- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.
Offerynnau Statudol Cymru
Y Dreth Gyngor, Cymru
Gwnaed
13 Ionawr 2021
Coming into force
14 Ionawr 2021
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 13A(4) a (5) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992(1) a pharagraffau 2 i 7 o Atodlen 1B iddi.
Yn unol ag adran 13A(8) o’r Ddeddf honno, gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Senedd Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad(2).
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a’r Cynllun Diofyn) (Cymru) (Diwygio) 2021.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym drannoeth y diwrnod y’u gwneir.
(3) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â chynllun gostyngiadau’r dreth gyngor a wneir ar gyfer blwyddyn ariannol sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2021 neu ar ôl hynny.
(4) Yn y Rheoliadau hyn ystyr “cynllun gostyngiadau’r dreth gyngor” yw cynllun a wneir gan awdurdod bilio yn unol â Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013(3), neu’r cynllun sy’n gymwys yn ddiofyn yn rhinwedd paragraff 6(1)(e) o Atodlen 1B i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992.
2. Mae Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013 wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 3 i 10.
3. Yn rheoliad 2 (dehongli)—
(a)yn y diffiniad o “person cymwys”, ar ôl “Cronfa Argyfwng We Love Manchester” mewnosoder “, Cynllun Digolledu Windrush”;
(b)yn y lle priodol mewnosoder—
“ystyr “Cynllun Digolledu Windrush” (“the Windrush Compensation Scheme”) yw—
y cynllun o’r enw “the Windrush Compensation Scheme”(4) a weithredir gan yr Ysgrifennydd Gwladol at ddiben digolledu unigolion sydd wedi dioddef colled mewn cysylltiad â’r ffaith nad ydynt yn gallu dangos bod ganddynt statws cyfreithlon yn y Deyrnas Unedig; a
y polisi o’r enw “Windrush Scheme: Support in urgent and exceptional circumstances”(5) a weithredwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol at ddiben digolledu unigolion yr oedd angen iddynt, am resymau brys ac am resymau eithriadol, gael cymorth cyn i’r cynllun y cyfeirir ato ym mharagraff (a) o’r diffiniad hwn ddod yn weithredol;”.
4. Yn Atodlen 1 (penderfynu cymhwystra am ostyngiad: pensiynwyr)—
(1) ym mharagraff 3 (didyniadau annibynyddion: pensiynwyr)—
(a)yn is-baragraff (1)(a) yn lle “£14.65” rhodder “£15.35”;
(b)yn is-baragraff (1)(b) yn lle “£4.85” rhodder “£5.10”;
(c)yn is-baragraff (2)(b) yn lle “£9.75” rhodder “£10.20”;
(d)yn is-baragraff (2)(c) yn lle “£12.25” rhodder “£12.85”;
(2) ym mharagraff 10 (ystyr “incwm”: pensiynwyr) yn is-baragraff 1(j) mewnosoder “(xx) credyd cynhwysol;”.
5. Yn Atodlen 2 (symiau cymwysadwy: pensiynwyr)—
(a)yng ngholofn (2) o’r Tabl ym mharagraff 1 (lwfans personol)—
(i)yn is-baragraff (1) yn lle “£173.80” a “£187.80” rhodder “£177.10” ac “£191.15” yn y drefn honno;
(ii)yn is-baragraff (2) yn lle “£265.20” a “£280.85” rhodder “£270.30” a “£286.05” yn y drefn honno;
(iii)yn is-baragraff (3) yn lle “£265.20” a “£91.40” rhodder “£270.30” a “£93.20” yn y drefn honno;
(iv)yn is-baragraff (4) yn lle “£280.85” a “£93.05” rhodder “£286.05” a “£94.90” yn y drefn honno;
(b)yn y Tabl yn Rhan 4 (symiau’r premiymau a bennir yn Rhan 3), yn yr ail golofn—
(i)yn is-baragraff (1) yn lle “£66.95” ym mhob lle y mae’n digwydd rhodder “£67.30” ac yn lle “£133.90” rhodder “£134.60”;
(ii)yn is-baragraff (2) yn lle “£26.60” rhodder “£26.67”;
(iii)yn is-baragraff (3) yn lle “£65.52” rhodder “£65.94”;
(iv)yn is-baragraff (4) yn lle “£37.50” rhodder “£37.70”.
6. Yn Atodlen 5 (diystyriadau cyfalaf: pensiynwyr), ym mharagraff 16(1)(a), ar ôl “Cronfa Argyfwng We Love Manchester” mewnosoder “, Cynllun Digolledu Windrush”.
7. Yn Atodlen 6 (penderfynu cymhwystra am ostyngiad o dan gynllun awdurdod, swm unrhyw ostyngiad, a chyfrifo incwm a chyfalaf: personau nad ydynt yn bensiynwyr) ym mharagraff 5 (didyniadau annibynyddion: personau nad ydynt yn bensiynwyr)—
(a)yn is-baragraff (1)(a) yn lle “£14.65” rhodder “£15.35”;
(b)yn is-baragraff (1)(b) yn lle “£4.85” rhodder “£5.10”;
(c)yn is-baragraff (2)(b) yn lle “£9.75” rhodder “£10.20”;
(d)yn is-baragraff (2)(c) yn lle “£12.25” rhodder “£12.85”.
8. Yn Atodlen 7 (symiau cymwysadwy: personau nad ydynt yn bensiynwyr)—
(a)yng ngholofn (2) o’r Tabl ym mharagraff 1 (lwfansau personol)—
(i)yn is-baragraff (1) yn lle “£79.20” ym mhob lle y mae’n digwydd rhodder “£79.60” ac yn lle “£62.75” rhodder “£63.05”;
(ii)yn is-baragraff (2) yn lle “£79.20” rhodder “£79.60”;
(iii)yn is-baragraff (3) yn lle “£124.45” rhodder “£125.05”;
(b)yn y Tabl yn Rhan 4 (symiau’r premiymau a bennir yn Rhan 3), yn yr ail golofn—
(i)yn is-baragraff (1) yn lle “£34.95” a “£49.80” rhodder “£35.10” a “£50.05” yn y drefn honno;
(ii)yn is-baragraff (2) yn lle “£66.95” ym mhob lle y mae’n digwydd rhodder “£67.30” ac yn lle “£133.90” rhodder “£134.60”;
(iii)yn is-baragraff (3) yn lle “£65.52” rhodder “£65.94”;
(iv)yn is-baragraff (4) yn lle “£37.50” rhodder “£37.70”;
(v)yn is-baragraff (5) yn lle “£26.60”, “£17.10” a “£24.50” rhodder “£26.67”, “£17.20” a “£24.60” yn y drefn honno;
(c)yn Rhan 6 (symiau’r elfennau)—
(i)ym mharagraff 23 yn lle “£29.35” rhodder “£29.70”;
(ii)ym mharagraff 24 yn lle “£39.20” rhodder “£39.40”.
9. Yn Atodlen 10 (diystyriadau cyfalaf: personau nad ydynt yn bensiynwyr)—
(a)ym mharagraff 29(1), ar ôl “Cronfa Argyfwng We Love Manchester” mewnosoder “, Cynllun Digolledu Windrush”;
(b)ym mharagraff 29(7), ar ôl “Cronfa Argyfwng We Love Manchester” mewnosoder “, Cynllun Digolledu Windrush”.
10. Yn Atodlen 13 (pob ceisydd: materion y mae’n rhaid eu cynnwys mewn cynllun awdurdod—materion eraill), ym mharagraff 5(7)(a)(ii), ar ôl “Cronfa Argyfwng We Love Manchester” mewnosoder “, Cynllun Digolledu Windrush”.
11. Mae’r cynllun a nodir yn yr Atodlen i Reoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Cynllun Diofyn) (Cymru) 2013(6) wedi ei ddiwygio yn unol â rheoliadau 12 i 19.
12. Ym mharagraff 2(1) (dehongli)—
(a)yn y diffiniad o “person cymwys”, ar ôl “Cronfa Argyfwng We Love Manchester” mewnosoder “, Cynllun Digolledu Windrush”;
(b)yn y lle priodol mewnosoder—
“ystyr “Cynllun Digolledu Windrush” (“the Windrush Compensation Scheme”) yw—
y cynllun o’r enw “the Windrush Compensation Scheme”(7) a weithredir gan yr Ysgrifennydd Gwladol at ddiben digolledu unigolion sydd wedi dioddef colled mewn cysylltiad â’r ffaith nad ydynt yn gallu dangos bod ganddynt statws cyfreithlon yn y Deyrnas Unedig; a
y polisi o’r enw “Windrush Scheme: Support in urgent and exceptional circumstances”(8) a weithredwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol at ddiben digolledu unigolion yr oedd angen iddynt, am resymau brys ac am resymau eithriadol, gael cymorth cyn i’r cynllun y cyfeirir ato ym mharagraff (a) o’r diffiniad hwn ddod yn weithredol;”.
13. Ym mharagraff 28 (didyniadau annibynyddion: pensiynwyr a phersonau nad ydynt yn bensiynwyr)—
(a)yn is-baragraff (1)(a) yn lle “£14.65” rhodder “£15.35”;
(b)yn is-baragraff (1)(b) yn lle “£4.85” rhodder “£5.10”;
(c)yn is-baragraff (2)(b) yn lle “£9.75” rhodder “£10.20”;
(d)yn is-baragraff (2)(c) yn lle “£12.25” rhodder “£12.85”.
14. Ym mharagraff 36 (ystyr “incwm”: pensiynwyr) yn is-baragraff 1(j) mewnosoder “(xx) credyd cynhwysol;”.
15. Ym mharagraff 111(7)(a)(ii), ar ôl “Cronfa Argyfwng We Love Manchester” mewnosoder “, Cynllun Digolledu Windrush”.
16. Yn Atodlen 2 (symiau cymwysadwy: pensiynwyr)—
(a)yng ngholofn (2) o’r Tabl ym mharagraff 1 (lwfansau personol)—
(i)yn is-baragraff (1) yn lle “£173.80” a “£187.80” rhodder “£177.10” ac “£191.15” yn y drefn honno;
(ii)yn is-baragraff (2) yn lle “£265.20” a “£280.85” rhodder “£270.30” a “£286.05” yn y drefn honno;
(iii)yn is-baragraff (3) yn lle “£265.20” a “£91.40” rhodder “£270.30” a “£93.20” yn y drefn honno;
(iv)yn is-baragraff (4) yn lle “£280.85” a “£93.05” rhodder “£286.05” a “£94.90” yn y drefn honno;
(b)yn y Tabl yn Rhan 4 (symiau’r premiymau a bennir yn Rhan 3), yn yr ail golofn—
(i)yn is-baragraff (1) yn lle “£66.95” ym mhob lle y mae’n digwydd rhodder “£67.30” ac yn lle “£133.90” rhodder “£134.60”;
(ii)yn is-baragraff (2) yn lle “£26.60” rhodder “£26.67”;
(iii)yn is-baragraff (3) yn lle “£65.52” rhodder “£65.94”;
(iv)yn is-baragraff (4) yn lle “£37.50” rhodder “£37.70”.
17. Yn Atodlen 3 (symiau cymwysadwy: personau nad ydynt yn bensiynwyr)—
(a)yng ngholofn (2) o’r Tabl ym mharagraff 1 (lwfansau personol)—
(i)yn is-baragraff (1) yn lle “£79.20” ym mhob lle y mae’n digwydd rhodder “£79.60” ac yn lle “£62.75” rhodder “£63.05”;
(ii)yn is-baragraff (2) yn lle “£79.20” rhodder “£79.60”;
(iii)yn is-baragraff (3) yn lle “£124.45” rhodder “£125.05”;
(b)yn y Tabl yn Rhan 4 (symiau’r premiymau a bennir yn Rhan 3), yn yr ail golofn—
(i)yn is-baragraff (1) yn lle “£34.95” a “£49.80” rhodder “£35.10” a “£50.05” yn y drefn honno;
(ii)yn is-baragraff (2) yn lle “£66.95” ym mhob lle y mae’n digwydd rhodder “£67.30” ac yn lle “£133.90” rhodder “£134.60”;
(iii)yn is-baragraff (3) yn lle “£65.52” rhodder “£65.94”;
(iv)yn is-baragraff (4) yn lle “£37.50” rhodder “£37.70”;
(v)yn is-baragraff (5) yn lle “£26.60”, “£17.10” a “£24.50” rhodder “£26.67”, “£17.20” a “£24.60” yn y drefn honno;
(c)yn Rhan 6 (symiau’r elfennau)—
(i)ym mharagraff 23 yn lle “£29.35” rhodder “£29.70”;
(ii)ym mharagraff 24 yn lle “£39.20” rhodder “£39.40”.
18. Yn Atodlen 8 (diystyriadau cyfalaf: pensiynwyr), ym mharagraff 16(1)(a), ar ôl “Cronfa Argyfwng We Love Manchester” mewnosoder “, Cynllun Digolledu Windrush”.
19. Yn Atodlen 9 (diystyriadau cyfalaf: personau nad ydynt yn bensiynwyr)—
(a)ym mharagraff 29(1), ar ôl “Cronfa Argyfwng We Love Manchester” mewnosoder “, Cynllun Digolledu Windrush”;
(b)ym mharagraff 29(8), ar ôl “Cronfa Argyfwng We Love Manchester” mewnosoder “, Cynllun Digolledu Windrush”.
Rebecca Evans
Y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd, un o Weinidogion Cymru
13 Ionawr 2021
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013 (“y Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig”) a Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Cynllun Diofyn) (Cymru) 2013 (“y Rheoliadau Cynllun Diofyn”) a wnaed o dan adran 13A(4) a (5) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 ac Atodlen 1B iddi.
Mae’r Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig yn ei gwneud yn ofynnol i bob awdurdod bilio yng Nghymru wneud cynllun sy’n pennu’r gostyngiadau sydd i fod yn gymwys i symiau o’r dreth gyngor sy’n daladwy gan bersonau, neu gan ddosbarthau o bersonau, y mae’r awdurdod yn ystyried eu bod mewn angen ariannol. Mae’r Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig hefyd yn nodi’r materion y mae rhaid eu cynnwys mewn cynllun o’r fath.
Mae’r Rheoliadau Cynllun Diofyn yn nodi cynllun a fydd yn cael effaith, mewn cysylltiad ag anheddau sydd wedi eu lleoli yn ardal awdurdod bilio, os yw’r awdurdod yn methu â gwneud ei gynllun ei hun.
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio’r Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig a’r Rheoliadau Cynllun Diofyn.
Mae’r diwygiadau a wneir i’r Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig gan reoliadau 3, 6, 9 a 10 yn darparu ar gyfer sut y mae taliadau o dan “Cynllun Digolledu Windrush” i gael eu cymryd i ystyriaeth wrth bennu cymhwystra ar gyfer gostyngiad a maint y gostyngiad. Gwneir yr un diwygiadau i’r Rheoliadau Cynllun Diofyn gan reoliadau 12, 15, 18 a 19.
Mae’r diwygiad a wneir i’r Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig gan reoliad 4(2) yn darparu ar gyfer sut y mae taliadau’r credyd cynhwysol i hawlwyr sydd wedi cyrraedd yr oedran cymhwyso ar gyfer credyd pensiwn y wladwriaeth i gael eu cymryd i ystyriaeth wrth bennu cymhwystra ar gyfer gostyngiad a maint y gostyngiad. Gwneir yr un diwygiad i’r Rheoliadau Cynllun Diofyn gan reoliad 14.
Mae’r diwygiadau i’r Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig a wneir gan reoliadau 4(1), 5, 7 ac 8 yn cynyddu rhai o’r ffigyrau a ddefnyddir wrth gyfrifo a oes gan berson hawl i gael gostyngiad ai peidio, a swm y gostyngiad hwnnw. Mae’r ffigyrau uwchraddedig yn ymwneud â didyniadau annibynyddion (sef addasiadau i uchafswm y gostyngiad y mae hawl gan berson i’w gael, er mwyn cymryd i ystyriaeth oedolion sy’n byw yn yr annedd nad ydynt yn ddibynyddion y ceisydd); ac â’r swm cymwysadwy mewn perthynas â chais am ostyngiad (sef y swm y cymherir incwm ceisydd ag ef, er mwyn pennu swm y gostyngiad y mae hawl gan y ceisydd i’w gael). Gwneir yr un diwygiadau i’r Rheoliadau Cynllun Diofyn gan reoliadau 13, 16 a 17.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth yr Is-adran Cyllid Strategol Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.
1992 p. 14. Amnewidiwyd adran 13A gan adran 10(1) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 2012 (p. 17) a mewnosodwyd Atodlen 1B gan adran 10(2) o’r Ddeddf honno ac Atodlen 4 iddi.
Mae’r cyfeiriad yn adran 13(A)(8) at Gynulliad Cenedlaethol Cymru bellach yn cael effaith fel cyfeiriad at Senedd Cymru, yn rhinwedd adran 150A(2) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32), fel y’i diwygiwyd gan adran 9 o Ddeddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (dccc 1) ac Atodlen 1 iddi.
O.S. 2013/3029 (Cy. 301), fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2014/66 (Cy. 6), O.S. 2014/825 (Cy. 83), O.S. 2015/44 (Cy. 3), O.S. 2015/971, O.S. 2016/50 (Cy. 21), O.S. 2017/46 (Cy. 20), O.S. 2018/14 (Cy. 7), O.S. 2019/11 (Cy. 5) ac O.S 2020/16 (Cy. 2).
Mae Rheolau Cynllun Digolledu Windrush wedi eu cyhoeddi a gellir eu gweld ar https://assets.publishing.service.gov.uk/government/uploads/system/uploads/attachment_data/file/925385/Windrush_Compensation_Scheme_Full_Rules.pdf. Gellir cael copi caled ar gais drwy ysgrifennu at yr Is-adran Trethiant Lleol, Y Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol, 2 Marsham Street, Llundain SW1P 4DF. Gellir cael rhagor o wybodaeth ynghylch Cynllun Digolledu Windrush ar https://www.gov.uk/guidance/windrush-compensation-scheme.
Gellir gweld y polisi hwn ar https://assets.publishing.service.gov.uk/government/uploads/system/uploads/attachment_data/file/916834/Windrush_Scheme_-_Support_in_Urgent_and_Exceptional_Circumstances.pdf. Gellir cael copi caled ar gais drwy ysgrifennu at yr Is-adran Trethiant Lleol, Y Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol, 2 Marsham Street, Llundain SW1P 4DF.
O.S. 2013/3035 (Cy. 303), fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2014/66 (Cy. 6), O.S. 2014/825 (Cy. 83), O.S. 2015/44 (Cy. 3), O.S. 2015/971, O.S. 2016/50 (Cy. 21), O.S. 2017/46 (Cy. 20), O.S. 2018/14 (Cy. 7), O.S. 2019/11 (Cy. 5) ac O.S 2020/16 (Cy. 2).
Mae Rheolau Cynllun Digolledu Windrush wedi eu cyhoeddi a gellir eu gweld ar https://assets.publishing.service.gov.uk/government/uploads/system/uploads/attachment_data/file/925385/Windrush_Compensation_Scheme_Full_Rules.pdf. Gellir cael copi caled ar gais drwy ysgrifennu at yr Is-adran Trethiant Lleol, Y Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol, 2 Marsham Street, Llundain SW1P 4DF. Gellir cael rhagor o wybodaeth ynghylch Cynllun Digolledu Windrush ar https://www.gov.uk/guidance/windrush-compensation-scheme.
Gellir gweld y polisi hwn ar https://assets.publishing.service.gov.uk/government/uploads/system/uploads/attachment_data/file/916834/Windrush_Scheme_-_Support_in_Urgent_and_Exceptional_Circumstances.pdf. Gellir cael copi caled ar gais drwy ysgrifennu at yr Is-adran Trethiant Lleol, Y Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol, 2 Marsham Street, Llundain SW1P 4DF.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: