Search Legislation

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol, Profion cyn Ymadael ac Atebolrwydd Gweithredwyr) (Cymru) (Diwygio) 2021

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Offerynnau Statudol Cymru

2021 Rhif 48 (Cy. 11)

Iechyd Y Cyhoedd, Cymru

Trafnidiaeth, Cymru

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol, Profion cyn Ymadael ac Atebolrwydd Gweithredwyr) (Cymru) (Diwygio) 2021

Gwnaed

am 3.00 p.m. ar 15 Ionawr 2021

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

am 5.30 p.m. ar 15 Ionawr 2021

Yn dod i rym

am 4.00 a.m. ar 18 Ionawr 2021

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 45B, 45F(2) a 45P(2) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984(1).

RHAN 1Cyffredinol

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol, Profion cyn Ymadael ac Atebolrwydd Gweithredwyr) (Cymru) (Diwygio) 2021.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym am 4.00 a.m. ar 18 Ionawr 2021.

(3Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli

2.  Yn y Rheoliadau hyn—

mae i “ardal deithio gyffredin” yr ystyr a roddir i “common travel area” yn adran 1(3) o Ddeddf Mewnfudo 1971(2);

ystyr “y Rheoliadau Teithio Rhyngwladol” (“the International Travel Regulations”) yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020(3).

RHAN 2Profion cyn Ymadael

Diwygio’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol

3.—(1Mae’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 2(1) (dehongli) yn y man priodol, mewnosoder—

(a)“ystyr “dyfais” (“device”) yw dyfais feddygol ddiagnostig in vitro o fewn yr ystyr a roddir i “in vitro diagnostic medical device” yn rheoliad 2(1) Reoliadau Dyfeisiadau Meddygol 2002(4);”;

(b)“ystyr “prawf cymhwysol” (“qualifying test”) yw prawf sy’n brawf cymhwysol at ddibenion rheoliad 6A;”;

(c)“ystyr “sensitifrwydd” (“sensitivity”), mewn perthynas â dyfais, yw pa mor aml y mae’r ddyfais yn cynhyrchu canlyniad positif yn gywir;”;

(d)“ystyr “penodolrwydd” (“specificity”) mewn perthynas â dyfais, yw pa mor aml y mae’r ddyfais yn cynhyrchu canlyniad negyddol yn gywir;”.

(3Ar ôl rheoliad 6 (gwybodaeth am deithiwr nad yw ym meddiant neu o dan reolaeth person), mewnosoder—

RHAN 2AHysbysiad o ganlyniad prawf negyddol etc.

Gofyniad i feddu ar hysbysiad o ganlyniad prawf negyddol

6A.(1) Rhaid i berson (“P”) sy’n 11 oed neu drosodd sy’n cyrraedd Cymru o’r tu allan i’r ardal deithio gyffredin feddu wrth gyrraedd—

(a)ar hysbysiad dilys o ganlyniad negyddol i brawf cymhwysol a gymerwyd gan P, a

(b)pan fo P yn oedolyn sy’n cyrraedd Cymru gyda phlentyn sy’n 11 oed neu drosodd y mae gan P gyfrifoldeb drosto, ar hysbysiad dilys o ganlyniad negyddol o brawf cymhwysol a gymerwyd gan y plentyn.

(2) O ran P—

(a)pan fo’n meddu ar hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (1), a

(b)pan ofynnir iddo wneud hynny gan swyddog mewnfudo,

rhaid i P ddangos yr hysbysiad, naill ai’n ffisegol neu’n ddigidol, os gofynnir iddo wneud hynny gan swyddog mewnfudo.

(3) Nid yw paragraffau (1) a (2) yn gymwys i P os yw P yn blentyn o dan 11 oed sy’n cyrraedd Cymru gydag oedolyn sydd â chyfrifoldeb dros P.

(4) Ym mharagraffau (1) a (2), nid yw cyfeiriadau at P yn cynnwys—

(a)person a ddisgrifir ym mharagraff 2, 3, 4, 7, 8, 9, 10, 11, 12 neu 28 o Atodlen 2,

(b)gweithiwr cludiant ffyrdd fel y’i disgrifir ym mharagraff 6 o Atodlen 2.

(c)person a ddisgrifir mewn unrhyw is-baragraff o baragraff 3(1) o Atodlen 1A.

(5) At ddibenion y rheoliad hwn—

(a)mae prawf yn brawf cymhwysol os yw’n cydymffurfio â pharagraff 1 o Atodlen 1A,

(b)mae hysbysiad o ganlyniad negyddol yn ddilys os yw’n cynnwys yr wybodaeth a bennir ym mharagraff 2 o Atodlen 1A.

(4Yn rheoliad 14 (troseddau)—

(a)ar ôl paragraff (1)(a), mewnosoder —

(aa)6A(1) neu (2),,

(b)ar ôl paragraff (1), mewnosoder—

(1A) Ond nid yw person yn cyflawni trosedd pan fo’n torri gofyniad yn rheoliad 6A(1), os oedd yn credu’n rhesymol ar adeg y toriad fod hysbysiad o ganlyniad negyddol yn ei feddiant yn ymwneud â’r person neu â phlentyn y mae gan y person gyfrifoldeb drosto (yn ôl y digwydd), yn ddilys ac o brawf cymhwysol (at ddibenion y rheoliad hwnnw)..

(c)ar ôl paragraff (5), mewnosoder—

(5A) Mewn perthynas â throsedd o dorri rheoliad 6A(1), mae’r amgylchiadau y mae gan berson esgus rhesymol oddi tanynt yn cynnwys—

(a)pan oedd person yn anffit yn feddygol i ddarparu sampl ar gyfer prawf cymhwysol cyn teithio i Gymru ac yn meddu ar ddogfen, wedi ei llofnodi gan ymarferydd meddygol sydd â hawl i ymarfer yn y wlad neu’r diriogaeth y mae’r ymarferydd hwnnw wedi ei leoli ynddi, i’r perwyl hwnnw,

(b)pan nad oedd yn rhesymol ymarferol i berson gael prawf cymhwysol cyn teithio i Gymru oherwydd—

(i)anabledd,

(ii)yr angen i gael triniaeth feddygol frys,

(c)pan oedd person yn mynd gyda pherson a ddisgrifir yn is-baragraff (b) er mwyn darparu cymorth (boed feddygol neu fel arall) ac nad oedd yn rhesymol ymarferol i’r person a oedd yn mynd gydag ef gael prawf cymhwysol cyn teithio i Gymru,

(d)pan oedd person wedi dechrau ar ei daith i Gymru mewn gwlad neu diriogaeth lle nad oedd prawf cymhwysol ar gael i’r cyhoedd (gyda thaliad neu hebddo) neu nad oedd yn rhesymol ymarferol i berson gael prawf cymhwysol oherwydd diffyg mynediad rhesymol i brawf cymhwysol neu gyfleuster profi ac nad oedd yn rhesymol ymarferol iddo gael prawf cymhwysol yn ei fan ymadael diwethaf os oedd hwnnw’n wahanol i’r fan lle y dechreuodd ei daith,

(e)pan oedd yr amser y mae wedi ei gymryd i berson deithio o’r wlad neu’r diriogaeth lle y dechreuodd ar ei daith i wlad neu diriogaeth ei fan ymadael diwethaf cyn cyrraedd Cymru yn golygu nad oedd yn rhesymol ymarferol iddo fodloni’r gofyniad ym mharagraff 1(c) o Atodlen 1A, ac nad oedd yn rhesymol ymarferol iddo gael prawf cymhwysol yn ei fan ymadael diwethaf..

(5Yn rheoliad 16 (hysbysiadau cosb benodedig)—

(a)ym mharagraff (1)(a)(i), ar ôl “5(2),” mewnosoder “6A(1) neu (2)”.

(b)Ar ôl paragraff (6)(a), mewnosoder—

(aa)o dorri gofyniad a osodir gan reoliad 6A,.

(6Ar ôl Atodlen 1, mewnosoder—

Rheoliad 6A

ATODLEN 1AProfion cyn cyrraedd Cymru

1.  Mae prawf yn cydymffurfio â’r paragraff hwn—

(a)os yw’n brawf ar gyfer canfod y coronafeirws, sy’n—

(i)prawf adwaith cadwynol polymerasau, neu

(ii)prawf a gynhaliwyd gan ddefnyddio dyfais y mae’r gweithgynhyrchydd yn datgan bod ganddi—

(aa)sensitifrwydd o 80% o leiaf,

(bb)penodolrwydd o 97% o leiaf, a

(cc)terfyn canfod o lai na 100,000 o gopïau SARS-CoV-2 y mililitr neu’n hafal i hynny,

(b)os nad yw’n brawf a ddarperir neu a weinyddir o dan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006(5), Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006(6), Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Yr Alban) 1978(7), neu Orchymyn Gwasanaethau Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Personol (Gogledd Iwerddon) 1972(8), a

(c)os cymerir sampl y prawf o berson ddim mwy na 72 o oriau cyn—

(i)yn achos person sy’n teithio i Gymru ar wasanaeth trafnidiaeth masnachol, yr amser a amserlennwyd ar gyfer ymadawiad y gwasanaeth, neu

(ii)mewn unrhyw achos arall, amser ymadael gwirioneddol y llestr neu’r awyren y mae’r person hwnnw yn teithio arni i Gymru.

2.  Rhaid i hysbysiad o ganlyniad prawf negyddol gynnwys yr wybodaeth a ganlyn yn Saesneg, Ffrangeg neu Sbaeneg—

(a)enw’r person y cymerwyd y sampl ohono,

(b)dyddiad geni’r person hwnnw,

(c)canlyniad (negyddol) y prawf,

(d)y dyddiad y casglwyd sampl y prawf neu’r dyddiad y cafodd darparwr y prawf ef,

(e)datganiad bod y prawf yn—

(i)prawf adwaith cadwynol polymerasau, neu

(ii)prawf a gynhaliwyd gan ddefnyddio dyfais sydd â sensitifrwydd o 80% o leiaf a phenodolrwydd o 97% o leiaf, a therfyn canfod o lai na 100,000 o gopïau SARS-CoV-2 y mililitr neu’n hafal i hynny,

(f)enw gweithgynhyrchydd y ddyfais brofi a ddefnyddiwyd,

(g)enw darparwr y prawf.

3.(1) Y personau y cyfeirir atynt yn rheoliad 6A(4)(a) (nad yw’n ofynnol iddynt gydymffurfio â’r rheoliad hwnnw) yw—

(a)person a ddisgrifir ym mharagraff 8 o Atodlen 2, hyd yn oed os nad ydynt yn teithio i’r Deyrnas Unedig yng nghwrs eu gwaith neu eu dychweliad i’r Deyrnas Unedig yn unol â’r naill na’r llall o’r confensiynau y cyfeirir atynt yn y paragraff hwnnw,

(b)person a ddisgrifir yn—

(i)paragraff 13(1)(b) o Atodlen 2 pan fo’r Adran berthnasol, cyn i’r person ymadael i’r Deyrnas Unedig, wedi ardystio ei fod yn bodloni’r disgrifiad hwn ac nad yw’n ofynnol iddo gydymffurfio â rheoliad 6A, neu

(ii)paragraff 13A o Atodlen 2 pan fo’r Adran berthnasol, cyn i’r person ymadael i’r Deyrnas Unedig, hefyd wedi ardystio nad yw’n ofynnol iddo gydymffurfio â rheoliad 6A,

(c)gwas i’r Goron neu gontractwr llywodraeth (“C”) y mae’n ofynnol iddo ymgymryd â gwaith llywodraeth hanfodol neu blismona hanfodol yn y Deyrnas Unedig neu sy’n dychwelyd o wneud gwaith o’r fath y tu allan i’r Deyrnas Unedig pan fo’r Adran berthnasol, cyn i P ymadael i’r Deyrnas Unedig, wedi ardystio ei fod yn bodloni’r disgrifiad hwn ac nad yw’n ofynnol iddo gydymffurfio â rheoliad 6A,

(d)cynrychiolydd (“C”) gwlad neu diriogaeth dramor sy’n teithio i’r Deyrnas Unedig i gynnal busnes swyddogol gyda’r Deyrnas Unedig pan fo, cyn i C ymadael i’r Deyrnas Unedig—

(i)pennaeth perthnasol y genhadaeth, y swyddfa gonsylaidd neu’r swyddfa sy’n cynrychioli tiriogaeth dramor yn y Deyrnas Unedig, neu Lywodraethwr tiriogaeth dramor Brydeinig (yn ôl y digwydd), neu berson sy’n gweithredu ar ei awdurdod, yn cadarnhau yn ysgrifenedig i’r Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu ei bod yn ofynnol i C wneud gwaith sy’n hanfodol i’r wlad dramor a gynrychiolir gan y genhadaeth neu’r swyddfa gonsylaidd, y diriogaeth dramor a gynrychiolir gan y swyddfa neu’r diriogaeth dramor Brydeinig, a

(ii)y Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu wedi cadarnhau yn ysgrifenedig wedi hynny i’r person sy’n rhoi’r hysbysiad yn is-baragraff (i)—

(aa)ei bod wedi cael y cadarnhad hwnnw, a

(bb)bod C yn teithio i’r Deyrnas Unedig i gynnal busnes swyddogol gyda’r Deyrnas Unedig ac nad yw’n ofynnol iddo gydymffurfio â rheoliad 6A,

(e)gweithiwr sydd â sgiliau technegol arbenigol, pan fo angen y sgiliau technegol arbenigol hynny ar gyfer gwaith neu wasanaethau brys (gan gynnwys comisiynu, cynnal a chadw, ac atgyweirio a gwiriadau diogelwch) i sicrhau y parheir i gynhyrchu, cyflenwi, symud, gweithgynhyrchu, storio neu gadw nwyddau neu wasanaethau, pan fo’r gweithiwr wedi teithio i’r Deyrnas Unedig yng nghwrs ei waith neu fel arall i ddechrau neu ailddechrau gweithio.

(2) Yn is-baragraff (1)—

mae i “contractwr llywodraeth” (“government contractor”), “gwaith llywodraeth hanfodol” (“essential government work”) a “gwas i’r Goron” (“Crown servant”) a “plismona hanfodol” (“essential policing”) yr ystyron a roddir ym mharagraff 13(2) o Atodlen 2;

mae i “swyddfa gonsylaidd” (“consular post”) yr ystyr a roddir ym mharagraff 1(3) o Atodlen 2...

RHAN 3Atebolrwydd gweithredwyr mewn cysylltiad â chyrraedd

Dehongli

4.  Yn y Rhan hon—

ystyr “y gofyniad i feddu ar hysbysiad o ganlyniad prawf negyddol” (“the requirement to possess notification of a negative test result”) yw’r gofyniad yn rheoliad 6A(1) o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol;

ystyr “gwasanaeth teithwyr rhyngwladol” (“international passenger service”) yw gwasanaeth masnachol y mae teithwyr yn teithio ar lestr neu awyren arno o’r tu allan i’r ardal deithio gyffredin i borthladd yng Nghymru;

ystyr “gweithredwr” (“operator”) yw gweithredwr gwasanaeth teithwyr rhyngwladol;

ystyr “hysbysiad gofynnol” (“required notification”) yw hysbysiad dilys o ganlyniad prawf negyddol o brawf cymhwysol at ddibenion rheoliad 6A o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol—

(a)

a gymerwyd gan y person y mae’r hysbysiad hwnnw yn ei feddiant, neu

(b)

a gymerwyd gan blentyn ac a gaiff ei drin fel pe bai yn ei feddiant yn rhinwedd y rheoliad hwnnw;

ystyr “llestr” (“vessel”) yw pob disgrifiad o lestr a ddefnyddir wrth fordwyo (gan gynnwys hofrenfad o fewn ystyr “hovercraft“ yn Neddf Hofrenfadau 1968) y mae ei hyd yn 24 o fetrau neu fwy;

ystyr “person awdurdodedig” (“authorised person”) yw—

(c)

mewn perthynas â theithwyr sy’n cyrraedd ar lestr, yr Ysgrifennydd Gwladol;

(d)

mewn perthynas â theithwyr sy’n cyrraedd ar awyren, yr Awdurdod Hedfan Sifil(9);

ystyr “plentyn” (“child”) yw person o dan 18 oed;

mae “porthladd” (“port”) yn cynnwys maes awyr, maes hofrenyddion neu borthladd môr;

“prawf cymhwysol” (“qualifying test”) yw prawf sy’n brawf cymhwysol at ddiben rheoliad 6A o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol;

ystyr “swyddog mewnfudo” (“immigration officer”) yw person a benodwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol yn swyddog mewnfudo o dan baragraff 1 o Atodlen 2 i Ddeddf Mewnfudo 1971(10);

ystyr “teithiwr” (“passenger”) yw person sy’n teithio ar wasanaeth teithwyr rhyngwladol nad yw’n aelod o griw y gwasanaeth hwnnw;

ystyr “teithiwr perthnasol” (“relevant passenger”) yw teithwyr sy’n methu, heb esgus rhesymol, â dangos hysbysiad pan ofynnir iddo wneud hynny gan swyddog mewnfudo yn unol â rheoliad 6A(2) o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol;

ystyr “unigolyn cyfrifol” (“responsible individual”) yw unigolyn—

(a)

sydd â gwarchodaeth neu ofal am y plentyn am y tro, neu

(b)

sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn o fewn yr ystyr a roddir i “parental responsibility” yn adran 3 o Ddeddf Plant 1989(11).

Gofyniad i sicrhau bod teithwyr yn meddu ar hysbysiad o ganlyniad prawf negyddol

5.—(1Rhaid i weithredwr sicrhau bod teithiwr sy’n cyrraedd Cymru ar wasanaeth teithwyr rhyngwladol yn meddu ar hysbysiad gofynnol.

(2Nid yw paragraff (1) yn gymwys mewn perthynas â theithiwr—

(a)y mae’r gweithredwr, neu berson sy’n gweithredu ar ran y gweithredwr, yn credu’n rhesymol nad yw’n ofynnol iddo gydymffurfio â’r gofyniad i feddu ar hysbysiad o ganlyniad prawf negyddol neu fod ganddo esgus rhesymol dros fethu â chydymffurfio â’r gofyniad hwnnw;

(b)sy’n blentyn, sy’n teithio heb unigolyn cyfrifol; neu

(c)sy’n deithiwr tramwy, sydd â hawl i breswylio yn y Deyrnas Unedig ac nad oes ganddo’r hawl i ddod i’r wlad neu’r diriogaeth y mae’r gwasanaeth teithwyr rhyngwladol yn ymadael ohoni.

(3Yn y rheoliad hwn, ystyr “teithiwr tramwy” yw person sydd wedi cyrraedd y wlad neu’r diriogaeth y mae’r gwasanaeth teithwyr rhyngwladol yn ymadael ohoni gyda’r bwriad o fynd drwyddi i Gymru heb fynd i’r wlad honno neu’r diriogaeth honno.

Troseddau

6.—(1Mae gweithredwr sy’n methu â chydymffurfio â’r gofyniad yn rheoliad 5(1) yn cyflawni trosedd.

(2Mae trosedd o dan baragraff (1) i’w chosbi ar gollfarn ddiannod drwy ddirwy.

(3Mewn perthynas â’r drosedd ym mharagraff (1), mae’n amddiffyniad i weithredwr ddangos bod y teithiwr perthnasol wedi dangos dogfen sy’n honni ei bod yn hysbysiad gofynnol na ellid bod wedi disgwyl yn rhesymol i’r gweithredwr, neu berson sy’n gweithredu ar ran y gweithredwr, wybod nad oedd yn hysbysiad gofynnol.

Hysbysiadau cosb benodedig

7.—(1Caiff person awdurdodedig ddyroddi hysbysiad cosb benodedig i unrhyw weithredwr y mae’r person awdurdodedig yn credu’n rhesymol ei fod wedi cyflawni trosedd o dan reoliad 6(1).

(2Hysbysiad yw hysbysiad cosb benodedig sy’n cynnig i’r gweithredwr y’i dyroddir iddo y cyfle i gael ei ryddhau o unrhyw atebolrwydd am euogfarn am y drosedd drwy dalu cosb benodedig i—

(a)Gweinidogion Cymru; neu

(b)person sydd wedi ei ddynodi gan Weinidogion Cymru at ddibenion cael taliad o dan y rheoliad hwn.

(3Pan ddyroddir hysbysiad i weithredwr o dan baragraff (1) mewn cysylltiad â throsedd—

(a)ni chaniateir dwyn unrhyw achos am y drosedd cyn diwedd y cyfnod o 28 o ddiwrnodau yn dilyn y dyddiad y dyroddir yr hysbysiad;

(b)ni chaniateir euogfarnu’r gweithredwr o’r drosedd os yw’r gweithredwr yn talu’r gosb benodedig cyn diwedd y cyfnod hwnnw.

(4Rhaid i hysbysiad cosb benodedig—

(a)rhoi manylion rhesymol fanwl yr amgylchiadau yr honnir eu bod yn ffurfio’r drosedd, gan gynnwys enw’r teithiwr perthnasol;

(b)datgan y cyfnod pan (oherwydd paragraff (3)(a)) na ddygir achos am y drosedd;

(c)pennu swm y gosb benodedig;

(d)datgan enw a chyfeiriad y person y caniateir talu’r cosb benodedig iddo neu y mae tystiolaeth o’r amddiffyniad i’w darparu iddo; ac

(e)pennu dulliau o dalu a ganiateir.

(5Swm yr hysbysiad cosb benodedig at ddibenion paragraff (4)(c) yw £1,000.

(6Mewn unrhyw achos, mae tystysgrif—

(a)sy’n honni ei bod wedi ei llofnodi ar ran—

(i)Gweinidogion Cymru, neu

(ii)unrhyw berson sydd wedi ei ddynodi gan Weinidogion Cymru o dan baragraff (2)(b), a

(b)sy’n datgan bod y taliad am y gosb benodedig wedi dod i law, neu heb ddod i law, erbyn y dyddiad a bennir yn y dystysgrif,

yn dystiolaeth o’r ffeithiau a ddatgenir.

Erlyn

8.  Ni chaniateir dwyn achos am drosedd o dan reoliad 6(1) ond gan berson awdurdodedig.

Pŵer i ddefnyddio ac i ddatgelu gwybodaeth

9.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i unrhyw berson (“P”) sy’n dal gwybodaeth a ddisgrifir ym mharagraff (2) sy’n ymwneud â theithiwr perthnasol (“gwybodaeth berthnasol”).

(2Yr wybodaeth y cyfeirir ati ym mharagraff (1) yw—

(a)gwybodaeth a ddarparwyd gan y teithiwr perthnasol neu ar ei ran fel esboniad am fethu â chydymffurfio â rheoliad 6A o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol,

(b)gwybodaeth am y camau a gymerwyd, yn unol â’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol, mewn perthynas â’r teithiwr perthnasol, gan gynnwys manylion unrhyw hysbysiad cosb benodedig a ddyroddwyd o dan y Rheoliadau hynny,

(c)manylion personol y teithiwr perthnasol, gan gynnwys ei—

(i)enw llawn,

(ii)dyddiad geni,

(iii)rhif basbort, neu gyfeirnod dogfen deithio (fel y bo’n briodol), dyddiadau dyroddi a dod i ben a’r awdurdod dyroddi,

(iv)cyfeiriad cartref,

(v)rhif ffôn,

(vi)cyfeiriad e-bost,

(d)manylion taith y teithiwr perthnasol, gan gynnwys—

(i)yr amser a’r dyddiad y cyrhaeddodd Gymru,

(ii)enw gweithredwr y gwasanaeth teithwyr rhyngwladol y cyrhaeddodd arno neu yr archebwyd ei daith drwyddo,

(iii)rhif yr hediad neu enw’r llestr,

(iv)lleoliadau ymadael a chyrraedd y gwasanaeth teithwyr rhyngwladol.

(3Ni chaiff P ddefnyddio gwybodaeth berthnasol ond pan fo’n angenrheidiol at ddiben cyflawni swyddogaeth o dan y Rheoliadau hyn.

(4Ni chaiff P ddatgelu gwybodaeth berthnasol i berson arall (“y derbynnydd”) ond pan fo’n angenrheidiol i’r derbynnydd gael yr wybodaeth berthnasol at ddiben cyflawni swyddogaeth o dan y Rheoliadau hyn.

(5Nid yw’r rheoliad hwn yn cyfyngu ar yr amgylchiadau y caniateir datgelu gwybodaeth yn gyfreithlon fel arall o dan unrhyw ddeddfiad arall neu reol gyfreithiol arall.

(6Nid oes unrhyw beth yn y rheoliad hwn yn awdurdodi defnyddio neu ddatgelu data personol pan fo gwneud hynny yn torri’r ddeddfwriaeth diogelu data.

(7At ddibenion y rheoliad hwn, mae i “data personol” a “deddfwriaeth diogelu data” yr un ystyron â “personal data” a “data protection legislation” yn adran 3 o Ddeddf Diogelu Data 2018(12).

Adolygu

10.  Rhaid i Weinidogion Cymru adolygu’r angen am y gofyniad a osodir gan reoliad 5 o’r Rheoliadau hyn erbyn 8 Chwefror 2021 ac o leiaf unwaith bob 28 o ddiwrnodau ar ôl y dyddiad hwnnw.

Dod i ben

11.—(1Daw’r Rheoliadau hyn i ben ar ddiwedd 7 Mehefin 2021.

(2Nid yw’r ffaith bod y Rheoliadau hyn yn dod i ben yn effeithio ar ddilysrwydd unrhyw beth a wneir yn unol â’r Rheoliadau hyn cyn iddynt ddod i ben.

Vaughan Gething

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

Am 3.00 p.m. ar 15 Ionawr 2021

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud mewn ymateb i’r perygl i iechyd y cyhoedd a berir gan fynychder a lledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru. Mae adran 45B o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 yn galluogi Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, i wneud darpariaeth at ddiben (ymysg pethau eraill) atal perygl i iechyd y cyhoedd o lestrau, awyrennau, trenau neu gludiant arall sy’n cyrraedd unrhyw le (“vessels, aircraft, trains or other conveyances arriving at any place”).

Mae Rhan 2 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/574 (Cy. 132)) (“y “Rheoliadau Teithio Rhyngwladol”) i gyflwyno gofyniad i bersonau sy’n teithio i Gymru o’r tu allan i’r ardal ffiniau agored feddu ar hysbysiad o brawf coronafeirws negyddol wrth gyrraedd Cymru.

Mae rheoliad 3(2) o’r Rheoliadau hyn yn mewnosod rheoliad 6A newydd yn y Rheoliadau Teithio Rhyngwladol, sy’n nodi’r gofynion hysbysu ac yn rhoi manylion personau sy’n esempt rhag y gofynion hyn. Mae rheoliad 6A hefyd yn cyfeirio at Atodlen 1A newydd i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol, a fewnosodir gan reoliad 3(6) ac sy’n rhoi manylion pellach ynghylch beth yw prawf a hysbysiad dilys at ddibenion rheoliad 6A ac sy’n rhoi manylion pellach mewn perthynas â chategorïau o bersonau esempt.

Mae rheoliad 3(3) yn diwygio rheoliad 14 o’r Reoliadau Teithio Rhyngwladol fel bod torri’r gofynion yn rheoliad 6A yn drosedd ac yn rhoi rhestr nad yw’n hollgynhwysfawr o esgusodion rhesymol y gellir eu cyflwyno fel amddiffyniad.

Mae rheoliad 3(4) yn diwygio rheoliad 16 o’r Reoliadau Teithio Rhyngwladol fel y gellir dyroddi hysbysiad cosb benodedig mewn perthynas â throsedd a gyflawnwyd o dan reoliad 6A.

Mae Rhan 3 o’r Rheoliadau hyn yn cyflwyno gofyniad i bersonau sy’n gweithredu gwasanaethau rhyngwladol i deithwyr (“gweithredwyr”) sy’n cyrraedd Cymru o’r tu allan i’r ardal deithio gyffredin i sicrhau bod teithwyr ar wasanaethau o’r fath yn meddu ar hysbysiad o ganlyniad prawf negyddol (rheoliad 5(1)). Mae torri’r gofyniad hwn yn drosedd (rheoliad 6(1)).

Mae rheoliad 7 yn caniatáu i berson awdurdodedig ymdrin â throsedd o dan reoliad 6(1) drwy hysbysiad cosb benodedig. Rhaid i hysbysiad cosb benodedig roi manylion y drosedd, gan gynnwys enw’r teithiwr sydd wedi methu â darparu hysbysiad o ganlyniad prawf negyddol.

Nid oes asesiad effaith llawn wedi ei gwblhau oherwydd natur frys yr offeryn hwn. Mae Memorandwm Esboniadol wedi ei gyhoeddi ochr yn ochr â’r offeryn hwn ar www.legislation.gov.uk.

(1)

1984 p. 22. Mewnosodwyd Rhan 2A gan adran 129 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2008 (p. 14).

(2)

1971 p. 77. Mae adran 1(3) yn darparu y cyfeirir at y Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw a Gweriniaeth Iwerddon gyda’i gilydd yn y Ddeddf honno fel “the common travel area”.

(4)

O.S. 2002/618, y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(9)

Mae’r Awdurdod Hedfan Sifil yn gorff corfforedig a sefydlwyd gan adran 1 o Ddeddf Hedfan Sifil 1971 (p. 75).

(10)

1971 p. 77. Diwygiwyd paragraff 1 gan baragraff 3 o Atodlen 3 i Ddeddf yr Asiantaeth Diogelu Iechyd 2004 (p. 17), a chan O.S. 1993/1813.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources