Diwygiadau i reoliad 6KLL+C
8.—(1) Mae rheoliad 6K (profi’r gweithlu) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn lle paragraff (1) rhodder—
“(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i berson (“P”) sy’n 5 oed neu drosodd—
(a)sy’n cyrraedd Cymru,
(b)sydd, o fewn y cyfnod o 10 niwrnod sy’n dod i ben â’r diwrnod y mae P yn cyrraedd Cymru, wedi bod y tu allan i’r ardal deithio gyffredin, ac
(c)sy’n berson a bennir yn—
(i)paragraff 6 o Atodlen 2, neu
(ii)rheoliad 12E(2)(g).”
(3) Ar ôl paragraff (1) mewnosoder—
“(1A) Rhaid i P gymryd prawf gweithlu ar gyfer diwrnod 2 yn unol â pharagraff (6)—
(a)pan fo P yn deithiwr rheoliad 2A, neu
(b)pan na fo P wedi bod mewn gwlad neu diriogaeth nad yw’n esempt o fewn y cyfnod o 10 niwrnod sy’n dod i ben â’r diwrnod y mae P yn cyrraedd Cymru.”
(4) Ym mharagraff (2), ar y dechrau mewnosoder “Pan na fo paragraff (1A) yn gymwys,”.
(5) Ym mharagraff (6)(b), ar ôl “yw prawf” mewnosoder “ar gyfer canfod y coronafeirws”.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 8 mewn grym ar 19.7.2021 at 4.00 a.m., gweler rhl. 1(2)