Search Legislation

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) 2021

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2021 Rhif 57 (Cy. 13)

Iechyd Y Cyhoedd, Cymru

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) 2021

Cymeradwywyd gan Senedd Cymru

Gwnaed

am 12.48 p.m. ar 19 Ionawr 2021

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

am 5.30 p.m. ar 19 Ionawr 2021

Coming into force

20 Ionawr 2021

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 45C(1) a (3)(c), 45F(2) a 45P(2) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984(1).

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud mewn ymateb i’r bygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd a berir gan fynychder a lledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru.

Mae Gweinidogion Cymru yn ystyried bod y cyfyngiadau a’r gofynion a osodir gan y Rheoliadau hyn yn gymesur â’r hyn y maent yn ceisio ei gyflawni, sef ymateb iechyd y cyhoedd i’r bygythiad hwnnw.

Yn unol ag adran 45R o’r Ddeddf honno, oherwydd brys, mae Gweinidogion Cymru o’r farn ei bod yn angenrheidiol gwneud yr offeryn hwn heb fod drafft wedi ei osod gerbron Senedd Cymru ac wedi ei gymeradwyo ganddi drwy benderfyniad.

Enwi a dod i rym

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) 2021.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 20 Ionawr 2021.

Diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020

2.—(1Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020(2) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 16—

(a)o flaen paragraff (1)(a), mewnosoder—

(za)cynnal asesiad penodol o’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws yn y fangre ac, wrth wneud hynny, ymgynghori â phersonau sy’n gweithio yn y fangre neu gynrychiolwyr y personau hynny;

(b)ar ôl paragraff (2), mewnosoder—

(3) Rhaid i asesiad o dan baragraff (1)(za)—

(a)bodloni gofynion rheoliad 3 o Reoliadau Rheoli Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1999(3) (“Rheoliadau 1999”), a

(b)cael ei gynnal—

(i)pa un a yw’r person cyfrifol eisoes wedi cynnal asesiad o dan y rheoliad hwnnw ai peidio, a

(ii)pa un a yw’r rheoliad hwnnw yn gymwys i’r person cyfrifol ai peidio.

(4) At ddibenion paragraff (3)—

(a)mae rheoliad 3 o Reoliadau 1999 i’w ddarllen fel pe bai’r geiriau “by regulations 16, 17 and 17A of the Health Protection (Coronavirus Restrictions) (No. 5) (Wales) Regulations 2020” wedi eu rhoi yn lle “by or under the relevant statutory provisions and by Part II of the Fire Precautions (Workplace) Regulations 1997”, yn y ddau le y maent yn digwydd, a

(b)os na fyddai rheoliad 3 o Reoliadau 1999 yn gymwys i berson cyfrifol oni bai am baragraff (3)(b)(ii)—

(i)mae’r rheoliad hwnnw i’w drin fel pe bai’n gymwys i’r person fel pe bai’r person yn gyflogwr, a

(ii)mae personau sy’n gweithio yn y fangre i’w trin, at ddibenion y rheoliad hwnnw fel y mae’n gymwys yn rhinwedd paragraff (3)(b)(ii), fel pe baent wedi eu cyflogi gan y person cyfrifol.

(3Yn rheoliad 17—

(a)yn lle paragraffau (1) a (2) rhodder—

(1) Pan fo rheoliad 16(1) yn gymwys i berson sy’n gyfrifol am fangre sydd wedi ei hawdurdodi ar gyfer gwerthu neu gyflenwi alcohol i’w yfed yn y fangre, mae’r mesurau sydd i’w cymryd gan y person cyfrifol yn cynnwys y canlynol (ond nid ydynt yn gyfyngedig iddynt)—

(a)cael person sy’n rheoli mynediad i’r fangre ac sy’n dyrannu cyfnod amser cyfyngedig y caiff cwsmeriaid aros yn y fangre ar ei gyfer;

(b)ei gwneud yn ofynnol i gwsmeriaid fod yn eistedd yn y fangre yn unrhyw le ac eithrio wrth far—

(i)pan fyddant yn archebu bwyd neu ddiod,

(ii)pan weinir bwyd neu ddiod iddynt, a

(iii)pan fyddant yn bwyta neu’n yfed.;

(b)ym mharagraff (4), yn lle “(2)” rhodder “(1)”.

(4Ar ôl rheoliad 17, mewnosoder—

Mesurau penodol sy’n gymwys i fangreoedd manwerthu

17A.  Pan fo rheoliad 16(1) yn gymwys i berson sy’n gyfrifol am fangre fanwerthu busnes sy’n cynnig nwyddau neu wasanaethau ar gyfer eu gwerthu neu eu llogi yn y fangre honno (gan gynnwys busnesau sy’n gwerthu bwyd neu ddiod i’w fwyta neu i’w hyfed oddi ar y fangre), mae’r mesurau sydd i’w cymryd gan y person cyfrifol yn cynnwys y canlynol (ond nid ydynt yn gyfyngedig iddynt)—

(a)mesurau ar gyfer rheoli mynediad i’r fangre a chyfyngu ar nifer y cwsmeriaid sydd yn y fangre ar unrhyw adeg;

(b)darparu cynhyrchion diheintio dwylo neu gyfleusterau golchi dwylo i’w defnyddio gan gwsmeriaid pan fyddant yn mynd i’r fangre ac yn ymadael â hi;

(c)mesurau i ddiheintio unrhyw fasgedi, trolïau neu gynwysyddion tebyg a ddarperir i gwsmeriaid eu defnyddio yn y fangre;

(d)er mwyn atgoffa cwsmeriaid i gynnal pellter o 2 fetr rhyngddynt ac i wisgo gorchudd wyneb—

(i)arddangos arwyddion a chymhorthion gweledol eraill;

(ii)gwneud cyhoeddiadau yn rheolaidd.

(5Yn rheoliad 18(1), yn lle “neu 17(1)” rhodder “, 17(1) neu 17A”.

(6Yn rheoliad 25(3)(a)(i), yn lle “neu 17(1)” rhodder “, 17(1) neu 17A”.

(7Yn rheoliad 26, yn lle “a 17(1)” rhodder “, 17(1) a 17A”.

(8Ym mharagraff 6(5)(e) o Atodlen 1, yn y testun Saesneg, hepgorer “and is” yn y lle cyntaf y mae’n digwydd.

(9Ym mharagraff 6(5)(e) o Atodlen 2, yn y testun Saesneg, hepgorer “and is” yn y lle cyntaf y mae’n digwydd.

(10Ym mharagraff 6(5)(e) o Atodlen 3, yn y testun Saesneg, hepgorer “and is” yn y lle cyntaf y mae’n digwydd.

(11Yn Atodlen 4, ar ôl paragraff 6 mewnosoder—

RHAN 3ACyfyngiadau ar fynd i ysgolion a sefydliadau addysg bellach

Cyfyngiadau ar fynd i fangreoedd ysgolion

6A.(1) Ni chaiff perchennog ysgol yng Nghymru ganiatáu i ddisgybl fynd i fangre’r ysgol.

(2) Ond nid yw is-baragraff (1) yn atal perchennog rhag caniatáu—

(a)i ddisgybl fynd i fangre ysgol—

(i)i sefyll arholiad neu wneud asesiad arall;

(ii)pa fo perchennog yr ysgol y mae’r disgybl wedi ei gofrestru ynddi yn hysbysu rhiant y disgybl ei fod yn ystyried ei bod yn briodol i’r disgybl fynd yno oherwydd hyglwyfedd y disgybl;

(iii)pan—

(aa)bo’r awdurdod lleol sy’n cynnal yr ysgol y mae’r disgybl wedi ei gofrestru ynddi, neu

(bb)perchennog yr ysgol annibynnol y mae’r disgybl wedi ei gofrestru ynddi,

yn penderfynu bod y disgybl yn blentyn i weithiwr hanfodol;

(b)disgybl rhag mynd i fangre ysgol arbennig;

(c)disgybl rhag mynd i fangre uned cyfeirio disgyblion;

(d)disgybl rhag mynd i fangre uned mewn ysgol, pan—

(i)bo awdurdod lleol yn cydnabod bod yr uned wedi ei neilltuo ar gyfer disgyblion ag anghenion addysgol arbennig, a

(ii)bo’r disgybl yn cael ei addysgu’n gyfan gwbl neu’n bennaf yn yr uned;

(e)disgybl sy’n ddisgybl preswyl rhag preswylio mewn llety ym mangre’r ysgol.

(3) Wrth benderfynu a yw disgybl yn blentyn i weithiwr hanfodol, rhaid i’r awdurdod lleol neu berchennog ysgol annibynnol roi sylw i unrhyw ganllawiau a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru ynghylch adnabod plant gweithwyr hanfodol.

Cyfyngiad ar fynd i fangre addysg bellach

6B.(1) Ni chaiff perchennog sefydliad addysg bellach yng Nghymru ganiatáu i fyfyriwr fynd i fangre’r sefydliad addysg bellach.

(2) Ond nid yw is-baragraff (1) yn atal perchennog rhag caniatáu i fyfyriwr fynd i fangre—

(a)sefydliad addysg bellach i sefyll arholiad neu wneud asesiad arall;

(b)sefydliad yn y sector addysg bellach pan fo’r sefydliad yn hysbysu’r myfyriwr ei fod yn ystyried ei bod yn briodol i’r myfyriwr fynd yno oherwydd hyglwyfedd y myfyriwr.

Gorfodi

6C.  Mae unrhyw fethiant gan berchennog i gydymffurfio â pharagraff 6A neu 6B yn orfodadwy drwy gais am waharddeb gan Weinidogion Cymru neu gan yr awdurdod lleol y digwyddodd y methiant honedig yn ei ardal i’r Uchel Lys neu’r Llys Sirol, heb rybudd.

Dehongli Rhan 3A

6D.  Yn y Rhan hon—

(a)ystyr “Deddf 1996” yw Deddf Addysg 1996(4);

(b)mae i “disgybl preswyl” yr ystyr a roddir i “boarder” gan adran 579 o Ddeddf 1996;

(c)ystyr “sefydliad addysg bellach” yw—

(i)sefydliad yn y sector addysg bellach;

(ii)darparwr addysg neu hyfforddiant o fewn ystyr “education or training” yn adran 31(1)(a) neu (b) neu 32(1)(a) neu (b) o Ddeddf Dysgu a Sgiliau 2000(5)

(aa)nad yw’n sefydliad o fewn ystyr paragraff (i),

(bb)nad yw’n sefydliad yn y sector addysg uwch o fewn ystyr “higher education sector” yn adran 91(5) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992(6), ac

(cc)sy’n cael cyllid i ddarparu’r addysg honno neu’r hyfforddiant hwnnw gan Weinidogion Cymru neu awdurdod lleol,

ond nid yw’n cynnwys cyflogwr sy’n ddarparwr dim ond am fod y cyflogwr yn darparu addysg neu hyfforddiant o’r fath i’w gyflogeion;

(d)mae i “ysgol annibynnol” yr ystyr a roddir i “independent school” gan adran 463 o Ddeddf 1996;

(e)mae i “sefydliad o fewn y sector addysg bellach” yr ystyr a roddir i “institutions within the further education sector” gan adran 91(3) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992;

(f)mae i “rhiant” yr ystyr a roddir i “parent” gan adran 576 o Ddeddf 1996;

(g)mae i “perchennog” yr ystyr a roddir i “proprietor” gan adran 579 o Ddeddf 1996 mewn perthynas ag ysgol a’i ystyr, mewn perthynas â sefydliad nad yw’n ysgol, yw’r person neu’r corff o bersonau sy’n gyfrifol am reoli’r sefydliad;

(h)mae i “disgybl” yr ystyr a roddir i “pupil” gan adran 3 o Ddeddf 1996;

(i)mae i “uned cyfeirio disgyblion” yr ystyr a roddir i “pupil referral unit” gan adran 19 o Ddeddf 1996;

(j)mae i “anghenion addysgol arbennig” yr ystyr a roddir i “special educational needs” gan adran 312 o Ddeddf 1996;

(k)ystyr “ysgol arbennig” yw—

(i)ysgol arbennig o fewn yr ystyr a roddir i “special school” gan adran 337 o Ddeddf 1996;

(ii)ysgol annibynnol sy’n darparu’n gyfan gwbl neu’n bennaf addysg ar gyfer disgyblion ag anghenion addysgol arbennig;

(l)mae i “ysgol” yr ystyr a roddir i “school” gan adran 4 o Ddeddf 1996.

(12Yn Atodlen 8—

(a)ym mharagraff 1—

(i)yn is-baragraff (1)(a), yn lle “neu 17” rhodder “, 17 neu 17A”;

(ii)yn is-baragraff (2)(b), yn lle “neu 17” rhodder “, 17 neu 17A”;

(b)ym mharagraff 2—

(i)yn is-baragraff (3)(a), yn lle “neu 17” rhodder “, 17 neu 17A”;

(ii)yn is-baragraff (4)(b)(ii), yn lle “neu 17” rhodder “, 17 neu 17A”;

(iii)yn is-baragraff (4)(c), yn lle “neu 17” rhodder “, 17 neu 17A”;

(c)ym mharagraff 3(3)(c), ar ôl “17” mewnosoder “neu 17A”;

(d)ym mharagraff 4(1)(b), ar ôl “17” mewnosoder “neu 17A”.

Diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Swyddogaethau Awdurdodau Lleol etc.) (Cymru) 2020

3.—(1Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Swyddogaethau Awdurdodau Lleol etc.) (Cymru) 2020(7) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 3(1), yn lle “19 Chwefror” rhodder “31 Mawrth”.

(3Yn rheoliad 6—

(a)yn lle paragraff (2) rhodder—

(2) Wrth ystyried a yw’r amodau iechyd y cyhoedd wedi eu bodloni, rhaid i awdurdod lleol, yn benodol, roi sylw i a yw pobl yn ymgynnull, neu’n debygol o ymgynnull, yn y digwyddiad yn groes i ba un bynnag o’r darpariaethau a ganlyn o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020 sy’n gymwys i’r ardal lle y cynhelir y digwyddiad neu lle y bwriedir cynnal y digwyddiad—

(a)paragraff 2 o Atodlen 1;

(b)paragraff 2 o Atodlen 2;

(c)paragraff 2 o Atodlen 3;

(d)paragraff 2 o Atodlen 4.

(b)hepgorer paragraff (8).

Dirymu

4.  Mae’r Rheoliadau a ganlyn wedi eu dirymu —

(a)Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Chyfyngiadau) (Diwygio) (Cymru) 2020(8);

(b)rheoliad 7 o Reoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Chyfyngiadau) (Diwygio) (Rhif 2) (Cymru) 2020(9);

(c)rheoliad 2 o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws a Swyddogaethau Awdurdodau Lleol) (Diwygio) (Cymru) 2020(10);

(d)rheoliadau 4 a 5 o Reoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Chyfyngiadau) (Diwygio) (Rhif 3) (Cymru) 2020(11);

(e)Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 4) (Cymru) (Diwygio) 2020(12).

Mark Drakeford

Y Prif Weinidog, un o Weinidogion Cymru

Am 12.48 p.m. ar 19 Ionawr 2021

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae Rhan 2A o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 yn galluogi Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, i wneud darpariaeth at ddiben atal, diogelu rhag, rheoli neu ddarparu ymateb iechyd y cyhoedd i fynychder neu ledaeniad haint neu halogiad yng Nghymru.

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud mewn ymateb i’r bygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd a berir gan fynychder a lledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru.

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/1609 (Cy. 335)) (“y Rheoliadau Cyfyngiadau”) er mwyn—

(a)ei gwneud yn ofynnol i bob person sy’n ddarostyngedig i’r rhwymedigaeth yn rheoliad 16 i gymryd mesurau i leihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws yn ei fangre gynnal asesiad penodol o’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws yn y fangre honno ac ymgynghori ar hynny;

(b)gwneud darpariaeth benodol ynghylch y mesurau y mae rhaid eu cymryd i leihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws mewn mangreoedd manwerthu;

(c)gwneud darpariaeth sy’n gosod dyletswyddau ar berchnogion ysgolion a sefydliadau addysg bellach i atal disgyblion neu fyfyrwyr rhag mynd i’w mangreoedd, yn ddarostyngedig i rai eithriadau cyfyngedig;

(d)gwneud newidiadau canlyniadol a mân newidiadau eraill i sicrhau cysondeb â’r darpariaethau newydd.

Mae’r Rheoliadau hefyd yn diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Swyddogaethau Awdurdodau Lleol etc.) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/1011 (Cy. 225)) (“y Rheoliadau Swyddogaethau Awdurdodau Lleol”). Mae’r diwygiad yn ganlyniadol ar wneud y Rheoliadau Cyfyngiadau ac mae’n ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol, wrth benderfynu pa un ai i roi cyfarwyddyd digwyddiad o dan y Rheoliadau Swyddogaethau Awdurdodau Lleol, roi sylw i a all y digwyddiad arwain at bobl yn ymgynnull yn groes i’r Atodlen berthnasol i’r Rheoliadau Cyfyngiadau. Mae’r Rheoliadau hefyd yn dirymu deddfiadau sydd wedi eu disbyddu sy’n ymwneud â Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 4) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/1219 (Cy. 276)).

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ni luniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

(1)

1984 p. 22. Mewnosodwyd adrannau 45C, 45F a 45P gan adran 129 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2008 (p. 14). Mae’r swyddogaethau o dan yr adrannau hyn wedi eu rhoi i “the appropriate Minister” (“y Gweinidog priodol”). O dan adran 45T(6) o Ddeddf 1984, y Gweinidog priodol, o ran Cymru, yw Gweinidogion Cymru.

(3)

O.S. 1999/3242. Diwygiwyd rheoliad 3 gan O.S. 2005/1541, O.S. 2015/21 ac O.S. 2015/1637.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources