- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
Mae'r fersiwn hon o'r hwn (hon) Instrument yn cynnwys darpariaethau sy'n rhagolygol.
Defnyddir y term darpariaeth i ddisgrifio elfen ddiffiniadwy mewn darn o ddeddfwriaeth sy'n cael effaith ddeddfwriaethol – megis Rhan, Pennod neu adran. Mae fersiwn o ddarpariaeth yn rhagolygol naill ai:
Gall Gorchmynion Cychwyn a restrir yn y blwch 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth' fel rhai sydd heb eu gwneud eto ddod â'r fersiwn ragolygol hon i rym.
Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Rheoliadau Cyd-bwyllgor Corfforedig De-ddwyrain (Cymru) 2021. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau.
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Cofnodir newidiadau ac effeithiau gan ein tîm golygyddol mewn rhestrau sydd i'w gweld yn yr adran 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth'. Os nad yw'r effeithiau hynny wedi'u cymhwyso eto i destun y ddeddfwriaeth gan y tîm golygyddol maent hefyd wedi'u rhestru ochr yn ochr â'r ddeddfwriaeth yn y darpariaethau yr effeithir arnynt. Defnyddiwch y ddolen 'mwy' i agor y newidiadau a'r effeithiau sy'n berthnasol i'r ddarpariaeth rydych yn edrych arni.
Whole provisions yet to be inserted into this Instrument (including any effects on those provisions):
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyd-bwyllgor Corfforedig De-ddwyrain (Cymru) 2021.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn, ac eithrio’r darpariaethau a grybwyllir ym mharagraff (3), i rym ar 1 Ebrill 2021.
(3) Daw’r darpariaethau a ganlyn o’r Rheoliadau hyn i rym ar 28 Chwefror 2022—
(a)rheoliad 11;
(b)rheoliad 12;
(c)rheoliad 13;
(d)rheoliad 15 i’r graddau y mae’n ymwneud â swyddogaethau a roddir i Cyd-bwyllgor Corfforedig y De-ddwyrain gan reoliad 11, 12 neu 13.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 1 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)
2. Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “aelod Bannau Brycheiniog” (“the Brecon Beacons member”) yw’r aelod a benodir o dan reoliad 8;
ystyr “aelod cyngor” (“council member”) yw person y cyfeirir ato yn rheoliad 7(1) neu berson a benodir o dan reoliad 7(3);
ystyr “Awdurdod Parc Cenedlaethol” (“National Park Authority”) yw awdurdod yng Nghymru a sefydlir o dan adran 63 o Ddeddf yr Amgylchedd 1995(1);
ystyr “blwyddyn ariannol” (“financial year”) yw—
y cyfnod o 12 mis sy’n dod i ben â 31 Mawrth 2022 (y cyfeirir ato yn y Rheoliadau hyn fel “y flwyddyn ariannol gyntaf”);
wedi hynny, cyfnod o 12 mis sy’n dod i ben â 31 Mawrth;
ystyr “cyngor cyfansoddol” (“constituent council”) yw—
cyngor sir Caerdydd;
cyngor sir Fynwy;
cyngor bwrdeistref sirol Blaenau Gwent;
cyngor bwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr;
cyngor bwrdeistref sirol Caerffili;
cyngor bwrdeistref sirol Merthyr Tudful;
cyngor bwrdeistref sirol Casnewydd;
cyngor bwrdeistref sirol Rhondda Cynon Taf;
cyngor bwrdeistref sirol Torfaen;
cyngor bwrdeistref sirol Bro Morgannwg;
mae i “cyfranogwr cyfetholedig” (“co-opted participant”) yr ystyr a roddir gan reoliad 9(3);
ystyr “deddfiad” (“enactment”) yw deddfiad pa bryd bynnag y’i deddfir neu y’i gwneir;
ystyr “rheolau sefydlog” (“standing orders”) yw’r rheolau sefydlog a wneir o dan baragraff 8 o’r Atodlen;
ystyr “swyddogaethau cynllunio strategol” (“strategic planning functions”) yw—
swyddogaethau Cyd-bwyllgor Corfforedig y De-ddwyrain o dan Ran 6 o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004(2) (gweler rheoliad 13), a
unrhyw swyddogaethau sy’n gysylltiedig ag arfer y swyddogaethau hynny neu’n ffafriol iddynt.
Gwybodaeth Cychwyn
I2Rhl. 2 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)
3.—(1) Mae corff corfforedig o’r enw Cyd-bwyllgor Corfforedig y De-ddwyrain (“CBC y De-ddwyrain”) wedi ei sefydlu.
(2) Mae gan CBC y De-ddwyrain y swyddogaethau—
(a)a roddir iddo gan y Rheoliadau hyn, a
(b)a roddir iddo, a osodir arno neu a ddirprwyir iddo, gan unrhyw ddeddfiad arall.
(3) Mae’r swyddogaethau a roddir i CBC y De-ddwyrain gan y Rheoliadau hyn yn arferadwy mewn perthynas â’i ardal.
Gwybodaeth Cychwyn
I3Rhl. 3 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)
4. Mae ardal CBC y De-ddwyrain wedi ei ffurfio o ardaloedd y cynghorau cyfansoddol.
Gwybodaeth Cychwyn
I4Rhl. 4 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)
5. Mae’r Atodlen yn gwneud darpariaeth ynghylch cyfansoddiad CBC y De-ddwyrain.
Gwybodaeth Cychwyn
I5Rhl. 5 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)
6.—(1) Aelodau CBC y De-ddwyrain yw—
(a)y 10 aelod cyngor, a
(b)aelod Bannau Brycheiniog.
(2) Mae gan yr aelodau hawl i bleidleisio mewn perthynas ag unrhyw fater sydd i’w benderfynu gan CBC y De-ddwyrain.
(3) Ond nid yw paragraff (2) ond yn gymwys i aelod Bannau Brycheiniog i’r graddau y mae’r mater sydd i’w benderfynu yn ymwneud â swyddogaethau cynllunio strategol.
(4) Mae cyfeiriadau yn y Rheoliadau hyn, ac mewn unrhyw ddeddfiad arall, at aelod o CBC y De-ddwyrain (sut bynnag y’u mynegir) yn cynnwys aelod Bannau Brycheiniog i’r graddau a ddisgrifir ym mharagraff (3), oni bai bod—
(a)darpariaeth ddatganedig yn cael ei gwneud i’r gwrthwyneb, neu
(b)y cyd-destun yn mynnu fel arall.
Gwybodaeth Cychwyn
I6Rhl. 6 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)
7.—(1) Yn achos pob cyngor cyfansoddol—
(a)yr arweinydd gweithrediaeth, pan fo’r cyngor cyfansoddol yn gweithredu gweithrediaeth arweinydd a chabinet;
(b)y maer etholedig, pan fo’r cyngor cyfansoddol yn gweithredu gweithrediaeth maer a chabinet,
yw’r aelod cyngor o CBC y De-ddwyrain.
(2) Pan fo aelod cyngor yn anabl i gyflawni ei swyddogaethau am unrhyw gyfnod, rhaid i’r cyngor cyfansoddol y mae’n aelod ohono benodi aelod arall o’i weithrediaeth i gyflawni’r swyddogaethau hynny ar ran yr aelod cyngor am y cyfnod hwnnw.
(3) Pan fo swydd y cyfeirir ati ym mharagraff (1) yn wag o fewn cyngor cyfansoddol, rhaid i’r cyngor cyfansoddol benodi aelod arall o’i weithrediaeth yn aelod cyngor o CBC y De-ddwyrain hyd nes y bydd y swydd wag wedi ei llenwi.
Gwybodaeth Cychwyn
I7Rhl. 7 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)
8.—(1) Rhaid i Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog (“yr Awdurdod”) benodi deiliad swydd a grybwyllir ym mharagraff (2) yn aelod o CBC y De-ddwyrain (“aelod Bannau Brycheiniog”).
(2) Y deiliaid swyddi sy’n gymwys i fod yn aelod Bannau Brycheiniog yw—
(a)cadeirydd yr Awdurdod,
(b)dirprwy gadeirydd yr Awdurdod, neu
(c)cadeirydd unrhyw bwyllgor sy’n gyfrifol am faterion cynllunio a all gael ei sefydlu gan yr Awdurdod.
(3) Pan fo aelod Bannau Brycheiniog yn anabl i gyflawni ei swyddogaethau am unrhyw gyfnod, rhaid i’r Awdurdod benodi un o’r deiliaid swyddi eraill a grybwyllir ym mharagraff (2) i gyflawni’r swyddogaethau hynny ar ran aelod Bannau Brycheiniog am y cyfnod hwnnw.
Gwybodaeth Cychwyn
I8Rhl. 8 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)
9.—(1) Caiff yr aelodau o CBC y De-ddwyrain gyfethol y personau hynny y maent yn meddwl eu bod yn briodol—
(a)yn aelodau o un o gyd-bwyllgorau CBC y De-ddwyrain;
(b)i gyfranogi yng ngweithgareddau eraill CBC y De-ddwyrain.
(2) Pan fo person yn cael ei gyfethol o dan baragraff (1) rhaid i’r aelodau roi hysbysiad ysgrifenedig i’r person am y cyfetholiad.
(3) Yn y Rheoliadau hyn, cyfeirir at berson a gyfetholir o dan baragraff (1) fel “cyfranogwr cyfetholedig”.
(4) Nid oes gan gyfranogwr cyfetholedig ond hawl i bleidleisio mewn perthynas ag unrhyw faterion a bennir gan yr aelodau yn yr hysbysiad a roddir o dan baragraff (2).
(5) Cyfetholir cyfranogwr cyfetholedig—
(a)am gyfnod a bennir gan yr aelodau yn yr hysbysiad o roddir o dan baragraff (2),
(b)hyd nes y terfynir y cyfetholiad gan yr aelodau drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i’r cyfranogwr cyfetholedig, neu
(c)hyd nes y bo’r cyfranogwr cyfetholedig yn ymddiswyddo drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i CBC y De-ddwyrain.
(6) Pan fo cyfnod wedi ei bennu o dan baragraff (5)(a), caniateir er hynny i’r aelodau derfynu cyfetholiad y cyfranogwr cyfetholedig cyn diwedd y cyfnod drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i’r cyfranogwr cyfetholedig.
(7) Caiff yr aelodau o CBC y De-ddwyrain ddiwygio cyfetholiad o dan baragraff (1) drwy roi hysbysiad ysgrifenedig pellach i’r cyfranogwr cyfetholedig.
(8) Caiff hysbysiad pellach gynnwys diwygiadau i—
(a)unrhyw hawl i bleidleisio a bennir o dan baragraff (4);
(b)unrhyw gyfnod a bennir o dan baragraff (5)(a).
Gwybodaeth Cychwyn
I9Rhl. 9 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)
10. Pan fo swydd y cyfeirir ati yn—
(a)rheoliad 7(1), neu
(b)rheoliad 8(2),
yn cael ei rhannu gan 2 berson neu ragor, mae’r personau hynny i’w trin fel pe baent yn 1 person at ddibenion y Rheoliadau hyn.
Gwybodaeth Cychwyn
I10Rhl. 10 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)
Rhagolygol
11. Rhoddir y swyddogaeth llesiant economaidd i CBC y De-ddwyrain (gweler adran 76 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021).
Gwybodaeth Cychwyn
I11Rhl. 11 mewn grym ar 28.2.2022, gweler rhl. 1(3)(a)
Rhagolygol
12.—(1) Mae’r swyddogaeth o ddatblygu polisïau o dan adran 108(1)(a) a (2A)(a) o Ran 2 o Ddeddf Trafnidiaeth 2000(3), mewn cysylltiad ag ardal pob cyngor cyfansoddol, i’w harfer gan CBC y De-ddwyrain, ac nid gan y cyngor cyfansoddol.
(2) Mae Rhan 2 o Deddf Trafnidiaeth 2000 yn gymwys mewn perthynas â CBC y De-ddwyrain a’i gynghorau cyfansoddol yn ddarostyngedig i’r addasiadau yn yr Atodlen i Reoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Swyddogaethau Trafnidiaeth) (Cymru) 2021(4).
Gwybodaeth Cychwyn
I12Rhl. 12 mewn grym ar 28.2.2022, gweler rhl. 1(3)(b)
Rhagolygol
13. Mae gan CBC y De-ddwyrain y swyddogaeth o lunio cynllun datblygu strategol (ac yn unol â hynny mae Rhan 6 o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 yn gymwys i CBC y De-ddwyrain (gweler yn enwedig adrannau 60K i 60N o’r Ddeddf honno)).
Gwybodaeth Cychwyn
I13Rhl. 13 mewn grym ar 28.2.2022, gweler rhl. 1(3)(c)
14.—(1) Caniateir i CBC y De-ddwyrain wneud unrhyw beth—
(a)i hwyluso, neu
(b)sy’n gysylltiedig â, neu’n ffafriol i,
arfer ei swyddogaethau o dan y Rheoliadau hyn neu unrhyw ddeddfiad arall.
(2) Mae’r pethau y caniateir eu gwneud o dan baragraff (1) yn cynnwys—
(a)mynd i wariant;
(b)codi ffioedd;
(c)caffael neu waredu eiddo neu hawliau.
Gwybodaeth Cychwyn
I14Rhl. 14 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)
15.—(1) Caiff CBC y De-ddwyrain ddirprwyo swyddogaethau i is-bwyllgor yn ddarostyngedig i—
(a)paragraff (2);
(b)unrhyw ddeddfiad arall sy’n cael yr effaith o wahardd dirprwyo o’r fath neu gyfyngu arno.
(2) Ni chaiff CBC y De-ddwyrain ddirprwyo’r swyddogaethau a gynhwysir yn y darpariaethau a ganlyn—
(a)rheoliad 9 (cyfranogwyr cyfetholedig);
(b)rheoliad 12(1) (datblygu polisïau o dan adran 108(1)(a) a (2A)(a) o Ran 2 o Ddeddf Trafnidiaeth 2000);
(c)rheoliad 13 (llunio cynllun datblygu strategol);
(d)rheoliad 16 (cyfrifo’r gyllideb);
(e)rheoliad 17 (ariannu gofyniad y gyllideb);
(f)paragraff 2 o’r Atodlen (penodi a chadarnhau cadeirydd ac is-gadeirydd);
(g)paragraff 7 o’r Atodlen (gweithdrefn bleidleisio wahanol);
(h)paragraff 8 o’r Atodlen (gwneud, amrywio a dirymu rheolau sefydlog);
(i)paragraff 15 o’r Atodlen (sefydlu is-bwyllgorau);
(j)paragraff 16 o’r Atodlen (sefydlu is-bwyllgor llywodraethu ac archwilio).
Gwybodaeth Cychwyn
I15Rhl. 15 mewn grym ar 1.4.2021 at ddibenion penodedig, gweler rhl. 1(2)
I16Rhl. 15 mewn grym ar 28.2.2022 mewn grym i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, gweler rhl. 1(3)(d)
16.—(1) Ar gyfer pob blwyddyn ariannol rhaid i CBC y De-ddwyrain gyfrifo’r symiau a ddisgrifir ym mharagraff (2) sydd i’w priodoli i—
(a)ei swyddogaethau cynllunio strategol (gan gynnwys cyfran briodol o gostau gweinyddu a gorbenion eraill), a
(b)ei swyddogaethau eraill.
(2) Y symiau y mae rhaid i’r CBC eu cyfrifo yw—
(a)y swm y mae’r CBC yn amcangyfrif y bydd yn ei wario mewn cysylltiad â’r flwyddyn ariannol wrth arfer ei swyddogaethau (gan gynnwys gwariant ar weinyddu a gorbenion eraill);
(b)y swm y mae’r CBC yn ystyried ei fod yn briodol ei godi ar gyfer cronfa ariannol wrth gefn mewn cysylltiad â’r flwyddyn ariannol;
(c)y swm y mae’r CBC yn ystyried ei fod yn briodol ei gadw fel cronfa wrth gefn i dalu am y gwariant y mae’n ystyried yr eir iddo mewn cysylltiad â blynyddoedd ariannol i ddod;
(d)unrhyw swm y mae’r CBC yn ystyried ei fod yn angenrheidiol i dalu unrhyw rwymedigaethau sydd heb eu talu mewn cysylltiad ag unrhyw flwyddyn ariannol gynharach.
(3) Ar gyfer pob blwyddyn ariannol, rhaid i CBC y De-ddwyrain hefyd gyfrifo cyfanswm cyfanredol unrhyw symiau y mae’n amcangyfrif y bydd yn eu cael o ffynonellau eraill ac eithrio’r cynghorau cyfansoddol ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog sydd i’w priodoli i—
(a)ei swyddogaethau cynllunio strategol, a
(b)ei swyddogaethau eraill.
(4) Pan fo cyfanswm y symiau a gyfrifir ar gyfer blwyddyn ariannol o dan baragraff (1)(a) yn fwy na’r swm a gyfrifir ar gyfer y flwyddyn honno o dan baragraff (3)(a), y swm ychwanegol hwnnw yw gofyniad cyllideb cynllunio strategol CBC y De-ddwyrain ar gyfer y flwyddyn ariannol.
(5) Pan fo cyfanswm y symiau a gyfrifir ar gyfer blwyddyn ariannol o dan baragraff (1)(b) yn fwy na’r swm a gyfrifir ar gyfer y flwyddyn honno o dan baragraff (3)(b), y swm ychwanegol hwnnw yw gofyniad cyllideb cyffredinol CBC y De-ddwyrain ar gyfer y flwyddyn ariannol.
(6) Rhaid i CBC y De-ddwyrain—
(a)cynnal y cyfrifiadau o dan baragraffau (1) a (3), a
(b)cytuno ar y cyfrifiadau hynny mewn cyfarfod,
yn ddim hwyrach na 31 Ionawr ym mhob blwyddyn ariannol flaenorol.
(7) Mewn perthynas â’r flwyddyn ariannol gyntaf, mae paragraff (6) yn gymwys fel pe bai “31 Ionawr 2022” wedi ei roi yn lle “31 Ionawr ym mhob blwyddyn ariannol flaenorol”.
(8) Caiff CBC y De-ddwyrain ddiwygio’r cyfrifiadau a gynhelir o dan baragraffau (1) a (3) ar unrhyw adeg cyn diwedd y flwyddyn ariannol y maent yn ymwneud â hi a chaniateir diwygio gofyniad cyllideb cyffredinol, neu ofyniad cyllideb cynllunio strategol, CBC y De-ddwyrain o ganlyniad i hynny.
(9) Rhaid cytuno ar unrhyw gyfrifiadau diwygiedig mewn cyfarfod o CBC y De-ddwyrain.
Gwybodaeth Cychwyn
I17Rhl. 16 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)
17.—(1) Rhaid i ofyniad cyllideb cyffredinol CBC y De-ddwyrain gael ei dalu i CBC y De-ddwyrain gan y cynghorau cyfansoddol, ac mae’r gyfran o’r swm hwnnw sy’n daladwy gan bob cyngor cyfansoddol i’w phennu drwy gytundeb unfrydol yr aelodau cyngor.
(2) Rhaid i ofyniad cyllideb cynllunio strategol CBC y De-ddwyrain gael ei dalu i CBC y De-ddwyrain gan y cynghorau cyfansoddol ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, ac mae’r gyfran o’r swm hwnnw sy’n daladwy gan bob cyngor cyfansoddol a chan yr Awdurdod i’w phennu drwy gytundeb unfrydol yr aelodau.
(3) Pan na fo’n bosibl dod i gytundeb o ran y cyfrannau sy’n daladwy o dan baragraff (1) neu (2), caiff Gweinidogion Cymru drwy gyfarwyddyd bennu’r gyfran sy’n daladwy gan bob cyngor cyfansoddol neu bob cyngor cyfansoddol ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.
(4) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i ofyniad cyllideb cyffredinol, neu ofyniad cyllideb cynllunio strategol, a ddiwygiwyd o dan baragraff (8) o reoliad 16 fel y mae’n gymwys i ofyniad cyllideb a bennwyd yn wreiddiol o dan y rheoliad hwnnw.
Gwybodaeth Cychwyn
I18Rhl. 17 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)
Julie James
Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
17 Mawrth 2021
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: