Search Legislation

Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Ffitrwydd Annedd i Bobl Fyw Ynddi) (Cymru) (Diwygio) 2022

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Offerynnau Statudol Cymru

2022 Rhif 1076 (Cy. 227)

Tai, Cymru

Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Ffitrwydd Annedd i Bobl Fyw Ynddi) (Cymru) (Diwygio) 2022

Gwnaed

24 Hydref 2022

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

25 Hydref 2022

Yn dod i rym

30 Tachwedd 2022

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 94(3) a 256(1) o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016(1).

Enwi a chychwyn

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Ffitrwydd Annedd i Bobl Fyw Ynddi) (Cymru) (Diwygio) 2022.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 30 Tachwedd 2022.

Diwygio Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Ffitrwydd Annedd i Bobl Fyw Ynddi) (Cymru) 2022

2.—(1Mae Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Ffitrwydd Annedd i Bobl Fyw Ynddi) (Cymru) 2022(2) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 6 (diogelwch trydanol)—

(a)ym mharagraff (3), yn y geiriau o flaen paragraff (a), yn lle “7 niwrnod”, rhodder “14 o ddiwrnodau”;

(b)ym mharagraff (4), yn lle “7 niwrnod”, rhodder “14 o ddiwrnodau”;

(c)ym mharagraff (5), yn lle “7 niwrnod”, rhodder “14 o ddiwrnodau”;

(d)ym mharagraff (8), yn y diffiniad o “safonau diogelwch trydanol”, yn lle “BS 7671:2018+A1:2020”, rhodder “BS 7671:2018+A2:2022(3)”.

(3Yn rheoliad 7 (cymhwyso i gontractau wedi eu trosi), ym mharagraff (5), ym mharagraff (4) a amnewidiwyd, yn lle “7 niwrnod”, rhodder “14 o ddiwrnodau”.

Julie James

Y Gweinidog Newid Hinsawdd, un o Weinidogion Cymru

24 Hydref 2022

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Ffitrwydd Annedd i Bobl Fyw Ynddi) (Cymru) 2022 (O.S. 2022/6 (Cy. 4)) (“Rheoliadau 2022”) sy’n rhagnodi’r materion a’r amgylchiadau y mae rhaid rhoi sylw iddynt wrth benderfynu a yw annedd yn ffit i bobl fyw ynddi ai peidio.

Mae rheoliad 2(2)(a) o’r Rheoliadau hyn yn diwygio rheoliad 6(3) o Reoliadau 2022 fel bod gan y landlord 14 o ddiwrnodau, gan ddechrau â’r dyddiad meddiannu, i roi i’r deiliad contract gopi o’r adroddiad ar gyflwr trydanol mwyaf diweddar a chadarnhad ysgrifenedig o unrhyw waith ymchwilio neu atgyweirio a wnaed ar osodiad gwasanaeth trydanol yn yr annedd, neu mewn perthynas â gosodiad o’r fath, ar ôl yr archwiliad diogelwch trydanol y mae’r adroddiad ar gyflwr trydanol yn ymwneud ag ef.

Mae rheoliad 2(2)(b) o’r Rheoliadau hyn yn diwygio rheoliad 6(4) o Reoliadau 2022 fel bod gan y landlord, pan fo archwiliad diogelwch trydanol yn cael ei gynnal ar ôl y dyddiad meddiannu, 14 o ddiwrnodau, gan ddechrau â’r diwrnod y cwblhawyd yr archwiliad diogelwch trydanol hwnnw, i roi i’r deiliad contract gopi o’r adroddiad ar gyflwr trydanol sy’n ymwneud â’r archwiliad hwnnw.

Mae rheoliad 2(2)(c) o’r Rheoliadau hyn yn diwygio rheoliad 6(5) o Reoliadau 2022 fel bod rhaid i’r landlord, pan fo gwaith ymchwilio neu atgyweirio yn cael ei wneud ar osodiad gwasanaeth trydanol yn yr annedd, neu mewn perthynas â gosodiad o’r fath, ar ôl y dyddiad meddiannu, roi i’r deiliad contract gadarnhad ysgrifenedig o’r gwaith hwnnw o fewn 14 o ddiwrnodau gan ddechrau â’r diwrnod y cafodd y landlord y cadarnhad.

Mae rheoliad 6(8) o Reoliadau 2022 yn cynnwys diffiniad o “safonau diogelwch trydanol” sy’n cyfeirio at y safonau ar gyfer gosodiadau gwasanaeth trydanol a nodwyd yn y deunawfed argraffiad o’r Rheoliadau Gosod Gwifrau sef y “Wiring Regulations”, a gyhoeddwyd gan y Sefydliad Peirianneg a Thechnoleg a’r Sefydliad Safonau Prydeinig fel BS 7671:2018+A1:2020. Mae rheoliad 2(2)(d) o’r Rheoliadau hyn yn diweddaru’r cyfeiriad hwnnw i’r fersiwn fwyaf diweddar a gyhoeddwyd yn 2022 gan y Sefydliad Safonau Prydeinig.

Mae rheoliad 7 o Reoliadau 2022 yn ymwneud â chymhwyso’r Rheoliadau hynny mewn perthynas â chontractau wedi eu trosi ac mae paragraff (5) o’r rheoliad hwnnw yn amnewid rheoliad 6(4) o Reoliadau 2022 mewn perthynas â’r contractau hynny. Mae rheoliad 2(3) o’r Rheoliadau hyn yn diwygio’r rheoliad 6(4) hwnnw a amnewidiwyd fel bod gan y landlord, pan fo archwiliad diogelwch trydanol yn cael ei gynnal ar ôl i adroddiad gael ei roi i’r deiliad contract o dan reoliad 6(3)(a) (fel y’i diwygiwyd gan reoliad 7(4) o Reoliadau 2022), 14 o ddiwrnodau, gan ddechrau â’r diwrnod y cwblhawyd yr archwiliad diogelwch trydanol hwnnw, i roi i’r deiliad contract gopi o’r adroddiad ar gyflwr trydanol sy’n ymwneud â’r archwiliad hwnnw.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

(3)

BS 7671:2018 (ISBN-13: 978-1-78561-170-4) a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2018, fel y’i cywirwyd gan gorigendwm dyddiedig Rhagfyr 2018; a ddiwygiwyd gan Ddiwygiad 1:2020 a gyhoeddwyd ar 1 Chwefror 2020 (ISBN-13: 978-1-83953-193-4); a gywirwyd gan gorigendwm i BS 7671:2018+A1:2020 dyddiedig Mai 2020; ac a ddiwygiwyd gan Ddiwygiad 2 i BS 7671:2018+A2:2022. Gellir cael copïau gan y Sefydliad Peirianneg a Thechnoleg yn: The Institution of Engineering and Technology, Michael Faraday House, Six Hill Way, Stevenage, SG1 2AY.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources