Search Legislation

Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygiadau Canlyniadol) 2022

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Deddf Tai (Cymru) 2014

34.—(1Mae Deddf Tai (Cymru) 2014(1) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2Yn adran 2 (ystyr y prif dermau), yn is-adran (1), yn y diffiniad o “tenantiaeth ddomestig”, yn lle paragraff (a), rhodder—

(a)tenantiaeth sy’n gontract meddiannaeth, ac eithrio pan fo’r contract meddiannaeth—

(i)yn gontract safonol â chymorth, neu

(ii)hefyd yn les hir at ddibenion Pennod 1 o Ran 1 o Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993 (p. 28) (“Deddf 1993”) neu, yn achos les rhanberchnogaeth (o fewn yr ystyr a roddir i “shared ownership lease” gan adran 7(7) o Ddeddf 1993), a fyddai’n les o’r fath pe bai cyfran y tenant (o fewn yr ystyr a roddir gan yr adran honno) yn 100 y cant;.

(3Yn adran 5 (eithriadau i’r gofyniad i landlord fod yn gofrestredig)—

(a)rhifer y ddarpariaeth bresennol yn is-adran (1);

(b)yn is-adran (1), yn lle paragraff (d), rhodder—

(d)i landlord sy’n dod o fewn y diffiniad o landlord cymunedol (pa un ai’r landlord yw’r landlord o dan gontract meddiannaeth ai peidio);.

(4Yn adran 8 (eithriadau i ofynion i landlord fod yn drwyddedig)—

(a)rhifer y ddarpariaeth bresennol yn is-adran (1);

(b)yn is-adran (1), yn lle paragraff (d), rhodder—

(d)i landlord sy’n dod o fewn y diffiniad o landlord cymunedol (pa un ai’r landlord yw’r landlord o dan gontract meddiannaeth ai peidio);.

(5Yn adran 30 (gorchmynion atal rhent), yn is-adran (3), ar ôl paragraff (c), mewnosoder—

(ca)mae swm unrhyw ddigollediad sy’n daladwy o dan adran 87 o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (dccc 1) (digolledu oherwydd methiannau yn ymwneud â darparu datganiadau ysgrifenedig etc.) i’w gyfrifo fel pe na bai’r gorchymyn atal rhent wedi ei wneud,.

(6O flaen adran 43, ar ôl y pennawd “Atodol”, mewnosoder—

42A    Cymhwyso i’r Goron: Rhan 1

Nid yw Rhan 1 o’r Ddeddf hon yn rhwymo’r Goron.

(7Yn adran 44 (cyfyngiad ar derfynu tenantiaethau)—

(a)yn is-adran (1)—

(i)yn lle “hysbysiad adran 21”, rhodder “hysbysiad o fewn is-adran (1A)”;

(ii)yn lle “a honno’n denantiaeth fyrddaliol sicr”, rhodder “sy’n gontract meddiannaeth safonol”;

(b)ar ôl is-adran (1), mewnosoder—

(1A) Mae hysbysiad o fewn yr is-adran hon os yw’n hysbysiad—

(a)a roddir o dan adran 173(1) o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (dccc 1) (hysbysiad y landlord);

(b)a roddir o dan adran 186(1) o’r Ddeddf honno (hysbysiad y landlord mewn cysylltiad â diwedd cyfnod penodol);

(c)fel y’i disgrifir yn adran 194(1) o’r Ddeddf honno (cymal terfynu’r landlord);

(d)a roddir o dan baragraff 25B o Atodlen 12 i’r Ddeddf honno (hysbysiad y landlord i derfynu contract safonol cyfnod penodol wedi ei drosi).;

(c)yn is-adran (2), yn lle “Ond nid yw”, rhodder “Nid yw”;

(d)hepgorer is-adran (3).

(8Yn adran 49(1) (dehongli’r Rhan hon a mynegai o dermau wedi eu diffinio), yn y lleoedd priodol yn nhrefn yr wyddor, mewnosoder—

mae i “contract meddiannaeth” (“occupation contract”) yr ystyr a roddir gan adran 7 o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (dccc 1);;

mae i “contract meddiannaeth safonol” (“standard occupation contract”) yr ystyr a roddir gan adran 8 o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016;;

mae i “landlord cymunedol” (“community landlord”) yr ystyr a roddir gan adran 9 o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016;.

(9Yn adran 76 (amgylchiadau pan fo’r ddyletswydd yn adran 75 yn dod i ben)—

(a)yn is-adran (2)—

(i)ar ddiwedd paragraff (a), hepgorer “neu”;

(ii)ar ôl paragraff (a), mewnosoder—

(aa)cynnig o lety addas yng Nghymru o dan denantiaeth sy’n gontract meddiannaeth, neu;

(iii)ym mharagraff (b), ar ôl “addas”, mewnosoder “(yn Lloegr)”;

(b)yn is-adran (4)—

(i)yn lle paragraff (a), rhodder—

(a)os yw’n gynnig o—

(i)tenantiaeth sy’n gontract meddiannaeth a wneir gan landlord preifat i’r ceisydd mewn perthynas â llety yng Nghymru sydd ar gael i’r ceisydd ei feddiannu, neu

(ii)tenantiaeth fyrddaliol sicr a wneir gan landlord preifat i’r ceisydd mewn perthynas ag unrhyw lety yn Lloegr sydd ar gael i’r ceisydd ei feddiannu,;

(ii)ar ddechrau paragraff (c), mewnosoder “mewn perthynas â llety yn Lloegr,”;

(c)yn lle is-adran (9), rhodder—

(9) Yn yr adran hon—

  • mae i “contract meddiannaeth” (“occupation contract”) yr un ystyr ag yn Neddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (dccc 1) (gweler adran 7 o’r Ddeddf honno);

  • mae i “tenantiaeth cyfnod penodedig” (“fixed term tenancy”) mewn perthynas â llety yn Lloegr yr ystyr a roddir i “fixed term tenancy” yn Rhan 1 o Ddeddf Tai 1988 (p. 50).

(10Yn adran 92 (llety interim: trefniadau â landlord preifat)—

(a)yn y pennawd, ar ôl “interim”, mewnosoder “yn Lloegr”;

(b)yn is-adran (1), ar ôl “ddarparu llety”, mewnosoder “yn Lloegr”.

(11Ar ôl adran 92, mewnosoder—

92A    Llety yng Nghymru

(1) Ar gyfer darpariaeth sy’n gymwys pan wneir tenantiaeth neu drwydded mewn cysylltiad â llety yng Nghymru gydag unigolyn gan awdurdod tai lleol oherwydd swyddogaethau’r awdurdod o dan Ran 2 o’r Ddeddf hon (digartrefedd), gweler paragraff 11 o Ran 4 o Atodlen 2 i Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (dccc 1) (tenantiaethau a thrwyddedau y mae rheolau arbennig yn gymwys iddynt: digartrefedd).

(2) Ar gyfer darpariaeth sy’n gymwys pan fo awdurdod tai lleol, yn unol ag unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau darparu tai i’r digartref, yn gwneud trefniadau â landlord perthnasol ar gyfer darparu llety, gweler paragraff 12 o Ran 4 o Atodlen 2 i Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (tenantiaethau a thrwyddedau y mae rheolau arbennig yn gymwys iddynt: digartrefedd).

(12Yn adran 99(2) (dehongli’r Bennod hon a mynegai o ymadroddion wedi eu diffinio)—

(a)yn y lle priodol yn nhrefn yr wyddor, mewnosoder—

mae i “contract meddiannaeth” (“occupation contract”) yr un ystyr ag yn Neddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (dccc 1) (gweler adran 7 o’r Ddeddf honno);;

(b)yn y diffiniad o “landlord preifat”, yn lle “nad yw o fewn adran 80(1) o Ddeddf Tai 1985 (yr amod landlord ar gyfer tenantiaethau diogel)”, rhodder

(a)annedd yng Nghymru, sydd o fewn adran 10 o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (dccc 1) (landlordiaid preifat);

(b)annedd yn Lloegr, nad yw o fewn adran 80(1) o Ddeddf Tai 1985 (p. 68) (yr amod landlord ar gyfer tenantiaethau diogel);.

(2)

Diwygiwyd adran 99 gan baragraff 308(1) o Ran 2 o Atodlen 24 i Ddeddf Dedfrydu 2020 (p. 17).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources