Search Legislation

Rheoliadau Addysg (Trefniadau Sefydlu ar gyfer Athrawon Ysgol) (Cymru) (Diwygio) 2022

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2022 Rhif 1058 (Cy. 223)

Addysg, Cymru

Rheoliadau Addysg (Trefniadau Sefydlu ar gyfer Athrawon Ysgol) (Cymru) (Diwygio) 2022

Gwnaed

12 Hydref 2022

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

17 Hydref 2022

Yn dod i rym

7 Tachwedd 2022

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 17 a 47(1) o Ddeddf Addysg (Cymru) 2014(1).

Enwi a chychwyn

1.  Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Trefniadau Sefydlu ar gyfer Athrawon Ysgol) (Cymru) (Diwygio) 2022 a deuant i rym ar 7 Tachwedd 2022.

Diwygio Rheoliadau Addysg (Trefniadau Sefydlu ar gyfer Athrawon Ysgol) (Cymru) 2015

2.  Mae Rheoliadau Addysg (Trefniadau Sefydlu ar gyfer Athrawon Ysgol) (Cymru) 2015 wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 3 i 8.

Diwygio rheoliad 3 (dehongli)

3.  Yn rheoliad 3(1)—

(a)yn y diffiniad o “corff llywodraethu”, ar y diwedd mewnosoder “ac mewn perthynas ag ysgol berthnasol sy’n uned cyfeirio disgyblion, mae’n cynnwys pwyllgor rheoli’r uned cyfeirio disgyblion (os oes un)”;

(b)yn y diffiniad o “pennaeth”, ar y diwedd mewnosoder “a’r athro neu’r athrawes sydd â chyfrifoldeb am uned cyfeirio disgyblion”;

(c)yn y diffiniad o “diwrnod gwaith”—

(i)ar ôl “dydd Sul” mewnosoder “, Dydd Nadolig, Dydd Gwener y Groglith”, a

(ii)ar ôl “ŵyl banc” mewnosoder “yng Nghymru a Lloegr”;

(d)yn y lle priodol, mewnosoder—

mae i “uned cyfeirio disgyblion” yr un ystyr ag sydd i “pupil referral unit” yn adran 19A(2) o Ddeddf Addysg 1996(2);.

Diwygio rheoliad 5 (corff priodol)

4.  Yn rheoliad 5(1)—

(a)yn is-baragraff (a)—

(i)hepgorer “neu” ar ôl “ysgol arbennig gymunedol neu sefydledig,”, a

(ii)ar ôl “(ym mhob achos o fewn ystyr y termau cyfatebol Saesneg yn Neddf 1998)” mewnosoder “, neu uned cyfeirio disgyblion”;

(b)hepgorer is-baragraff (b).

Rheoliadau newydd 6A a 6B

5.  Ar ôl rheoliad 6 (gofyniad i ymgymryd â chyfnod sefydlu) mewnosoder—

Terfyn amser ar gyfer cwblhau cyfnod sefydlu yn foddhaol

6A.(1) Rhaid i gyfnod sefydlu gael ei gwblhau’n foddhaol o fewn 5 mlynedd sy’n dechrau gyda’r diweddaraf o blith y dyddiad pan ddyfernir statws athro neu athrawes gymwysedig, neu 7 Tachwedd 2022 (“y terfyn amser”).

(2) Ond pan fo’r corff priodol yn estyn y terfyn amser yn unol â rheoliad 6B, rhaid i’r cyfnod sefydlu gael ei gwblhau’n foddhaol o fewn y terfyn amser estynedig.

Estyn y terfyn amser ar gyfer cwblhau cyfnod sefydlu yn foddhaol

6B.(1) Rhaid i’r corff priodol estyn y terfyn amser yn rheoliad 6A(1) ar gyfer person (pa un ai yw’r cyfnod a ganiateir, neu unrhyw gyfnod estynedig, wedi dod i ben ai peidio) pan—

(a)bo cyfnod sefydlu’r person hwnnw yn cael ei estyn yn unol â rheoliad 10, 13(2)(b), 16(2)(c) neu (3)(c), a

(b)na fo digon o amser ar gael o fewn y terfyn amser i’r corff priodol wneud penderfyniad yn unol â rheoliad 13(2).

(2) Caiff y corff priodol estyn y terfyn amser yn rheoliad 6A(1) ar gyfer person (pa un ai yw’r cyfnod a ganiateir, neu unrhyw gyfnod o estyniad, wedi dod i ben ai peidio) pan fo wedi ei fodloni bod rhesymau da dros wneud hynny a phan fo’r person yn cydsynio i hynny.

(3) Ni chaiff estyniad, neu gyfanswm cyfnod yr estyniad pan fo mwy nag un, fod yn hwy na 2 flynedd sy’n dechrau gyda’r diwrnod sy’n dilyn y diwrnod y daeth y terfyn amser yn rheoliad 6A(1) i ben, onid yw’n angenrheidiol yn rhinwedd paragraff (1).

(4) Rhaid i’r corff priodol, o fewn 10 diwrnod gwaith sy’n dechrau gyda’r diwrnod yr estynnwyd y terfyn amser yn rheoliad 6A(1) o dan baragraff (1) neu (2), anfon hysbysiad ysgrifenedig o’r estyniad at—

(a)y person o dan sylw,

(b)pan fo’r person o dan sylw yn cael ei gyflogi mewn ysgol berthnasol neu goleg AB, y corff llywodraethu a’r pennaeth,

(c)pan fo’r person o dan sylw yn cael ei gyflogi mewn ysgol annibynnol, y perchennog a’r pennaeth,

(d)pan na fo’r person yn cael ei gyflogi gan y corff priodol, unrhyw gyflogwr arall (os nad oes hawl ganddo i gael hysbysiad o dan (b) neu (c)), ac

(e)y Cyngor.

(5) Ceir rhoi hysbysiad o dan baragraff (4) drwy ffacs, y post electronig neu ddull cyffelyb arall sydd â chyfleuster i gynhyrchu dogfen sy’n cynnwys testun y cyfathrebiad, a rhaid ystyried bod hysbysiad a anfonir drwy ddull o’r fath wedi ei roi pan ddaw i law mewn ffurf ddarllenadwy.

Diwygio rheoliad 7 (sefydliadau y ceir ymgymryd â chyfnod sefydlu ynddynt)

6.  Yn rheoliad 7, hepgorer paragraff (2)(b) a’r “, neu” o’i flaen.

Diwygio rheoliad 8 (hyd cyfnod sefydlu)

7.  Yn rheoliad 8—

(a)ym mharagraff (1) yn lle “(3) a (4)” rhodder “(3), (4) ac (8)”;

(b)ym mharagraff (3)—

(i)ar ddiwedd is-baragraff (d) hepgorer “neu”,

(ii)ar ddiwedd is-baragraff (e) yn lle “.” rhodder “; neu”, a

(iii)ar ôl is-baragraff (e) mewnosoder—

(f)pan fo paragraff (8) yn gymwys.;

(c)ym mharagraff (4)(b) yn lle “ym mhob achos arall” rhodder “pan fo paragraff (3)(a), (b), (c) neu (e) yn gymwys”;

(d)ar y diwedd mewnosoder—

(8) Caiff y corff priodol, gyda chydsyniad y person o dan sylw, leihau hyd y cyfnod sefydlu y mae’n ofynnol i’r person ymgymryd ag ef i isafswm o un tymor ysgol neu 110 o sesiynau ysgol os yw’r corff priodol wedi ei fodloni bod y person wedi cyrraedd y safonau a grybwyllir yn adran 18 o Ddeddf 2014.

Diwygio rheoliad 13 (cwblhau cyfnod sefydlu)

8.  Yn rheoliad 13(4), yn lle “dri” rhodder “10”.

Jeremy Miles

Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, un o Weinidogion Cymru

12 Hydref 2022

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Addysg (Trefniadau Sefydlu ar gyfer Athrawon Ysgol) (Cymru) 2015 (O.S. 2015/484 (Cy. 41)) (“y prif Reoliadau”), sy’n ei gwneud yn ofynnol i bersonau sy’n ennill statws athro cymwysedig neu athrawes gymwysedig gwblhau cyfnod sefydlu yn foddhaol at ddibenion eu cyflogaeth fel athro neu athrawes mewn ysgol berthnasol (yn ddarostyngedig i eithriadau).

Mae rheoliad 3 yn diwygio’r diffiniadau o “corff llywodraethu”, “pennaeth” a “diwrnod gwaith” yn rheoliad 3(1) o’r prif Reoliadau, ac yn mewnosod diffiniad o “uned cyfeirio disgyblion”.

Mae rheoliad 4 yn diwygio rheoliad 5 o’r prif Reoliadau i ddarparu mai’r corff priodol ar gyfer uned cyfeirio disgyblion yw’r awdurdod sy’n ei chynnal.

Mae rheoliad 5 yn mewnosod rheoliadau newydd 6A a 6B yn y prif Reoliadau. Mae rheoliad 6A yn cyflwyno terfyn amser ar gyfer cwblhau cyfnod sefydlu yn foddhaol gan berson. Mae rheoliad 6B yn rhagnodi’r amgylchiadau y caniateir i’r terfyn amser hwnnw gael ei estyn odanynt, neu y mae rhaid i’r terfyn amser hwnnw gael ei estyn odanynt, gan gorff priodol.

Mae rheoliad 6 yn diwygio rheoliad 7 o’r prif Reoliadau i’w gwneud yn bosibl ymgymryd â chyfnod sefydlu mewn uned cyfeirio disgyblion.

Mae rheoliad 7 yn diwygio rheoliad 8 o’r prif Reoliadau, i ddarparu ar gyfer lleihau hyd cyfnod sefydlu gan gorff priodol o dan amgylchiadau penodol.

Mae rheoliad 8 yn cynyddu hyd y cyfnod a bennir yn rheoliad 13(4) o’r prif Reoliadau, y mae’n ofynnol i’r corff priodol anfon hysbysiad o’i benderfyniad ynddo ynghylch cwblhau’r cyfnod sefydlu, i 10 niwrnod gwaith.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Y Gangen Addysgeg, Gyrfa Gynnar ac Ymarferwyr Cymraeg, Yr Is-adran Addysgeg, Arweinyddiaeth a Dysgu Proffesiynol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ neu inductioninfo@llyw.cymru.

(2)

1996 p. 56. Mewnosodwyd adran 19A(2) gan baragraffau 1 a 4 o Atodlen 2 i Ddeddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 (dsc 4).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources