Fersiwn wedi'i ddisodliFersiwn wedi ei ddisodli: 25/03/2022
Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 03/12/2021. Mae'r fersiwn hon o'r hwn (hon) Instrument yn cynnwys darpariaethau nad ydynt yn ddilys ar gyfer y pwynt mewn amser hwn.
Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Rheoliadau Cyd-bwyllgor Corfforedig y Canolbarth (Cymru) 2021.
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyd-bwyllgor Corfforedig y Canolbarth (Cymru) 2021.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn, ac eithrio’r darpariaethau a grybwyllir ym mharagraff (3), i rym ar 1 Ebrill 2021.
(3) Daw’r darpariaethau a ganlyn o’r Rheoliadau hyn i rym ar 30 Mehefin 2022—
(a)rheoliad 11;
(b)rheoliad 12;
(c)rheoliad 13;
(d)rheoliad 15 i’r graddau y mae’n ymwneud â swyddogaethau a roddir i Cyd-bwyllgor Corfforedig y Canolbarth gan reoliad 11, 12 neu 13.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 1 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)
2. Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “aelod Bannau Brycheiniog” (“the Brecon Beacons member”) yw’r aelod a benodir o dan reoliad 8;
[F1mae i “aelod cyfetholedig” (“co-opted member”) yr ystyr a roddir gan reoliad 9(1); ]
ystyr “aelod cyngor” (“council member”) yw person y cyfeirir ato yn rheoliad 7(1) neu berson a benodir o dan reoliad 7(3);
ystyr “Awdurdod Parc Cenedlaethol” (“National Park Authority”) yw awdurdod yng Nghymru a sefydlir o dan adran 63 o Ddeddf yr Amgylchedd 1995(1);
ystyr “blwyddyn ariannol” (“financial year”) yw—
y cyfnod o 12 mis sy’n dod i ben â 31 Mawrth 2022 (y cyfeirir ato yn y Rheoliadau hyn fel “y flwyddyn ariannol gyntaf”);
wedi hynny, cyfnod o 12 mis sy’n dod i ben â 31 Mawrth;
ystyr “cyngor cyfansoddol” (“constituent council”) yw—
cyngor sir Ceredigion;
cyngor sir Powys;
F1...
ystyr “deddfiad” (“enactment”) yw deddfiad pa bryd bynnag y’i deddfir neu y’i gwneir;
ystyr “rheolau sefydlog” (“standing orders”) yw’r rheolau sefydlog a wneir o dan baragraff 8 o’r Atodlen;
ystyr “swyddogaethau cynllunio strategol” (“strategic planning functions”) yw—
swyddogaethau Cyd-bwyllgor Corfforedig y Canolbarth o dan Ran 6 o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004(2) (gweler rheoliad 13), a
unrhyw swyddogaethau sy’n gysylltiedig ag arfer y swyddogaethau hynny neu’n ffafriol iddynt.
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn rhl. 2 wedi eu hamnewid a hepgorer (3.12.2021) gan Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Rhif 2) (Cymru) 2021 (O.S. 2021/1349), rhlau. 1(2), 34(2)
Gwybodaeth Cychwyn
I2Rhl. 2 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)
3.—(1) Mae corff corfforedig o’r enw Cyd-bwyllgor Corfforedig y Canolbarth (“CBC y Canolbarth”) wedi ei sefydlu.
(2) Mae gan CBC y Canolbarth y swyddogaethau—
(a)a roddir iddo gan y Rheoliadau hyn, a
(b)a roddir iddo, a osodir arno neu a ddirprwyir iddo, gan unrhyw ddeddfiad arall.
(3) Mae’r swyddogaethau a roddir i CBC y Canolbarth gan y Rheoliadau hyn yn arferadwy mewn perthynas â’i ardal.
Gwybodaeth Cychwyn
I3Rhl. 3 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)
4. Mae ardal CBC y Canolbarth wedi ei ffurfio o ardaloedd y cynghorau cyfansoddol.
Gwybodaeth Cychwyn
I4Rhl. 4 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)
5. Mae’r Atodlen yn gwneud darpariaeth ynghylch cyfansoddiad CBC y Canolbarth.
Gwybodaeth Cychwyn
I5Rhl. 5 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)
6.—(1) Aelodau CBC y Canolbarth yw—
(a)y 2 aelod cyngor, F2...
(b)aelod Bannau Brycheiniog. [F3, ac]
[F4(c)unrhyw aelod cyfetholedig.]
(2) Mae gan yr aelodau hawl i bleidleisio mewn perthynas ag unrhyw fater sydd i’w benderfynu gan CBC y Canolbarth [F5, yn ddarostyngedig i reoliadau 8(2A) a 9(2)].
F6(3) . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
(4) Mae cyfeiriadau yn y Rheoliadau hyn, ac mewn unrhyw ddeddfiad arall, at aelod o CBC y Canolbarth (sut bynnag y’u mynegir) yn cynnwys aelod Bannau Brycheiniog [F7ac unrhyw aelod cyfetholedig] oni bai bod—
(a)darpariaeth ddatganedig yn cael ei gwneud i’r gwrthwyneb, neu
(b)y cyd-destun yn mynnu fel arall.
Diwygiadau Testunol
F2Gair yn rhl. 6(1)(a) wedi ei hepgor (3.12.2021) yn rhinwedd Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Rhif 2) (Cymru) 2021 (O.S. 2021/1349), rhlau. 1(2), 34(3)(a)(i)
F3Gair yn rhl. 6(1)(b) wedi ei fewnosod (3.12.2021) gan Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Rhif 2) (Cymru) 2021 (O.S. 2021/1349), rhlau. 1(2), 34(3)(a)(ii)
F4Rhl. 6(1)(c) wedi ei fewnosod (3.12.2021) gan Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Rhif 2) (Cymru) 2021 (O.S. 2021/1349), rhlau. 1(2), 34(3)(a)(iii)
F5Geiriau yn rhl. 6(2) wedi eu mewnosod (3.12.2021) gan Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Rhif 2) (Cymru) 2021 (O.S. 2021/1349), rhlau. 1(2), 34(3)(b)
F6Rhl. 6(3) wedi ei hepgor (3.12.2021) yn rhinwedd Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Rhif 2) (Cymru) 2021 (O.S. 2021/1349), rhlau. 1(2), 34(3)(c)
F7Geiriau yn rhl. 6(4) wedi eu hamnewid (3.12.2021) gan Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Rhif 2) (Cymru) 2021 (O.S. 2021/1349), rhlau. 1(2), 34(3)(d)
Gwybodaeth Cychwyn
I6Rhl. 6 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)
7.—(1) Yn achos pob cyngor cyfansoddol—
(a)yr arweinydd gweithrediaeth, pan fo’r cyngor cyfansoddol yn gweithredu gweithrediaeth arweinydd a chabinet;
(b)y maer etholedig, pan fo’r cyngor cyfansoddol yn gweithredu gweithrediaeth maer a chabinet,
yw’r aelod cyngor o CBC y Canolbarth.
(2) Pan fo aelod cyngor yn anabl i [F8weithredu fel aelod cyngor] am unrhyw gyfnod, rhaid i’r cyngor cyfansoddol y mae’n aelod ohono benodi aelod arall o’i weithrediaeth i [F9weithredu] ar ran yr aelod cyngor am y cyfnod hwnnw.
(3) Pan fo swydd y cyfeirir ati ym mharagraff (1) yn wag o fewn cyngor cyfansoddol, rhaid i’r cyngor cyfansoddol benodi aelod arall o’i weithrediaeth yn aelod cyngor o CBC y Canolbarth hyd nes y bydd y swydd wag wedi ei llenwi.
Diwygiadau Testunol
F8Geiriau yn rhl. 7(2) wedi eu hamnewid (3.12.2021) gan Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Rhif 2) (Cymru) 2021 (O.S. 2021/1349), rhlau. 1(2), 34(4)(a)
F9Gair yn rhl. 7(2) wedi ei amnewid (3.12.2021) gan Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Rhif 2) (Cymru) 2021 (O.S. 2021/1349), rhlau. 1(2), 34(4)(b)
Gwybodaeth Cychwyn
I7Rhl. 7 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)
8.—(1) Rhaid i Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog (“yr Awdurdod”) benodi deiliad swydd a grybwyllir ym mharagraff (2) yn aelod o CBC y Canolbarth (“aelod Bannau Brycheiniog”).
(2) Y deiliaid swyddi sy’n gymwys i fod yn aelod Bannau Brycheiniog yw—
(a)cadeirydd yr Awdurdod,
(b)dirprwy gadeirydd yr Awdurdod, neu
(c)cadeirydd unrhyw bwyllgor sy’n gyfrifol am faterion cynllunio a all gael ei sefydlu gan yr Awdurdod.
[F10(2A) Ni chaiff aelod Bannau Brycheiniog weithredu fel aelod ond mewn perthynas ag—
(a)y swyddogaethau a roddir i CBC y Canolbarth o dan reoliad 13;
(b)unrhyw swyddogaeth sydd gan CBC y Canolbarth sy’n ategol i’r swyddogaethau hynny neu’n gysylltiedig â hwy.
(2B) Ond caiff aelod Bannau Brycheiniog hefyd weithredu fel aelod mewn perthynas ag unrhyw swyddogaeth arall sydd gan CBC y Canolbarth—
(a)os yw’r aelodau cyngor ac aelod Bannau Brycheiniog yn cytuno, neu
(b)os caniateir i aelod Bannau Brycheiniog weithredu mewn perthynas â’r swyddogaeth honno, neu os yw’n ofynnol iddo wneud hynny, yn rhinwedd darpariaeth ddatganedig yn y Rheoliadau hyn neu mewn unrhyw ddeddfiad arall.
(2C) Rhaid i gytundeb o dan baragraff (2B)(a) bennu’r telerau y caiff aelod Bannau Brycheiniog weithredu odanynt mewn perthynas â’r swyddogaeth o dan sylw, gan gynnwys pennu’r cyfnod pan fo aelod Bannau Brycheiniog i weithredu.]
(3) Pan fo aelod Bannau Brycheiniog yn anabl i [F11weithredu fel aelod] am unrhyw gyfnod, rhaid i’r Awdurdod benodi un o’r deiliaid swyddi eraill a grybwyllir ym mharagraff (2) i [F12weithredu] ar ran aelod Bannau Brycheiniog am y cyfnod hwnnw.
Diwygiadau Testunol
F10Rhl. 8(2A)-(2C) wedi ei fewnosod (3.12.2021) gan Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Rhif 2) (Cymru) 2021 (O.S. 2021/1349), rhlau. 1(2), 34(5)(a)
F11Geiriau yn rhl. 8(3) wedi eu hamnewid (3.12.2021) gan Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Rhif 2) (Cymru) 2021 (O.S. 2021/1349), rhlau. 1(2), 34(5)(b)(i)
F12Gair yn rhl. 8(3) wedi ei amnewid (3.12.2021) gan Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Rhif 2) (Cymru) 2021 (O.S. 2021/1349), rhlau. 1(2), 34(5)(b)(ii)
Gwybodaeth Cychwyn
I8Rhl. 8 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)
9.—(1) Caiff CBC y Canolbarth gyfethol un neu ragor o unigolion i fod yn aelodau o CBC y Canolbarth (“aelod cyfetholedig”) ar y telerau hynny y mae’n eu pennu.
(2) Rhaid i’r telerau hynny—
(a)pennu—
(i)swyddogaethau CBC y Canolbarth y caiff yr aelod cyfetholedig weithredu mewn perthynas â hwy fel aelod o’r CBC, a
(ii)unrhyw swyddogaeth sydd gan CBC y Canolbarth sy’n ategol i’r swyddogaethau hynny neu’n gysylltiedig â hwy;
(b)cael eu cytuno gan yr aelod cyfetholedig a’r aelodau eraill, ac
(c)cael eu nodi mewn cytundeb cyfethol.
(3) Pan fo gan aelod cyfetholedig, o dan baragraff (1), hawl i weithredu mewn perthynas ag—
(a)y swyddogaethau a roddir i CBC y Canolbarth o dan reoliad 13, a
(b)unrhyw swyddogaeth sydd gan CBC y Canolbarth sy’n ategol i’r swyddogaethau hynny neu’n gysylltiedig â hwy,
caiff aelod Bannau Brycheiniog weithredu fel aelod at ddibenion y paragraff hwnnw.
(4) Caiff aelod cyfetholedig ei gyfethol—
(a)am gyfnod a bennir yn y cytundeb cyfethol, neu
(b)hyd nes—
(i)y bydd yr aelod cyfetholedig yn ymddiswyddo o CBC y Canolbarth, neu
(ii)y bydd CBC y Canolbarth yn terfynu’r cyfetholiad.
(5) Mewn perthynas â chytundeb cyfethol—
(a)caniateir ei amrywio ar unrhyw adeg;
(b)rhaid iddo gael ei gyhoeddi’n electronig gan CBC y Canolbarth.]
Diwygiadau Testunol
F13Rhl. 9 wedi ei amnewid (3.12.2021) gan Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Rhif 2) (Cymru) 2021 (O.S. 2021/1349), rhlau. 1(2), 34(6)
Gwybodaeth Cychwyn
I9Rhl. 9 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)
10. Pan fo swydd y cyfeirir ati yn—
(a)rheoliad 7(1), neu
(b)rheoliad 8(2),
yn cael ei rhannu gan 2 berson neu ragor, mae’r personau hynny i’w trin fel pe baent yn 1 person at ddibenion y Rheoliadau hyn.
Gwybodaeth Cychwyn
I10Rhl. 10 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)
Valid from 30/06/2022
11. Rhoddir y swyddogaeth llesiant economaidd i CBC y Canolbarth (gweler adran 76 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021).
Gwybodaeth Cychwyn
I11Rhl. 11 mewn grym ar 30.6.2022, gweler rhl. 1(3)(a)
Valid from 30/06/2022
12.—(1) Mae’r swyddogaeth o ddatblygu polisïau o dan adran 108(1)(a) a (2A)(a) o Ran 2 o Ddeddf Trafnidiaeth 2000(3), mewn cysylltiad ag ardal pob cyngor cyfansoddol, i’w harfer gan CBC y Canolbarth, ac nid gan y cyngor cyfansoddol.
(2) Mae Rhan 2 o Ddeddf Trefnidiaeth 2000 yn gymwys mewn perthynas â CBC y Canolbarth a’i gynghorau cyfansoddol yn ddarostyngedig i’r addasiadau yn yr Atodlen i Reoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Swyddogaethau Trafnidiaeth) (Cymru) 2021(4).
Gwybodaeth Cychwyn
I12Rhl. 12 mewn grym ar 30.6.2022, gweler rhl. 1(3)(b)
Valid from 30/06/2022
13. Mae gan CBC y Canolbarth y swyddogaeth o lunio cynllun datblygu strategol (ac yn unol â hynny mae Rhan 6 o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 yn gymwys i CBC y Canolbarth (gweler yn enwedig adrannau 60K i 60N o’r Ddeddf honno)).
Gwybodaeth Cychwyn
I13Rhl. 13 mewn grym ar 30.6.2022, gweler rhl. 1(3)(c)
14.—(1) Caniateir i CBC y Canolbarth wneud unrhyw beth—
(a)i hwyluso, neu
(b)sy’n gysylltiedig â, neu’n ffafriol i,
arfer ei swyddogaethau o dan y Rheoliadau hyn neu unrhyw ddeddfiad arall.
(2) Mae’r pethau y caniateir eu gwneud o dan baragraff (1) yn cynnwys—
(a)mynd i wariant;
(b)codi ffioedd;
(c)caffael neu waredu eiddo neu hawliau.
Gwybodaeth Cychwyn
I14Rhl. 14 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)
15. Nid yw rheoliad 13 o Reoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Rhif 2) (Cymru) 2021 (trefniadau ar gyfer cyflawni swyddogaethau) yn gymwys i—
(a)cymeradwyo polisi trafnidiaeth, neu ddiwygio polisi o’r fath a ddatblygwyd yn rhinwedd rheoliad 12(1) o dan adran 108(1)(a) a (2A)(a) o Ran 2 o Ddeddf Trafnidiaeth 2000;
(b)y gweithredoedd a ganlyn sy’n gysylltiedig â llunio cynllun datblygu strategol, neu ddiwygio cynllun, o dan reoliad 13—
(i)mabwysiadu cytundeb cyflawni, neu ddiwygio cytundeb o’r fath (gweler rheoliad 11(2) ac (8) o Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Cynllun Datblygu Strategol) (Cymru) 2021 (“y Rheoliadau CDS”));
(ii)cymeradwyo dogfennau cynigion cyn-adneuo a datganiad o faterion cyn-adneuo (gweler rheoliadau 17 a 18 o’r Rheoliadau CDS);
(iii)cymeradwyo adroddiad ymgynghori cychwynnol, dogfen cynigion yr CDS a datganiad o faterion adneuo (gweler rheoliad 20 o’r Rheoliadau CDS);
(iv)cymeradwyo dogfennau i’w hanfon at Weinidogion Cymru o dan adran 64(3) o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004;
(v)tynnu cynllun datblygu strategol yn ôl o dan adran 66A(2) o’r Ddeddf honno;
(vi)mabwysiadu cynllun datblygu strategol o dan adran 60M(9)(a) o’r Ddeddf honno;
(vii)cymeradwyo adroddiad monitro blynyddol sydd i’w wneud o dan adran 76(1) o’r Ddeddf honno;
(viii)cymeradwyo adroddiad adolygiad o gynllun datblygu strategol sydd i’w wneud o dan adran 69(2) o’r Ddeddf honno;
(c)cytuno ar gyfrifiadau o ofynion cyllideb neu gyfrifiadau diwygiedig o dan reoliad 16(6)(b) a (9).]
Diwygiadau Testunol
F14Rhl. 15 wedi ei amnewid (3.12.2021) gan Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Rhif 2) (Cymru) 2021 (O.S. 2021/1349), rhlau. 1(2), 34(7)
Gwybodaeth Cychwyn
I15Rhl. 15 mewn grym ar 30.6.2022 at ddibenion penodedig, gweler rhl. 1(3)(d)
I16Rhl. 15 mewn grym ar 1.4.2021 (heblaw fel y crybwyllwyd yn rhl. 1(3)(d)), gweler rhl. 1(2)
16.—(1) Ar gyfer pob blwyddyn ariannol rhaid i CBC y Canolbarth gyfrifo’r symiau a ddisgrifir ym mharagraff (2) sydd i’w priodoli i—
(a)ei swyddogaethau cynllunio strategol (gan gynnwys cyfran briodol o gostau gweinyddu a gorbenion eraill), a
(b)ei swyddogaethau eraill.
(2) Y symiau y mae rhaid i’r CBC eu cyfrifo yw—
(a)y swm y mae’r CBC yn amcangyfrif y bydd yn ei wario mewn cysylltiad â’r flwyddyn ariannol wrth arfer ei swyddogaethau (gan gynnwys gwariant ar weinyddu a gorbenion eraill);
(b)y swm y mae’r CBC yn ystyried ei fod yn briodol ei godi ar gyfer cronfa ariannol wrth gefn mewn cysylltiad â’r flwyddyn ariannol;
(c)y swm y mae’r CBC yn ystyried ei fod yn briodol ei gadw fel cronfa wrth gefn i dalu am y gwariant y mae’n ystyried yr eir iddo mewn cysylltiad â blynyddoedd ariannol i ddod;
(d)unrhyw swm y mae’r CBC yn ystyried ei fod yn angenrheidiol i dalu unrhyw rwymedigaethau sydd heb eu talu mewn cysylltiad ag unrhyw flwyddyn ariannol gynharach.
(3) Ar gyfer pob blwyddyn ariannol, rhaid i CBC y Canolbarth hefyd gyfrifo cyfanswm cyfanredol unrhyw symiau y mae’n amcangyfrif y bydd yn eu cael o ffynonellau eraill ac eithrio’r cynghorau cyfansoddol ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog sydd i’w priodoli i—
(a)ei swyddogaethau cynllunio strategol, a
(b)ei swyddogaethau eraill.
(4) Pan fo cyfanswm y symiau a gyfrifir ar gyfer blwyddyn ariannol o dan baragraff (1)(a) yn fwy na’r swm a gyfrifir ar gyfer y flwyddyn honno o dan baragraff (3)(a), y swm ychwanegol hwnnw yw gofyniad cyllideb cynllunio strategol CBC y Canolbarth ar gyfer y flwyddyn ariannol.
(5) Pan fo cyfanswm y symiau a gyfrifir ar gyfer blwyddyn ariannol o dan baragraff (1)(b) yn fwy na’r swm a gyfrifir ar gyfer y flwyddyn honno o dan baragraff (3)(b), y swm ychwanegol hwnnw yw gofyniad cyllideb cyffredinol CBC y Canolbarth ar gyfer y flwyddyn ariannol.
(6) Rhaid i CBC y Canolbarth —
(a)cynnal y cyfrifiadau o dan baragraffau (1) a (3), a
(b)cytuno ar y cyfrifiadau hynny mewn cyfarfod,
yn ddim hwyrach na 31 Ionawr ym mhob blwyddyn ariannol flaenorol.
(7) Mewn perthynas â’r flwyddyn ariannol gyntaf, mae paragraff (6) yn gymwys fel pe bai “31 Ionawr 2022” wedi ei roi yn lle “31 Ionawr ym mhob blwyddyn ariannol flaenorol”.
(8) Caiff CBC y Canolbarth ddiwygio’r cyfrifiadau a gynhelir o dan baragraffau (1) a (3) ar unrhyw adeg cyn diwedd y flwyddyn ariannol y maent yn ymwneud â hi a chaniateir diwygio gofyniad cyllideb cyffredinol, neu ofyniad cyllideb cynllunio strategol, CBC y Canolbarth o ganlyniad i hynny.
(9) Rhaid cytuno ar unrhyw gyfrifiadau diwygiedig mewn cyfarfod o CBC y Canolbarth.
Gwybodaeth Cychwyn
I17Rhl. 16 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)
17.—(1) Rhaid i ofyniad cyllideb cyffredinol CBC y Canolbarth gael ei dalu i CBC y Canolbarth gan y cynghorau cyfansoddol, ac mae’r gyfran o’r swm hwnnw sy’n daladwy gan bob cyngor cyfansoddol i’w phennu drwy gytundeb unfrydol yr aelodau cyngor.
(2) Rhaid i ofyniad cyllideb cynllunio strategol CBC Canolbarth gael ei dalu i CBC y Canolbarth gan y cynghorau cyfansoddol ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, ac mae’r gyfran o’r swm hwnnw sy’n daladwy gan bob cyngor cyfansoddol a chan yr Awdurdod i’w phennu drwy gytundeb unfrydol [F15yr aelodau cyngor ac aelod Bannau Brycheiniog].
(3) Pan na fo’n bosibl dod i gytundeb o ran y cyfrannau sy’n daladwy o dan baragraff (1) neu (2), caiff Gweinidogion Cymru drwy gyfarwyddyd bennu’r gyfran sy’n daladwy gan bob cyngor cyfansoddol neu bob cyngor cyfansoddol ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.
(4) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i ofyniad cyllideb cyffredinol, neu ofyniad cyllideb cynllunio strategol, a ddiwygiwyd o dan baragraff (8) o reoliad 16 fel y mae’n gymwys i ofyniad cyllideb a bennwyd yn wreiddiol o dan y rheoliad hwnnw.
Diwygiadau Testunol
F15Geiriau yn rhl. 17(2) wedi eu hamnewid (3.12.2021) gan Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Rhif 2) (Cymru) 2021 (O.S. 2021/1349), rhlau. 1(2), 34(8)
Gwybodaeth Cychwyn
I18Rhl. 17 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)
Julie James
Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
17 Mawrth 2021
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Point in Time: This becomes available after navigating to view revised legislation as it stood at a certain point in time via Advanced Features > Show Timeline of Changes or via a point in time advanced search. A point in time version is only available in English.
Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: