Search Legislation

Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2021

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2021 Rhif 813 (Cy. 192)

Addysg, Cymru

Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2021

Gwnaed

7 Gorffennaf 2021

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

9 Gorffennaf 2021

Yn dod i rym

1 Awst 2021

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer pwerau a roddir i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 1 a 2 o Ddeddf Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) 1983(1) ac adrannau 22(2)(a) ac (c) a 42(6) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998(2) ac sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy(3):

Enwi a chychwyn

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2021.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Awst 2021.

Diwygiad i Reoliadau Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) (Cymru) 2007

2.  Yn nhestun Cymraeg rheoliad 2 (dehongli) o Reoliadau Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) (Cymru) 2007(4), o flaen “mae “addysg”” mewnosoder rhif paragraff “(1)”.

Diwygiadau i Reoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2017

3.  Mae Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2017(5) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

4.  Yn rheoliad 46 (myfyrwyr sy’n preswylio gyda’u rhieni)—

(a)ym mharagraff (1) yn lle “(“A” yn y paragraff hwn)” rhodder “(“A” yn y rheoliad hwn)”;

(b)ar y diwedd mewnosoder—

(3) Yn ddarostyngedig i baragraff (4), pan fo A yn preswylio yng nghartref rhieni A am reswm nad yw ond yn ymwneud â’r coronafeirws, caiff A ei drin fel pe na bai A yn preswylio yng nghartref rhieni A.

(4) Nid yw paragraff (3) yn gymwys pan fo A yn gofyn bod Gweinidogion Cymru yn ei drin fel pe bai’n preswylio yng nghartref ei rieni.

5.  Yn rheoliad 52 (dehongli Rhan 6), ar ôl paragraff (f) mewnosoder—

(fa)ystyr “coronafeirws” (“coronavirus”) yw coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2);

6.  Yn rheoliadau 49(2)(h) a 111(2)(e) yn lle “y person yn dod yn berson” rhodder “y myfyriwr yn dod yn berson”.

7.  Yn Atodlen 1—

(a)yn nhestun Cymraeg paragraff 1(5)(b) yn lle’r atalnod llawn rhodder “; ac”;

(b)yn nhestun Saesneg paragraff 11A(a) yn lle “agreements” rhodder “agreement”.

Diwygiadau i Reoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018

8.  Mae Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018(6) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

9.  Yn rheoliad 86 (myfyrwyr sy’n byw mewn mwy nag un lleoliad), ar y diwedd mewnosoder—

(4) Yn ddarostyngedig i baragraff (5), pan fo myfyriwr cymwys yn byw gartref am reswm nad yw ond yn ymwneud â’r coronafeirws, caiff y myfyriwr cymwys ei drin fel pe bai’n byw yn y categori o leoliad y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried y byddai’r myfyriwr cymwys wedi bod yn byw ynddo oni bai am y rheswm hwnnw.

(5) Nid yw paragraff (4) yn gymwys pan fo myfyriwr cymwys wedi gofyn am gael ei drin fel pe bai’n byw gartref.

10.  Yn lle “y person yn dod yn berson” rhodder “y myfyriwr yn dod yn berson” lle y mae’n digwydd yn—

(a)rheoliad 80(2)(b)(v);

(b)rheoliad 81(3)(b)(iv);

(c)Atodlen 4, paragraff 14(3)(b)(iv); a

(d)Atodlen 5, paragraff 4(2)(e).

Diwygiad i Reoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Graddau Meistr Ôl-raddedig) (Cymru) 2019

11.  Yn nhestun Cymraeg Atodlen 2 i Reoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Graddau Meistr Ôl-raddedig) (Cymru) 2019(7), ym mharagraff 7A(1)(d) yn lle “fer” rhodder “fel”.

Jeremy Miles

Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, un o Weinidogion Cymru

7 Gorffennaf 2021

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) (Cymru) 2007 (“Rheoliadau 2007”), Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2017 (“Rheoliadau 2017”), Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018 (“Rheoliadau 2018”) a Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Graddau Meistr Ôl-raddedig) (Cymru) 2019 (“Rheoliadau 2019”).

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio darpariaethau yn Rheoliadau 2017 a Rheoliadau 2018 sy’n ymwneud â swm y cymorth cynhaliaeth sy’n daladwy i fyfyriwr cymwys drwy gyfeirio at y man lle y mae’n byw yn ystod y chwarteri y mae’r cymorth hwnnw yn daladwy ynddynt. Mae’r diwygiadau yn darparu bod myfyriwr cymwys sy’n byw gyda’i rieni am reswm nad yw ond yn ymwneud â’r coronafeirws yn cael ei drin fel pe bai’n byw yn y lleoliad y byddai wedi bod yn byw ynddo oni bai am y rheswm hwnnw, oni bai bod y myfyriwr yn gofyn fel arall.

Mae’r Rheoliadau hyn hefyd yn cywiro gwallau teipograffyddol yn Rheoliadau 2007, Rheoliadau 2017, Rheoliadau 2018 a Rheoliadau 2019.

(1)

1983 p. 40; diwygiwyd adran 1 gan Ddeddf Diwygio Addysg 1988 (p. 40), Atodlen 12, paragraff 91; Deddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 (p. 13), Atodlen 8, paragraff 19; Deddf Addysg 1994 (p. 30), Atodlen 2, paragraff 7; Deddf Addysg 1996 (p. 56), Atodlen 37, paragraff 57; Deddf Dysgu a Sgiliau 2000 (p. 21), Atodlen 9, paragraffau 1 ac 11; Deddf Addysg 2002 (p. 32), Atodlen 21, paragraff 5 ac Atodlen 22; Deddf Addysg 2005 (p. 18), Atodlen 14, paragraff 9; O.S. 2010/1080, Atodlen 1, paragraff 12; O.S. 2010/1158, Atodlen 2, paragraff 1; Deddf Addysg 2011 (p. 21), Atodlen 5, paragraff 5 ac Atodlen 16, paragraff 5; a Deddf Dadreoleiddio 2015 (p. 20), Atodlen 14, paragraff 33. Diwygiwyd adran 2 gan Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (p. 30), adran 44 ac Atodlen 4.

(3)

Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol yn adran 1 o Ddeddf Addysg (Ffioedd a Dyfarndaliadau) 1983 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru i’r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru gan O.S. 2006/1458 gydag effaith o 8 Mehefin 2006. Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol yn adran 2 o’r Ddeddf honno i’r Cynulliad Cenedlaethol Cymru i’r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru gan O.S. 1999/672. Darparodd adran 44 o Ddeddf Addysg Uwch 2004 fod y swyddogaethau yn adran 22(a) ac (c) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 2004 i fod i gael eu harfer gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn gydredol â’r Ysgrifennydd Gwladol, i’r graddau y maent yn ymwneud â gwneud darpariaeth o ran Cymru. Trosglwyddwyd swyddogaeth yr Ysgrifennydd Gwladol yn adran 42(6), i’r graddau y mae’n arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac Atodlen 1 iddo. Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources