidiadau a'r effeithiau sy'n berthnasol i'r ddarpariaeth rydych yn edrych arni.
Offerynnau Statudol Cymru
Iechyd Y Cyhoedd, Cymru
Cymeradwywyd gan Senedd Cymru
Gwnaed
am 4.07 p.m. ar 8 Ionawr 2021
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
am 6.00 p.m. ar 8 Ionawr 2021
Yn dod i rym
am 4.00 a.m. ar 9 Ionawr 2021
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 45B, 45C(1) a (3), 45F(2) a 45P(2) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984(1), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud mewn ymateb i’r bygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd a berir gan fynychder a lledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol (SARS-CoV-2) yng Nghymru.
Mae Gweinidogion Cymru yn ystyried bod y cyfyngiadau a’r gofynion a osodir gan y Rheoliadau hyn yn gymesur â’r hyn y maent yn ceisio ei gyflawni, sef ymateb iechyd y cyhoedd i’r bygythiad hwnnw.
Yn unol ag adran 45R o’r Ddeddf honno, oherwydd brys, mae Gweinidogion Cymru o’r farn ei bod yn angenrheidiol gwneud yr offeryn hwn heb fod drafft wedi ei osod gerbron Senedd Cymru ac wedi ei gymeradwyo ganddi drwy benderfyniad.
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Chyfyngiadau) (Diwygio) (Cymru) 2021.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym am 4.00 a.m. ar 9 Ionawr 2021.
(3) Yn y Rheoliadau hyn—
(a)ystyr y “Rheoliadau Teithio Rhyngwladol” yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020(2);
(b)ystyr y “Rheoliadau Cyfyngiadau” yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020(3).
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 1 mewn grym ar 9.1.2021 am 4.00 a.m., gweler rhl. 1(2)
2. Yn Rhan 1 o Atodlen 3 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol (gwledydd a thiriogaethau esempt y tu allan i’r ardal deithio gyffredin), hepgorer y cofnodion a ganlyn—
“Dinas Jerwsalem”
“Gweriniaeth Botswana”
“Israel”
“Mauritius”
“Seychelles”.
Gwybodaeth Cychwyn
I2Rhl. 2 mewn grym ar 9.1.2021 am 4.00 a.m., gweler rhl. 1(2)
3.—(1) Mae paragraff (2) yn gymwys pan fo person (“P”)—
(a)yn cyrraedd Cymru am 4:00 a.m. ar 9 Ionawr 2021 neu wedi hynny, a
(b)wedi bod mewn gwlad neu diriogaeth a restrir yn rheoliad 2 ddiwethaf—
(i)o fewn y cyfnod o 10 niwrnod sy’n dod i ben â’r diwrnod y mae P yn cyrraedd Cymru, a
(ii)cyn 4.00 a.m. ar 9 Ionawr 2021.
(2) Mae P, yn rhinwedd y ffaith iddo fod mewn gwlad neu diriogaeth a restrir yn rheoliad 2, i’w drin at ddibenion rheoliadau 7(1) ac 8(1) o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol fel pe bai wedi cyrraedd Cymru o wlad neu diriogaeth nad yw’n esempt, neu fel pe bai wedi cyrraedd ar ôl bod mewn gwlad neu diriogaeth o’r fath.
Gwybodaeth Cychwyn
I3Rhl. 3 mewn grym ar 9.1.2021 am 4.00 a.m., gweler rhl. 1(2)
4. Hepgorer rheoliad 12C (rheolau arbennig sy’n berthnasol i bobl sy’n teithio o Dde Affrica) o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol.
Gwybodaeth Cychwyn
I4Rhl. 4 mewn grym ar 9.1.2021 am 4.00 a.m., gweler rhl. 1(2)
5. Pan fo rheoliad 12C o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol yn gymwys i berson, yn union cyn 4.00 a.m. ar 9 Ionawr 2021, mae’n parhau i fod yn gymwys i’r person hwnnw er gwaethaf ei ddirymu gan reoliad 4.
Gwybodaeth Cychwyn
I5Rhl. 5 mewn grym ar 9.1.2021 am 4.00 a.m., gweler rhl. 1(2)
6. Hepgorer Rhan 3B (teithio o Dde Affrica) o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol.
Gwybodaeth Cychwyn
I6Rhl. 6 mewn grym ar 9.1.2021 am 4.00 a.m., gweler rhl. 1(2)
7.—(1) Mae’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Ar ôl rheoliad 12 mewnosoder—
12E.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo gofyniad ynysu (o fewn yr ystyr a roddir gan reoliad 10(2)) yn cael ei osod ar berson (“P”) am fod P—
(a)wedi cyrraedd Cymru o wlad neu diriogaeth a restrir yn Atodlen 3A, neu
(b)wedi bod mewn gwlad neu diriogaeth a restrir yn Atodlen 3A o fewn y cyfnod o 10 niwrnod sy’n dod i ben â’r diwrnod y mae P yn cyrraedd Cymru.
(2) Mae rheoliadau 7(1) ac 8(1) i’w darllen mewn perthynas â P fel pe bai cyfeiriadau at “gwlad neu diriogaeth nad yw’n esempt” yn gyfeiriadau at “gwlad neu diriogaeth a restrir yn Atodlen 3A”.
(3) Mae’r gofyniad ynysu sydd wedi ei osod ar P yn rhinwedd rheoliad 7(1) neu 8(1) fel y’i haddesir gan baragraff (2), hefyd wedi ei osod ar bob aelod o aelwyd P.
(4) Er gwaethaf rheoliad 9(2), mae rheoliadau 7 ac 8 yn gymwys i P.
(5) Nid yw aelod o aelwyd P wedi ei esemptio rhag y gofyniad i ynysu yn rhinwedd rheoliad 9(2).
(6) Yn unol â hynny nid yw P nac unrhyw aelod o aelwyd P i’w drin fel person a ddisgrifir mewn unrhyw baragraff o Atodlen 2.
(7) At ddibenion rheoliad 10, mae aelod o aelwyd P i’w drin fel pe bai P oedd y person hwnnw.
(8) Mae rheoliad 10 yn gymwys i P (ac aelod o aelwyd P yn rhinwedd paragraff (7)) fel pe bai’r canlynol wedi ei roi yn lle paragraff (4) o’r rheoliad hwnnw—
“(4) Caiff P adael y fangre a bod y tu allan iddi—
(a)cyhyd ag y bo’n angenrheidiol—
(i)i geisio cynhorthwy meddygol, pan fo angen hynny ar frys neu yn unol â chyngor ymarferydd meddygol cofrestredig;
(ii)i osgoi salwch difrifol, anaf difrifol neu risg arall o niwed difrifol;
(iii)i gyflawni rhwymedigaeth gyfreithiol, gan gynnwys mynd i’r llys neu fodloni amodau mechnïaeth, neu i gymryd rhan mewn achos cyfreithiol;
(b)os yw’n ofynnol iddo wneud hynny gan gwnstabl;
(c)i deithio at ddiben gadael Cymru.”
12F.—(1) Ni chaiff y person sy’n rheoli awyren neu lestr neu sydd â rheolaeth dros awyren neu lestr yr oedd ei man ymadael diwethaf yn wlad neu diriogaeth a restrir yn Atodlen 3A beri na chaniatáu i’r awyren neu’r llestr gyrraedd Cymru, oni bai bod gwneud hynny yn rhesymol angenrheidiol er mwyn sicrhau—
(a)diogelwch yr awyren neu’r llestr, neu
(b)iechyd a diogelwch unrhyw berson ar ei bwrdd neu ar ei fwrdd.
(2) Nid yw paragraff (1) yn gymwys i—
(a)awyren a weithredir yn fasnachol neu lestr a weithredir yn fasnachol nad yw’n cludo unrhyw deithwyr;
(b)awyren neu lestr a weithredir gan Lywodraeth ei Mawrhydi yn y Deyrnas Unedig neu i’w chefnogi;
(c)awyren neu lestr a oedd mewn gwlad neu diriogaeth a restrir yn Atodlen 3A ddiweddaf 11 o ddiwrnodau neu ragor cyn cyrraedd Cymru.
(3) Yn y rheoliad hwn—
(a)ystyr “cyrraedd” yw—
(i)mewn perthynas ag awyren, glanio;
(ii)mewn perthynas â llestr, angori yn unrhyw fan;
(b)ystyr “teithiwr” yw person a gludir mewn awyren neu ar lestr ac eithrio aelod o’i chriw neu o’i griw.”
(3) Ar ôl Atodlen 3, mewnosoder—
Rheoliadau 12E a 12F
Gweriniaeth Angola
Gweriniaeth Botswana
Gweriniaeth De Affrica
Gweriniaeth Malaŵi
Gweriniaeth Mauritius
Gweriniaeth Mozambique
Gweriniaeth Namibia
Gweriniaeth Seychelles
Gweriniaeth Zambia
Gweriniaeth Zimbabwe
Teyrnas Eswatini
Teyrnas Lesotho”.
Gwybodaeth Cychwyn
I7Rhl. 7 mewn grym ar 9.1.2021 am 4.00 a.m., gweler rhl. 1(2)
8.—(1) Mae’r Rheoliadau Cyfyngiadau wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Hepgorer rheoliad 4(7).
(3) Yn rheoliad 11A—
(a)yn y pennawd, yn lle “yn Ne Affrica” rhodder “mewn gwledydd penodol”;
(b)ym mharagraff (1)—
(i)yn is-baragraff (a), yn lle “9.00 a.m. ar 24 Rhagfyr 2020” rhodder “4.00 a.m. ar 9 Ionawr 2021”;
(ii)yn is-baragraff (b), yn lle “9.00 a.m. ar 24 Rhagfyr 2020” rhodder “4.00 a.m. ar 9 Ionawr 2021”;
(iii)yn is-baragraff (c), yn lle “yn Ne Affrica” rhodder “mewn gwlad restredig”;
(c)ym mharagraff (2), yn lle “y gadawodd P De Affrica” rhodder “yr oedd P mewn gwlad restredig ddiwethaf”;
(d)ar ôl paragraff (3) mewnosoder—
“(4) At ddibenion y rheoliad hwn, mae’r gwledydd a ganlyn yn wledydd rhestredig —
(a)Teyrnas Eswatini;
(b)Teyrnas Lesotho;
(c)Gweriniaeth Angola;
(d)Gweriniaeth Botswana;
(e)Gweriniaeth Malaŵi;
(f)Gweriniaeth Mauritius;
(g)Gweriniaeth Mozambique;
(h)Gweriniaeth Namibia;
(i)Gweriniaeth Seychelles;
(j)Gweriniaeth Zambia;
(k)Gweriniaeth Zimbabwe.”
(4) Yn rheoliad 11B—
(a)yn y pennawd, yn lle “yn Ne Affrica” rhodder “mewn gwledydd penodol”;
(b)yn is-baragraff (2)(c), yn lle “neu risg arall o niwed difrifol” rhodder “, risg arall o niwed difrifol neu i gyflawni rhwymedigaeth gyfreithiol, gan gynnwys mynd i’r llys neu fodloni amodau mechnïaeth, neu i gymryd rhan mewn achos cyfreithiol”.
(5) Yn rheoliad 38(c), yn y testun Saesneg, ar ôl “(2)” mewnosoder “of”.
(6) Yn rheoliad 57(1)(t)(i), yn lle “, o fewn unrhyw ardal Haen 4 neu o fewn unrhyw ardal lle y gosodir cyfyngiadau llymach na’r rhai sy’n gymwys yn yr ardal Haen 3” rhodder “neu o fewn yr ardal Haen 4”.
(7) Ym mharagraff 48 o Atodlen 4, yn lle “, swyddfeydd gwerthiant datblygwyr a chartrefi arddangos” rhodder “a chartrefi arddangos”.
(8) Hepgorer Atodlen 6.
Gwybodaeth Cychwyn
I8Rhl. 8 mewn grym ar 9.1.2021 am 4.00 a.m., gweler rhl. 1(2)
9. Yn rheoliad 14 (troseddau) o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol, yn y testun Cymraeg, yn is-baragraff (1)(c) hepgorer “neu”.
Gwybodaeth Cychwyn
I9Rhl. 9 mewn grym ar 9.1.2021 am 4.00 a.m., gweler rhl. 1(2)
Vaughan Gething
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
Am 4.07 p.m. ar 8 Ionawr 2021
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae Rhan 2A o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 yn galluogi Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, i wneud darpariaeth at ddiben atal, diogelu rhag, rheoli neu ddarparu ymateb iechyd y cyhoedd i fynychder neu ledaeniad haint neu halogiad yng Nghymru.
Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud mewn ymateb i’r bygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd a berir gan fynychder a lledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru.
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/574 (Cy. 132)) (y “Rheoliadau Teithio Rhyngwladol”) a Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) Rhif 5) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/1609 (Cy. 335))) (y “Rheoliadau Cyfyngiadau”.
Diwygiwyd y Rheoliadau Teithio Rhyngwladol yn flaenorol gan:
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd ar gyfer Personau sy’n Teithio i Gymru etc.) 2020 (O.S. 2020/595) (Cy. 136);
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd i Deithwyr) (Cymru) (Diwygio) 2020 (O.S. 2020/714) (Cy. 160);
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) 2020 (O.S. 2020/726) (Cy. 163);
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2020 (O.S. 2020/804) (Cy. 177);
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 3) 2020 (O.S. 2020/817) (Cy. 179);
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 4) 2020 (O.S. 2020/840) (Cy. 185);
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 5) 2020 (O.S. 2020/868) (Cy. 190);
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 6) 2020 (O.S. 2020/886) (Cy. 196);
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 7) 2020 (O.S. 2020/917) (Cy. 205);
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 8) 2020 (O.S. 2020/944) (Cy. 210);
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 9) 2020 (O.S. 2020/962) (Cy. 216);
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 10) 2020 (O.S. 2020/981) (Cy. 220);
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 11) 2020 (O.S. 2020/1015) (Cy. 226);
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 12) 2020 (O.S. 2020/1042) (Cy. 231);
Gorchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau (Yr Ysgrifennydd Gwladol dros Faterion Tramor, Materion y Gymanwlad a Materion Datblygu) 2020 (O.S. 2020/942);
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 13) 2020 (O.S. 2020/1080) (Cy. 243);
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 14) 2020 (O.S. 2020/1098) (Cy. 249);
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 15) 2020 (O.S. 2020/1133) (Cy. 258);
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 16) 2020 (O.S. 2020/1165) (Cy. 263);
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 17) 2020 (O.S. 2020/1191) (Cy. 269);
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 18) 2020 (O.S. 2020/1223) (Cy. 277);
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 19) 2020 (O.S. 2020/1232) (Cy. 278);
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Chyfyngiadau) (Diwygio) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/1237) (Cy. 279);
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Chyfyngiadau) (Diwygio) (Rhif 2) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/1288) (Cy. 286);
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 20) 2020 (O.S. 2020/1329) (Cy. 295);
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 21) 2020 (O.S. 2020/1362) (Cy. 301);
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Chyfyngiadau) (Diwygio) (Rhif 3) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/1477) (Cy. 316);
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd i Deithwyr) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2020 (O.S. 2020/1521) (Cy. 325);
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 22) 2020 (O.S. 2020/1602) (Cy. 332); a
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, De Affrica) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/1645) (Cy. 345).
Mae’r Rheoliadau Cyfyngiadau wedi eu diwygio yn flaenorol gan:
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) 2020 (O.S. 2020/1610) (Cy. 336);
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2020 (O.S. 2020/1623) (Cy. 340); a
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, De Affrica) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/1645) (Cy. 345).
Mae’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol yn gosod gofynion ar bersonau sy’n dod i Gymru ar ôl bod dramor. Maent yn cynnwys gofyniad i bersonau sy’n cyrraedd Cymru ynysu am gyfnod i’w bennu yn unol â’r Rheoliadau hynny.
Mae gofynion y Rheoliadau Teithio Rhyngwladol yn ddarostyngedig i eithriadau, ac mae categorïau penodol o bersonau wedi eu hesemptio rhag gorfod cydymffurfio.
Nid yw’n ofynnol i bersonau sy’n dod i Gymru ynysu ar ôl bod mewn un neu ragor o’r gwledydd a’r tiriogaethau a restrir yn Atodlen 3 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol. Cyfeirir at y gwledydd a’r tiriogaethau a restrir yn Atodlen 3 fel “gwledydd a thiriogaethau esempt”.
Mae Rhan 2 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio’r rhestr o wledydd a thiriogaethau esempt. Mae rheoliad 2 yn diwygio’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol er mwyn hepgor y cofnodion ar gyfer Dinas Jerwsalem, Gweriniaeth Botswana, Israel, Mauritius a Seychelles.
Mae rheoliad 3 o’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth drosiannol mewn cysylltiad â’r newid yn statws y gwledydd a’r tiriogaethau hyn. Mae’r ddarpariaeth drosiannol yn ymdrin â maes a all fod yn destun amheuaeth o ran effaith y diwygiadau a wneir gan reoliad 2 o’r Rheoliadau hyn ar weithredu’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol.
Mae Rhan 3 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rhannau 3 a 3B o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol ac yn mewnosod Rhan 3C ac Atodlen 3A newydd yn y Rheoliadau hynny. Mae rheoliad 4 o’r Rheoliadau hyn yn hepgor rheoliad 12C o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol sy’n gosod rheolau arbennig ar unrhyw berson sy’n teithio o Dde Affrica ac aelodau o aelwyd y person hwnnw. Mae rheoliad 5 yn gwneud darpariaeth arbed mewn cysylltiad â hepgor rheoliad 12C o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol. Mae rheoliad 6 yn hepgor rheoliad 12D yn Rhan 3B o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol.
Mae Rhan 4 o’r Rheoliadau hyn yn mewnosod rheoliadau 12E a 12F ac Atodlen 3A newydd yn y Rheoliadau Teithio Rhyngwladol. Mae rheoliad 7(1) yn mewnosod darpariaeth newydd sy’n ymwneud â mesurau ychwanegol ar gyfer gwledydd a thiriogaethau penodedig yn y Rheoliadau Teithio Rhyngwladol ar ffurf rheoliad 12E newydd. Mae’r rheoliad 12E newydd yn debyg i’r rheoliad 12C blaenorol, ond nid yw’n benodol i Dde Affrica. Yn hytrach, mae’n gosod mesur ychwanegol ar wledydd a thiriogaethau a restrir yn yr Atodlen 3A newydd. Mae rheoliad 12E yn darparu, pan fo person wedi bod mewn gwlad neu diriogaeth benodedig yn ystod y 10 niwrnod diwethaf ac yn cyrraedd Cymru ar 9 Ionawr 2021 neu wedi hynny, ei bod yn ofynnol i’r person ac aelodau ei aelwyd ynysu. At hynny, nid yw’r categorïau o bersonau esempt fel y’u disgrifir yn Atodlen 2 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol yn gymwys, a chaiff person adael ynysiad o dan amgylchiadau mwy cyfyngedig. Mae rheoliad 7(1) hefyd yn mewnosod rheoliad 12F newydd, sy’n gosod cyfyngiad ar awyrennau a llestrau sy’n cyrraedd yn uniongyrchol o wlad a restrir yn yr Atodlen 3A newydd.
Mae rheoliad 7(2) yn mewnosod Atodlen 3A newydd yn y Rheoliadau Teithio Rhyngwladol, sy’n rhestru’r gwledydd a’r tiriogaethau penodedig hynny sy’n ddarostyngedig i’r mesurau ychwanegol yn rheoliadau 12E a 12F o’r Rheoliadau hynny. Mae rheoliad 7(2) yn rhestru’r gwledydd a’r tiriogaethau a ganlyn yn Atodlen 3A: Gweriniaeth Angola, Gweriniaeth Botswana, Gweriniaeth De Affrica, Gweriniaeth Malaŵi, Gweriniaeth Mauritius, Gweriniaeth Mozambique, Gweriniaeth Namibia, Gweriniaeth Seychelles, Gweriniaeth Zambia, Gweriniaeth Zimbabwe, Teyrnas Eswatini a Theyrnas Lesotho.
Mae Rhan 5 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio’r Rheoliadau Cyfyngiadau er mwyn—
(a)gosod gofynion ynysu llymach ar bobl sydd wedi bod mewn un o 11 gwlad restredig yn Affrica o fewn y cyfnod o 10 niwrnod cyn 4.00 a.m. ar 9 Ionawr 2021 ac ar unrhyw un ar yr un aelwyd â phobl o’r fath. Mae’r rhain yn wledydd lle y ceir tystiolaeth o ledaeniad cymunedol amrywiolyn newydd o’r coronafeirws;
(b)gwneud mân ddiwygiad i ganiatáu i gartrefi arddangos aros ar agor mewn ardaloedd Lefel Rhybudd 4, er na chaniateir gweld eiddo mewn cysylltiad â gwerthiant neu osod mewn ardaloedd Lefel Rhybudd 4 ond os yw’n rhesymol angenrheidiol ac nad oes dewis arall sy’n rhesymol ymarferol;
(c)dirymu’r darpariaethau sy’n ymwneud â dydd Nadolig sydd wedi eu disbyddu bellach a gwneud mân ddiwygiadau eraill i reoliadau 38 a 57.
Mae Rhan 6 o’r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiad technegol i destun Cymraeg rheoliad 14(1)(c) yn Rhan 4 o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ni luniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.
1984 p. 22. Mewnosodwyd Rhan 2A gan adran 129 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2008 (p. 14). Mae’r swyddogaeth o wneud rheoliadau o dan Ran 2A wedi ei rhoi i “the appropriate Minister”. O dan adran 45T(6) o Ddeddf 1984 y Gweinidog priodol, o ran Cymru, yw Gweinidogion Cymru.
O.S. 2020/574 (Cy. 132), fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2020/595 (Cy. 136), O.S. 2020/714 (Cy. 160), O.S. 2020/726 (Cy. 163), O.S. 2020/804 (Cy. 177), O.S. 2020/817 (Cy. 179), O.S. 2020/840 (Cy. 185), O.S. 2020/868 (Cy. 190), O.S. 2020/886 (Cy. 196), O.S. 2020/917 (Cy. 205), O.S. 2020/942, O.S. 2020/944 (Cy. 210), O.S. 2020/962 (Cy. 216), O.S. 2020/981 (Cy. 220), O.S. 2020/1015 (Cy. 226), O.S. 2020/1042 (Cy. 231), O.S. 2020/1080 (Cy. 243), O.S. 2020/1098 (Cy. 249), O.S. 2020/1133 (Cy. 258), O.S. 2020/1165 (Cy. 263), O.S. 2020/1191 (Cy. 269), O.S. 2020/1223 (Cy. 277), O.S. 2020/1232 (Cy. 278), O.S. 2020/1237 (Cy. 279), O.S. 2020/1288 (Cy. 286), O.S. 2020/1329 (Cy. 295), O.S. 2020/1362 (Cy. 301), O.S. 2020/1477 (Cy. 316), O.S. 2020/1521 (Cy. 325), O.S. 2020/1602 (Cy. 332) ac O.S. 2020/1645 (Cy. 345).
O.S. 2020/1609 (Cy. 335) fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2020/1610 (Cy. 336), O.S. 2020/163 (Cy. 340) ac O.S. 2020/165 (Cy. 345).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: