- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Rheoliadau Anghenion Dysgu Ychwanegol (Cymru) 2021, RHAN 1.
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Anghenion Dysgu Ychwanegol (Cymru) 2021.
(2) Deuant i rym ar 1 Medi 2021.
(3) Mae Rheoliadau Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol (Cymru) 2020(1) wedi eu dirymu.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 1 mewn grym ar 1.9.2021, gweler rhl. 1(2)
2.—(1) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “Deddf 2018” yw Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018.
(2) Mae i gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at berson sy’n ddarostyngedig i orchymyn cadw (sut bynnag y’i mynegir) yr ystyr a roddir i’r ymadrodd Saesneg cyfatebol hwnnw gan adran 562(1A)(a), (2) a (3) o Ddeddf Addysg 1996(2).
(3) Mae i’r geiriau a’r ymadroddion a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn yr un ystyr ag sydd iddynt yn Neddf 2018 ac eithrio i’r graddau yr ymddengys bwriad i’r gwrthwyneb.
(4) Pan fo’r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer cyfnod y mae’n ofynnol gwneud rhywbeth ynddo, neu cyn ei ddiwedd, ac na fo diwrnod olaf y cyfnod hwnnw yn ddiwrnod gwaith, mae’r cyfnod yn cael ei estyn i gynnwys y diwrnod gwaith canlynol.
Gwybodaeth Cychwyn
I2Rhl. 2 mewn grym ar 1.9.2021, gweler rhl. 1(2)
3.—(1) Mae paragraff (2) yn gymwys pan fo darpariaeth yn y Rheoliadau hyn yn ei gwneud yn ofynnol (ar ba delerau bynnag) i gorff llywodraethu, awdurdod lleol neu Weinidogion Cymru, neu’n awdurdodi (ar ba delerau bynnag) corff llywodraethu, awdurdod lleol neu Weinidogion Cymru i—
(a)hysbysu person am rywbeth, neu
(b)rhoi dogfen i berson (gan gynnwys hysbysiad neu gopi o ddogfen).
(2) Mae adran 88 o Ddeddf 2018 (rhoi hysbysiad etc. o dan y Rhan hon) yn gymwys i’r ddarpariaeth—
(a)fel pe bai’n ddarpariaeth yn Rhan 2 o Ddeddf 2018,
(b)fel pe bai’r cyfeiriadau yn yr adran honno at gorff llywodraethu neu awdurdod lleol yn gyfeiriadau at gorff llywodraethu, awdurdod lleol neu Weinidogion Cymru, ac
(c)fel pe bai’r cyfeiriad yn adran 88(4) at adran 7 o Ddeddf Dehongli 1978(3) (cyfeiriadau at gyflwyno drwy’r post) yn gyfeiriad at adran 13 o Ddeddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019(4) (cyflwyno dogfennau drwy’r post neu’n electronig).
Gwybodaeth Cychwyn
I3Rhl. 3 mewn grym ar 1.9.2021, gweler rhl. 1(2)
4. Ar ddiwedd adran 88 o Ddeddf 2018 mewnosoder—
“(6) Mae hysbysiad neu ddogfen a roddir i berson drwy ei anfon neu ei hanfon yn electronig yn unol â’r adran hon i gael ei drin neu ei thrin at ddibenion y Rhan hon fel pe bai wedi ei roi neu ei rhoi, oni phrofir i’r gwrthwyneb, ar y diwrnod yr anfonwyd y cyfathrebiad electronig.”
Gwybodaeth Cychwyn
I4Rhl. 4 mewn grym ar 1.9.2021, gweler rhl. 1(2)
1996 p. 56. Mae’r is-adrannau hyn wedi eu diwygio gan Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Mewnfudo 2008 (p. 4), Atodlen 4, Rhan 1, paragraff 47, Deddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009 (p. 22), adran 49 ac O.S. 2016/413 (Cy. 131), rheoliadau 153 a 157.
2019 dccc 4. Mae adran 13 wedi ei diwygio gan Ddeddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (dccc 1), Atodlen 1, paragraff 5(1), (3)(b) a (4)(a). Mae diwygiadau eraill i adran 13 nad ydynt yn berthnasol.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: