Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd i Deithwyr) (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) (Rhif 2) 2021

Rheoliad newydd 6LLL+C

9.  Ar ôl rheoliad 6K (profi’r gweithlu) mewnosoder—

Profi o ran digwyddiadau penodedig

6L.(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i berson (“P”) sy’n 5 oed neu drosodd—

(a)sy’n cyrraedd Cymru,

(b)sydd wedi bod y tu allan i’r ardal deithio gyffredin o fewn y cyfnod o 10 niwrnod sy’n dod i ben â’r diwrnod y mae P yn cyrraedd Cymru, ac

(c)sy’n berson perthnasol mewn digwyddiad penodedig.

(2) Rhaid i P gymryd prawf digwyddiad ar gyfer diwrnod 2 yn unol â pharagraff (9)—

(a)pan fo P yn deithiwr rheoliad 2A, neu

(b)pan na fo P wedi bod mewn gwlad neu diriogaeth nad yw’n esempt o fewn y cyfnod o 10 niwrnod sy’n dod i ben â’r diwrnod y mae P yn cyrraedd Cymru.

(3) Pan na fo paragraff (2) yn gymwys, rhaid i P gymryd prawf digwyddiad ar gyfer diwrnod 2 a diwrnod 8 yn unol â pharagraff (9) mewn perthynas â phob categori o brawf.

(4) Pan na fo P yn cymryd prawf digwyddiad fel sy’n ofynnol gan y rheoliad hwn am fod ganddo esgus rhesymol, rhaid i P, cyn gynted ag y bo’n ymarferol pan na fydd y materion sy’n arwain at yr esgus rhesymol yn gymwys mwyach, gymryd prawf digwyddiad arall.

(5) Pan fo prawf digwyddiad arall wedi ei gymryd yn lle—

(a)prawf digwyddiad sydd i’w gymryd ar gyfer diwrnod 2, mae P i’w drin fel pe bai wedi cymryd prawf digwyddiad ar ddiwrnod 2 yn unol â’r rheoliad hwn;

(b)prawf digwyddiad sydd i’w gymryd ar gyfer diwrnod 8, mae P i’w drin fel pe bai wedi cymryd prawf digwyddiad ar ddiwrnod 8 yn unol â’r rheoliad hwn.

(6) Mae rheoliadau 6DA i 6HB yn gymwys i berson sy’n ddarostyngedig i’r rheoliad hwn fel pe bai—

(a)cyfeiriadau at reoliad 6AB a 6AB(1) yn gyfeiriadau at reoliad 6L a 6L(1) yn y drefn honno;

(b)cyfeiriadau at brawf diwrnod 2 yn gyfeiriadau at brawf digwyddiad a gymerir ar gyfer diwrnod 2;

(c)cyfeiriadau at brawf diwrnod 8 yn gyfeiriadau at brawf digwyddiad a gymerir ar gyfer diwrnod 8;

(d)y canlynol wedi ei roi yn lle rheoliad 6DB(5)—

(5) Mae’r paragraff hwn yn gymwys i brawf digwyddiad arall.;

(e)y canlynol wedi ei roi yn lle rheoliad 6HA(5)—

(5) Mae’r paragraff hwn yn gymwys i brawf digwyddiad arall.

(7) Pan fo prawf digwyddiad yn cynhyrchu canlyniad amhendant, rhaid i P, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol, gymryd prawf digwyddiad pellach ac mae’r prawf digwyddiad pellach hwnnw i’w drin fel prawf digwyddiad arall.

(8) Rhaid i berson sy’n gyfrifol am drefnu digwyddiad penodedig—

(a)cymryd camau rhesymol i hwyluso cymryd profion digwyddiadau gan berson perthnasol mewn perthynas â’r digwyddiad penodedig y mae’n gyfrifol amdano;

(b)rhoi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru at ddibenion is-baragraff (a).

(9) Yn y rheoliad hwn—

ystyr “digwyddiad penodedig” (“a specified event”) yw digwyddiad a restrir yn Atodlen 1E;

ystyr “person perthnasol” (“relevant person”) mewn perthynas â digwyddiad penodedig yw—

(a)

person sy’n cyfranogi yn y digwyddiad i ennill bywoliaeth;

(b)

unigolyn sy’n hanfodol i redeg y digwyddiad, gan gynnwys—

(i)

staff gweithredol syʼn hanfodol i redeg y digwyddiad;

(ii)

swyddogion y digwyddiad;

(iii)

dyfarnwyr;

(iv)

staff darlledu a newyddiadurwyr syʼn rhoi sylw i’r digwyddiad;

(c)

unigolyn sy’n hanfodol i gefnogi person a ddisgrifir ym mharagraff (a), gan gynnwys—

(i)

staff meddygol, logistaidd, technegol a gweinyddol;

(ii)

rhiant neu ofalwr person o’r fath, pan fo’r person hwnnw o dan 18 oed;

ystyr “prawf digwyddiad” (“an event test”) yw prawf ar gyfer canfod y coronafeirws;

ystyr “prawf digwyddiad arall” (“a replacement event test”) yw prawf digwyddiad sy’n cydymffurfio â’r gofynion sy’n gymwys i’r prawf digwyddiad nas cynhaliwyd neu a ddarparodd ganlyniad amhendant;

ystyr “prawf digwyddiad a gymerir ar gyfer diwrnod 2” (“an event test undertaken for day 2”) yw prawf sy’n cael ei gymryd yn ddim hwyrach na diwedd yr ail ddiwrnod ar ôl y diwrnod y cyrhaeddodd P Gymru;

ystyr “prawf digwyddiad a gymerir ar gyfer diwrnod 8” (“an event test undertaken for day 8”) yw prawf digwyddiad sy’n cael ei gymryd cyn diwedd yr wythfed diwrnod ar ôl y diwrnod y cyrhaeddodd P Gymru.

(10) Yn y rheoliad hwn, wrth ystyried a yw person yn ennill bywoliaeth o gyfranogi mewn digwyddiad, mae unrhyw daliad a wneir er budd person o ganlyniad i’w gyfranogiad i’w gymryd i ystyriaeth, gan gynnwys taliad ar ffurf cyflog, arian gwobrwyo neu drwy drefniant contractiol o unrhyw fath arall.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 9 mewn grym ar 19.7.2021 at 4.00 a.m., gweler rhl. 1(2)