- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
Tai, Cymru
Gwnaed
19 Hydref 2022
Yn dod i rym
24 Hydref 2022
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 72(1)(c) a 78(1) o Ddeddf Tai (Cymru) 2014(1), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn(2).
Yn unol ag adran 72(3) o’r Ddeddf honno, mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â chymdeithasau sy’n cynrychioli cynghorau siroedd a bwrdeistrefi sirol yng Nghymru, a’r cyfryw bersonau eraill, sy’n briodol yn eu barn hwy, mewn perthynas â’r diwygiad a wneir gan reoliad 2 o’r Rheoliadau hyn.
Yn unol ag adran 142(3)(b)(i) a (ii) o’r Ddeddf honno, gosodwyd drafft o’r Rheoliadau hyn gerbron Senedd Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad.
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Digartrefedd (Angen Blaenoriaethol a Bwriadoldeb) (Cymru) 2022.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 24 Hydref 2022.
2. Yn adran 70(1) o Ddeddf Tai (Cymru) 2014, ar ôl paragraff (j) mewnosoder—
“(k)person—
(i)sy’n ddigartref ac ar y stryd (o fewn ystyr adran 71(2)), neu
(ii)y gellid disgwyl yn rhesymol i berson sy’n dod o fewn is-baragraff (i) breswylio gydag ef.”
3. Yn rheoliad 2 o Reoliadau Digartrefedd (Bwriadoldeb) (Categorïau Penodedig) (Cymru) 2015(3), ar ôl paragraff (j) mewnosoder—
“(k)person—
(i)sy’n ddigartref ac ar y stryd (o fewn ystyr adran 71(2)), neu
(ii)y gellid disgwyl yn rhesymol i berson sy’n dod o fewn is-baragraff (i) breswylio gydag ef.”
Julie James
Y Gweinidog Newid Hinsawdd, un o Weinidogion Cymru
19 Hydref 2022
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Deddf Tai (Cymru) 2014 (“Deddf 2014”) a Rheoliadau Digartrefedd (Bwriadoldeb) (Categorïau Penodedig) (Cymru) 2015 (“Rheoliadau 2015”).
Mae rheoliad 2 yn diwygio Deddf 2014 i bennu disgrifiad pellach o berson sydd ag angen blaenoriaethol am lety at ddibenion Pennod 2 o Ran 2 o’r Ddeddf honno. Mae’r Bennod honno yn gosod dyletswyddau ar awdurdodau tai lleol i gynorthwyo pobl sy’n ddigartref neu o dan fygythiad o ddigartrefedd.
Mae rheoliad 3 yn gwneud newid cyfatebol i Reoliadau Digartrefedd (Bwriadoldeb) (Categorïau Penodedig) (Cymru) 2015.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ ac ar wefan Llywodraeth Cymru ar www.llyw.cymru.
Mae adran 72(1)(c) o Ddeddf Tai (Cymru) 2014 (dccc 7) yn bŵer i wneud gorchmynion ac mae adran 78(1) o’r Ddeddf honno yn bŵer i wneud rheoliadau. Gwneir yr offeryn statudol hwn ar ffurf rheoliadau fel y’i caniateir o dan adran 39(1) o Ddeddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019 (dccc 4).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: