RHAN 2LL+CStaff
CyffredinolLL+C
9.—[(1)] Caiff CBC y De-ddwyrain wneud unrhyw drefniadau ar gyfer staffio y mae’n ystyried eu bod yn briodol yn ddarostyngedig i—
(a)darpariaethau’r Rhan hon o’r Atodlen hon, a
(b)paragraff 2 o Atodlen 1 i Reoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Cymru) 2021().
[(2) Rhaid i CBC y De-ddwyrain sicrhau bod trefniadau a wneir o dan is-baragraff (1) yn rhai sy’n angenrheidiol er mwyn i CBC y De-ddwyrain gyflawni ei swyddogaethau’n briodol. ]
Diwygiadau Testunol
Gwybodaeth Cychwyn
Telerau ac amodauLL+C
10.—(1) Pan fo CBC y De-ddwyrain yn penodi staff o dan baragraff 9, maent i’w penodi o dan delerau ac amodau (gan gynnwys telerau ac amodau o ran taliadau cydnabyddiaeth) sy’n sylweddol debyg i delerau ac amodau swyddogion yn un o’r cynghorau cyfansoddol sy’n ymgymryd â dyletswyddau a bennir yn rhesymol gymharol gan CBC y De-ddwyrain.
[(2) Ond o ran is-baragraff (1)—
(a)mae’n ddarostyngedig i adran 41 o Ddeddf Lleoliaeth 2011, a
(b)nid yw’n atal CBC y De-ddwyrain rhag addasu telerau ac amodau staff y mae’n eu penodi os yw hynny’n ofynnol yn rhinwedd unrhyw ddeddfiad neu reol gyfreithiol arall.]
Diwygiadau Testunol
Gwybodaeth Cychwyn
Staff o awdurdodau eraillLL+C
11.—(1) Caniateir i awdurdod Cymreig datganoledig (o fewn yr ystyr a roddir i “devolved Welsh authority” yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006()) ymrwymo i gytundeb gyda CBC y De-ddwyrain ar gyfer rhoi staff yr awdurdod at ddefnydd CBC y De-ddwyrain at ddibenion arfer ei swyddogaethau, o dan unrhyw delerau a ddarperir gan y cytundeb.
(2) Pan fo aelod o staff awdurdod Cymreig datganoledig yn cael ei roi at ddefnydd CBC y De-ddwyrain yn rhinwedd cytundeb o dan is-baragraff (1), mae’r aelod o staff i’w drin fel aelod o staff CBC y De-ddwyrain at ddibenion—
(a)y Rheoliadau hyn;
(b)paragraff 2 o Atodlen 1 i Reoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Cymru) 2021;
(c)unrhyw ddeddfiad arall sy’n ymwneud â gweinyddu CBC y De-ddwyrain neu ag arfer ei swyddogaethau.
[(3) Ond, yn ddarostyngedig i unrhyw ddarpariaeth i’r gwrthwyneb mewn unrhyw ddeddfiad arall, at ddibenion blwydd-daliadau mae gwasanaeth a ddarperir gan aelod o staff awdurdod Cymreig datganoledig sydd wedi ei roi at ddefnydd CBC y De-ddwyrain yn rhinwedd cytundeb o’r fath yn wasanaeth a ddarperir i’r awdurdod.]
Diwygiadau Testunol
Gwybodaeth Cychwyn
Rhoi staff at ddefnydd awdurdodau eraillLL+C
12.—(1) Caiff CBC y De-ddwyrain ymrwymo i gytundeb gydag—
(a)cyd-bwyllgor corfforedig arall (o fewn yr ystyr a roddir gan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021);
(b)awdurdod Cymreig datganoledig arall (o fewn yr ystyr a roddir i “devolved Welsh authority” yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006),
ar gyfer rhoi staff CBC y De-ddwyrain at ddefnydd y pwyllgor arall neu’r awdurdod arall at ddibenion swyddogaethau’r pwyllgor neu’r awdurdod hwnnw, o dan delerau a ddarperir gan y cytundeb.
(2) Pan fo aelod o staff CBC y De-ddwyrain yn cael ei roi at ddefnydd corff arall yn rhinwedd cytundeb o dan is-baragraff (1)—
(a)at ddibenion blwydd-daliadau, mae gwasanaeth a ddarperir gan yr aelod o staff yn wasanaeth a ddarperir i CBC y De-ddwyrain, a
(b)at ddibenion unrhyw ddeddfiad sy’n ymwneud â gweinyddu’r awdurdod Cymreig datganoledig arall neu arfer ei swyddogaethau, mae’r aelod o staff i’w drin fel aelod o staff yr awdurdod hwnnw.
Ymgynghori â staff ynghylch cytundebau o dan baragraff 11 neu 12LL+C
13. Ni chaniateir ymrwymo i unrhyw gytundeb o dan baragraff 11(1) neu 12(1) oni bai yr ymgynghorir â phob aelod o staff y mae’r cytundeb yn ymwneud â hwy.
Trosglwyddo staffLL+C
14. Pan fo aelod o staff a benodir gan CBC y De-ddwyrain wedi ei drosglwyddo i’r CBC o gyngor cyfansoddol, mae darpariaethau Rheoliadau Trosglwyddo Ymgymeriadau (Diogelu Cyflogaeth) 2006() ac eithrio rheoliadau 4(6) a 10 yn gymwys i’r trosglwyddiad, pa un a yw’n drosglwyddiad perthnasol at ddibenion y rheoliadau hynny ai peidio.