Search Legislation

Rheoliadau Ysgolion Annibynnol (Darparu Gwybodaeth) (Cymru) (Diwygio) 2021

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Offerynnau Statudol Cymru

2021 Rhif 217 (Cy. 54)

Addysg, Cymru

Rheoliadau Ysgolion Annibynnol (Darparu Gwybodaeth) (Cymru) (Diwygio) 2021

Gwnaed

26 Chwefror 2021

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

2 Mawrth 2021

Yn dod i rym

1 Medi 2021

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 160(1), 168 a 210(1) a (7) o Ddeddf Addysg 2002(1), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ysgolion Annibynnol (Darparu Gwybodaeth) (Cymru) (Diwygio) 2021 a deuant i rym ar 1 Medi 2021.

(2Maeʼr Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Diwygio Rheoliadau Ysgolion Annibynnol (Darparu Gwybodaeth) (Cymru) 2003

2.  Mae Rheoliadau Ysgolion Annibynnol (Darparu Gwybodaeth) (Cymru) 2003(2)wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 3 a 4.

Diwygio rheoliad 2 (dehongli)

3.  Yn rheoliad 2, yn y lle priodol, mewnosoder—

mae i “anghenion addysgol arbennig” yr ystyr a roddir i “special educational needs” gan adran 312 o Ddeddf 1996;,

mae i “anghenion dysgu ychwanegol” (“additional learning needs”) yr ystyr a roddir iddo gan adran 2 o Ddeddf 2018;,

mae i “cynllun datblygu unigol” (“individual development plan”) yr ystyr a roddir iddo gan adran 10 o Ddeddf 2018;,

mae i “darpariaeth addysgol arbennig” yr ystyr a roddir i “special educational provision” gan adran 312 o Ddeddf 1996;,

mae i “darpariaeth ddysgu ychwanegol” (“additional learning provision”) yr ystyr a roddir iddo gan adran 3 o Ddeddf 2018;,

ystyr “Deddf 2018” (“the 2018 Act”) yw Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018;.

Diwygio’r Atodlen

4.  Yn yr Atodlen—

(a)hepgorer paragraff 3(5).

(b)yn lle paragraff 3(6) rhodder—

(6) Y math neu’r mathau o—

(a)darpariaeth ddysgu ychwanegol a wneir gan yr ysgol ar gyfer disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol (os oes un), a

(b)darpariaeth addysgol arbennig a wneir gan yr ysgol ar gyfer disgyblion ag anghenion addysgol arbennig (os oes un).

(c)yn lle paragraff 5(1) rhodder—

(1) Nifer y disgyblion yn yr ysgol—

(a)y mae’r ysgol neu awdurdod lleol yn cynnal cynllun datblygu unigol mewn perthynas â hwy, a

(b)y mae awdurdod lleol yn cynnal datganiad anghenion addysgol arbennig mewn perthynas â hwy o dan adran 324 o Ddeddf 1996.

(d)yn lle paragraff 5(2) rhodder—

(2) Nifer y disgyblion yn yr ysgol nad ydynt yn dod o fewn is-baragraff (1), ond y nodwyd bod ganddynt anghenion dysgu ychwanegol neu anghenion addysgol arbennig.

Kirsty Williams

Y Gweinidog Addysg, un o Weinidogion Cymru

26 Chwefror 2021

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Ysgolion Annibynnol (Darparu Gwybodaeth) (Cymru) 2003 (“Rheoliadau 2003”). Mae’r diwygiadau hyn yn ofynnol o ganlyniad i weithredu Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (“Deddf 2018”).

Mae rheoliad 3 yn mewnosod diffiniadau perthnasol yn rheoliad 2 (dehongli) o Reoliadau 2003. Yn benodol, mae Deddf 2018 wedi ei diffinio, yn ogystal â’r termau “anghenion dysgu ychwanegol” a “darpariaeth ddysgu ychwanegol”. Cyflwynwyd y ddau derm hyn yn Neddf 2018 ac mae’r diwygiadau i Reoliadau 2003 yn diweddaru’r derminoleg. Mae rheoliad 3 hefyd yn mewnosod diffiniadau o “anghenion addysgol arbennig” a “darpariaeth addysgol arbennig” o dan adran 312 o Ddeddf Addysg 1996, er mwyn gwahaniaethu rhwng yr hen system a’r system newydd.

Mae rheoliad 4 yn diwygio’r Atodlen i Reoliadau 2003. Mae paragraff 3 o’r Atodlen wedi ei ddiwygio i gwmpasu “anghenion addysgol arbennig” yn ogystal ag “anghenion dysgu ychwanegol”. Mae paragraff 3(5) wedi ei hepgor. Mae paragraff 3(6) wedi ei ddisodli i ddiweddaru’r derminoleg ac ychwanegu’r gofyniad am restr o’r math o ddarpariaeth ddysgu ychwanegol y mae’r ysgol yn ei gwneud. Yn ychwanegol, mae paragraff 5(1)(a) o’r Atodlen wedi ei ddiwygio i ddiweddaru’r cyfeiriad at ddatganiadau anghenion addysgol arbennig i gynnwys cynlluniau datblygu unigol, ac i ddileu’r gofyniad i ddarparu gwybodaeth a fyddai’n nodi pwy yw disgyblion unigol. Mae paragraff 5(2) wedi ei ddiwygio fel ei fod yn cyfeirio at anghenion dysgu ychwanegol yn ogystal ag at anghenion addysgol arbennig.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol yng ngoleuni’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

(1)

2002 p. 32. Mae adran 212(1) yn diffinio “regulations” fel rheoliadau a wneir o dan Ddeddf Addysg 2002 (p. 32) gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru (o ran Cymru). Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru gan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32). Mae adran 212(1) hefyd yn diffinio “prescribes”. Diwygiwyd adran 210 o Ddeddf Addysg 2002 gan adran 21 o Fesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 (mccc 2).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources